Neidio i'r cynnwys

Gŵr y Dolau (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gŵr y Dolau (testun cyfansawdd)

gan William Llewelyn Williams

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gŵr y Dolau
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Llewelyn Williams
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gŵr y Dolau
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y nofel Gymraeg
ar Wicipedia

ARGRAFFWYD GAN
J. D. LEWIS A'I FEIBION, GWASG GOMER, LLANDYSUL



GŴR Y DOLAU

neu

Ffordd y Troseddwr



gan


W. LLEWELYN WILLIAMS


ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG


Golygwyd gan
THOMAS JONES
Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.



1946

RHAGAIR

Y MAE'R argraffiad diwygiedig hwn o Gŵr y Dolau wedi ei baratoi ar yr un llinellau â'r argraffiad newydd o Gwilym a Benni Bach (Gwasg Aberystwyth, 1945): dilewyd cambrintiadau, newidiwyd a chysonwyd yr orgraff a 'chywirwyd' ambell air a chystrawen—ond yn yr ymddiddanion yr orgraff yn unig a newidiwyd fel na wnelid cam o gwbl â ffurfiau llafar tafodiaith Dyffryn Tywi.

Esboniais rai geiriau a phriod-ddulliau tafodieithol mewn Geirfa fer ar y diwedd.

THOMAS JONES.

Aberystwyth,
Ionawr 1946.

CYNNWYS


GŴR Y DOLAU:
NEU
FFORDD Y TROSEDDWR



RHAGARWEINIAD.

PE chwilid Llundain ben bwy gilydd, ni ddigwyddid ar gwmni mwy difyr nag a welid yn ystafell "Bob 'y mrawd," a Gwladus, ei chwaer, ar nos Wener cyn Nadolig, 1895, yn No. 2, Cambridge Mansions, gerllaw'r Amgueddfa Brydeinig. Wrth edrych ar yr wynebau llon, a gwrando ar y rhialtwch trystfawr, anhawdd fuasai gan neb gredu fod gofal byd yn blino un o'r fintai ddiddan. Eto, nid oedd y llawenydd ond arwynebol, oblegid wedi dod i ffarwelio â Bob yr oedd ei gyfeillion.

Gyda'r wawr drannoeth yr oedd Bob yn hwylio tua Deheubarth Affrica, ac ni wyddai neb pa bryd y gwelid ef drachefn yn Cambridge Mansions. Gofidiai degau ac ugeiniau o Gymry ieuainc y Brifddinas pan glywsant y newydd.

"Robert Bowen yn 'madael!" meddent. "Beth ddaw o'r Eisteddfodau a'r Cyngherddau a'r Cyrddau Diwylliadol pan na fydd ef gyda ni?"

Canys nid oedd un cyfarfod Cymreig yn gyflawn yn Llundain er ys blynyddoedd heb Bob, a galerid ar ei ôl gan lu nad adwaenai ef mo'u hwynebau.

Ond ymaith yr oedd yn rhaid i Bob gychwyn, ac i bellteroedd daear. Newyddiadurwr oedd Bob o ran ei "grefft." Yr oedd si yn y gwynt fod Cecil Rhodes yn cynllunio rhywbeth mawr, a phenderfynodd perchenogion newyddiadur Bob ddanfon gohebydd arbennig i Ddeheubarth Affrica. Gan fod Bob wedi ennill ymddiriedaeth y golygydd, arno ef y syrthiodd y goelbren. Nid gwiw iddo feddwl am ballu; yr oedd y cyfle yn rhy werthfawr i'w wrthod; ac er mor galed ymadael, a thorri eu cartref bach i fyny, penderfynodd Gwladus a Bob gadw eu calon yn siriol, gan edrych yn hytrach at daledigaeth y gwobrwy, pan gaent gydgyfarfod drachefn ar ôl llawer o ddyddiau.

"Bob 'y mrawd" y gelwid Robert Bowen gan ei holl gydnabod, am mai fel hynny y byddai Gwladus yn sôn amdano,—byth oddi ar pan ddechreuodd Winnie Parry ysgrifennu hanes y teulu hapus hwnnw yn sir Gaernarfon. Ni allai neb, meddai Gwladus, fod wedi ysgrifennu am "Bob" heb yn gyntaf adnabod ei brawd. Ni chodwyd yng Nghymru erioed fachgen mwy hynaws a serchog na Robert, ac ni allai neb, yn enwedig os meddai galon agored a chynnes, aros yn hir yn ei gwmni heb ei alw yn "Bob" neu "Bob 'y mrawd." Yr oedd golwg ar ei wyneb hawddgar, a sŵn ei chwerthiniad iachus, "yn gystal â phythewnos o fôr," yn ôl tystiolaeth Sali Nat, "ac yn well na galwyni o foddion doctor." Er mor felys ei natur, cafodd lawer dyrnod chwerw wrth ymladd â'r byd. Collodd ei rieni pan yn ieuanc, ac er nad oedd ond wyth ar hugain oed, yr oedd wedi bod yn ennill ei damaid ar newyddiaduron ers deuddeng mlynedd. Bu'n brwydro'n galed am flynyddoedd, ond erbyn Nadolig 1895 yr oedd wedi sicrhau iddo ei hun safle cysurus, ac yr oedd ei chwaer fach—oblegid yr oedd Gwladus wyth mlwydd yn iau nag ef—wedi bod yn cadw tŷ iddo ers yn agos i ddwy flynedd. Dyma'r adeg ddedwyddaf ym mhrofiad Bob,—pan fu ef a Gwladus fyw gyda'i gilydd yn Cambridge Mansions; ni wyddai ef beth oedd ystyr "cartref" o'r blaen; ac nid oedd yn rhyfedd fod ei galon yn trymhau wrth feddwl am ffarwelio—feallai am byth—â'r chwaer oedd ei unig berthynas agos yn y byd.

Nid rhyfedd, meddaf, fod Bob yn drist, a phe bai tithau, ddarllenydd mwyn, yn adnabod Gwladus, ni fuaset yn synnu oherwydd ei ofid. Ni chymeraf arnaf ei disgrifio hi. Nid oedd o daldra mwy na chyffredin, ond gan mor lluniaidd a gweddeiddlwys ei chorff, mor urddasol ei hosgo, mor ysgafn ei cherddediad, ymddangosai yn llawer talach nag yr oedd.—O! na allwn dynnu darlun o'i hwyneb fel yr oedd y bore hwnnw,—ei llygaid glasddu treiddgar yn edrych yn hiraethus ar Bob, a phelydr haul y gaeaf yn chware yn ei gwallt, ac yn goreuro ei gudynnau sidanaidd! Yr oedd pob symudiad o'i heiddo, i feddwl Bob, yn llawn barddoniaeth fyw, ac yr oedd yn barod i gredu mai nid ei chwaer oedd hi, ond rhyw ddychymyg Bardd wedi dianc allan o Rieingerdd Gymraeg ac wedi gwisgo pryd a gwedd. Pe gwelsai Dafydd ap Gwilym hi, nid am Forfudd neu Ddyddgu y canasai, ond am Gwladus! Anghofiasai Ceiriog ei Fyfanwy, a Mynyddog ei Wen, ie, alltudiai Elfed ei Wenddolen, pe gwelsent hwy hi! Pan ddaeth allan gyntaf fel cantores—canys nid oedd yn anenwog ar y llwyfan—mygai feirniadaeth cyn y canai nodyn, a pharai i bob critig pigog deimlo, fel Balaam gynt, fod angel yn sefyll ar ffordd ei lid a'i genfigen.

Peth rhyfedd yw dechrau siarad am Gwladus! Nid oes modd ar ôl hynny gwneud dim-ond sôn amdani hi. Ond i fyned ymlaen â'm stori, gorau gallaf.

Pan ddaeth yr alwad at Bob i hwylio i Ddeheubarth Affrica, petrusai am amser pa beth a ddylai Gwladus wneud. Yr oedd hi am fyned gyda Bob, ar y cyntaf, ond ar ôl ystyried canfu y buasai hynny yn dyblu'r draul. Yna cynigiodd aros yn Llundain; ond ni fynnai Bob mo hynny ar un telerau. Ynghanol eu petruster, daeth llythyr i law oddi wrth eu perthynas agosaf, sef Mrs. Morris, y Gelli, Llanelwid. Cyfnither oedd hi i'w tad, a galwent hi, yn ôl yr hen arfer Gymreig, yn "Nanti Jên." Bu yn garedig iawn i'r ddau, ac yn enwedig i Gwladus, pan adawyd hwynt yn amddifaid. Nid oeddynt hwythau wedi anghofio ei charedigrwydd, ac nid oedd dim a hoffent yn fwy na gwario wythnos neu ddwy bob blwyddyn yn yr hen ffermdy. Ni allaf roddi llythyr Mrs. Morris fel yr ysgrifennodd hi ef,—oblegid, boed hysbys i ti, ddarllenydd, i Mrs. Morris gael ei chodi mewn boarding-school yn Abertawe, ac nad yw hi byth yn ysgrifennu llythyr ond yn Saesneg. Ond, os goddefir i mi, rhoddaf led-gyfieithiad brysiog ohono. "Yr oedd yn falch iawn gennyf glywed," meddai yn y llythyr, "eich bod yn dod ymlaen mor dda ar y papur, ac yr wyf yn dymuno pob llwydd i chwi yn Affrica. Y mae ymhell iawn i chwi fynd a gadael Gwladus, druan, ond y mae ochr olau i bob cwmwl. 'Rwy'n hyderu y daw Gwladus 'nawr i fyw gyda fi yn y Gelli hyd nes y dychwelwch o'ch taith. Yr wyf fi yn mynd yn hen, a da fyddai gennyf weled fy unig berthynasau o'm hamgylch yn y tŷ. Trueni na ellwch chwi, Bob, roddi tro cyn ymadael, ond nid oes dim i'w wneud gan y dywedwch fod hynny yn amhosibl. Danfonwch air i ddweud pa bryd y caf ddisgwyl Gwladus."

Nid dyna'r llythyr i gyd. Gadewais allan gyngor Mrs. Morris i Bob gario ei Feibl yn wastad gydag ef, a digon o "wlanenni bach." "Rwy'n cofio darllen," meddai'r hen wraig, "am genhadwr unwaith oedd bob amser yn cadw ei Feibl yn llogell ei frest, ac un tro ymosodwyd arno gan haid o'r paganiaid, a saethodd un ato. Ond er eu syndod, ni syrthiodd y cenhadwr, a hwythau wedi eu dychrynu a ffoesant. Yna'r cenhadwr a dynnodd allan ei Feibl, gan feddwl ei ddarllen cyn diolch am ei waredigaeth wyrthiol. Pan agorodd ef, gwelodd fod bwled wedi treiddio drwy'r clawr i ganol y llyfr, ac yr oedd wedi sefyll gogyfer â'r adnod, 'Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt ti gyda mi.

Siarsai ef hefyd i beidio colli un cyfle i efengyleiddio'r blacks, a gofynnai i Gwladus brynu pâr o mittens iddi hi, gan fod pethau mor ddrud yn siop Morgans yn Llanelwid.

Ac felly penderfynwyd mai i'r Gelli yr âi Gwladus i aros dychweliad ei brawd.

Dydd Gwener oedd y diwrnod diwethaf i Bob a Gwladus fod gyda'i gilydd, ond yr oedd rhywun neu gilydd yn galw drwy gydol y dydd, fel nad oedd amser ganddynt i fagu eu hiraeth. Ac nid oeddynt heb gwmni diddan, fel yr awgrym- ais eisoes, pan oedd llenni'r hwyr wedi disgyn ar y ddinas fawr, oblegid yr oedd pob cyfaill i Bob yn benderfynol o roddi ffarwel calonnog iddo.

A thra fo'r cwmni yn yfed te a bwyta bara menyn Gwladus, yn Cambridge Mansions, gadewch i mi ddweud wrthych pwy a pha fath rai oedd wedi ymgynnull ynghyd.

