Ffrwythau Dethol (testun cyfansawdd)
| ← | Ffrwythau Dethol (testun cyfansawdd) gan Ben Davies, Pant-teg golygwyd gan Tom Eirug Davies |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ffrwythau Dethol |

FFRWYTHAU DETHOL

FFRWYTHAU DETHOL
SEF CYFROL O WEITHIAU'R
Parch. Ben Davies, (Pant-teg)
wedi ei golygu gan y
PARCH. T. EIRUG DAVIES, M.A., B.D.
a'i chyflwyno gan y
PARCH. DR. H. ELFED LEWIS, M.A.
LLANDYSUL: GWASG GOMER
1938
CYFLWYNIAD
NID oes eisiau o gwbl i Ben Davies, Pant Teg, gael neb i'w gyflwyno, am ei fod yn ddigon adnabyddus ar hyd a lled Cymru. Ond y mae fy nghysylltiad agos ag ef am fwy na hanner can mlynedd ac yn enwedig y blynyddoedd diweddaf—yn peri i mi fod yn falch o'r cyfle i roi gair yn ei gyfrol goffa. Efe ei hun all gyflwyno Ben Davies. Gwna hynny nid yn unig yn ei hunangofiant diddorol ond hefyd yn ei gynyrchion eraill sydd yma. Os teimlir mai rhan fechan o'i oes sydd yn yr atgofion, dyma'r rhan fwyaf cyfrinachol: y mae'r gweddill yn fwy cyhoeddus. Daeth yn gynnar i olwg Cymru, ac yn fwyfwy i'r golwg ar hyd y blynyddoedd. Yr un naws oedd ar ei waith ymhob cylch. Dichon y buasai yn fantais iddo fod wedi amrywio mwy; ond bu'n ffyddlon iddo'i hun—a hyn sydd orau.
Cedwir cof amdano fel pregethwr nes huno o'r olaf a'i clywodd. Ni ellir rhoddi golwg deg ar farddoniaeth yr hanner canrif ddiweddaf heb gofio ei gyfraniad ef. Ond diau mai ei emynau a geidw ei enw yn iraidd; a dyna a ddewisai.
Credaf yn sicr fod y golygydd wedi dethol yn ddoeth, yn ôl maint y gyfrol. Caiff y rhai a'i parchent yn fyw ei glywed yma, "Er wedi marw, yn llefaru eto". A mwyn a thirion, fel cynt, fydd y lleferydd.
- Mehefin 3, 1938.
RHAGYMADRODD
PETHAU a ddetholwyd o weithiau'r Parchedig Ben Davies yw cynnwys y gyfrol hon. Amcanai ef yn ei flynyddoedd olaf gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ac ysgrifau defosiwn, ac yr oedd wrthi'n dewis a diwygio pan ddaeth y diwedd sydyn. Gan na chafodd orffen y gwaith hwnnw fel y bwriadai cymerwyd rhyddid i gywiro ychydig ar yr orgraff a symud ambell odl a mân wallau iaith, lle'r oedd hynny'n bosibl heb newid y syniad a'r arddull. Ysgrifennwyd yr Hunangofiant ar wahanol adegau, a rhannau ohono fel y dywed yr awdur "cyn bod sôn am 'orgraff newydd' na gloywi'r Gymraeg'". Cysonwyd ychydig yma hefyd am y gwyddom y dymunai ef hynny. Gadawodd ar ei ôl stôr helaeth mewn llawysgrif o ganeuon crefyddol ac emynau, pregethau ac ysgrifau, a dewiswyd ohonynt er ceisio dangos ei brif nodweddion fel llenor a phregethwr.
Ni roddwyd i mewn ddim o'i farddoniaeth Eisteddfodol. Y mae'r farn a draetha yn yr Hunangofiant am honno'n cyfreithloni ei gadael allan. Pe byddai galw arnom i ddilyn ei dyfiant fel bardd ni ellid ei hanwybyddu, wrth gwrs, a byddai'n enghraifft ddiddorol o gyfnod arbennig ar ganu yng Nghymru. Arall oedd y safonau ar y pryd, ac yn ôl y rheini dringodd i'r brig yn rhwydd. Cystadleuai a chanai yn nhymor y dwymyn Islwynaidd, a chyfnod y "Bardd Newydd". Ond yn y cyfamser newidiodd y safonau, ac yr oedd yntau'n ddigon llygatgraff i'w feirniadu ei hun yn eu golau'n ddi-falais. Nid gŵr ydoedd i suro, a phwdu, fel rhai o'i gyfoeswyr oherwydd y newid, a dengys rhai o'i delynegion yn y gyfrol hon iddo ymgartrefu'n weddol gysurus yn y dulliau diweddar o ganu, a dengys ei feirniadaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y chwarter canrif diwethaf iddo gymryd poen i ddeall safonau'r Brifysgol a'r dadeni dysg, er eu bod yn taro'n drwm yn erbyn y math o ganu a roes iddo ef ei safle fel bardd flynyddoedd ynghynt. Eto, dylid cofio, wedi tymor byr y cystadlu brwd, na bu barddoni ond hobi wrth bleser iddo; a chanai'n rhy fynych i fynegi teimlad y foment heb fynd ati wedyn i loywi arddull a chrisialu'r syniad mewn mynegiant coeth a chynnil. Cwyna ei hun, weithiau, oblegyd hynny, ond yr oedd er hynny'n wir awenydd yn yr ystyr ei fod yn byw'n feunyddiol ynghanol gwrthrychau meddwl a chalon y bardd—sef harddwch llun a lliw, gwedd a syniad, serch, llawenydd, ofn a gofid, natur yn ci moddau o olau a chysgod, haul a niwl, nos a dydd; ac yr oedd tueddfryd naturiol ei feddwl, ei fywyd, a'i bregethu'n llawn o'r gyfriniaeth sylfaenol sy'n eiddo'r gwir fardd.
I'r rhai nas clywodd ni rydd pregethau'r gyfrol hon syniad digonol am dano fel pregethwr. Dangosant ei ddull o gyfleu'r Efengyl ond nid ei rym wrth ei thraddodi; ac o flaen dim pregethwr ydoedd, a phregethwr nodedig iawn hefyd.
Yr oedd yn bersonoliaeth hawddgar eithriadol—ei wyneb fel bore o Fai, a'i wên yn dynerwch a dwyster ac ireidd-dra, ac nid amlygai awgrym o hunanoldeb ucheldrem meistr y gynulleidfa. Meddai ar lais godidog, yr oedd ynddo accn gras, drwynol, a dyncrai'n felyster pur ar dro, a phan wresogai dôi mellt i'w lygaid ac angerdd anorthrech i'w leferydd, ac yr oedd yntau a'i wrandawyr rywle ar eu ffordd at "ddôr tangnefedd Iôr" ar yr adegau mawr hynny. Dechreuodd ei weinidogaeth yng nghyfnod y bardd-bregethwr yng Nghymru, a gwnaeth yntau ddefnydd helaeth o destunau ffansiol, ond hyd yn oed y pryd hwnnw, ymgadwai rhag pregethu'n farddonllyd, ac un rheswm am hynny oedd ei fod yn gyfrinydd wrth natur, a'i gyfriniaeth yn cynnwys ffydd eithriadol mewn gweddi a phrofiad ysbrydol. Cadwai hynny ef rhag colli uniongyrchedd apêl yr Efengyl ynghanol blodau ffansiol dychymyg, a rhyw chwarae hamddenol ag awgrymiadau braidd-gyffwrdd yn y pulpud.
Yn nhreigl y blynyddoedd cefnodd ar y "testunau barddonol", ac ymhyfrydai fwyfwy yn ymadroddion profiad Llyfr y Salmau, ac adnodau mawr cyfriniol Efengyl Ioan. Nid oedd Paul yr athronydd a'r diwinydd gymaint yn ei fyd. Troai o gwmpas pynciau fel Trugaredd a Gras, Cariad, Bywyd, Goleuni a Nerth—geiriau mawr y profiad Cristnogol, gan eu gweled nid yn gymaint yn eu cysylltiadau hanesyddol a diwinyddol, ag yn eu gwedd ymarferol.
Daeth yn boblogaidd fel pregethwr yn gynnar yn ei weinidogaeth, a bu galw mawr am dano i gymanfaoedd a chyrddau pregethu, ac i ddarlithio. Darfuasai am gyfnod yr huawdledd ysgubol a'r pregethu dramatig a chyffrous ymron erbyn hynny, a throai'r hwyl yn bereidd-dra esmwyth yng ngenau'r meistri, a daeth Ben Davies yn un o'r meistri hynny, ond nid ei mabwysiadu a wnaeth fel tric hwylus—yr oedd yn hollol naturiol—i gwmpas ei lais, ei fater, a'i bersonoliaeth. Gwelodd yn gynnar berigl parod y pregethwr poblogaidd i fod yn ddim amgen na pherfformiwr o flaen torf chud, a bu'n brwydro yn y dirgel yn ddwys a chyson â dreigiau gwenwynllyd hunanoldeb. Yn ei Ddyddlyfr am y flwyddyn 1900, ysgrifenna fel hyn:
Yr wyf wedi bod yn pregethu a theithio bron yn ddi-baid am y pump wythnos diweddaf. Fy iechyd yn well ar eu diwedd nac ar eu dechrau. Cefais gryn hwylusdod i bregethu. Nid wyf wedi gallu darllen fawr, na myfyrio fawr; yr wyf wedi ceisio gweddio yn weddol gyson, ond y mae fy ngweddiau wedi bod yn faterol iawn. Nid wyf yn gallu gweddio yn unlle fel yn fy myfyrgell, yn nghysgod fy mhulpud. Nid yw fy amcanion yr hyn a ddylent fod pan yn pregethu. Nid yw fy ymdrech yn ddigon cyson am fywyd pur. Yr wyf yn boenus o hunanol; disgwyl cael fy nghanmol ar ôl pregethu—a phregethu er mwyn cael hwyl. Rhaid wrth frwydr gyson i ymryddhau o'r pethau hyn, a gweddi feunyddiol. Dyro i mi, O Dduw, y bedydd tân.
Y mae cyffes o'r fath rhwng dyn a'i enaid ei hun yn fwy na hanner y goncwest. Ac nid gŵr i alw enwau cas yn unig ar ei ddiffygion oedd ef—y mae'n eu hela i'w cuddfannau mwyaf llochesol, ac yn eu hadnabod, a'u dinoethi pan font yn cuddio'n glyd dan gochl rhinweddau. Yn 1901 ysgrifennai,—
Dichon fod bywyd pregethwr yn llawn temtasiynau i hunanoldeb. Y mae yn byw gymaint ger bron y cyhoedd, nes y mae'n dod iddo'n naturiol i ofyn Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i:" Pan glywo eraill yn cael eu canmol disgwylia yntau gael hynny. Tuedda i fyned i weithio'n ormodol er mwyn cymeradwyaeth dynion. Rhaid croeshoelio yr hunan,—a chroeso i bob hoel er ei bod yn boenus. Mae'r syniad fod dyn yn cael ei anwybyddu yn beth poenus—croeso, croeso, dyma'r groes,—a'r ffordd i'r bywyd rhagoraf. Addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon."
Un o'm peryglon i yw ceisio meithrin tawelwch, a gostyngeidd- rwydd, ac addfwynder—er mwyn gallu gwneud fy ngwaith yn well— ac yna i gael mwy o glod a chymeradwyaeth. Yr un amcan daearol yn difa o hyd. Rhaid ceisio llwyr anwybyddu beth y mae dynion yn ei feddwl ac yn ddywedyd, byw i ddaioni, a pheidio suro, a gweled y gorau ymhob dyn.
Gwybydded y cynulleidfaoedd hynny a brofodd bethau mawr dan bregethu Ben Davies nad dylanwadau gwneud a'u cipiodd dros dro o fyd y ddaear; yr oedd ymdrechfa enaid yn ei frwydr i ymburo o'r tu ôl iddynt. Bydd rhoi golau dydd i'r Dyddiaduron, a dylai rhywun wneuthur hynny'n fuan, yn ddatguddiad i'r genedi bod y sawl a'u hysgrifennodd yn aruthrol fwy na'i boblogrwydd a'i bregethu, er bod rheini'n fawr. Ceir golwg ar enaid effro yn dal trwy gydol y blynyddoedd i dyfu ac ymburo drwy'r hunan-ymholiad mwyaf manwl a'r ddisgyblaeth fwyaf cyson mewn myfyrdod, a gweddi, a ffydd, ac ufudd-dod. Cawsom eisoes gip ar y modd yr ymroes i goncro temtasiwn y pregethwr poblogaidd, ond nid dyna ei unig frwydr na'r boethaf chwaith, a daliodd hyd y diwedd i ymdrechu ymdrech deg.
Mae fy ffaeleddau yn fy mlino fwyfwy o hyd (ysgrifennai yn 1902). Credaf fod hyn yn arwydd dda. Rhaid fy mod yn gwella. Mae ffaeleddau yn peri poen i mi yn awr, nad oeddwn yn meddwl am danynt o gwbl flynyddoedd yn ôl. Siaredais ormod mewn tŷ neithiwr
—siaredais bethau y dylaswn eu cadw i mi fy hun. Nid oedd yn lles
iddynt. Bum mewn blinder mewn canlyniad i hynny. Nid oes modd bod yn rhy ofalus. Gyda mwy o burdeb mewnol gall dyn fentro ei reddfau-a byw yn naturiol, fel y cana'r aderyn. Ond gyda chalon ddrwg fel sydd gennyf fi, ni all dyn ddweud popeth a ddaw i'w feddwl. Mae angen gwyliadwriaeth gyson ar air a myfyrdod.
Edrychai iddo'i hunan er yn fore, a dadansoddai'i gymhellion a'i ddiffygion heb gêl nac arbed. Yr oedd haen ddofn o gyfriniaeth yn ei natur. Fe welir oddiwrth yr Hunangofiant i honno gael ei mynegiant cyntaf yn ei gariad rhyfedd at olau dydd, ac ochrau'r mynydd, a'r ffridd, a'r ffrydiau; ochr arall iddi oedd ei ddiflastod at y lofa a'i thywyllwch. Parhaodd yr angerdd hwn at natur ar hyd y daith, fel y prawf a ganlyn:—
'Rwy'n ysgrifennu'r gair hwn Ebrill 28, 1936. Diwrnod eithriadol deg, wedi gaeaf hir. Mae prydferthwch y coed yn dechrau dwyn dail, a'r blodau'n agor, glesni'r maes, a glesni'r nef—o'r braidd yn ormod i'w ddal. Daw llif gorfoledd ynof i gydgordio â gorfoledd natur. Ond cafodd y gyfriniaeth hon ei mynegiant uchaf ac amlaf yn y ffurf a gymerth ei brofiad crefyddol. Er na cheir prawf amlwg ei fod yn gynefin â gweithiau'r prif gyfrinwyr nac yn ymwybydol ddilyn eu disgyblaeth, eto hwynthwy yw cymdeithas briod ei dueddfryd. Gwelwyd eisoes fel y cadwai ei ffaeleddau dan law wrth eu cyffesu a'u dinoethi'n ddi-drugaredd, fe geir cyfeiriadau lu hefyd yn ei ddydd-lyfrau at yr oriau mawr o dangnefedd pur a enillai mewn gweddi a myfyrdod a choncwest ar ei ddrygau.
Pwy a feddyliai yn ei gwmni diddan, a than hud ei bersonoliaeth hawddgar, hamddenol, y gwyddai am frwydrau parhaus un nad oedd byth yn fodlon arno ei hunan, ond fe ddylid cofio hefyd fod i'r un galon ei gorfoledd eithriadol. Ysgrifennai ym mlwyddyn ei farw:—
Byddaf yn fy nal fy hunan yn canu ymron bob bore wrth godi o'm gwely, ac wrth wisgo. Nid oes gennyf lais canu, na dawn i ganu, ond fe dardd cân yn fy nghalon bob bore—emyn fel rheol, ac wrth ganu, teimlaf, fel rheol, ryw hapusrwydd a llawenydd rhyfedd. Gan fod yr Ysbryd Mawr yn cyffwrdd â'm hysbryd i, credaf mai ohono Ef y daw'r gân i'm calon.
Fel y rhan fwyaf o'r cyfrinwyr gwybu erwindeb Ffordd y Puro a nosau anobaith ac amheuaeth yr enaid, a chafodd hefyd ei ran o groesau bywyd i'w dwyn ar ysgwyddau oedd ar brydiau'n ymollwng o dan bwys amhcuacth fewnol ; ond pyrth oedd yr oriau tywyll hyn i deml glaer y tangnefedd sydd uwchlaw deall. Ni ellir ymhelaethu ar hyn yma, a'r diben o grybwyll yr agwedd hon ar fywyd Ben Davies yw cacl cyfle i nodi a chofio mai cynnyrch y profiadau cyfriniol, cymysg, hyn yw ci emynau a'i gancuon crefyddol, y ceir detholiad ohonynt yn y gyfrol hon. Y profiadau eu hunain oedd y peth mawr iddo ef, ac nid oedd cu mynegiant na'u harddull yn cael cymaint sylw ganddo. Y mae stor helaeth ohonynt ar gael, ond nid ymdrafferthodd i'w perffeithio wedi i angerdd y profiad dreio, ond y maent yn werthfawr iawn er dilyn llwybr ci dyfiant ysbrydol. Fe'u canwyd ar "dymhorau o dywyllwch " ac ar oriau'r oruchafiaeth pan welai "ddôr tangnefedd Iôr yn agor yn y nef", ac y mae cu harwyddocâd yn llawer mwy bellach o ganfod mai " tyfiant " ydynt ac nid pethau gwneud wrth rym ewyllys a diwydrwydd ymennydd.
Am ei yrfa allanol rhydd yr Hunangofiant drem werth- fawr ar ci ddyddiau bore tan ci weinidogaeth gyntaf yn y Bwlchgwyn a Llandegla. Yn Chwefror 1891, dechreuodd ar ei waith fel gweinidog yn y Pant-teg, Ystalyfera. Yr oedd yn rhy ieuanc wrth fodd rhai o'r hen ddiaconiaid, ac ni chytunent â'r alwad. Nid ocdd yr eglwys wedi arfer bod yn gytunus iawn chwaith ers blynyddocdd, ond wynebodd y "llanc" yr anhawsterau 'n ddewr. Gorchwyl lled boenus i mi (meddai) am rai blynyddoedd ar ddechrau fy ngweinidogaeth fu llywyddu'r cyfarfod eglwys". Cynhelid ef ymron bob wythnos, yn ôl y galw. Deuai materion go ryfedd ger bron, ac edliw beiau, fel y bu yn orchwyl lled galed lawer tro i gadw pethau mewn trefn.
Ond dysgodd iddynt dangnefedd, a'r cyfeillion gorau a gafodd yn y man oedd y gwŷr hynny na fynnent cu alw atynt. Acth yr adeiladau'n rhy gyfyng yn fuan. Adnewyddwyd y Festri, a chafwyd capel newydd yn 1889 i eistedd mil yn hwylus. Cynyddai'r gynulleidfa a daeth benllanw arni yn Niwygiad 1904, pryd y rhifai ymhell dros y saith cant. Ffurfiwyd Eglwys a chodwyd capel yng Ngodre'r Graig, ac o hynny tan 1927, pryd y rhoes ei ofal heibio, parhaodd y Pant-teg yn gynullfan pobloedd.
Yn ystod ei weinidogaeth faith yno gwelodd gyfnewidiadau mawr—un o'r pennaf oedd cynnwrf y Mudiad Llafur. Gweithwyr oedd cryfder ei eglwys, a chafodd llu ohonynt eu tanio gan yr ysbryd gwerinol, ac ni fynnent liniaru eu ffydd newydd hyd yn oed yn y capel. Magesid y gweinidog yn nhraddodiadau Rhyddfrydiaeth y ganrif ddiwethaf, ac yn honno y mynnai'r hen weithwyr hefyd aros, ond bu cofio tymor byr, digalon, ei brentisiaeth yntau fel glöwr yn ddoethineb iddo ar ambell awr pan oedd trydan yn awyrgylch y cwrdd eglwys yr adeg honno, ac er cefnu o rai ar y capel a chrefydd, cadwyd yr heddwch a pharhaodd dylanwad ei bregethu efengylaidd i gadw mwy na chyflog ac oriau gwaith yn niddordeb y lliaws.
Daeth y Rhyfel Mawr i fwrw'r ymgyrch Lafur i'r cysgod. a rhoi llwyddiant anarferol i gymoedd y glo. Credai yntau, fel y mwyafrif mawr, mai rhyfela oedd yr unig foddion i'w ddewis tan yr amgylchiadau. Yn ei Anerchiad ar Yr Eglwys a Rhyfel, a roes i gyfarfod Heddwch Undeb yr Annibynwyr yng Nghaernarfon yn 1930 dywed:—
Dylwn, yn y fan yma, roddi gair o gyffes, sef i minnau, fel llawer eraill, gredu nad oedd modd osgoi'r rhyfel ddiweddaf; ein bod ynghanol trobwll nad oedd modd dyfod allan ohono ond drwy frwydro am ein bywyd. Ond cyn bod ei hanner trosodd, yr oeddwn am ei hatal, a threfnu amodau heddwch yn hytrach na pharhau i ladd a dinistrio. Gwelais ein bod allan i goncro yn hytrach nag amddiffyn y gwan, a gwelais fod difrod rhyfel tu hwnt i bob dirnadaeth. Gŵyr y rhai a wrandawai arnaf yn fy eglwys mai fy sylw mynych oedd: "Dim rhyfel byth eto, nac anadliad o'i phlaid byth mwy Pechadur edifeiriol sy'n siarad—un â'i wers wedi ei serio â thân yn ei galon; a dylai fod wedi ei serio felly yng nghalon yr Eglwys, a'r wladwriaeth, ac yn enwedig yng nghalon a chydwybod pob Cristion dan y nef. Dim rhyfel byth eto!
Yn ystod gaeaf 1923-4 ymwelodd â'r Wladfa Gymreig, ar gais ei enwad yn bennaf, a chafodd y Gwladfawyr yn eu plith dalp o Gymro pur, a'i leferydd iddynt yn atgofus, a'i efengyl yn llawn o awelon bryniau Cymru. Ysgrifennodd helaeth am y daith i bapur lleol Cwm Tawe,— y Llais Llafur, a darlithiodd lawer drwy Gymru ar yr ymweliad.
Bu'n siarad a phregethu ar lwyfan yr Undeb, a rhoes ei anerchiad o'r Gadair ym Machynlleth yn 1928, ar Yr Antur Ysbrydol yn llawn o'i dlysineb cynnil a'i ddoniau cyfriniol. Darlithiodd lawer ar destunau fel Emanuel, Hiraethog; Dewi Sant; Anne Griffiths; Watcyn Wyn; Dyfed; Y Greal Sanctaidd ac Ar y Môr.
Ysgrifennodd lawer i'r 'Geninen' (fe gofir yn arbennig am ei ysgrif wych ar Twm o'r Nant yng nghyfrol 1902), a chyhoeddiadau'r enwad, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth yn 1896, o dan yr enw, Bore Bywyd, a golygodd gyfrol goffa ei gyfaill, y Parch. D. Stanley Jones, ynghyd â chyfrol fechan goffa i Llaethferch, yr adroddwraig o Godre'r Graig.
Treuliodd dros bymtheg mlynedd ar hugain yn y Pant-teg, yn yr un eglwys, ac ni bu llawer o ddigwyddiadau cyffrous yn ei hanes allanol ar wahan i'r hyn sy'n digwydd i'r cyffredin o ddynion yng nghwrs amser. Gwelodd gladdu priod ei ieuenctid yn 34 oed, yn 1903. Merch ydoedd hi i Griffith Williams y gof yn y Bwlchgwyn. Aeth i'w bedd o hiraeth ar ôl Tegwen, y ferch fach a gladdesid yn dair oed ychydig o'i blaen.
Priododd yr eilwaith â merch Lewis Morgan, Tŷ Brych, Ystalyfera. Gwelodd ei chladdu hithau, a loes arall i'w galon fu colli David Emrys, ei unig fab, yn 1919. Erys ar ei ôl dair o ferched, ac atynt hwy yr aeth i Lundain yn 1927, gan gefnu ar waith ei fywyd fel gweinidog, a hynny'n bennaf oherwydd y byddardod trwm a'i daliodd. Bu'n esgob i eglwysi bychain Llundain yn y cyfamser, a chafodd brynhawn melyn bach" wrth fodd ei galon i bregethu iddynt o Sul i Sul. Daeth i deimlo'n glyd yn y brif-ddinas yn fuan, ac yn ŵr annwyl i Gymry Llundain.
Bu farw yn yr ysbyty yno Ionawr yr ail, 1937, wedi cystudd byr, a symudodd yn dawel fel y bu fyw i'r fro y canodd yn bêr am dani.
Syniad ei blant yw'r gyfrol hon, ac arwydd o'u parch mawr a'u cariad tuag at un a fu'n dad a mam iddynt drwy'r blynyddoedd.
Dylwn innau ddiolch iddynt yma am bob cymorth, a rhyddid i ddefnyddio a fynnwn o'r defnyddiau sy ganddynt. Anaml yr ysgrifennai Ben Davies ei bregethau'n gyflawn, a bu'n rhaid dewis o'r ychydig a ddigwyddai fod yn weddol lawn. Mewn nodiadau hefyd y gadawodd ei anerchiadau i fyfyrwyr Coleg Bala-Bangor, fel na ellid cynnwys dim o'r rheini chwaith.
Ni ellir gorffen hyn o dasg heb gydnabod yn ddiolchgar iawn hynawsedd a chymorth parod yr Argraffwyr.
T. EIRUG DAVIES.CYNNWYS
CYFLWYNIAD
RHAGYMADRODD
DARN O HUNANGOFIANT
PENNOD I
YSGOL A LLYFRAU
BARDDONI A CHYSTADLU
ARGRAFFIADAU CREFYDDOL
MYND I'R YSGOL. DECHRAU PREGETHU
BWLCHGWYN A LLANDEGLA
YSGRIFAU—
I. DYDD ANGLADD GWYDDERIG
II. PROFIAD Y BYDDAR
III. Y MEDDYG A'R BARDD
IV. OBERAMMERGAU
PREGETHAU—
A OES GENNYM NEGES?
GALW MATHEW
CYFARFOD YN GALILEA
Y CRIST SYDD WRTH Y DRWS
CANEUON YR HWYR: LLEOL A PHERSONOL—
CANEUON YR HWYR
CARU'N GWLAD
Y CERRIG PYDRON
Y BAY O' BISCAY
YR AUR AR YR 'HEATH'
CHLYWAIS I MO'R GOG ELENI
DAFYDD WILLIAM, GORSYRHELIG
CYNGERDD Y PLANT
CÂN Y BYDDAR
YSTORM Y DDINAS
D.E.D.
Y GYMRAES
DOD YN ÔL
Y DREF
WRTH Y MÔR
YR HEN FRO
DYDD OLA'R FLWYDDYN
CANEUON YR HWYR: CREFYDDOL—
GWELD Y NEF
SIOM
GWYLIA DI
MI A WNI BWY Y CREDAIS
YN Y CYFNOS
Y LLEWYCHIADAU
Y GORFOLEDD PARHAUS
CARIAD
O'CH MEWN CHWI Y MAE
GLYWAIST TI GYFRINACH DUW?
BLODAU
FY MHARADWYS
DISTEWI AC ADDOLI
CYFAMOD DUW A'R DYDD
BYDD BERERIN
DYDD IESU GRIST
Y NADOLIG A'R CALAN
Y NEFOL FRO
Y CYFAILL
Y DUW HWN
CANEUON YR HWYR: EMYNAU—
GYDAG AWEL Y DYDD
YR ETIFEDDIAETH YSBRYDOL
TYWYSOG TANGNEFEDD
YN DY LAW
MYNWES DUW
AFON DY HYFRYDWCH
GRAS Y NEF
CEISIO'R COLLEDIG
Darn o Hunangofiant
PENNOD I
RHAG ofn y bydd i rywun deimlo awydd i ysgrifennu gair o'm hanes, gosodaf i lawr yma o dro i dro rai o brif ffeithiau fy mywyd bychan.
Clywais fy mam yn dweyd lawer gwaith i mi gael fy ngeni tua deg o'r gloch yn yr hwyr, ar yr unfed dydd ar ddeg o Hydref, 1864. Enw fy nhad oedd David Davies, ac enw fy mam oedd Sarah. Ganwyd fi yn y Ddôl-gam, amaethdy bychan ar lan afon Llynfell, yng nghysgod y Mynydd Du. Merch y Ddôl-gam oedd fy mam. Ni allaf yma olrhain ei llinach, ond yr oedd ei thad, Dafydd William, Ddôl-gam, yn un o ddiaconiaid Cwmllynfell ac yn un o gyfeillion y diweddar Barch. Rhys Pryse; dywedid ei fod hefyd yn berchen yr hyn a elwid yn ddawn gweddi i raddau anghyffredin.
Daethai fy nhad yn llanc o gymdogaeth Taliaris i weithio yn y Cyfyng, priododd yno, a chladdodd ei wraig yn lled fuan,—ail-briododd, a chladdodd yr ail wraig ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd. Arweiniwyd ef gan gyfaill iddo, ryw nawn Sadwrn, i'r Ddôl-gam-yr oedd fy mam ar y pryd yn argoeli bod yn hen ferch, yn byw gyda'i rhieni. Hoffodd hi fy nhad, ac hoffodd fy nhad hithau. Priodasant, a daeth fy nhad i fyw i'r Ddôl-gam. Yr oedd wedi cael profiad fel ffermwr yn Sir Gaerfyrddin,—bu yn was fferm yno mewn amryw fannau. Yr oedd hefyd wedi cael profiad fel "gweithiwr tân" yng ngwaith haearn Ystalyfera. Wedi dod i'r Ddôl-gam, bu yn gweithio "yn y gwaith", ac ar y fferm ar yn ail, ar hyd y blynyddoedd, a bu'r frwydr yn un go galed lawer tro.
Medrai fy nhad rigymu yn berffaith ddidrafferth; un o'r pethau cyntaf wyf yn gofio yw cân argraffedig yn ein cartref o'i waith.
Medrai fy mam rigymu hefyd yr un mor ddi-drafferth a'm tad, ond nid mor faith. Rhyw ddau bennill oedd ei heithaf hi. Pan oedd fy mrodyr yn gweithio yng Nghwm Rhondda, cofiaf hi yn cyfansoddi y pennill a ganlyn:—
Mae William a John yn Nhreorci
Yn aros bob Sabath yn awr,
'Rwy'n disgwyl bob dydd am eu gweled
Yn dyfod a'u paciau i lawr,
I weithio i hen waith Cwmllynfell
A cherdded y nos i'r Ddôl-gam,
A dyfod a'u "pai" bob pythefnos
Yn gryno i'r hen wraig, eu mam.
Medrai pob un o'r plant rigymu hefyd. Rhai o honynt gyda mwy o hawster na'i gilydd, ond yr oedd y diffyg hwn yn perthyn i bob un. Cofiaf un gweinidog o fri yn dweud i'w fam ei geryddu un tro am wneud pennill, a dweud wrtho, fod pob un oedd yn prydyddu yn cael ei gymryd i'r seilam. Wel, yr oedd pob un ohonom ni'r plant yn prydyddu rhyw gymaint, ac hyd yn hyn, nid oes neb ohonom wedi bod yn y lle a nodwyd!
John fy mrawd, fe ddichon, oedd wannaf yn y ddawn hon, a phan yn digwydd odli neu gynganeddu fin nos, yr oedd odl neu gynghanedd John yn sicr o greu chwerthin iach. Cofiaf ni yn rhoddi gair i'w gynganeddu—"Pysgod y môr".
"Pysgod y môr, lond pasged i mi", meddai un.
"Pysgod y môr, pesga di mwy", meddai'r llall. "Pysgod y môr—cysgod yr Iôr", meddai John. Nid oes angen egluro dim i gynganeddwr!
Cofiaf ddydd angladd fy mamgu—mam fy mam. Yr oeddwn y pryd hwnnw tua thair oed. Cofiaf lawer o ddieithriaid yn y tŷ, ac yr oedd eu hofn arnaf; nid oeddwn yn fodlon dod i lawr o'r llofft. Wedi i'r angladd gychwyn, aeth y forwyn â mi allan i Gae Pen Twyn—cae uwchlaw'r tŷ, ac oddiyno gwelwn yr angladd, yn llinell ddu, yn ymsymud yn araf dros y caeau,—tua'r capel. Yr oedd y tŷ yn wag a thawel wedi i ni ddychwelyd.
Cofiaf fyned i'r capel, heb fod yn hir wedi hynny, a tharawyd fi yn rhyfedd gan harddwch y pulpud, a'r bordor ysgarlad dan y Beibl, a'r aml liwiau heirdd ar y paneli, fel tonnau môr y nef. Credwn fod drws cudd' yn agor dan y pulpud, ac mai ffordd honno yr oedd fy mamgu. wedi myned i'r nefoedd. Yr oedd un panel mawr yn ffrynt y pulpud, a'r paent arno yn ymddangos i mi fel dwy fflam fawr yn ymsaethu i fyny, credwn mai o uffern y doi y rhai hynny, a bod y panel hwnnw yn agor i ollwng pobl i mewn i'r trueni mawr. Yr oedd yn hawdd i mi gredu'r hyn a glywswn mai lle ofnadwy i sefyll ynddo oedd y pulpud!
Nid wyf yn meddwl i mi fod yn y capel yn rhyw aml iawn o'r tair i'r saith oed, canys yr oedd y ffordd ymhell a garw—tua milltir o gaeau corsiog, heb un math o heol, dim ond llwybr troed; a phrin hefyd oedd y dillad a'r esgidiau i blant y bwthyn yn y dyddiau hynny.
Byddai fy mam, yn fynych ar fore Sul, yn fy anfon allan o'r tŷ, tua chwarter i ddeuddeg i Gae Pen Twyn, i edrych os oedd y " cwrdd yn mysgu ".
Dyna'r gair ddefnyddid, am y bobl yn dyfod allan o'r capel. Byddwn innau yn eistedd ar y mur cerrig, ac yn gwylio'r cwrdd "yn mysgu", ac wedi gweled y fintai gyntaf yn dyfod allan i'r "bryn" o gyfeiriad y capel, rhedwn â'r newydd i'r tŷ, a rhoddai hithau'r tatws ar y tân, a byddai'r ginio'n barod erbyn y cyrhaeddai fy nhad a'm brodyr adref.
Mae gennyf gof hollol glir am danchwa Hendreforgan yn 1869. Collodd mab y "tŷ nesaf" ei fywyd yn y danchwa honno. Dafydd—brawd Mafonwy. Cymerodd y "tanad" le yn y nos. Daeth y newydd i'm mam cyn dydd, a chofiaf y cyffro, a'r galar, a'r dychryn.
Euthum allan i'r Grofften Ddu rywbryd yn y bore, a gwyddwn fod Dafydd wedi ei ladd yn y gwaith. Yr oedd hiraeth mawr arnaf, a rhyw ofid llethol yn fy ngwasgu. Ceisiais neidio, ond yn ofer. Edrychwn i lawr i gyfeiriad glofa Hendreforgan, a gwelwn y mwg yn esgyn yn araf i'r wybren lâs. Gyda hyn, daw'r orymdaith ddu i'r golwg yn sydyn ar y Coed Cae Coch! Rhedais mewn braw i'r tŷ, yna yn ôl i wylio'r orymdaith—hyd nes pasio ohoni heibio i'n tŷ ni, a thros yr afon i'r tŷ—y Coed Cae Isaf. Gwelais y corff ar lawr y gegin. Y mae dros hanner can mlynedd oddiar hynny, eithr y mae'r olygfa hon yn berffaith glir i mi heddiw. Mawr fu galar y ddau deulu, a chwith iawn a fu bywyd y fro fynyddig ar ôl Dafydd. Credaf fod rhyw haen ddofn o brudd-der yn fy meddwl yn naturiol. Y mae pob un o'r angladdau a welais pan yn llanc wedi gafael yn ddwfn ynof. Gallwn fyned drostynt un rôl un gyda manylder. Ond i ba ddiben.
Fodd bynnag, cofiaf un amgylchiad llon, er mai cymysglyd ddigon yr ymddangosai i mi. Yr oedd i mi chwaer, o'r enw Catherine—yr hynaf o'r plant o ochr fy mam. Deuai 'John Shôn Ddaniel', mab i fwthyn cyfagos, tua'n tŷ ni bob nos Sadwrn. Nid oeddwn yn deall ei neges, ond rhoddai i mi geiniog yn fynych am fynd i'r gwely yn gynnar. Daeth bore priodas John a Catherine—cofiaf y miri, a'r berw, a'r saethu di-drugaredd. Daeth un gŵr i'r tŷ, a gollyngodd ergyd o ddryll i fyny'r simnau, nes oedd y tŷ yn ddu gan huddygl. Ffoais am fy mywyd i lawr dros y waen at Gwter Jâms "—oedd bob amser yn llawn dwfr—gorweddais ar ei glan, gan osod fy mhen yn ymyl rhuthr ei dyfroedd, er mwyn peidio clywed sŵn y saethu. Arosais yn ymyl dyfroedd gloyw Cwter Jâms" am oriau ac yr oedd sŵn y dwfr yn llawer pereiddiach na sŵn y gynnau mawr yn y tŷ!
Cofiaf gynorthwyo yng ngwaith y fferm yn weddol fore. Myned allan i'r caeau i gasglu'r cerrig, cyn eu cuddio gan dwf y gwanwyn—carthu'r beudy bob canol dydd, gan gario'r tail i'r domen mewn "carllwyd". Byddai yn rhaid cael dau i gario'r 'garllwyd ', byddai un fel rheol yn ei llanw ac yn galw am gymorth un arall i'w chario. Gwaith pwysig iawn oedd tendio'r töwr". Tô brwyn a gwellt oedd i fwthyn syml y Ddôl—gam, a byddai'n rhaid gosod haen o dô newydd ymron bob blwyddyn. Ym Medi neu Hydref y cyflawnid y gwaith hwn, fel rheol. Cyn dyfodiad y gaeaf, yn gyntaf, 'roedd rhaid myned i'r mynydd i ladd brwyn, a'u cludo yn llwythi yn y car llusg, dros fynydd a chotia, lle nad oedd un math o ffordd. Teflid y brwyn yn bentwr ar y weirglodd ger y tŷ. Rhaid oedd myned wedyn i'r coed i dorri "scilps ", coed cyll a bedw ystwyth. Yna, eu hollti a'u blaenllymu, gogyfer â bod yn offerynnau i ddal y brwyn yn eu lle ar ben y tŷ. Yr oedd hollti'r "scilps" yn grefft, felly hefyd y toi. Enw'r hen "döwr" oedd Rhys Rosser. Cymeriad digrif oedd Rhys; yr oedd ganddo hanes ffortiwn i bob tŷ ymron—dim ond cael benthyg un "goron" arall, er mwyn gohebu â'r Chancery—a dyna'r ffortiwn ar ben bwrdd. Rhoddwyd iddo fwy nag un goron, ond ni welwyd yr un ffortiwn. Pan ar nen y tŷ yn toi, yr oedd cyn falched o'i orsedd ag unrhyw frenin. Pan fyddai eisiau brwyn, gwaeddai allan "rushes-rushes neu scilps-scilps". A'm gwaith innau oedd rhedeg i fyny ac i lawr yr ysgol yn ôl y galw.
Ond y gwaith pwysicaf oedd gofalu am y defaid a'r ŵyn—ac yn enwedig yr ŵyn ym misoedd Chwefror, Mawrth, ac Ebrill. Rhaid oedd myned allan bob bore gyda'r dydd, i geisio diogelu yr ŵyn ieuainc rhag sythu a boddi. Byddai ein defaid ni yn croesi "Cwter Jâms" yn y nos—neu gyda thoriad cynta'r dydd. Yr oedd pontydd bychain, culion, o dyweirch, wedi eu gosod yma a thraw ar draws y 'Gwter' gogyfer â'r defaid. Fel rheol, croesai y ddafad yn ddihangol, ond syrthiai yr oen nwyfus i'r dwfr. Cludid ef ymaith gyda rhuthr y llif a boddai. Collwyd ugeiniau o ŵyn yng "Nghwter Jâms". Yr oedd gweled dafad yn rhedeg gyda glan y gwter, gan frefu, yn arwydd ddrwg. Deuid o hyd i gorff yr oen mewn tro yng nghornel y waen, fel rheol, a theflid ef i frig y llwyn, neu cleddid ef yn barchus yn y fawnen. 'Roedd bref y fam yn dorcalonnus. Cofiaf finnau wylo mewn cydymdeimlad â hi lawer gwaith.
Gyda dyfodiad Ebrill ai'r defaid i'r mynydd, a rhaid oedd cau Cae'r Mynydd" i'w rhwystro i ddod i lawr i bori'r caeau gwair. Bu helfa ddoniol ar ôl llawer lladrones. Deuai'r haf a'i ladd gwair, a'i gywain i'r ysgubor, a'i "fysgawnu"—(ei osod ar ei gilydd yn drefnus). Hyfryd oedd cysgu ambell noson yn y gwair, yn enwedig yn y gwair mân. Bum i a'm cyfeillion yn gwrthod y gwely lawer noson er mwyn cysgu yn y gwair. Dyna beth melys oedd deffro fore haf, ar y "fisgawn" wair, yng nghanol perarogl y maes, a sŵn yr afon yn torri'n ddwndwr diderfyn ar y glust. Gyda'r Hydref, deuai lladd a chywain rhedyn, i'w gosod dan yr anifeiliaid yn y gaeaf. Wedi cael y rhedyn dan dô, teimlid yn barod i dderbyn dydd byr y gaeaf, a'i ystormydd a'i rew a'i eira. Caeid y drws gyda'r nos, a chlywid sŵn y gwynt yn cwynfan, gan ddweyd fod y gaea'n dod.
Dylwn, fe ddichon, yn y fan yma, ddweyd gair am fywyd yr aelwyd, yn enwedig yr aelwyd hirnos gaeaf. Wedi gorffen gorchwylion y dydd, ar y fferm, ac yn y lofa; ac wedi i'r bechgyn—y glowyr, orffen ymolch—mor lân oedd yr aelwyd ac mor gynnes gwres y tân. Eisteddem o gylch y bwrdd bach crwn i ddarllen neu i ysgrifennu. Weithiau byddem yn cynnal cystadleuaeth darllen ar y pryd, neu areithio ar y pryd. Pan yn cynnal y cyfarfodydd hyn byddai bechgyn y tŷ nesaf" gyda ni fel rheol. William, fy mrawd hynaf, fyddai'r beirniad. Yr oedd ef yn ddarllenwr manwl, cyson, a chyfrifem ef yn oracl ar bob pwnc. Yr oedd ei lawysgrif yn lân odiaeth, a'i fanylder yn ddihareb yn ein plith. Byddai yn aml yn rhoddi dictation i ni, neu yn nodi darnau i'w copio o lyfr. Eisteddai fy mam ar y fainc yn gwnïo—"cyweirio'r" dillad gwaith, neu'r hosanau, gan wrando, a thraethu ei barn. Ni fyddai John byth yn ysgrifennu, na darllen. Cymerai ran weithiau mewn araith ar y pryd, eithr fel rheol, pan elai'r gwaith hwn ymlaen, byddai John yn y gornel, yn naddu coes mandrel, gan chwiban un o ganeuon y lofa. Yr oedd ganddo ryw gân Saesneg, a chanai hi yn aml. Nid wyf yn cofio dim ond ei dechrau,-
Down in the coal mine
Underneath the ground, etc.
Cofiaf yn dda, fel y byddai yn ei chanu yn y bore wrth gychwyn i'w waith. Hoffwn ei wrando o'm gwely; clywwn ef yn myned dros y trothwy a thros gerrig y beili—a'r sŵn yn pellhau—"Down in the coal mine—"
Ond i fyned yn ôl at waith yr hwyr, wedi dwyawr o ddarllen neu ysgrifennu, rhaid cael tamaid o swper syml—bara llaeth, neu fwdran, neu sucan gwyn. Yna, âi fy rhieni i edrych os oedd popeth yn iawn yn y beudy, a rhoddent fwyd i'r da, wrth olau cannwyll bŵl, yn llosgi mewn lantern gorn. Wedi dod 'nôl, byddai fy mam yn atgofio fy nhad, am gynnal dyletswydd. Yr oedd fy nhad yn dueddol i anghofio—a John yn lled hoff o ddweud fod arno eisiau myned i'r gwely, gan fod fore; angen codi yn ond fel rheol, byddai gair fy mam yn llwyddo. Darllenai fy nhad Salm, yna diffoddai fy mam y gannwyll, a phlygai pawb ar ei gliniau. Syml iawn oedd gweddi fy nhad. Cofiaf rai ymadroddion,―soniai ein bod "oll wedi crwydro fel defaid, troisom bawb i'w ffordd ei hun "—hefyd, "ein bod wedi gwasanaethu'r creadur yn fwy na'r Creawdwr —a dim ond i Dduw ein cymryd dan ei adenydd" y byddem yn ddiogel. Wedi'r weddi ddwys, teyrnasai distawrwydd dros y tŷ, ail oleuai fy mam y gannwyll fach, ac ôl deigryn yn ei llygad. Yr oedd dwyster newydd yn wyneb fy nhad. Aem ninnau'r plant yn dawel wedyn, i fyny dros y grisiau cerrig—a chyn pen ychydig funudau yr oeddem oll yn cysgu'n dawel dan gysgod aden Duw.
Un ystafell oedd y llofft, ac yr oedd yno'n fynych bedwar gwely. Yr oedd yno dri un ochr, a'r naill a'i draed wrth ben y llall,—fel rhes o gerbydau. Byddem yn saith yn cysgu yno'n aml, ac nid oedd i'r ystafell ond un ffenestr fechan—dau gwarel, ac nid oedd honno yn gallu agor! Ond yr oedd llawr y llofft yn lled gyfoethog o dyllau i'r awyr ddod drwodd.PENNOD II
YSGOL A LLYFRAU
YN ddi-ddadl fy ysgol gyntaf oedd yr ysgol ar yr aelwyd, wrth ddarllen ac ysgrifennu yno a William fy mrawd oedd yr athro. Un o'r athrawon gorau a welais erioed. Nid oedd llawer o lyfrau yn yr ysgol gyntaf hon. Y Beibl, Geiriadur Brown (mae hwnnw yn fy ngofal i), "Deuddeg Mlynedd yng Nghanolbarth Affrica" (Thomas), Baledi, Caneuon, "Diddanwch yr Aelwyd ", a chyn hir daeth rhai o ganeuon Ceiriog, Mynyddog, Watcyn Wyn ac Islwyn.
Yr ail ysgol y bum ynddi oedd yr ysgol Sul ar " hyd y tai". Cynhelid hon brynhawn Sul yn amaethdai'r ardal, o dŷ i dŷ, gan symud o'r naill dŷ i'r llall, wrth reol sefydlog. Nid pob un oedd yn hyddysg yn nhro yr ysgol, a byddai dadl ambell dro, pa le yr oedd i fod nesaf. I osod terfyn ar hyn gwnaeth William fy mrawd ddiagram, i egluro tro yr ysgol. Gosododd ef ar wyneb ddalen llyfr "llafur yr ysgol ". A chan ei fod gennyf wrth law, nid anniddorol fyddai darlun o hono yma:—
TRO YR YSGOL YN 1875

Erbyn dyfod i'r flwyddyn 1876, mae Brynhenllysg, Sarn- fân, a'r Dorwen, wedi eu hychwanegu at yr uchod.
Dechreuid yr ysgol drwy ganu, darllen, canu a gweddïo, yna rhennid yn bedwar neu bump dosbarth: dosbarth yr hen bobl, dosbarth gwŷr ieuainc cryfion, dosbarth rhai llai, a dosbarth plant.
Yn y ddau ddosbarth olaf y cofiaf fi fy hun-yn myned i'r room bach' fel rheol, ac yn eistedd ar erchwyn gwely, gan ddarllen, a cheisio ateb cwestiynau, a chwerthin am ryw ddireidi.
Ar y diwedd byddai'r dosbarthiadau yn dod ynghyd i'r gegin i "gwpla'r ysgol ", a byddai rhywun yn adrodd pennod neu salm a ddysgesid yn ystod yr wythnos. Yr oedd cof rhyfedd gan Charles, Llwynmoch. Cofiaf ef yn adrodd y Salm fawr bob gair, ar ddiwedd yr ysgol.
Dyma'r adeg y dechreuais innau ddysgu'r Beibl ar fy nghof. Adroddais lu o'r Salmau, a darnau o'r Efengylau yn yr ysgol hon. Yn hon, ac ar yr aelwyd y dysgais ddarllen Cymraeg, ac y dechreuais deimlo diddordeb mewn pethau crefyddol. Diwrnod go fawr oedd y diwrnod yr euthum i Ystalyfera i brynu Testament i mi fy hun,-Testament bychan bach, a'r 'coteshion' ynddo, ynghyd â rhai cyfeiriadau daearyddol ac ychydig nodiadau eglurhaol. Mor swynol oedd gwybod sawl Mair a sawl Ioan oedd yn y Testament Newydd ; a pha faint o ffordd oedd o Jerusalem i Jerico; a maint môr Galilea, a'r gwahanol enwau arno. Y pethau hyn a'u cyffelyb a ddysgid yn bennaf i'r plant yn yr ysgol syml honno, a buont yn foddion i agor llawer meddwl. Byddai dosbarth yr hen bobl yn dadlau ar bynciau diwinyddol, wrth gwrs. yr ysgol hon y cyfeiriwyd fy meddwl gyntaf at fy nyletswydd i ymaelodi yn yr Eglwys. Cynhelid yr ysgol y Sul hwnnw yn Brynhenllysg. 'Newyrth Jonah, Bryn- henllysg oedd athro'r bechgyn y Sul hwnnw. Dywedodd ar y diwedd wrthyf, ei bod yn bryd i mi feddwl am ddod yn aelod. Cyffyrddodd y peth â'm calon yn ddwfn. Bum

ymron a thorri allan i wylo. Ar ôl mynd adref hysbysais fy mam o'r hyn a ddywedasai 'Newyrth Jonah wrthyf. Barnai hithau fy mod yn rhy ieuanc, ond ar yr un pryd, os oeddwn yn teimlo awydd am i mi aros ar ôl y noson honno. Daeth y pwnc yn gyfrifoldeb personol go fawr. Y nos Sul hwnnw yn hen gapel Cwmllynfell arosais ar ôl, a'r Cymundeb dilynol derbyniwyd fi (a nifer ereill o bobl ieuainc) yn gyflawn aelod. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1873.
