Ffrwythau Dethol/Yr hen fro
Gwedd
| ← Wrth y môr | Ffrwythau Dethol gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
Dydd ola'r flwyddyn → |
YR HEN FRO
CARAF fyth y nant a'r mynydd
Lle y rhois fy nghyntaf gam,
Caraf fyth y coed a'r gweunydd
Gerllaw bwth fy nhad a mam;
Wedi bywyd a'i flinderau
Daw i mi gysuron lu,—
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.
Caf y pruddglwyf yn y ddinas,
A chaf hiraeth wrth y môr;
'Rwyf yn unig yn y dyrfa,
Dieithr hefyd yw pob dôr;
Ond dihanga'r prudd feddyliau,
A'r unigedd ymaith ffy,
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.
Pan ddaw'r niwl i lwybr fy ngobaith
Pan arafa cam fy ffydd,
Pan dry'r byd yn anial diffaith,
Ac y derfydd golau'r dydd,—
Mi gaf yfed hen ffynhonnau—
Caf belydrau oddi fry,
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.