Yn y gadair freichiau, ar bwys y tân, eisteddai gŵr ieuanc, tuag ugain oed. Benjamin Morgan oedd efe, mab i Henri Morgan, Plas Newydd, Llanelwid, ac efrydydd yng Nghlafdy Sant Bartholomew. Er taled ydoedd yr oedd gryn ddwy lath o hyd yn nhraed ei sanau—"Benni Bach" y gelwid ef gan bawb. Gerllaw iddo eisteddai Mary ei chwaer,—merch dawel, wylaidd, mor annhebyg i Benni ag y gellid meddwl. Hi oedd ffrind pennaf Gwladus yn y Royal Academy of Music, ac er mai dwy gantores oeddynt, synned y byd! nid oedd rhith cenfigen yn eu hysgaru,—oblegid soprano oedd Mary a chontralto oedd Gwladus. Ni wnaf ond enwi un arall,—bachgen ieuanc pump ar hugain oed o'r enw Arthur Jones. Efe oedd unig fab Dafi a Mari Jones, Dolau Gwynion, Llanelwid. Yr oedd wedi newydd basio ei arholiad diwethaf fel meddyg, ac wedi ennill iddo ei hun safle anrhydeddus ar staff un o'r clafdai mwyaf yn Llundain. Yr oedd yno eraill o Gymry ieuanc,—ond gan na wêl y darllenydd hwynt ar ôl hyn, ni fyddai ond baich ar ei amynedd i mi eu henwi.

Ni ellir cael, gallwn gredu, olygfa fwy hawddgar na gweled nifer o Gymry ieuanc deallus gyda'i gilydd. Byddai'r hen bobl yn arfer dadlau â'i gilydd ynghylch dyrys bethau'r ffydd; neu ar hirnos gaeaf, wrth olau tân mawn neu goed, adroddent ystorïau am ganhwyllau cyrff neu'r Tylwyth Teg neu'r hen bregethwyr neu ystranciau Twm Sion Cati. Ond er cymaint yw swyn hen atgofion, rhaid i mi gyfaddef mai gwell gennyf fi gyfarfodydd Cymru Sydd. Mae ysbryd sectyddol yn diflannu, fel niwl y bore, o flaen tanbeidrwydd addysg a diwylliant. Er hoffed y gorffennol, nid yw Cymru Sydd yn ddall i'n diffygion a'n beiau, fel cenedl. Gwyddant faint ein dyled i'r "hen hoelion wyth" a fu yn creu cenedl rydd allan o gaethweision yn yr anialwch; parchant yr hyn sydd yn dragwyddol ac anghyfnewidiadwy yn y deddfau a drosglwyddwyd i ni oddi wrth ein hynafiaid; ond dangosant hefyd eu bod yn deilwng i fod yn etifeddion i genedlaethau Eraill yn wir a cymwys i angenrheidiau newydd yr oes. heuasant, ond mae gan y medelwyr hwythau eu gwaith a'u cyfrifoldeb. Y mae efrau wedi eu hau ymysg y gwenith, ac y mae yn rhaid wrth eirf newydd i'w gwahanu. Pobl feiddgar a phenderfynol, felly, yw Cymru Sydd. Edrychant yn wyneb cenhedloedd eraill, ac nid arswydant. Ni pharchant Dwyll, er iddo wisgo penwynni, na Rhagrith, er iddo eistedd mewn lleoedd uchel. Nid oes dim yn gysegredig yn eu golwg ond gwirionedd a chyfiawnder a sancteiddrwydd. O fawredd a gogoniant ieuenctid! Nid ofna, ni flina, ni ddrwgdybia. Ei lygad sydd loyw gan ffydd ac ynni a gobaith, ac wyneba beryglon ac anawsterau—ie, a gorchfyga hwynt—heb wybod na meddwl am eu maint.

Mynych y ceid cyfarfodydd yn ystafell Bob i drin hanes llenyddiaeth Cymru, ac i weu breuddwydion am ei dyfodol. Ond ar y nos Wener y soniaf amdani, ni fynnai'r cwmni fod yn ddifrifol am funud, rhag i dristwch syrthio ar ysbryd Bob a Gwladus. A phan orffennwyd yfed te, cododd Benni Bach ar ei draed gan ddweud:

"Fechgyn, beth ta ni'n ca'l Eisteddfod heno? 'Cheiff Bob ddim un eto am fiso'dd."

"Clywch, clywch," meddai Gwladus; "a 'rwy'n cynnig Benni Bach yn arweinydd."

Ac ymysg "banllefau o gymeradwyaeth," fel y dywed y papurau, cymerodd Benni Bach ei le fel arweinydd.

"Annwyl gydwladwyr," meddai, "ni wn beth welwch chi ynof fi i haeddu'r fath anrhydedd ("clywch, clywch," ebe Bob)—byddwch chi'r plant bach 'na yn esmwyth, 'rwy'n eich 'nabod chi,—ond fel 'rown yn dweyd, 'rwy'n teimlo fy mod yn hollol annheilwng ("clywch, clywch" oddi wrth Bob), ond gan i mi gael fy ngalw i'r swydd urddasol gan fy nghydwladwyr nid oes dim i wneud ond ufuddhau. Mae yn arferol ar adegau fel hyn i gael cadeirydd—nid am fod ei eisiau, ond er mwyn iddo gael ei odro gan y pwyllgor (cymeradwyaeth uchel)—ac felly mae'n bleser mawr gennyf gynnig bonheddwr i'r gadair sydd yn adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonoch, bonheddwr sydd wedi ennill iddo ei hun gymaint o deitlau yn Llundain fel y mae'r A.B.C. bron yn rhy fyr i blethu cwt iddo! (chwerthin). Nid oes eisiau i mi ddweud wrthych fy mod yn cyfeirio at ein cydwladwr enwog ac athrylithgar, Mr. Arthur Jones, F.R.C.S. M.D., M.S., ac felly yn y blaen at yr X.Y.Z."

Crochlefai'r cwmni, a chododd Arthur Jones yn araf a phwyllog.

"Ladies and gentlemen"—dechreuai yn ei Saesneg gwychaf. "Cymraeg, Cymraeg," gwaeddai'r lleill.

"Da chi," torrai Benni i mewn, "byddwch yn foesgar wrth y pendefig.

"Fon'ddigions," meddai Arthur gyda llediaith, "fi balch iawn ca'l dwad fel yma i'r hen Steddfod ardderchog (cymeradwyaeth). Fi siwr y bydde hen graig fi yn balch bod yma hefyd ("clywch, clywch"). Fi'n dyfaru fi dim cofio pwer o'r hen iaith annw'l. Fi byw yn Llynden, a siarad Sysneg o hyd. Ond fi mynd i'r capel Cwmbrag ("clywch, clywch") dwy waith bob blwyddyn (uchel gymeradwyaeth), ond Sysneg yw graig fi, a fi gorffod mynd gyda hi i'r Eglwys, ne byse fi mwy amal yn y capel. Galla fi ddim siarad llawer o Cwmbrag ('dallet ti ddim siarad dim byd arall ddeng mlynedd yn ôl, meddai Bob—"gosteg, gosteg," meddai Benni), ond bydd yn pleser gini roi cheque for five pounds i'r Committee."

Ar hyn eisteddodd Arthur i lawr ymysg canmoliaeth uchel "y dorf."

"Nawr, fe gawn anerchiadau gan y beirdd," meddai Benni. "Oes yma feirdd yn bresennol? Os oes, deuent i'r lan i'r llwyfan, ar unwaith."

Ni chlywyd mewn gorsedd nac eisteddfod y fath rigymu,—Bob ac Arthur, a Benni am y gwaethaf—"pawb a'i bennill yn ei gwrs," fel pe baent Feirdd yn ôl braint a defod. Y mae un enghraifft—englyn o waith Benni Bach-eto ar glawr. Dyma fe:

'E gawd Arthur yn gadeirydd,—gwron
A gerir drwy'r gwledydd;
Arthur yw ein hareithydd
A ffon, ie, pen ffon ein ffydd!

"Y peth nesaf ar y rhaglen," ebe Benni, "yw Cân yr Eisteddfod gan Bencerddes Cymru, y fyd-enwog Miss Gwladus Bowen. Rhowch groesawiad gogoneddus iddi, Hip, hip, hwre!"

"Hip, hip, hwre," atebai'r lleill.

"Mae dymuniad," meddai Bob, "ar i'r Bencerddes hyglod ganu cân o'i chyfansoddiad ei hun."

"Na wna'n wir, Bob," atebai Gwladus gan wrido.

"Enw'r gân," ychwanegai Bob, "yw ' Mawredd Cenhedloedd.' Y Bencerddes yw awdures y dôn a'r geiriau, a dyma'r tro cyntaf iddi eu canu yn gyhoeddus."

"Hwre," ebe'r lleill.

Nid oedd wiw i Gwladus wrido a phallu. Eisteddodd Mary Morgan wrth y berdoneg, a dechreuodd Gwladus ganu. Disgynnodd distawrwydd ar y cwmni aflonydd, a chyn i Gwladus orffen y pennill cyntaf yr oedd Benni Bach wedi anghofio ei ddireidi, ac edrychai Arthur Jones fel un wedi ei syfrdanu. Nid gogoniant y dôn a'r geiriau yn gymaint â swyn llais a thanbeidrwydd ysbryd y gantores a'u trawodd â mudanrwydd. Dyma fel y rhedai'r geiriau:

"Mae terfyn i fawredd cenhedloedd,
A llwyddiant anfoesgar y Sais,
Daw dydd pan na chwyfia ei faner
Ar diroedd enillodd drwy drais;
Daw adeg pan na fydd gwlad Prydain
Ond ynys ynghanol y lli,—
Ond erys gogoniant hen Gymru,
Gwlad dirion, gwlad lonydd,
Gwlad crefydd yw hi.

II.
Cenhedloedd meistrolgar y cynfyd—
Pa le, erbyn hyn, y maent oll?
Eu llynges a'u milwyr rhodresgar?
Eu hanes a'u hiaith sydd ar goll!
Pa le y mae'r Norddman balch creulon
Ormesodd ein cenedl ni?—
Ond erys dylanwad hen Gymru,
Gwlad awen, gwlad canu,
Gwlad llên ydyw hi!

III.
Fe wywa flug urddas brenhiniaeth,
Fe dry pob aur-goron yn ddrain,
Fe blygir pob baner ryfelgar,
Fe wenir pob cleddyf i'r wain,—
Er hynny, ni chilia gwir fawredd,
Fe erys un wlad fach mewn bri,
Nid gwlad y cryf arfog fydd honno,
Gwlad Ceiriog, gwlad Islwyn,
Gwlad Dafydd fydd hi!

Am dymor ar ôl hyn, bu'n anhawdd dwyn gwaith yr Eisteddfod ymlaen. Ond dan arweiniad medrus Benni Bach, ni fuwyd yn hir cyn ailgodi hwyl. Gwasgarwyd yr hud a rowd ar y cwmni gan Gwladus drwy i Benni Bach adrodd yr "englyn" canlynol yn ei chlod.

Ow! Ow! bu Miss Bowen'n bwmian!—grondowch!
Mae'n grand wrthi 'i hunan!
Ei llais dry y llestri cân
Yn goch fel godre crochan!

