Neidio i'r cynnwys

Ffrwythau Dethol/Yn y bore—ar y lan

Oddi ar Wicidestun
Bendithion Gras Ffrwythau Dethol

gan Ben Davies, Pant-teg


golygwyd gan Tom Eirug Davies
Etifeddu sylwedd

YN Y BORE—AR Y LAN
"A phan ddaeth y bore, safodd yr Iesu ar y lan."—Ioan xxi : 4.

GWEDI nos o frwydro caled
Yn y gwynt a'r tonnau llaith,
Plygai'r plant dan bwysau'r lludded,
Ofer hefyd fu eu gwaith;
Rhaid dychwelyd yn siomedig
Pan yw'r wawr yn torri'n wan,—
Ond mae'r Iesu bendigedig,
Yn y bore, ar y lan.

Gwedi nos o orthrymderau
A helbulon mordaith byd,
Gwedi brwydro â'r dyfnderau,—
Brwydro'n ofer bron o hyd;
Golau'r wawrddydd sy'n dynesu,
A chawn ninnau yn y man,
Weled wyneb annwyl Iesu,
Yn y bore, ar y lan.

Hyfryd meddwl am y glanio,
Glanio i dragwyddol wledd:
Haws yw dal i forio heno
Wrth obeithio am Wlad yr Hedd.
Mae fy nghalon yn cynhesu,
Llama f'enaid innau pan
Gofiaf y caf weled Iesu,
Yn y bore, ar y lan.


Nodiadau

[golygu]