Ni wn yn iawn pa oedran y dechreuais ar yr ysgol ddyddiol. Fe ddichon i mi fod ryw gymaint yn yr ysgol hon pan rhwng saith ac wyth oed. Ond gan fod y ffordd ymhell, a'r esgidiau yn brin, a'r galwadau i fyned ar ôl y defaid neu'r da, neu gyflawni rhyw orchwylion ar y caeau mor aml, bylchog a di-lun iawn a fu fy ysgol.
Pa ddiben darlunio yr hen ysgoldy a'r hen ysgolfeistr Y mae'r darlun wedi ei dynnu gynifer gwaith. Efallai, er hynny, fod hen ysgoldy Cwmllynfell mewn rhyw bethau yn hollol ar ei ben ei hun. Gelwid hi yn British School, a deallaf yn awr y dygid ei thraul gan yr ardalwyr. Wyddwn i ddim yn y byd beth oedd British School yn ei olygu, ond tybiwn fod ei pherchen ryw dro wedi bod yn gwisgo british' fel 'Newyrth Morgan, Llwynmoch! Safai'r ysgoldy ar gyfer hen gapel Cwmllynfell, yr ochr arall i'r afon-afon Llynfell. Y tu cefn iddo yr oedd cae, a alwem yn 'Ffaldau'. O'i flaen yr oedd y Bryn, a'r heol. Yr oedd gan yr ysgolfeistr bulpud—nid desc gyffredin, ond pulpud, a phedair neu bump gris i fyned i fyny iddo. O'r fan yma byddai yn galw ein henwau yn y bore, a ninnau yn ateb yes sir
Byddai'n ceryddu yn ddidrugaredd weithiau, a byddai'r frwydr yn boeth rhyngddo ef a'r plant. Byddai nifer yn ymosod arno ambell dro, a'r llwch yn codi'n gymylau. Cofiaf ef yn gollwng ruler o'i bulpud, at un o'r plant, ac i hwnnw fy nharo i, nes codi whwrlyn' mawr ar fy mhen. Weithiau gosodid troseddwr gwaeth na'r cyffredin yn y black hole. Yr oedd gwacter dan y llawr, a chodid un o'r planciau i fyny, a theflid y troseddwr i'r dyfnder, fel Joseph i'r pydew. Byddai carcharor y black hole yno am brynhawn, a chodid ef ar ôl i'r plant fyned allan. Ceisid difa'r amser yn y black hole drwy chwilio am y marbles oedd wedi mynd i lawr yno drwy'r tyllau yn llawr yr ysgoldy.
Ffordd arall o gosbi oedd gosod y troseddwr i sefyll ar un goes ar y ddesc! Saesneg oedd iaith wrth gwrs, ac nid oeddwn yn deall dim ohoni ond 'yes' a 'no', ac ni roddid yno'r un cymorth i'w deall ychwaith. Cofiaf yn awr rai o'r geiriau a adroddem gyda'n gilydd :—"It is a sin to steal a pin, much more to steal a greater thing" neu'r llyfr a ddarllenem "Cain was a tiller of the ground, and Abel was a keeper of sheep". Nid oedd gennyf ddim syniad pa beth a olygai'r uchod. Nid oeddwn yn tybio bod iddynt ystyr yn y byd. Nid oedd. yr amser chwarae wrth fy modd ychwaith, am fod y plant yn chwarae mor gas, a chynifer ohonynt am ymladd. Yr oedd rhyw ysbryd creulon, angharedig, yn yr ysgol hon, ac y mae'n ddirgelwch i mi heddiw. Byddai rhyfel weithiau rhwng plant "y Cwm" a phlant "y Bryn". Byddent yn cyfarfod yn ddwy fyddin â phastwyni ac â cherrig, ac weithiau clwyfid ambell un yn go gas. Ymlidient ei gilydd drwy'r coed, a'r afon, i'r tyllau a'r tai! Diau fod dylanwad y rhyfel ar y cyfandir-rhyfel "Ffrainc a Prussia" ar y plant. Yr amser dedwyddaf i mi oedd pedwar o'r gloch, pan ollyngid y plant allan o'r ysgol i fynd adref. Cerddwn adref gyda dau neu dri o blant ereill dros y relwe i ddechrau, yna dros lwybr troed, a draws y cae—dros bont bren ddi-ganllaw yn groes i afon Llynfell. Yna dros gae eilwaith ac heibio'r Ty-gwyn drwy'r buarth, yna dros y caeau a'r gweunydd, dros Gwter Jâms yna allan i gaeau'r Ddôl-gam. Melys oedd y tawelwch yno, a mwyn oedd tro i'r caeau neu i fyny'r bryn at Garreg Maen Bras. Byddai hiraeth dwys yn fy meddiannu yn yr ysgol yn aml, hiraeth am y mynydd, a'r afon loyw, am y defaid a'r ŵyn, a'm llyfrau Cymraeg.
Gan fod dyletswyddau'r fferm yn galw arnaf i golli'r ysgol yn fynych, nid wyf yn sicr i mi ddysgu dim yn yr ysgol yn y dyddiau bratiog hynny. Do, dysgais gasâu Saesneg blin gennyf hynny heddiw. Diau y buasai fy ngyrfa wedi bod yn dra gwahanol, pe wedi dysgu caru iaith arall pan yn llanc. Ond methwyd llanc. Ond methwyd a gwneud Sais o honof, ac nid da gennyf yr iaith honno hyd heddiw.
Y LOFA
Pan o fewn mis i fod yn ddeuddeg oed, bu raid i minnau, fel fy mrodyr ereill, wynebu'r lofa. Cofiaf ddisgyn i waelod hen bwll Cwmllynfell, a William fy mrawd yn fy arwain. Wedi cyrraedd gwaelod y pwll, cerddem i lawr am tua milltir i goluddion y ddaear. Fy ngwaith yma oedd "cadw drws "—dryso. Gofalu ei agor i'r 'siwrnai i fyned heibio, yna ei gau. Amcan y drws oedd cadw'r awyr i gerdded yn ei ffordd briodol er mwyn iawn awyru'r lofa. Wrth fyned y tu cefn i'r drws, clywid yr awyr yn ysgubo drwy'r brif-ffordd fel corwynt. Byddwn yma am oriau wrthyf fy hun—a chyfansoddais yma lawer o benillion ac englynion—gorffwysant yn dawel ar y llechi llaith ym mynwes yr eigion du. Yr oedd Gwilym Wyn yn un o'r hauliers a ddelai heibio, a byddai yn fy holi am ryw gynghanedd neu'i gilydd bob siwrnai. Yn y prynhawn cyntaf, daeth William fy mrawd o ganol prysurdeb ei waith, i edrych sut yr oeddwn, ac edrych os oeddwn yn eistedd mewn lle diogel.
Dylwn nodi yma un enghraifft o anwybodaeth llanc o fin y mynydd yn dechrau ei yrfa "dan y ddaear". Llusern wifrau bŵl iawn oedd gennyf. Nid oedd ond ychydig iawn o rai gwydr y pryd hwnnw. Yr oeddwn innau mewn trafferth parhaus yn ceisio torri ffwrdd o'r fflam y pabwyr oedd wedi llosgi, er mwyn cael y fflam yn loywachi. Yr oedd rhyw wifren fach o waelod y lamp at wneud hyn, ond methwn i a'i chael i weithio yn dda. O'r diwedd, torrais dwll bychan yn y case, â'm cyllell, modd y gallwn drwsio'r lamp â hoelen pedol ceffyl. Ni wyddwn ddim fod un perygl yn y byd yn y twll bychan hwnnw. Ond, ymddengys ei fod yn ddigon mawr i chwythu'r cyfan i ddinistr, pe buaswn wedi digwydd myned i'r fan lle yr oedd nwy. Gwelwyd y peth gan Gwilym Wyn wrth ddod heibio-diffoddodd fy lamp ar unwaith, ac aeth â mi yn ôl i'r orsaf i gael case newydd.
Ni allaf fanylu yma ar lawer o helyntion bywyd y llanc oedd yn cadw'r drws, dan y ddaear, yn y dyddiau hynny. Cofiaf y byddwn yn gweled y diwrnod yn hir iawn—yn ddiddiwedd o hir. Byddwn yno fel rheol, am tua deuddeg awr. Rhaid oedd myned i mewn gyda'r siwrnai gyntaf, ac allan ar ôl yr olaf. Byddwn yn codi yn y bore tua hanner awr wedi pump, ac yn cyrraedd adref ryw ychydig wedi saith, ac ar ddydd Sadwrn byddwn yn codi am dri yn y bore, ac yn cyrraedd adref tua chwarter wedi pedwar yn y prynhawn. Ym mis Medi yr euthum dan ddaear i ddechrau, a threuliais o'r adeg honno hyd y Nadolig heb weled golau'r dydd, ond yn unig ar nawn Sadwrn a'r Sul. Y gyflog oedd swllt y dydd, ac arian y 'doctor', a rhyw fanion ereill yn cael eu cadw yn ôl! Carchar rhyfedd oedd hwn i blentyn y mynydd. Cofiaf yr oriau unig yn y gongl gerllaw'r drws! Ai awr heibio weithiau heb i mi weled na chlywed neb. Edrychwn i'r tywyllwch bythol ar bob llaw. Rhoddai fy llusern bŵl ddigon o olau i mi i weled y tywyllwch! Clywwn sŵn y diferyn unig yn disgyn—fel ticiadau hen gloc araf yn y pellter—yn myned i gyfeiriad arall. Os cofiaf yn iawn, dim ond rhyw bedair siwrnai yn y dydd ai heibio i mi yn ystod deuddeg awr. Deuai hiraeth poenus ataf ar adegau am y caeau, a'r defaid, a'r bryn, a'r mynydd. Ar awr o syched angerddol byddwn yn portreadu dylif croyw, eirias Ffrydiau Twrch' gerbron fy meddwl, ac yn meddwl fod haul yn tywynnu ar y caeau—a minnau yn y dyfnder du. Yr oedd pruddglwyf yn fy nghalon bob awr. Gyda mynwes drom lwythog yr awn i lawr y pwll bob bore— ac un ochenaid hir ddistaw oedd y diwrnod ar ei hyd. Nid oeddwn yn gallu chwerthin yn y dyddiau hynny. Methwn a mwynhau nos Sadwrn na'r Sul, am fod bore Llun a'i garchar du a'i safn yn agored ar fy nghyfer.
Eithr daeth diwedd ar yr helynt yn lled sydyn. Tua diwedd y flwyddyn 1874, neu yn gynnar yn nechrau 1875, stopiodd yr hen waith! Aeth fy mrodyr i weithio i Gwm Rhondda, a chefais innau fod gartref. Cefais ganiatad fy rhieni i fyned i'r ysgol eto am ambell ddiwrnod. Erbyn hyn yr oedd ysgol-feistr newydd wedi dyfod i Gwmllynfell, a gair da iddo gan bawb. Gŵr ieuanc o'r enw Mr. Roberts, o Abercraf—Mr. J. J. Roberts, Pontardawe, wedi hynny. Gwnaeth ef waith ardderchog yng Nghwmllynfell cyn symud ohono i Bontardawe. Bu yn eithriadol garedig i mi, ac y mae gennyf barch dwfn iddo yn fy nghalon. Pan ddeallodd fy mod wedi bod yn y 'lofa'-gosododd fi ar fy mhen fy hun mewn congl glyd o'r ysgoldy, ac ymwelai â mi droeon yn ystod y dydd i'm cyfarwyddo gyda'r sums. Nid oedd gennyf yr un awydd am gymryd dim ond Arithmetic—ond dechreuodd ef fy nenu i ddarllen, ac ysgrifennu allan o un o lyfrau y Royal Readers. Gosododd fi i ddysgu barddoniaeth ar fy nghof. A'r diwedd fu iddo ofyn i mi a thri arall o rai ymron yr un oedran i baratoi at arholiad y Pupil Teachers. Gosododd ni yn athrawon ar wahanol ddosbarthiadau yn ystod y dydd, a rhoddai wersi i ni i'w gwneud ar ôl mynd adref. Bum am rai misoedd yn 'teacho', ac yn llafurio'n galed bob nos gyda'r gwersi. Nid oedd fy nhad yn fodlon o gwbl i mi fyned yn 'deacher'. Yr oedd fy mam ychydig yn fwy rhadlon. Yr oedd gennyf gof da a gallaswn ddysgu unrhyw beth ymron. Cynygiodd Mr. Roberts wobr i'r un a ddysgai orau "The Sofa" (Cowper) ar ei gof. Cofiaf noson y prawf, ger y tân, yn yr hen ysgoldy. Daeth y wobr i mi yn rhwydd. Yr oeddwn yn ei wybod bob gair. Dyna fy ngwobr gyntaf, yn sicr. Yr wyf yn cofio darnau ohono hyd heddiw:—
"I sing the sofa, I who lately sang
On Truth, Hope, and Charity."
Gadawer i mi weled, pa le mae'r pedwar llanc—
Mae Ebenezer yn ei fedd; bu farw ymhen rhyw ddwy flynedd wedi hynny—llanc talentog oedd ef, a gweithiodd yn rhy galed i ateb corff gwan.
Ifan—mae yntau hefyd yn ei fedd. Bu ef yn fasnachwr cyfrifol unwaith yn un o gymoedd y Garw, dirywiodd, a bu farw yn dlawd, a lled ddiamddiffyn. Cofiaf ymweled ag ef yn ei gystudd, a golwg druenus iawn ar bopeth o'i gylch.
Morgan: mae ef yn fyw, pan yr ysgrifennir y llinellau hyn; ond y mae ei iechyd yntau wedi rhoddi ffordd i raddau, wedi byw bywyd lled afradlon.
Tom mae ef yn Ficer yng ngogledd Sir Aberteifi, ac yn un o'r dynion caredicaf ei ysbryd yn yr holl wlad, ac wedi gwneud diwrnod o waith rhagorol. [1]
Daeth dydd arholiad y candidates. Aethom ein pump i Dreforris a dyna'r tro cyntaf i mi fod yno. Dychrynwyd fi gan faint yr ysgoldy, a'r swyddogion meistrolgar yn cerdded yn ôl ac ymlaen, a'u parseli yn eu dwylo, ac yn siarad mor awdurdodol, a dim gair o Gymraeg. 'Rwy'n sicr fod fy atebion i yn erchyll. 'Roedd y pennill i'w ramadegu (parsio) yn dechrau fel hyn :
Rome for empire, far renown, Tramples on a thousand state.
Cymerais innau Rome yn 'roam '—a gosodais ar ei gyfer: Transitive Verb!
Wedi gorffen yr arholiad aethpwyd i lawr i Aber Tawe at lan y môr yn ôl gorchymyn Mr. Roberts,—a daeth yntau i'n cyfarfod yno.
Ymhen ychydig wythnosau daeth gwybodaeth am ganlyniadau yr arholiad. Dim ond un wedi pasio—Tom— yr oedd ef yn llawer gwell Sais na'r un ohonom. Daliodd Ebenezer ati er mwyn cynnig eilwaith. Aeth y gweddill ohonom adref. Wrth edrych yn ôl difyr yw gofyn, beth pe buaswn yn pasio'r arholiad?
Wele fi eto'n rhydd, ar y caeau a'r mynydd, yn cerdded llwybrau'r defaid, ac yn codi ambell glawdd. Ond, Och fi! erbyn hyn, y mae hen bwll Cwmllynfell wedi ail ddechrau, ac y mae fy nhad yn anesmwyth yn ei awydd am i mi ennill rhyw geiniog i helpu'r ffarm.
Dyma fi eto yn myned i ofyn am waith, ac yn ei gael, ac wele fi yn ôl yn y dyfnder du, wrth yr hen orchwyl diflas, di-ynni o ddryso'.
Mae fy mrodyr yn y Rhondda, yn ennill gwell arian, a minnau yma'n llanc tua thair ar ddeg oed, yn unig yng nghanol gweithwyr dieithr i mi, parod hefyd i halogi bywyd yr ieuanc, a gwneud pob difyrrwch am ei ben.
Annymunol iawn a fu'r 'dryso' y waith hon. Yr oeddwn yn gorfod dilyn yr haulier gyda'r gwahanol siwrneion ar hyd y gwaith'; a chan fod y ceffyl yn un ieuanc a gwyllt, heb ei dorri i mewn i weithio dan y ddaear, yr oeddwn yn gorfod ei arwain i fyny'r heading, gan ei fod am redeg yn ormodol pan na fuasai ond un ddram wâg yn llwyth iddo. Ciciai fi, a chnoai fi'n alaethus weithiau, ac nid oedd lle i ddweyd fy nghŵyn; gan fod yr haulier yn fwy dideimlad na'r ceffyl. Yr oedd y ceffyl yn fy nghnoi a'm cicio ond yr oedd yr haulier yn fy rhegi, gan daflu'r sprags at fy mhen. Yr oedd sŵn rhegfeydd felly yn brathu ysbryd tyner llanc o ganol cysegredigrwydd y mynydd, ac yr oedd cynnig fy nharo â'r sprags, yn codi awydd ynof i redeg adref. Ni chynigiais daro 'nôl. Gwnai rhai o'r bechgyn hynny. Ond yr oedd y ddyletswydd deuluaidd, ac ysgol Sul y tyddyndai, a'm haelodaeth grefyddol yn sefyll rhyngof â tharo'n ôl. Cofiaf hefyd, un tro wedi ceintach mawr a thafodi, a chynnig at fy nharo, i mi benderfynu y buaswn ryw ddiwrnod, ryw—bryd, os byth y deuwn yn ddigon cryf, yn rhoddi curfa fawr i ŵr o'r enw D—— Llosgai yr awydd am roddi curfa iddo yn fy nghalon. Yn fuan teithiasom i wahanol gyfeiriadau, ac ni chefais gyfle i roddi'r gurfa, ond yr wyf wedi pregethu iddo lawer gwaith ar ôl hynny, ac yntau yn gwrando fel pechadur! Y tro diwethaf y pregethais iddo, yr oedd wedi heneiddio llawer, gwrandawai arnaf gyda gwên, ac yr oedd deigryn yng nghil ei lygad! Diau ei fod yntau'n cofio'r dyddiau tymhestlog gynt, ond yr oedd pob awydd am ddial wedi mynd.
Un bore gaeafol, a'm pen yn dost, a'm mam yn fy ngalw i fynd i'r gwaith, a minnau yn methu ateb gan wylo, wrth feddwl wynebu anghysur fy niwrnod gwaith yn y fath gyflwr, daeth fy mam i'r llofft i edrych, paham na buaswn yn ateb. Codais innau, ac wrth newid fy nghrys, gwelodd gleisiau mawr ar fy mreichiau a'm hysgwyddau, ac meddai—
Pa beth yw'r cleisiau yna
"Y ceffyl sydd yn fy nghnoi," atebwn. "Pwy geffyl" gofynnai hithau.
A bu raid dweyd yr hanes. Dywedodd nad oeddwn i ddioddef peth felly, y buasai hi yn byw ar fara a halen yn hytrach nag edrych arnaf yn cael fy maeddu felly. Drwy ei dylanwad hi ar rai o'r gweithwyr, cefais le yn fuan gyda cholier'—a dechreuais innau dorri glo. Cyn gadael y drws, gadawer i mi nodi i mi unwaith fod ymron colli fy mywyd. Un tro, clywwn sŵn dram yn dod i lawr yr heading, rhedais i agor y drws, ac ar y foment yr oedd y drws yn deilchion a minnau, a'm lamp wedi diffodd, wedi fy nharo i'r ochr gan ddarnau o'r drws. Dram ar wyllt ydoedd, ac ni allsai fod rhagor nac ychydig fodfeddi rhyngof â bod yn ei gafael. Gwelais yr haulier yn dod i lawr yn araf, ac ofnus—ac yn sefyll, yna yn dawel yn fy ngalw wrth fy enw, Ben bach "Wel," meddwn innau. "Wel own i'n ofni dy fod di wedi dy ladd." Welais i ddim o'r haulier mor garedig a thyner erioed â'r diwrnod hwnnw.
Dro arall, deuai yr haulier allan o flaen y ddram o un o'r talcenni glo, a phan yn dod allan i'r heading, lle yr oedd mwy o oriwaered, yr oedd haulier arall i sprago'r wheel. Methodd уг ail haulier a sprago. Yr oeddwn innau yn sefyll ger y drws, ac yn edrych i fyny'r heading-gwelwn y ddram, yn dod yn gyflymach, gyflymach,—gwybu yr hwn oedd o flaen y ddram fod ei gyfaill wedi methu sprago. Nid oedd dim o le iddo i neidio i'r ochr, gwasgai'r ddram yn fwy-fwy, a theithiai yn gynt! Gwaeddodd am help. Clywais ef yn dolefain "mam, mam"—a syrthiodd dan y ddram, aeth hithau drosto, gan ddymchwelyd yn bentwr yn ymyl y drws. Ar amrantiad, yr oedd y glowyr yno wrth y degau,—cludwyd ef allan yn fyw,-clywaf ei ocheneidiau yn awr! Dygwyd ef i dŷ ei fam, ac ni fu yn hir cyn gorffen ei yrfa ddaearol.
Nid wyf am fanylu ar fy ngwaith yn torri glo, ond cofiaf i mi ddechrau gyda dau hen lowr profiadol,—yn deall y grefft yn dda. Efallai, na fu i mi air da fel glowr, ond yr wyf yn sicr i mi ddysgu'r grefft a gweithio'n galed. Tybiai'r ddau lowr y cyfeiriais atynt, fy mod yn hoff o farddoniaeth, ac weithiau, pan na fuasai galw mawr, rhoddent fi yn rhydd o lanw glo am ysbaid, ar y telerau fy mod yn gwneud pennill. Hwynthwy oedd yn rhoddi'r testun! Gwneid y pennill yn ddieithriad, a chafwyd llawer awr ddifyr. Caeodd 'hen bwll' Cwmllynfell cyn hir, a bum yn gweithio wedyn yng nglofeydd Hendre Forgan, Bryn Morgan, a Bryn Henllysg. Trafferthus iawn fu gwaith Bryn Morgan. Nid oeddwn yn ennill ond. y peth nesaf i ddim yno, er yn gweithio yn lled galed. Un tro penderfynais i a'm cyfaill weithio drwy'r nos, er mwyn gwneud lle clir i fyned at y glo erbyn bore drannoeth. Tua deg o'r gloch diffoddodd lamp un ohonom, ac aethom ill dau yn ôl ymron at waelod y pwll, i le di-berygl, er mwyn agor un lamp i oleuo'r llall. Ond pan yn' estyn y lamp a'r golau i gyffwrdd y lamp arall diffoddodd! Buom ein dau yn y tywyllwch dudew drwy'r nos. Nid oedd neb yn y lofa ond nyni y noson honno. Aed i ryw gornel i lechu hyd adeg dyfodiad y fireman tua chwech o'r gloch y bore!
Cyrhaeddais waith Bryn Henllysg pan rhwng pymtheg ac un-ar-bymtheg oed. Dechreuais weithio yma gyda'm brawd Tom. Aeth ef cyn hir i'r America, ac y mae yno yn awr (1923) yn ddedwydd a llwyddiannus.
Bum yng ngwaith Bryn Henllysg hyd nes troi ugain oed. Edrychaf ar y cyfnod hwn fel un tra diddorol a buddiol a dedwydd. Nid oedd y gwaith yn galed. Gweithiem yma gyda 'golau noeth', ac nid 'lamp dân'.
Llusgo cart, a llanw'r ddram a fu fy ngwaith pennaf yma ar hyd yr amser. Gweithid yn ôl y drefn a elwid yn 'talcen cul'. Ni allaf fanylu yma ar y drefn yn y dyddiau hynny. Yr oedd dadl yn aml ymhlith y glowyr, pa un talcen cul' neu yntau long work oedd y gorau. Rhaid oedd carto yn y talcen cul. Nid oedd y ddram yn dyfod o'r heading. Llusgid y glo o'r face i lawr at yr heading, i le a elwid y 'tip', ac o'r fan honno y llenwid y ddram. Gwaith hefyd oedd llanw o byddai digon o lo ar y tip.
Yr oedd awyrgylch lenyddol i'r Lofa honno, a deuthum yno i gyfarfyddiad â Nathan Twrch, Ieuan Twrch, Dewi Glan Twrch, Michael Thomas, Y Doctor, ac nid y lleiaf— J. D.Williams, Rhiwfawr, a Joseph Williams, Cwm-Twrch. Gwleidyddwr mawr oedd Joseph Williams, llenor a cherddor oedd J. D. Williams, beirdd oedd y lleill. Ym mhlith y cerddorion yno y pennaf oedd D. W. Rowlands, a ddaeth wedi hynny yn awdur darnau o safon, megis—"Glaniad y Ffrancod "ac "Olwen Plas Gwyn"
Yr oedd yno hefyd elfen grefyddol iawn, gan fod rhai o hen dduwiolion syml y fro yno-saint diamheuol : Dafydd Gynol, a William, Noah Jones, Dafydd Ddôl Gam, J. Powel (Ger Gwys), etc. Os caf gyfle i ysgrifennu ychydig am y capel, caf sôn am weddiau rhai o'r uchod, ac yr oedd dwyster eu gweddiau ar eu gruddiau yn y lofa. Hoffus gan ambell un yw gwylio anghysondeb gŵr y ddawn gyhoeddus. Mor anghyson yn ei fywyd yn y gwaith â'i weddi yn y capel. Dyma flasusfwyd dramodau diweddar. Rhaid i mi ysgrifennu na welais i nemor ddim o'r anghysondeb hwn. Ni chlywais i yr un gweddiwr yn rhegi, yn ôl fel y ceisia ambell un ddweyd. Ni welais i yr un ymddygiad anweddus gan yr un o'r blaenoriaid crefyddol hyn. Yr oeddynt yn grefyddol dan y ddaear fel yn y capel. Un o'r gweddiwyr mwyaf melys—bêr yn y capel oedd un o'r enw Sami o'r Glwyd—bum yn gweithio gydag ef am rai wythnosau, mewn lle llaith, glo tlawd, top drwg, lle profedigaethus i'r eithaf; ac er gweithio'n galed yno fore a hwyr, ac ni allasai fod yn ennill rhagor na rhyw bymtheg swllt yn yr wythnos, eto ni chlywais air anweddus o'i enau. Wrth gofio aml brofedigaeth a gafodd, ni allaf heddiw lai na rhyfeddu at ei ras.
Yr oedd James Powell yn amlwg yn un o eglwysi'r cylch, ac yn feddiannol ar ddawn gweddi, a thueddai ef at fod yn ffraeth ei dafod ar adegau, ac yn enwedig, hoffai ystoriau direidus, a mân driciau chwerthingar. Ond i'r sawl a'i hadwaenai'n dda, nid oedd gronyn o falais na drwg yng nghalon lon James Powell. Cymhellodd fi lawer gwaith i fyned i bregethu, a chofiaf ef yn gwrando yng nghongl y sêt fawr ym Methel a'r deigryn yng nghil ei lygad. Rhaid ymatal.
Yn ystod yr adeg hon, yng ngwaith Bryn Henllysg, daeth awydd barddoni a chystadlu ataf fel twymyn, a hefyd awydd am fynychu cyfarfodydd crefyddol a phregethu. Daeth y ddau awydd yma ataf yr un pryd ymron, meddiannwyd fi gan y naill a'r llall. Tynasant fy mywyd i'w gafael yn llwyr. Ac yr oedd awyrgylch ffafriol i'r ddau awydd yn y lofa, yn yr ardal, ac yn y cartref. Rhaid i mi felly cyn myned ymhellach ysgrifennu gair i'r ddau gyfeiriad hyn.
PENNOD III
BARDDONI A CHYSTADLU
CREDAF fy mod wedi dysgu'r Cynganeddion, fel y'u ceir yn yr Ysgol Farddol" (Dafydd Morgannwg) cyn fy mod yn ddeuddeg oed. Dysgais hwy i ddechrau o Ramadeg Tegai. Daethai fy mrawd William o hyd i ddarnau ohono yn rhywle—a gwelais ar unwaith pa beth a olygai cynghanedd. Ni chefais ddim trafferth i'w dysgu. Yr oedd un o'm cyfeillion yn dechrau ei dysgu ar yr un adeg, ac nid yw wedi ei dysgu eto, er "poeni ar hyd y nos Rhaid geni gŵr i ddeall cynghanedd. Deuai'r "Gwladgarwr" i'r tŷ bob wythnos, ac yn hwnnw yr oedd Islwyn yn golygu'r Farddoniaeth. Pan tua naw neu ddeg oed, gyrrais, (heb ddweyd gair wrth neb), englyn i Islwyn gogyfer â'r "Gwladgarwr". Nid oeddwn y pryd hwnnw wedi dechrau astudio'r gynghanedd. Englyn i'r 'Coryn', a'r feirniadaeth oedd Pentwr o wallau". Gwnaeth beirniadaeth felly les mawr, agorodd fy llygaid. Nid wyf yn cofio'r englyn i gyd ond dechreuai fel hyn:
'Bendramwnwgl drwbl driban—mae'r coryn
Mewn caerau druan:
Pan tua thair-ar-ddeg oed, anfonais englynion i Brynfab, ac yr oedd yn arferiad i fardd ieuanc y pryd hwnnw nodi ei oedran. Nodiad caredig Brynfab oedd: "Da, os yw'r bardd hwn yn dweyd y gwir am ei oedran; gwell i ni edrych at ein llawryfau!" Anfonais ddau bennill i'r "Gog" i "Ddysgedydd y Plant ", dan olygiaeth y Parch. D. Griffith, Dolgellau. Cawsant ymddangos â'r enw "Gwynfab" odditanynt. Yn ddiweddar gwelais y pennillion hyn, yn y "Dysgedydd"—ac enw arall, digon parchus yn eu harddel!
Cefais fy ngwobr gyntaf yng nghapel "Beulah fach", mewn Cwrdd Llenyddol, am benillion i'r Nos", dan feirniadaeth Arianglawdd. Rhoddodd y beirniad ganmoliaeth iddynt, darllenodd y pennill olaf gyda hwyl. Rhoddodd hynny hwyl i minnau. Ym mhen ychydig wythnosau gwelais Arianglawdd yn cerdded yr heol drwy Gwm Twrch, yn ei wisg ddu lân, a minnau yn llanc y mynydd a'r lofa, yn fy nillad diwedydd,—aeth fy nghalon i guro fel tabwrdd, a bum ymron a syrthio mewn perlewyg— ond methais ag anturio myned ato. Yr oedd ei basio o fewn dwylath yn ddigon o anrhydedd am oes.
Dyma gyfnod Watcyn Wyn yn dod am dro i'r Ddôl Gam i weled fy mam, pan ar ei wyliau o Goleg Caerfyrddin. Cofiaf ef yn cerdded yn araf dros y Coedcae, a gallaswn feddwl bod meddyliau yn pwyso arno nes ei blygu. Byddai pob ymweliad o'i eiddo yn ennyn y tân ynof, er mai am William yr holai ef-a gosod ei law yn fy ngwallt gwlanog innau. Yr oeddwn yn slafaidd o ofnus a gwylaidd. Mae ofn wedi fy anafu ar hyd fy oes-er fe ddichon na chred pawb mo hyn. Cuddiwn fy marddoniaeth o olwg pawb. Pan fuasai rhywun o'r teulu'n digwydd darganfod llinell o'm heiddo, teimlwn yn euog, fel pe bawn yn droseddwr mawr. Yr oeddwn yn awyddus angerddol am farddoni, ond cuddiwn bob llinell, yn enwedig o olwg y teulu, ac o olwg William. Deuthum yn fwy hy wrth ennill dro ar ôl tro. Pan o'r pymtheg i'r ugain oed hoffwn gystadlu ar areithio ar y pryd, a dadlau ar y pryd, darllen ar y pryd, ac adrodd, yn ogystal ag ysgrifau a barddoniaeth.
Dyma gyfnod y Cyfarfodydd Llenyddol a'r Eisteddfodau lleol. Mawr oedd eu swyn. — 'Roedd dyfodiad pob Eisteddfod fel dyfodiad bore o Fai. 'Roedd gwyrddlesni a ffresni cyfareddol yn perthyn i bob bag eisteddfodol. Daeth pentyrrau o honynt i'r bwthyn mynyddig. Byddai mam yn eu hongian ar y seld, gan ofalu eu dangos i bob ymwelydd. Seld ramantus oedd seld y Ddôl Gam, dan gynhaeaf o rubanau gwobrwyon eisteddfodol. Byddwn yn mynychu Cyfarfodydd Llenyddol yng Nghwmllynfell, Cwm Twrch, Ystrad Gynlais, Brynaman, a Gwaen cae Gurwen.
Cofiaf fod mewn Eisteddfod yn Rhyd-y-Fro, ac ennill y cwbl o'r Farddoniaeth, dan feirniadaeth y Parch. D. Onllwyn Brace. Cofiaf ennill ar ystori yn Gwaen cae Gurwen, dan feirniadaeth "Beriah Gwynfe Evans". Yn Eisteddfod Rhyd-y-Fro enillodd ysgrifennydd y Waen yr "ystori", ac erbyn chwilio i mewn, fy ystori fuddugol i ydoedd! Yn raddol, tyfodd y penillion yn ganeuon a phryddestau, a'r englynion a'r mân gywyddau yn awdlau. Cyfansoddais bryddest faith yn 1883, ar "Ymdrech", a daeth yn ail am gadair, dan feirniadaeth Watcyn Wyn ym Mrynaman. Cefais uchel gymeradwyaeth hefyd gan Carnelian am bryddest i'r Gorffennol" yn yr Ynyshir- Watcyn Wyn yn fuddugwr. Yr un modd am bryddest "Y Groes yng Nglyn Ebwy. Pan yn cyfansoddi'r pryddestau hyn, ac amryw ereill, byddwn yn codi'n y bore tua phump o'r gloch, drwy'r gwanwyn a'r haf, ac yn myned allan i'r caeau, dan y coed, ac yn ysgrifennu gyda hwyl. Yna'n ôl i'r tŷ tua hanner awr wedi chwech, i gael brecwast, yna rhaid oedd wynebu'r lofa, a gorchwyl lled ddigalon oedd disgyn i ganol y twllwch llychlyd, a haul y bore'n addurno'r goedwig yr ochr arall i'r cwm. fy mod yn caru natur yr adeg honno. Deuai saeth i'm calon, a phang o hiraeth, wrth dremio, o enau'r drift, cyn rhoddi'r cam cyntaf i lawr, ar y coed dan haul melyn, a'r mynydd yn glasu'n y pellter, dan ffurfafen deg.
Hiraethwn am ddiwrnod arall ar y llechweddau.
Enillais £1:10:0 am gân ar "Aberaeron fel ymgyrchle ymwelwyr " yn Eisteddfod Aberaeron yn 1884. Cyfrifwn y fuddugoliaeth honno yn un go fawr. Euthum ati i gyfansoddi Awdl ar Rinwedd", ac er syndod i mi llwyddodd honno hefyd. Dyfed oedd y Beirniad—ac amryw feirdd o fri yn cystadlu—" beirdd o fri y cyfnod hwnnw! Cefais am yr awdl honno wobr o £8 a Chadair. Cynhelid yr Eisteddfod yn Nhredegar yn 1885. Yn y gadair honno yr eisteddaf pan yn ysgrifennu y geiriau hyn. Y mae yn ymyl deugain mlynedd oddiar hynny. Mae'r gadair" yn dal dda! Mae'r Awdl wedi myned yn hen ffasiwn ac afler! Bum drwy rannau ohoni ddoe—wel, wel! Ac eto, y mae ynddi lawer o ddychymyg, a pheth gwreiddiolder, cynghanedd lithrig, ac iaith go dda. Pe digwyddai i ti ddarllenydd roddi dy law arni rywbryd yn rhywle, cofia iddi gael ei chyfansoddi gan grwt o golier, yn y bore cyn mynd at ei waith, ac yn yr hwyr ar ôl dychwelyd. Collais ddydd o waith er mwyn ei hysgrifennu gogyfer â'r gystadleuaeth. Nid oeddwn wedi ei dangos i neb. Nid oes neb wedi ei gweled eto-ond Beirniaid!
Mae tabled ar gefn y gadair yn darllen fel hyn:
TRYDYDD
EISTEDDFOD GADEIRIOL CYMRODORION TREDEGAR
LLUNGWYN 1885
AWDL—RHINWEDD.
Erbyn dyfodiad yr Eisteddfod yr oeddwn wedi gadael y lofa, ac wedi gadael cartref, ac wedi myned i'r Ysgol Ramadegol yn Llansawel. Oddiyno yr euthum i Dredegar i gael fy nghadeirio.
Bu hyn yn derfyn ar gystadlu hyd nes gadael y Coleg, ac ymsefydlu ym Mwlchgwyn. Yna cefais wobrwyon fel y canlyn—
Cadair Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog, ar y testun "Ac Arch Duw a ddaliwyd", Nadolig 1889. Argraffwyd y Bryddest honno, a gwerthodd yn dda. Cadair Meirion, Calan 1890; Pryddest: "Cyflafan Bethlehem". Yna, Cadair Meirion wedyn am Bryddest "Y Dechreuad", Calan 1891, a chadair Meirion wedyn am Bryddest "Wele Oen Duw", 1892. Cyfrifid ennill Cadair Meirion deirgwaith yn olynol yn gamp ym myd barddas y dyddiau hynny. Gwnaeth y Parch. Rhys J. Huws yr un gamp ymhen rhai blynyddoedd wedi hynny—os oedd yn gamp hefyd. Ystyrid barddoniaeth eisteddfodau Meirion yn y dyddiau hynny'n farddoniaeth newydd! Yng ngolau pethau heddiw, y mae'n amheus gennyf a oedd yn farddoniaeth o gwbl! Math ar athroniaeth awenyddol ddychmygol ydoedd, heb nemor ddim crefft. Buasai yn dda gennyf heddiw, pe buasai rhywun wedi dysgu i mi'r grefft o farddoni. Wedi hynny ysgrifennais doreth o ryw fath o farddoniaeth. Cefais wobrau lu, ac yn eu plith, £7 a Thelyn Aur yn y Porth am Bryddest ar Ddydd y Pentecost". Hanner y wobr am Bryddest y Goron yn Eisteddfod y Rhyl 1892, ar y testun "Dewi Sant"—rhoddwyd hanner arall y wobr a'r Goron i Iolo Caernarfon. Cefais Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 1893, a'r wobr o £25 yn gyfan i mi fy hun. Y testun oedd "Cymru Fydd". Nid yw'r Bryddest hon yn argraffedig oblegid i'r Eisteddfod honno fethu dwyn elw ariannol. Cefais y Goron y flwyddyn ddilynol yng Nghaernarfon 1894, am Bryddest ar Arglwydd Tennyson Yr oedd Tywysog Cymru yn bresennol y Brenin Edward VII, wedi hynny,—derbyniais y Goron Aur o'i law ef, a chlymwyd y rhuban glas am fy mraich gan y Dywysoges. Nid oeddwn yn meddwl dim o'r peth. Mewn gair, nid oeddwn yn ei sylweddoli megis ag y gwna llawer. Gwerinwr syml, o'r cae a'r lofa oeddwn i, ac nid oedd cyffyrddiad llaw frenhinol yn golygu dim i mi. Yr oedd cael ysgwyd llaw â Hwfa Môn, a bod yng nghwmni Iolo Caernarfon, a gwrando Herber, yn llawer mwy o fraint yn fy ngolwg, na phlygu i'r Dywysoges i glymu y rhuban am fy mraich. Yna cefais Gadair yn Llandudno 1896, a £40 o wobr am Bryddest "Tu hwnt i'r llen". Cystadleuaeth agored oedd honno—y bardd i ddewis ei fesur, a'r Bryddest wobrwywyd. Penodwyd bwrdd o feirniaid: J. M. Jones, Dyfed, Elfed, Alafon a Berw.
Dyma ffaith go ryfedd. Yr wyf yn digwydd ysgrifennu'r nodiadau hyn ar y dyddiad, Mawrth 20, 1923, ac wedi darllen am farwolaeth "Dyfed" yn y papur y bore hwn. Ef a roddodd y Gadair gyntaf i mi, ac ef hefyd a roddodd yr olaf. Buom yn gyfeillion ar hyd y blynyddoedd, a chwith gennyf feddwl na chaf ei weled mwy. Credaf ei fod yn hollol onest fel beirniad. Yr oedd yn llym iawn yn ei flynyddoedd olaf, ac nid rhyfedd hynny, canys yr oedd yn gorfod darllen yr un pethau drosodd a throsodd, a'r pethau hynny'n brin iawn o deilyngdod. Ffarwel gyfaill hoff. A gawn ni eto gwrdd?
Clywais un o'r Beirniaid yn dweyd am gystadleuaeth y "Tu hwnt i'r llen" i Dyfed ddweyd wrth ei gyd feirniaid pan gyfarfuasant nos Lun yn y Rhyl:—"Dyna fi wedi gwneud fy meddwl i fyny, ac nid wyf yn myned i newid." Cyfarfuasant ynghyd mewn ystafell er mwyn cydymgynghoriad, a phenderfynwyd, er mwyn gweled pa le yr oeddynt o ran barn, i bob un ysgrifennu enw'r gorau ganddo ef, a'i daflu i'r bwrdd. Gwrthododd J. M. Jones, am nad oedd wedi darllen yn ddigon manwl. Chwarae teg iddo, nid oedd y cyfansoddiadau wedi bod yn ei law ond ychydig ddyddiau. A gŵr i ddarllen yn fanwl yw ef. Ufuddhaodd y pedwar arall i'r drefn. Codwyd y papur cyntaf, a'r enw ar hwnnw oedd "Pryderus" Codwyd yr ail, a'r enw ar hwnnw oedd "Pryderus". Codwyd y trydydd, yr un enw, a'r pedwerydd, yr un enw wedyn! A dyna derfyn. Anadlodd y Beirniaid yn rhydd, a dyfarnwyd "Pryderus" yn orau, yn unfrydol.
Cefais wedi hynny, yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, Fathodyn Cymdeithas yr Eisteddfod a 10 am Bryddest Goffa i Hwfa Môn; a 5 am y "Fyfyrdraeth Pygmalion a'r Cerflun ". A dyna'r terfyn mewn ysgarmesau Eisteddfodol.
Ysgrifennais wedi hynny lawer iawn o ganeuon crefyddol, ac amryw emynau, ac y maent oll ar gael, mewn ĺlaw—ysgrifen. Y mae amryw o'm hemynau erbyn hyn yn y Caniedydd, ac ychydig hefyd yn llyfrau'r Bedyddwyr a llyfr newydd y Wesleaid a'r Methodistiaid.
PENNOD IV
ARGRAFFIADAU CREFYDDOL
RHAID i mi yn awr ddyfod at haen ddyfnach a gwell yn fy mywyd, na'm hoffter o farddoniaeth—sef fy ngogwyddiadau crefyddol ac ysbrydol.
Cyfeiriais at yr Ysgol Sul ar "hyd y tai". Un o'r pethau mwyaf swynol i mi oedd dysgu darllen y 'Testament bach', a gwybod sawl Mair a loan oedd ynddo, ac er fy mod yn ddigon aflonydd yn y dosbarth yn fynych, a blin gennyf yn awr i mi beri cymaint gofid i'm hathraw, eto ai'r gweddiau i'm calon, a chodai'r canu fi " ymhell uwch sŵn dacarol fyd". Nid oedd 'Newyrth Dafydd o'r Felin yn ddirwestwr, a byddai'n lled dueddol i lithro, ond er i mi ei weled dan ddylanwad y ddiod feddwol nos Sadwrn, yr oedd ei ganu prynhawn Sul yn rhywbeth effeithiol iawn i mi. Gafaelai yn y line neu'r bach dan y llofft, a chauai ei lygaid a chanai, a dyblai, nes tystio ohonof fod ei enaid yn nofio mewn maddeuant a hedd.
Byddai'r bechgyn weithiau yn canu ar y twyn cyn dechrau'r ysgol, neu ar ôl yr ysgol, a disgynnai'r gerdd yn fawl ar awel dirion yr haf.
Yn rhywle tua'r adeg hon dechreuais ddarllen y Beibl, gan ddechreu yn Genesis, ac euthum drwyddo i gyd. Yr oedd rhannau helaeth ohono'n dywyll hollol i mi; er hynny, yr oedd rhyw fwynhad addoliadol mewn myned drwyddo. Yr oeddwn yn hoffi'r adnodau cywrain, megis lle yr ail adroddir ymadrodd prydferth a chnap dan bob caingc o hono"; neu gynghanedd gudd, megis "Enw y drygionus a bydra". Ond yr oedd ynddo rywbeth mwy na hynny. Teimlwn ryw bresenoldeb gyda mi pan yn athro, ac fel gweinei ddarllen. Byddwn yn ei ddarllen fel rheol ar y llofft. Un ffenestr oedd i'r llofft, a dau gwarel bach i honno. Byddwn innau yn gorwedd ar fy hyd gan agor y Beibl o flaen y ffenestr, a mynych y darllenwn yno am awr neu ddwy heb syflyd. Yr oedd yr oriau hyn yn gysegr.
Y mae arnaf ofn ymron ysgrifennu'r nodiadau nesaf sydd yn ymgynnig i'm meddwl. Ofn y bydd i rywun—rhywun ag y geill y nodiadau hyn rywbryd syrthio i'w law—dybio fy mod yn hunanol, ac am wneud arddangosiad o'm gogwyddiadau crefyddol, eithr ni byddai y nodion hyn yn onest, yn nyfnder fy nghalon heb i mi eu nodi.
Tarawyd fy chwaer, Catherine, (y chwaer y darluniais ei phriodas) yn beryglus wael. Yr oedd hi a'i phriod a'u baban yn byw erbyn hyn ar Ochr—y—Waen. Daeth newydd yn sydyn fin yr hwyr i ymofyn mam. Aeth hithau ar unwaith, ac ni ddaeth yn ôl y noson honno. Acth un o'm brodyr i lawr yn y bore, a dychwelodd tua hanner dydd, a dywedodd wrthyf fod Catws yn marw. "Catws" y galwem hi. Aeth y newydd fel saeth i'm henaid. Bum yn crwydro'n bruddglwyfus ar y cacau. Pan ddaeth cysgod yr hwyr euthum i ymyl hen garreg fawr wen (y mae'r garreg honno yn aros yn awr, ac yn annwyl gennyf). Syrthiais ar fy ngliniau yno, a gweddiais ar Dduw, gyda thaerni a symledd plentyn gweddiais yn hir, dro ar ôl tro, hyd nes dyfod y nos. Pan godais oddiar fy ngliniau yr oedd pryder dwfn fy meddwl wedi ei symud, a theimlwn yn hapus. Bore drannoeth daeth y newydd fod fy chwaer yn well, a gwellhaodd yn hollol ymhen ychydig ddyddiau. Cofiaf gystudd arall yn y teulu, a cheisiais innau weddio, ond methais. Methais gael gafael yn yr un dwyster, a'r un gonestrwydd.
Yn y cyfnod hwn daeth yn rhyw fath o arferiad gennyf i fyned allan yn y nos i weddio. Gwnawn hyn, hyd yn oed, wedi dechrau gweithio yn y lofa. Ar ôl llafur a lludded y dydd, ac wedi dwy awr o ddarllen neu farddoni yn y gongl yn y tŷ, byddwn yn mynd allan tua naw o'r ɻ gloch, ac i gongl un o'r caeau i weddio yno. Weithiau byddwn yn gweddio'n uchel, bryd arall yn dawel. Yr oeddwn i ym mhorth y Nef y dyddiau hynny.
Gweddiais yn "gyhoeddus" y tro cyntaf yn hen gapel Cwmllynfell, wrth y tân, ar nos acafol. Yr oedd grât mawr yn yr hen gapel, a darn o fur gwyngalchog o'i gwmpas, a sêt ysgwâr o'i flaen, fel aelwyd. Ar yr aelwyd grefyddol hon,—" yn Nhŷ ein Tad" y cynhelid cyfarfod gweddi y "bobl ieuainc". Arweinid y cyfarfod gan John Williams, byddem yn ei alw yn "John Williams fawr a Dafydd Bowen. Tua'r un adeg, os nad yn yr un cyfarfod, y dechreuodd y Parch. W. Griffiths, Ph.D. (Yale), Aber— ystwyth, yn awr. Bum yn lled ffyddlon i'r cyfarfod gweddi o'r adeg hon, gan gael fy ngalw yn fuan i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y rhai mewn oed, yn enwedig dechrau'r cwrdd ". Anrhydedd oedd dechrau'r cwrdd paratoad', a'm hannwyl weinidog yn siarad mor huawdl ar rannau o'r bennod a ddarllenid. Bum yn adrodd lawer gwaith yng nghyfarfod 'Pen Cwarter'—adrodd pennod, neu ddarnau o bregethau—pregethau J.R. yn enwedig. Darllenwn bopeth a ysgrifennai ef i'r "Cronicl", a gallaswn adrodd allan gryn lawer o'i "Gyfrol Olaf".