Gormod gwaith fyddai myned dros yr hanes i gyd; fel y cadeiriwyd Mary yn brifardd, ac y tynnodd Benni Bach y pocer o gâs ymbrela gan weiddi, "A oes heddwch?"; fel yr arweiniodd Bob y côr buddugol oddi ar ben stôl a'r tongs yn ei law yn cadw'r amser; fel y cystadleuodd tri o'r bechgyn ar yr unawd soprano—wedi gwisgo amdanynt hetiau Mary a Gwladus, a chanu "Merch y Melinydd" mewn llais falsetto; ac fel y traddododd Gwladus feirniadaeth yn llawn cynghorion dwfn-ddysgedig ynghylch "intonation" a "phrasing" a "dim-inuendo." Doniol hefyd fyddai adrodd fel y bu tri pharti yn cystadlu ar y ddadl ddifyfyr, a thestunau a beirniadaethau Benni Bach. Ond rhaid i ni beidio ymhelaethu, ys dywed y pregethwyr. Daeth yn bryd ymadael, ac wele Benni ar ei draed yn cynnig "diolchgarwch y dorf aneirif i Dr. Arthur Jones am lywyddu mor ddeheuig. Dyma'r fath bobl sydd eisiau arnom ni yn y Senedd," meddai, ymysg bloeddiadau'r "dorf," "pobl sydd, fel y dywedodd Dr. Jones, heb anghofio'r ' graig' o'r hon y'u naddwyd." Difyr, hefyd, fuasai rhoddi araith Arthur, yn hanner Cymraeg a hanner Saesneg, a'i addewid i wneud ei orau i ddanfon Llinos y Cwm' (sef Benni Bach) "i stydio music yn y Royal Academy, gan fod genti shwd lais sweet, a dim ond iddi gael training and culture, byddai'r Llinos yn sure o fod yn cymaint o success in the musical world â Mary Davies ac Edith Wynne."

Yna cododd Benni ar ei draed, ac yn ei ddull mwyaf difrifol, "dymunai gynnig diolchgarwch cynnes y pwyllgor a'r gynulleidfa i'r teulu parchus oedd yn cyfaneddu yn y lle am eu caredigrwydd yn rhoddi benthyg yr ysgubor i gynnal Eisteddfod ynddi."

Wedi hynny, bu'r fintai o Lanelwid yn trefnu ffordd i gwrdd bore drannoeth er mwyn teithio gyda'i gilydd adref, a bu Arthur Jones yn sibrwd rhywbeth yng nghlust Gwladus a barodd iddi wrido fel rhosyn dan wên yr haul.

Cafwyd hwyl fawr wrth ganu "Hen Wlad fy Nhadau," ac yna ffarweliodd pawb yn galonnog â Bob, a cheisiai Bob, druan, edrych yn llawen, ac yn wir ni allai ymatal rhag chwerthin pan ddywedodd Benni wrth siglo llaw ag ef am y drydedd waith ar y trothwy,—

"Ffarwel Bob 'y mrawd! Da bo't yn nhywyll-leoedd y ddaear! Fe fydd sôn am yr Eisteddfod hon ar fryniau tragwyddoldeb!"

PENNOD I.
DAFI JONES, DOLAU GWYNION

NID oedd neb yn y plwyf a gair drwg i Dafi Jones, Dolau Gwynion. Nid oedd yn hynod am ei gymwynasgarwch yn yr ardal, nac am ei ddiwydrwydd ar y ffarm. chymerai nemor ddiddordeb mewn cyngerdd nac Eisteddfod; ni threiodd erioed am wobr mewn preimin; nid oedd yn athro yn yr Ysgol Sul nac yn aelod o'r Côr Undebol; ac ni feddai ddawn neilltuol mewn seiet na chwrdd gweddi. Mae yn rhwyddach dweud beth oedd Dafi Jones heb fod na dweud beth oedd. "Dyn eitha' diddrwg yw Dafi Jones," meddai Mr. Thomas y gweinidog amdano. "Ych y fi," meddai Gruffudd y Coed, "dyw gŵr y Dolau yn dda i ddim." "Druan â Dafi Jones," meddai hanner y plwyf, "does gydag e elyn yn y byd ond fe ei hunan."

Fe welwch sut un oedd Dafi Jones. Mae miloedd o'i fath i'w cael yng Nghymru, fel ym mhob gwlad arall. Un oedd o'r bobl hynny sydd, fel rheol, yn byw bywyd dinod, heb sôn amdanynt hyd yn oed yn eu cymydogaethau eu hunain. Oni bai y gwelid hwynt mewn cinio rhent neu yn y cwrdd dydd Sul, o'r braidd y gellid tybied eu bod yn byw o gwbl. Pe gofynnech i'w cymydog drws nesaf, ni chlywech stori amdanynt, na sôn am un dywediad o'u heiddo. Ni fydd neb lawer yn siarad yn eu cylch hyd yn oed pan gymerir hwynt yn glaf, a phan fyddant wedi tynnu eu hanadl olaf, ni ddaw ond eu cyd-aelodau yn y capel ac ychydig gymydogion a pherthynasau i'w hebrwng i dir eu hir gartref. Clywir am wythnos neu ddwy ar ôl hynny y gofyniad yn y farchnad neu'r ffair, "A yw e'n wir fod hwn-a-hwn wedi marw?" "Ody, fe fues i yn yr angladd dydd Mercher." "Howyr bach! Fe gas fynd yn syden iawn, do fe ddim?" "O, na, mae e wedi bod yn dost ers miso'dd." "Dier mi, fe geiff y teulu golled ar ei ôl e.—Faint gesoch chi am y menyn heddi?"

Ac ni fuasai yn werth rhoddi mwy o hanes Dafi Jones chwaith nag a geid ar garreg ei fedd ym mynwent Llanelwid, oni bai iddo briodi Mari Jones. Unig ferch Morgan Jones, Dolau Gwynion, oedd Mari, a chan mai'r Dolau oedd y ffarm fwyaf yn y plwyf, yr oedd llawer o siarad a rhyfeddu pan briododd hi Dafi Jones, Cwm Rhew,—un o'r ffermydd bychain ar lethr mynydd Llanelwid. Nid oedd Morgan Jones, os gellir credu'r cymdogion, yn eithaf bodlon i'r briodas, ond yr oedd y ferch yn benderfynol, yr oedd cartref gan y gŵr ieuanc yn barod i'w wraig,—oblegid yr oedd rhieni Dafi Jones wedi marw—ac nid oedd gan neb air i ddweud yn erbyn ei gymeriad. Felly, cymerodd y briodas le, a bu Dafi a Mari Jones fyw yn gysurus ddigon yng Nghwm Rhew am bedair blynedd, hyd farwolaeth hen ŵr y Dolau, ac yng Nghwm Rhew y ganwyd eu hunig blentyn Arthur.

Methai pawb â dyfalu beth a welai Mari yn Dafi Jones. "Nid fel ta hi ddim wedi ca'l cynnig ar neb arall," meddai Sali Nat, gwraig y gof,—yr hon oedd newydd briodi o'r Dolau, lle bu yn llaethwraig am flynyddoedd—"wa'th dyna Thomas y Gweinidog,—'roedd e' bron dwlu amdani, a fe nese shwd wraig dda i weinidog! Hi geiff y cwbl ar ôl ei thad, a 'do's dim gwell llaw ar 'neyd cramboithe ne' gwca whyad yn yr holl ardalo'dd! A dyna'r Sais 'na sy'n ecseismon yn Llandyfri. Llawer i whech a llawer i swllt ges i gydag e am weud gair drosto fe; ond wrth gwrs mae Mari Jones yn llawer rhy dda i Sais i cha'l hi. A dyna Price yr acshwnêr,—anghofia i byth yr olwg o'dd arno fe pan wedes i wrtho fe ar glos tŷ cwrdd fod Mari Jones ym mynd i briodi! Fe a'th mor wynned â'r sialc, a fe gredes y byse fe'n cwympo lawr yn y man, gen fath gryndod ddaeth drosto fe gyd, a 'ro'dd i ddannedd e'n clatsian yn i ben e, fel ta'r ddyrton wedi cydio yndo fe!—Ond dyna fel mae hi'n digwydd, chi'n gweld," ychwanegai Sali gydag ochenaid, "does neb ohonom ni'n gw'bod beth sy' o'n bleine ni! Pwy feddylse flwyddyn i heddi taw Nat fyse 'ngŵr i? Os credwch chi 'ngair i, fe o'dd y dyn ola' yn y byd fyswn i'n ffansïo ar yr olwg gynta'. "Stim dowt gen i nag o's rhan miwn priodas, a 'nhynged i o'dd ca'l Nat, a thynged Mari Jones o'dd ca'l Dafi."

Chware teg i Sali, nid wyf yn credu y gwyddai hi ei hunan dri mis cyn priodi mai Nat fuasai ei gŵr. Yr oedd Morgan Jones yn hoff iawn o rigan Sali ynghylch Nat, pan oeddynt eto yn caru, a chan fod tafod rhugl gan Sali, nid oedd Morgan Jones heb gael gwybod y cyfan am helyntion ei charwriaeth. Adroddai Morgan Jones un stori, yn enwedig, am Sali gyda llawer o flas.

"Wel, Sal," meddai wrthi un diwrnod, "shwd mae pethe rhynto ti a William y meiswn 'nawr "?

"O mishtir bach," atebai Sali, "mae William yn ddyn neis, tawel iawn. Mae e'n gweyd fod gento fe dŷ a lle i gadw tair buwch, ag y byse ni'n dou fyw yn gysurus iawn gyda'n gilydd, ag y byswn i'n siwr o 'neyd llysfam dda i'r plant bach.'

"Wel, beth wyt ti'n feddwl amdano fe?"

"Wel, yn 'y ngwir, mishtir bach," atebai Sali, "mae e'n ddyn ffein anghyffredin, a ta pwy ceith e, fe fydd yn lwcus iawn."

"Mae'n well genti e na John y sâr 'te?" ebe Morgan Jones. "Wel, mae'n anodd gweyd," meddai Sali. "Mae John yn shwd ddyn call a phwyllog. Mae e'n gweyd fod gydag e' ugen punt yn y banc, ac i fod e'n ennill tri swllt y dydd a'i fwyd, ag na fyswn i ddim yn mynd i dŷ a'i lond e o blant, fel sy gyda William y meiswn."

"Wel, beth wyt ti'n weyd am John?"

"O, dyn call iawn yw John!" meddai Sali. "Beth mae Nat yn 'weyd wrthot ti?"

"O, peidwch gofyn, mishtir bach!" atebai Sali, gan chwerthin yn wawdlyd. "Mae Nat yn rhy ddwl i weyd gair ar i ôl e!""

Ac er bod Mari Jones yn fenyw gallach na'r cyffredin, mae arnaf ofn mai'r un rheswm a barodd iddi hi briodi Dafi—nid am ei fod yn fwy golygus nac yn fwy cyfoethog, nac yn gallach nag eraill, ond yn unig am ei fod yn well carwr!

Ni ellid dirnad am ddau gymeriad mwy annhebyg. Er yn ieuanc, yr oedd Mari yn ferch grefyddol; ond rhedai Dafi ar ôl arferion gwamal, ac anaml y gwelid ef mewn cwrdd ar noswaith waith. Merch ddiwyd, ofalus oedd Mari; bachgen didoraeth oedd Dafi wedi bod erioed. Ond yr oedd hyd yn oed gwendidau Dafi yn apelio at deimladau dyfnaf natur Mari. Dywedai Dafi wrthi ei fod yn teimlo'n well dyn ar ôl bod yn ei chwmni am hanner awr, a bodlonodd, ar ei chais, i gael ei dderbyn yn gyflawn aelod yn Salem.—A hyn yw'r weniaith fwyaf ei dylanwad ar wraig rinweddol,—mawrygu ei gallu i gadw gŵr rhag profedigaeth—oblegid nid yw'r ganmoliaeth yn weniaith i gyd, os nad yw'r gŵr wedi suddo yn rhy ddwfn o gyrraedd gobaith. A chredai Mari Jones ei bod yn cyflawni dyletswydd grefyddol wrth briodi Dafi a'i ymgeleddu rhag ei bechodau parod.

