Neidio i'r cynnwys

Fy lloches glyd, a'm tarian gref

Oddi ar Wicidestun
Mor gu, O Arglwydd, gennyf fi Fy lloches glyd, a'm tarian gref

gan Richard Jones o'r Wern

Dy nerthol air, Iôn, oddi fry
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


276[1] Gair Duw yn Lloches a Tharian.
M. S.

1 FY lloches glyd, a'm tarian gref,
Yw'r Arglwydd nef a'i gysgod;
Gobeithiaf yn ei air er neb,
Yn ŵyneb pob rhyw drallod.

2 Dy air sy'n dwyn rhyw newydd da
A lawenha y galon,
Fod nerth tragwyddol oddi fry
I sathru y gelynion;


3 Fod Brawd a Chyfaill wedi'i gael,
I'r tlawd a'r gwael, na chilia;
Yn nyfnder profedigaeth gre'
Efe a gydymdeimla;
4 Fod modd i'r euog gael rhyddhad,
Fod gwir iachâd i'r clwyfus;
Trwy nerth ei air, fe rodia'n llon
Y cloffion a'r anafus.
5 Gobeithia f'enaid yn ei air,
Efe a bair orfoledd;
Pob loes a galar, tristwch, try
Yn ganu yn y diwedd.

Richard Jones y Wern, Llanfrothen



Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 276, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930