Ni allaf fod yn sicr pa bryd y daeth awydd dechrau pregethu ataf. Credaf ei fod ynof er yn fore iawn. 'Rwy'n sicr mai awydd pregethu yn un peth a gyfrifai am fy ngwaith yn myned allan yn y nos i weddio, a hefyd am fy ffyddlondeb i gwrdd y bobl ifanc. Ond nid oeddwn yn gallu dweyd fy awydd wrth neb, ac yr oedd cynifer o ddynion ieuainc yn dechrau pregethu y pryd hwnnw, fel y tybiwn nad oedd yr hen bobl yn fodlon i minnau hefyd ganlyn y lliaws. Pan yn edrych yn ôl ar fy awydd i ddechrau pregethu, a cheisio holi pa beth a gyfrifai am dano, credaf fod ynof yr adeg honno, ryw gymaint o awydd am wneud daioni a gwasanaethu Duw. Ond yr wyf yn berffaith sicr o un peth arall, sef fy mod am adael y lofa. Blinid fy mywyd yno, teimlwn yn barhaus fel un mewn caethiwed. Hiraethwn am yr haul a'r caeau, ac am gyfle i ddarllen, ac nid oedd fesur ar fy nedwyddwch brynhawn Sadwrn wedi gorffen â'r lofa tan fore Llun! Yr oedd nos Sadwrn fel gwyliau', a'r Sul yn ddarn o'r nefoedd ar y ddaear. Nodais, ymron ar ddechrau fy nodion, fod cysgod y lofa yn fy mhruddhau, hyd yn oed ar y Sul. Yr oedd felly hyd nes i mi ddechrau cymryd rhan yng ngwaith y capel, a dechrau cyfeillachu â Mr. Michael Thomas.
Yn yr adeg hon cuthum i a Michael Thomas yn gyfeillion. Byddem yn cyfarfod bob nos Sadwrn—i ddarllen barddon— iaeth, ac i freuddwydio am bregethu. Treuliasom gannoedd o oriau, mi dybiaf, ar gaeau Ystrad Owen, wanwyn a haf, ac yn y tŷ ger y tân yn y gaeaf. Mynychai ef a minnau yr Ysgol Sul yn gyson yng nghapel Cwmllynfell, canys yr oedd yr Ysgol Sul ar hyd y tai erbyn hyn wedi gorffen ei gyrfa. Ein hathro oedd Mr. William D. Price, gŵr crefyddol, llenor, a hoff o'r Ysgrythur. Brawd ydoedd i Ap Ionawr, un o feirdd gorau Cwmllynfell. Gŵr o ddychymyg beiddgar, ac o feddwl cryf. Ysgrifennais yn lled helaeth arno i'r "Geninen ". Nid oedd William yn gymaint o fardd â'i frawd yr Ap', ond yr oedd, fe ddichon, yn fwy o athronydd, ac yn teimlo diddordeb mawr mewn pregethu a diwinyddiaeth, ac esbonio'r Gair. Athro rhagorol ydoedd, a bu yn gymorth i'm dysgu i ac eraill deimlo diddordeb yn yr Ysgrythur, a chael mwynhad mewn esbonio.
Yma hefyd, cyn myned ymhellach, y dylwn ysgrifennu gair am fy hen gyfaill, Michael Thomas.
Daeth yr adeg i ni i ymadael â'n gilydd ar fy mynediad i i Ysgol Llansawel, fel y caf sylwi cto. Euthum i i'r ysgol geisio porthi dyhead mawr fy nghalon, gan ei adael ef yng nghlofa Bryn Henllysg—ac i rodio'r hen lwybrau heb fy nghwmni. Hiraethai yntau am ddod i'r ysgol, ond rhaid oedd iddo ar y pryd gynorthwyo ei rieni yn eu hamgylchiadau cyfyng. Cafodd yntau'r ffordd yn rhydd i fyned i'r ysgol. Cyrhacddodd Lansawel wedi fy ymadawiad i i'r Bala. Ond yn sydyn gadawodd yr ysgol, ac aeth i Fargoed at ei chwaer, ac yn ôl i'r lofa yno! Sym— udodd i Merthyr Vale; ail ddechreuodd bregethu yn gynorthwyol. Daeth yn ei flaen yn ei amgylchiadau, nes dod yn brif glerc cwmni glofaol. Daeth yn gyfoethog. Daliodd yn ffyddlon i Fethania, Merthyr Vale, gan bregethu yn achlysurol, a gwasanaethu swydd diacon yno. Bu'n cithriadol garedig i blant ei chwiorydd. Arhosodd yn hen lanc ar hyd ei ocs. Buom gyda'n gilydd, ef a minnau, am wyliau yn y Canary Islands—ac ail fyw yr hen amser— oedd. Hunodd tua diwedd 1928, ac euthum o Lundain i'w angladd, cefais siarad gair yn y capel, a gwelais osod ei gorff yn y ddaear, tan bren byth—wyrdd, ar ar fin y ffordd yng Nghladdfa Merthyr Vale. Yr wythnos ddilynol yr oeddwn i yn rhodio'r hen lwybrau yn yr hen ardal, a golau'r lloer yn disgleirio ar y gweunydd a'r caeau. Deuai rhyw iasau drosof wrth gofio ei fod yn gorwedd mewn gwely mor oer, dan leuad mor siriol—a minnau fy hunan ar yr hen lwybrau. Fe'm collais fy hun am rai munudau yn llwyr, tua naw o'r gloch y nos, ar y Cotia Mawr, wrth ymddiddan ag ef—ac yntau yn cysgu mor drwm. Ffarwel gyfaill mwyn. Siomedig a fu dy yrfa—eithr cedwaist dy ysbryd yn felys, a buost ffyddlon i'th gyfeillion i'r diwedd.
Cymdeithas gyson â Michael Thomas, a siarad ag ef ddydd a nos am bregethu a llyfrau; hefyd dylanwad fy athro William Price, a holl waith yr Eglwys yng Nghwm— llynfell, a feithrinodd ynof y duedd a'r awydd am bregethu. Ond gogyfer â mynd i bregethu, rhaid oedd (yn ôl arfer y cyfnod hwnnw) myned i ysgol a choleg, wedyn eglwys. Nid hawdd i mi oedd myned i'r un ysgol, gan mai myfi oedd yr unig fachgen erbyn hyn gartref gyda'm mam weddw a'm chwaer. Oblegid hyn deuai gofal tyddyn y Ddôl Gam arnaf yn raddol—ac yn hynny fy rhwymo wrth y byd. Ond nid oedd gennyf ddim diddordeb yn y tir na'r fferm, na'r gwaith. Ysgol a phregethu a llenydda oedd fy mryd. Yn sydyn agorwyd y drws i mi i gychwyn i'r ysgol, megis heb yn wybod i mi, ac i fod weddol onest, rhaid nodi rhai pethau yn y bennod nesaf.PENNOD V
MYND I'R YSGOL. DECHRAU PREGETHU
YR oeddwn yn gohebu'n gymharol gyson â llanc o berthynas agos i mi oedd wedi gadael Cwmllynfell, ac yn gweithio yn Nantymoel. John Gnol oedd ei enw'r pryd hwnnw. Daeth yn adnabyddus wedyn i'r holl enwad fel y Parch. J. D. Jones, Cellan. Nid os yr un o'r llythyrau ar gael gennyf, ond cofiaf yn dda, mai llenyddiaeth a phregethu oedd yn llanw'r llythyrau o bob tu. Un bore, dyma'r newydd fod John wedi dechrau pregethu! Fore arall, dyma'r newydd ei fod yn myned am Sul i Rock, Cwmafon! Yr oedd hyn yn llethol o swynol i mi. Wedyn dyma'r newydd ei fod yn myned i'r ysgol ddechrau Mawrth, 1885. Dywedais wrth fy mam, a chrygni a chryndod yn fy llais, fod "John Gnol yn myned i'r ysgol i Lansawel ymhen ychydig ddyddiau. Atebodd hithau ar unwaith y cawswn fyned gydag ef—"Tyse dim ond am gwarter!" Yr oedd "cwarter o ysgol" yn beth lled gyffredin yr adeg honno. Ymadewais a'r lofa ddiwedd Chwefror, 1885, ac euthum i Ystalyfera i brynu rhyw bethau at y "chwarter ysgol", a bore Llun—y cyntaf o Fawrth, 1885—ychwynais a'm bocs i orsaf Brynaman, ac yr oedd John Gnol yno yn fy nghyfarfod, ac i ffwrdd â ni gyda'r trên i Lan Deilo, ac oddiyno mewn cerbyd, a elwid y pryd hwnnw yn 'gambo', o Landeilo i Lansawel, yng nghanol Sir Gaerfyrddin. Cymerth y daith ryw bedair awr, er nad yw ond rhyw ddeg milltir o ffordd, eithr symud yn araf yr oedd gambo'r felin. Cyraeddasom dŷ y Prifathro—y Parch. Jonah Evans, Willow Cottage, gŵr a wnaeth waith rhagorol iawn fel gweinidog cynorthwyol yn Sir Gaerfyrddin. Cerdded a wnâi ef i bob man; yr oedd yr heol yn fath ar ail gartref iddo. Cerddai i Sir Aberteifi i bregethu, a phregethu ar y ffordd, ac yn y diwedd bu farw ar yr heol, ger llaw Llanbedr, pan yn agosau at ei 60 oed.
Cofiaf fy mod wedi gyrru gair iddo, fy mod yn dyfod ato i'r ysgol gyda Mr. J. D. Jones o Nantymoel. Nid oeddwn wedi cael amser i ohebu ag ef, a threfnu llety. Nodais yn fy llythyr os na ellwch drefnu fy nerbyn i'ch ysgol yn awr, gallaf ddod nôl adref—gwn hyd a lled. hynny Cefais i a John letya yn Willow Cottage. Ni chaf dynnu darlun o'r ysgol yma, ragor na dweud, mai adeilad perthynol i'r Eglwys sefydledig oedd y "tŷ ysgol"; hen adeilad digon bregus, a'r ffordd o gyfrannu addysg yn hen ffasiynol a di-drefn. Dysgem rifyddiaeth, Lladin a Saesneg, ryw gymaint, Euclid, Algebra, Hanes a Daearyddiaeth, ond y cyfan yn dra elfennol a di-lun. Yr oedd yr athro yn hollol gydwybodol, ac yn weithiwr caled ei hunan, ac am i'r myfyrwyr weithio, ac yr oedd yn ŵr Duw yn ddiamau. Ond nid oedd ganddo nemawr ddawn i hyrwyddo dyn ifanc i wir ddiwylliant. Ond mwynheais flwyddyn yn Llansawel yn fawr iawn. Mor ddymunol oedd y wlad, a'i bryniau, a'i hafonydd. Pan ddaeth gwanwyn yr oedd y côr yr adar yno yn fy synnu—yr oedd y gogoniant yn lluosocach na'r côr arferol ar goedydd anaml y Mynydd Du. Yr oedd cymdeithas y bechgyn hefyd yn ddifyr eithriadol, ac yn agor byd newydd i mi, er i mi gweryla ag un neu ddau. A rhyfedd fel y mae olion hen gwerylon yn aros. Er i ni faddau i'n gilydd, a dyfod yn gyfeillion, eto fe erys rhyw oerfel bach, a diffyg gwir hoffter yn nyfnder y galon o hyd. Dichon ei bod yn glawio yn Llansawel, ond erbyn heddiw, dim ond y dyddiau têg a gofiaf i—dyddiau â'r haul ar y bryniau, a'r hwyr a'r nawn yn goch o hyd.
Ond beth am y "chwarter" ysgol. Nid wyf yn meddwl bod blaenoriaid Eglwys Cwmllynfell yn awyddus iawn am i mi ddechrau pregethu. Yr oedd amryw wedi dechrau yn ystod y blynyddoedd hynny, ac edrychid arnaf innau fel un am ddilyn y lliaws, ac fel un yn chwilio am "orchwyl ysgafnach na gweithio". Edrychid ar y Weinidogaeth gan lawer fel "swydd segur ". Fodd bynnag, wedi i mi fod tua thri mis yn Llansawel, ac yn cymryd rhan yn barhaus yn y cyfarfod gweddi a'r seiat, un nos Sul—nos Sul o wanwyn hyfryd, a haul yr hwyr yn llanw'r capel, gofynnodd y gweinidog, y Parch. D. B. Richards, i mi ddechrau'r oedfa iddo. Dywedais wrtho nad oeddwn yn bregethwr, ond nid oedd hynny'n ddigon o reswm, gwasgai arnaf i wneud. O'r gorau," meddwn i, "ond af i ddim i'r pulpud, ni fum i mewn pulpud erioed ". Na, na, ewch i'r pulpud," meddai yntau, ac yno yn grynedig yr euthum i'r pulpud y tro cyntaf erioed—pulpud Siloh, Llansawel. Yna, bu Mr. Richards a'm hathro Mr. Evans yn siarad â mi ynglŷn â dechrau pregethu, er mwyn myned allan i'r teithiau fel y myfyrwyr eraill. Nodais innau mai yng Nghwmllynfell yr oeddwn yn aelod ac mai yno y dylaswn ddechrau, ond nad oedd neb wedi gofyn i mi. Ysgrifenasant—Mr. Richards a Mr. Evans, lythyr at y Parch. J. Rees i ofyn a oedd Cwmllynfell am i mi ddechreu pregethu, neu eu bod hwy yn Siloh yn myned eu i ofyn i mi. Canlyniad hyn fu, i mi gael llythyr caredig oddiwrth Mr. Rees yn gofyn i mi ddod adref at y Cwrdd Paratoad a rhoddi pregeth yno, a llythyr yr un pryd oddiwrth William Price, fy athro yn yr ysgol Sul, yn cyfleu yr un neges, ac yn awgrymu testun i mi "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw ". Ysgrifennais bregeth ar unwaith ar y testun, heb weled esboniad na darllen dim ar yr adnod ; dysgais hi ar fy nghof, adroddais hi allan ar y bryn uwchlaw Llansawel, o'r naill du i Llwyn Plufyn. Euthum adref, ac i'r cyfarfod paratoad, gan adrodd y 'bregeth air am air heb golli gair. Siaradodd Mr. Rees yn ffafriol iawn ar y diwedd. Cynhelid y Cyfarfod Paratoad ar nos Sadwrn. Y Sul dilynol gofynnwyd i mi gymryd at y Sul ymhen yr wythnos, fore a hwyr. Cofiaf mai wythnos go galed fu hon, ond deuthum drwyddi. "Na thralloder eich calon" oedd un o'r testunau. Cyn cychwyn o'r Ddôl Gam bore Sul, dywedodd fy mam na allasai hi ddyfod i'r oedfa, ond gofynnodd i mi ddarllen Salm iddi cyn cychwyn; gwyddwn ei bod hithau'n gweddio. Dyna, fy machgen i, fe fydd popeth yn dda". Aeth y Sul heibio, ac euthum innau drwy'r ddwy oedfa—ac yn ôl i Lansawel fore Llun. Ym mhen wythnos cefais air swyddogol yn fy hysbysu fod yr Eglwys yng Nghwmllynfell wedi pasio'n unfrydol i'm galw i bregethu. Cefais air hefyd oddiwrth Michael Thomas yn nodi fod y rhai nad oeddent yn gymeradwyol i mi, wedi codi eu dwylaw drosof.
Bellach, rhaid paratoi at Goleg. Ceisiai fy athro gennyf fyned i Gaerfyrddin, ac awgrymodd y gallaswn gael B.A. ac M.A. dim ond i mi osod fy mryd ar hynny. Ni allswn innau gredu bod y fath beth bosibl. Peth arall, yn y Bala y bu William fy mrawd—(un o angylion gwarcheidiol fy mywyd yn y cyfnod hwnnw). Ac yr oedd swyn mawr i mi yn yr Hen Gyfansoddiad ", Bodiwan,— M. D. Jones, yr Riaid ", a minnau wedi darllen cymaint ar y "Celt" a'r "Cronicl bach. Nid oedd modd fy mherswadio i feddwl am Goleg arall. Paratoi felly at y Bala.
Myned allan i bregethu bob Sul,—Crugybar, Carmel Llansadwrn, Abergorlech, Gwernogle, ac weithiau mor bell a St. Clears ar un llaw, a Phentre Tŷ Gwyn ar y llaw arall. Cerdded fel rheol. Cerddais un tro o Sardis Myddfai i Lansawel wedi'r oedfa nos Sul, gan gyrraedd fy llety yn oriau'r borc. Fy nhaith gyntaf oedd i Gwern-ogle, yno y pregethais gyntaf oddicartref. Gwernogle'r bore a Llidiardnennog y prynhawn, a cherdded i Lansawel yn lle oedfa'r hwyr. Tâl myfyriwr am Sul yn eglwysi'r wlad oedd pedwar neu bum swllt, weithiau chwech ac wyth. Mawr oedd parch yr ardaloedd i fechgyn yr ysgol—"bechgyn Jonah". Deuthum yn ffafryn yn Eglwysi Capel Nonni a Drefach, a chefais lythyr dan law Dr. Williams i'm cymeradwyo i'r Bala.
Euthum i a John Gnol i sefyll arholiad y Bala ym mis Mawrth, 1886, wedi blwyddyn o ysgol baratoi. Taith nodedig o ddiddorol oedd honno. Torri tir newydd bob llathen wedi gadael Llanbedr Pont Stephan. Trên hamddenol y Manchester & Milford. Digon o hamdden i weled y caeau, a disgyn yn y gorsafoedd. Trefnasai y Parch. G. Parry, Llanbadarn i mi dreulio'r Sul cyn yr arholiad gydag ef. Daeth i'm cyfarfod i orsaf Aberystwyth. Pregethais yn ei le deirgwaith y Sul, ac yntau yn gwrando arnaf. Yn Llanbadarn fore a hwyr, ac yn y Comins Coch y prynhawn. Siaradodd yn galonogol iawn â mi. Cofiaf yn dda am y ddyletswydd deuluaidd, a Mrs. Parry yn drwm ei chlyw, a minnau'n gweddio i'r "corn du". Dyna un o'r cartrefi mwyaf defosiynol y bum erioed yn lletya ynddo. Ac er i'r "corn du" fy nharo yn chwithig nos Sadwrn, fel na wyddwn yn iawn pa fodd i weddio megis ag y dylwn, bu lletya yno yn fendith fawr i mi, a gwnaeth les i ysbryd un a oedd yn dechrau gwamalu yn ymyl gwaith mor bwysig. Yna, cyfarfod â'r ymgeiswyr yn Aberystwyth fore Llun, nifer ohonom. Mr. Parry wedi nodi ar fap pa le i newid—"Glan Dyfi, Barmouth Junction, Bala Junction (perhaps!)". Y fath ramant oedd pasio Towyn, a Dolgellau, ac yn enwedig Llanuwchllyn,— hen gartref Michael Jones, (nid oedd O.M. y pryd hwnnw wedi gwisgo'r lle ag anfarwoldeb newydd, er ei fod yn gwau'r fantell). Rhyfeddwn weled y lle mor fach a syml. Canu cryn lawer ar y ffordd i ddifyrru'r cyfeillion, ac i guddio'r pryder; yna gyda glan y llyn—drwy'r Junction i'r Bala.
Cael croesaw mawr gan y myfyrwyr. Trefnwyd i mi letya yn Aran House, ar y ffordd tuag at y llyn. Cynhelid yr arholiad yng nghapel yr Annibynwyr. Un-ar-bymtheg yn ymgeisio, a derbyn pedwar. Digwyddais fod ar ben y rhestr yn weddol rwydd. Rhaid oedd aros yno a dechrau'r gwaith heb oedi. Gorfu i John droi adref, a'm hen gyfeillion oll, a gadawyd fi gydag estroniaid.
Yn y Pwyllgor, lle derbynnid fi yn un o fyfyrwyr y Coleg, galwyd y myfyrwyr llwyddiannus i'r sedd nesaf at y sedd fawr. Dacw'r pedwar truan crynedig yno gerbron eu gwell. Pwy ydynt Y Parchn. Peris Williams, E. J. Lloyd (Llandudoch), a W. Milton Aubrey, a minnau. Gelwir y Prifathro M. D. Jones i'n hannerch. Dyma'r tro cyntaf i mi weled Michael Jones. Yr oedd dau ryfeddod mawr i mi yng Ngogledd Cymru oddiar dyddiau fy mhlentyndod, sef Michael Jones a'r Wyddfa! Dyma weled "Michael" cyn gweled yr Wyddfa. Dillad cartref, côt o frethyn gwlad, clôs penglin, hosanau gwlân, esgidiau trymion a sâm arnynt, a hoelion danynt. Ffon fawr yn ei law, ac yntau yn gafael o fewn rhyw naw modfedd i'r bach ar ei phen uchaf, barf wen—llaes, fel barf Aron; llygaid byw chwareus yn awgrymu direidi lawer; talcen uchel, llawn, a'r gwallt yn brith—ddianc. Gan mai myfi a ddigwyddai fod ar ben y rhestr, edrychodd arnaf gan geisio bod yn llym, a gofynnodd braidd yn arw—" A ydych chwi yn ysmocio nawr: Nac ydwyf. A ydych yn yfed diodydd meddwol? Nac ydwyf. Dyna'r ddau gwestiwn a gefais i, a'r unig ddau. Yr oeddwn wedi paratoi Efengyl Marc yn lled fanwl, a Todd's Student's Manual ond ni fu sôn am danynt. Yr un cwestiynau hefyd a gafodd pob un o'r lleill, ac atebodd pob un yn yr un geiriau. Ac oddiar hynny hyd yn awr, ni fu fawr o lun ar neb o honom fel' ysmocwyr' nac fel yfwyr gwirodydd meddwol. Wedi'r cwestiynau hyn, galwyd Pedrog i draddodi anerchiad. Dyma'r tro cyntaf i mi ei weled yntau, a chofiaf ei fod yn edrych yn urddasol iawn, a mawr oedd y swyn i mi yn ei darawiadau barddonol. Cofiaf ei fod yn sôn am ryw ddarlun yn gosod allan "ragrithiwr ", angel, a chythraul yn ysbio dros ei ysgwydd!
PENDERFYNIADAU
Ar ddechrau fy mywyd Colegol yn y Bala, Gorffennaf 15, 1886—[2]
[1] Byw yn dduwiol; ymdrechu cadw o bob cwmni o chwaeth isel; gochelyd ymddiddanion llygredig; darllen cyfran o Air Duw yn ddyddiol; gweddio llawer; gwneyd fy ngorau ym mhob man ac ar bob amgylchiad i feithrin ac i gadw fy nheimladau crefyddol.
[2] Bod fy ngwersi i gael sylw dyladwy ond mai gwell i mi fod y wers heb ei gwneyd na bod fy nghorff wedi ei ofer—weithio wrth ei gwneyd.
[3] Bod fy iechyd i gael llawer o'm sylw, yn neulltuol y pethau canlynol—bwyta bwyd plaen a maethlon, codi yn forau, ymneulltuo i orffwys yn gynnar, cerdded llawer bob dydd.
[4] Byw bywyd tawel; peidio codi cynyrfiadau na dweud dim yn ddrwg am neb, a dioddef cam yn hytrach na gwneyd llawer o gynnwrf; byw yn annibynnol fel pe digwyddai i gyfaill droi'n anffyddlon y medrwn fyw arnaf fy hun; ceisio f'adnabod fy hun yn y gwahanol fannau a lleoedd y byddaf yn ymwneyd â hwy; rhoddi fy hun yn fodlon yn y gwahanol amgylchiadau gan ymddiried yn y Brenin Mawr.
[5] Bod pregethu i gael fy sylw manwl a difrifol; a phenderfynaf os oes i mi iechyd, cadernid corff a meddwl, ddyfod yn ddyn defnyddiol yn y byd, yn ddylanwadol yn y pulpud ac allan ohono; fod beth i ddweyd a sut i ddweud yn cael ei gadw mewn rhyw gilfach o'm meddwl yn barhaus; dyfod yn ddyn yn y cyfeiriad hwn ydyw fy nod ac nad oes dim methu ei gyrraedd i fod os na fetha'r corff neu'r meddwl ac er mwyn cyrraedd y nod hwn y ffurfiwyd ac y ffurfir pob penderfyniad" o'm heiddo; er mwyn cyrraedd y nod ymdrechaf i gadw fy nghymeriad yn loyw, i feithrin teimladau tyner yn y fynwes,—teimlo dros druenus gyflwr y byd digred; ymeangu fy ngwybod— aeth yng nghanghennau mwyaf defnyddiol dysgeid— iaeth; defnyddio pob moddion yn fy ngallu er cael corff cryf, a meddwl parod, a byw bywyd megys gyda Duw mewn gweddi; gan gofio yr un pryd mai amcan y nod fydd gogoneddu Duw fy Nghreawdwr ac ymgais o geisio gwneyd rhyw ychydig dros yr Hwn aeth drosof fi yn "Angau i angau", er fy nghael fy hun ac eraill i afael y cadw tragwyddol ".
Ben Davies, Gorff. 15, 1886. Coleg Annibynnol y Bala, Meirionethshire.
Trefnwyd i mi letya yn Aran House, gyda Mrs. Jones, merch y Tŷ Isa', ger y Bala, hi'n briod â Mr. Jones—perchen peiriannau dyrnu. Cefais yno gartref heb ei ail fel llety am ddwy flynedd. Blin gennyf heddiw am ryw bethau a ddigwyddodd yno, oblegid gormod cyfeillgarwch. Nodaf un. Yr oedd Mr. Jones yn teimlo diddordeb mewn barddoniaeth, ond nid oedd ganddo fawr o law arni. Byddwn innau weithiau yn gwneud penillion iddo, ac unwaith englyn i'r Apostol Paul', a daeth hwnnw allan yn fuddugol yn Eisteddfod Ysgol Sul y Capel Mawr, Bala—a Mr. Jones yn derbyn y wobr, fel awdwr yr englyn! (Mewn blynyddoedd diweddarach, gwneuthum yr un ffolineb,—rhoddais englyn i ffrind, a daeth yr englyn hwnnw'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.)
Yr oeddwn yn mwynhau gwaith y Coleg yn fawr iawn, a'r wlad o amgylch y Bala deg, yr afon a'r llechweddau. Breuddwyd oedd bywyd yma. Misoedd yng ngwlad hud. Mor wahanol i'r lefel uchaf yng nglofa Bryn Henllys!
Bum am fisoedd heb bregethu o gwbl—llu o fyfyrwyr yn y Bala, a'r cyhoeddiadau'n brin. Er bod llawer o eglwysi bychain hyd Meirion ond "beth oedd hynny rhwng cynifer", a chan ein bod yn gorfod ein cynnal ein hunain am y chwech mis cyntaf, âi'r arian yn llai o fis i fis, ond ni welais i waelod y celwrn blawd ychwaith! O'r diwedd, cefais gyfle i fyned allan i daith bregethu, ac y mae'r manylion mor fyw ar fy nghof heddiw, fel y gallwn ysgrifennu'r holl hanes. Ond rhaid talfyrru. Gadael y Bala yn gynnar nawn Sadwrn ym Mai, 1886, gyda'r trên i Gorwen, yna gyda'r trên i Eyarth a disgyn yn Nyffryn Clwyd am y tro cyntaf yn fy oes! A Mai ar y llechweddau, yn y coed ac ar y caeau a'r creigiau calch. Croesi'r cae i bentref Llanfair, a throi ar y chwith, gan ddilyn y map a roddesid i mi rhag colli ohonof y ffordd. Ymlwybro am gryn amser rhwng y meysydd, ac yna yn dechrau dringo'r llechwedd, ac allan i fynydd. Ac oddiar lechwedd y mynydd yn gweled Dyffryn Clwyd ar ei hyd—o fryniau hyd for. Croesi drwy lafn yn y Mynydd, a'r Foel Famau gerllaw, a disgyn gyda'r nos i bentref Llan— armon yn lal! Galw, yn ôl y cyfarwyddyd, yn y felin, gyda hen frawd o'r enw Bleddyn, a chael fy nghyfeirio yno tua'r Graianrhyd. Cofiaf y noson gyntaf hon oddicartref ar daith bregethu yng Ngogledd Cymru yn fyw iawn. 'Seth' oedd enw'r gŵr. Deallodd ef a'i briod yn bur fuan fy mod yn dyfod o'r De, a bu ymddiddan rywbeth tebyg i hyn. Y wraig yn gyntaf.
"Ac yr ydych yn dyfod o'r South, ynte?"
"Ydwyf."
"A ydych yn adnabod Mr. Hough ni"
(Gweinidog Llanarmon a'r cylch, a oedd newydd symud i Ynysgau, Merthyr).
"Nac ydwyf, ond gwn am dano yn dda. Y mae yn weinidog ym Merthyr."
Ddim yn adnabod Mr. Hough a chwithau yn dod o'r South, ac yn y South y mae Merthyr."
"Ie gwir, ond nid wyf yn adnabod Mr. Hough."
"Rhaid fod y South ene yn lle mawr iawn y mae yn fwy na Graianrhyd yma dece ni!"
Yna torrodd Seth ar yr ymddiddan, yr oedd ef newydd ddychwelyd o'r Wyddgrug, ac ôl glasied neu ddau arno.
Ddynes-be ych chi'n son: Y South yn lle mawr? Yn fwy na Graianrhyd? Be chi'n sôn P Mae tair sir ar ddeg yng Nghymru, ond y mae'r South yn fwy na nhw'i gyd gyda'i gilydd!
Pregethu yn Graianrhyd y bore, ac yn y Blaenau y prynhawn, a chael te ym mhentref bach Rhyd Talog, gyda'r hen frawd Robert Williams, ac yn gwneud sylw wrth roddi ei law i'm cynorthwyo i wisgo fy nghôt fawr. Mae'r gôt yma yn cadw yn go lew, ac ystyried ei bod wedi ei gwisgo gan gynifer o honoch chi stiwdents y Bala". Gwnaeth sylw cyffelyb wrth lawer un arall. Myned i Lanarmon yr hwyr, a chysgu yn Bryn yr Ogof, a chroesi 'nôl dros y mynydd bore trannoeth i orsaf Eyarth yn Nyffryn Clwyd, a thrwy Gorwen i'r Bala. Erys y daith yn ddarn o ramant yn fy meddwl hyd heddiw. Yr oedd Llanarmon yng nghanol Rhyfel y Degwm ar y pryd. Yr oedd gŵr ifanc yn gwrando yn astud arnaf nos Sul, a chefais lawer ymgom ag ef yn ei lety wedi hynny. Yr oedd ar y pryd newydd ymsefydlu yn yr ardal fel ysgolfeistr; teimlai ddiddordeb mawr yr adeg honno mewn llyfrau, a choed a blodau ac adar. Y mae ei enw erbyn heddiw yn eiddo cenedl—R. Morgan, M.A., a'i lyfrau ymhlith trysorau'r iaith.
Cefais yn fuan wedi hynny fyned i'r Graig Fechan a'r Pwllglas, a Soar a Jerusalem, ger y Wyddgrug, ac ni fu prinder Suliau arnaf wedyn. Byddai dau gyhoeddiad gennyf yn aml ar y Sul—un i mi fy hun, ac un i'w roddi i gyfaill. Nid oes achos manylu dim ar beth fel hyn, ond daeth cryn alw am fy ngwasanaeth, a bum yn alluog i'm cynnal fy hun tra yn y Coleg.
Pregethais yng Nghaer a Lerpwl, ac yn holl siroedd y Gogledd, gan fyned cyn belled â'r Trallwng ym Maldwyn, a Llaniestyn yn Arfon. Bu fy nhaith gasglu gyntaf yn Sir Gaernarfon, a'r ail yn Sir Drefaldwyn. Byddai rhoddi hanes manwl o'r teithiau hyn yn ddigon o lyfr, ond ni roddaf ddim ond ychydig o'r argraffiadau. Ar ddiwedd yr oedfa bore Sul yn Ebenezer Bangor, daeth gŵr wyneb agored dan gnwd o wallt golau i siarad â mi, a gwên hawddgar, hamddenol, gan fy nghyfarch wrth fy enw "Ben". Ai Dafydd sydd yma," meddwn innau." "Ie" cbai yntau. Fy mrawd ydoedd. Nid oeddwn wedi ei weled oddiar pan oeddwn yn llanc-nac yntau wedi fy ngweled innau. Acthai i'r Wyddgrug tua deg mlynedd yn flaenorol i hyn, priododd yno, a throdd ei briodas allan yn anghysurus ymadawodd â'i briod, ac aeth allan i Awstralia, ac ymhen rhai blynyddoedd dychwelodd yn ôl, ac ysgrifennodd atom ei fod ym Mangor. Bwriadwn innau fyned ar ymchwil am dano ddydd Llun, ond cafodd ef y blaen arnaf, drwy ddyfod i Ebenezer bore Sul. Ym Mhen y Dref yr ymaelodai. Symudodd o Fangor i Rhyl. Ysgrifennodd donau ac emynau. Ysgrifennodd lawer i'r papurau. Bu farw yn ddiweddar, a chladdwyd yn y Rhyl. Brodyr o'r un tad oeddem, ac nis magwyd ar yr un aelwyd. Cyfrifai hynny i raddau am y dieithrwch. Ond wedi'r cyfarfyddiad ym Mangor, bu'r gyfathrach yn ddifwlch hyd y terfyn.
Cofiaf ryfeddu at lynnoedd a chreigiau Llanberis, a phrydferthwch dihafal Bettws y Coed. Meddylier am oedfa noson waith i fyfyriwr yn Nhrefriw, a chynulleidfa dda, a'r myfyriwr yn cerdded trannoeth o Drefriw i'r Bettws gan orffwys a rhyfeddu ac addoli dan y coedwig- oedd. Nid oedd fandaliaeth wedi rhoddi ei fwyell ar y coedwigoedd yr adeg honno. Sul ym Mettws y Coed a chroeso mawr yn un o'r gwestai, a phrydferthwch y fro'n fy meddwi ymron. Dringo i fyny'r creigiau, a chroesi i gyfeiriad Dolwyddelen gyda'r Parch. T. Evans, gweinidog. Gadawodd ef Bettws y Coed yn fuan wedi hyn, a bu yn gweinidogaethu yn America, ac yno y bu farw. Byddem yn "casglu " Ffestiniog ar y Suliau o'r Coleg, fel nad oedd angen gwneud taith yno yn ystod yr wythnos. Cofiaf alw i weled y Parch. W. Pari Huws, B.D. wrth ddychwelyd ohonof o Dolwyddelen, ef newydd ymsefydlu yn Bryn Bowydd, ac ychydig flynyddoedd cyn hynny wedi ennill cadair Tredegar am ei bryddest ar Obaith", ac am hynny yr oedd swyn dirfawr i mi, mewn cael golwg arno, a gweled ei ystafell eang, a'i lyfrau lu, a gwrando ei frawddegau pert, bachog. Ymddug yn garedig a brawdol iawn ataf, ac yr wyf wedi parhau yn edmygydd ohono ar hyd fy oes.
Bu fy ail daith gasglu yn Siroedd Fflint a Maldwyn, gan ddechrau yn New Market gyda Mr. Thomas—y gŵr cloff o'r Alltwen. Cofiaf gael oedfa luosog noson ganol wythnos yn y Waen—ysgor a lletya mewn siop yno, a myned allan am dro i'r bryn gerllaw bore trannoeth gyda rhyw un oedd wedi galw am danaf, a chael allan cyn hir fod y brawd yn dioddef oddiwrth wendid ysbryd ar adegau. Mynnai osod pob llwyn o eithin ar dân a pharodd i mi gryn ddychryn. Melys fu cymdeithas Mr. James, y Sarn, a phregethu yn yr wythnos eto yn Sarn a Llwyn Helig. Cael bwyd a chysgu gyda Mr. James mewn llofft lom, a byw ar damaid lled gyffredin. Myned am dro gyda glan y llyn a thrwy'r coed, ac yr oedd rhyw ferch o un o drefi Lloegr wedi galw i weled Mr. James, a chyfeilles gyda hi. Gyda hwy yr aethom am dro at y llyn, a mynnai Mr. James i mi gerdded gyda'r ferch o Loegr, ac yntau gyda'r llall, oedd yn llawer ieuengach. Hen lanc ydoedd, ond yn hoffi cwmni merched ifainc, ifainc—gan adael rhai hŷn i fyfyrwyr. Parhaodd yn hen lanc ar hyd ei oes.
Daeth y daith â mi i Bontybodcin, ac yr oedd llythyr o Fwlch Gwyn yn fy nghyfarfod yno, ac yn gofyn a fuaswn yn gallu dyfod yno nos Lun i "gadw sciat". Yr oedd nos Lun yn digwydd bod yn wâg gennyf, ac i ffwrdd â mi brynhawn Llun, dros y relwe heibio Penuel, a thrwy bentref y Ffridd, ac i fyny Nant y Ffridd—un o'r cymoedd mwyaf tlws yn yr holl wlad, ac yn enwedig felly yr adeg honno, pan y llenwid pob ochr gan goedwigoedd bythwyrdd o frig y bryn a'r graig, hyd at fin y gornant yn y gwaelod. Daeth y Seiat, ac yr oedd brodyr o Landegla yno hefyd, a gwelais eu bod am roddi "galwad
galwad" i mi. Teimlad go ryfedd i fyfyriwr yw gweled "galwad" yn torri i'r golwg ar y gorwel. Dwywaith, hynny yw, dau Sul oeddwn wedi bregethu yno. Awgrymais iddynt aros ychydig, er mwyn i mi ymweled â hwy unwaith yn ychwanegol ac mai dim ond dwy flynedd oeddwn wedi fod yn y Coleg. Ond yr oedd arnynt ofn i rywrai eraill gael y blaen arnynt, meddent hwy. Rhoddais fy nghyfeiriad am y pythefnos nesaf i Mr. Wm. Roberts yr ysgrifennydd. Ymaith a mi i Faldwyn, a chefais daith nodedig iawn mewn mwy nag un ystyr. Pregethu i bedwar ar noson waith ym Mhenycoed, a chael croeso mawr yn y Ddraenen Ddu. Cael fy ngwrthod ymron yn hollol yn Llanidloes dim oedfa, na llety. Bu'r gweinidog yn angharedig er yn foneddigaidd, ac un o'r diaconiaid yn angharedig ac yn anfoneddigaidd. Ysgydwais lwch Llanidloes oddiwrth fy nhraed, a dychwelais y noson honno dros y bryn i'r Ddraenen Ddu, heb gael cynnig llety, na thanysgrifiad.
Daeth yn well arnaf ym Machynlleth. Gydag ofn y cerddais at ddrws y Parch. Josiah Jones, a minnau yn casglu at Goleg yr Hen Gyfansoddiad, ac yntau yn un o arweinwyr y Cyfansoddiad Newydd! Gyraswn gyhoeddiad o'm blaen yn ôl yr arfer, a dim cyfle i neb i ateb yn ôl gan ddweud nad oedd yn gyfleus, gan nad oedd gennyf 'gyfeiriad' yn y byd. Nid oeddwn yn gwybod yn ystod yr wythnos, pa le y byddwn yn trigo yr wythnos ddilynol. Aethai fy nghyhoeddiad at y Parch. Josiah Jones, ac ni chawsai gyfle i'm hateb. Euthum at ei ddrws, yn grynedig, fel y nodais,—drws y cefn! Cefais fy arwain i'r gegin. Yn fuan daeth Mr. Jones ei hun i'r gegin ataf, a chymerodd fi i ystafell hardd, eang, yn y ffrynt, lle yr oedd y teulu yn yfed tê, a rhai ymwelwyr hefyd. Cefais eistedd wrth y bwrdd tê. Yr oedd y merched yn siriol nodedig, a gallaswn feddwl mai dyna'r merched glanaf a welswn hyd yn hyn ym Maldwyn. Hysbysodd Mr. Jones fi, fy mod i gael pregethu, yn ôl fy nghais, ei bod yn "gyfarfod paratoad" ac y cawswn bregethu ond ar y telerau caeth, nad oeddwn ddim i ddweyd gair am y Coleg, na gofyn am gasgliad. Felly bu. Cefais oedfa ddymunol, a chynulleidfa ddallet y clyd, a chyfaill i'm harwain o gwmpas y dref trannoeth i gasglu tanysgrifiadau. Gelwais gyda Mr. Jones prynhawn trannoeth, a chanmolodd yr oedfa, ac awgrymodd y dylaswn fod yng Ngholeg Aberhonddu. Daeth Idris, ei fab, i'm hebrwng i gyfeiriad Cemmes Road, a mwyn fu'r ymgom.
Cyfarfum lawer gwaith a'r Parch. Josiah Jones mewn blynyddoedd diweddarach; cefais y fraint o letya yn ei gartref ar adeg "cyfarfod pregethu " yng Nghapel y Graig, ac ar adeg Cymanfa Maldwyn lawer tro, a dywedodd wrthyf fwy nag unwaith—"Mae'n dda gennyf na fum i ddim yn gas i chwi pan oeddech acw yn stiwdent". A phan yn ysgrifennu'r geiriau hyn, fe a ddigwydd fy mod bellach yn Gyn-Gadeirydd yr Undeb—a daeth i'm rhan i draddodi fy anerchiad o'r Gadair, yng Nghapel y Graig, Machynlleth!
"Casglu" yn ardal Llan Bryn Mair o dŷ i dŷ, gan dreulio wythnos yn y gymdogaeth i ymweled â'r gwahanol gymoedd. Nid oedd caniatâd i bregethu yno mewn capel nac ysgoldy. Ond pan ar ymweliad ag amacthdy Blacn-y-Cwm, gofynnodd gŵr y tŷ i mi, a fuaswn yn fodlon pregethu yn y tŷ, os y buasai ef yn casglu cynulleidfa i mi. Atebais yn gadarnhaol, wrth gwrs. Anfonodd yntau genhadon allan i'r holl gwm, a daeth cynulleidfa dda ynghyd, a phregethais innau yn y gegin. Y mae amryw yn fyw heddiw sy'n cofio'r oedfa. Yn lled fuan wedi hyn, cyfarfu'r hen ŵr â damwain ar y mynydd, a drodd yn angeuol iddo, drwy i darw ymosod arno.
Bum ym Mlaen-y-Cwm wedi hynny, ar wahoddiad caredig y mab, yn treulio diwrnod, ac aethom am dro dros y mynydd i Gwm Derwen i weled Derwenog. Cawsom y teulu ar y waun yn cynhaeafu gwair a'r Parch. T. E. Nicholas (y Glais), gyda hwy. Tra yn Llan Bryn Mair, lletywn yn y Tŷ Newydd gerllaw'r orsaf gydag un Mr. Owen—Hen Gyfansoddiad selog—ac wedi digio wrth y capel, a chadw draw. Nid oedd wedi bod mewn lle o addoliad ers blynyddoedd. Bum yno wedyn ar adeg cyfarfod pregethu' a thrachefn yn lletya gyda'i weddw mewn tŷ newydd gerllaw'r orsaf. Buont yn garedig iawn i lawer myfyriwr.
Gadewais Lan Bryn Mair bore Sadwrn gyda'r trên i Garno, a cherdded o Garno dros y llechwedd a'r mynydd i Llanfair Caer Einion! Nid oes gennyf syniad heddiw am y pellter, ond cofiaf i mi fwynhau'r daith yn rhyfedd, a da fyddai gennyf gael golwg ar ogoniant y llechweddau a'r bryniau hynny unwaith eto. Yr hydref oedd hi, a mil-mil lliwiau'r tymor ar fynydd a choedwig. Ofer manylu, ond cofiaf wedyn dlysni dihafal Meifod, a Main. Bûm ym Meifod wedi hynny mewn cyfarfod pregethu a Chymanfa'r Sir, ond ni fûm byth ym Main. Cofiaf ei fod yn gapel bach islaw heol gul wledig, a chyfaredd gwlad yn llawn o'i gylch. Ysgrifennaf y geiriau hyn ar fore Sadwrn, yng nghanol llwch Caledonian Road, Llundain—gan freuddwydio am dlysni dihafal Meifod a Main—dros ddeugain mlynedd yn ôl.
Fodd bynnag, yn Llanrhaiadr ym Mochnant y digwyddodd prif amgylchiad y daith i mi. Wedi cyrraedd fy llety yno nos Sadwrn, gwelais lythyrau i mi ar yr astell uwchben y tân. Un o Lerpwl oddiwrth Pedrog, yn gofyn i mi ddod i Kensington am Sul! Un arall oddiwrth Mr. W. Roberts, Bwlchgwyn, ac yn amgau i mi alwad unfrydol oddiwrth y ddwy Eglwys, Bwlchgwyn a Llandegla! Dyna gorwynt yn torri i mewn i fywyd myfyriwr ywgalwad'. Ceisiais gadw'r gyfrinach rhag fy lletywr, ond yr oedd ef yn hyddysg iawn yng ngalwadau myfyrwyr, a symudiadau gweinidogion, ac yn gwybod y dyddiadur ar ei gof, ac yn darllen "Y Celt"! Dywedais wrtho fy mod wedi derbyn galwad', a theimlodd yn siomedig i raddau am fod Llanrhaiadr am roddi 'galwad' i mi. Ar ôl i fyfyriwr gael un alwad' y mae un arall yn lled debyg o ddilyn. Daw 'galwadau' yn gawodydd. Deuthum yn ôl i'r Bala, ac ymgynghorais â'r Proffeswr T. Rhys, B.A.., a'r Prifathro M. D. Jones, ac â'r Parch. J. Rhys, Cwmllynfell, a'r canlyniad fu i mi ateb yr alwad yn gadarnhaol, ac ordeiniwyd fi yn Weinidog yn Nebo Bwlchgwyn, ym mis Mai, 1888. Gan fod darn o'm calon yn y trobwynt hwn yn fy mywyd, rhaid i mi draethu ychydig ymhellach ar yr hyn a'm' harweiniodd i dderbyn yr Alwad'.
PAHAM YR EUTHUM I FWLCHGWYN?
Nid oeddwn ond ieuanc—pedair ar hugain oed yr Hydref dilynol—ac anturio i gymryd gofal dwy eglwys! Nid oeddwn wedi gorffen fy nhymor yn y Coleg. Nid oeddwn wedi bod yno ddwy flynedd pan ddaeth yr alwad i law, ac yr oeddwn yn ymadael ar derfyn dwy flynedd a thri mis. Coleg bach syml y Bala, am ddwy flynedd, blwyddyn yn ysgol Jonah yn Llansawel, dyna'r cyfan o'm paratoad addysgol. Euthum o'r lofa i'r weinidogaeth ar ddim ond tair blynedd o baratoad. Rhy fach o lawer ymhob ystyr.
Pan ddeallodd fy athrawon—y Prifathro M. D. Jones a'r Isathro T. Rhys, B.A. (Bangor wedi hynny), fy mod wedi derbyn galwad, buont yn lled daer arnaf yn ceisio gennyf ei gwrthod. Dywedodd y Prifathro wrthyf y byddai ef yn fuan yn ymneulltuo, ac y byddai'r Isathro yn cymryd ei le—(yr oedd ar fedr dyfod yn fab-yng-nghyfraith iddo, ac felly y bu yn fuan)—yna y byddai'n rhaid cael Isathro, ac o'r holl fyfyrwyr, mai myfi oedd y tebycaf i ddyfod i'r swydd, ond y byddai'n rhaid i mi adael y Bala am dymor, a myned i'r Brifysgol yn Aberystwyth, a graddio, yna y buasai'r llwybr yn go debyg o fod yn rhydd i mi gael lle yn yr hen Goleg. Ni soniais am hyn wrth neb, ac nid wyf yn meddwl bod nemor neb yn gwybod am yr awgrym hwn hyd heddiw. Teimlwn yn ddiolchgar iawn i'm hathrawon am eu syniadau uchel amdanaf, a minnau, yn fyfyriwr mor sâl, ac ysgolhaig mor gyffredin. Bûm mewn cryn betrusder, a dyma rai o'r pethau a drodd y fantol:—
Nid oeddwn yn iach, ag i mi gymryd fy marn fy hun am danaf fy hun! Buasai brawd i mi—William Dolfab Davies, farw ar ddiwedd ei ail flwyddyn yn y Coleg, ac yr oeddwn yn ofni mai marw yn ifanc oedd i'm rhan innau; a braidd nad oeddwn yn rhyw obeithio hynny. Wedi myned i'r ysgol at 'Jonah', awyddus oeddwn i fyned i'r coleg, cyn gynted fyth ag y medrwn, er mwyn cael marw yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bala "—fel fy mrawd William. Yna, wedi myned i'r Coleg, a chael 'galwad', awyddus oeddwn i gael fy ordeinio' er mwyn cael marw yn weinidog! A myned â'm corff yn ôl i Gwmllynfell fel" Davies Bwlchgwyn a Llandegla
Peth arall, nid oedd dim sicrwydd yn y byd y buasai breuddwyd M. D. Jones yn dyfod i ben. Breuddwydiwr mawr oedd ef, ond ni ddeuai ei freuddwydion byth i ben. Pa sicrwydd oedd gennyf y buasai'r Athro T. Rhys yn cael ei ddewis yn Brifathro yn lle ei dad-yng-nghyfraith? A pha sicrwydd wedyn a ellid ei roddi i mi y cawswn i fy newis yn Isathro Nid oedd gennyf ddigon o hyder ynof fy hun y gallaswn ennill y B.A. Nid oedd gennyf arian ychwaith. Awgrymodd T. Rhys y buasai'r Pwyllgor yn fodlon rhoddi benthyg arian i mi. Ond nid oedd gennyf ddigon o hyder yn y Pwyllgor, nac ym mreuddwydion Michael D. Jones, nac ynof fy hun, i anturio i'r Brifysgol.
