Ffrwythau Dethol/Yr etifeddiaeth ysbrydol
Gwedd
| ← Gydag awel y dydd | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Tywysog Tangnefedd → |
YR ETIFEDDIAETH YSBRYDOL
GWN fod tangnefedd drud
Yng nghariad mawr y Nef,
Ac na all holl ystormydd byd
Ei aflonyddu ef.
Gwn fod santeiddrwydd ter
Fel fflam y seraff glân,
O amgylch gorsedd fawr fy Nêr,
O hyd yn llosgi'n dân.
Gwn fod llawenydd mawr—
Llawenydd Iesu Ei Hun
O'r Nef o hyd yn llifo i lawr
Yn ffrwd i galon dyn.
Mi wn fod ffordd i mi
I'r golud hwn yn awr,
Dros lechwedd garw Calfari
Mae'r etifeddiaeth fawr.