Morgan Jones oedd "prif ddiacon" Salem, fel yr oedd ei dad o'i flaen yntau. Pan aeth yr hen gapel yn rhy fach ac y bu raid ei ailgodi, ar ysgwyddau Morgan Jones y disgynnodd y pen trymaf o'r gwaith a'r cyfrifoldeb. Yn wir, ar adeg yr agoriad, cydsyniai pawb â Mr. Thomas y gweinidog pan ddywedodd na fuasent wedi cael capel newydd oni bai am aberth ac ymroddiad a haelioni Morgan Jones. A phan fu Morgan Jones farw ac yr aeth ei ferch a'i gŵr i fyw i'r Dolau, prif uchelgais a gobaith Mari Jones oedd y cawsai Dafi ei wneud yn ddiacon yn lle ei thad. Ond druan o Mari! nid fel y meddyliai hi amdano y meddyliai aelodau Salem; ac un arall—Morgans y Siop-a etholwyd yn ddiacon.

Ym mhen blwyddyn neu ddwy wedi symud i'r Dolau, dechreuodd Dafi fyned o ddrwg i waeth. Nid oedd eisiau iddo weithio mor galed yn y Dolau ag yng Nghwm Rhew, oherwydd yr oedd yn cadw pedwar neu bump o weision cryfion yn y Dolau. Cyn bo hir, sibrydid ei fod yn gwario llawer o'i amser gyda Nat, yn yr efail neu yn y Red Lion, a'i fod yn hoff o fyned i ffair ac acsiwn. Un tro, rhyw saith mlynedd wedi iddo symud i'r Dolau, daeth achos Dafi Jones o flaen y seiet. Yn y Red Lion y cynhelid y ffest clwb, a Dafi, fel arfer, oedd yn torri'r cig ar ben y ford. Yn lle dod adref yn brydlon, fel y gwnâi Morgan Jones ar y cyfryw amgylchiad, arhosodd Dafi yn y Red Lion ar ôl yr amser cyfreithlon. Daliwyd ef a Nat ac un neu ddau arall; tynnwyd hwy ymlaen o flaen eu gwell; a gorfu iddynt dalu ychydig o ddirwy am y trosedd. Nid oedd Nat yn aelod, ond dowd ag achos Dafi Jones o flaen y seiet. Tystiai Dafi nad oedd wedi yfed gormod; honnai mai digwyddiad hollol oedd iddo aros cyhyd, ac na wyddai, hyd nes y gwelodd yr heddgeidwad, fod y cloc wedi taro deg. Yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau yn fodlon, pe ond er mwyn Mari Jones a'i hen gysylltiadau â'r achos, ymddwyn yn dyner tuag at y troseddwr, ac oni bai am Gruffudd y Coed ni buasai dadl wedi codi yn ei gylch. Ond yr oedd Gruffudd yn un o'r creaduriaid annedwydd hynny na allant gydweled â phobl eraill mewn dim. Ei hoff waith oedd bod yn groes i bob cynigiad, a thaflu rhwystrau yn erbyn pob cyfnewidiad. Ac nid oedd dim yn fwy wrth fodd ei galon na brathu aelod syrthiedig. Y tro hwn, pan oedd pawb wedi gwneud eu meddyliau i fyny nad oedd Dafi yn haeddu cerydd llym, cododd Gruffudd ar ei draed, ac awgrymodd na ddylai'r eglwys fod yn dyner wrth aelod oedd wedi torri cyfraith y tir. Ni allai Tomos y crydd oddef hyn.

"A yw e'n fwy o ddrwg," meddai yn gyffrous, "fod mewn tafarn am bum myned wedi deg nag am bum myned rhynti? Ody deng myned yn gallu newid natur y weithred? Yn ôl 'y meddwl i, mae'n gymaint o ddrwg fod mewn tafarn am hanner awr wedi naw ag am hanner awr wedi deg. Ody'r eglwys yn mynd i weyd na ddyle neb fynd i dafarn o gwbwl? Mae un brawd wedi gweyd i fod e'n bechod torri cyfraith y tir. Odyn ni fo'lon i'r athrawiaeth yna? Os odyn ni, mae'n rhaid i ni gredu i John Penri gael ei grogi ar dir cyfiawn,—wa'th 'ro'dd e wedi torri'r gyfreth. Fe ballodd llawer o'r hen bobol â thalu'r dreth Eglwys; a ddyle nhw fod wedi ca'l i ceryddu yn y seiet? A mae llawer yn y sir, a rhai yn y plwyf hyn, yn gwrthod talu'r degwm. A odyn ni'n myn'd i ceryddu nhw am beidio ufuddhau i gyfreth y tir? Na, frodyr, 'dyw'r peth mae Dafi Jones wedi neyd ddim yn bechod; 'dyw e ddim ond yn drosedd yn erbyn y gyfreth, a mae e wedi ca'l i gosbi ishws am hynny."

Dyna grynodeb o araith Tomos, ac, yn wir, pan eisteddodd i lawr, edrychai llawer yn ddryslyd, ac ni ddywedodd Gruffudd air o'i ben, oblegid yr oedd ef yn un o'r rhai oedd heb dalu'r degwm. Ond ni osodai'r aelodau yn gyffredin lawer o bwys ar beth a ddywedai Tomos, canys gwyddai pawb fod y crydd yn hoff iawn o gario ei ddryll, ac nad oedd yn sicr yn wastad o wybod ble y gorweddai'r ffin rhwng y comin a pharc y Plas. Ond nid oedd Dafi i ddianc yn ddigerydd. "Nid cosb, fel y dywedodd un brawd," meddai Tomos Lewis, Coed Weddus, "yw cerydd yr eglwys, ond rhybudd i frawd gwan ei fod yn cyfeiliorni. Fe olchodd yr Iesu draed ei ddisgyblion er mwyn eu helpu i gerdded yn well yn ôl llaw, a dyna ddylem ni amcanu neyd wrth ddisgyblu. 'Do's dim eishe i ni benderfynu os yw e'n fwy o ddrwg fod mewn tafarn ar ôl na chyn deg o'r gloch. Mae Dafi Jones i hunan yn dweud na fyse fe ddim yn lico bod miwn tafarn ar ôl deg, ac mae e'n cyfadde' drwy hynny i fod e'n styried hynny'n rong. Mae Dafi Jones yn dweyd mai damwain oedd iddo fe fod yn y tafarn wedi'r amser. 'Rwy'n gobeitho y bydd y tro hwn yn rhybudd iddo beidio mynychu tafarndai o gwbwl. Dyna'r ffordd ddiogel." Daeth Nat o hyd i'r hanes drwy Sali, a mawr fu ei sbri am wythnosau.

"Helo, Dafi Jones," oedd y gair cyntaf a ddywedodd wrtho ar ôl hyn, "shwt ych chi 'nawr ar ôl i'ch tra'd chi ga'l eu golchi?",

A phan gyfarfyddai â Dafi mewn ffair neu farchnad, gafaelai yn ei fraich, a dywedai:

"Dewch i ga'l glased gyda fi. 'Do's dim gwell eli i'r tra'd i ga'l,—internal application, fel mae'r doctoriaid yn gweyd. Wir i chi, mae Coed Weddus yn iwso dŵr rhy bo'th i olchi tra'd y saint! 'Does dim posib iddi nhw gerdded yn gwmws byth ar ôl 'ny."

Cafodd yr helynt hwn gryn ddylanwad ar fywyd Dafi Jones. Collodd lawer o'i hen ysbryd nwyfus; âi yn fwy mynych i'r efail, a mwy anfynych i'r cyrddau. Ond er i Mari dreulio llawer awr bryderus wrth ddisgwyl ei gŵr adref, ni fu Dafi yn euog o droseddu'n gyhoeddus, beth bynnag, ar ôl hynny.

Fel hyn, am saith mlynedd ar hugain, bu Dafi a Mari Jones fyw yn ŵr ac yn wraig. Yr oedd gwallt Mari erbyn hyn wedi britho, ac yr oedd rhychiau dwfn yn ei hwyneb yn dystion am lawer ymgyrch â'r byd. Ond pes gofynnech iddi, atebai yn bendant nad oedd neb hapusach na hi yn y plwyf, fod ganddi ŵr caredig, ac mai Arthur ei mab—er mwyn yr hwn yr oedd wedi aberthu cymaint-oedd un o'r bechgyn gorau a fagwyd erioed yng Nghymru.

PENNOD II.
NAT WEDI EI SAETHU.

NID oedd byth awydd am waith ar Dafi Jones,—nid bod ofn gwaith arno, oblegid yr oedd yn barod, fel y gwas hwnnw yn y chwedl, i gysgu wrth ei ochr! Ai i'r gegin ar ôl brecwast bob bore i ddweud wrth y gweision eu goruchwylion am y dydd, ac yna cerddai oddi amgylch y ffarm, neu âi i weled yr anifeiliaid ar lan yr afon, neu cai afael mewn gwaith twt yn yr ardd neu yn agos i'r tŷ. Ond nid oedd braidd ddiwrnod yn myned dros ei ben na fyddai yn talu ymweliad â Nat yn yr efail. Yr oedd stôl deirtroed ar ben y pentan ynghanol yr huddugl—"stôl y gwrando" y galwai Nat hi—ac yno yr hoffai Dafi wario awr neu ddwy bob dydd. Yr oedd Nat, o hir arfer, wedi dod i edrych ymlaen at ddyfodiad Dafi fel yr edrych pobl y dref am y papurau newyddion. Os digwyddai i Dafi fethu troi i fewn, yr oedd ei absenoldeb yn gwneud bwlch ym mywyd Nat. Nid oedd yr efail yr un hebddo drwy'r dydd. Nid oedd Dafi yn fawr o siaradwr, nid oedd ganddo byth stori i ddweud, ac ni wnaeth jôc yn ei fyw. Ond yr oedd yn wrandawr di-ail, ac nid oedd neb yn gallu llanw "stôl y gwrando" fel efe. Ni chollai air a ddeuai allan o enau Nat, ac ar ôl rhyw ddywediad mwy cellweirus nag arfer, byddai yn rhwbio ei ddwylo ynghyd, ac yn chwerthin yn isel, ac yn dweud, "Nat, bachan helyg wyt ti hefyd." Neu os byddai Nat yn tynnu wrth raffau ei ddychymyg ac yn dweud rhyw stori ryfeddach nag arfer, nid oedd dim a hoffai'r gof yn well na gweled Dafi yn agor ei lygaid glas led y pen ac yn dweud: "Dych chi ddim yn ceisio gweyd y fath beth!" neu, "Lycoch chi 'nawr! Pwy feddylse am hynna, welwch chi?"

Ar fore dydd Sadwrn cyn Nadolig, 1895, aeth Dafi, fel arfer, am dro i'r efail, ond erbyn iddo gyrraedd yno cafodd yr efail ynghau. Yr oedd Nat yn byw mewn tyddyn bach ryw led dau gae oddi wrth yr efail, yr ochr arall i'r Dolau Gwynion. Aeth Dafi'n ôl i'r Dolau, yn bendrwm iawn. Nid oedd y fath beth Yr oedd wedi digwydd erioed o'r blaen, ac ni allai ei esbonio. arno braidd ofn gofyn i'r forwyn fwyaf a wyddai beth oedd yn bod. Eisteddodd ar y sgiw yn y gegin am amser heb ddweud gair. O'r diwedd cymerodd galon a dywedodd:

"Odych chi wedi cl'wed rhywbeth amboitu Nat, Sara?" "Nagw i, mishtir," atebai Sara yn swrth. "Ody e wedi troi'n ddirwestwr, neu beth? Mae'n hen bryd iddo 'neyd hynny!"

"Na," meddai Dafi, "ffeilu dyall own i pam oedd e ddim yn yr efel y bore 'ma."

"O, mi wn i beth sy ar y gwalch," ebe Sara. "Neith'wr o'dd raffl y Red Lion, a mi gynta fod Nat wedi bod yno—'chollith e ddim cyfle o'r sort—a mi fentra fod drych pert i weld arno fe heddi."