Peth arall, yr oeddwn yn llifo drosodd gan awydd pregethu a llenydda. Awydd pregethu, a chystadlu—y cylchoedd mwyaf ysblennydd yn fy ngolwg oedd pregethu ac eisteddfoda. Dyma gyfle i mi i fyned i'r weinidogaeth, a chael rhoddi fy amser i ddarllen, cyfansoddi pregethau, awdlau, a phryddestau! Pe na buasai cynllun M. D. Jones yn troi allan yn ffafriol, pa sicrwydd oedd gennyf y cawswn alwad ymhen tair neu bedair blynedd: Dywedais hynny wrtho—" Os gwrthodaf yr alwad hon, pa sicrwydd sydd gennyf y caf alwad eto? Cewch yn awr, os byddwch am dani, am fod eich nwyddau yn taro'r farchnad"! Dyna ei ateb.
Yr oedd nifer o'r dosbarth hynaf yn gorffen eu term heb alwad, a chyngor pob un o honynt oedd "Derbyn di'r alwad Ben, falle na chei di ddim un byth eto
Ysgrifennais at fy ngweinidog—y Parch. J. Rees, Cwmllynfell. Cynghorodd yntau fi i'w gwrthod, a mynnu dyfod yn Sais da!
'Rwy'n manylu tipyn gyda'r helynt hwn am fod yma un o frwydrau enaid, a throbwynt bywyd. Trodd y glorian yn lled fuan o blaid derbyn yr alwad. Atebais yn gadarnhaol, ac ordeiniwyd fi yn Weinidog Nebo Bwlchgwyn, a Pisga Llandegla, ym mis Mai, 1888.
Cymharol hawdd oedd troi M. D. Jones ar ryw bynciau. Yr oedd yn hollol ddisymud fel rheol. Ffurfiai ei farn, ac nis newidiai. Ffurfiai ei farn yn rhy fuan yn aml. Ond wedi iddo wneud i fyny ei feddwl nid oedd newid arno. Ond yr oedd mor ddi-ddal a phlentyn ar ryw bethau eraill, ac yn enwedig pethau yn dal cysylltiad â'r ddau gyfansoddiad y ddau Goleg ". Yr oedd yn fodlon bron i unrhyw beth er mwyn y Coleg, ac yn erbyn y "Cyfansoddiad Newydd". Caem fel myfyrwyr, bythefnos yn y De yn ddiwarafun dim ond sicrhau Sul i gasglu at y Coleg! Ond gwae ni pe collem ein tro i ddarllen a gweddio'n Saesneg yn y bore—os yn y dref. Blin gennyf gyfaddef i minnau arfer rhyw gymaint o ddichell er mwyn ei gael yn fodlon i mi i fyned i Fwlchgwyn—rywbeth yn debyg i hyn!—Meddwn i:—
Fe wna i fwy o les i'r Coleg yn Bwlchgwyn a Llandegla, na phe bawn yn aros yma, neu fyned i Aberystwyth."
Sut hynny nawr hen gyfansoddiad' yw Nebo."
"Ie amryw ohonynt, ond y mae yno gyfansoddiad newydd' selog hefyd."
Oes, rhai yn ddiau."
"Cyfansoddiad Newydd yw Llandegla ymron i gyd." O ie, siwr—dyna gastell wedi ei ennill"!
Clodforir M. D. Jones fel Cymro, ac fel cenedlgarwr ac iaith garwr, am oesau. Parod oedd i aberthu popeth er mwyn ei genedl; ond ar rai cwestiynau eraill, ac yn enwedig cwestiwn y Coleg, ni fynnai weled rhagoriaeth yn neb a oedd yn groes iddo. Bûm i yn ceisio amddiffyn Dr. John Thomas, Lerpwl, yn y dosbarth un tro.
Aeth yr hen athro o'i gof braidd, a mentrais innau wneud y sylw, yn ôl ffordd myfyriwr: "O, fe fydd Dr. Thomas yn y Nefoedd ". Talsythodd yr hen athro â fflam yn ei lygad. "Dr. Thomas yn y Nefoedd! Na fydd, syr! Ddim mwy nag angel syrthiedig."
PENNOD VI
BWLCHGWYN A LLANDEGLA
WEDI f'ordeinio ymdeflais i waith y weinidogaeth gyda llawer o ddyfalwch—pregethu'n y bore yn Nebo, Bwlchgwyn, gan fyned i Llandegla at oedfa'r prynhawn, ac yn ôl i Nebo erbyn yr hwyr. Yna'r Sul dilynol—Nebo'r bore a Llandegla'r prynhawn a'r hwyr. Pregethu dair gwaith bob Sul, a cherdded oddeutu deuddeng milltir, erbyn cyrraedd fy llety nos Sul. Cyfarfod Gweddi nos Lun, seiat nos Fawrth, a nos Fercher Dosbarth Beiblaidd; ymweled yn ofalus, a'r gyflog rywle tua phum swllt ar hugain yr wythnos.
Ysgrifennaf y nodion hyn yn Llundain, yn y flwyddyn 1936, a gallaf wrth edrych yn ôl ac adolygu, ganfod rhai pethau ar waith yn y cyfnod hwn a fu yn foddion i benderfynu pwynt fy mywyd a'm meddwl a'm tynged yn ôl llaw. Digwyddai fod yn y ddwy eglwys nifer go dda o ddiwinyddion, ac o hen gedyrn yr Ysgol Sul, a bu raid i mi ymroi ar eu cyfer. Darllenais gyrff o ddiwinyddiaeth, ac esboniadau lu, ond nid oeddwn yn gallu eu llwyr gredu, er ceisio ohonof wneud hynny, a phregethu weithiau ryw bethau ag y teimlwn amheuaeth mawr yn eu cylch. Blinid fi gan amheuaeth ddwys ar adegau. Bûm ar fin rhoddi i fyny'r gofal. Cawn er hynny gynulleidfa dda, yn Nebo'n enwedig, canys yr oedd yno ardal fwy poblog nag yn Llandegla. Yr oedd y capel yn llawn ar nos Sul. Diau fod rhyw bethau yn fy mhregethau a dynnai sylw; ond yr oedd amheuaeth yn fy mlino. Dywedais fy nghwyn wrth hen frawd o weinidog yn y cylch, ond ni chefais ddim cysur ganddo. Byddwn yn hoff o ddarllen nofelau, ac yr oedd "John Ward, Preacher" a Robert Elsmere", wedi fy nrysu. Drwy drugaredd, cefais rodd o lyfr gan un o hen chwiorydd eglwys Nebo, myfi oedd i ddewis y llyfr, a hithau i dalu. Dewisais Natural law in the Spiritual World" (Drummond). Llyfr newydd crai. Mwy diddorol i'w ddarllen na'r un nofel—wedi ei ysgrifennu'n syml, a chlir, ac yn fy neffro a'm symbylu. Mor wahanol ydoedd i'r cyrff o ddiwinyddiaeth. Gadawodd argraff annileadwy arnaf, ac erys hyd heddiw. Pregethais gryn lawer ohono, ac yr oedd yr hen ddiwinyddion yn ei fwynhau er edrych o ambell un ohonynt braidd yn syn. Bu darllen y llyfr hwn, a'i ail ddarllen, a'i fyfyrio, yn drobwynt i mi, ac onibae amdano ef, yn ogystal â rhyw bethau eraill, mae'n lled debyg y buaswn wedi dychwelyd i'r lofa.
Ysgrifau
I
DYDD ANGLADD GWYDDERIG
RHAID mynd i Brynaman heddiw. Mae'r eira'n drwch dros y llawr.
"Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw,
Na lle rhydd, na llawr heddiw,"
fel y dywedodd Dafydd Ap Gwilym, ond rhaid myned i angladd Gwydderig. Dyna'r gair cyntaf ddywedais wedi codi'r blinds y bore hwn, ac edrych allan ar yr eira'n disgleirio dan haul Ebrill "Dyma ddydd angladd Gwydderig". Ni ellir bod adref heddiw. Mae darn mawr o fywyd yr hen fro yn myned tua'r fynwent heddiw. Taith fer gyda'r trên ac wele fi yng ngolwg Brynaman. Dacw'r Garreg Lwyd—y mynydd sy'n gwarchod y lle o bell—dacw hi dan gwrlid tawel o eira llyfn a glân. A yw'r Garreg Lwyd i gael ei chladdu heddiw Mae amdo drosti'n barod. Mae twyn y Derlwyn hefyd yn yr un wisg. Gwyddant fod un o blant anwylaf eu mynwes yn cael ei gladdu heddiw, a mynnant lechu dan yr amdo gwyn er ei fwyn.
Mae'r haul yn ddisglaer ar yr eira, yn proffwydo gwanwyn a haf. Un o blant yr haf yw Gwydderig, a mynn yr haul dywynu drwy'r eira, a bygwth tes ar yr oerfel at ei feddrod ef.
Mae'r llaid ar yr heol yn fudr iawn, mae gwyndra'r eira yn gwneud y du yn dduach. Rhaid anghofio'r llaid; gwyn a phur yw'r byd. Na sonier am falchder a rhodres, a ffug, ddydd angladd Gwydderig. Mae gwynder dihoced ei fywyd ef yn gwneud pob ffug ymddangosiad a rhodres yn llaid brwnt, rhy frwnt i'w gofio heddiw.
Dyma'r orsaf—nid yw Gwydderig yma. Wyneb rhadlon, sawl gwaith y gwelais di ar yr orsaf hon—heb gennyt neges yn y byd, os nad oeddet am weled a oedd yna fardd yn dod gyda'r trên, a chanddo englyn newydd gwerth ei adrodd neu wybodaeth am destun newydd i ti gyfansoddi englyn arno? Dyma'r bont rhwng y ddwy orsaf—'dyw Gwydderig ddim yma chwaith, yn gwylio pwy sy'n croesi o un orsaf i'r llall. Rhaid ei fod wedi aros yn ei gongl glyd y bore hwn—bore o eira. "O na, dyma ddydd ei angladd". Gyfaill hoff, yr wyt mor fyw, fel yr anghofiais dy fod dithau hefyd dan yr amdo. Dyma'r bont uchaf, a siop y crydd. Nid oes gair llon na gwen ddifyr yma heddiw. Prudd-der sy'n teyrnasu. Daw'r gornant fach i lawr y cwm, heibio ei gartref cyntaf, gwân i lechu dan y bont wedi wylo ei hun yn fudr! Dyma'r Senedd a distawrwydd yno. Y Speaker wedi mynd! Y Pia wedi mynd—Gwydderig wedi mynd! Gan fy mod mor agos rhaid troi i aelwyd y Pia am foment. Bu'r Pia yn bygwth marw am flynyddoedd ond yn methu, methai gyrraedd yr afon gan ddiffyg anadl. Barnodd Gwydderig un tro na fuasai byth yn llwyddo, na allasai angau ei dynnu hyd yr afon, a chyfansoddodd gân "The Last Man ". Yn honno darlunia'r ddynoliaeth oll wedi mynd drwodd, pawb wedi marw, ond un,—y Pia ar ôl—y last man, ac yn cicio penglog angau wrtho'i hun ar y meysydd. Wedi eistedd ychydig yng nghwmni fy nghyfaill Alfa yng nghadair y Pia daw ton o hiraeth am y 'cefnder' mwyn a didwyll, llawn bywyd yn ymyl angau, ond rhaid mynd dyma ddydd angladd Gwydderig!
Dyma'r tŷ, a'r llenni dros y ffenestri—heb fod ymhell o'r fan lle y'i ganed. Mae deupen llinyn ei fywyd ymron dod i'r un aelwyd. Rhwng y ddau gartref hyn mae taith hir i'r Unol Dalaethau—i eithafion y wlad fawr bell honno
a blynyddoedd o weithio caled ac o englyna difyr, ac o gymdeithas a chyfeillion mwyn tra yno—ond wele'r diwedd yn ymyl y dechrau. Rhaid i mi gael ysgwyd llaw â Ben ei frawd er na all fy nghlywed na'm gweled, i nemor bwrpas, ond dyna fe, brawd Gwydderig yw. Dyma'r arch wedi ei chau. Wel, yr hen gyfaill tirion caraswn weled dy wen olaf ar y byd; caraswn olwg unwaith eto ar farciau gleision y glowr ar dy law. Ond dydd yr angladd yw hwn.
Richard Williams
Aged 75.
Ie, 'rwy'n cofio fod rhai o'r hen bobl yn dy alw wrth yr enw hwn gynt. Ond yn sicr yr oeddwn wedi ei anghofio. Ai awgrym yw hyn mai Richard Williams gleddir heddiw, a bod Gwydderig yn fyw?
Dringa'r orymdaith yn araf tua'r fynwent. Dyma'r bedd. Nid oes dim ond y ceunant rhyngddo â'r tŷ lle y'i ganed. Mae'r bedd yng ngolwg yr aelwyd. Bu'n chwarae ar lecyn ei fedd lawer gwaith, mi gredaf.
Dyma'r corff wedi ei ostwng yn dawel i'r briddell oer. Y fath yw mudandod y bedd. Mor ddistaw yw'r dorf, mor ddistaw yw'r wlad dan eira; eto, clywir adsain y gornant yn y glyn yn ŵylo, a daw cân aderyn o'r brigau di-ddail. Ni ellir siarad llawer ar lan bedd Gwydderig. Mae dau neu dri o'i gyfeillion yn cynnig at hynny—ond math o ddistawrwydd mwyn dirodres sy'n gweddu heddiw. Nid lle i fyned i hwyl bregethwrol yw hwn—lle i blygu pen mewn distawrwydd a theimlo cyffyrddiad y perffaith hedd. Dyma ddarn mawr o'r hen gymdogaeth yn cael ei gladdu; un dyfodd gyda'r Bryn; un fagodd feddwl yn y gymdogaeth; un ddysgodd ardal i feddwl heb yn wybod iddo'i hun. 'Roedd englyn Gwydderig ar bob pwnc yn eiddo ardal gyfan ar unwaith ac yn foddion i gyffro ardal o hyd i feddwl. Bu ei englynion ar hyd y blynyddoedd yn faeth meddwl, ac yn symbylu meddwl yn yr ardal. Bu fyw yn dawel ac heddychlawn. Carai yr encilion. Ofnai y dyrfa. Gwell ganddo oedd ffoi i'r gilfach unig i feddwl a myfyrio, na bod yn wrthrych sylw y dorf. Carai yr Eisteddfod yn fawr, ond anghysurus iawn iddo ef fuasai treulio tridiau ar y llwyfan—gwell oedd ganddo'r gongl unig yn y babell, a gwell na hynny oedd darllen ei hanes yn ei gongl gartref. Cymdeithasai ef ag ysbryd Eisteddfod ar lechwedd y mynydd, a byddai'n gwybod ei hanes yn well na llawer un dreuliodd yr wythnos yn y babell.
Mab llenyddiaeth werinol ac Eisteddfodol Cymru. Carodd gynghanedd ac englyn â chariad cryf cyson. Ymhyfrydodd yn eu cwmni. Bu'r gair direidus ar ei wefus yn aml, a rhaid i'r gynghanedd weithiau gael cellwair—dyna ei ffordd hi o roddi mynegiad i ambell dro o'r daith. Ond gŵyr y rhai a welsant ei galon fod dyfnder glân yn gorwedd dan y gair direidus, a bod cywirdeb a phurdeb dan y cellwair diwenwyn.
II
PROFIAD Y BYDDAR
DIAU bod dalen o'r natur ddynol yn y profiad hwnnw, pe gellid ei hysgrifennu, un nas darllenir yn aml. Cofus gan bawb y syniad o'r enaid dynol yn ddinas, ag iddi bum porth. Dau o'r cyfryw yw'r glust a'r llygad. Pan ddigwyddo anffawd i un o'r pyrth hyn, ac iddynt gau, yn llwyr neu yn rhannol, y mae'r ddinas dan anfantais. Ni ddaw cynifer o negesau i mewn. Ni dderbynnir cynifer o argraffiadau, a phan yw'r pyrth i gyd ar agor. Mae byd seiniau a miwsig o'r tu allan wedi darfod i'r byddar; o ganlyniad amddifedir ef o'u hargraffiadau. Gall felly fyned yn lled dlawd os nad oes ganddo fiwsig mewnol i wneud i fyny'r golled.
Gofynnir yn aml i'r rhai sy'n byw yn y diriogaeth dawel hon: Pa un sydd waethaf—colli'r golwg neu golli'r clyw:" Cyfarfum â dall yn ddiweddar, a'i ateb ef oedd: gwell gen i golli 'ngolwg na cholli 'nghlyw"! Etyb y byddar: "gwell gen innau golli 'nghlyw"! Dyma un o ddirgel ffyrdd y gofal caredig sydd yn nhrefn y byd i ddiddanu'r anffortunus. Erys y cwestiwn er hynny yn gwestiwn o ddadl. Y mae'r ddwy sefyllfa yn bur wahanol i'w gilydd, a nodweddion y methiant yn wahanol. [a] Siaredir a'r dall; siaredir am y byddar. Wedi disgyn mewn cwmni, y mae pob un yn siarad â'r dall ac yntau yn siarad yn ôl, fel y mae yn un o'r cwmni, ac yn cymryd ei ran i ddilyn cwrs yr ymddiddan. Gwneir esgusawd dros y byddar. Dywedir am dano nad yw yn clywed; gŵyr yntau fod yn rhaid hysbysu hynny, ac â'r cwmni ymlaen â'r ymddiddan, a bydd yntau yno ar wahan, ac os digwydd i'r cwmni daro ar ei enw,—am dano y siaradant, ac nid wrtho.
Cyfyd hyn yn hollol deg o'r amgylchiadau, eithr wele un o groesau'r byddar, ac un o freintiau'r dall. [b] Oblegid hyn, tuedda'r byddar i fod yn ddrwgdybus, a'r dall yn rhadlon. Gŵyr y byddar fod y cwmni o angenrheidrwydd yn siarad rhywbeth am dano. Gŵyr iddynt ddechrau drwy i'r naill egluro i'r llall nad oedd yn clywed, ac ebai'r cyfaill, "wel dyna anffawd". Pa beth ddywedwyd wedyn Ceisia yntau ddyfalu cwrs y siarad ymhellach, a'r cydymdeimlad ofer, a thuedda i fynd yn amheus o bob gwên a chwerthiniad. Rhaid i'r byddar ofalu am drwytho ei ysbryd yn gyson mewn tiriondeb a thynerwch, neu fe â cymdeithas yn beth poenus iddo. [c] Tuedda'r byddar i gadw draw o bob cymdeithas. Gan ei fod yn analluog i ddilyn cwrs ymddiddan, a chan nad yw yn hoffi bod cyfeillion yn gorfod gwaeddi arno, gwell ganddo aros o'r neilltu. Bum yn lletya mewn tŷ yn ddiweddar, lle'r oedd gŵr y tŷ yn drwm ei glyw. Ai i'w waith bob dydd neu bob nos, fel y digwyddai, a chan mai mewn tŷ ingin" y gweithiai, clywai yno, ac yr oedd yn hapus yn y sŵn.
Ond wedi dod adref, ni chymdeithasai nemor ddim â neb, ag eithrio ei deulu a chyfeillion agos. Gofynnodd ei briod yn garedig i mi am ei esgusodi, ac felly fu; ni chefais air ag ef nag yntau â minnau.
Yr ydych yn gofyn hynt cymydog yn y bore, ac nid yw yn eich ateb, a'r cyfaill yn mynd heibio'n swrth. Nid oes neb am siarad â chwi, namyn ysgwyd pen. Eithr wedi cryn amser o gam-esbonio, deuir i ddeall bod y cyfeillion yn eich ateb, ac mai ynoch chwi y mae'r diffyg.
Nid rhyfedd, felly, fod y dall yn fwy calonnog a siriol am ei fod yn alluog i gymdeithasu â'i frodyr, a gwrando sŵn a miwsig natur. Os na wêl y goedwig, clyw gân yr adar a sibrwd awel yn y dail. Os na wêl wynebau ei gyfeillion, clyw eu llais, a gall ddelweddu'r wyneb yn ei feddwl. Pwy mor siriol bob amser, ac mor ddifyr yn ei gwmni â'r diweddar annwyl Puleston Jones. Dywed meddygon bod sirioldeb fel rheol yn dilyn dallineb, a digalondid yn dilyn byddardod. Dyma nodweddion y doluriau. Pan ddaw byddardod ymlaen dilynir ef, fel rheol, gan ddigalondid (depression): dyna yw ei effaith ar y meddwl. Pan ddechreuais golli fy nghlyw cefais frwydr lled galed â digalondid, a gofynnais droeon dwys i'r Tad sy'n Arglwydd, os nad oedd yn ewyllysio symud y byddardod am iddo symud y digalondid, ac yng nghwmni'r weddi euthum i'r frwydr. Y mae'r gelyn wedi dianc yn llwyr; er cymaint y siom, anaml y caf gyffyrddiad o ddigalondid, a gallaf chwerthin a bod yn llawen gyda'r dall pryd y myn. Dywedodd cyfaill wrthyf y dydd o'r blaen, "'rwy'n synnu dy fod mor hapus".
Ond gadawer i mi gyffwrdd rhyw arweddau eraill ar y cyflwr hwn.
Tueddir i feddwl ar y dechrau bod pawb wedi mynd i siarad yn is, ac yn enwedig yn gostwng eu llais ar ddiwedd eu brawddegau. Yna tueddir i feddwl nad oes dim byd pwysig yn mynd ymlaen, dim ond rhyw ymhelaethu ar y peth oedd dan sylw ddiweddaf, pan, mewn gwirionedd, bydd y cwmni gyda phwnc newydd, ac yn gwneud sylwadau arbennig. Fe ddeallwch ymhen deuddydd neu dri, i siarad fod ar bwnc neilltuol, a byddwch chwithau erbyn hynny wedi dweud wrth ffrind na fu sôn am y mater o gwbl. Ymron ar y dechrau y cymer hyn le, daw dyn o'r anialwch hwn yn fuan, ac i ddeall na ŵyr pa beth sydd yn myned ymlaen, ac i fod yn ddigon gonest i ddweud hynny os yr holir ef.
Yna daw gwneud rhyw bethau heb ystyried; â'r byddar i siarad wrtho'i hun, nid yw yn meddwl bod neb yn clywed; ac i ganu wrtho'i hun, hyd yn oed ar yr heol. Y mae gennyf fi arferiad o gadw arian rhydd yn fy llogell—gan fod gennyf gymaint ohonynt—a byddaf yn aml yn eu trin a'm llaw yn fy llogell, a chlyw ereill eu sŵn yn tincian. Y maent i mi mor dawel a thrin clai. Yr oeddwn mewn cynulleidfa, pa ddydd, ac mae'n debyg, yn chwarae fy mysedd ar gefn y sedd, fel chwarae piano, ond nid oeddwn wedi tybio bod y bysedd ar y pitch pine, yn gwneud sŵn mawr, mewn lle tawel. Wyddwn i ddim. Bu cyfaill yn ddigon caredig i'm hysbysu—dim rhagor o chwarae piano ar y sêt. Disgyna'r llwy yn rhy drwm yn y cwpan te a'r gyllell a'r fforc ar y plât ciniaw. Ceir tipyn o orchestra gyda'r prydau bwyd fel rheol. Caiff yr holl fwrdd ddifyrrwch weithiau wrth eu clywed yn tincian. Fel y mae'r cysgod yn trymhau, a sŵn yn cilio draw, collir cân adar, collir sŵn y plant ar yr heol, a sŵn cerbydau; ond y mae'n syndod fel y tyr ambell air fel saeth o'r distawrwydd. Fe glyw dyn ei enw ei hun, mewn cwmni, heb ddeall yr un gair oedd o'i flaen nac ar ei ôl: y mae fel pe bai rhyw glust fewnol, sensitif, a digon o hunan ynddi i glywed y gair hwnnw. Dylid felly faddau i'r byddar, os y gofyn weithiau i'r cwmni" pa beth wetsoch chi nawr: Diolch hefyd y gellir clywed ambell enw arall. 'Roeddwn yn ddiweddar mewn oedfa yn Llundain, yn gwrando Dr. J. D. Jones; eisteddais ar ei gyfer yn y sedd fawr yn King's Cross, ond ni ddeallais y testun, na dim o'r bregeth. Teimlwn fod yno ysbryd rhagorol, ond methwn a dal yr un gair. Ond yn sydyn, fel hollt mellten drwy'r cwmwl, dyma un ymadrodd yn dod, yn hollol glir a gloyw, ac mor hawddgar oedd wyneb y pregethwr wrth ei barablu, Build on Jesus Christ"! Cefais innau gyda'r gair hwn ddigon o ymborth i'm henaid i orffen yr oedfa mewn cysegr mwyn. Ai'r glust fewnol fu'n foddion i deneuo'r allanol am eiliad i wrando'r gwefusau pêr yn parablu
Build on Jesus Christ".
Yn un o ardaloedd gwledig Meirion yr oedd, ac y mae eto mi dybiaf, hen chwaer yn byw yn nhŷ'r capel. Mae'r tŷ dan y capel, ac y mae hithau yn fyddar. Anodd iawn cario ymlaen ymddiddan â hi, ond fe glyw yr harmonium bach yn y capel yn y fan. Daeth yno rywrai i chwarae allan o amser ryw dro, gan dybio na fuasai yr hen chwaer yn clywed, ond yr oedd hi i fyny ar fyr o dro yn disgyblu. Cred llawer oblegyd hyn nad yw hi mor fyddar ag y gesyd allan ei bod! Ydyw y mae, ond y mae rhyw gyfrinach rhwng yr organ â'i henaid ac y mae yn clywed hwnnw.
Awgrymais hefyd, y clywir mewn sŵn. Clywir yn y bus, ac yn y tren yn lled dda. Y mae cywair y siarad yn uwch yno, ac y mae dirgryniadau yn bywhau nerfau'r clustiau, yn ôl Dr. Mihangel Ap Iwan. Cofir llawer ystori ddigrif ynglŷn â chlywed yn y trên, nad oes angen eu hadrodd yma, megis y myfyrwyr yn gwneud difyrrwch o'r Athro Ellis Edwards, ac yntau yn eu clywed. Clywais innau nifer o ddiaconiaid yn y trên rhwng Castellnedd a Chaerdydd yn dweud ystoriau am bregethwyr! Ond os clywir mewn sŵn, y mae'r distawrwydd yn drwm wedi mynd allan. Teithiais yn ddiweddar o Manchester i Abertawe; wedi cyrraedd, yr oedd y dref fel pe'n cerdded ar sidan. Rhedai'r cars megis ar reiliau o frethyn, a chwibanogl ambell fodur ar fy sodlau fel trydar dryw bach.
Wedi i'r byddardod gyrraedd graddau go drwm, daw adeg chwilio am gynorthwyon. Nid oeddwn yn arfer gweled byth hysbysiad am ddim i'r perwyl hwnnw, ond erbyn heddiw gwelaf ef ar bob papur, ac ymron ymhob congl. Rhaid fod mynd go fawr ar y peiriannau hyn, pe na bai'r derbyniadau yn ddim mwy na digon i dalu am hysbysebu. Amrywiant mewn pris o £1 i fyny hyd £60 a £70. Nid da gan fyddariaid gyffesu maint y symiau a wariant er ceisio clywed, ond gellwch fod yn sicr os gwelwch ddyn â chorn o ryw natur wrth ei glust ei fod wedi holi, a chwilio, a thalu'n go drwm. Gorchwyl drud yw chwilio am glust gelfyddydol.
Paham y gwneir yr holl ymdrech hon er mwyn clywed, a chynifer o bethau yn y byd heb fod yn werth i'w clywed: Byddaf weithiau yn sylweddoli mor fwyn yw'r cysgod, ac mor llednais yw'r tawelwch. Nid wyf wedi clywed neb yn rhegi er's tua phum mlynedd. Credaf fy mod yn cofio yn sicr pa bryd y clywais un yn cymryd enw Duw yn ofer am y tro diwethaf, a blin gennyf gofio mai dynes oedd yn gwneud hynny, yr ochr arall i'r heol i un o gapeli cymoedd Morgannwg. Y mae llawer o siarad gwag mewn cwmni, ac mewn pwyllgor, nad yw yn golled yn y byd i fod hebddo. Cofier, er hynny, fod rhyw ddieithrwch trist mewn torri'r cysylltiad cymdeithasol â chyfeillion a geir drwy ymddiddan, a gwrando. Dywedir i'r Parch. Puleston Jones, M.A. wylo ddwywaith oblegid dallineb. Pan ar ben yr Wyddfa, a'r haul yn codi, a phawb mewn gorfoledd, yn edmygu'r olygfa—yntau, megis y tu arall i'r llen dywyll, yn colli deigryn. Hefyd, pan roddwyd ar ei lin ei faban cyntafanedig, yntau yn methu ei weled! A gaf finnau nodi dau amgylchiad, neu ddau gyfnod pan deimlais ryw gymaint o dristwch wrth sylweddoli fy mod yn methu clywed. Un gwanwyn, yn methu clywed yr adar yn canu, a'r plant yn tystio bod y gôg yn y gelynen. Euthum allan i geisio gwrando ei chân, ond yn ofer. Bum wrthi ddydd ar ôl dydd, cynygiais wahanol fannau yng nghwr yr ardd, ac ar y bryn, ac yn y coed, eithr ofer fu'r ymdrech, a chenais fel hyn: (gweler tudalen 168).
Cefais nodyn prudd arall pan yn methu gwrando adnodau'r plant yn y gyfeillach, ac un arall pan yn methu deall gair un o'r hen chwiorydd, a hithau yn y glyn. Daw ataf bob tro yr ymwelaf â chleifion yr ysbyty. Ond ar y cyfan, nid y nodau prudd sy'n gorbwyso. Dyry'r cyflwr hwn ryw gyfle newydd i wrando'r llais oddimewn. Y mae clust fewnol a chlywir seiniau broydd sydd tu hwnt i fater. Dos i'th ystafell a chau dy ddrws." Dyma un o'r drysau wedi cau ohono ei hunan, a dylai fod yn haws gwrando Duw.
Rhaid gwylio'r peryglon er hynny. Un o'r peryglon mwyaf yw myned yn rhy sensitif, i feddwl amdano'i hun yn barhaus. Gwneud hunan yn ganolbwynt pob myfyrdod: am danaf fi y siaradant yn awr . . . pa beth a ddywedant pa flas sydd mewn cwmni fel hyn "—dyna rai o'r awgrymiadau y mae perigl eu dilyn, ac sy'n gwneud y byddar yn hunan deimladwy parhaus. Rhaid gwylio y rhai hyn yn gyson, a chofio nad yw'r cwmni ond yn anaml yn siarad amdanom o gwbl, ac os ydyw, y mae ei air yn garedig, ac yn teimlo drosom; a dim ond rhoddi lle i'r meddyliau yna, bydd un yn hollol gartrefol a hapus mewn cwmni heb ddeall yr un gair. Bydd yn gweled y gair llon, yn gweled y wit yn mynd, ac yn goglais gwên ar bob wyneb, gall ddeall symudiad y gair caredig dan yr wyneb, a gall wylio'r gair prudd yn niwl y llygad. Diddorol iawn yw gweled siarad, a cheisio gwrando ysbryd ymddiddan â'r glust fewnol, eithr rhaid concro hunan cyn y gellir gwneud hyn. Peidier gofyn barn y byddar ar unrhyw bwnc yn sydyn mewn cwmni, heb roddi yn gyntaf ychydig o ragymadrodd i ddweud pa fodd y deuwyd at y cwestiwn a'r arweddau ohono a driniwyd yn barod. Erys y byddar i fyfyrio'n dawel, megis heb yn wybod iddo ei hun, ar y peth a fu dan ei sylw ddiweddaf, a'r cwmni wedi symud ymlaen gryn bellter at rywbeth newydd. Gofynnir ei farn yn sydyn, ond y mae ef yn ôl gyda'r peth arall ac amhosibl symud ar unwaith. Rhaid i feddwl gael rhyw gymaint o amser i arweddu ei hun ar gyfer pob syniad. Ni ellir ei godi o un rigol i rigol arall mewn eiliad. Oblegid arafwch y byddar i ateb weithiau tybir ei fod yn swrth a thwp a chysglyd ei feddwl; ond nid dyna'r gwir reswm, eithr y ffaith ei fod yn myfyrio ar y pryd gyda pheth hollol wahanol. Gan nad yw yn alluog i ddilyn cwrs ymddiddan, byddwch yn weddol o ymarhous pan yn gofyn cwestiwn iddo, canys y mae ganddo bellterau lawer i'w croesi cyn dod i diriogaeth eich cwestiwn. Mae'r meddwl yn diriogaethau, a rhaid wrth ryw gymaint o broses i gerdded o'r naill i'r llall. Bu'r cwmni am ddeg munud yn symud o gam i gam o un diriogaeth i'r llall. Disgwylir i'r byddar groesi ar amrantiad. Ni all. Fe ddichon hefyd, y bydd ef yn ei fyfyrdod wedi teithio i diriogaeth sydd yn y gwrthwyneb hollol i'r cwmni, a gofyn hyn fwy o amser i ddod 'nôl.
Rhaid symud yn wyliadwrus ac araf gydag ymylon heolydd llawn y dyddiau hyn. Y lle mwyaf diogel yw Llundain am fod yno drefn ar y traffig; y mae Llundain yn llawer mwy diogel na Godrergraig. Ac y mae ystrydoedd Lerpwl yn llawer mwy diogel i'w cerdded nag ystrydoedd Llanrwst. Y gamp ym mhentrefi, a threfi mân Cymru, ac ar ffyrdd y wlad o ran hynny, yw cadw golwg ymlaen, ac yn ôl, ar y dde a'r aswy yr un pryd! Dyma fantais y dall, y mae ef yn clywed i bob cyfieiriad, eithr amhosibl gweled yn ôl ac ymlaen yr un pryd. Wedi ddyn golli ei lygaid y mae ganddo ddigon o glustiau, ond wedi i ddyn golli ei glustiau nid oes ganddo ddigon o lygaid. Dylai fod fel yr anifail yn llyfr y Datguddiad yn llawn o lygaid o'r tu blaen, ac o'r tu ôl. Dywedir mai rhyw ddyhead mewnol, a llef angen, rhyw urge parhaus sy'n gwasgu llif datblygiad ymlaen; os felly, fe ddichon cyn hir y bydd llygad yng ngwegil y byddar!
Dywedir, pan yn colli grym un organ, fod organau eraill yn cryfhau. Prin, fe ddichon y gellir disgwyl i lygaid y byddar glirio, ac ef mewn oedran, ond er hynny, fe ddaw rhyw arweddau newydd i'r gwelediad. Gwelir rhyw rithiau a chysgodion na welid o'r blaen. Gwelir sŵn! ac weithiau gwelir rhywbeth tebyg i eiriau. 'Rwy'n gweled sŵn y plant ar y galeri ar nos Sul. 'Rwy'n gweled sŵn y maes—chwarae, a sŵn y gwynt ym mrig y coed. Wedi gweled y fellten gwn amcan pa fath sŵn sydd i'r daran, pa un ai agos ai pell, lleddf ac esmwyth, neu sydyn a chras. 'Rwy'n clywed y gynulleidfa yn canu yn yr addoliad, ac yn enwedig os byddaf yn gwybod yr emyn. Ond os cynulleidfa wan fydd hi, y mae fel rheol yn canu gryn dipyn allan o diwn, ac yn enwedig yn y rhannau tyner, ond os bydd yn gynulleidfa gref, ac yn canu rhannau cynhyrfus, y mae yn rhagorol iawn. Pan yn canu emyn. dieithr, a minnau yn myfyrio yn dawel cyn gweddi neu bregeth, ni ddeallaf ddim o'r geiriau, hyd nes yn sydyn y tyr ambell air yn groyw a glân. Canai'r gynulleidfa nos Sul diweddaf emyn dieithr, ac nid oeddwn yn deall dim o'r hyn a genid, eithr yn sydyn disgynnodd y geiriau canlynol ar fy nghlust yn grwn a chyfan a glân, fel modrwy—"A thelyn yn fy llaw" Troais i'r llyfr i edrych pa beth. a genid; nid oeddwn yn cofio ym mha emyn y deuai'r ymadrodd i mewn, a chefais ef ym mhennill olaf " Nef y Pererin gan W. J. Parry.
A'i gariad Ef yn trigo yn fy mron
I'm cynnal i,
Mor dda fydd cael yr Iesu ar y don
Wrth groesi'r lli':
Caf ganu mwy a thelyn yn fy llaw
Uwch gofid byd am byth yr ochr draw.
Cwestiwn go ddigalon sydd gan Crwys yn niwedd un o'i ganeuon byw. Diau fod yr ergyd yn un awenyddol a naturiol hefyd. Gwêl y bardd y gwanwyn wedi dyfod i'r fro, a dywed:—
Y gân, hi ddigymydd â'm clyw
A'm llygaid gâr lili ddi—wall,
Ond â pheth y diddeni, O Dduw,
Y diddeni di'r byddar a'r dall?
III
Y MEDDYG A'R BARDD
BUM i a'r Meddyg yn gyfeillion am lawer blwyddyn; ei enw ef arnaf i oedd "y Bardd", a'm enw innau arno yntau oedd "y Meddyg ". Yr oedd yn un o areithwyr Cyfarfod Dirwest Undeb yr Annibynwyr ym Mhorth Madog. Llafuriodd yn galed wrth ei anerchiad, a darllenodd ef i mi mewn ystafell fechan ar nen ei dŷ. Awgrymais gyfnewidiad neu ddau a derbyniodd ef hwynt yn ddiolchgar. Cafodd amser da wrth ei draddodi yn yr Undeb a chan ei fod yn ŵr clyd ei amgylchiadau, argraffodd yr anerchiad ar ei draul ei hun, a gwasgarwyd ef trwy'r Eglwysi. Credaf fod rhai copiau yn awr ar gael yn y Llyfrfa. Argraffodd hefyd Gatecism ar Ddirwest, a bu rhaid i'r 'Bardd' gyfansoddi pennill neu ddau at hwnnw. Gallai'r Catecism hwn fod o fudd mawr heddiw i Obeithluoedd a Chymdeithasau Dirwestol. Gwnaeth amryw feddygon wasanaeth mawr i Ddirwest yn y cyfnod hwnnw.
Hoff iawn oedd y Meddyg' hefyd o rigymu, a byddwn yn aml yn derbyn cerdyn oddiwrtho ar ffurf rhigwm- yn Gymraeg, wrth gwrs. Canys yr oedd yn Gymro selog, er ei fod am ryw resymau neu'i gilydd wedi ymadael â'r capel Cymraeg, ac wedi ymaelodi yn y capel Saesneg. Ond nid oedd y gwasanaeth Saesneg yn hollol gydfyned â'i anianawd, a mynych y troai i mewn ar nos Sul, neu ocdfa nos Lun, i gapel Cymraeg. "Y mae fy adnodau i yn Gymraeg i gyd" meddai. Adnodau ac emynau Cymraeg a ddysgais i ger Mynydd Epynt ".
Hoff iawn ydoedd o gerdded, ac yn enwedig o gerdded gwlad neu fynydd. Un dydd, dywedodd wrthyf, "Wel, y Bardd, nid wyf i wedi bod erioed yn 'Ffrydiau Twrch', nac yn 'Llyn y Fan'. A ydych yn gwybod y ffordd atynt?"
"Gwn yn dda, bob modfedd ", meddwn innau. Cytunwyd ein bod i gychwyn tua 'Llyn y Fan', a galw yn 'Ffrydiau Twrch' ar y ffordd. Penderfynwyd ar y dyddiad, a hi yn ganol haf. Yr oeddwn i'w gyfarfod yn stesion Ystalyfera gyda'r trên cyntaf—chwarter i naw. Gan ei fod ef yn cael y trên yn nes i lawr yn y dyffryn, rhaid oedd iddo adael ei dŷ am hanner awr wedi saith, ac yr oedd ganddo filltir i'w cherdded i'r orsaf. Euthum at y trên, ac yno yr oedd y Meddyg, a'i wên lon, a'i lygad glas, yn fy nisgwyl. Aethom gyda'r trên hyd yng ngorsaf Gwŷs. A ydych yn sicr, y Bardd, mai hwn yw Gwŷs y Mabinogion Dim amheuaeth ", meddwn innau.
"Cawn gerdded glannau'r Twrch yn union, a gweled mynydd Amanw o draw. Dyma Gwŷs, yn gornant lân, syllwch arni, Feddyg".
Yr oeddem yn union deg yn cerdded gydag afon Twrch, heibio'r Felin Fach, a thrwy Graig y Felin i fyny i Domen Owen. Synnodd arno weled ehangder y fro, a'r awel iach yn chwythu dros eangderau o gaeau gwair parod i'r bladur. "Does dim achos i chwi'r Bardd' sôn am fyned i Landrindod—dyma le gwell na Llandrindod i chwi "—a hynny oddiwrth un o blant Mynydd Epynt.
Dangosais iddo gyfeiriad Llyn y Fan, a gofynais a oedd yn barod i'r daith. Atebodd yn berffaith hyderus, ei fod yn myned i gerdded bob cam hyd at y llyn ac yn ôl erbyn Y trên wyth yn yr hwyr i Gwŷs. "Mae cystadleuaeth cerdded i fod heddiw " meddai, a fe fyddaf wedi concro'r 'Bardd' mewn cerdded mynydd cyn yr hwyr heno ". O'r gorau " meddwn innau.
O'n blaen gorweddai'r Mynydd Du, dibendraw, fel gwastadedd yn rhyw ddechrau ymchwyddo, gan ymgodi'n araf i'r pellterau, ac ymffurfio'u drumau cerigog ar y gorwelion. Galwyd yn un o amaethdai min y mynydd, a chymrodd y Meddyg lasied o laeth ffres, a'r Bardd gwpanaid o dê gwan â bara menyn!
Aethom trwy glwyd y mynydd gyda hyn, gan ddechrau o ddifrif ar y daith. Croeswyd y' Bryn Isaf', a galwyd heibio i 'Garreg Man Bras', a thrwy'r corsdir at Graig y Frân. Synnodd y Meddyg pan ddaethom at gorun Craig y Frân wrth weled y diffwys mawr yn ymagor yn sydyn odditanodd. Canai afon Twrch yn y gwaelod, fel un yn canu cân concwest. Diau mai hi biau y rhigolau rhyfedd hyn yn y mynydd, ac wedi llafur miliynau o oesoedd, hyfryd ei gweled yn cadw yn ifanc ac yn canu wrth barhau i lyfnhau'r cerrig a'r creigiau. Aethpwyd dros y Derlwyn Isaf ac Uchaf, yna gyda chyrion gwaun Sarn Fân, hyd at Garreg Dis Mân Nid oes gennyf yr un eglurhad ar yr enw, ond fel hyn yn hollol y parablem ef pan yn blant "Carreg Dis Mân". Saif ar ymyl gwythien gref o gerrig o'r un natur â hi—a darn ohoni megis newydd syrthio i lawr dros yr ymyl, ac o'r braidd nad allech afael ynddo a'i osod yn ei ôl onibae ei fod braidd yn drwm! Ymestyn rhan o'r garreg eto dros yr ymyl, a gallasai rhywun dybio mai dim ond gwthio ychydig bach sydd eisiau i'w thaflu hithau i lawr, ar ôl y darn sydd eisioes wedi syrthio. Meddyliodd y Meddyg wrth gwrs y gallasai ei gwthio i lawr, a rhoddodd ei ysgwydd yn ei herbyn, ond er syndod iddo ei hun, methodd a'i syflyd! Mae yma lu o gerrig crwn, o faintioli mawr, a dywedir y byddai'r hen gewri gynt yn eu lluchio at Garreg Dis Mân! O dan bwys un o'r ergydion hynny y torrodd darn ohoni i ffwrdd! Gwell, wrth gwrs, yw'r traddodiad am Arthur yn teimlo ryw fore fod gronynnau o lwch yn ei sandal, ac iddo eu tywallt allan,a dyna'r cerrig Y mae Gwely Arthur yng nghysgod y Garreg Lwyd uwch ben Brynaman. Codasai yn fore bore hwnnw i ddyfod i Ffrydiau Twrch am ddwfr i'w yfed. Cerddasom ninnau yn ôl traed Arthur, nes dyfod ohonom at Ffrydiau Twrch. Un o brif darddellau afon Twrch. Enw'r hen frodorion arni yw "Ffrydiau" neu'n hytrach "y Ffrytie". Ymruthra'r dyfroedd i'r wyneb rhwng talpiau o gerrig calch, yn grychiau gwynion eirias—gan ymlifo'n chwyrn i lawr y llechwedd, drwy rigol las, dan gysgod ambell ddraenen, gan ganu eu hanthem dragywydd, ddydd a nos, yng nghanol distawrwydd y mynydd. Rhaid yfed y dyfroedd oer grisialaidd unwaith eto. Rhyfedd yw tarddell afon. Y mae pob afon yn dyfod allan odditan orseddfainc Duw. Mae'r fan hon yn gysegr i mi. Dyma un o gysegr-leoedd bore oes, ac erys felly o hyd. Wedi brwydrau ac amheuaeth, dim ond dod nôl, erys hedd a ffydd a Duw yma o hyd.
O'r banc uwchben y Ffrydiau, dacw dwyn y Fan yn y golwg yn glir. Yr oedd hi yn awr yn unarddeg o'r gloch, a'r haul yn gynnes.
"Y mae gennym waith tua dwy awr a hanner eto," meddwn i.
Na," meddai'r Meddyg, "fe fedrwn ei gwneud yn hawdd mewn dwy awr
"Rwy'n credu mai'r peth gorau yn awr yw treulio awr neu ddwy yma, yna myned yn ôl gyda'r afon yn raddol i weled y pyllau a'r creigiau, a gadael Llyn y Fan i fod am heddiw," meddai'r Bardd.
"Na," meddai'r Meddyg, "ymlaen â ni, Llyn y Fan am dani! Ond 'rown i'n meddwl y buasech chwi'n blino. Dyma fi wedi eich curo cyn hanner dydd."
yn
O'r gorau, ymlaen â ni," meddwn innau. Teithiasom am awr ar draws mân rigolau a thwmpathau, drwy gernydd o gerrig, ac weithiau frwyn a rhedyn. Dilynasom yr afon gorau medrem, hyd oni ddaethom hyd yn Aber Deudwrch. Cyferfydd dwy gornant yma, mewn pantle teg, a Thwrch y gelwir y naill a'r llall. Canys gadawai'r Twrch Trwyth ei ôl drwm ar yr unigeddau hyn. Y ddwy gornant hyn yw gwir ddechrau yr afon, ac nid tarddell fawr "Y Ffrytie." Erbyn hyn aethai yn wres enbyd, ac nid oeddem wedi mwynhau nemor ddim awel oddiar pan adawsom "Y Ffrytie". Golwg welw a diflas braidd oedd ar y Meddyg erbyn hyn, a dechreuodd gyfaddef ei fod mewn poen pen a theimlad diflas yn ei ystumog ymron fel dechrau dolur y môr. Eisteddasom wrth ffrydli fechan fain, i fwyta. Methodd ef wneud dim â'i fwyd, tra y bwyteais i yn awchus iawn. Dechreuodd athronyddu, yn ôl ei arfer, rywbeth tebig i hyn: "Yr ydych chwi yn ysgafnach na mi i gerdded mynydd, yr ydych o ran ffigiwr yn ateb i'r dim i'r gwaith; peth arall, yr wyf i wedi arfer cerdded palmant y dref am gynifer o flynyddoedd, fel y mae cerdded dros y twmpathau yn fy mlino, drwy roddi gormod o waith i ewynnau sydd wedi bod yn segur am flynyddoedd. . . Ddylaswn i ddim yfed y llaeth yn nhŷ eich mam, chwychwi oedd iawn wrth yfed tê. Mae'r llaeth yn pwyso arnaf er's dros awr. Cylla tref sydd gennyf i, ac nid cylla gwlad. Yr wyf wedi byw mor hir yn y dref, ac yn bwyta bwyd tref o hyd, fel mai cylla tref sydd gennyf erbyn hyn.'
"Gwell i ni droi 'nôl yn araf yn awr," meddwn innau, ac fe awn 'nôl dros gefn y mynydd, ac nid gyda'r afon, er mwyn cael mwy o awel".
"Na," meddai yntau, dim troi 'nôl heb weled Llyn y Fan, faint o ffordd sydd eto:
Yr ydym yn awr ar waelod y Fan, ac y mae o'n blaen waith awr a hanner o ddringo caled.'
Wel, yn awr am dani.'
Ail gychwynwyd. Nid oedd tŷ na bwthyn bugail yn awr o fewn milltiroedd i ni, a'r unigedd yn gyfareddol felys, a'r haf yn gloddesta yng nghanol y mynydd heb neb i'w wahardd, na'i anafu.
Cytunasom i ganmol yr unigedd a distawrwydd y mynydd. Ar hyn, dacw un o fugeiliaid Llanddeusant yn dyfod i'r golwg ar gefn ei geffyl ar un o'r llechweddau, â'i gŵn defaid gydag ef. "Wel" meddai'r Meddyg, "dyma'r dyn dedwyddaf yn y byd, gall hwnyna chwerthin yn iachus am ben miloedd y cymoedd a'r dref". Gall yn aml' meddwn innau, ond cofiwch y blinir yntau yn aml, er ei fod ar gefn ei geffyl ".
Pa beth a all fod yn ei flino, mewn lle fel hyn?
"Defaid colledig.'
Safodd y Meddyg yn fud am beth amser, ac meddai: Ie, wel, dyna ofid y canrifoedd, mewn gwlad a thref." Yn araf a llesg y dringem.
"Rwy'n sâl eto," meddai'r Meddyg.
Ai nid oes gennych rywbeth i'w gymryd: " meddwn innau.
Nac oes dim.
Wel, dylasai Meddyg fel chwi ddyfod â rhyw feddyglyn bach yn ei boced wrth fentro i gystadleuaeth cerdded tua Llyn y Fan?
Yr oeddwn i'n meddwl y buasai awyr iach y mynydd yn gwneud llanc o honof. Nid oeddwn yn arfer blino wrth gerdded mynydd er's llawer dydd. Rhaid mai dyn tref wyf fi, erbyn hyn."
Gorffwys eto. Cychwyn eilwaith.
Cymrwch galon yn awr, byddwn ar ben Craig y Fan yn union," meddwn i.
Daliai'r Meddyg i ddringo'n araf, a'r blinder a'r gwres yn llethu pob ymddiddan. Ond dyma frig y mynydd yn ymyl; ac yn sydyn, megis ar darawiad dyma ni ar ben Graig Goch, a ymffurfiai yn hanner cylch odditanom am gannoedd o droedfeddi, a'r llyn" yn y gwaelod yn ei gysgodle tawel, fel breuddwyd pêr. Cornant grychias yn llifo allan o hono, i lawr y llechwedd. Mân amaethdai yn y gwaelod, ac arwyddion cynhaeaf gwair ar y meysydd, yna llechweddau Sir Gaerfyrddin—tua Gwynfe a'r Tri Chrug ar yr aswy, ac heibio Myddfai tua Threcastell a Brycheiniog ar y dde, a bryniau fel mapiau o'n blaen heibio i Bentre Tŷ Gwyn a mynyddoedd Llanwrtyd.
Arhosais yn fud, gan ddisgwyl gair o syndod o enau'r Meddyg, wrth sefyll o hono y tro cyntaf erioed ar ben Craig y Fan. Beth am y Graig o'r priddfaen coch, fel bwa; neu beth am y wlad gyfaredd sy'n ymagor o'n blaen Dim gair. Na minnau—dim gair.
Ond sydyn dyma'r Meddyg yn syrthio yn swp i'r llawr! Yn rholio ar y ddaear! Gafaelais ynddo, gan ofyn, "Beth sy' mater
Sunstroke" meddai yntau!
Wel, yn gymaint a'i fod yn feddyg, dylasai wybod yn well na mi! Ni wyddwn i ddim ar y ddaear pa beth oedd i'w wneuthur. Nid oedd modd cael diferyn o ddwfr. Rhaid oedd amgylchynu'r graig am bellter cyn gallu myned at y llyn i ymofyn dŵr. Er y cofiaf fyned i lawr drwyddi mewn rhigol pan yn llanc wedi bod yn helfa'r cadno. Ond ni allwn fentro yn awr.
Nid oedd ffynnon hyd y gwyddwn i o fewn milltir neu ddwy. Gorffwyswch yn llonydd hollol am hanner awr," meddwn i, gan droi yn feddyg am y tro. Gosodais ei ben yn esmwyth ar fy arffed, ac yn fuan, ymlonyddodd a chysgodd am dros hanner awr. Agorodd ei lygaid yn ddireidus braidd. Rwy'n well," meddai. Gadewch i ni sefyll munud ar fin y graig." Ond dim brwdfrydedd.
Rhaid meddwl am gychwyn yn ôl yn fuan yn awr meddwn i. "Y mae hi yn ymyl tri o'r gloch, ac y mae cryn orchwyl gennym i ddal y trên wyth yn Gwŷs neu Gwmllynfell ".
Y mae yn amhosibl i mi gerdded yn ôl drwy'r cwm poeth yna, gyda glan yr afon" meddai yntau. "Pa beth a wnawn ynteu, rhaid i ni dreio mynd yn ôl"Y mae cerdded yn ôl yn amhosibl i mi." Rhoddodd hyn gyfle i mi, i ddweud mai myfi oedd wedi concro fel cerddwr, ond aethai yr amgylchiadau yn rhy ddifrifol i sôn am gystadlu, a chellwair.
Os nad ydych am ddyfod yn ôl, gwell yw myned i lawr i un o'r ffermydd hyn a gofyn am lety noson i chwi, a chwi fyddwch fel aderyn bore yfory ".
"Ond pa fodd y gallaf gerdded i lawr:"
"Rhaid i mi eich cario! meddwn i."
Daeth rhywbeth tebig i wên dros ei wyneb. Cerddasom dros frig y graig tua'r aswy, ac i lawr gyda'r tro, i'r llechwedd, ond teimlai'r Meddyg yn dra blinedig a diffygiol.
Gadewch i mi eich cario meddwn innau drachefn. A dyna a fu yn llythrennol. Heb i mi ymhelaethu dim yn y fan yma. Daeth ar fy nghefn, a'i ddwylaw dros fy ysgwyddau, a chariais ef i lawr am gryn bellter; weithiau yr oedd ei draed yn llusgo'r llawr, a rhaid oedd i minnau gael ambell spel. Daeth hwyl chwerthin arnom gan mor ddigrif yr olygfa. Ef yn dalach ac yn drymach na mi. Minnau yn tuchan ac yn chwysu; yna spel a chwerthin. Dan y driniaeth drwsgl hon, dechreuodd wella. Daeth i sefyll yn fwy cadarn ar ei draed, ac i gerdded tuag i lawr yn weddol rwydd.
Cyraeddasom glwyd y mynydd, ac yr oedd nifer o ddynion gerllaw yn gweithio ar y gwair. A'n pwys ar glwyd y mynydd bu cynhadledd bwysig cyd-rhyngom, a phenderfynwyd mai'r peth gorau i mi oedd myned yn ôl dros y mynydd tua'r Ddôl Gam, rhag iddynt dybio ein bod ar goll, ac i fintai ddyfod ar ymchwil amdanom gyda'r dydd. Ac i'r Meddyg yntau fyned at y gweithwyr ar y cae, a cheisio ceffyl neu gerbyd i fyned i Langadog i ddal y trên olaf, er mwyn iddo yntau gyrraedd adref. Yr oedd ganddo ddigon o arian yn ei logell i dalu am gerbyd ac am bryd neu ddau o fwyd. Tua naw o'r gloch oedd y trên yn Llangadog, ac yr oedd hi yn awr yn bedwar. A minnau eisiau dal y trên wyth yn Gwŷs, heb obaith am geffyl na cherbyd.
Nid oedd ef wedi bwyta fawr o'i fwyd yn ystod y dydd, a minnau wedi bwyta'r cwbl a oedd gennyf.
Rhoddodd ef ei barsel bwyd i mi, i'm nerthu ar y mynydd —bara menyn, wyau, sandwich, etc.
Barnasom ein bod yn gwneud y peth doethaf, ac yno yr ymadawyd. Wedi i mi ddringo ychydig i'r llechwedd, edrychais yn ôl a gwelais ef yn ymlwybro'n hamddenol gydag un o'r dynion i'r ffermdy gerllaw.
"Dyna fe yn ddiogel ymhlith dynion unwaith eto," meddwn i, gan osod fy nhraed yn y tir i groesi'r mynydd tuag adref. Gadewais y Fan ar y chwith, ac ni cheisiais ddisgyn at afon Twrch. Cedwais ar y dde gan ddyfod allan i lechwedd y Garreg Las—a thynnu tua Blaen Pen yr Helyg a thros y Garn, a'r Twyn Du, ac yr oeddwn yn y Ddol Gam yn fuan wedi saith. Cwpanaid o dê eto, a dal y trên wyth yng Nghwmllynfell, ac adref i fethu cysgu gan flinder!
Beth am y Meddyg druan?
Anfonais bennill ar gerdyn bore drannoeth:—
Fe ddaeth y Bardd i dŷ ei fam
O'r mynydd gyda min y nos,
Yn ysgafn ac yn hoyw ei gam
'Rôl croesi llawer bryn a rhos.
Y Meddyg, druan, ble mae ef,
A ddaeth y Meddyg byth i dref?
Dyma ateb gyda'r troad, ar gerdyn eto:
Ni chefais farch, ni chefais beiriant,
Gan un o filgwn main Llanddeusant—
Ond cefais garedigrwydd Ne'
Gan un o ferched mwyn Gwyn-fe.
Hawdd iawn i'r Bardd oedd croesi'r Bannau
Ar ôl f'ysbeilio o dri o wyau,
Y gamp oedd croesi'r mynydd cribog
A cherdded bob cam i dref Llangadog!
Wedi cwpanaid o dê, a chael heol galed dan ei droed, yn ateb i ŵr tref, cerddodd bob cam i Langadog, daliodd trên i Abertawe, a cherddodd adref o'r orsaf.
Y Meddyg, yn ddiau, a enillodd y dorch yng nghystadleuaeth cerdded y mynydd
IV
OBERAMMERGAU
DEUTHUM i a'm cyfeillion i'r dref uchod, fin nos, Awst 26, gogyfer â gweled Drama'r Dioddef (Passion Play).
Treflan gymharol fechan yw Oberammergau, yng nghysgodion Alpau Bavaria. Wrth fynd ohonom am dro gyda'r hwyr, gwelwn yma rai tai godidog, ac ambell westy eang. Y brif heol yn droeog, a mân-heolydd a llwybrau yn troi allan ohoni i faes a mynydd. Y mae heno yn llawn iawn, ymron fel un o drefi Cymru y nos cyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Torfeydd yn cerdded yn ôl ac ymlaen, a'r gerddi o flaen y gwestai yn orlawn, yn ôl dull y Cyfandir, a phawb yn foddhaus a siriol. Daw trên ar ôl trên i mewn, a moduriaid a buses, gan fwrw eu torfeydd i'r ystrydoedd. Dyma fus o Munich, a modurwyr o Sir Fôn! O'r braidd na ddisgyn cysgod y Dwyrain yma y bobl a'u gwallt yn llacs ar eu hysgwyddau—hen ac ieuainc—a'r symud hamddenol a'r sirioldeb syml. Disgyn hud y mynyddoedd ar ein hysbryd, ac wele Groes unig ar y graig uwchben y dref, yn fath o arwyddair bywyd trigolion y dreflan hon. Llawn iawn yw'r brif ystryd erbyn deg o'r gloch, heb ddim rhialtwch ffôl; a theimlwn fel pe bae pawb yn gofyn yn dawel: "Pa beth a fydd yfory? Daeth bore Mercher, Awst 27, yn fore perffaith parthed hin. Dim cwmwl yn y ffurfafen, a'r glesni dwfn yn y nef, ac ar faes a ffrwd, ymron a throi calon i ormod mwynhad, nes peri llesmair pruddglwyfus. Cofiwn eiriau'r Salmydd ar fore perffaith fel hwn: "Dyma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd"
Cyrchai'r miloedd i'r pafiliwn, sydd yng nghongl y dref, ychydig o'r neilltu o'r brif ffordd. Erbyn cyrraedd yno, hawdd gweled nad i Eisteddfod y daethom. Wrth gerdded i'r pafiliwn, a bwrw golwg yno dros y dorf, tebycach yw hi i gynulleidfa Cymanfa, nag i dorf Eisteddfod. Nid difyrrwch Eisteddfod sydd o gwmpas yr adeilad, eithr tawelwch a dwyster addoliad yn hytrach. Oedfa bore'r Sasiwn yw hi ym Mhafiliwn Caernarfon.
Dyma ni yn y sedd, yn lled agos i'r llwyfan, ac ar ei gyfer yn hollol. Llawn,—gorlawn—yw'r Neuadd helaeth (sy'n dal meddir tua phum neu saith mil), erbyn amser dechrau ac amlwg yw bod yn y gynulleidfa amrywiaeth mawr o bob llwyth, iaith a chenedl.
Ceisiaf roddi darlun byr o'r gweithrediadau ar y llwyfan ac yna rai o argraffiadau'r gwaith ar fy meddwl. Cymerwn yn gyntaf fraslun o'r gwaith yr eir drwyddo. Dechreuir i'r funud am wyth o'r gloch y bore, ac ni welais i neb diweddariaid yn aflonyddu'r oedfa. Am wyth o'r gloch, daw'r côr i'r llwyfan, gan ddyfod i mewn o'r ddwy ochr, a chyfarfod â'i gilydd ar y canol. Safant yn un rhes ar ffrynt y llwyfan yn unwedd parthed gwisg, a phob un â'i wallt yn llaes—nid gwallt celfyddydol, ond eu gwallt naturiol. Côr yn bump a deugain mewn nifer—ac ar y llwyfan agosaf at y gynulleidfa, ac y mae y rhan hon o'r adeilad heb dô uwch ei ben. Disgyn pelydrau'r haul a glesni'r ffurfafen ar eu gwisg. Cenir prolôg gan un o'r aelodau, a chenir cytgan; yna cyfodir y dorau o'r tu cefn iddynt, a daw llen lâs, unlliw'r ffurfafen i'r golwg, ac agorir honno—codi'r ddôr ac agor y llen, a daw darlun i'r golwg ar y llwyfan bellaf,—Y Troad allan o Eden. Gogyfer a gweled y darlun mae'r côr wedi cerdded yn araf, dan ganu, tuag yn ôl, a thorri yn ddwy ran, un bob ochr i lwyfan y darluniau. Yna ceir darlun o addoli'r Groes. Gwelir croes ar fryn, a nifer ar eu gliniau yn plygu iddi. Tynnir y llen at ei gilydd, a daw'r côr yn ôl i orffen eu cytgan i ffrynt y llwyfan. Yna cerddant yn hamddenol, yn ddau a dau, yn ôl i'w hystafelloedd.
Cyn gynted ag yr â yr olaf o'r côr o'r llwyfan, egyr y llen, a daw Iesu i'r golwg, gyda'i ddisgyblion, ac ynghanol gorfoledd y bobl. A i'r Deml, â'i wedd yn llym. Gwelir Ef yn cynhyrfu yn yr olwg ar bethau yno. Sieryd yn chwerw, pletha fflangell, dechreua ddymchwel y byrddau a thorri'r treslau—ched y colomennod allan i'r awyr lâs—arweinir defaid dros y llwyfan gan y marsiandwyr. Saif yntau yn herfeiddiol, ac nid oes neb yn meiddio Ei wrthwynebu. Cyffry hyn lid yr arweinwyr crefyddol a'r marsiandwyr, ac ymgynghorant â'i gilydd pa fodd i'w ddifetha. Dyna'n fyr, yr Act gyntaf. Yr oedd iddi bedair' golygfa', ond ni thynnid y llen ynghyd cyd-rhyngddynt. Felly hefyd am bob un o'r actau, ni thynnid y llen rhwng y gwahanol olygfeydd". Rhaid oedd gwylio'n fanwl eu gwaith yn symud o un olygfa' i'r llall. Rhwng yr actau yn unig y tynnid y llen.
Yn union gyda bod yr Act gyntaf trosodd, a'r llen yn cau, deuai'r côr i'r llwyfan i ddechrau yr ail. Yna prolôg a chytgan a'r côr yn symud yn ôl, yn rhannu yn ddwy ran, a darlun yn dyfod i'r golwg—Meibion Iacob yn cynllunio i ddifetha Ioseff. Yna dyfod yn ôl i'r ffrynt i orffen y cytgan, ac yn troi allan bob ochr, a'r ddrama yn mynd yn ei blaen. Y Sanhedrim, Caiaffas ac Annas, a'r henuriaid yn ymgynghori â'i gilydd pa fodd i ddifetha Iesu. Penderfynu fod yn rhaid Ei ladd. Yna dilynir hanes Iesu lled fanwl, gan gadw yn agos iawn at yr Efengylau, gyda'r côr a'r darlun yn llanw'r bwlch rhwng pob act. Dangosir Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon: Mair yn torri'r blwch enaint —yn golchi Ei draed, a'u "sychu â gwallt ei phen". Yn marchog i Ierwsalem—Iwdas yn cytuno â'r Iddewon i'w fradychu, y Swper, yr Ardd, y Weddi a'r disgyblion yn cysgu; dyfodiad Iwdas a'r fyddin, cusan Iwdas, y llysoedd, Annas, Caiaffas, Peilat, Herod; Caiaphas a Pheilat drachefn, y fflangellu a'r coroni â drain. Cynulliad mawr o'r bobl yn gwaeddi am Barabas a chroeshoelio'r Iesu ". Cario'r Groes; Golgotha; disgyn oddiar y Groes; y Claddu a'r Atgyfodiad. Dilynir holl hanes y Dioddef gyda manylder mawr, a gorffennir gyda'r Esgyniad, a'r Crist yn y Goleuni yn wrthrych addoliad, a'r côr yn canu Haleliwia. Ac y mae hi erbyn hyn yn chwech o'r gloch yr hwyr. Fel y nodwyd, dechreuir am wyth y bore, a gorffennir tua hanner dydd, gyda gwaith y fyddin yn dal yr Iesu yn yr Ardd. Dechreuir cyfarfod y prynhawn am ddau, a gorffennir tua chwech.
Dyna fraslun brysiog o'r maes a bortreadir. Y mae i'r Ddrama un ar bymtheg o actau, a phump neu chwech "golygfa" ymhob un, ond daw darlun o'r Hen Destament rhwng pob act, a'r côr a'i brolôg a'i emyn, fel na chollir munud. Nid oes funud segur. Nid oes raid aros yn ddiamynedd i'r llen godi. Nid oes gyfle i siarad na sisial, canys cyn gynted ag y bydd y côr a'r darlun wedi gorffen mae Drama'r Dioddef yn ail-afael, ac yn myned yn ei blaen.
Bellach, beth am yr argraffiadau a'r dylanwad: "I ba beth yr aethoch allan i'w weled: Canys gweled oedd i mi ac nid clywed. Yr oedd yno gannoedd hefyd yn clywed ond heb ddeall yr iaith. Gallwn feddwl mai gweled oedd rhan helaeth o'r gynulleidfa. Ond gyda chymorth llyfr Saesneg gellir dilyn yn weddol hawdd. Diau y collir llawer cyffyrddiad effeithiol wrth fethu deall yr iaith, canys y mae ffurf ymadrodd yn aml yn foddion gwasgu syniad adref.
Wel, deuthum yma i weled Drama'r Dioddef, ac yn ddyfnach na hynny ryw hiraeth tawel hefyd am weled Iesu—a'i Groes—ynghanol Ewrob. Ond pa beth a welir? Lled anodd yw rhoddi ateb pendant, gan fod y cyfan mor rhyfedd a dieithr. Teimlir gyda'r nos fod angen adfyfyrio llawer cyn rhoddi barn derfynol...Hawdd iawn a fyddai ymollwng i feirniadu, ac yn sicr fe ddaw rhyw elfen o siomiant drosom yn yr olwg ar ryw bethau. Ond mae'r awyrgylch mor gysegredig, fel na fynnwn frysio i gondemnio; eithr nodi yn hytrach: "Ni a welsom yr Arglwydd "—ar waethaf rhyw bethau oedd â thuedd i'w guddio.
Yn bendant i mi, y mae yma rywbeth mwy na pharti yn actio drama mewn chwareudy. O'r braidd nad ofnwn, ar brydiau, i'r cyfan fyned yn arddangosfa ffasiynol fawr, orlawn o luniau, ac i'r Iesu gael ei dynnu i lawr i lefelau anianol a chnawdol. Ofnwn y syniad o edrych ar Iesu yn cael Ei actio! Mae'r hanes mor annwyl a chysegredig gennym, fel yr ofnwn iddo gael ei sarnu gan actio proffesedig; ac i'r anianol fyned yn drech na'r ysbrydol. Ond y mae yma ryw ddylanwadau yn gweithio sydd yn ein diogelu rhag y perigl hwn. Awyrgylch gysegredig sydd i'r adeilad a'r gynulleidfa. Gwna pawb eu gwaith yn weddus. Disgyn dwyster mawr ar y dorf ar rai adegau, nes llanw'r lle â dylanwadau oedfa grefyddol. I mi, erbyn dyfod o honom i derfyn y dydd, nid theater sydd yma, ond oedfa—ac oedfa fawr—a'r Iesu yn amlwg y pennaf un, a phawb yn Ei garu.
Diau y diogelir yr awyrgylch grefyddol yn un peth gan draddodiad cysegredig; canys y mae gwreiddiau Drama'r Dioddef yn ôl ymhell yn ffydd syml y tadau. Cofir yr hanes ddyfod pla dinistriol i'r fro hon yn y flwyddyn 1632 —dri chan mlynedd yn ôl. Gwnai'r pla ddifrod mawr, ac addunedodd y trigolion eu bod yn mynd i goffa dioddefiadau Iesu Grist—a pharhau i wneud hynny. Aed drwy ffurf gyntefig ar y Ddrama sydd ganddynt heddiw. Ac o'r diwrnod hwnnw allan ni bu neb farw o'r pla. Diau fod ganddynt ryw ffurf ar Ddrama'r Dioddef cyn hyn, a'u bod wedi esgeuluso cadw'r ddefod, fel mai ail-godi hen draddodiad crefyddol a wnaent wrth ei chynnal adeg y pla. Addunedasant i'w chynnal bob deng mlynedd o'r adeg honno ymlaen. A gwnaed hynny gydag ychydig eithriadau ar adeg rhyfeloedd. Ceidw'r bobl hyn eu traddodiad crefyddol cysegredig, a ffyddlon ydynt i lw eu tadau. Teimlant rwymedigaeth i Dduw a dyn i wneud y gwaith, a chadwant at yr un ffydd syml ag oedd gan eu tadau pan yn ail-godi'r gwaith. Diau fod a fynno hyn i raddau â diogelu awyrgylch grefyddol y cyfarfodydd.
Nid oes llawer o ddiben mewn amryw o'r darluniauy tablôs; er eu bod yn ddarluniau rhagorol a drudfawr, ond tueddant at ormod cywreinrwydd a show, a thrwy hynny fateroli'r gwaith. Nid yw'r darluniau o'r pechaberth, tywallt gwaed y mynn, o ddim cymorth i esbonio'r Groes,—na Joab yn lladd Amasa, nac Adda druan a'i ddwy ferch yn tynnu'r aradr bren! Tynnu oddiwrth ogoniant y gwaith y mae amryw o'r darluniau hyn, a thueddant at ysgafnder. Ceisir gwthio yr Hen Destament megis dolennau i mewn rhwng digwyddiadau'r Testament Newydd. Ond i lawer nid yw'r ddolen yn gafael yn briodol, fel y mae perigl i hyn i anafu'r cyfanwaith, ac nid ei berffeithio.
Gydag eithrio'r darluniau, dilynir yr Efengylau yn fanwl, a daw dau beth yn amlwg iawn i'r golwg yn yr Iesu.
(1) Ei lymder. Sieryd yn llym â'r disgyblion, ac â'r gwragedd, ac wrth gwrs, ag halogwyr y Deml. Disgwyliwn Ei gael yn addfwynach gyda'i gyfeillion, eithr llym iawn. ydyw. Rhaid cofio fod yr elfen hon yn yr Efengylau—
"Efe a geryddodd Ei ddisgyblion". Felly'n gyson, llym iawn ydyw. Ac yn yr Ardd trech yw Ei drem a'i air na'r fyddin—syrth y milwyr—ni all neb Ei ddal. Cymeriad cryf aruthr yw. Yna
(2) Ei Waith yn ei roddi Ei hun i fyny. Rhydd y gŵr llym, nerthol, Ei hun i fyny yn llwyr. Try yn ddiymadferth ymron, fel ar unwaith. Ni chais Ei amddiffyn Ei hun mwyach. Daw'n addfwyn fel Oen. Derbyn bob gwawd a dirmyg—a phob dioddef, megis heb sylwi. O'r braidd nad yw yn croesawu dioddefaint. Cefais yma esboniad byw ar "ddiystyru gwaradwydd". Edrych Efe gyda diystyrwch hamddenol ar bob dioddefaint. Dyma un fannau cryfaf y Ddrama i mi:—y Gŵr cryf, na allasai neb Ei gyffwrdd, yn Ei roddi Ei hun mor llwyr, yn destun gwawd mawr a bach, heb sylwi dim, yn cerdded yn ddwys hamddenol drwy'r cyfan heb yngan gair.
Daw pelydrau datguddiad o'r Anfeidrol gariad atom yma. O'r braidd nad ydynt yn llithro dros y dorf gyda phelydrau haul yr hwyr. Ac ni all y galon ystyriol lai na holi, ai drwy ddioddefaint, rywbeth yn debyg i'r hyn a bortreadir yma, y cafwyd y mynegiad uchaf o gariad Duw? Ai'r amynedd ofnadwy hwn, a dewis dioddef y dirmyg a'r poenau hyn, a'r distawrwydd gwirfoddol llethol hwn? Ai hyn fu'r cyfrwng pennaf i ddatguddio eithaf y cariad Dwyfol at ddyn a datguddio'r gorau a'r dyfnaf sydd yng nghalon dyn yr un pryd: Rhaid aros i feddwl eto.
Rhyfeddod a bery'n ddiddarfod
Yw'r ffordd a gymerodd Efe."
I mi, tueddir i or-wneud dioddefiadau corfforol yr Arglwydd Iesu—cymer y 'treial' a'r 'cario'r groes' amser maith, ac erys y tair croes yn hir iawn gerbron y gynulleidfa. I'r neb sydd wedi ffurfio iddo'i hun Grist ysbrydol, a dysgu garu ac ufuddhau iddo, o'r braidd na ddymunai dynnu'r llen yn gynt dros y dioddefiadau corfforol. Ofnwn dynnu'r Crist i lawr i lefel dioddefiadau materol, a hynny yn unig. Ond rhaid cofio mai Catholiciaid yw'r bobl hyn, a'r pwys a roddant ar y dioddef allanol; a chofio hefyd y rhoir lle mawr iddynt yn yr Efengylau, a daw apêl foesol ac ysbrydol y Groes drwyddynt at filoedd o galonnau.
Dyma yn bennaf a deimlais i—Apel y Groes, ac apêl y Groes yn cyffwrdd pawb. Er beirniadu llawer symudiad, a methu cydsynied â llawer o'r ffurfiau—ceir yma apêl y Groes at ddyn—yn llethol o effeithiol ar ambell adeg. Y mae cynrychiolwyr llawer gwlad, llwyth, iaith a chenedl yn y gynulleidfa; pob amrywiaeth oedran, safleoedd a syniadau, a daw apêl y groes yma at bawb, ac amlwg yw ei bod yn ei ffordd ei hun yn cyffwrdd pawb gan wneud pawb yn un. Ellmyneg yw iaith y Côr, a'r siaradwyr, ond daw apêl y Groes at bob un yn ei iaith ei hun. Un o'r pethau amlycaf yma yw apêl y Groes yn gafael yng nghalon dyn, ar wahân i'w syniadau a'i gredo, a'i iaith a'i enwad! Diau y collir llawer ar ryw fath o effaith wrth fethu ohonom a deall yr iaith; ond tyrr apêl y Groes drwy'r anhawster hwn, a mynn gyrraedd calon. Pa beth a gawsoch yn Oberammergau? Ein hateb yw, apêl y Groes yn gafael yn nyfnder calon dyn. "The Universal appeal of the Cross!"
Mae'r ardal yn fanteisiol i hyn oll. Un o'r broydd tlysaf yn y byd, wedi ei chau i mewn gan y bryniau a'r mynyddoedd, gydag eithrio'r dyffryn drwy ba un y rhed yr afon allan. Meysydd gwair a llechweddau coediog ar un tu, tebyg iawn i hen ddarluniau o fynydd yr Olewydd. Yna craig fawr yr ochr arall, yn codi yn syth, a chroes unig ar ben honno a'i brig yn y nef. Y preswylwyr wedi byw am ganrifoedd a'r Groes yn ganolbwynt eu meddwl a'u gwaith. a Drama'r Dioddef eu prif ŵyl o oes i oes.
Diau y gellid gwell Drama a gwell chwaraewyr—Drama ddiweddar a chwaraewyr proffesedig. Gallai awduron diweddar wneud cywreiniach Drama, a sicrhau gwell actwyr, ond nid Oberammergau a fyddai wedyn.
Fe ddichon yn wir, mai un o'i pheryglon heddiw yw ymgais at fod yn rhy fodern ac i'r chwaraewyr ddirywio yn actwyr a dim ond hynny. Ond, hyd yn hyn, y mae canrifoedd o draddodiad cysegredig, a gair y llw yn eu diogelu.
Daw peryglon hefyd o gyfeiriadau masnachol, a'r cyfrifoldeb ariannol, ac eiddigedd i raddau at y rhai a gaiff y lleoedd blaenaf; ond er hyn oll, tyrr apêl y Groes drwy'r cyfan. Erys hi o hyd megis ar y graig a'i brig yn y nef.
Pregethau
A OES GENNYM NEGES:
ANERCHIAD CADAIR CYMANFA MORGANNWG, MAI 28, 1924
MAE dyletswyddau'r gweinidog yn amlach nag erioed, ond ei brif waith o hyd yw pregethu. Dyma un o brif—ffyrdd Duw at galon dyn,—dyma un o brif redwelïau yr Efengyl at fywyd y byd. Gorchymyn y Meistr oedd Ewch a phregethwch." Dywedodd un cyfaill yng ngwres un o gyfarfodydd y Diwygiad. "Ni bydd eisiau ychwaneg o bregethu." Atebwyd ef gan hen frawd: "Pa beth a ddywedodd y Meistr Nid yw'r gorchymyn wedi ei alw yn ôl. "Pa fodd y clywant heb bregethwr? Rhaid pregethu. Gwaith lled ddigalon ydyw heddyw o lawer safbwynt. "It is a sorry work" (Dr. Glover). Yng nghanol llif o fateroliaeth, hawdd torri calon. Gyda dacaroldeb yn tyfu yn grystyn amdanom, hawdd yw ildio, neu galedu, er hyn oll—rhaid pregethu! "A gwae fydd i mi, oni phregethaf yr Efengyl." Dyma un o'r cyfryngau hanfodol i ddiogelu ein cenedl, a'r ddynoliaeth i ddaioni, a chariad a phurdeb a Duw. Peidier a phregethu, a dyna'r maes yn rhydd i bob bwystfil.
Fe ddichon bod yn ein gwlad fach ni, ar rai adegau, ormod o bregethu, mewn ambell Gyfarfod Pregethu, ac ambell Gymanfa, nes mynd yn fath o loddest feddyliol a chnawdol. Eithr mwy yw'r perigl, yn awr o gyfeiriad arall, sef y duedd i wneud i ffwrdd â phregethu. Bron nad yw ambell eglwys yn fodlon ar unrhyw beth yn lle pregeth, megis cyfarfod adrodd, perfformio llyfr, organ recital, Sul o ganu—gan adael y bregeth o'r neilltu,—yna'r bregeth pan na fydd dim arall wrth law. Credaf yn fawr mewn Sul o ganu mawl—dylem ganu mwy, ond dylai fod anerchiad byr efengylaidd yn yr oedfaon hyn. Credaf hefyd mewn ambell gyfarfod gweddi i'r eglwys i gyd, ar fore neu nos Sul, a'r gweinidog adref. Ond am lu o bethau ereill dylid arafu cyn eu gosod i lanw lle'r bregeth, er i'r pethau hynny sicrhau mwy o gynulleidfa am dro,—nid tynnu crowd cywrain am dro yw llwyddiant crefyddol.
Pâr hyn i mi ofyn,—a edrychir ar y pregethwr fel dyn o ddifrif? Ai olwyn mewn peiriant yw'r gweinidog? Da ei gael i weinyddu mewn angladd a bedydd, da ei gael i arwyddo papurau—llanw forms ac ysgrifennu testimonials—da ei gael i yrru llu o lythyrau at aelodau gwahanol fyrddau a chyfeillion, er mwyn sicrhau swydd neilltuol i un o'i bobl. Da ei gael i fyned drwy ffurf o wasanaeth ar y Sul, a chydnabyddir fod ganddo ddylanwad mewn rhyw gylchoedd, ond a edrychir arno yn ei waith pennaf fel dyn o ddifrif?
Clywais am ferch fechan yn dweud am ei thad, yr hwn oedd yn grefyddol iawn ar y Sul, "a certain mood he has on Sunday, he will be all right again tomorrow". Ai ni ein hunain ydym ar y Sul, ynteu ffugio bod yn rhywbeth neilltuol? Ai ymgodi i ryw ymddangosiad ffugiol yr ydym ar y Sul, yna disgyn o'r cwmwl hwnnw yn ôl i ni ein hunain erbyn bore Llun? Dywed yr Athro J. Morgan Jones, yn ei lyfr "The New Testament in modern Education" fel hyn:—"The fundamental honesty and integrity of the ordinary preacher is widely and seriously doubted. Thorough intellectual integrity in the pulpit is a matter for surprise and bewilderment". Ai gwir y gosodiad yr amheuir ein gonestrwydd? Os felly, nid rhyfedd fod yr Eglwysi yn llwyd eu gwedd, a'u cynulleidfaoedd yn llesg a digalon. Canys ni cheir bywyd a chryfder heb wirionedd a gonestrwydd. A ydym yn cyhoeddi pethau nad ydym yn eu credu? Ai perfformio a wnawn fel yr adroddwr neu'r actiwr yn y chwareudy? A hynny heb ddysgu'r grefft megis hwynt hwy. Mewn gair, a ydym o ddifrif: Neu, a oes gennym neges? Os oes neges gennym, y mae gennym reswm digonol dros barhau i sefyll i fyny, a'i dweud pe ond wrth y nifer lleiaf, a llefaru pa un bynnag a wnelont a'i gwrando a'i peidio ". Dylem wneud archwiliad weithiau, i edrych a oes gennym neges glir, bendant, gadarnhaol, i'n diogelu rhag mynd yn ffurfiol a gwneud ein gwaith megis peiriannau—rhag gosod pwyslais gormodol ar bethau dibwys, ar draul esgeuluso'r hanfodion.
A oes gennym ryw air y credem ef, ac y dywedem ef pe na chaem gyflog, nac anrhydedd, a phe na baem yn weinidogion? Rhaid bod neges i bregethu; cofier gorchymyn y Meistr, a syniad Paul am ffolineb pregethu" fel ffordd Duw i gadw dynion. Ond y mae perigl ar adegau diffaith i golli golwg arni, a cheisio pob dyfais yn ei lle.
Gadawer i mi yn gyntaf, geisio dangos y ffordd i ddod o hyd i'r neges; ceisio dangos ei chyfeiriad, dangos y tir sy'n ei thyfu, a'r awyrgylch sy'n ei magu.
I. Rhaid credu gwirioneddau neilltuol. Nid ydym am sefyll dros Gyffes Ffydd na Dogma, ond rhaid credu rhwy bethau gyda sicrwydd mawr, cyn y ceir neges i bregethu, "y pethau a gredir yn ddiamau yn ein plith". Gyda nodyn ansicr heddyw y gellir pregethu yr hen ffurf ar yr Iawn, a'r hen ffurf ar gospedigaeth dragwyddol, ac ysbrydoliaeth eiriol y Beibl, ac anafir grym pregeth bob amser wrth daro'r nodyn ansicr. Mae ansicrwydd yng nghalon y pregethwr yn gwanychu grym y genadwri ar unwaith. "The hesitant note is always fatal to preaching". Rhaid cael rhywbeth cadarnhaol. Rhaid credu rhyw bethau. Gellir dadlau yn fedrus ar wahanol broblemau diwinyddiaeth heb gredu yr un, gellir darlithio ar Gristnogaeth fel darn o dwf y galon ddynol heb gredu dim ohoni, ond nid dyna yw pregethu. Rhaid credu rhyw bethau, a dyna'r pethau a wir bregethir gennym. Os wyf yn cyhoeddi pethau nad wyf yn eu credu, nid yw'r geiriau ond gweigion, ac nid syndod os amheuir fy ngonestrwydd, ac ni all y dylanwad fod yn dda. Mae deddfau'r meddwl dynol yn ddigon gonest, fel na all pregethwr adael argraff wirioneddol ond drwy bregethu yr hyn a gred.
Y mae rhyw bethau y dylem afael ynddynt gyda sicrwydd mawr, nes gwystlo ein bywyd arnynt. Pethau mwy na diwinyddiaeth, a gwahanol syniadau am lyfrau'r Beibl, ac esboniadaeth. Mae nifer o ffeithiau mawrion i fod fel creigiau dan ein traed, ac i ffurfio cefndir sefydlog a chyfoethog i'n holl waith, a ninnau i fyned iddynt megis i gloddfeydd i dynnu allan eu hadnoddau. Yr ydym i gredu—
(1) Ym modolaeth Duw. Rhaid cael Duw. Heb Dduw, tŷ gwag yw'r greadigaeth. Nid oes da na drwg, ac nid oes ystyr i fywyd. Yr unig esboniad ar y byd i ni yw Duw. Rhaid cael Duw. Nid ei ddeall, na'i esbonio, ond gafael ynddo gyda ffydd ddiysgog. Setlo'r pwnc yn ein meddwl. "Gosodais yr Arglwydd ger fy mron." Yna, yr ydym i sefyll yng nghanol cynhyrfiadau cymdeithas a berw'r byd heddiw a chyhoeddi Duw. Yr ydym i geisio lefeinio cymdeithas â'r syniad o Dduw. Yr ydym i gyhoeddi Duw yn hollol bendant. Yng nghanol llifeiriant gwyllt yr oes, y mae CRAIG—a Duw yw honno.
(2) Yr ydym i gredu yng Nghrist. Credu mewn Duw datguddiedig yn Iesu Grist. Duw yn ôl Crist—" y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad". Dyma'r amlygiad pennaf o Dduw a dyma'r ffordd at y Tad. Onid oes neges hardd i bregethu pe na byddai yn ddim mwy na dweud am Iesu―am Ddaioni, am Gariad, am Santeiddrwydd yr Iesu. Adrodd ei hanes, a sôn am yr hyn a wnaeth—adrodd y gwyrthiau a'r damhegion—dweud am ddigwyddiadau ei fywyd—rhoddi hanes ei ddioddefaint a'i angau a'i atgyfodiad, a chyhoeddi ei fod heddiw yn fyw—" yr hwn y taerai Paul ei fod yn fyw ". Mae swyn bythol yn ei hanes Ef. Ofnaf y gallwn fyned yn rhy bell oddiwrth ei hanes a'i waith i ryw syniadau amdano, ac athrawiaethau am ei Berson yn hytrach na'i ddangos Ef ei Hun. Un neges bregethu yw dweud am Grist a'i Groes. Nid oes gywilydd yn y byd ar yr Athro yn y Coleg i ddarlithio ar Tennyson a Browning, gan roddi eu hanes, a darllen eu cynyrchion. Ni ddylem ninnau fod a chywilydd i roddi hanes yr Iesu. a darllen ei eiriau Ef. Gwaredwr yw Efe, ac y mae ei Testun italighanes syml yn dylanwadu er daioni. Hanes ymdaith y cariad Dwyfol. Yr ydym i gyhoeddi yn gyson fod Duw yng Nghrist yn ein caru. Adeg y Rhyfel Mawr âi nifer o gapleniaid dan arholiad bychan gan esgob, a'r cwestiwn roddwyd iddynt oedd, "Pa beth a ddywedech wrth ddyn a dim ond pum' munud ganddo i fyw?" Atebodd un, fe adroddwn iddo y drydedd Salm a'r hugain, "Yr Argwydd yw fy mugail." "Da," meddai'r Esgob. "Aroswch funud," meddai'r Caplan, mae y pwnc mor bwysig, yn fwy na mater o arholiad, pa beth a ddywedech chwi?" "Mae Iesu Grist yn eich caru" oedd yr ateb. A oes neges uwch na hon at druan ddyn. Yr ydym ninnau i fyned at ddynion heddiw a dweud Mae Iesu Grist yn eich caru
(3) Enaid. Yr ydym i gredu mewn enaid. Bod dyn yn enaid, ac yn fod ysbrydol. Nid corff yw dyn. Nid dim ond anifail yw dyn. Mae trwch o fateroliaeth o'n cwmpas heddiw, daeth fel lafa, ac oera'n grystyn caled ar wyneb cymdeithas, ond rhaid sefyll ar hwn a chyhoeddi yn bendant mai bod ysbrydol yw dyn. Mae gan ddyn enaid ar grwydr, yn chwilio am ei gartref. Rhaid iddo wrth ysbryd yr Iesu i dreiddio drwyddo, ac i ymffurfio yn awyrgylch iddo cyn y daw i'w le. Mae ysbryd y byd o'i le, a'r unig feddyginiaeth yw ysbryd yr Iesu. "A chwi gewch orffwysdra i'ch eneidiau".
(4) Gweddi. Fod modd i ddyn fyned at Dduw. Y mae undeb â Duw yn bosibl. Un ffurf i neges yr Arglwydd Iesu yw ein dwyn at Dduw: fel y dygai ni at Dduw Mae modd myned at Dduw, ac y mae cymdeithas ysbrydol yn bosibl. Ein perigl yw aros ar y ffordd, aros gyda llyfrau, gydag esboniadau, heb fyned at Dduw. Golyga gweddi fyned at Dduw. At Iesu cyfryngwr y Testament Newydd, ac at Dduw Barnwr pawb. Medr y Duw mawr gymhwyso ei Hun ar ein cyfer, fel y môr yn llanw y rhigol ar y traeth. "Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef Iesu Grist". Dyma gymdeithas uchaf bywyd, ac awyrgylch nefol ysbryd dyn, lle y cartref o diddanwch a thangnefedd. Mae gan y Gweinidog neges arbennig i sôn am weddi a bod modd myned at Dduw!
(5) Bywyd. Tywys gweddi i undeb â Duw, a daw Ef i'n calon. Daw ei fywyd Ef yn fywyd ynom ni, yn ynni mewnol, yn gariad a phurdeb, a thyr allan yn ymarweddiad pur ac yn gymeriad glân, yn fywyd gwasanaethgar syml, llawn o garedigrwydd a chydymdeimlad. Yr ydym i alw i'r byd hwn y bywyd yn ôl Crist. Bywyd wedi ei lanw â'i egwyddorion Ef, tan ei lywodraeth Ef, mewn undeb ag Ef, ac yn derbyn ei nerth Ef. Efe yw ein Brenin.
Yng ngafael y bywyd hwn yr ydym i fod yn bendant yn erbyn drygioni. Nid ydym i ildio modfedd ar ein condemniad o'r drygau amlwg cydnabyddedig,—cabledd, medd-dod, gamblo, twyll a phob ysgelerder. Rhaid i ni hefyd wrthwynebu drygau cudd yr ysbryd. Rhaid gwrthwynebu yr ysbryd balch, hunanol, anghariadus. Yr ysbryd creulon, rhyfelgar, llid a chenfigen—yr awydd afiach am glodydd a safleoedd. Y pethau hyn yw gwenwyn mwyaf angheuol ein crefydd. Yr ydym i sefyll dros gariad Crist i lywodraethu calon, a llywodraethu cymdeithas.
Mor ddymunol i'r pregethwr, wrth fyned i'w oedfa fore Sul fyddai myfyr fel hyn: "fe hoffwn ddweud rhywbeth heddiw i beri i'r bobl yma feddwl a byw yn lanach, i beri iddynt garu a pharchu ei gilydd yn fwy, i beri iddynt deimlo presenoldeb Crist, a'i dderbyn yn Frenin calon.' Nid oes dim byd uwch i'w gynnig i lanw calon cymdeithas na chariad a santeiddrwydd Duw yng Nghrist. Yn ddibetrus, dyma'r peth uchaf y gwyddom am dano. Y mae perigl i ni fel eglwysi ei golli mewn eglwysyddiaeth, a ffurfiau ac ysbryd sect a phlaid. Gwyliwn bob perigl, a daliwn ein gafael hyd angau yng Nghrist, ei ysbryd, ei gariad, ei burdeb, ei fywyd Ef yn fywyd i ni—a bydd gennym neges anfarwol. Bydd gennym neges at fywyd yn ei holl arweddau. Deuwn i weled bod Brenin y bywyd unigol yn Frenin y bywyd cymdeithasol hefyd, a bod ei egwyddorion ef i lywodraethu cymdeithas drwyddi.
(6) Byd arall. Yr ydym i gredu mewn byd arall. Prin y mae ystyr i'r byd hwn heb fyd arall. "Sôn gormod am fyd arall," meddai rhywun—" y byd hwn sy'n bwysig Trefnu hwn. Cael hwn i'w le. Byw'n iawn yn hwn. Da. Ond os oes byd arall, y mae yn bwysig gwybod hynny, ac os oes byd arall—dyna reswm cryf dros fyw yn iawn yn y byd hwn. Os nad oes byd arall truenusaf o bawb ydym ni".
Buom yn lled dawel am flynyddoedd ar gwestiwn y "byd a ddaw "—ofnem sôn am dano yng nghlyw oes faterol, ac fe ddichon mai dyna un peth a gyfrif am gynnydd ysbrydegaeth. Fe fyn y galon ddynol fyd arall. Y mae ynom a rhaid ei gael—ac os na cheir ef gan y pregethwr, fe'i ceir gan y medium.
Cudd yw manylion y byd arall i ni—ond y mae yna—ac yr ydym ninnau i gredu hynny. Mae'r ffaith fawr hon eto i fod yn gefndir yn ein meddwl.
(7) Yr ymwybyddiaeth grefyddol. Dyma haen ddyfnaf a chyfoethocaf ein calon. Rhaid credu yn hon. Mae'r pethau a nodwyd oll ynom, ac yn ffurfio ymwybyddiaeth grefyddol ysbrydol, ac yr ydym i sefyll dros honno, ei meithrin ynom ein hunain, ac apelio ati i'w meithrin a'i deffro mewn ereill.
Os heb gredu'r pethau hyn, nid oes gennym ddim i'w bregethu, ac nid oes neges i bulpud. Os nad oes Duw—Crist—Enaid—Gweddi—bywyd ac ymwybyddiaeth grefyddol, nid oes testun gan bregethwr na sail i bulpud.
Heb y pethau hyn, diau y bydd eisiau trin pynciau cymdeithasol, ac amgylchiadau bywyd materol dyn a gwlad, ond gwna llwyfan a chlwb a phleidiau gwleidyddol y gwaith yn well na phulpud, os y gellir ei wneud hefyd.
Heb y pethau a nodwyd, anhrefn fythol fydd cymdeithas, ac anffawd fawr yw bodolaeth dyn, ac fe ddywed y gwyliedydd mai tywyll iawn yw'r nos, heb arwydd gwawr yn torri!
Ond os oes Duw—Crist—Enaid—Gweddi—Bywyd—ac ymwybyddiaeth grefyddol, yna rhaid cael Beibl, Eglwys, Pulpud, Pregethwr, i'w cyhoeddi, a'u dal gerbron y byd, a'i gwthio ar y byd. Ac y mae cylchoedd euraidd ymlaen, a'r gwyliedydd yn cyhoeddi "Daeth y bore", a bodolaeth dyn yn dod yn y diwedd yn beth mor ogoneddus a bodolaeth Duw. Tystia'r dyfnaf a'r gorau ynom fod y pethau hyn. Tystia profiad crefyddol yr oesau yr un peth. Dyna yw'r Beibl—tystiolaeth oesau o brofiadau cynyddol fod Duw, Crist, Enaid a Bywyd. Awn ati i'w cyhoeddi yn hyderus a chalonnog. Tra y sonia y llenor am lenyddiaeth, sonied y pregethwr am santeiddrwydd. Tra y sonia'r gwyddonydd am ryfeddodau'r cread, sonied y pregethwr am Dduw yn Greawdwr a Chynhaliwr. Tra y sonia'r athronydd am Hegel a Bergson, sonicd y pregethwr am yr Arglwydd Iesu. Tra y sonia'r athro yn y Coleg am wahanol lyfrau'r Beibl, a'r haenau gwahanol ynddynt, a thwf eu syniadau, sonied y pregethwr am fywyd tragwyddol '—am dwf enaid wedi ei guddio gyda Christ Nuw, am y profiadau mawr a roddodd fodolaeth i'r llyfrau hyn.
Cychwynnodd Pererin Bunyan i'w daith gan waeddi "bywyd, bywyd, bywyd". Dyna waith y pregethwr—cyhoeddi bywyd—y gwir fywyd, yng Nghrist.
II. RHAID CAEL Y PETHAU HYN YN ARGYHOEDDIADAU.
Nid dim ond cyfaddefiad eu bod yn wir, a chydsyniad y deall, ond rhaid eu cael yn argyhoeddiadau. Dylent fod yn rhyw gymaint o argyhoeddiadau yn yr aelod distadlaf, ac yn enwedig ymhob athro yn yr Ysgol Sul, a phob diacon, ac yn arbennig dylent fod yn llosgi yn gyson yng nghalon y pregethwr yn dân ar yr allor o hyd.
I gael Duw yn argyhoeddiad ynom, rhaid myned ato yn gyson—a byw yn ei gymdeithas a rhoddi ein bywyd mewn ufudd-dod iddo. Daw Crist yn eiddo i ni drwy fyned ato a'i ddefnyddio fel ein Brenin, ac ymddiried ynddo fel ein Gwaredwr. Daw Gweddi yn ffaith i ni wrth ei harfer. Daw Bywyd santaidd yn ffaith i ni wrth ei fyw. Rhaid i'r gred dyfu'n argyhoeddiad.
O'r argyhoeddiadau hyn y tyf ein cenadwri. 'Nis gallwn ni, na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom ".
Argyhoeddiadau o bethau ysbrydol yn llifo allan yw pregethu. Gwywa'r argyhoeddiad os na chaiff waith. Wrth lifo allan, cynhyrcha argyhoeddiadau mewn ereill. Nis gallwn lechian yn y gongl mewn mudandod os oes argyhoeddiad o Dduw yn llosgi ynom. Argyhoeddiad sy'n rhoi awdurdod. "Llefaru fel un ag awdurdod ganddo," ac nid fel yr ysgrifenyddion. Awdurdodau llawysgrifau MS. oedd ganddynt hwy. Awdurdod calon oedd gan yr Iesu. Adwaenir argyhoeddiad gan reddf cynulleidfa, a rhaid taro'r nodyn cyn gafael yn ddwfn. Cofier fod argyhoeddiad pregethwr wedi peri i Dduw fendithio syniadau digon amrwd lawer tro. Ac os bydd y pregethwr distadlaf yn llefaru ei argyhoeddiad o bethau ysbrydol, ni ellir amau ei onestrwydd, a gall fod yn bregethwr mawr ar lawer adeg yng ngolwg y Nef.