Nid atebodd Dafi Jones air, ond aeth allan heb holi rhagor. Yn gynnar yn y prynhawn aeth lawr i dŷ Nat i weled sut oedd pethau'n bod. Tyddyn bach to gwellt oedd, ac nid oedd enw arall arno ond "Tŷ Nat." Ni welsech dŷ bach mwy twt mewn taith diwrnod. Yr oedd gardd tu ôl a chlos cryno o'i flaen. Er mai mwd oedd y gwelydd, yr oeddynt wedi eu gwyngalchu mor lân, ac yr oedd cymaint o flodau a creepers wedi eu plannu wrth y godre fel yr edrychent yn siriolach na muriau un castell neu blas yn y sir. Cerddodd Dafi'n araf at y drws. Nid oes neb byth yn Llanelwid yn curo wrth ddrws cyn myned i'r tŷ, ac nid oes neb chwaith yn meddwl am gloi'r drws ond pan fyddo'r ffair flynyddol yn y pentref yn tynnu Saeson a phorthmyn i'r ardal. Felly nid arhosodd Dafi wrth y drws maes.

"Helo 'ma!" meddai, wrth groesi'r trothwy, "o's rhywun miwn?"

"Y chi Dafi Jones sy 'na?" meddai Sali, gan ddyfod i'w gyfarfod i'r penllawr.

Menyw fer, dew, gron oedd Sali—bron yr un hyd a lled—ac wyneb mor rownd â thwmplen. Yr oedd ganddi drwyn byr, llydan wedi ei osod rhwng dau lygad bach, cyn ddued â'r fagddu, ac mor ddisglair a llym â nodwydd ddur. Safai mor gadarn ar ei thraed â chraig gallestr, ac yr oedd pob symudiad o'i heiddo yn llawn ynni a bywiogrwydd. Yr oedd yn arfer dweud y gallai "droi ar bishin tair," a'i hoff ymffrost oedd fod ei thŷ mor lân a threfnus â "phin mewn papur.

"Dewch miwn, dewch miwn," ychwanegai Sali, cyn i Dafi gael amser i agor ei enau. "Mi fues yn eich dishgwl chi drwy'r bore."

"Beth sy'n bod, Sali fach?" gofynnai Dafi'n syn. "Beth sy'n bod?"

"Mi allwch ofyn hynny, Dafi Jones," atebai Sali'n gwynfan- us. "Fel ta gyda fi ddim digon o drwbwl ishws!—"

"Dych chi ddim yn ceisio gweyd," dywedai Dafi, "fod Nat yn dost?"

"Yn dost!" ebe Sali, "O ta fe'n dost mi allwn w'bod beth i 'neyd ag e, ond mae e'n bownd o fod yn ots na phawb yn wastod."

"Beth sy arno fe 'te, yn enw dyn?" gofynnai Dafi yn ddryslyd.

"Mae e wedi ca'l i saethu!" meddai Sali.

"Wel, lycoch chi 'nawr! wedi ca'l i saethu!" ebe Dafi. "Shwd buws hi fel 'ny?"

"O Dafi Jones bach, 'dalla i ddim â gweyd wrthoch chi mor falch mae gen i'ch gweld chi," llefai Sali. "Mae Nat wedi'n siarso i na weda i ddim gair wrth neb, ond 'rwy'n gw'bod y bydd e'n fo'lon i chi ga'l clywed, wa'th 'rych chi ac ynte wedi bod shwt bartners ariod!"

"Ond 'dyw e ddim yn sal iawn?" gofynnai Dafi eilwaith, a phryder yn ei lais.

"Mi dynnes i bymtheg shotsen ar hugain o'i goese fe," meddai Sali, "a'r Arglwydd yn unig a ŵyr faint sy 'nôl yn i gorff e, wa'th fe'n hadodd i hala i moyn doctor."

"Ond ffordd digwyddws y peth?" gofynnai Dafi.

"Wel, mi weda i chi," atebai Sali, gan eistedd gogyfer â Dafi, a chornel ei ffedog yn ei llaw yn barod i sychu'r dagrau oedd yn llanw ei llygaid. "Neith'wr 'roen nhw'n rafflo'r twrci yn y Red Lion, a me fuodd Nat mor ffol â phrynu dou dicet whech cheinog yr un. 'Rown i'n gweyd wrtho fe fod gydag e lawer rhytach gwaith na mynd i wasto'i arian fel 'ny. Wetswn i ddim byd wrtho fe, Dafi Jones, ta fe'n ennill yn y raffls yma weithe.. Ond welsoch chi 'rio'd shwd griadur anlwcus â Nat! Dim ond i chi gadw e yn yr efel i bedoli cyffyle, ne' neyd arad, ne' gwyro swch ne' gwlltwr, mae e'n ol-reit. Ond man eiff e ma's dros drothe'r efel mae fel ta'r Gŵr Drwg i hunan yn i ddilyn e! Mi fadewodd yn gynnar â'r efel neithiwr, ac ar ôl molchyd a gwishgo, dyma fe lan i'r pentre i'r raffl. 'Ro'dd gydag e swllt a naw pan madews e â'r tŷ heb law'r ddou dicet whech o'dd e wedi brynu cyn mynd. Fe driodd ddwywaith, medde fe, gyda'r co'd, ond 'ro'dd e o rwle ar ôl! Fe ddylwn i fod yn gwbod yn well erbyn hyn na gellwn iddo fe fynd i'r raffls yna! Wa'th dyna pwy ddwarnod o'r bla'n, pan oedd Robin y Teilwr yn rafflo Josephys-'ro'dd Nat, wrth gwrs, yn bownd o dreio'i lwc, os gwedws ynte. A phwy les, gwedwch chi, nese'r Josephys 'na iddo fe ta fe wedi'i ennill e? Achos ni ddarllense fe ddim ohono fe ta fe byw i oedran Methiwsala! Ond 'ro'dd yn rhaid i my Lord i dreio'i lwc, a fe halws dri swllt wrth dreio, a chrwt bach John Sa'r cas e wedi'r cwbwl, er nag oedd gento fe ond un ticet—." "Ond, Sali fach, beth sy gyda hyn i 'neyd â saethu Nat?" gofynnai Dafi, dipyn allan o dymer.

"O chi'n gweld," atebai Sali, "'ro'dd yn rhaid i Nat 'neyd yr un peth neithiwr wedyn, a rhynt yr arian halws e ar gwrw—a cha i ddim gwbod faint a'th yn y ffordd hynny—a'r rafflo, mi halodd y swllt a naw bob dime, ag 'ro'dd e mor bell o ga'l y twrci yn y diwedd ag o'dd e ar y dechre. Ag ar ôl hala'i arian i gyd dyma fe yn gweyd wrth Twm y Crydd y cese fe row man ese fe gatre.

'Pam?' mynte Twm, wa'th 'do's dim mae Twm yn lico'n fwy na chlywed clacs y gymdogaeth i gyd.

'O,' mynte Nat, "'rown i'n meddwl ca'l cinio tshêp erbyn Nadolig ond wiw wedi hala pob ffyrlling heb ga'l y twrci.'

'Dere gyda fi,' mynte Twm, 'a mi ffeinda i gino Nadolig i ti am ddim.'

A dyna fu. A'th Twm i moin ei ddryll, a dyma'r ddou, os gwelwch chi'n dda, i go'd y Parc-Nat yn ffysto a Twm a'r dryll. Ac miwn tipyn dyma Nat yn cl'wed yr-r-r-r-r mowr amboitu'i ben, a dyma hen geiliog ffesant mowr yn codi, a 'bang, bang,' mydde dryll Twm Crydd, a chyda hynny dyma Nat yn clwed fel ta mil o binne bach yn i goese, a mi rows y fath sgrech nes oedd yr holl le yn ego i gyd!

'Be' sy'm bod?' mynte Twm. '

Ym bod?' mynte Nat. "Stim byd ym bod ond dy fod di wedi lladd dyn!'

'Mi gas Twm shwt ofon, wa'th wydde dim un oheny nhw nag oddi hi ar ben ar Nat, a mi gariws Nat ar i gefen yn streit gatre'. O fe ges shwt start pan gweles i nhw'n dwad, un ar gefen y llall, am un ar gloch bore heddi! Ac yn i hyd yn y gwely mae Nat wedi bod byth oddi ar 'ny, a'r nefo'dd fowr a ŵyr pryd ceiff e nerth i godi!'

"Ond pam na fysech chi wedi hala i moyn y doctor?" gofynnai Dafi'n gyffrous. "Ta chi ddim ond hala gair i'r Dole, fe fyswn i wedi hala'r crwt ar unwaith ar gefen y poni i Landyfri."

"Whare teg i Twm!" atebai Sali, "ro'dd e'n ymbed am fynd ar unwaith i Landyfri, ond 'do'dd dim iws siarad â Nat. 'Ro'dd arno fe ofon mai jail fyse hi iddi nhw'i dou ta'r jystysed yn dwad i wbod."

"Ie, dir gaton ni," dywedai Dafi, "jail ne beth, mae'n rhaid iddo fe ga'l doctor! Wi'n dishgwyl Arthur gatre heno dros Nadolig, ac os yw Nat yn folon, mi ddaw Arthur i lawr i weld e, a fydd dim neb yn gallach."

"O'r annwyl fach, mi fydda'n falch," wylai Sali, "a mae gyda Nat shwd ffydd yn Arthur chi! Mae e'n meddwl y byd amdano fe, a mae e'n siwr o lyncu pob siort o foddion roiff e iddo fe. Dewch lan i'r pen ucha' i ga'l siarad â Nat. Falle cewch chi berswâd arno fe."

Yn y parlwr—neu'r pen ucha'—yr oedd Nat yn gorwedd mewn gwely cwpwrdd, a'i wyneb at y pared, yn cysgu.

"Pwr ffelo," meddai Dafi yn isel pan ei gwelodd, "gellyngwch iddo fe ga'l i hun mas! Trueni ei ddihuno fe!"

Ond gyda'r gair dyma Nat yn troi yn y gwely, ac yn agor ei lygaid.

"Chi sy 'na, Dafi Jones?" meddai, a gwên ar ei wyneb, er bod gwrid afiach yno hefyd. "Mi glywsoch yn helynt ni, mi gynta?"

"Do, yn wir i chi," atebai Dafi, yn llawn tosturi. "Hen dro bach cas yw e! Ond 'do's dim synwyr eich bod chi ddim yn gweld doctor! Wyddoch chi ddim pwy mor ddansherus all rhwbeth fel hyn i fod."

"O, 'do's dim ishe gwŷr y pils arna i," dywedai Nat yn ysgafn. "Fe ddwa i'n ol-reit erbyn Dydd N'dolig. Ffaeles i ario'd fwyta cino Dydd Nadolig hyd yn hyn."

"Ie, ond lycoch chi 'nawr, Nat," meddai Dafi, "fe all eich gwa'd chi ga'l i wenwyno, a ———

"Odych chi'n credu," torrai Sali i mewn, "yr halen nhw Nat i'r jail am hyn? Er y gallen nhw, falle, hala Twm Crydd yno, a fyse'r plwydd ddim gwaith ar ôl ca'l i wared e' am dipyn."

"O, fe cewn inne hi 'run mor ddrwg â Twm," meddai Nat, "wa'th 'roen ni'n dou yn potshan, ti'n gweld.".

"Ond mi gese Twm ei grogi, ta beth," ebe Sali yn sarrug, "ta fe wedi dy ladd di."

"Ei grogi?" gofynnai Nat yn syn. "Na, chese fe ddim o'i grogi, glei."

"Shwd na chese fe?" meddai Sali, "ac ynte wedi lladd dyn." "Sali fach, 'dwyt ti ddim yn deall y gyfreth," atebai Nat yn ddifrifol. "Do's dim cosb am yn lladd i heb lesens, wa'th 'dw i, ti'n gweld, ddim yn y gêm."

"Lycoch chi 'nawr," meddai Dafis, gan chwerthin, "bachan doniol wyt ti, Nat, hefyd! Yr wyt ti'n bownd o ga'l dy whits ta ti'n marw'r fyned nesa! Ond mae'n rhaid i ti ga'l doctor, na chyffra'i. A mae Arthur ni'n dwad gatre heno am wythnos—

"Arthur yn dwad gatre?" ebe Nat, gan hanner codi yn y gwely. "Dyw e ddim ar ben yn Llynden, odi e?"

"O, nag yw," atebai Dafi gyda balchder. "Mae e wedi ca'l swydd uchel iawn yn un o'r hospitals yco, ond i fod e'n ca'l tipyn o wyle gyda nhw 'nawr. Ag os wyt ti'n folon mi ddwa i lawr ag e heno ne' fory, a ddaw neb i wbod dim am y peth." Nid oedd eisiau cymell rhagor ar Nat. Bodlonodd i awgrym Dafi, ac ym mhen ychydig aeth Dafi Jones adref i'r Dolau i baratoi i fyned i gwrdd ag Arthur yn y stesion.

PENNOD III.
"YR HEN BINACL."

PAN alwodd Arthur y noson honno i weled Nat, deallodd nad oedd yr hen greadur wedi cael llawer o niwed, ac mai dim ond eisiau llonyddwch am ddiwrnod neu ddau oedd arno i'w lwyr wella. Fel yr oedd y lwc yn bod, safai pan aeth Nat gryn ddeugain llath neu ragor oddi wrth Tomos yr ergyd allan, ac nid oedd y shots wedi gwneud rhagor na chrafu ei groen, a'i ddychrynu ef a'i gyfaill bron o'u synhwyr—

Pan glywodd Nat farn Arthur am y ddamwain, braidd na neidiodd o'r gwely ar unwaith gan ei lawenydd. Ond ar daer gymhelliad Arthur bodlonodd aros yno, hyd fore dydd Llun, beth bynnag. Yr oedd pawb yn gyfarwydd â "chlefyd dydd Sul" Nat, a gwyddai yn dda na fuasai neb yn synnu oherwydd ei absenoldeb o'r cwrdd. Os gallai fod wrth ei waith ar fore dydd Llun, credai y buasai'n hollol ddiogel. Ond yr oedd Sali yn arfer myned i'r cwrdd bob dydd Sul. Yn wir, ymffrostiai Sali yn ei ffyddlondeb i'r moddion, a rhaid oedd iddi fyned i Salem yn y bore, ond nid heb dderbyn gorchymyn pendant ar iddi beidio ynganu gair wrth neb ynghylch yr helynt oedd wedi gorddiwes Nat.

Druan o Nat! Os oedd yn meddwl cadw'r anap yn gudd, yr oedd wedi gwneud camsynied dybryd â gallu siarad Sali. Nid oedd neb erioed wedi cyhuddo Sali o gadw dim yn gêl, a gwyddai'r cymdogion yn fynych fwy o hanes Nat nag a wyddai ef ei hunan. Teimlai Sali yn awr fod ganddi gyfle na chafodd erioed o'r blaen i gwyno wrth ei chyfeillion. Yr oedd pawb wedi hen flino ar ei cheintach yn erbyn Nat a'i ddifrawder, yn erbyn Gruffudd y Coed am fod mor "ddeir" cyn talu ei gownt amser Calan Gaeaf, yn erbyn Morgans y siop am nad oedd yn gwerthu gwell te am hanner coron nag a gawsai yn Abertawe am ddeuswllt y pwys, ac, yn wastad, wrth gwrs, yn erbyn gwraig y Red Lion a Mr. Thomas y gweinidog. Ond ni chafodd erioed achos o'r blaen i ofyn am gydymdeimlad oherwydd afiechyd yn y teulu. Yr oedd hi a Nat wedi mwynhau iechyd di-fwlch ar hyd eu hoes, ac ni fu meddyg yn y tŷ oddi ar pan wellodd Sara'r ferch o'r frech goch a'r dwymyn doben bymtheng mlynedd yn ôl. Weithiau byddai Sali'n cwyno nad oedd hi ei hunan yn "hanner da," fod ei "hana'l yn pallu," fod "fel rhyw gwlwm yn ei brest," neu "ei chalon yn wan." Bryd arall byddai yn dweud wrth Mari Jones fod "ofon arni ei bod yn mynd i ga'l twtsh o'r gwynegon," a'i bod hi "weithe'n ffeilu'n lân codi un go's ar ôl y llall gen mor llipa 'rodd hi'n teimlo." Ond credai Sali nad oedd hi erioed wedi derbyn y cydymdeimlad a ddylasai oddi ar law ei chydnabod.

"Garw mor dwyllodrus yw golygon!" dywedai ar adegau wrth Mari Jones. "Drychwch ar Mrs. Morris y Gelli, 'nawr. Mae hi'n wastad yn edrych yn wannaidd, a dim ond iddi 'weyd fod ei bys bach hi'n gwynegu, dir gaton ni! fel mae pawb yn tyrru'n rownd iddi. Mae Gwladus yn dwad lawr yn unig swydd i thendo hi, a Thomas y gweinidog yno byth a hefyd, a Nat ni a phawb am y cynta' yn galw i gweld hi. Ond amdana i druan, mi gewn i farw fel anifel mewn ffos heb neb yn gofyn shwd w i, na beth sy arna'i, na ffeirad na phregethwr yn gweyd pader na bendith,—dim ond achos bod tipyn o liw coch ar 'y ngwyneb i! 'Do's neb, Mari Jones fach, ond y Bod Mawr a finne yn gw'bod faint w i'n gorffod ddiodde' bob dydd o'r flwyddyn, heb na Nat na neb, yn gneyd mwy o hidans ohona i na phe byswn i'n garreg ar yr hewl! Fel mae'r Gair yn gweyd"—terfynai gydag ochenaid "Y galon a ŵyr ei chwerwder ei hun."

Ond o'r diwedd yr oedd afiechyd na allai neb ei anwybyddu na'i ddibrisio wedi talu ymweliad â thŷ Sali, ac yr oedd yr hen wraig yn ireiddio fel chwyn ar ôl cawod o law. Pan ofynnwyd iddi gan hwn a'r llall ar ôl y cwrdd sut yr oedd Nat, gostyngai ei llais, sibrydai yng nghlust yr ymofynnydd fod Nat wedi cael ei saethu, a'i fod yn gorwedd yn ei wely gartref! ac ni wyddai hi beth a ddeuai ohono! Dilynid hyn gyda siars i beidio dweud gair wrth neb, neu ni fuasai'n gwybod beth a fuasai'n digwydd! Cyn hanner-dydd dydd Sul, yr oedd y newydd wedi tramwy fel tân gwyllt trwy'r plwyf. Nid oedd diwedd ar yr ymwelwyr i dŷ Nat yn y prynhawn;—Tomos y crydd, John y saer, Gruffudd y Coed, William y meiswn, a Jaci'r hwper, a "thyrfa fawr" meddai Nat, "na allai neb eu rhifo." Synnai Nat ar y dechrau; yna aeth i dymer ddrwg; ond ymhen ychydig daeth i deimlo cymaint o bleser a balchder â Sali ei hun yn nifer yr ymwelwyr. Yr unig beth a obeithiai Nat oedd na ddeuai Tomos Lewis, Coed Weddus, i wybod am y ddamwain; oblegid gwyddai nad arhosai yr hen ŵr yn esmwyth am eiliad heb dalu ymweliad ag ef. Tomos Lewis, dylaswn ddweud, oedd y diacon hynaf yn Salem, ac yr oedd wedi bod am ddeugain mlynedd a rhagor yn un o golofnau'r achos yno.

Ffarm fach a lle i gadw deg neu ddeuddeg o wartheg yw Coed Weddus, yn gorwedd rhwng Dolau Gwynion a'r pentref. Saif ar ael bryn teg sy'n edrych tua'r de. Y mae yn dal gwên gyntaf haul y bore, ac yn derbyn ei gynnar a'i ddiweddar wres. O glos y tŷ ceir golygfa brydferth o Ddyffryn Tywi—dyffryn mwyaf swynol Cymru, yn ôl tyb y trigolion. Bu amser pan nad oedd yr holl fryn ond rhan o gomin y plwyf, ond ar ddechrau'r ganrif fe basiwyd deddf i gau i mewn y comin, a phrynodd hen-dad-cu Tomos Lewis tua phedwar ugain cyfer o'r tir gerllaw'r pentref. Ond er mai Tomos Lewis oedd perchen gwaelod Coed Weddus, ac er nad oedd ganddo ef a Phegi ei wraig na mab na merch yn fyw, yr oedd yn eithaf tyn arnynt yn fynych i ddwyn deupen y llinyn ynghyd. Dywedai Nat fod gan Morgans y siop un amser bymtheg cant o arian ar y tir, a gwyddai pawb fod Morgans yn gofyn iws gweddol am arian. Ond yr oedd Tomos a Phegi yn bobl ddiwyd a gofalus, ac yr oedd eu hamgylchiadau wedi gwella cymaint yn y blynyddoedd diwethaf fel y dywedid fod Morgans wedi cael ei dalu ymaith yn llwyr.

Priodolai Tomos y cyfan i ddaioni Rhagluniaeth. Pan benderfynwyd ailgodi Salem, yr oedd hi'n amser cyfyng iawn ar Tomos Lewis. Blinai oherwydd na allai roddi rhagor tuag at yr achos—yr oedd hynny yn amhosibl. Ond yr oedd chwarel bach ar ei dir. Cynigiodd Tomos, gan na allai roddi aur ac arian, gymaint o gerrig ag a fyddai yn eisiau, yn rhad ac am ddim. Derbyniwyd y rhodd gyda diolchgarwch, a gwelwyd cyn bo hir na ellid cael gwell cerrig yn un lle yn yr ardal. Daeth "Cerrig Coed Weddus" yn enwog, a chan fod pentref Llangoediog gerllaw yn cynyddu'n gyflym oddi ar pan agorwyd y rheilffordd drwyddo, gwnaeth Tomos Lewis arian glew o'r chwarel.

Cymerai Tomos Lewis olwg ddifrifol iawn ar fywyd, yn ei holl agweddau. Ni welodd neb ef yn gwenu er pan yn fachgennyn, ac nid oedd dim mor atgas ganddo â'r ysmaldod hanner rhyfygus a nodweddai ymddiddanion Nat. Er ei fod yn siaradwr rhwydd a huawdl yn gyhoeddus, nemor i air a geid oddi wrtho ar achlysuron cyffredin. Yr oedd yn un o'r dirwestwyr cyntaf a mwyaf selog yn y plwyf; ac er y byddai yn tynnu ambell i fwgyn cyn mynd i'r gwely, ni welodd neb Nid ef a phib yn ei ben mewn tŷ dieithr neu ar y caeau. rhyfedd felly, gan neb oedd yn adnabod y ddau, na allai Nat ddygymod â Tomos Lewis am eiliad. Er eu bod yn gymydogion agos, nid oedd fawr o gydnabyddiaeth rhyngddynt. Yr oedd Tomos rai blynyddoedd yn hŷn na Nat, ac nid oedd Nat, er ei holl anystyriaeth, wedi colli yn llwyr ei ofn bachgennaidd o'r hen Biwritan didwyll a diwyro. Nid oedd Nat yn fodlon cyfaddef, hyd yn oed wrtho ei hun, fod ofn Tomos Lewis arno, ac, fel y gwna pobl dan y fath amgylchiadau, rhedai i eithafion haerllugrwydd er mwyn profi ei ddifrawder. Y funud y canfyddai Nat gorff talgryf Coed Weddus yn croesi trothwy'r efail, dechreuai ddefnyddio y geiriau gwylltaf. Safai Tomos Lewis yn ddifrifol ac yn fud. Nid atebai air, ond cyflwynai ei neges yn ei ddull tawel, naturiol, troai ei gefn, ac ymadawai yn ebrwydd. Dim ond ar un adeg y temtiwyd Tomos i ateb Nat yn ôl. Digwyddai Nat y tro hwnnw fod yn cylcho wheels i Dafi Jones, ac adeg go wlyb oedd hi yn wastad ar y prydiau hynny yn hanes Nat. Ar ganol y rhialtwch pwy ddeuai i mewn i'r efail ond Tomos Lewis.