Un yw'r gwirionedd— y tragwyddol diderfyn a byth gynyddol yw hwnnw—ac y mae iddo ddigon o arweddau i gyfarfod â nodweddion pob meddwl, ac angen pob oes. Mae modd ein hunoli â hwn, nes iddo ddod yn nwyd bennaf ein bywyd—nes dyfod o honom ar ambell awr i fan lle yr anghofir cyflog a'r funds gan awydd santaidd i wneud ein gwaith a dweud ein neges. Ein neges fawr wedi dod yn bopeth gennym. Dywedai y Parch. Joseph Thomas, Carno, "fod crefydd yn rhywbeth gan lawer, ond yn benna peth gan ambell un". Y mae ein neges i fod yn bopeth gennym. Anghofiodd yr Arglwydd Iesu bopeth ond ei neges—" Megis y gorchymynodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur Pan ddaw adeg lesg, lwydaidd, awn yn ôl at sylweddau mawrion ein bywyd crefyddol, ac i gyfrinach haenau dyfnaf ein calon. Yfwn o ffynhonnau Duw. Gosodwn ein traed ar y creigiau, ac fe dyf negesau byw uniongyrchol yn ein calon. Daw ton o fywyd newydd i'n calon, bydd y ddôl yn lasach, a'r nen yn loywach, a byddwn yn fodlon mentro a mynd—"Wele fi, anfon fi".
Ond, atolwg, ar ôl cael y pethau hyn yn argyhoeddiadau fe fydd rhyw bethau yn aros yn amheus o hyd, rhyw arwedd ar esboniadaeth neu athrawiaeth. Pa beth a wnawn â'r arweddau hynny (a) Credaf ei bod yn hollol deg i'w gadael yn llonydd, hyd nes y daw gweledigaeth eglurach. (b) Neu gyffesu yn syml ein bod yn amheus ar y pwnc. (c) Yng nghynnydd mawr y gwirionedd erys rhyw bethau yn ddyrys o hyd, a bydd rhyw ffurfiau heneiddio beunydd, a dylem draethu hynny. (d) Mae llawer arwedd ar y gwirionedd yn fwy o bwnc Dosbarth neu gymdeithas lenyddol nag o bwnc pulpud.
Nid oes raid i ni bregethu holl gasgliadau uwch—feirniadaeth ar unwaith, a'r pethau y teimlwn amheuaeth yn eu cylch, y mae yn berffaith onest i ni eu gadael yn llonydd, a chyflwyno ein nerth i neges foesol ac ysbrydol pregethu, —i genadwri gadarnhaol cariad Crist. Oherwydd, wedi'r cwbl, nid pregethu llyfr ydym, ond pregethu Duw byw, a Christ byw, a bywyd Dyn—a chymorth i wneud hynny yw'r Llyfr. Credu gwan iawn, yw'r credu llythrennol yn holl eiriau'r Beibl, a neges arwynebol a dyf o honynt. Rhaid taro i lif y datguddiad cynyddol, a chyffwrdd â'r profiadau mawr sydd wedi cynyrchu'r Beibl. Y gwir afael yn y Testament Newydd, yw gafael yn yr argyhoeddiadau mawr, a'r profiadau mawr, a ddaeth i galon y dynion a’i hysgrifennodd, hyd nes y bydd yr un argyhoeddiadau, a'r un ysbryd, o dan ein pregethu ni, ag sydd yn gorwedd dan lyfrau'r Testament Newydd:—yna fe ffy y pynciau dadleugar yn fanion—mân.
Wedyn bydd yn hollol deg i ni fanteisio ar bob cymal o'r Beibl—pob traddodiad a dameg, pob credo ac arfer sydd ynddo, fel cynorthwyon i ddangos y profiadau hyn, a dangos Duw, Crist, a bywyd Enaid.
Crist yw ein Brenin. Cariad yw ein nwyd. Ac y mae yn deg i ni fod yn dawel ar bob peth sydd yn tueddu i gymylu ein neges—hyd nes y bydd gennym weledigaeth eglur. Mae modd aros gyda manion nes colli'r neges fel y llanc bach yn chwarae ar y ffordd, gan anghofio ei waith. Dyna'r tir, neu'r awyrgylch i dyfu'r negesau a'r argyhoeddiadau hyn, fe dyf digon o negesau i ateb pob angen ar un llaw, a phob dull o feddwl ar y llaw arall.
O'r pethau hyn y tyf Gobaith y Byd: Duw, Crist, Enaid, Bywyd—heb y rhai hyn nid oes ond y dibyn du yn ein haros. Dyma'r ategion mawr sy'n cadw dynoliaeth rhag syrthio'n chwilfriw. Dyma'r seiliau dan ei thraed, a'r strapiau cryfion o'i chwmpas. Dyma'r ynni byth—barhaol sydd yn ei chalon, ac oni bac am y rhai hyn maluriai i ddifodiant byth; a'r rhai hyn yw pynciau'r pregethwr yn eu mil a mwy o arweddau—a dyma obaith y Byd.
"Human nature, the despair of all reformers," meddai un. Ond gyda'r pethau a nodwyd, y mae modd gwella dyn, ac nid yw'r ddynoliaeth yn anobeithiol. Mae modd codi dyn o'i lygredd, a'i ddrygioni i fywyd o burdeb a defnyddioldeb. Y mae gennym y genadwri at bob dyn y gall fod o werth eto i ddynoliaeth ac i Dduw.
Galwodd cyfaill gyda mi un tro, wedi ei siomi am flynyddoedd (wedi gorffen ei goleg, ac heb alwad), ac yn ddigalon iawn. Ceisiais ei berswadio y gallasai fod o ddefnydd mawr eto, dim ond iddo ymroddi a bod a ffydd yn Nuw. A ydych yn credu hynny? meddai, da gennyf eich clywed yn dweud, oblegid y mae pobl yn siarad â mi, fel pe byddai Duw wedi marw ". Daliodd ati—cafodd alwad—a gwnaeth waith rhagorol. Siarad â mi fel pe byddai Duw wedi marw!" Ein neges ni yw cyhoeddi i fyd marw, fod Duw yn fyw, ac wrth ei waith. Dywedodd rhywun am Eglwys Gadeiriol—" the monument of a dead God". Na, frodyr, Duw byw yw Duw. Iesu byw yw'r Iesu. Y mae ei Efengyl Ef yn dal golau gobaith yn yr adegau tywyllaf. "Cofia godi Iesu Grist o feirw yn ôl fy Efengyl ".
"I bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iachau y drylliedig o galon."
Nid esboniad ar athrawiaethau yw'r peth pwysicaf, ond dod i afael y nerth sy'n iachau y drylliedig o galon; ac yn rhoddi'r caeth yn rhydd. Nid amcan yr Arglwydd Iesu oedd rhoddi termau diwinyddol ac athrawiaethau, ond, rhoddi bywyd, " fel y caent fywyd ".
Mae'r termau yn newid gyda thermau yr oes, ac athrawiaethau yn newid gyda chyfnewidiad syniadau dyn mewn athroniaeth a gwyddoniaeth, eithr y mae y gwirionedd tragwyddol byth yr un a digyfnewid. Mae'r bywyd tragwyddol yr un, a dod i roddi hwnnw wnaeth yr Arglwydd Iesu. Nid amcan y geni oedd rhoddi athrawiaeth yr ymgnawdoliad, ond achub y byd. Nid amcan y marw oedd rhoddi athrawiaeth y Iawn, ond achub y byd. A chyhoeddi yr achubiaeth fawr hon yw ein prif waith.
Wrth sôn am hyn, yr ydym i geisio—
(1) Arwain pobl i addoli. Dylem roddi pwys ar i'r gynulleidfa ddyfod ynghyd i addoli—i feithrin parchedigaeth at ddyn a Duw a bywyd. Nid dod ynghyd i chwilio am bregethau galluog—mae'r awydd afiach am wrando pregethwr er mwyn ei allu, neu ei ddawn, neu ei addysg; i wylio ei ddiwinyddiaeth, neu i edmygu ei iaith, neu ei bertrwydd, neu ei farddoniaeth, wedi gwneud llawer o ddrwg. Gwelais wahoddiad mewn newyddiadur yn ddiweddar i ddod i wrando pregethwr er mwyn ei iaith. Y mae pethau pwysicach na bod yn glefer, neu brilliant—bod yng ngafael parchedigaeth santaidd at Ddyn ac at Dduw, ac yn awyddus i ddwyn pobl i addoli. Pwysicach na meddwl yn glefer yw meddwl yn lân. Pwysicach na iaith flodeuog yw naws ysbrydol addolgar. Yr ydym i dywys y gynulleidfa i ysbryd y gwir addoli, a phresenoldeb Duw. Byddwn wrth hyn yn rhoddi neges i'r gynulleidfa—y neges o ddod i addoli, i wrando pa beth a ddywed yr Arglwydd, ac os y gwna hyn, caiff neges hefyd i fynd allan i wella'r byd i drin clwyfau ac i sefyll dros Dduw. Nes y bydd neges y pregethwr yn dod yn neges i'r gynulleidfa hefyd.
(2) Lefeinio bywyd a'r ysbrydol. Dwyn yr ysbrydol i mewn i fywyd. Wrth sefyll dros Dduw, Cariad, Enaid, Gweddi, Bywyd Santaidd, bywyd yr undeb â Duw, byddwn yn trwytho cymdeithas ag elfennau ysbrydol gosod y lefain yn y blawd, ac y mae yn werth dal i bregethu pe ond er mwyn lefeinio.
Yng nghanol y pynciau cymdeithasol, a helynt masnach, gwleidiadaeth, ac addysg, yr ydym i alw am yr ysbrydol i mewn i fywyd. Am undeb â Duw, ac undeb cariad â dynion—am addoli Duw ac am frawdgarwch dyn. Rhaid gweinyddu'r sacramentau a myned drwy ffurfiau gwasanaeth crefyddol, ond y rhai hynny fel cynorthwyon i gynyrchu bywyd cariadlawn, hawddgar a da.
Heb yr ysbrydol, heb gariad a phurdeb a Duw, yr ydym yn adeiladu â phridd heb ei dymheru. Sonia Eseciel am adeiladu felly, a syrth yr adeilad. Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch, â phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf i lawr fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef", ESEC xiii, 14.
Yr ydym i lafurio hyd at waed, drwy bob anhawster i sôn beunydd am bethau enaid ag ysbryd, er mwyn creu awyrgylch ysbrydol yn y byd, a thyfu enaid mewn cymdeithas. Wrth wneud hyn, yr ydym yng nghanol y symudiad mawr cymdeithasol. Dywed rhywrai am danom yr ydych tu allan i fywyd, yn treulio eich amser i sôn am bethau anymarferol, a breuddwydion amhosibl". Na! tra yn sefyll am yr ysbrydol â Duw—am undeb dynoliaeth mewn cariad a santeiddrwydd, yr ydym yng nghanol y prif fudiad i godi dynoliaeth. Yr ydym yng nghanolfan pob symudiad er daioni. Yr ydym gyda'r unig elfennau a ddichon glymu dynoliaeth yn un darn. Mae popeth arall yn rhannu a gwasgaru; yn creu pleidiaeth, a thyfu llid. Ond y mae nerthoedd cariad yn uno.
Yr ydym yn fwy na'r un blaid wleidyddol yr ydym yn mwydo hanfod pob daioni—yr ydym gyda'r gwraidd, o ba un y rhaid i'r ddynoliaeth newydd dyfu allan.
(3) Rhoddi lle mawr i'r syniad o wasanaeth. Fe'n poenir yn aml gan bethau bychain distadl—daw mân ddreiniach i'n gobennydd mor aml—ni fyddem yn gwybod nemawr ddim oddiwrthynt pe llenwid ni yn fwy gan ysbryd gwasanaethu.
Pe gallem fod yn llai uchelgeisiol mewn rhyw bethau, arbedai hynny lawer siom. Gwenwynir bywyd gan uchelgais siomedig.
Ni cheir digon o enw na digon o elw, os mai dyna fydd y nôd, ond dim ond ein llanw ag ysbryd gwasanaethu, cawn ddigon o waith a digon o gyfleusterau.
Gofyn hyn feistrolaeth lem—a gweddi ddyfal. Tybiaf weithiau fod digon o waith oes gan bregethwr arno'i hun.
Rhaid gwasanaethu—Dyn—Duw a Daioni, ac os yn llawn o ysbryd gwasanaeth, yr ydym yn rhwym o adael argraff, yr ydym yn sicr o adael ein hôl ar eneidiau.
Y pwnc mawr i ni fel eglwysi ac fel enwad yw bod o wasanaeth. Os o wasanaeth yr ydym yn hanfodol, a rhaid ein cael. A yw yr eglwys o wasanaeth? Os yn gwasanaethu, y mae yn sicr o barhau,—a phan y derfydd wasanaethu, gadewir ei "thŷ yn anghyfannedd ".
Sonnir am dri gweithiwr gwahanol yn gweithio ar Eglwys Gadeiriol yn un o'n dinasoedd, a'r goruchwyliwr yn nodi nodwedd arbennig pob un fel hyn.
(a) Astudio amser gadael. (b) ennill chweugain y dydd. (c) adeiladu'r cathedral. Nid oedd yr olaf mor sicr am amser gadael, nac yn pryderu am ei gyflog, ei waith oedd adeiladu'r cathedral. Ein gwaith ninnau yw adeiladu teml yr Arglwydd, drwy wasanaeth cyson i Dduw a Dyn.
(b) Ysbryd Cariad. Cyn y gellir gwasanaethu yn drwyadl rhaid bod mewn ysbryd cariad. Dyma enaid gwir wasanaeth. Cariad at Ddyn, at Dduw a gwirionedd. Un o'r brwydrau caletaf ydyw dod yn llwyr dan ysbryd cariad. Dylem fyned drwy ymdrech weddigar i ddod i afael hwn bob bore, a maddau, os bydd gennym ddim yn erbyn neb. Ysbryd cariad ddyry i ni wir salm yr Efengyl yn ein genau. Hwn a rydd i ni y nodyn enillgar—yr "wooing note soniai y diweddar Dr. Jowett am dano.
Pe byddai modd i ni fel gweinidogion a phregethwyr fyned i mewn yn llwyr i fywyd cariad y groes, a chael y diaconiaid ac athrawon yr Ysgol Sul i'n dilyn—a'r eglwysi hefyd, byddem yn dod yn fudiad fyddai yn siglo'r byd. Byddem yng ngafael nerthoedd y Tragwyddol Ysbryd a deuem i afael ystormydd o egnion aruthr ysbrydol.
Mae nerthoedd ysbrydol yn aros i'w defnyddio, maent yn disgwyl am danom, a rhaid wrth ein gweddiau a'n hymgysegriad i ddod o hyd iddynt. Mae nerthoedd naturiol yn aros am eu defnyddio—ocheneidia'r mellt am fwy o waith, griddfanna'r llanw ar y glannau, ac wyla rhaeadrau a nentydd ar y llechweddau am waith, a dylai addysg fod yn fwy uniongyrchol, pa fodd i ddeall natur a'i defnyddio, felly nerthoedd ysbrydol, deisyfant am eu defnyddio, a rhaid i'r eglwys wrth weddi, gwasanaeth, a chariad i ddod o hyd iddynt.
Mae Duw yn aros i ni ddod ymlaen. Rhaid iddo wrthym, ac wrth ein gweddiau.
Pa le y mae mwyaf o gariad: Pa un ai yn yr eglwys ai yn y byd Os yn y byd, yno y mae Crist!
Peidiwch cweryla am yr enedigaeth wyryfol, eithr awn ar ein gliniau yn yr Efengyl yn ôl Ioan, i ofyn am fedydd cariad Crist. Nid gwahanol ddarlleniadau o Eseia yw'r pethau pwysicaf, ond yfed o ysbryd y Groes. Gadawer i ni ganiatau i bob un ei ryddid barn ynglŷn ag awduraeth llyfrau'r Beibl, a gwahanol ddarlleniadau ac athrawiaethau, ond gadawer i ni oll blygu yn ymyl y Groes,—a thra byddom ni yn ymyl y Groes, bydd y pynciau dyrys a dadleugar yn setlo'u hunain. Syniadau am y gwirionedd. yw'r athrawiaethau amryw, ac nid y gwirionedd ei hun. Awn at y gwirionedd ei hun. Nid pentwr o syniadau sy'n bwysig ond ysbryd wedi ei fedyddio ag ysbryd Crist—ei fedydd tân Ef. Efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân ac â thân."
Dysged yr ieuanc diwylliedig, beidio crlid yr hen, a dysged yr hen bobl oddefgarwch ac amynedd gyda'r ieuanc nwyfus,—a gadawer i ni ddod yn un mewn ysbryd gwasanaeth a chariad. Undeb yr ysbryd a chwlwm tangnefedd.
Rhaid i'r fundamentalist beidio a bod yn erlidgar, a rhaid i'r esboniwr gwyddonol fod yn addolgar ei ysbryd; y mae y naill a'r llall yn colli'r ffordd, pan yn colli ysbryd cariad. Gyda chariad Crist yn y galon, ni ellir parhau i amau gonestrwydd y pregethwr cyffredin, dim ond iddo lynu at ei neges gadarnhaol a gadael llonydd i amheuon min y ffordd, ac fe ddeuwn yn un er i ddiwylliant y naill ragori llawer ar y llall—deuwn yn un mewn diwylliant ysbryd, a'r un cariad gennym. Hyn a'n galluoga i fod yn daer, a dal ati, o hyd—fel y wraig a'r Barnwr Anghyfiawn—dal ati nes syfrdanu'r byd." Bu farw, yn ddiweddar, hen frawd ffyddlon yn Earlstown—aeth at foneddwr i ofyn am dir i adeiladu capel—gwrthodwyd ef. Aeth wedyn eilwaith a thrachefn, llwyddodd y pedwerydd tro ar ddeg. Dywedai Mr. Collier, Manchester, iddo alw ddeunaw o weithiau gyda pherson neilltuol i'w gael i'r addoliad—llwyddodd y pedwerydd tro ar bymtheg! Dim ond cariad a rydd daerni fel hyn.
Wel, "Ewch a phregethwch ".
Mae'r gwir bregethu yn bwysicach na iaith, huawdledd, diwinyddiaeth, llyfrau—yn bwysicach nag esboniadaethyn bwysicach na'r Hen Destament—ac yn bwysicach hefyd na'r Testament Newydd, fel llyfr. Bu'r Eglwys foreol fyw am gan mlynedd heb y Testament Newydd.
Pa beth oedd ganddi: Y Crist byw, a hwnnw yn cael ei bregethu. Y Crist byw, a phregethu Crist byw, dyna fu'n sefydlu yr eglwys Gristionogol—nid llyfr na llyfrau,a dyma fu yn ei chynnal ar hyd y ganrif gyntaf; a rhaid cael hyn o hyd. Ni wna'r Beibl y tro yn lle Duw, na'r Testament Newydd y tro yn lle Crist—a phregethu Crist.
Dechreuwyd gyda Christ byw—a thystion o'r Crist byw. Rhaid wrth hyn o hyd, "a ninnau ydym ei dystion Ef". Soniai Mr. Miles, Aberystwyth mai box oedd yr hen bulpudau yng Nghymru—hynny yw—witness box. Un wedi gweled Crist, ac yn barod i dystiolaethu hynny. Yr ydym i gymryd ein llw ein bod yn adnabod Iesu Grist—ein bod wedi ei weled a'i glywed. Yr ydym i fod yn gyfryngau iddo Ef i ymddangos—a llif o'i gariad Ef drwom ni yn llifo i'r byd.
Neges—ni wna paratoad manwl y tro yn lle neges, na myfyrdod mawr, na llais soniarus, nac esbonio medrus, na iaith flodeuog, na syniadau prydferth, na'r gelf o bregethu; ni wna'r un, na'r oll ohonynt y tro yn lle neges. Eithr gyda'r neges iawn, a'r ysbryd iawn i'w dweud, yna saif pregethu yn hollol ar ei ben ei hun, ac yn anfarwol byth; canys golyga gyffyrddiad personoliaeth santaidd â phersonoliaeth arall ac â chymdeithas, yr hyn sydd yn hollol wahanol i arawd neu lyfr. Cyffyrdda â haen ddyfnaf y galon. Saif yn hollol ar ei ben ei hun.
Dywedodd cyfaill wrth Dr. Jowett, pan fu rhaid iddo ddechrau lleihau ei waith fel pregethwr—"you can give your message in writing ". No meddai Jowett," my work is preaching". Llosgodd yn gynnar—llosgodd yn nhân ei waith!
Yna wedi taro ar ein neges, ein dyletswydd yw ei dweud a'i gwneud, gan wrthod torri'n calon. Na rodder gormod o bwys ar dyrfa fawr, y mae prif negeswyr y ddaear wedi cyflwyno eu neges i'r ychydig. Gadawyd y Gŵr a ddaeth â'r newydd gorau erioed i'r byd-do—gadawyd Ef yn unig". Na fydded i lif cymdeithas wrth ymdorri i gyfeiriadau ereill beri i ni ildio—tra dalio ein nerth. Dioddefwn ambell saeth a siom yn fodlon iawn. Cafodd Ef ei "holi drwy fflangellau "—ffordd go ryfedd o holi—drwy fflangellau. Nid yw'r fflangellau hyd eto wedi gorffen pydru. Atebwn hwy â chariad. Deisyfwn yn gyson am gariad i lywodraethu ein holl ymddygiadau, am mai ein gwaith yw cyhoeddi yr enw rhagorol, yn ei ysbryd Ef. Mae'r gwaith yn fawr, a'r gweithwyr yn anaml, gweddiwn am i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. Amlwg yw, bod arno eisiau ein gweddiau. Maent yn gymorth iddo Ef i anfon ei weithwyr. Ond cofiwn mai Efe biau'r cynhaeaf. Na phryderwn am y cynhaeaf. Ein gwaith ni yw hau, "y medelwyr yw yr angylion ".
Mae'r oes yn galed ac anodd, yn fydol a materol. Ond fe wynebodd apostolion Crist ar oes cyn galeted â hithau, a chaletach. Plant ieuengaf yr Apostolion ydym ni. Wynebasant hwy ar garchardai, erlidiau, a marwolaethau. Na rwgnachwn, os ydym am fod yn blant i'n tadau. Ofnai y Parch. Hugh Price Hughes nad oedd yn was iawn i Grist am nad oedd erioed wedi bod yn y carchar. Ceisiwn roddi ein hunain mewn gweddi syml, yn eiddo i Dduw a'i Grist Ef" Arglwydd defnyddia fi yna deued a ddel.
Ymddiriedodd yr Apostolion yng Nghrist ac ymddiriedodd Crist ynddynt hwythau. Cofiwn fod gan Grist ymddiriedaeth ynom ni.
ynom ni. Yr ydym ni yn ymddiried ynddo Ef—y mae yntau yn ymddiried ynom ninnau. Yr ydym yn credu yn Nuw, ac y mae O yn credu ynom ninnau. Yn yr ymddiriedaeth ddyblyg hon gallwn yn hyderus eto ddisgwyl am un o ddyddiau Mab y Dyn.
Pa fore hoffem weled yn torri ar y ddaear? Bore heb ryfel Ie. Bore heb eisieu bara ar neb? Bore heb gynnen rhwng dyn a dyn? Bore brawdgarwch a chariad yn uno cymdeithas yn un darn ger gorsedd Duw? Ie.
Ond cymered y ffurf a fynno—bore un o ddyddiau Mab y Dyn. I osod ein hysbryd yn ei le, a'n tywys i'r gwirionedd. Gadawer i ni godi ein llygaid tua'r nef a dweud gyda Difinydd Patmos, yn wir tyred Arglwydd Iesu ".
GALW MATHEW
Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alpheus, yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.—MARC ii: 14.
GALWAD Lefi sydd yn y geiriau hyn. Cymerwn yn ganiataol ei fod yr un un â Mathew y publican. Sylwn ar yr Alwad a'r Atebiad iddi.
I. GALWAD IESU. "Canlyn fi." Un o ffyrdd yr Arglwydd Iesu i gyflawni ei waith oedd galw dynion i'w ddilyn. Galw rywrai i'w ddilyn yn llythrennol o fan i fan yng Ngalilea, i fod yn llygaid dystion o'i ryfeddodau ac i dderbyn ei ddysgeidiaeth,—i'w trwytho yn egwyddorion Teyrnas Nef. Eu galw fel y byddent gydag Ef." Galwodd rywrai, fe ddichon, i'w ddilyn dros dymor, i ambell daith, eithr galwodd y deuddeg' i'w ddilyn yn barhaus; i adael pob peth a dyfod ar ei ôl Ef. Galwad i fod yn ddisgybl sydd yma, galwad i ddilyn yr Iesu yn ystod ei yrfa ddaearol i'w therfyn mwy. Y mae, er hynny, yn ddarlun o'i alwad fawr gyffredinol i fywyd newydd. Galwai yr ychydig i'w ddilyn yn llythrennol—geilw bawb i'r bywyd nefol. Galwai bawb yn ei oes Ef, ac y mae ei alwad fawr yn llanw'r oesau, a geilw bawb o hyd.
(1) Galwad Person. "Canlyn fi." Y mae yma fudiad newydd, ac yn y mudiad hwnnw syniadau newydd, a rhyfeddodau, cymwynasau a brwdfrydedd mawr, eithr yng nghanol y mudiad y mae Person rhyfedd, dieithr, agos, naturiol, a'r Person hwn sy'n dod heibio'r dollfa, a'i fintai gydag Ef, a'r Person ei Hun sy'n galw.
Mudiad anferth erbyn heddiw yw Cristionogaeth. Cylch pendant o fywyd neilltuol yw Teyrnas Dduw—y mae yma syniadau a meddyliau, athroniaeth a diwinyddiaeth—y mae yma gymdeithas eneidiau, ac egwyddorion mawr cariad a phurdeb—y mae yma gymwynasau, haelioni ac aberth. Eithr yng nghanol y Mudiad y mae Person byw yr Arglwydd Iesu, a daw ei alwad Ef ei Hun allan at y byd. Nid dim ond galwad egwyddorion a rhinweddau ond galwad y Person ei Hun.
Y Person a alwodd ar Mathew yw'r datguddiad pennaf ac uchaf sydd gennym o Dduw. Geilw Paul ef yn Grist gallu Duw a doethineb Duw. Ynddo Ef, meddai Ioan, yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni. Efe yw'r datguddiad mawr o Gariad Duw, ac nid ydym yn sicr fod Duw yn Gariad yn unman arall. Daw Duw atom drwy'r Person hwn o hyd. Y mae Efe yn ddatguddiad parhaus o Dduw. A geilw arnom i'w ddilyn, a chawn ninnau sicrwydd o Dduw wrth ei ddilyn Ef. Person ŵyr y ffordd at Dduw. Nid syniadau nac athrawiaethau, ond arweiniad y Person ei Hun.
Person ei Hun. "Nid oes neb yn dyfod at Tad ond drwof I." Rhaid cael arweiniad llysgennad i fynd at y brenin. Drwy Grist yr eir at Dduw.
(2) A'r alwad yma i le isel. "Lefi—wrth y dollfa." Galwad i'r annheilwng, a oedd yn byw bywyd amheus, fe ddichon, yn defnyddio geiriau llygredig, a tharo bargeinion gwael. Un yn byw'r bywyd colledig. Un o'r defaid colledig. Mab Afradlon. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu da. Paratowyd ef at waith y Deml. Cafodd ysgol a choleg. Onid oes rhyw sŵn felly yn yr enw Lefi". Ei godi yn offeiriad oedd uchelgais ei rieni wrth roddi ei enw iddo. Pan oddeutu gorffen ei goleg, blinodd ar grefydd Judea. Gwelodd nad oedd dim yn y seremoniau, ac mai gwag a rhagrithiol oedd y Deml. Blinodd ar aberthau di-rif a gwelodd orthrwm a rhodres yr arweinwyr. Daeth adref a dywedodd wrth ei dad a'i fam ei fod yn gadael y coleg, a'r offeiriadaeth, a chrefydd Jerusalem.
Bu hyn yn ofid mawr iddynt. Dywedodd wrthynt ei fod am ymuno â'r publicanod, ac yr oedd hyn yn ofid mwy iddynt. Dyma fyned i wasanaethu Rhufain—gwasanaethu gormeswyr y genedl. Dyma golli ei grefydd, ei wladgarwch a'i genedlgarwch. Cymerodd y swydd hon, fe ddichon, yn ei awydd i ymgyfoethogi. Gwawriodd swyn cyfoeth arno yn Jerusalem, a gadawodd grefydd ei oes, ac ymwerthodd i'r estron er mwyn dod ymlaen yn y byd. Y peth sy wedi bod yn rhwydd i filoedd, a llewych deniadol ganddo o hyd yw "dod ymlaen yn y byd". Rhoddwn ragor o'i gofiant yn nes ymlaen. Ond ato ef—y Mab Afradlon hwn sy wedi ei werthu ei hun i elynion ei genedl y daw galwad Crist yma. At yr hwn sydd yng nghanol colledigaeth.
Daw'r alwad i'r un lle o hyd. Y mae Efe am achub y gwaethaf, a chodi'r dyfnaf. Dyfnder a eilw ar ddyfnder." Dyfnder cariad Duw yn galw ar ddyfnder trueni dyn. Y mae'r sancteiddrwydd mwyaf am fynd dan wraidd y llygreddau gwaethaf. Nid cadw draw rhag yr aflan a'r euog y mae gwir sancteiddrwydd, eithr nesu atynt i'w hymgeleddu â thriniaeth fwyn y dwyfol Gariad. Nid myned y ffordd arall heibio, ond cadw'r ffordd sy'n arwain atynt i drin eu briwiau.
Fe gred Crist yn yr isaf. Gair go ryfedd wedi dod i lên ddiweddar yw bottom dog. Dyn ydyw, mae'n debyg. Ac os dyn ydyw, fe gred Crist ynddo. Ac fe fedr dyfu enaid ynddo, a'i godi. Gŵyr Ef am barthau isaf y ddaear. Teimla ddiddordeb dwyfol yn y tlawd a'r truan. Cerddodd Efe'r dyfnderau, ac atseinia galwad ei gariad yn y cymoedd tywyll o hyd. Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch." Y mae galwad yr Efengyl yn bendant i'r pechadur a'r truan ddyn. Dyma ein gobaith. Yr ydym yn meddwl llawer, yn fynych, o'n rhwysg, a'n safleoedd, ein henw, a'n clod, a'n cyfoethewyn min y lli—tawch corsydd y ddaear hon,—anadl y camlesydd. Ein gorchuddio a'n diffodd a wnant oni chawn rywbeth mwy a gwell. Tyrr galwad Ceidwad drwyddynt i gyd, treiddia odditanynt oll. "Ffrynd pechadur, dyma'm llywydd ar y môr.'
(3) Galwad yng nghanol helyntion bywyd beunyddiol "yn eistedd wrth y dollfa". Dyn wrth ei waith, yng nghanol prysurdeb ei alwedigaeth, a galwedigaeth yn gofyn ei sylw manwl os am lwyddo. Unrhyw alwedigaeth ariannol, rhaid i'r meddwl fod yno yn gyson neu fe all golli darn o arian yn y fan. Un parod iawn i fynd i golli yw hwnnw. Medr lynu wrth ambell law. Ni thâl i gyfrifydd fod yn absennol ei feddwl. Daeth yr alwad i hwn yng nghanol trafodaeth ariannol, yn sŵn tincian arian, yn ffau Mamon. Nid yn y Synagog, nid yn y Deml, ond y dollfa! Un ryfedd yw galwad Iesu—y mae ar ryw ymchwil tros y ddaear, ac yn troi i mewn i gonglau rhyfedd. "Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno.
Clywir hi yn y Synagog a'r Deml. Clywyd hi yno yn llythrennol lawer gwaith. Clywir hi yno o hyd. Canys y mae'r addoliad yn gyfrwng arbennig iddo Ef i siarad a galw. Un neges fawr i gapel ac eglwys yw creu man cyfleus i'r Iesu i alw. Dyma le wedi ei gau i mewn gogyfer ag iddo Ef gael distawrwydd i siarad. Parchwn y llannerch gauedig, ac awn yno i wrando arno. Eithr mwy yw Efe na phob ffiniau dynol. Ni ellir ei gau i mewn. Ni all muriau sect, plaid, credo, ei gau i mewn. Ni ellir amgylchynnu Sant yr Israel â dim terfynau. A allan dros bob clawdd terfyn i alw. . . . . i'r prif ffyrdd a'r caeau i alw. A i slums y ddinas i alw. A chlywir Ef mewn lleoedd rhyfedd. Gwn am un a'i clywodd yng nghanol rhialtwch y gyfeddach yn y dafarn. Galwodd arno mewn iaith gyffredin "Dere mâ's ". Daeth yntau mâ's —ac nid aeth yn ôl. Gwn am un arall a'i clywodd y tu cefn i gownter yr ariandy, ac un arall yng nghanol papurau ei swyddfa fel cyfreithiwr. Clywyd ef ganwaith yng nglofeydd Morgannwg, a chwareli Meirion ac Arfon. Yr oedd Iesu'n gyfarwydd iawn â llwybrau cul tywyll yr hen lofeydd. Diolch iddo, y mae yn chwilio am danom pa le bynnag yr ydym. Y fam yn y gegin, y tad gyda'i waith, y llanc yn yr ysgol, a'r Mab Afradlon yn ei oferedd.
(4) Galwad i newid ydoedd. Canlyn fi." Galwad yn gofyn am symudiad pendant llythrennol. Galwad i adael un cylch ar ôl a mentro ymlaen i gylch newydd. Gadael yr iaith amheus, a'r bargeinion gwael, a'r elw annheg gadael llwyddiant a chysuron ei hen gylch, a mentro i mewn i gylch newydd, na wyddai ond ychydig iawn am dano.
Dywedasom ei bod yn alwad Person—y mae hefyd yn alwad i ddilyn y Person hwnnw! I fod dan ei addysg, ac yn ei gymdeithas. Y mae galwad Iesu o hyd yn alwad i fod dan ei addysg Ef, ac yn ei gymdeithas Ef: "Dysgwch gennyf; addfwyn ydwyf." Geilw Iesu yr isel i le uchel. Galwad ydyw i'r afiach i fod yn iach, a'r caeth i fod yn rhydd. Galw'r newynog at y bara, a'r sychedig at y dwfr, a'r marw'n fyw.
Galwad i newid awdurdod bywyd. Diorseddu un lywodraeth, a derbyn llywodraeth newydd. Nid Rhufain a'i swyddogion mwyach ond Crist. Nid budr elw, ond Crist.
Galwad Gwaredwr ydyw; ein hachub yw'r neges. Dyna ydoedd gynt, dyna ydyw heddiw. Galwad i fywyd drwy ei ddilyn Ef. Mwy yw na galwad at ei egwyddorion a'i waith, mwy na cherdded i mewn i gylch o syniadau ac o fyfyrdodau nefol. Y mae yn alwad i fod yn ei gymdeithas a than ei lywodraeth heddiw. Efe ei Hun yn ffordd. Dyma hanfod mawr y datguddiad yn Iesu Grist. Person Dwyfol i'n llywodraethu ac i'n tywys i froydd cariad a santeiddrwydd, a "Christ ynom ynom" yw'r awdurdod uchaf i fod.
II. YR ATEBIAD. "Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef." Y mae modd anwybyddu'r alwad hon, a'i mygu dan drwch o fateroliaeth. Gofyn yr alwad am atebiad cadarnhaol pendant. Rhaid i ddyn ufuddhau a gafael.
Nodyn:NOP Y mae modd ymesgusodi. Fel y dyn hwnnw am "ganu'n iach i'r rhai oedd yn ei dŷ ", neu'r gŵr a oedd am fyned yn gyntaf i gladdu ei dad. Dechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y mae modd cael esgusodion o hyd. Nid rhesymau ond esgusodion! Nid oes reswm digonol dros wrthod yr alwad, eithr gellir cael digon o esgusodion. Ond nid yw Mathew yn ceisio'r esgusodion, buasai yn ddigon hawdd i ŵr yn ei safle ef eu cael, eithr etyb yr alwad yn gadarnhaol ar unwaith.
(1) Ateb â gweithred. Nid â gair ond â gweithred. Nid ag addewid ond ag act. Wele un o actau cynnar yr Apostol. Codi a dilyn." I ateb yr alwad yn iawn, rhaid gwneud hynny â gweithred yn ogystal â gair. Golyga symudiad a newid ym myd enaid a chalon, ac yn aml ym myd corff yn ogystal. Sylwer i Mathew yn ei ateb "godi a dilyn ". Mae modd codi a pheidio dilyn—mae modd codi ac eistedd yn ôl. Gafael yn y rhaff a'i gollwng. Gwelsom rai yn codi yng ngwres teimlad, neu dan amgylchiadau cythryblus, ond yn peidio dilyn. Gadael y cwpan, a mynd 'nôl ato wedyn; gadael iaith amhur, a'r cwmni llygredig, a'r ffosydd, ond mynd 'nôl wedyn. Codi, ond ddim dilyn. "Yr hwn a barhao ", meddai'r Arglwydd Iesu a fydd cadwedig. Dilyn fi." Rhaid dechrau a dal ati. Y mae rhoddi cam ar lwybr Iesu yn golygu rhoddi cam arall. Os mynd gydag Ef filltir, rhaid mynd gydag Ef ddwy.
Onid dyma lawer o gyfrinach y bywyd crefyddol Codi a dilyn. Cychwyn a dal ati. Y gwydnwch a'r dyfalbarhad hwn yw cyfrinach llwyddiant bywyd ymhob cylch, fel rheol. Ni ddaeth neb yn grefftwr heb ddechrau a dal ati. Ni ddaeth neb yn ffarmwr na masnachwr, heb gychwyn, a dal ati. Dyna ffordd yr ysgolhaig, y llenor, y bardd, a'r cerddor. Dyna ffordd y drwg hefyd. Nid oedd y drwg yn fawr ar y dechrau, ond aeth yn fawr drwy ddal ati. Aeth y genfigen yn ofnadwy wenwynig drwy ei dilyn o hyd. Aeth meddwdod yn feistr creulon drwy ddilyn o hyd. Felly, daioni hefyd; rhaid dal ati. Nid oedd y rhinwedd yn fawr iawn ar y dechrau, daeth yn fwy wrth fyw iddi a'i dilyn.
Gwan yw ein gafael yng Nghrist wrth gychwyn, ond daw yn sicrach wrth ddal i ddilyn, a deuwn ninnau yn debycach iddo o gam i gam.
"Mi a godaf ac a âf at fy Nhad." Nid yw'r codi yn ddigon heb fynd. Ac a âf," a thrwy fynd i'w daith ar ôl codi y cyrhaeddodd dŷ ei Dad. Nid digon y codi, heb fynd.
(2) Ateb penderfynol hollol. "Efe a gododd ac a'i canlynodd ef." Dim awgrym o amheuaeth na phetrusder. Ateb dyn o ddifrif. Eisiau bod o ddifrif ar y mater yma. Yr ydym yn chwarae a chellwair gormod ar y mater o ddilyn Crist. Geilw Ef am ddynion o ddifrif. Dynion yn fodlon cymryd pwynt, a phara—costied a gostio.
Credaf fod darn o hanes Mathew o'r golwg. Nid ateb sydyn dan gynhyrfiad moment sydd yma, eithr ffrwyth myfyrdod caled, ac ing enaid. Nid brwdfrydedd yr ciliad sydd yma, a newid wedyn, eithr buddugoliaeth enaid yn dod i'r wyneb. Pa beth yw'r hanes sydd o'r golwg:
Nid oedd Mathew yn gysurus yn y dollfa. Collfa oedd hi iddo. Cafodd gyfoeth a safle, eithr aethai adref yn athrist lawer nos, er ei fod yn gyfoethog iawn. Wedi gadael crefydd ei rieni a'i genedl, temlai wacter yn ei galon eisiau ei lanw. Hiraethai am fwy o wybodaeth am Dduw, ac am fwy o oleuni ar fywyd. Dichon iddo fod yn gwrando Ioan Fedyddiwr. Bu yn gwrando yr Iesu yn sicr. Yr oedd ei dollfa ar un o brif—ffyrdd Capernaum, bron yn ymyl y môr. Clywodd sôn am Iesu yn gynnar. Gwelodd ei wyrthiau. Yr oedd yn oedfa'r Claf o'r Parlys. Clywodd ddysgeidiaeth Crist am Dduw Dad. Clywodd gyhoeddi maddeuant. Aeth y pethau hyn i'w galon. Dyma'r golau iddo ef. Penderfynodd ei fod yn myned i'w ddilyn os y cawsai hynny o fraint. Gwyddai fod Iesu yn casglu disgyblion. Gosododd bob peth mewn trefn yn y dollfa. Dywedodd wrth un o'i weision un bore," byddaf yn rhoddi i fyny gyd a hyn, gwnawn bob peth yn barod". Yna, fe'i gesyd ei hun i ddisgwyl Iesu. Un bore dacw'r Iesu'n dod, a'i alwad fwyn—ac yntau'n ufuddhau ac yn myned, gan newid byd. Bwriodd ei hun i mewn i fyd newydd. Wedi gwrando, gafael, yna symud.
Gadael rhyw bethau ar ôl. Codi a symud. Dilyn Crist yn golygu cyfnewidiad a symudiad. Gadael y dollfa —y bargeinion gwael, â'r geiriau sâl! Gadawodd eraill eu rhwydau ac a'u canlynasant Ef. Rhaid gadael rhyw bethau a'u gadael am ei fod Ef yn galw. Eu gadael ar ei alwad Ef, ac mewn ufudd-dod iddo. Galwodd Crist arnat yn yr oedfa, neu yn un o amgylchiadau dy fywyd, galwodd yn dy gydwybod, a gorchmynnodd i ti i adael rhyw bethau ar ôl. Gadael geiriau, arferion, a meddyliau ar ôl. Peth peryglus yw ceisio gwrando'r alwad, a lercian yn y dollfa yr un pryd, yng nghanol pethau'r bywyd colledig. Y mae hwn wedi gwrando, a gafael, a symud.
(3) Croeso. Wrth ddilyn, cawn ef yn union yn rhoddi ei dŷ a gwledd i'r Iesu. Gwledd i'r Brenin newydd. Disgwylia Crist gael dod i'r tŷ: Crist yw pen y tŷ hwn". Dylai gael lle wrth y bwrdd, a rhan o bob gwledd: ac â prinder yn wledd gydag Ef yn aml. Ond atolwg, pa wledd sydd gennym ni i'w rhoddi iddo Ef: Dylai gael ein gorau ymhob peth,—a'n gwaethaf. Gallwn roddi ein hunain iddo, fel yr ydym. Rhoddi ein pechodau iddo, a'n clwyfau. Gwledd iddo fydd maddau ein pechodau a gwella ein clwyfau. Ac yn ei faddeuant dyry i ni ei dangnefedd. Mi a swperaf gydag Ef, ac yntau gyda minnau.
(4) Dilynodd gyda Gwybodaeth gyfyng. Mentro ar ôl Crist, heb fod yn gwybod rhyw lawer. Syniad cyfeiliornus sydd dan y wledd yma yn lled debyg. Disgwyl teyrnas ddaearol y mae, a dechrau croesawu'r Brenin. Bu raid chwalu'r syniadau hyn, a mynd ymhell o olwg gwleddoedd daearol. Ond er yn amherffaith ei syniad, y mae wedi gafael yng Nghrist—yn y Person. Ni allwn ddeall y cwbl am Grist cyn dechrau ei ddilyn. Ein syniadau bawb ohonom yn amherffaith. Gafaelwn ynddo Ef fel ein Gwaredwr, a'i ddilyn. Rhaid dechrau gyda gwybodaeth fach, a gosod ffydd i weithredu ar honno. Nid ydym yn deall y bont sy'n croesi'r afon, ond yr ydym yn ei cherdded; ddim yn deall y peiriant, ond yn myned i'r cerbyd; ddim. yn deall yr awyr a'r ffrwythau, ond yn anadlu a bwyta. Rhaid cychwyn i ddilyn Crist heb ei ddeall i gyd, eithr i ddyfod i'w ddeall yn well wrth fyned ymlaen.
Cychwynodd Mathew gyd â gwybodaeth fach, ond daliodd i ddilyn.
(5) Dal ati: para, drwy bob tywydd. Gall y dyn cyffredin wneud disgybl da drwy ddal ati, a gall y dyn cyffredin wneud hyn—dal ati.
Dacw'r disgyblion yn myned allan i bregethu yn ddau a dau, a gosodir Mathew gyda Thomas. Cwmni pryderus, amheus.
Ym Mynydd y Gwedd-newidiad: nid yw ar ben y mynydd, ond ar y gwaelod gyda'r rhai sy'n methu; ond yn para, er methu.
Yn y Cymundeb yn yr Oruwchystafell. Nid efe yw'r agosaf at y Ceidwad, ond y mae yma. Yn yr Ardd—nid gyda'r tri ond y mae yno. Yn yr Oruwchystafell wedi'r Atgyfodiad, y mae yno, pan oedd ei gyd-bregethwr yn absennol. Wedi'r Esgyniad, yn y Cwrdd Gweddi " lle yr oedd Pedr, Iago, Ioan, Andreas, Phylip, Thomas, Bartholomew a Mathew. A siaradodd yno? A fu'n cymryd rhan yno? Yr oedd yno.
Yr hen syniadau wedi newid llawer. Y mae yn awr a'i afael yn y Crist ysbrydol, a'i wyneb ar y Pentecost; yn dilyn o hyd.
Gallwn fentro edrych arno, yn hen ŵr, mewn congl unig, wedi methu mynd i'w daith, yn ysgrifennu geiriau'r Iesu. Yr oedd wedi arfer ysgrifennu. Gosododd rai o eiriau Crist at ei gilydd, a dyna sail yr Efengyl yn ôl Mathew.
Wedi dilyn—gan ddechrau'n syml, a dod heibio i'r materol at yr ysbrydol. Ei syniadau wedi newid llawer oddiar y bore y gadawodd y dollfa—a'r dydd y gwnaeth wledd. Nid oedd wedi meddwl am Groes ac Atgyfodiad. Teyrnas ysbrydol sydd o'i flaen yn awr, a Christ ysbrydol yw ei Frenin. Hwn yw ein Crist ni.
CYFARFOD YN GALILEA
"Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea."—MARC xiv: 28.
DYMA engraifft go ryfedd o sicrwydd Iesu o'i anfarwoldeb. Ei anfarwoldeb Ef ei Hun, ac anfarwoldeb ei waith. Saif yma yng ngolwg ei Groes, yn ymyl ei farw mawr, a sieryd yn hollol sicr ei fod yn myned i fyw y tu hwnt iddynt. Gwêl y frwydr yn amlwg—"tywysog y byd hwn sydd yn dyfod". Gwêl ei fuddugoliaeth yn sicr—"bwrir allan dywysog y byd hwn". Gwêl ei farw, ac nad oes modd osgoi. Gwêl hefyd yr Atgyfodiad yn glir tu hwnt i'r bedd. Gwêl y nos ddu, gwêl hefyd y wawrddydd lân yn torri yr ochr arall iddi.
Yn ôl Efengyl Marc, rhagfynegodd Iesu ei farwolaeth droeon, megis yn Cesarea Philipi, ac ym Mynydd y Gweddnewidiad, ac ar y ffordd i Jerusalem—a soniodd am ei Atgyfodiad bob tro. Gwelai fore'r "trydydd dydd" o hyd—"a'r trydydd dydd atgyfodi". Diau fod y sicrwydd hwn yn ei gwneuthur yn haws iddo i fyned i'r frwydr. Dylai sicrwydd anfarwoldeb wneud marw yn haws i ninnau. Dyma ran o'i lawenydd wrth wynebu angau oedd ei sicrwydd o fywyd; dylai fod yn llawenydd i ninnau, ac yn llawenydd yr Arglwydd. A gollodd Ef hyn: Ymadrodd rhyfedd yw hwnnw a lefarwyd ar y Groes, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist." Dyma brofiad pechadur, heb fod yn bechadur. Haeddiant pechadur yw colli Duw. Ysgaru rhyngom â Duw y mae pechod. Collodd yr Arglwydd Iesu ei ymwybyddiaeth o bresenoldeb ei Dad, ac wrth hynny ymsuddodd i ddyfnder marwolaeth. Cafodd brofiad o angau. Eithr daeth y golau yn ôl. Ni chollodd Ef ei ffydd. I'th ddwylaw Di, O Dad, y gorchmynaf fy ysbryd". Hunodd yn y goleuni—aeth i orffwys yn y goleuni—a deffrodd yn y goleuni fore'r trydydd dydd ; ac ni bydd nos yn ei brofiad na'i hanes mwy. Preswylia mwyach yn y dydd bythol. "Ac ni bydd nos yno".
Yn ein testun, y mae yn sicr o'i atgyfodiad, ac yn gwneud apwyntiad â'i ddisgyblion y tu hwnt i'r bedd. Apwyntiad yr ochr arall i'w angau a'i fedd. Fe fyddwn ni yn gwneud ambell apwyntiad, ac yn dweyd "fe gyfarfyddaf â chwi yn y fan a'r fan, y pryd a'r pryd ", a byddwn yn cadw ambell un ohonynt, ac yn torri ambell un arall. Ond dyma apwyntiad rhyfedd y tu hwnt i'w angau—
Ewch i Galilea, a byddaf yno yn eich cyfarfod yno y'm gwelwch i"; ac fe'i cadwodd! Dyma feiddgarwch ysbrydol Tywysog y Bywyd yn addaw, a buddugoliaeth ysbrydol Tywysog y Bywyd yn cyflawni. Sylwn ar
YR YMDDANGOSIAD YNG NGALILEA.
(a) Naturiol i'r Iesu oedd mynd i Galilea wedi brwydr y Groes, a'i fuddugoliaeth. Myned adref. Myned adref ar y ddaear, ar ei ffordd at ei Dad i'r Nef. Dyma'r lle'r oedd Nazareth lle y magesid Ef, a Chapernaum ei ddinas ei hun". Dyma faes ei weinidogaeth lwyddiannus. Dyma'r fro lle bu'r torfeydd yn ei ddilyn i bob man. Y mae olion gwyrthiau ymhob man yma, a'r damhegion o hyd yn fyw ar faes a bryn a mynydd. Hyfryd fydd mynd am dro i lan y môr, i ganol atgofion oedfa fawr a'r helfa bysgod. Dyma'r llecyn lle y cafodd ei ddisgyblion cyntaf a gorau. Galilea hoff! Anadlu awelon Galilea wedi llwch Jerusalem a thawch angau. Gelynion a gafodd yn Judea—dim ond un o'i ddisgyblion oedd o Judea—a Judas oedd hwnnw. Naturiol iawn iddo a fydd mynd am dro i Galilea.
(b) Naturiol hefyd i'r disgyblion oedd myned yno. Rhagwelai yr Iesu hyn. Naturiol oedd meddwl y buasent yn tynnu'n ôl i'r hen fro. Rhagwelai y buasent hwythau yn tynnu tua chartref. Ac y mae am iddynt fyned. "Ewch í Galilea." Canys y mae yno gyfle bendith iddynt. Y maent wedi gweled pethau rhyfedd, wedi bod yn llygaid dystion o bethau erchyll. Bydd bendith iddynt yn awelon iach Galilea, ac yng nghanol atgofion am weithredoedd nerthol yr Arglwydd. Daw llawer gair o'i eiddo i'w cof o'r newydd. Cofiaf hen feddyg a fyddai yn cymeradwyo ambell glaf gwannaidd yn y gweithfeydd i fyned yn ôl am dro i'w fro enedigol er mwyn ei iechyd. Er mwyn cael anadlu ei native air. Un iach yw hwnnw. 'Roedd ben— dith i'r disgyblion wedi bod yng nghanol erchyllderau'r croeshoeliad, i fyned i Galilea, i anadlu eu native air. Cyfle iechyd, corff, meddwl, ac ysbryd iddynt.
Ond y mae yno berigl hefyd. Peryglon yn ymyl bendithion o hyd. Yn Galilea, y mae yr hen fywyd, y môr, a'r cychod pysgota, a'r hen arferion, a'r bywyd materol—y bywyd cyn dechrau dilyn Crist. Y mae perigl syrthio'n ôl i afael hwnnw—perigl colli'r gweledigaethau ysbrydol, ac ymsuddo yn ôl i'r materol a'r bydol. Perigl mynd i grwydro. Trefna Ef i fod yno o'u blaen i'w diogelu. Eu cadw yng ngafael y gweledigaethau ysbrydol. I'w diogelu rhag y perigl, a sicrhau'r fendith iddynt.
Awn yno gyda hwy i weled pa beth a ddigwyddodd. I. DYFNHAU ARGYHOEDDIAD. Ac yr oedd angen hynny, ac y mae angen beunydd am ddyfnhau pob argyhoeddiad da. Angen gwasgu'r hâd da yn ddyfnach i'r ddaear. Amcan mawr yr ymddangosiad yn Galilea oedd dyfnhau yr argyhoeddiad ei fod Ef yn fyw. Ei anfarwoldeb Ef. Cael hwn oedd ei hangen mawr. Yr oeddent wedi ei golli ar y Groes, ac i bob golwg allanol yr oedd Ef wedi colli'r dydd. Yr oedd y Bugail wedi ei daro. Yr oedd Iesu wedi ei ladd ac wedi ei gladdu. Cawsant ddau brawf ei fod fyw. (a) Bedd gwag. Anodd oedd credu hyn. Peri dychryn iddynt a wnaeth hyn—"a'n dychrynasant ni". Methent wneud llawer o hyn. Gallasai'r bedd fod yn wâg a'r corff wedi ei ladrata. Nid oedd y bedd gwag yn ddigon o brawf fod Iesu yn fyw. Ni allsai'r bedd gwag byth eu dwyn yn ôl. Cawsant brawf arall, sef—
(b) Yr ymddangosiadau. Rhyfedd a dieithr eto yw y rhai hyn, ond pa beth bynnag oeddent, yr oeddent yn ffordd yr Arglwydd Iesu i ddangos iddynt hwy ei fod yn fyw. Amhosibl i ni heddiw yw eu hesbonio, ond dan— gosodd Iesu drwyddynt ei fod yn fyw. Ei fod yr un. Myfi fy hun ydyw. Yr Iesu a fu'n cyflawni gwyrthiau, ac yn llefaru damhegion. Yr Iesu a aeth i'r Groes—eto'n fyw, a chyda hwy. Anodd oedd ganddynt gredu. Yr oedd ei gobaith wedi diffodd. Nid dychymyg y rhai hyn a greodd yr Atgyfodiad—canys yr oedd eu dychymyg yn erbyn y syniad. Credasant yn erbyn eu dychymyg, ac yn erbyn eu ffordd o resymu. Argyhoeddwyd hwy gan yr ymddangosiadau. Nid rhesymeg, na syniadau, na rhag— fynegiadau, ond yr ymddangosiadau. Argyhoeddwyd hwy gan ei ddyfodiad Ef. Yr un Person mawr yn gafael ynddynt eto. Yr oedd yr argyhoeddiad ei fod yn fyw wedi ei ddechrau yn eu calonnau yn Jerusalem, gyd â'r ymddangosiadau yn yr Oruwch-ystafell, yn yr Ardd, ac ar y ffordd. Yr oedd yr had wedi ei fwrw i'r ddaear. Y golau wedi dechrau gwawrio. Ond y mae'r peth mor fawr a dieithr, ac mor anodd ganddynt hwythau gredu, fel y mae lle i ymddangosiad eto—yn Galilea, i ddyfnhau'r argyhoeddiad.
Ac y mae rhywbeth mewn lle—cymdogaeth Jerusalem oedd y gorau i ddechrau maes y frwydr. Yna Galilea—maes y weinidogaeth gynnar. Bydd pob atgof yn cynorthwyo'r argyhoeddiad i'w ddyfnhau. Daw gwyrth y môr, a Phregeth y Mynydd i ail afael. Aethant i Galilea. Cawsant yr Iesu yno. Ef ei Hun. Y Bugail wedi ei daro, ond heb ei ddifetha. Angau ddim wedi ei ladd. Y bedd wedi methu ei guddio. Dyna'r Iesu'n fyw. Dyma un o nodweddion mawr ein crefydd. Y mae Person byw yr Arglwydd Iesu yn ei chanol. Mwy yw ein crefydd nag athrawiaeth, egwyddor, gorchymyn, rheol,—perthyn y pethau yna iddi ond y mae hi yn fwy. Ei ffynhonnell fawr yw Person byw yr Arglwydd Iesu. Golyga Cristnogaeth, gred a gafael mewn Person byw. Cymdeithas â Pherson yw ei hanfod. Rhaid o hyd wrth argyhoeddiad o Grist byw ysbrydol. "Byw, byw yw Iesu'm ffrind a'm Prynwr gwiw." "Mi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Mwy na'r gwyrthiau, a'r damhegion, a'r Bregeth ar y Mynydd— Ef ei Hun! Gwelir y Groes yn arwyddlun mewn llawer man, ond nid y Groes yw hanfod ein crefydd, eithr y Gŵr a fu ar y Groes. Nid ffaith yr Atgyfodiad yw bywyd ein crefydd, ond bywyd y Gŵr a atgyfododd! Un o anghenion mawr yr eglwys heddiw yw argyhoeddiad dyfnach o Grist byw. Beth pe ceisiem am ymddangosiad 'o'i eiddo er mwyn sicrhau hynny. A gawn ni ddisgwyl?
Awn yn ôl i Galilea—ein profiadau cyntaf, a'n hargraffiadau cynnar —ac yno i ddisgwyl wrtho Ef
II. TYNHAU'R BERTHYNAS. Yr oedd angen tynhau dwy berthynas. (a) Eu perthynas a'u gilydd; (b) Eu perthynas ag Ef. Ac wrth gael yr olaf, yr oeddynt yn sicr hefyd o gael y blaenaf, canys y mae dyfod yn nes ato Ef, yn sicr hefyd o'u tynnu yn nes at eu gilydd
Awn i Galilea, a gwelwn yno dynhau o'r ddwy berthynas. "Tarawaf y Bugail, a'r defaid a wasgerir." Torrwyd y gymdeithas fach i fyny gan ddifrod y Groes. Cofier y ddau ar eu ffordd i Emaus—diau mai myned adref oeddynt. Gwasgerir chwi, bob un at yr eiddo"; "hwy oll a'i gadawsant Ef ac a ffoisant." Sonnir bod Thomas yn absennol yn un o gyfarfodydd yr Oruwchystafell—nid yw hynny yn ddim syndod; y syndod yw fod cynifer yno. A phan yn myned adref i Galilea, myned adref i aros, a gwasgaru a wnaent. Nid oedd dod oddiyno i fod mwy. Gwasgariad oedd hwn. Ond y mae'r Bugail yno i atal y gwasgariad ac yno o'u blaenau—" Yr wyf i yn myned o'ch blaen chwi." Sut y bu yno? Cawsant dair apêl i ddod at eu gilydd ac ato yntau
(1) Yr apêl gyntaf oedd ei gael Ef. Ef ei Hun. Ac o'i gael Ef, rhaid dod 'nôl ato, a chredu ynddo. Yr Arglwydd yw." Hwy a wyddent mai yr Arglwydd oedd." (2) Ei gael Ef drwy weithred arbennig o'i eiddo—apêl gweithred Credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain." Daeth atynt drwy un o'i wyrthiau eto. Un o'i arwyddion a'i ryfeddodau. Gwyrth y môr. Rhaid oedd dod i Galilea i gael gwyrth y môr. Dyna wlad y môr. A gwyrth y mor yw un o'r gafaelion ym mhlant y môr. Yn ôl Luc, yn ymyl gwyrth y môr y galwyd hwy i ddechrau. Dyma wyrth gyffelyb i'w galw yr ail dro. Wedi dychwelyd o honynt i Galilea, aethant i bysgota—dyna ddechrau myned ôl i afael yr hen fywyd eithr siomedig a fu'r gwaith— ni ddaliasant ddim". Bore drannoeth, gwelent ŵr ar y lan, yn teimlo diddordeb ynddynt, ac yn holi: "O blant, a oes gennych ddim bwyd: Bwriwch y rhwyd o'r tu dehau i'r llong." Ni allent bellach ei thynnu gan y lliaws pysgod." Ac er bod cymaint ni thorrodd y rhwyd." Torrodd y rhwyd y tro o'r blaen. Y mae hon yn gyflawnach a pherffeithiach gwyrth. Erbyn dod i dir, tân yno, a physgod, a bara, a gwahoddiad: "deuwch, ciniawwch". Ef sydd yma. Ac y mae yn aros yr un. Aeth y borebryd hwn yn Gymundeb," Yna, daeth yr Iesu ac a gymerth fara." Yr oedd ganddo ei ffordd o gymryd bara. Tynnu'r wyrth i gysgod ei Groes. Rhaid ei bod wedi gafael ynddynt, a hwythau drwyddi wedi gafael ynddo yntau
(3) Yna, apêl ei eiriau. Ceir yn dilyn yma un o'r darnau sydd i mi yn glasur ysbrydol. Yr wyf wedi ei ddarllen gannoedd o weithiau, a chrynu a gorfoleddu lawer gwaith wrth wneud hynny—gwenu ac wylo. Petr yw'r arweinydd; rhaid ei gael ef yn iawn. Ef a fu'n arwain i'r môr yr hwyr nos cynt. Rhaid iddo arwain eto ar y tir
Wedi gorffen â'r bwyd a'r cymundeb, wele'r Athro'n troi at Petr—cofier mai ef a arweiniodd i'r môr—cofier hefyd ei fod wedi gwadu deirgwaith, a'r cysgod trwm yn aros ar ei feddwl. Meddai'r Athro, Simon, mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i:" Gan ofyn deirgwaith! A Phedr yn ceisio ateb yn gadarnhaol bob tro. Yr oedd yr ymddygiad yn gwadu, wedi dweud fel arall, eithr gŵyr, er hynny, yn nyfnder ei galon ei fod yn caru'r Iesu. Dyma uno â'r Iesu mewn cariad. A dyma'r unig ffordd i uno ag Ef. Dyma ei rwymo â chariad yn garcharor Iesu Grist
Yna, meddai'r Iesu, " ortha fy ŵyn. Bugeilia fy nefaid. Portha fy nefaid." Dyma ei ddwyn at ei frodyr. A'i ddwyn atynt mewn cariad a gwasanaeth.
"Fy ngharu i"—dyna ddod yn nes at Iesu. "Portha fy ŵyn "—dyna ddod yn nes at ei gilydd. Eu huno â'i gilydd, ac ag Ef mewn cariad. Dyna'r egwyddor fawr. Hon sy'n ein clymu wrth Grist ac wrth ein gilydd. Seiat ryfedd oedd hon ar lan y môr. Cyfarfod y bore. A bu'n gyfle i fwyta bara'r bywyd, ac anadlu'r nwydau nefol, tragwyddol. Gelwir hwy i afael cariad, yna, mewn cariad i ufudd—dod a gwasanaeth. Ac i'w wasanaethu Ef wrth wasanaethu ei gilydd. "Portha fy ŵyn." Rhaid cael y Person byw i ddechrau, a gafael ynddo mewn cariad, yna ufuddhau iddo, a chynwysa'r ufudd-dod hwnnw fyned ohonom allan i wasanaethu cyd-ddyn. Drwy hyn i—
III. AIL AFAEL YN EU GWAITH. Sŵn gwaith sydd yma— Portha Bugeilia". Y mae Ef yn anfarwol. Yr ydym ninnau yn anfarwol mewn undeb ag Ef, ac y mae ei waith yn anfarwol. Rhaid iddo Ef gynyddu. Yma, casgl Ef ei eglwys fach wasgaredig at ei gilydd, a gesyd hi ar ben y llwybr i wynebu gyrfa'r oesau. Cychwyn taith dragwyddol. Taith sydd i barhau drwy oesau daear a nef. Pa beth bynnag oedd yr ymddangosiadau yma, y rhai hyn ddaeth â'r disgyblion yn ôl at yr Arglwydd, ac at ei gilydd, ac at eu gwaith. Dyma fu'n ail-gychwyn yr eglwys. Cymerodd rhywbeth annirnadwy le. Daeth yma ryw ymyriad Dwyfol, byw, ofnadwy. Canys yr oedd y Bugail wedi ei daro, a'r praidd wedi ei wasgaru. Ond daeth y Bugail drachefn i'w dwyn yn ôl. Nid cysgod, na thybiaeth—daeth Ef ei Hun.
Y gair olaf ar derfyn yr oedfa yma yw—"Dilyn fi". Dyma'r gair a ddefnyddiwyd wrth eu galw y tro cyntaf—ac efallai yn yr un man, ac yn ymyl gwyrth gyffelyb. Cofiai Pedr yr alwad ddwy flynedd a hanner yn ôl,—dyma hi eto yr un cariad yn galw, ond â thrueni cariadlawn newydd yn ei lais—swyn anghymarol ysbrydol yn ei acen. Rhaid mynd eto. Rhaid ail-afael. Arwydd dda yw bod dyn yn fodlon ail-afael ar ôl methu. Arwydd bywyd ysbrydol yw parodrwydd i ail-ddechrau, a pharod yw Duw i roddi i ni "ail ras ".
Dacw hwy'n cychwyn, er cymaint swyn y môr, ac atgofion yr hen fro, gydag argyhoeddiadau dyfnach, a gafael dynnach. Ac y maent yn ôl yn Jerusalem yn union, yn yr hen ystafell, lle bu'r ymddangosiad cyntaf—mewn cyfarfod gweddi yno, a'u gafael mewn Crist mwy ysbrydol nag erioed, a'u hwynebau at y Pentecost. Dyma'r lle gorau iddynt yn awr. Nid dim ond atgofion brwydr a fydd yma iddynt bellach, ond atgofion buddugoliaeth. Nid dinistr angau, ond concwest bywyd. Sicrwydd anfarwoldeb ymhob man. Nerthoedd bywyd annherfynol yn llifo o bob atgof. Bydd hyn yn taflu tân ar eu hangerddolrwydd, a byddant yn y Pentecost yn union.
Yng ngafael cariad at Grist, a gwasanaeth drosto mewn cariad at gyd-ddyn, y mae ei waith yn anfarwol fel Ef ei Hun. Cyfranogir o'i anfarwoldeb Ef wrth wneud ei waith. Teimlir nerthoedd Crist o hyd ar lwybr cariad a gwasanaeth, a cheir gafael newydd a chryfach ynddo o hyd fel y Crist byw.
IV. CAWN YMA HEFYD FYNEGIAD O WAITH Y CRIST YSBRYDOL O HYD: Myned o'ch blaen". Acthant hwy i Galilea i wasgaru—aeth Ef o'u blaen i'w cyfanu. Y mae am ein harwain o hyd, a'n dwyn yn ôl o bob crwydriadau: "Efe a ddychwel fy enaid". Wedi'r crwydro di-ffydd, a'r gwibio amheus, daw Efe o hyd i'n cyfarfod â'n dwyn yn ôl.
 o'n blaen at ein dyletswyddau ac at ein gwaith.  o'n blaen drwy anawsterau a phrofedigaethau.  o'n blaen i'n diogelu mewn peryglon, a'n tywys drwy'r croesffyrdd dyrys—yng nghanol y torfeydd, neu yn y llecynnau mwyaf unig. Saif ar y lan wedi llawer nos siomedig, yn dyner ei air, ac am ein cynorthwyo. Dywed Ef o hyd "deuwch, ciniawwch" ar draethellau digon llwm. Darpar fwyd mewn lleoedd anial o hyd. A o'n blaen yn ein calon ein hunain, tywys i'r celloedd mwyaf mewnol, at ein bwriadau a'n hamcanion; teifl ei oleuni i'r lleoedd tywyll yno. Arwain Ef i ganol ein cydwybod a deffry egnion yno, nes dyfod iddi deimladrwydd a thynerwch newydd. A o'n blaen ar daith bywyd, o'r crud i'r bedd—dros ddolydd bore oes, a'r cacau glas, dros y ffiniau, ddydd a nos. Dros gors a gwaun a chraig a chenllif drwy Ac i groesi'r ffin olaf, y llinell ddu rhwng y ddeufyd. Ac os myfi a âf, mi a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun ".
Am ein diogelu y mae Ef. Arweinydd a Bugail enaid ydyw. Ymlaen y mae Ef ac nid ôl. Daw miwsig pêr o'r gorffennol—swyn ei hanes—gloywder ei esiampl—eithr ymlaen y mae Ef—yma, y mae Ef. "Wele, yr ydwyf fi gyd â chwi". Ac am ein tywys i'w fuddugoliaeth byth. Gafaelodd y disgyblion ynddo yn Galilea—a dilynasant hyd angau. Ni fu sôn am droi yn ôl wedyn. Daeth y praidd gwasgar yn un i lwybr y bugail.
Clywais, yn ddiweddar, am ddau yn adrodd "Yr Arglwydd yw fy Mugail". Actor oedd y cyntaf, a gwnaeth ei waith yn berffaith, parthed llais, ac acen ac ystum. Hen weinidog oedd y llall, ac heb fod mor feistrolgar—ei lais a'i huodledd, eithr cafodd ddylanwad dwys ar y gynulleidfa. Aeth yr actor i longyfarch yr hen weinidog. "Y gwahaniaeth rhyngom" meddai, oedd hyn yr oeddwn i wedi dysgu'r Salm, 'roeddech chwithe wedi nabod y Bugail".
Dyna y mae'r disgyblion wedi wneud yma—adnabod y Bugail! Dyna'r prif beth i ninnau. Hynny a'n ceidw byth yn ddiogel.
Y CRIST SYDD WRTH Y DRWS.
"Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo; os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. DAT. iii 20.
ADNOD mewn llythyr,—llythyr at eglwys. Llythyr da at eglwys sâl. Y gwaethaf megis yn galw am y gorau i'w hymgeleddu. Gorau Duw yn dyfod allan i ennill y gwaethaf. Un peth mawr yn y llythyr yw'r syniad sydd yn adnod y testun, sef CRIST WRTH Y DRWS. (a) Crist wrth ddrws yr eglwys. Gellid edrych ar y geiriau oddiar safbwynt hwnnw. Eglwys yn gwrthod Crist. Eglwys glaiar ei hansawdd, heb ddim sêl dros wirionedd, heb argyhoeddiad o fath yn y byd, ac o ganlyniad, yn byw mewn hunanfoddhad ac esmwythyd. Eglwys gyfoethog a chysurus ei hamgylchiadau, ac heb fod yn gweled bod arni eisiau dim, a dyna'r eglwys sydd mewn mwyaf o eisiau. Eglwys yng nghanol llawnder bydol yn gwrthod Crist. Y mae yn derbyn pregethu, canu, emynau, tonau, cymdeithasau, clybiau, ond ysywaeth, yn gwrthod Crist.
(b) Crist wrth ddrws y person unigol. Sonnir am y person unigol yma 'neb' 'ef'. Perthynas bersonol yw ein perthynas â Christ. Calon yn gwrthod Crist. Hon yn derbyn llawer o bethau yn yr eglwys ffurfiol hunanfoddhaus —derbyn swydd, clod, diwylliant, diddordeb, ond yn gwrthod Crist. Aelod crefyddol yn gwrthod Crist. Ond cymerwn ein safbwynt yn bennaf yn awr gyda'r Crist a wrthodir.
Y CRIST SYDD WRTH Y DRWS.
I. Y CRIST GOGONEDDEDIG YW. Crist llyfr y Datguddiad, sydd wedi myned drwy brofiadau bywyd ar y ddaear, ac wedi ennill ei fuddugoliaeth. Y mae wedi byw a marw ac atgyfodi ac esgyn, "yr hwn wyf fyw, ac a fum farw, ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd". Y Crist a aeth i'r Groes, a thu hwnt i'r Groes i'w orsedd. Ac "eistedd gyda'r Tad ar ei orseddfaingc ef". Y Crist buddugoliaethus, sydd wedi gorchfygu "fel y gorchfygais innau". Crist y Brenin—offeiriad, sydd wedi ei wisgo yn ei wisg "laes hyd ei draed", a'r "ddwyfronneg aur" ar ei fynwes, ac ar ei ben goronau lawer.
Crist cyfoethog. Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur, a dillad gwynion." Aur y nefoedd yw hwn, a dillad y nefoedd hefyd. Sancteiddrwydd a chariad yw aur y nef. Purdeb yw'r wisg wen. Cyfoeth ysbrydol yw cyfoeth Crist, a chyfoeth Duw. Dyna hefyd y cyfoeth pennaf i ddyn. Cariad, sancteiddrwydd, purdeb. Daioni yw'r golud gwiw. Perthyn iddo Ef y daioni cyflawn, sy'n cyfuno llymder â chariad. "Yr wyf yn argyhoeddi y sawl wyf yn eu caru.
Crist mawr. Crist yn un â Duw: dechreuad creadigaeth Duw". Anadliad cyntaf Duw. Y mynegiad hynaf, cyntaf o'r ymwybyddiaeth ddwyfol. Cyfrwng Duw i greu. Yr Anfeidrol Air. Crist Ioan yn Grist mawr—dwyfol. Rhaid cael Crist mawr. Mae Iesu'r Efengylau yn Iesu mawr iawn. Cofiwn hyn yng nghanol anhawster y gwyrthiau, a llawer ymadrodd dyrys. Mae Iesu yn un mawr iawn, ac yn enwedig wrth sefyll ar gyfer ei ryfedd Groes. "O Iesu mawr! Pwy ond Tydi".
Yma mae Iesu'r Efengylau wedi ei ogoneddu yn Grist yr Orsedd, a'r Person hwnnw yn teimlo diddordeb yn y ddaear, ac ynom ni—teimlo diddordeb mewn eglwys a phob aelod ohoni. Daw o'r Orsedd at y drws.
"Wedi ennill teyrnas newydd.
'D yw ei gariad ddim yn llai.".
Gallasai, mewn ystyr, oddiar ei Orsedd, ysgwyd llwch y ddaear i ffwrdd oddiar odrau ei wisg, ac anghofio'r ddaear greulon am byth, ond ofnaf mai pylu disglaerdeb ei Orsedd a wnaethai drwy hynny, fel y mae o hyd yn dyfod â goleuni at ddyn i'r ddaear. Aeth o'r Groes i'r Orsedd, a daw o'r Orsedd yn ôl at y drws.
II. CRIST AGOS. "Wrth y drws." Y mae'r ddeheulaw' a'r Orsedd yn lled bell oddiwrthym. Awgrymant ryw uchder anfesurol, a phan yn meddwl amdanynt, gosodwn hwy yn y pellter. Ond pan yn meddwl am Grist ymhell, cofiwn ei fod yn agos. Y Crist cyfoethog yn agos, a'r Crist mawr yn agos. Pell yw cyfoeth a phell yw mawredd oddiwrthym fel rheol, ond wele yma'r cyfoeth drutaf, a'r mawredd pennaf yn agos, agos, "wrth y drws". Y mae ei athrawiaethau yn agos, a'i orchmynion; â diwinyddiaeth ac athroniaeth ymhell iawn; â mesuroneg a seryddiaeth ymhell tuhwnt i'n dirnadaeth, bobl gyffredin, ond mor agos yw—"Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi"; "Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, a'th gymydog fel ti dy hun;" Gwyn eu byd y rhai addfwyn a'r "pur o galon"; Dos i'th ystafell a chau dy ddrws"; "Gweddïwch chwi fel hyn, Ein Tad yr Hwn wyt yn y Nefoedd". Cymerer y geiriau hyn yn eu symledd, ac wele agos iawn ydynt. Taflwn hwynt i'r pellter yn fynych wrth eu diwinydda.
Ond mwy na'r geiriau, y mae Ef ei Hun yn agos. Ef yn ei Ysbryd yn gweithio arnom, yn pwyso arnom fel yr awyr ar ein cyrff, yn gwasgu arnom fel y goleuni. Daw ei ysbryd at bawb. Gadawodd fywyd yn y corff er mwyn bod yn agos at bawb o ran ei ysbryd. Myfi a ddeuaf atoch chwi." Ceir y syniad o agosrwydd ysbryd Duw yn yr Hen Destament. "I ba le yr af oddiwrth dy ysbryd"; Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Wele'r Crist dyrchafedig wedi dod 'nôl â'i law ar y ddôr—'wrth' y drws—yn ymyl, ac "yn curo"—ei law ar y ddôr. Nid delfryd pell yw Crist yn unig, ond presenoldeb agos. Ysbryd byw agos. Y mae wrth ddrws gwleidiadaeth, senedd, cyngor,—pob ffurf ar gymdeithas, ac yn enwedig wrth ddrws eglwys, cartref, a chalon dyn. Y mae yn gwasgu ar fywyd ymhobman. Mae'r Crist gogoneddus yn agos o hyd at y ddaear a'i gwrthododd, a beunydd yn cynnig ei Hun i'r byd a'i croeshoeliodd.
III. CRIST ALLAN. "Wrth y drws": Crist agos; ond allan y mae. Gallasai fod ymhell, cafodd ddigon o amser i gilio draw, ond erys yn agos. I'w drugaredd ef diolch am hynny, ac nid i'r neb sydd yn byw yn y tŷ. Mor bell ag y mae a fynno'r rhai sydd yn y tŷ â'r pwnc, gallasai fod wedi myned ymhell iawn. Ond allan y mae, ac wedi ei gau allan.
Y mae Crist allan ymhobman, yn yr ystyr ei fod yn fwy na'r cwbl, a thuhwnt i'w gread maith ymhobman. Ef biau gorsedd y cyfanfyd sy'n uwch na'r cwbl oll. Ond yma, y mae wedi ei gau allan. Ein perigl yw ei gau Ef tuallan i'n bywyd. Cau ei orchmynion, a'i cgwyddorion, a'i waith tuallan i'n bywyd. Gwyddom eu bod yna, yn rhan o gorff cymdeithas ac o feddwl y byd, ond nid ydynt yn cyfrif gennym. Caeir hwynt tuallan i'n bywyd ymarferol, ein myfyrdod a'n gwaith. Caeir Ef ei Hun allan. Ef ei Hun o ran ei ysbryd, fel y mae am weithio ar ein hysbryd ni. Ef, y Gwaredwr. Ef, y Gallu pennaf i buro a santeiddio calon—caeir Ef allan. Yr un o bawb ag a ddylai fod i mewn yn cael ei gau allan.
Neges fawr drws' yw cau allan a gollwng i mewn. Camp fawr yw cadw drws yn iawn, yn enwedig drws calon, a chau allan y pethau ddylai fod allan, a derbyn i mewn y pethau a ddylai fod i mewn. Crefft gain yw dysgu cau ac agor y drws. Gorchest—gamp fawr byw yw dewis yn briodol, a "gwybod y pethau sydd â gwahaniacth rhyngddynt ". Yn naturiol, gyda drws y tŷ, caeir allan y gaeaf a'r tywyllwch a'r oerfel, y gwynt a'r glaw, a'r lladron, eithr agorir i dderbyn i mewn yr haul a'r golau, yr awel iach, y gwanwyn a'r haf, y cyfaill a'r plant. Yn foesol, dylem gau allan oferedd a drygioni, cwmni llygredig a lladron rhinweddau, ac agor i dderbyn i mewn bob rhinwedd a daioni, awelon iach a haul y byd ysbrydol, ein ffrindiau a'n cyfeillion o'r nef.
Eithr yma, y mae Crist allan! Y golau nefol—yr Haul Dwyfol, y Ffrind a'r Cyfaill gorau, y Brawd anwylaf. Rhaid fod y lle yn wâg hebddo. Nid yw'r tŷ yn ddiogel a hwn allan. Nid yw'r teulu'n gyfan, canys y mae Ef yn perthyn i bob teulu. Peidier mynd i gysgu a'r Crist allan. Erys y tad i'r plant i gyd i ddyfod i'r tŷ fin hwyr, cyn bolltio'r drws. Peidiwn ninnau bolltio'r drws, a Hwn allan.
Un o'n peryglon yw canu i'r Crist pell a gwrthod y Crist agos. Rhoddi iddo orsedd yn y Nef, ond gwrthod gorsedd iddo ar y ddaear. Ei goroni yn y Nef, a'i groeshoelio ar y ddaear. Y mae yntau am y ddaear: Gwneler Dy ewyllys ar y ddaear." Ar hon y plannodd ei Groes, a chollodd ei waed erddi. Dengys Bernard Shaw yn ei ddrama St. Joan yr eglwys yn anrhydeddu Joan o Arc drwy wneud Santes ohoni ymhen pedwar can' mlynedd ar ôl ei llosgi. Yna, cais hithau am atgyfodi a dyfod yn ôl, eithr cilia pawb i'w llochesau rhag y fath beth a hynny. Bodlon ydynt i'w hanrhydeddu yn y Nef, eithr nid i'w derbyn ar y ddaear. Felly ninnau yn aml, bodlon ydym i anrhydeddu'r Crist pell, ond nid i dderbyn y Crist sydd wrth y drws. Math ar weniaith yw ein mawl a'n cân—ac nid yw yntau yn gofyn ein gweniaith, eithr yn gofyn am ei dderbyn. Am hyn—.
IV. CRIST SIOMEDIG YDYW. Dyma arwedd ar ofid Crist, yw cael ei adael allan o fywyd y byd y bu farw drosto. Y mae'r fath beth yn bod a siomiant Gwaredwr, a gellir siomi Duw. Yr oedd Iesu yn siomedig ar Nazareth, ac yn siomedig ar Jerusalem. Pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd? Y mae yn siomedig heddiw ar bentrefi a threfi Cymru, a'r byd.
Iesu, beth yw'th feddwl Di.
Am y ddaear,.
Ge'st Ti 'th siomi ynddi hi,
Geidwad hawddgar!".
Siom oedd y Groes i'r Proffwyd ifanc â gychwynnodd mor obeithgar o Nasareth; ond dioddefodd hi ar neges ei gariad—dioddefodd hi, er mwyn dal ei afael yn y byd. Yn hytrach na gollwng ei afael a bod yn anffyddlon i'w gariad " dioddefodd y Groes, gan ddiystyrru gwaradwydd". Ac y mae ei Gariad o hyd yn ddigon cryf i ddal pob siom. Dyma sydd yn ei wneud yn Waredwr, sef bod ei gariad yn ddigon cryf i'w gadw yn ffyddlon drwy bob siom. Am hynny—.
V. CRIST AM DDYFOD I MEWN YDYW. Er wedi ei siomi, erys yn ffyddlon. Y mae yn sefyll 'wrth y 'drws '! Nid yw yn rhoddi i fyny; nid yw yn troi draw. Ei enw yn nechrau'r llythyr yw "y ffyddlon". Cawn yma amryw bethau yn profi ei fod am ddyfod i mewn:
(a) "Sefyll" wrth y drws. Y mae yna ddydd a nos.
(b) "Curo", a ffyddlondeb cariad ymhob curiad. Curo drwy amgylchiadau bywyd—drwy'r gair a gweinidogaeth yr Efengyl, drwy ein cydwybod yn gyson.
(c) ''Galw". Os clyw neb fy "llais". Mae sŵn y byd yn aml yn boddi'r llais, eithr fe'i clywir ar ambell awr dawel, yn galw—galw—a chan mai yr un Gŵr yw Ef â'r Bugail Da, y mae yn ein galw wrth ein henwau.
(d) Disgwyl. 'Aros', 'sefyll': gwylio'r arwyddion am weled y Drws yn agor. Aros gan ein disgwyl i'w gyfarfod, ac agor Iddo. "Ac agoryd y drws." Ein gwaith ni yw agor. Rhaid myned i'w gyfarfod hyd at y trothwy fodd bynnag. Onid awn allan i'r heol, rhaid myned at y trothwy. Nyni sydd i agor. Cymhariaeth ddwyreiniol sydd yma, ac i ddrysau'r dwyrain nid oedd modd eu hagor o'r tuallan; nid oedd glicied iddynt; rhaid oedd agor o'r tu mewn. O'r tu mewn mae agor drws calon. Yr Ewyllys yw'r Drws, a nyni sydd i benderfynu pwy sydd i ddyfod i'r tŷ. Rhaid i Dduw fod allan onid wyf yn ewyllysio ei gael, ac yn ei groesawu.
"Ac agoryd y drws." Pa fodd y mae i ni ei dderbyn Ef.
(a) Rhaid derbyn ei orchmynion i'w gwneuthur.
(b) Rhaid derbyn ei egwyddorion yn egwyddorion gweithgar, llywodraethol, yn fy mywyd.
(c) Rhaid derbyn ei ysbryd Ef ei Hun. Ei ysbryd byw heddiw. Daw ataf yn awr i'm hennill, i'm puro, a'm sancteiddio.
(d) Rhaid dyfod i undeb gweddïgar ag Ef. Fel y mae apêl Crist am gael ei dderbyn, yn apêl am ddefnyddio cariad, purdeb, gweddi, a chymdeithas ysbrydol. Drwy orau ein natur y daw Ef i mewn. Nid drwy ddrws y nwydau a'r chwantau, ond drwy ddrws gweddi a chariad.
Pan yn paratoi'r sylwadau hyn, euthum i weled darlun Holman Hunt o Oleuni'r Byd", yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Adroddir amryw storïau am y darlun hwn. Eisteddais o'i flaen, a gwelais mai'r Crist gogoneddedig sydd yno, yn ei wisg laes hyd ei draed; ffurf coron ddrain sydd ar ei ben, ond bod y drain wedi troi yn berlau. Y mae ei law ar y ddôr, a'r lantern yn y llaw arall, a'i llewych yn llifo i fyny at ei wyneb. Sylwais ei bod yn nos, ond bod sêr yn ymddangos rhwng y cymylau; tyfai llysiau hirion o'r tu allan i'r ddôr, yn arwydd nad oedd dim tramwyfa wedi bod yno ers cryn amser. Nid oedd olion mynych gerdded at y drws. Glaswellt oedd yno, ac nid llwybr. Safai Ef a'i sandalau yn y glaswellt, yn disgwyl. Gallaswn dybio bod y darlun yn dysgu, nad yw'r drws drwy ba un y daw'r Crist i mewn ddim yn cael ei ddefnyddio yn aml gennym. Drwy ddrws ochr ysbrydol ein natur daw Ef i mewn—drws cariad, gweddi, ymgysegriad, ewyllys da. Yr ydym ninnau yn byw cymaint i nwydau a chwantau, a mater a byd. Ni ddaw Ef i mewn i'n calon dros y llwybrau lleidiog hyn.
Caneuon yr Hwyr
LLEOL A PHERSONOL
CANEUON YR HWYR
I "Fore fy Mywyd"[3] y cenais i gynt,
Ac ofnau gannoedd o'm cylch ar eu hynt,
Cenais yng ngafael pryderon di-ri,
A phrudd-der yn llanw fy mynwes i.
'Roedd loes yn fy nghalon o hyd, o hyd,
A minnau yn iach ac ieuanc fy myd;
Eithr baich ydoedd byw "i'm hysbryd gwan
A theyrnas arswyd oedd imi 'mhob man.
*****
Eithr ciliodd yr ofn, aeth yr arswyd ar ffo,
A lloniant sydd heddiw yn llanw pob bro,
Goleuni sydd heddiw ar fynydd a lli,
Goleuni a chân sydd ymhobman i mi.
'Rôl chwe' deg ac wyth o flynyddoedd llawn,
Mor felys im heddiw yw golau'r prynhawn;
Fy nghalon yn ffynnon o wynfyd llwyr
Yn gofyn am ganu Caneuon yr Hwyr.
CARU'N GWLAD
CARAF i hen wlad fy nhadau:
Cariad cywir un o'i phlant;
O'r Eryri draw i'r Bannau
Caraf hi bob bryn a phant;
Câr fy nghalon
Holl lanerchau Cymru Wen.
Mwynaf iaith yw iaith y Cymro,
Myrdd trysorau sy'n ei llên;
Nid â'i rhamant fyth yn ango,
Nid â'i hemyn fyth yn hen;
Câr fy nghalon
Acen bêr yr hen Gymraeg.
Caraf ddefion hoff fy Ngwalia,
Caraf fyth ei cherdd a'i chân,
Ei Heisteddfod a'i Chymanfa,
Gyda'i themlau gwynion glân:
Câr fy nghalon
Foli a byw yng Nghymru fach.
Y CERRIG PYDRON[4]
YM mhellderau glâs y mynydd,
Bro'r gornchwiglen a'r ehedydd,
Lle nad oes na thai na chacau,
Lle nad oes na choed na blodau,
Hen fawnogydd, brwyn, a gwymon—
Dyna wlad y "cerrig pydron".
Fe ddaw'r gwynt i'r twyn i ganu,
A daw'r ffynnon yno i darddu,
Erys helynt byd a'i luoedd
Draw tuhwnt i'r pell fynyddoedd:—
Oesau o unigedd cyson
Sydd yng ngwlad y "cerrig pydron".
Yn y pantle, wele'r caban
Yn y cysgod wrtho'i hunan,—
Tô o frwyn a'u gwreiddiau'n felys,—
Mur o dyweirch peraroglus,—
Dyna lety'r gweithwyr tirion
Sydd yn codi'r "cerrig pydron".
Torri mawn fel torri menyn,
Torri'r ddaear gleiog wedyn,
Torri mil o ffrydiau arian
Sydd yn chwarae yn y graian:—
Megis beddau plant afradlon
Ydyw pyllau'r cerrig pydron".
Dan y ddaear gleiog yno
Gwelir creigiau wedi blino,
Cerrig calch yn troi yn dyner—
Dan gyffyrddiad maith y lleithder,
Tawel fedd canrifoedd mudion
Ydyw cloddfa'r "cerrig pydron"
Codir hwynt yn wlyb a thrymion,
Sychir hwynt dan deg awelon,
Cesglir hwynt yn dyrrau hynod,
Megis pentref o fythynnod;—
Cludir hwynt i'r dref—ac weithion,
Troi yn aur wna'r "cerrig pydron".
Yno gwelais ar ei liniau
Yr hen Sion Wilym yn ei garpiau;
Gwelais yno ferch y tyddyn
Deg ei gwên dan hirwallt melyn,
Cyffro newydd ddaeth i'm calon
Draw ym mro y "cerrig pydron".
Heddiw glâs yw'r hen dwmpathau,
Brwyn a mwswg leinw'r pyllau,—
Hen famgu yw merch y tyddyn,
(Nid yw'r gwallt yn awr mor felyn)—
A Sion Wilym yn y nefoedd
Er ys llawer o flynyddoedd.
Y BAY O' BISCAY[5]
RHUTHRAI Y llong drwy y tonnau,
A chwalai hwy'n gawod wen,
A thorrai y Bay o' Biscay
Ei ffluwchion oer ar fy mhen;
Ond dawnsiai'r haul yn y chwalfa
A'i filoedd pelydrau llon,
A gwelais dorf o enfysau
Yn chwarae o don i don.
Mi ofnais y Bay o' Biscay
Wrth imi nesâu at ei ffin,
Can's clywswn am ei gynddaredd
Ac am ei erwinder blin;
Eithr er ymgodi o'i donnau
A'u troi yn bentyrrau bron,
'Roedd haul y nefoedd yn gwasgar
Enfysau o don i don.
'Roedd cawod o fellt a tharanau
Neithiwr yn teithio i'r tir
Y mellt yn ymwanu i'r tonnau—
Ond heddiw daeth wybren glir:
Nid dilyw yw'r Bay o' Biscay
I foddi y ddaear gron,
Mae'r mellt wedi oeri ynddo
Ac enfys o don i don.
YR AUR AR YR 'HEATH'
MAE gyrru ofnadwy'r ddinas daer
Am fwyd a dillad, pleser ac aur;
Af innau yn dawel, â'm llyfr a'm llith,
Drwy haul yr Hydref i Hampstead Heath.
Ac wele im' lynnoedd dan awel y nen,
Bryniau a dolydd ger coedydd
Cen; O chuddir y ddinas gan ryfedd rith,
Caf wlad yr aur yn Hampstead Heath.
Porffor aur yw yr wybr uwchben,
Cadwyni aur sydd ar frig y pren,
Gronynnau aneirif o aur yw'r gwlith
Fore o Hydref ar Hampstead Heath.
Aur ciliad yw aur y ddinas a'i chri,
Eithr yma ceir aur yr oesau di-ri,—
Ym mhorffor wybren, coedwig, a gwlith,
Bore o Hydref ar Hampstead Heath.
Ha! dacw Keats a'i galon ar dân,
Ei besychu dwfn, a'i anfarwol gân,
Yn casglu "llawenydd bythol" ymhlith
Yr aur diderfyn ar Hampstead Heath.
A Coleridge yntau, o Highgate draw,
Ar Keats a Shelley yn codi ei law;
A minnau—hen brydydd o Gymru—ymhlith
Etifeddion yr aur ar Hampstead Heath!
CHLYWAIS I MO'R GOG ELENI
[1921]
'CHLYWAIS i mo'r gog eleni,
Clywais iddi ddod i'm gwlad,
Gwelais blant yn gwrando arni
Fel ar fin rhyw newydd stad;
'Chlywais i mo'r ddeunod tyner
Leinw'r byd â newydd swyn,
Er im wrando oriau lawer
Yn y cysgod, dan y llwyn.
Gwn y daw i'r hen gelynen.
Cyn y daw helbulon dydd,
Pan yw pelydr cynta'r heulwen
Ar y dail yn chwarae'n rhydd;
Gyda'r wawr âf allan yno,
Dan y cangau eistedd wnaf,
Ond er gwrando, gwrando, gwrando,
Eto'i chlywed hi ni chaf.
Fore o Fai, di-ail dy wenau,
Dawns y dail ar hyd y coed,
Mil o flodau ar y cloddiau,
Ni fu mwynach Mai erioed;
Ond daw pang o hiraeth imi,
Dyma ddechrau calon drom,—
Chlywaf fi mo'r gog eleni,
A thry tlysni Mai yn siom.
Gall ei bod hi yma'n canu
Canu'n ffrydli megis cynt,
Gyda'i sain yn cynganeddu
'Nawr â miwsig mwyn y gwynt;
Minnau'n fyddar, gwcw ffyddlon,
Nid i mi y ceni mwy,
Llithra'r gân dros yr awelon,
Efallai, i leddfu dyfnach clwy!
Os na ddaw dy ganu tirion.
Ar y ddaear mwy i mi,
Y mae cân o fewn fy nghalon,—.
Erys er dy golli di;
Y mae llwyni yn fy ysbryd,
Llwyni blodau heb ddim drain,
A daw adar gwlad y gwynfyd
Heddiw i ganu yn y rhain.
DAFYDD WILLIAM, GORSYRHELIG.
I. Y GWAITH.
AM dros saith deg o flynyddoedd llawn
Y gweithiodd mewn alcan a thân:
Fe âi'n y bore, neu yn y prynhawn,
A'i galon yn ffrydiau o gân;
Ond heddiw mae'r llwybr yn wag a llwm,
Ac unig i rywrai yw'r daith,—.
Rhaid bod yr hen weithiwr yn cysgu'n drwm,
Neu fe godai i fynd i'r gwaith.
II. YR ARDD.
Yn awr ei hamdden drwy'i oes i gyd,
I'w ardd yr âi efe:
Cai'r rwyth hawddgaraf, a chadwai o hyd.
Bob dalen yn ei lle;
Mae'n rhaid bod angau yn medru cloi.
Ei ddrws yn ofnadwy dyn.
I gadw'r hen arddwr rhag iddo ffoi
I'w ardd,—a hithau'n chwyn!
III. Y CYSEGR.
Ar Ddydd yr Arglwydd, i gysegr Duw.
Yr âi, a'i wên fel y wawr,
I glywed y gennad,—a'i ysbryd byw.
Yn barod am oedfa fawr;
Mae'n rhaid bod Iesu'n anfeidrol ei swyn,
A gogoneddus ei ras,
I gadw yr hen addolwr mwyn.
Rhag dod 'nôl i wrando'r gwas!
CYNGERDD Y PLANT.
'ROEDD hi'n nos am ddeg o'r gloch.
Y bore, drwy'r ddinas fawr—
Heddiw ni chododd yr haul.
Heddiw ni thorrodd y wawr,
O! 'r siom i'r plant, dyma ddydd eu gŵyl,
A dyma ddarfod am chwarae a hwyl.
Gweddïodd fy ŵyres fach,
Yn dyner a gonest ei thant,—
"O Arglwydd, cliria'r fog—.
Heno mae cyngerdd y plant ".
Am hanner dydd fe dorrodd y wawr,
A gwenodd yr haul ar y ddinas fawr.
Mewn ffydd nas siglwyd erioed,
Credodd y fechan fyw,
Mae ei gweddi hi a gliriodd y fog.
Yn y nefoedd gyda Duw;
Ar gais mor syml, a llawn o ras,
Cyfododd Duw, a gwnaeth awyr las.
Ond beth wnei di, fy ngeneth fwyn,
Ar ôl i ti dyfu'n fawr,
Os bydd Duw yn gwrthod clirio'r fog,
(Ond gwell peidio dweud yn awr)
(Na, ddweda'i ddim)—eithr melys fu'r tant,
A mawr fu'r hwyl, yng Nghyngerdd y Plant.
CÂN Y BYDDAR.
Os na chlywaf gân yr adar
Yn y llwyn ar ben y talar,
Clywaf ryw aderyn tirion
Eto'n canu yn fy nghalon.
Os wy' 'mhell oddi wrth y gornant
Sydd yn canu yn y ceunant,
Llifa ffrydlif dyfroedd tirion.
Beunydd yn nyfnderau 'nghalon.
Ni chaf yma groesi'r Coedca,
Na chael dringo i'r Bryn Isa;
Ond fe chwyth eu mwyn awelon
Beunydd yn nyfnderau 'nghalon.
Prin yw'r dydd yn nhawch y ddinas,
Prin yw'r haul a'i fwyn gymwynas,
Ond daw dydd a haul yn gyson
Yn oleuni yn fy nghalon.
YSTORM Y DDINAS.
[TACHWEDD 1928]
HENO mae'n gesair ar "Hewl Caledonia ",
A dawnsiant am foment yn awel y gaea',
Ac yna diflannant—ymsuddant fel pocr
Rhyw ysbryd digofus i'r palmant oer:—
Pa beth yw y rhain at y cesair crâs.
A welais yn dorchau ar Garreg Man Bras"?
Heno mae'n gorwynt yn "Hewl Caledonia
A thery i'r conglau fel lleidr mewn dalfa,
Rhwyga'r ffenestri—llithra drwy'r llen,
A theifl lwch y ddinas ar chwâl drwy'r nen:
Pa beth yw hwn at y corwynt cry'.
A welais yn rhydd ar yr hen "Graig Ddu"?
Heddiw daeth gwawr i "Hewl Caledonia"
Gwenodd drwy gaddug euog, yn ara'—
Pelydrau eiddil di-drefn ddaw i lawr
Ar dai a cherbydau y ddinas fawr:
Pa beth yw hon at y wawrddydd lân
A welais yn llosgi ar "Graig y Frân"?
Gwrando di, gesair "Hewl Caledonia",
A thithau gorwynt a'r wawrddydd ara',—
O charech ddysgu eich gwaith yn iawn,
Yn hytrach na rhuthro di-reol, di-ddawn—
Ewch am flwyddyn yn ddifyr lu.