"Helo, 'r hen Binacl y Deml," meddai Nat yn ei ddull gwatwarus, ar goedd yr efail i gyd, "rych chi wedi dishgyn o'r nefolion leoedd o'r diwedd i w'bod fod eishe hoelon dan eich sgidie chi? Shwd mae'r cwar gyda chi yco, e'. Mae'r creigleoedd yng Nghoed Weddus, na chyffra i, yn dwyn gwell ffrwyth na dyfnder daear! Ha! ha! Jawst, bois, mae'n rhaid i fi gymryd dosbarth yn Salem i ddangos gyment o'r Sgrythur wi'n wbod! Pwy o'dd y gŵr b'neddig hynny yn y Beibl, stopwch chi, o'dd yn gweyd, Arch i'r cerrig hyn fod yn fara? 'Stim dowt nag o'dd e'n perthyn i Tomos Lewis 'ma."

"Nathaniel," atebai Tomos, heb newid dim ar ei wedd na chodi ei lais, "mi ellwch chi 'neyd faint fynnoch chi o sbri arna i, a 'weda i 'run gair 'nôl wrthochi. 'Rych chi'n gwbod eich Beibl yn ddigon da i gofio fod y gŵr doeth yn dweyd wrtho' ni am beidio ateb y ffôl yn ôl ei ffolineb. Ond cofiwch hyn, mor wired â bod barn yn ein disgwyl ni i gyd, 'oddefa i ddim i chi na neb arall i 'neyd sbort o'r Beibl yn 'y nghlyw i."

Cywilyddiodd Nat dan y cerydd, oblegid yr oedd ei gydwybod ei hun yn ei gyhuddo, a byth oddi ar hynny bu yn ofalus o'i eiriau pan oedd gŵr Coed Weddus gerllaw. Ond er i Tomos gael y gore yn hyn, glynodd y llysenw a roddodd Nat iddo fel y gwahanglwyf wrth was y proffwyd, ac wrth yr enw "'R hen Binacl" yr adweinid yr hen ddiacon ymysg crytiau'r ardal byth ar ôl hynny.

Hawdd deall, gan hynny, nad oedd Nat yn dymuno gweled wyneb Tomos Lewis wrth erchwyn ei wely cystudd.

PENNOD IV.
NAT A'R "HEN BINACL."

YR hyn a ofnai Nat a ddigwyddodd iddo. Clywodd Tomos Lewis fod Nat wedi cael ei saethu, a chan na chredai neb yn Llanelwid fod gwellhad yn bosibl, ar ôl i ddyn gael ei saethu, penderfynodd na chollai amser, ac yn union ar ôl te dydd Sul aeth lawr i ymweled â Nat. Curodd yn dawel wrth y drws.

"Shwd ych chi, Tomos Lewis," meddai Sali, gan ddyfod i'w gyfarfod. "Dewch miwn—peidwch sefyll wrth y drws, neu 'rych chi'n siwr o ga'l annw'd, wa'th mae'r drafft yn taro ar wegil dyn man yna—

"Shwd mae Nathaniel gyda chi heddi?" gofynnai Tomos Lewis, yn eu ddull arafaidd.

"O mae e yn gwella gan bwyll," atebai Sali. "Mae Arthur Jones—wi'n ffeilu'n deg â'i alw e'n Doctor Jones—yn i dendo fe, a mae e'n gweyd i fod e ma's o ddanjer erbyn hyn. Ond, wir, mae e wedi ca'l pwl caled, druan; a mae e wedi bod yn towlu gyment amboitu fel i fi ffaelu cael llygadyn o gysgu os dwy noswaith! Ond mi gewch chi weld e drostoch eich hunan!"

A gyda'r gair agorodd Sali ddrws y pen ucha'.

"Nat," meddai hi. "Dyma Tomos Lewis wedi dwad i dy weld di."

Nid oedd yr ystafell yn debyg iawn i ystafell dyn claf. Yr oedd Nat wedi bod yn tynnu mwgyn gyda phob ymwelwr, ac yr oedd yn "didor greu ei dewdarth" ar y gwely pan ddaeth Tomos Lewis i mewn. Eisteddai Arthur Jones wrth erchwyn y gwely, ac nid oedd y wên a lonnai ei wyneb wrth wrando ar ystorïau Nat wedi cilio.

"Mae'n dda gen i gl'wed," meddai Tomos Lewis, ar ôl edrych yn syn ar Nat, "eich bod chi'n gwella'n raddol. Shwd ych chi, Arthur Jones? Mae yn gysur mowr fod gennoch chi ddoctor da yma."

"Eitha' gwir," atebai Nat, "mae'r doctor wedi g'neyd ei waith yn gampus! Mae wedi tynnu deg shotsen arall o 'ngho's i. Mae'n beth mowr meddwl fod gyda ni eto ffisigwr yn Israel, Tomos Lewis."

Clywai Arthur sŵn brwydr yn nesáu.

"Nathaniel," meddai Tomos Lewis, ""dwy i ddim yn lico'ch barnu chi'n galed pan ych chi'n diodde' fel hyn, ond y mae'n rhaid i fi ddweyd wrthoch chi mod i wedi bod yn gobeitho y bydde cystudd yn eich gneyd i feddwl yn fwy seriws am bethe."

"Yn seriws?" atebai Nat. "Odych chi'n meddwl mai dim ond wrth dynnu gwep hir y gall dyn fod yn seriws? Nid bod yn seriws yw'r gamp ar eich cefen yn y gwely a chano'dd o shots yn rholian dwmbwr-dambar drwy'ch corpws chi, ond bod yn ysgon eich meddwl, glei."

"Ddymunwn i ddim i chi beido bod fel hynny, Nathaniel, ond odych chi ddim yn meddwl, 'nawr, mai cennad yw'r cystudd hyn i'ch rhybuddio chi?" meddai Tomos Lewis yn dyner.

"Wel, falle taw e, wir," atebai Nat ar ôl moment o ystyriaeth. "Ond os taw cenhadon oedd shots Twm Crydd, mae'n rhaid gweyd i bod nhw'n rhedegydd buan."

"I'ch rhybuddio chi, 'rown i'n feddwl," aeth Tomos Lewis ymlaen i ddweud yn araf, "fod adeg bwysig i'ch cyfarfod chi jyst yn union."

"Do'dd dim ishe'r shots i weyd hynny," cellweiriai Nat, "mi wn yn dda pryd mae dwarnod rhent yn dwad rownd."

"Nathaniel," atebai Tomos, "'rych chi'n gwbod yn dda beth w i'n feddwl. Da chi, 'chymrwch chi ddim o'r wers atoch 'nawr? Beth ta chi wedi cwrdd â'ch ange pwy noswaith yn yr allt? Fe fydde'n

"Marw yn yr allt!" torrai Nat i mewn. "Jaist, 'nawr 'rwy'n cofio! Jist yn y man hynny cespwyd gafael ar gorff 'rhen Falen Six Props 'slawer dydd."

Teimlai Arthur yn anesmwyth iawn trwy gydol yr amser, ond ni wyddai y ffordd i dorri ar draws yr ymddiddan. Credai y gwelai ffordd o'r diwedd i droi'r siarad at ryw bwnc llai peryglus, a gofynnodd:

"Malen Six Props, Nat? Odw i ddim yn cofio amdani hi, odw i?"

"O nag ych," atebai Nat. "Mae blynydde ymbeidus oddi ar pan fuodd hi farw, a gyda'r hen Dwmi'r Gelynnen gynt y clywes i'r hanes."

"A mi fuodd hi farw yng ngho'd y Parc?" gofynnai Arthur. "Do, mi cawd i yno'n farw reng ryw fore dydd Nadolig ddeugen o flynydde'n ôl," ebe Nat. "Ond i fi ga'l gweyd y stori yn daliedd wrthoch chi, fe ddylswn ddweyd mai mewn tŷ bach ar bwys y pentre 'ro'dd hi'n byw. Parc-y-Beili o'dd enw reit y tŷ, ond 'ro'dd pobol yn ei alw e'n Six Props, am mai dim ond hen goedach o'dd yn i gadw e fyny. Hen feniw fach fitw, a'i chefen yn grwca fel bwa sa'th, o'dd Malen. 'Ro'dd hi'n ca'l rhyw gyment o wrth y plwyf, ac yn whilo'i thoc yma a thraw ar hyd yr ardal. Ac fe fydde'n fynych iawn yn yr allt yn crynhoi co'd a'u llusgo nhw i Six Props. Ond ryw nos cyn y Nadolig fe'i dalw'd hi gan y rhew yn yr allt, a fe gas haint neu rywbeth, a bore dranno'th mi cespwd hi gen weision y Dole yn gorff marw!"

"Dier mi," meddai Arthur, er mwyn gwneud rhywbeth i gadw'r heddwch, "mae'n syndod gyment sydd wedi digwydd mewn un plwydd ta ni ddim ond gwbod ei hanes i gyd.

"Wedi digwydd! Ody, mae e'n syndod," ebe Nat. "Ond nid dyna ddiwedd y stori. Fe a'th y gweision i moyn help, ag 'mhen tipyn fe esbwd â'r corff i Six Props. Halodd Morgan Jones, eich tad-cu-fe o'dd y guardian ar y pryd, wyddoch—i moyn tad John y Sa'r i neyd coffin iddi, a mae John yn gweyd na chas ei dad ario'd shwd waith i 'neyd, gynt na chwedyn. Chi'n gweld, 'ro'dd Malen yn weddol grwca pan o'dd hi'n fyw-bron yn wastad fel ta hi yn i chwrcwt—ond 'ro'dd hi wedi rhewi fynydd ar ôl marw, nes o'dd hi fel pellen a'i phen yn cwrdd â'i thra'd."

'Yn wir i chi,' mynte Dafydd, tad John, pan gwelws e hi, "'do's dim iws mesur rhywbeth fel hyn. Mae'n llawer gwell i dodi hi mewn sach neu ryw hen goffor. 'Do's dim posib gneyd coffin i tharo hi.'

'Ond,' mynte'ch tad-cu, 'alle ni ddim i mystyn hi ar y ford 'ma a dodi pwyse ar i phen hi, i chadw hi'n gwmws?'

'Wel, mi allwn ni dreio, ta beth,' mynte tad John, a dyna lle buon nhw yn mystyn i heilodau hi, a dodi un hanner can pownd ar ei brest hi, a phob o un ar ei dwy thro'd hi. Ond 'ro'dd dim posib cadw'r hen Falen yn i hyd. Erbyn bod eich tad-cu yn gellwng i phen hi'n rhydd, dyna lle byse hi'n codi ar ei heiste'; ac erbyn i Dafydd ellwng ei thra'd hi'n rhydd, dyna hi'n cico'i thra'd yn yr awyr, fel gwelwch chi ebol tairblwydd."

"Nathaniel," dywedai Tomos Lewis yn ei lais cryf, a chwmwl ar ei wyneb, "allwch chi ddim siarad am gorff marw ond gyda gwamalrwydd rhyfygus?"

Ni wyddai Arthur beth i wneud yn iawn rhwng y ddau. Taflodd olwg ymbilgar ar Nat. Ond aeth y gof ymlaen â'i stori yn ei ddull mwyaf diniwed.