I Sir Gaerfyrddin—i'r Mynydd Du!
D.E.D.
[Unig fab yr awdur.]
Ganwyd Awst 4, 1891.
Collodd ei iechyd yn y fyddin 1915-16.
Hunodd Chwefror 22, 1919.
PLANNODD f'annwyl Emrys gangen.
Fechan hardd,
O dan gysgod y gelynen.
Yn fy ngardd.
Plannodd hi ar arw hin,
Pan yn teimlo'n llesg a blin,
Fore Tachwedd oer;
Bu'n ei hymgeleddu'n dirion
Bu'n ei gwylio dan awelon.
Drycin oer,
Gaeaf oer.
Credais farw'r gangen fach,—
Emrys yntau ddim yn iach;—.
Aeaf blin;
Gwelais wywdra ar ei wedd,
Gwywdra cysgod oer y bedd,
O mor arw'r hin!
Un nos oer.
Tarawyd ef gan boenau ysig,—
Teithiais innau'n unig, unig,
Dan y lloer,
Ceisio meddyg,—ceisio ffysig,—.
Drwy y barrug oer.
Daeth y wawr,
Wedi nos o boenau mawr,
A deffroes y plant yn awr,—
Euthum allan at y gangen
O dan gysgod y gelynen,
Cefais hi a'i phen i lawr.
Gyda'r wawr.
Fore a hwyr.
Gwyliais Emrys,
Duw a'i gŵyr,
Megais ef heb deimlo baich
Megis baban yn fy mraich,
Rhoddais f'enaid iddo'n llwyr.
Fore a hwyr.
Un prynhawn,
Wedi diodde'n dawel iawn,
Mynnodd imi adrodd emyn,
A gweddio'n ddistaw wedyn,—
Ceisiodd ei chwaer i ganu,
Hithau yn ei dagrau'n methu,
O dan bwysau calon lawn.
Rhois fy mhen
Ennyd ar ei fynwes wen,
A gweddiais syml eiriau,
Neb ond Duw, a mi, ac yntau,
A daeth llewych nefol olau.
Drwy y llen.
Hanner nos!
Aeth efe i'r wynfa dlos.
Bore Dydd yr Arglwydd ydoedd,
A'r dywyllnos ar fynyddoedd,—
Methais ddeall am funudyn.
Pam na chawswn i ei ddilyn.
Drwy y nos!
Yn fy mron 'roedd blinion donnau.
Am ei ddilyn dros y ffiniau.
Drwy y nos.
Aeth y misoedd heibio'n flin,
Ciliodd y dymhestlog hin,
Daeth y gwanwyn eto i'm gardd;
O dan gysgod y gelynen.
Gwelais wedyn ar y gangen.
Flodyn hardd!
Y GYMRAES.
AETH geneth unieithog o Gymru fach.
I weini i'r ddinas bell,
A chwiliodd ei chalon am gapel Cymraeg.
I wrando'r newyddion gwell.
'Roedd ganddi y Sul filltiroedd o daith,
Ond cyson yr âi bob prynhawn;
A phan yn methu, da gwyddai'r Nef.
Nad ydoedd y lle yn llawn.
Ai'r teulu i'r capel Saesneg hardd.
Gerllaw, ar gwr y dref,
A galwai'r gweinidog yn ei dro—.
Gwas Duw, yn ddiau, oedd ef.
Un dydd, gofynnodd i'r forwyn fach.
Am ddod gyda'r teulu 'nghyd.
I'r capel Saesneg—"'Does dim mewn iaith,
Nid Cymro yw Ceidwad y byd".
"Efallai," medd hithau, "nad Cymro yw Ef,
A diolch yn fawr i chwi;
Er hynny, bob amser wrth siarad ag Ef,
Cymraeg mae E'n siarad â fi".
DOD YN ÔL.
DOD yn ôl mae'r haul bob bore.
'Rol ymgolli yn yr hwyr,
Dod yn ôl mae'r lloergan olau
Wedi ei threulio'i hun yn llwyr;
Dod yn ôl mae llanw'r weilgi
Gyda'r llongau yn ei gôl,
Ond fy nghalon sydd ar dorri—.
Ni ddaw 'nghariad byth yn ôl.
Dod yn ôl mae'r wennol hoyw.
Ar ei hadain loyw, lân,
Dod yn ôl mae'r gog gan alw.
Ym mhob cwm i daro cân;
Dod yn ôl mae'r blodau tlysion
Gyda'r meillion ar y ddôl,
Ond myfi sy'n torri 'nghalon.
Ni ddaw 'nghariad byth yn ôl.
Dod yn ôl mae'r glowr siriol
Dod dan ganu gwedi'r gwaith,
Dod yn ôl mae'r plant o'r ysgol.
Wedi chwarae amser maith;
Gorfod dod yn ôl wyf finnau.
Wedi llawer ymdaith ffôl,
Gyda 'nghalon fach yn ddarnau.
Am na ddeuai hithau'n ôl.
Y DREF.
O RHOWCH i mi'r dref a'i hystrydoedd hy'.
Lle rhodia dynion o hyd,
Rhai'n dda, rhai'n ddrwg, rhai'n wan, rhai'n gry',—.
Yr ynfyd a'r doeth ynghyd;
Ac nid eisteddaf i'w barnu hwy.
Ni thaflaf atynt fy ngwawd,
Ond fy nysgu fy hun, heb gondemnio mwy,
Fod pob un i mi yn frawd.
Hiraethais gynt am y mynydd pell,
Ac unigedd dwfn y coed,
Meddyliais mai yno y cawswn wlad well.
A chysegr i fwrw hen oed;—.
Na, rhowch i mi'r dref a'i thorf di—rif.
A'i thramp di—ddiwedd mwy,
A minnau'n myned ynghanol y llif.
I'r ymdaith fawr gyda hwy.
Mi gofia'r mynydd a'i ffrydiau di—ail,
A'r chedydd ar doriad gwawr,
Mi gofiaf y coed, a'r blodau a'r dail,
Yr onnen a'r dderwen fawr;
Ond ymdaith eneidiau sydd yn y dref,
Cariad, llawenydd, a loes,
Ac ar heol y dref y gwelwyd Ef,
Fy Iesu'n cario ei Groes.
WRTH Y MOR
Mi welais unwaith Gurnos fawr
Yn llesg ac unig, druan ŵr,
Yn fyr ei gam, a'i ben i lawr,
Yn teithio heibio drwy Glandŵr;
Medd ef: "'Rwy'n ofni mynd yn dlawd,
'Does gennyf i ddim nerth yn stôr;
'Rwy'n myned heddiw, hynaws frawd,
I dreulio diwrnod wrth y môr ".
Mi deithiais wedyn drwy Glandŵr,
A phrynais bapur ar fy rhawd:
"Bu farw Gurnos!"—hoffus ŵr,
Ac ni bydd ef byth mwy yn dlawd !
Caiff awel iach y nefol hin,
A thraethau gwell dan wên yr Iôr;
Fe ddaeth i ben yr ymdaith flin—
Caiff dragwyddoldeb wrth y môr!
Ymhen blynyddoedd lawer iawn.
'Rwyf unwaith eto yng Nglandŵr,
Ieuenctid mewn cerbydau llawn,
A minnau'n unig, unig ŵr;
Mor fyw yw geiriau fy hen ffrind:
"Does gennyf i ddim nerth yn stôr",
Ac wele finnau heddiw'n mynd
I dreulio diwrnod wrth y môr!
YR HEN FRO
CARAF fyth y nant a'r mynydd
Lle y rhois fy nghyntaf gam,
Caraf fyth y coed a'r gweunydd
Gerllaw bwth fy nhad a mam;
Wedi bywyd a'i flinderau
Daw i mi gysuron lu,—
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.
Caf y pruddglwyf yn y ddinas,
A chaf hiraeth wrth y môr;
'Rwyf yn unig yn y dyrfa,
Dieithr hefyd yw pob dôr;
Ond dihanga'r prudd feddyliau,
A'r unigedd ymaith ffy,
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.
Pan ddaw'r niwl i lwybr fy ngobaith
Pan arafa cam fy ffydd,
Pan dry'r byd yn anial diffaith,
Ac y derfydd golau'r dydd,—
Mi gaf yfed hen ffynhonnau—
Caf belydrau oddi fry,
Dim ond cerdded glannau Llynfell
A rhoi tro i'r Mynydd Du.
DYDD OLA'R FLWYDDYN
A'r flwyddyn yn nesâu at olaf ffin
Ei hoes, a chryndod yn ei dwylaw hen,
Gwyw ydoedd rhos ei grudd, a gwyw ei gwen,
A'i gwisg ar chwâl yn y dymhestlog hin;
Eithr gwelais fod ei throed yn siglo crud
Ac ynddo faban teg, a'i dyner lef
Fel tarddiad ffynnon; ar ei wyneb ef
Oleuni haul, a gwên, a deigryn drud;
Diflannodd yr hen flwyddyn tua'r pant
Fel chwa drwy'r coed, a gwelais lwyn o ddrain.
A blodau drosto megys lliain main;
Yna ochenaid drom, a melys dant!
A chofiais i am y diderfyn loes
A'r gobaith sydd yr un o oes i oes.
CANEUON CREFYDDOL
GWELD Y NEF
NID bryn ym Mhalestina draw
Yw'r unig fryn i weld y Nef,
Can's gwelais hi ar lawer hynt
Ar fryniau bro fy maboed gynt,
A chlywais fiwsig yn y gwynt,—
Ei sibrwd tyner Ef.
Nid dim ond maes ym Methlehem
Yw unig faes angylion Nef,
Can's maent ar feysydd Cymru fwyn
A'u golau'n llosgi ymhob llwyn,
A'u cân yn llanw dros bob twyn—
"Gogoniant iddo Ef".
Nid dim ond yn ffurfafen glir
Y Dwyrain mae ei "Seren Ef";
Goleua heddiw dros y byd,
I dywys at y dwyfol grud—
Tywynna drwy y ser i gyd,—
Try'r nos yn ddydd y Nef.
Os Duw sydd yn fy nghalon i,
Ar bob rhyw fryn mi wela'r Nef:
Mi a'i gwelaf yn y ser, a'r wawr,
Mi a'i gwelaf pan â'r haul i lawr,—
Ei chysgod hi yw'r cread mawr,
A chrud ei gariad Ef.
SIOM
NID y dydd a ofnais
Ddaeth â'r drymaf groes,
Eithr y dydd a hoffais—
Hwnnw ddaeth â loes.
Nid yw a gascais
Yn fy mlino mwy,
Eithr y peth a geisiais
Ddyry i mi glwy.
Ceisiais f'enw bychan,
Cerais fri y llawr,
A phicellau hunan
Sy'n fy ngwaedu 'nawr!
GWYLIA DI
GWYLIA beunydd ar dy galon
Y gelynion ynot sydd
Yno'n tywallt gwenwyn cyson
A llechu yn y conglau cudd.
Gwylia di rhag llid a serthedd,
Gwylia rhag cenfigen gâs;
Ymgais beunydd â thangnefedd,
Beunydd cais am ddwyfol râs.
Dim ond llif o râs yn unig
A ddichon olchi calon dyn,—
Nerthoedd mawr yr Anweledig,
Nerthoedd cariad Duw ei hun.
MI A WNI BWY Y CREDAIS
GWN innau am för o gân
Yn torri ar greigiau Gŵyr,
A gwelais y llinell dân
Ar y gorwel gyda'r hwyr,
A gwn am berarogl y meysydd
Ar ôl y gawod ddiwedydd,
Nid oes ond a'u profodd a ŵyr.
Gwn hefyd am gariad mwyn
Y fun, yn ifanc fy myd,
Y gwylio tawel dan lwyn,
Y cusan a'r dagrau drud;
A gwn am ffyddlondeb hyd angau,
A'r afael drwy'r olaf bangau—
A gwybod drwy brofi drud.
Gwn innau am awr o hedd
Ar ôl bod yn gweini i'r gwan,
A gwn am fywyd yn wledd
Wrth godi'r truan i'r lan;
Mi wn am fwynhad tosturio
Wrth un a ga'dd ei ddolurio,—
Eu profi a'u dug i'm rhan.
Gwn hefyd am rywbeth mwy,—
Gwn ddyfod goleuni byw
Yn ffrydiau i'm henaid drwy
Gymdeithas ag Ysbryd Duw ;
Ac yn y Goleuni—ddyfodiad
Byd newydd, ac atgyfodiad:
A'i profodd a wyr beth yw.
YN Y CYFNOS
YN y cyfnos, pan yw olion
Sangiad ola'r haul belydrau
Wedi darfod ar y môr,—
Yn y cyfnos pan yw gloywon
Sêr yn dod i'r ffurfafennau
Un 'rôl un ar alwad Iôr.
Yn y cyfnos, pan yw'r adar
Yn llonyddu yn y goedwig
A'r distawrwydd ar y twyn,
Yn y cyfnos, mor ddigymar
Ydyw fy ystafell unig
Yn y fyw gymdeithas fwyn.
Yn y cyfnos, pan yw murmur
Pell y rhaeadr yn yr awel,
Dydd gwywedig ar y bryn.
Yn y cyfnos, pan ddaw'r myfyr,
Nefol fyfyr bro yr angel
Megis llif o Ddwyfol lyn.
Yn y cyfnos, pan dawela
Natur, a phan flina'r byd,
Cenfydd f'enaid bêr olygfa—
Bro yr Hedd, a'r Tangnef drud:—
Myfyr gweddi,—awel nefol,
Sŵn adenydd pethau byw;
Cerdded ffiniau'r byd tragwyddol,
Gorffwys yn nhangnefedd Duw.
Y LLEWYCHIADAU
MOR hyfryd yw y loyw awr
Pan ddaw y llewychiadau i lawr!
Anghofiaf boenau mân fy myd,
A thry y croesau'n hedd i gyd.
Fe dry gerwinder llym fy oes
Yn deg a llyfn, heb awel groes;
Fe ffy'r cymylau i ffwrdd yn llwyr
Pan ddaw'r goleuni yn yr hwyr.
Mac glesni newydd yn y pant,
A miwsig newydd yn y nant;
Mac golau yn y niwl a'r glyn,
A phorffor santaidd ar y bryn.
Mae hedd ysbrydol lond fy mryd,
A chân y cread maith i gyd;
Diflanna'r ddaear yn y Nef,
A llanw'r byd mae'i gariad Ef.
Y GORFOLEDD PARHAUS
At hoff gennych wenau y bore
'Rôl dunos a drycin a chri
Pe gwelech oleuni fy nghalon,
Mae'n fore o hyd arnaf i.
Ai hoff gennych ddiwrnod o wanwyn
I chwarae rhwng blodau di-ri?
Pe gwelech ddyfnderau fy nghalon,
Mae'n wanwyn o hyd arnaf i.
Ai hoff gennych wythnos o wyliau
Yn awel y glannau a'r lli?
Pe gwelech y môr sy'n fy nghalon,
Mae'n wyliau o hyd arnaf i.
Drwy brofi o gariad yr Iesu,
A derbyn o hedd Calfari,
Diflannodd anialwch fy enaid,—
Mae'n nefoedd o hyd arnaf i.
CARIAD
CARIAD anherfynol biau'r cread mawr,
Un ffyddlondeb bythol drwyddo dreiddia i lawr.
Cariad nad yw'n methu am un ciliad wan,—
Deil o hyd i dyfu, a tharddu ym mhob man.
Cariad mawr tragwyddol sy'n bugeilio'r sér,
Ei ffwrncisiau ocsol ydyw'r heuliau têr.
Cariad sydd yn llenwi gofod drwyddo i gyd,
Cariad sydd yn enwi pob rhyw newydd fyd.
Hwn sy'n magu lili, a rhosyn bach dinam;
Hwn sy'n rhoi tosturi fyth yng nghalon mam.
Draw ar fin pob dibyn, ger pob garw li,
Cariad Duw sy'n dilyn—byth ni'm gollwng i.
Daw i ganu a gwaedu ar ein dacar ni:
Gŵyr lawenydd Iesu, ac ingoedd Calfari.
"O'CH MEWN CHWI Y MAE
CHWILIA di ddyfnderau'r galon,
Lle mae rhwydwaith o bryderon;
Ti gei yno lu o ofnau,
Tywyll niwloedd a chymylau.
Chwilia'n ddyfnach, a chei obaith
A all droi'r cymylau ymaith,
A chei ddyfnach ffydd yn gyson
Yno i dorri pob pryderon.
Dos yn ddyfnach—ti gei gariad,
Yno'n tarddu i fyny'n wastad;
Dos i agor ffordd i'w ffrydiau
I lifo allan i'th feddyliau.
Yn dy fron mae cacau sychion,
Yn dy fron mae creigiau duon;
Ffrydiau cariad ddaw â blodau
Dros y cacau, dros y creigiau.
Treiddia beunydd i'r gwaclodion,
Yno y mac y gwir gysuron;
Yn y dyfnder tyner, oesol,
Yno y mae'r gyfrinach nefol.
Chwilia, treiddia, myn gael llonydd,
Gyr i lawr dy weddi beunydd,
A daw santaidd lif o Dduwdod
Yn y dyfnder i'th gyfarfod.
GLYWAIST TI GYFRINACH DUW?
[JOB XV. S.]
A DDAETH atat awel falm
Yn y bore gyda'r Salma?
Welaist di ryw fflam oddi uchod
Yn goleuo ar ambell adnod?
Glywaist di ryw sibrwd hyfryd
Rhwng y dail ar Bren y Bywyd?
Welaist di ryw byrth yn agor
Nes it' fethu a darllen rhagor?
Ddoist ti i'r fan lle nad oes holi,
Dim ond plygú ac addoli?
Lle mae'r ddacar yn distewi—
Tithau'n gweled bro'r goleuni.
Bro tu hwnt i'th holl syniadau,
Bro heb ffiniau o gredoau.
Bro o hedd diderfyn yw—
Dyma fro cyfrinach Duw.
BLODAU
Ai hoff gennyt flodau natur ei hun?
Y blodau gwyllt yn y caeau a'r coed:
A dyf heb gynllun na chymorth dyn—
A welaist ti fwynach prydferthwch erioed?
Ai hoff gennyt flodau gerddi'r dref:
Y blodau a fagwyd dan ddwylo dyn?
A drefnwyd yn rhesi ganddo ef—
Mor gyfan a pherffaith eu lliw a'u llun?
Dos—dos trwy Chapel Street fore dydd Sul,
Gwêl ddynion ystwrllyd, truenus eu llun—
Eneidiau yn ddrylliau mewn heol gul;—
Dyma flodau Duw, ond a chwalwyd gan ddyn.
Nid cyflawn fy hawl ar gaea'r wlad,
Nid dwfn fy hyfrydwch o'r gerddi drud,
O cheir fi'n anghofio blodau Duw Dad,
Sydd a'u dail ar wasgar ar hyd y stryd.
FY MHARADWYS
Mi welaf weithiau dros y llyn
Ryw arall lyn sy'n loywach,
A gwelaf weithiau ar y bryn
Ryw arall fryn sy'n decach;
A gwelaf weithiau dros y môr
Ryw arall fôr di—donnau,
A gwelaf dros y mynydd pell
Ryw fynydd gwell ei fannau.
Canfyddaf olau dieithr iawn
Weithiau ar fryn a dyffryn,
A daw rhyw lewych ambell nawn
I newid bro yn sydyn;
Cynefin fan dry'n ddieithr wlad
Yn llawn o bell atgofion;
Ai atgof yw, neu obaith mad
Yn olau yn fy nghalon?
Mi glywaf sibrwd yn y coed,
Dan gyffwrdd newydd awel,
Y miwsig mwyn, pereiddia'r erioed,
Megis cyffyrddiad angel,
Ac alaw'r ffrwd drwy'r ddistaw nos
Yn crocsi dros y caeau,
A ddeffry arall alaw dlos
Yn nyfnder f'enaid innau.
Mi wn fod gwlad o fewn fy mron
Gwlad meysydd a ffynhonnau,
Gwlad golau haul a gwanwyn llon,
Gwlad santaidd fyfyrdodau;
Anadlaf yn ei hawel hi
A rhodiaf yn ei meysydd,
A cherddaf lan ci gwyrddlas li,
Lle mae y gân dragywydd.
A chyfyd hi ar ambell awr
Tu hwnt i'r bryn a'r meysydd,
A theithia ataf drwy y wawr,
Gan daflu ei lliw ar feysydd;
Hi wisg y golau am y môr,
Hi weddnewidia'r wybren,
Cyncua'r sêr; gwna gread Iôr
Yn fiwsig pur, anorffen.
DISTEWI AC ADDOLI
'RWY'N gallu beirniadu yng Nghana
Wrth weled troi'r dwfr yn win,
A'r cerdded ar för Galilea
A gostwng ystorom flin;
Ond pan âf i Gethsemane
A dilyn i ben y Bryn,
Distawaf am byth, ac addolaf
Yng ngwydd dioddefiadau fel hyn.
'Rwy'n gallu esbonio'r damhegion,
A'r gwyrthiau i wella'r clwy',
A'r geiriau cudd i'r disgyblion
Wrth iddo eu dysgu hwy;
Ond pan âf i Gethsemane
A dilyn i ben y Bryn,
A gweled y gwaed yn ffrydiau,
Ni allaf esbonio hyn.
'Rwy'n deall ymadrodd yr Athro
Am ddillad y lili dlos;
'Rwy'n deall ei waith yn dringo
I'r mynydd, a'r weddi drwy'r nos!
Ond pan âf i Gethsemane
A dringo i ben y Bryn,
O Dduw! mi a blyga'n dragywydd,
Can's nid wyf yn deall hyn!
Fe dry fy holl ymresymu
Yn fud ger y Dwyfol Awr;
Pob deall esbonio—beirniadu
Sy'n llestri chwâl ar lawr,
Pan gerddaf i Gethsemane
A dilyn i ben y Bryn,
Yn ymyl distawrwydd anfeidrol
Y nerthoedd tragwyddol hyn.
CYFAMOD DUW Â'R DYDD
"Fy nghyfamod a'r dydd." (Ier. xxxiii: 20).
Ni chaiff y dydd
O'i afael Ef byth fynd yn rhydd,
Na'r nos ychwaith;
A dangos ei ogoniant Ef,
A rhyfeddodau maith y Nef,
Byth fydd eu gwaith.
Diderfyn yw
Gafaeliad tyn gyfamod Duw
Ar nos a dydd;
Fe'u ceidw hwynt i rodio'n rhydd,
Dilynant fyth ei gilydd mwy,
Ac ni bu hollt cydrhyngddynt hwy
Erioed, a byth ni fydd.
Gwên lôr yw'r wawr
Yn disgyn ar y cread mawr,
A'i wyneb Ef yw'r dydd;
Ei law yw'r hwyr a'i bendith dlos,
Ei gysgod Ef Ei Hun yw'r nos—
A hyn am byth a fydd.
Caf gyda'r wawr
Ddeffroi i weld Ei gariad mawr,
A gweithio dan Ei wedd,
A'm gwaith yn felys wledd;
Yna, pan sudda'r haul i lawr,
Efe a'm dug i fynwes fawr
Ei hen gyfamod hedd.
'Rôl tywyll nos,
Fe egyr wedyn wawrddydd dlos,
A Duw o hyd yn mynd ymlaen,
A'i gariad mawr o hyd ar daen,
Drwy olau claer—drwy d'w'llwch prudd,
Cryfhau o hyd mae gafael ffydd;
Gŵyr mai diderfyn yw
Cyfamod Duw a'r dydd.
BYDD BERERIN
DAL i deithio drwy'r ystormydd,
Bydd bererin ar bob tywydd,
Treiddia i ddyfnderau'r galon,
Dring i fyny i'r uchelion.
Dos dan wraidd dy holl feddyliau,
Chwilia gelloedd y dyfnderau,—
Di gei yno ffrwd llawenydd,
Dwfr y ffynnon fawr dragywydd.
Dring o hyd lechweddau anwel,
Tor y niwl â'th obaith tawel;
Glas o hyd yw'r uchelderau,
Uwch tymhestloedd a chymylau.
Bythol lif o ysbryd dwyfol
Yw yr uchder annherfynol,—
Hwnnw hefyd dardd yn ffynnon
Beunydd yn nyfnderau'r galon.
Dringa, sudda dros bob ffiniau,
Bydd bererin drwy dy ddyddiau;
Di gei Dduw ymhob uchelder,
Di gei Dduw ymhob rhyw ddyfnder.
DYDD IESU GRIST
NID ydyw dydd y gwleidydd onid llam
I fin y dibyn; eiliad, yna i lawr
Y llechwedd serth; a dydd y gwyddon mawr
At olau newydd namyn ofnus gam;
A dydd miliwnydd onid breuddwyd briw
Ar fore gaeaf, gan ddeffroi dan boer
Addolwyr ffals yn dianc ar hin oer,
A'r meysydd oll o'i gylch yn ddu eu lliw;
Fe rwygwyd acw ddydd yr ysgolhaig,—
Yr Athro eirias, a'r athrylith gref,
Mae'r haul yn oeri, diffydd sêr y nef!
Tonnau o dywod ydyw sail pob craig,—
Bu lesg fy nghân, ac aeth fy mron yn drist,
Hyd oni welais i "ddydd Iesu Grist".
A garo glod ac enw gwag y byd,
Gaiff archoll ddofn pan wêl mor fyr ei ddydd,
A'r siomiant ym mhob bydol rwysg y sydd,
A hyn yw hanes trist y dyddiau i gyd:
Dyddiau dolurus leinw lwybr pob oes,
A newid annherfynol ydyw byw,
Fel pe bai law anwadal wrth y llyw,
Gan ffurfio o obeithion byd ei groes.
Wrth wel'd cyn fyrred dyddiau dawnus blant,
A gweled mynych siom addewid dlos,
A hanner dydd yn troi yn hanner nos,
Daeth im' anobaith mawr, fel niwl i'r pant:—
Fe'm cuddiwn i fy hun mewn dyfnder trist,
Onibai ddod i'm byd " ddydd Iesu Grist".
Dydd hwy na'r preseb a fu iddo'n grud,
Dydd hwy na'r wyrth ar y tymhestlog lyn,
Dydd hwy na dydd y bregeth ar y bryn,
Dydd hwy nag ing yr ardd a'r groesbren ddrud;
Dydd a fyn goncro tywyll lwybrau poen,
Dydd nas diffoddir gan un dyfnder mawr,
Dydd rhoi gorseddau byd a nef i'r Oen;
Dydd fyn weld terfyn ar ormesu'r gwan,
A dydd a fyn weld pob rhyw gaeth yn rhydd,
Pob truan llesg yn iach ym mywyd ffydd :—
Dydd gogoneddu dyn ar ddelw Duw—
Dydd anfarwoldeb pob rhyw enaid byw.
Y NADOLIG A'R CALAN
Y MAE Côr y mwyn angylion
Eto'n canu'r anthem dirion;
Llawn yw'r awyr o'r alawon,
Clywch, clywch y gân.
"I'r Goruchaf boed gogoniant":
Dyna acen bêr y moliant;
Holl delynau'r Nef a ganant,
Clywch, clywch y gân.
"Boed Tangnefedd ar y ddaear,"
Llifed y goleuni hawddgar
Hyd nes difa'r nosau anwar,
Clywch, clywch y gân.
"Boed ewyllys da i ddynion,"
Doed teyrnasoedd yn gyfeillion,—
Doed y byd yn aelwyd weithion,
Clywch, clywch y gân.
Dyna glychau'r Flwyddyn Newydd!
Dacw'r wawr ar frig y mynydd:
Mae'r drugaredd yn dragywydd,—
Unwn yn y gân.
Os yn flin am frwydrau gollwyd,
Cofiwn am y nerth a gafwyd,
Cofiwn am y rhai enillwyd,—
Unwn yn y gân.
Erys ffydd i'n cynorthwyo,
A daw gobaith i'n hadfywio;
Nid yw cariad byth yn blino,—
Unwn yn y gân.
Y NEFOL FRO
Mi wn fod nefol fro,—
Bro haul ac wybr glir,
A thwyni glas, a chraig,
Yn torri terfyn tir,
A thawel gôr a'i donnau mân
A'u cân ar dywod ir.
Nid draw ar ynys bell
Y mae'r hyfrydlan hon:
Nid tracthell ym Mro Gŵyr,
Nac yn yr Eidal lon,—
Ond bro tawelwch clau
Lawr yn nyfnderau'r fron.
Rhaid gwrthod llid yn llwyr,
A derbyn hamdden fawr,
I suddo i gariad Duw
Yn ddigon dwfn i lawr,—
Yno mae'i ysbryd Ef,
Yno mae'r Nef yn awr.
Yno mae'r awel fwyn,
A'r si, a'r don ddi—daw,
A glannau pella'r byd,
A gafael Dwyfol law—
Yn ffordd pob nef a fu,
Pob nef a ddaw.
Y CYFAILL
DECHRAU BLWYDDYN
MAE'R Flwyddyn Newydd ger dy fron,
A chofiaist ddoe am ddydd y Geni:
A oes i ti, fy nghyfaill llon,
Rywun i'th arwain am eleni?
Ti welaist Seren Bethlem draw,
A gwyliaist Ddoethion mwyn yn moli:
Y mae'r Goleuni o hyd gerllaw,
A wyt am ddilyn ac addoli?
A wyddost ti y ffordd, fy ffrind,
Ddydd Calan, wedi'r awr ddifyrrus?
A wyddost ti pa fodd i fynd
Drwy'r troeon blin, a'r croesffyrdd dyrys?
Cyfaill i ti yw Mab y Nef—
Fe ddeil yn ffyddlon drwy bob tywydd,—
Ti genaist ddoe Ei garol Ef,
A fynni heddiw ei gael yn Llywydd?
Pwy sydd i'th gynnal ar dy daith
Rhag i ti syrthio i lawr a methu?
Pan ar y palmant gwastad, maith,
A gwres y dydd ymron a'th lethu?
A wyddost ti am gysgod llwyr
Pe deuai drycin i'th gyfarfod,
Neu am orffwysfa fin yr hwyr
Pe'n teimlo'n llesg, a'r dydd yn darfod?
A ddichon rhywun ar dy hynt
Agor o'th flaen y nefol ddorau,
Heblaw y Gŵr bu'r Doethion gynt
Yn rhoddi Iddo o'u trysorau?
Fy nghyfaill, iddo rho dy law,
A thi gei gonewest ar bob gelyn,
A miwsig nefol i ti ddaw
A'th galon di a fydd y delyn.
Y DUW HWN[6]
Pwy fydd dy Dduw y flwyddyn hon,
A phwy gei i blygu ger Ei fron—
Ai clod neu gyfoeth nad yw yn parhau,
Ai golud y byd a'i bleserau gau?
Y Duw hwn sy'n llawn trugaredd a hedd,
Y Duw sydd a'i wen yn goleuo'r bedd;
Y Duw sydd yn agos,—agos o hyd
A ŵyr holl drocon y daith i gyd.
Y Duw a ganfuwyd yn Iesu Grist,
Duw Dad a ddatguddiwyd i enaid trist—
Y Duw a ddioddefodd ar Galfari:
Caiff Hwn am byth fod yn Dduw i mi.
Fe'm harwain yn ddiogel drwy bob rhan o'r daith
Fe'm ceidw 'mhob tywydd rhag methiant a chraith;
Fe'm harwain i wneud fy nyletswydd bob awr,
Caf deimlo Ei law ar bob cyfyng awr.
Fe'm harwain hyd angau,—a phellach na hyn,
Fe'm tywys yn ddiogel drwy droeon y glyn;
Fe'm cyfyd i gylchoedd nefolaidd i fyw
Uwch lludded a phechod. Hwn fydd fy Nuw.
Emynau
GYDAG AWEL Y DYDD
"A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw... gydag awel y dydd."—Gen ii: 8.
PAN egyr newydd wawr
I arwain golau'r dydd,
Daw dwyfol lais yn fwyn i lawr—
A'r Nef yn agos sydd.
Mi glywa'i alwad Ef
Drwy wawr y bore clir,
Yn lân, arafaidd, santaidd lef,
Yn galw i'r santaidd dir.
Y llais fu'n galw gynt
Drwy awel fwyn y dydd—
Y Ddwyfol ymchwil ar ei hynt
Heddiw yn galw sydd.
Drwy wawr ac awel rydd
Mae'n ymlid oes 'rôl oes,
Gan chwilio am golledig ddyn,
A'i alw dan ei loes.
Mac holl awelon dydd
Y nef ar Galfari,—
A dyma bennaf lais fy Nuw
I alw arnaf i.
YR ETIFEDDIAETH YSBRYDOL
GWN fod tangnefedd drud
Yng nghariad mawr y Nef,
Ac na all holl ystormydd byd
Ei aflonyddu ef.
Gwn fod santeiddrwydd ter
Fel fflam y seraff glân,
O amgylch gorsedd fawr fy Nêr,
O hyd yn llosgi'n dân.
Gwn fod llawenydd mawr—
Llawenydd Iesu Ei Hun
O'r Nef o hyd yn llifo i lawr
Yn ffrwd i galon dyn.
Mi wn fod ffordd i mi
I'r golud hwn yn awr,
Dros lechwedd garw Calfari
Mae'r etifeddiaeth fawr.
TYWYSOG TANGNEFEDD
CORONER Tywysog Tangnefedd
Yn Frenin teyrnasoedd y byd,
A llifed y mawl a'r clodforedd
I'r enw rhyfeddol o hyd ;
O troer cleddyfau yn sychau,
Na ddysger rhyfela byth mwy;
Mae'r Oen ar ei ffordd i'r gorseddau
I godi dynoliaeth o'i chlwy'.
Diolchwn i Arglwydd y lluoedd
Am obaith, mewn t'w'llwch mor fawr,
Doed cytgan angylion y nefoedd
Yn gytgan cenhedloedd yn awr;
Datseinier y nodau dianaf
A ganwyd uwch Bethlehem ddrud,
Gogoniant i Dduw y Goruchaf
Tangnefedd i'r ddacar i gyd."
Doed heddwch i loywi y nefoedd,
A llanw y ddaear yn lân,
A'r lesu i gerdded y moroedd
Ar ôl yr ystormydd o dân;
Y ddaear a rwygwyd fo'n glasu,
Diffodder disgleirdeb y cledd,—
O uned y ddaear i ganu
Gogoniant am ddyddiau o hedd.
YN DY LAW
O Dduw, glanha fy nghalon
Yn fwy o ddydd i ddydd,
Gwna f'ysbryd yn fwy tirion
Rho imi fwy o ffydd;
O cadw fy meddyliau
Rhag crwydro yma thraw,
A boed fy nymuniadau
Am afael yn Dy law.
Pan yn Dy law 'rwy'n dawel
Yng nghanol stormydd byd,
Pan yn Dy law 'rwy'n ddiogel
Drwy'r dyrys ffyrdd i gyd;
Pan yn Dy law, mi ganaf
Er gwaetha'r anial maith,
Ac yn Dy law mi ddeuaf
Yn iach i ben fy nhaith.
MYNWES DUW
O! AM ddod i'r dwfn dawelwch
Yn Dy fynwes dirion Dad,—
Caffael yno brofi heddwch
Teg awelon nefol wlad;
Yfed o'r gyfrinach Ddwyfol,
Gorffwys yn y Cariad drud,
Profi'r Iachawdwriaeth rasol,
A chael llwyr anghofio'r byd.
Gorffwys dan y tywyniadau
Ddaw o haul Dy Gariad Di,
Dal y nefol lewychiadau
I oleuo f'ysbryd i:—
Gwrando ar furmuron tonnau
Glân ffynhonnau Dwyfol hedd,
Gorwedd ym mhorfeydd eu glannau
Yn nhawelwch nefol wledd.
Arglwydd arwain f'enaid eto
Unwaith tua'r fangre hon,
Rho Dy law i'm cyfarwyddo
Rho Dy anian yn fy mron;
Crwydro bum yn yr anialwch
Treiodd golau'r nef o'm byd,
Dychwel f'enaid, Dad, i'th heddwch,—
Llanw fi â'th gariad drud.
AFON DY HYFRYDWCH
"Ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt (Salm xxxiv: 8).
LLIFED afon Dy hyfrydwch
Ataf heddiw ar fy nhaith,
Minnau yfaf o'i diddanwch
Fel yr yfais lawer gwaith;
Crwydrais lawer oddi wrthi,
Draw i feysydd pell y byd,
Heddiw gad im' ddychwel ati
Wedi'r trocon gwag i gyd.
Deuaf ati yn sychedig,
Gan hiraethu am gael byw,
Deuaf ati yn flinedig,
Ac i geisio nodded Duw ;
Sychodd holl afonydd dacar,
Darfu eu twyllodrus li,
Nid oes yno ddim sy'n hawddgar,
Dim a dyr fy syched i.
Afon yr hyfrydwch nefol,
Afon loyw gras y Nef,
Afon y diddanwch Dwyfol,
Afon fawr ei gariad Ef;
Cerddaf mwy ei glannau grasol,
Yfaf mwy o'i bythol hoen,
Dringaf at ei tharddiad nefol
O dan orsedd Duw a'r Oen.
GRAS Y NEF
O CAIS am Ras y Nef
Yn daer ar ddechrau'r dydd,
A rhodia yn ei olau ef
Ar union lwybrau ffydd.
O cais am Ras y Nef
Bob awr wrth wneud dy waith;
Fe wrendy Dwyfol Dad dy lef,
Fe'th geidw rhag pob craith.
O cais am Ras y Nef
Pan ddaw'r cysgodion prudd;
Fe dry ei lewych santaidd ef
Y nos yn fythol ddydd.
O cais am Ras y Nef
I huno'n dawel iawn;
Yn ei dangnefedd nefol ef
Y mae'r orffwysfa lawn.
CEISIO'R COLLEDIG
"Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid."—(Luc xix: 10.)
TEITHIODD Iesu'r tywyll gymoedd,
Croesodd y diffeithwch du;
Yn y nos heb sêr y nefoedd,
Yn y dydd heb haul y bu :
Ceisio'r ydoedd
Y colledig euog ddyn.
Draw yn eithaf yr anialwch
Clywyd sŵn ei gerdded Ef,
Ac yn treiddio drwy'r tywyllwch,
Clywyd sain Ei dyner lef:
Ceisio'r ydoedd
Y colledig euog ddyn.
Plygai'i enaid mewn griddfannau
Draw ar rannau garwa'r daith;
Collodd Ef ei waed yn ffrydiau
Pan yn dod i ben Ei daith:
Ceisio'r ydoedd
Y colledig euog ddyn.
Gwelwyd golau mwya'r Cread
Drwy ei loes anfeidrol Ef;
Gwelwyd dyfnder Dwyfol gariad,
Gwelwyd wyneb Tad y Nef:
Ceisio'r ydoedd
Y colledig euog ddyn.
BENDITHION GRAS
O ARGLWYDD, cadw'n gyson
Fy enaid yn Dy law,
A llanw Di fy nghalon
A nerth y byd a ddaw;
Rho ffynnon Dwyfol rinwedd
I darddu dan fy mron,
I olchi ffwrdd y llygredd
Yn llwyr o'r fynwes hon.
Rho imi fwyn gymdeithas
Dy dyner Ysbryd Di,
Rho'r cyfeillgarwch addas
I druan fel myfi,
I'm codi i'r Tangnefedd
Sy'n uwch na deall dyn,
A phrofi'r hen Drugaredd
Sy'n nefoedd ynddi'i hun.
YN Y BORE—AR Y LAN
"A phan ddaeth y bore, safodd yr Iesu ar y lan."—Ioan xxi : 4.
GWEDI nos o frwydro caled
Yn y gwynt a'r tonnau llaith,
Plygai'r plant dan bwysau'r lludded,
Ofer hefyd fu eu gwaith;
Rhaid dychwelyd yn siomedig
Pan yw'r wawr yn torri'n wan,—
Ond mae'r Iesu bendigedig,
Yn y bore, ar y lan.
Gwedi nos o orthrymderau
A helbulon mordaith byd,
Gwedi brwydro â'r dyfnderau,—
Brwydro'n ofer bron o hyd;
Golau'r wawrddydd sy'n dynesu,
A chawn ninnau yn y man,
Weled wyneb annwyl Iesu,
Yn y bore, ar y lan.
Hyfryd meddwl am y glanio,
Glanio i dragwyddol wledd:
Haws yw dal i forio heno
Wrth obeithio am Wlad yr Hedd.
Mae fy nghalon yn cynhesu,
Llama f'enaid innau pan
Gofiaf y caf weled Iesu,
Yn y bore, ar y lan.
ETIFEDDU SYLWEDD
Mi drof fy wyneb atat, Nêr,
Yn nyfnder pob anhunedd;
Gâd imi yn yr Iesu cu
Lwyr etifeddu sylwedd.
Mae newyn drwy fy enaid gwyw
'Rôl ceisio byw ar wagedd,
Caf fara'r bywyd oddifry
Wrth etifeddu sylwedd.
Mae'r byd yn gyflym ffoi o'm gwydd—
Ei fri, a'i lwydd, a'i fawredd
'Does dim oleua'r dyffryn du
Fel etifeddu sylwedd.
Ymbiliaf bellach, tra bwyf byw,
Am nefol fywiol rinwedd,
A rhoi pob egni ynof sy
I etifeddu sylwedd.
CYMER GALON
"Cymer galon; cyfod; y mae efe yn dy alw di."—Marc x: 49.
Ti ar fin y ffordd sy'n unig
Wedi colli golau'r dydd,
Yn cardota yn flinedig —
Gwan dy obaith, gwan dy ffydd,
Cymer galon,
Mae Efe'n dy alw di.
Nid yw dy weddïau'n ofer,—
Iesu wrendy ar dy lef,
Saif Gwaredwr ar dy gyfer,
Y mae'r golau ganddo Ef
Cymer galon,
Mae Efe'n dy alw di.
Iesu o Nasareth sy'n mynd heibio,
Cod dy lef yn fwy a mwy,
Os oes eraill am dy rwystro
Gwaedda'n uwch na'u dirmyg hwy;
Cymer galon,
Mae Efe'n dy alw di.
MOLWN DDUW
MOLWN Dduw! Molwn Dduw! am Ei faith Greadigaeth,
Clodforwn Ei enw am fynydd a môr;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am Ei ryfedd Ragluniaeth,
Mae gyrfa yr oesoedd yng ngafael yr Iôr;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am oleuo'r cenhedloedd,
Am godi Ei Broffwyd yng nghanol pob oes;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am ddatguddio o'r nefoedd
Feddyliau Ei galon yn Iesu a'i Groes.
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am Ei santaidd orchmynion,
Dymuniad Ei galon i nodi ein taith;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am oleuni mor rhadlon
Yn llifo i'n llwybr i gyfeirio ein gwaith;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am Ei ryfedd drugaredd,
Sy'n cyson gysgodi holl oesau y byd;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am lifeiriant diduedd
Y cariad anfeidrol sy'n llifo i'r byd.
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am gymdeithas Ei ysbryd
Yn nerth dan y croesau, yn noddfa, yn hedd;
Molwn Dduw! Molwn Dduw! am fod afon y bywyd
Yn llifo i'r ddaear i newid ei gwedd;
Molwn Dduw Molwn Dduw! am ddyfodol dihysbydd
Yng nghanol goludoedd difesur Ei Rad;
Am gartref yng nghysgod yr Orsedd Dragywydd,
A'r Brenin yn Geidwad, yn Dduw, ac yn Dad.
MADDAU A GLANHAU
("Fel y maddeno i ni ein pechodau, ac y'n glanhao."—1 Ioan i: 9.)
NID yw maddeuant rhad,
Er cymaint yw ei rin,
Yn ddigon o iachâd
I ti, fy enaid blin;—
I'th godi i fyny a'th lwyr wellhau,
Rhaid ydyw maddau a glanhau.
Mi syrthiais lawer gwaith
Ar lwybrau croes y byd;
Rhaid newid pwynt y daith,
A newid fy holl fryd;
I'm cadw'n ffyddlon, heb lesgau,
Rhaid ydyw maddau a glanhau.
Rhaid clirio'r beiau'i gyd,
Rhaid gwella pob rhyw glwy,
Rhaid gadael drygau'r byd,
A pheidio pechu mwy;
Os gyda Duw 'rwyf am barhau,
Rhaid ydyw maddau a glanhau.
Er cael maddeuant llawn
O bechod o bob rhyw,
Mae nerthoedd mawr yr lawn.
Am uno dyn â Duw;
I'm codi'n llwyr i'r undeb clau
Rhaid ydyw maddau a glanhau.
Fe ddaw gorfoledd glân
Yn eiddo byth i mi;
Fe dardd tragwyddol gân
I'm bron yn loyw li!
A chaf lawenydd i barhau,
Os caf y maddau a'r glanhau.
MAWL I DDUW[7]
RHODDWN foliant i'r Goruchaf
Am gartrefi'n gwlad a'n hiaith;
Am arweiniad er pob anaf
Inni drwy'r canrifoedd maith,
Deued eto y datguddiad—
Santaidd olau'i ysbryd Ef;
Drwy bob newid yn yr henwlad:
Cadwer ni ar lwybrau'r nef.
Boed ein Gŵyl yn Wyl o gariad,
Gŵyl o obaith, Gŵyl o ffydd;
Ac aed cofion gorau'r famwlad
At y rhai ar wasgar sydd;
Unwn oll i garu Cymru,
Unwn oll mewn gwlatgar dân,
A deisyfwn am feddiannu
Perffaith hedd, a chalon lân.
Trown cin golwg tua'r nefoedd
Heddiw, ar ddydd Gŵyl ein Sant;
Boed y gras sy'n uno'r oesoedd—
Gyda'r tadau, gyda'r plant;
Doed cenhedloedd byd yn rasol,
Doed y gwledydd blin ynghyd,
I feddiannu heddwch bythol,
Ac un aelwyd dros y byd.
AR RAN CYMRU
DDUW'R cenhedloedd, cofia Gymru,
Cofia'r tir, a'r genedl hon;
Dyro iddi ras i'ch garu
Ac i blygu ger Dy fron;
Cadw hi rhag magu digter,
Cadw hi rhag ysbryd cas,
Cadw hi rhag crwydro'n ofer
Eto i'r diffeithwch cras.
Dyro D'ysbryd yn ei Gwyliau,
Cadw hi rhag culni blin;
Dryllia heddiw'r sectol furiau
Sydd yn atal nefol rin;
Tywys hi yn Dy wirionedd,
Ac i wneud D'ewyllys lân,
Cyfarwydda ei brwdfrydedd,
Diogela'i gwlatgar dân.
Planna'n ddyfnach yn ei chalon
Ffyrdd D'amynedd Di a'th hedd,
Difa'n llwyr bob ysbryd creulon,
Pob cenfigen gas a chledd;
Dyro iddi ddyfnach hiraeth
Eto am Dy weled Di,
Tardded ffrydiau'r iechydwriaeth
Yn nyfnderau'i chalon hi.
Dysg hi goncro'r meddwl annoeth,
Ac uchelgais bydol waith,
Dyro iddi fwy na chyfoeth,
Mwy na llên, a mwy nac iaith;
Dyro iddi'r grym tragywydd—
Caru dyn a charu Duw,
Gosod yn ei chalon beunydd
Ffordd y Nef yn ffordd i fyw.
GWYL DEWI
Ti Dduw ydwyt Dad ein hamserau
Arweiniaist ein cenedl i'w thaith,
Tydi sydd yn trefnu'r cyfnodau,
A roddaist in' neges ac iaith;
Yr Ysbryd sy'n fywyd yr oesoedd
Fo eto'n eneinio ein gwlad,
Â'r gras sydd yn cadw'r canrifoedd
Yn gyfan er gwaetha pob brad.
Rho D'Ysbryd ar chwarel a glofa,
A melys fo telyn a thant,
Bendithia y maes a'r athrofa,
A thywys yn addysg ein plant;
Gwna'r cartref yn ddedwydd a grasol
Rho gân i'r aelwydydd i gyd,
A chofia Dy Eglwys dragwyddol
Sy a'i neges i achub y byd.
Sancteiddia, ac anfon ein cariad,
At Gymry ar led-led y byd,
A chadw hwy 'ngolwg eu mamwlad
A'i harddaf obeithion o hyd;
A thyn holl genhedloedd y ddaear
Drwy bob ymraniadau yn un;—
Dilea bob cynnwrf rhyfelgar
A'th gariad anfeidrol Dy Hun.
J. D. LEWIS A'I FEIBION, ARGRAFFWYR, GWASG GOMER, LLANDYSUL

Nodiadau
[golygu]- ↑ Y Parch. T. Noah Jones, ficer Eglwys Yr Hafod, Ceredigion.
- ↑ Trawyd ar y penderfyniadau uchod o'i eiddo ymhlith ei lawysgrifau, a chredaf y byddant o ddiddordeb.
- ↑ Cyhoeddais lyfr bychan ddeugain mlynedd yn ôl, yn dwyn yr enw
Bore Bywyd".Ni cheisir ymhelaethu ar y profiad ond yr oedd rhyw brudd-der
rhyfedd yn pwyso arnaf pan yn llanc, a bu ymron a'm concro droeon.Heddiw 'rwyf yn un o'r rhai dedwyddaf ar y ddaear. - ↑ Hen ddiwydiant Pen yr Helig, ger Ffrydiau Twrch.
- ↑ Wrth fyned i'r Wladfa (Patagonia), Medi, 1923.
- ↑ Ysgrifennwyd y gân hon yn frysiog ychydig oriau cyn cymryd ei hawdur yn wael i'r ysbyty. Cynwysir hi am ei bod yn llais o'r glyn, a'i gynnig olaf at ganmol ei Arglwydd mewn cân.
- ↑ Canwyd ar gais Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Chwef. 1936
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.