"Dw i ddim ond gweyd calon y gwir wrthoch chi," meddai, "ac os bosib eich bod chi'n credu y bydde'n well peidio gweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, os gwedodd y jystysed yn Llangoediog. Ond dyna'r hyn own i'n weyd," ychwanegai Nat, gan droi at Arthur, "ro'dd eich tad-cu a Dafi'r Sa'r yn ffeilu deall beth i neyd, ac o'r diwedd mynte Dafi:

'Beth ta ni'n clymu'r corff wrth y ford, a me gymhwysith ei hunan wedyn falle?'

'Eitha gwir,' mynte'ch tad-cu, a fel 'ny gnesbwd. 'Nawr, chi'n gweld, 'rodd yn arferiad yn yr hen amser i wylad y corff, a'r nosweth hynny 'rodd Dafi'r Sa'r a Twmi'r Gelynnen—fe o'dd ail was y Dole y flwyddyn hynny, mi ddylswn weud—i fod i wylad gyda'i gilydd. Amser Nadolig o'dd hi, ag 'ro'dd hi'n oer dychrynllyd. 'Ro'dd yr hen Falen, druan, wedi crynhoi digon o go'd tân erbyn y gaea', ac wedi dodi nhw yn y pen isha. A dyna lle'r oedd Dafi a Twmi yn eiste i lawr wrth y tân co'd, a chorff Malen wedi ei glymu wrth eu hochor nhw. 'Mhen tipyn 'roedd y tân yn mynd yn ishel, a dyma Dafi'n gweyd wrth Twmi:

"Twmi,' mynte fe, 'cer i'r pen isha, da machgen i, a dere a choeled o go'd yma.'

Wrth fod Twmi'n dwad 'n ôl, 'Dir!' mynte Dafi wrtho fe, 'beth ta'r hen Falen yn dy weld di, Twm, yn llosgi ei cho'd hi fel hyn! Mae e'n ddigon i neyd i'r hen lodes ddwad 'nôl o'r ochor draw.'

'Paid â siarad fel 'na,' mynte Twmi, wa'th un ofnus iawn o'dd Twmi erioed.

'Wel, cer i moyn coeled arall,' mynte Dafi, 'a mi 'newn y tro wedyn dros y nos,' a dyma Twmi ma's i moyn rhagor. Gyda'i fod e ma's dyma Dafi dan y ford, a'r fyned y da'th Twmi nôl a llond ei gôl o go'd, dyma Dafi yn torri y rhaff o'dd yn mynd yn rownd i frest yr hen Falen, a dyma hi'n sbonco ar ei heiste gyda fod Twmi'n pasio heibio'r ford.'

'Y Mowredd annwl!' mynte Twmi, a lawr cas y goeled go'd fynd, a ma's rhedodd Twmi, ac i'r Dole ag e nerth tra'd i weyd fod 'rhen Falen wedi codi o farw'n fyw. A chyn i fod e wedi dibennu i stori dyma Dafi yno a'i wynt yn 'i law, wa'th mi gas ynte ofon fod yn Six Props wrtho'i hunan a'r hen Falen fel'ny ar i heiste!'

Os oedd Tomos Lewis yn ddyn difrifol, yr oedd hefyd yn ŵr call, a gwelai na allai wneud un daioni wrth siarad rhagor â Nat yn y dymer yr oedd ynddi. Felly, ar ôl ychydig o eiriau caredig yn gobeithio y byddai Nat yn dal i wella, a gofyn yn gynnes i Arthur ynghylch ei fywyd a'i ragolygon yn Llundain, ymaflodd yn ei hat ac aeth allan o'r ystafell.

"'Rych chi ddim yn mynd, Tomos Lewis?" gofynnai Sali wrth y drws. "Wel, diolch yn fawr i chi am alw."

"Ha, Ha!" chwarddai Nat ar ei gefn yn y gwely, "rown i'n meddwl y bydde stori Malen yn rhy gryf i stymog yr Hen Binacl, wa'th 'ro'dd hi'n rhyw berthynas i dad e, ac 'ro'dd pobol yn synnu iddo fe'i gellwng hi fynd ar y plwydd. Ond, na chyffra i byth o'r fan yma, 'rown i'n dishgwl iddo fe bob myned i ofyn os cese fe ddarllen a gweddïo gyda fi."

PENNOD V.
MRS. MORRIS Y GELLI.

PE bai rhywun yn gofyn, "Pwy yw'r person mwyaf parchus yn Llanelwid?" tebyg y byddai mwy na hanner y plwyfolion yn ateb, "Mrs. Morris y Gelli." Yn un peth, yr oedd yn gyfoethog, yn ôl dull Llanelwid o gyfrif cyfoeth. Hi oedd perchen y Gelli oddi ar farwolaeth ei gŵr ryw ugain mlynedd yn ôl, ac er nad oedd maint y ffarm yn fawr, eto yr oedd yn rhydd oddi wrth bob dyled. Nid oedd gwell stoc o anifeiliaid yn y sir, a synnai ffermwyr y plwyf wrth weled y fath wedd oedd ar wartheg y Gelli bob amser. Dywedid, ymhellach, fod gan Mrs. Morris arian lawer yn dwyn iws; ac ati hi neu at Morgans y Siop yr âi pawb pan am fenthycia arian i brynu tir neu i dalu'r rhent. Nid oedd byth heb "wy addo" yn y banc, ac nid oedd gan neb ond hi a'r offeiriad a Morgans y Siop y fath beth â cheque book. Mynych, gan hynny, yr oedd ar ei llaw i wneud cymwynas â'i chymydogion,. hyd yn oed y rhai mwyaf cefnog ohonynt. Edrychai Nat arni fel un oedd ond ychydig yn is na gwraig y Plas, ac ymddangosai Anghydffurfiaeth yn respectable i Mr. Gwyn, yr offeiriad, pan gofiai am Mrs. Morris. Pan fyddai Dafi Jones yn ymofyn anfon arian i dalu am ysgol Arthur ei fab, drwy cheque Mrs. Morris y byddai yn arfer gwneud hynny. Sibrydid bod ganddi arian yn y rheilffordd; beth bynnag, amlwg oedd i bawb fod Driscoll y stesion yn myned allan o'i ffordd i fod yn daliaidd iddi, pan fyddai yn talu un o'i hymweliadau anfynych â'r dref. Faint bynnag oedd ei chyfoeth, gwyddai pawb mai hi a gafodd y ben-siâr o arian ei hewythr, yr hen Ddoctor Bowen, yr hwn a fu farw yn union wedi dychwelyd i Lanelwid ar ôl treulio ei oes ar y môr fel meddyg yn y llynges.

Mrs. Morris oedd un o golofnau'r achos yn Salem. Cyfrannai ddeg punt y flwyddyn tuag at y weinidogaeth—cymaint arall â Morgans y Siop. Tanysgrifiai hefyd yn haelionus at bob achos da,—at y Feibl Gymdeithas, y Genhadaeth, a'r Colegau enwadol, ac at dreuliau'r capel. Yn adroddiad blynyddol y colegau, ei henw hi oedd y cyntaf dan enw Llanelwid. Rhywbeth fel hyn y rhedai'r adroddiad am flynyddoedd:—

£ s c
Mrs. Morris, Gelli 0 10 0
Mr. Morgans, Cambrian House 0 5 0
Mr. D. Jones, Dolau 0 2 6
Mr. T. Lewis, Coed Weddus 0 2 6
Mr. Morgan, Plas Newydd 0 2 6
Rev. W. Thomas 0 3 0
Small Sums 1 13 2
TOTAL 2 18 8

Nid yn Gymraeg, os gwelwch fod yn dda! Mae aelodau Pwyllgor y Coleg wedi bod yn gwrthdystio yn huawdl a phenderfynol yn erbyn penodiad swyddogion anghyfiaith yng Nghymru, yn enwedig os mai ar Lywodraeth Dorïaidd y byddai'r bai, ond Saesneg yw iaith Adroddiad y Coleg bob blwyddyn. Cymraeg ydyw'r iaith a siaredir yn y Pwyllgorau, Cymraeg a bregethir gan y myfyrwyr; yn Gymraeg y gwneir yr apêl wrth gasglu; oddi wrth Gymry—y rhan fwyaf yn Gymry unieithog—y ceir y tanysgrifiadau; ond yn Saesneg, bid siwr, y mae'n rhaid rhoddi'r Adroddiad swyddogol! Nid oes neb yn Salem, ond Mr. Thomas y gweinidog a Morgans y Siop, yn darllen yr Adroddiad oherwydd hynny; ond edrychir ar enwau y tanysgrifwyr, neu clustfeinir pan eu darllenir allan ar goedd gan y myfyriwr pan ar ei daith gasglu, gyda diddordeb enfawr; oblegid yr hyn yw'r "Almanac de Gotha" i fawrion y Cyfandir, a "Debrett" i uchelwyr y Saeson, hynny yw'r Adroddiad i aelodau Salem.

Ond nid trwy gyfrannu arian yn unig y mae Mrs. Morris yn cynorthwyo yr achos yn Llanelwid. Nid oes nemor i gwrdd gweddi na seiet, na chwrdd parotoad wedi ei gynnal ers blynyddoedd hebddi hi. Ond pan fydd cwrdd cwarter neu gymanfa, neu gwrdd te'r Ysgol Sul neu gymanfa ganu ar waith y gwelir Mrs. Morris yn ei gogoniant. "Fe wnaiff Mrs. Morris a'r gwragedd caredig eraill, feallai, gymeryd at ddarparu lluniaeth," dyna gân Mr. Thomas y gweinidog yn wastad pan awgrymir yn y cwrdd eglwys y dylid rhoddi gwahoddiad i'r cylch enwadol i gynnal gŵyl yn Llanelwid. Ac ni phallodd Mrs. Morris a'r "gwragedd caredig eraill" erioed. Yn wir, un o brif olygfeydd Llanelwid yw Mrs. Morris—a chap lasys ar ei phen a siôl fach ar ei hysgwyddau—yn gwneud te pan fo uchel ŵyl yn Salem. Ati hi yr aiff pob pregethwr mawr a phob diacon blaenllaw i gael te, ac ni ddengys dim safle gŵr yn yr enwad yn well na ph'un ai ar ford Mrs. Morris neu ford "un o'r gwragedd caredig eraill" y rhoddir ef i yfed ei de.

Mae gan bawb yn Llanelwid ffydd fawr ym marn Mrs. Morris ar bob pwnc cymdeithasol, canys oni chafodd ei chodi ond am mewn ysgol ferched yn Abertawe? Gwir na fu hi yno ddwy flynedd, ac ni chafodd fawr o ysgol mewn un lle arall. Ond ni fu un wraig arall o Lanelwid mewn boarding school yn Abertawe. Cafodd Mari Jones, mae'n wir, ddau gwarter gaeaf yn ysgol Llangoediog; ond gŵyr pawb na ellir cymharu ysgol Llangoediog ag ysgol Abertawe. Erbyn hyn, y mae merched pob ffarm yn y plwyf yn cael eu danfon "bant i'r ysgol," ac y mae merched Henri Plas Newydd wedi dechrau chwarae'r piano a'r harmoniym! Mae rhai o'r bobl ieuanc yn barod i amau dysgeidiaeth Mrs. Morris; ond saif ffydd yr hen genhedlaeth yn ddiysgog. Gall Mrs. Morris ysgrifennu yn well nag un wraig yn y plwyf, ac y mae ei llythrennau mor bigfain fel na all ond ysgolorion a rhai sydd yn gyfarwydd â gwaith llaw ddeall ei hysgrifen. Y mae, hefyd, yn ôl tyb preswylwyr yr ardal, yn hynod hyddysg yn yr iaith fain. Y mae ganddi Feibl Saesneg yn ei sedd yn y tŷ cwrdd, a phan goda'r pregethwr ei destun, try Mrs. Morris ddail ei Beibl Saesneg, a darllena'r adnod yn yr iaith honno. Derbynia bob wythnos gylchgrawn Saesneg, yn ogystal â phapur lleol a gyhoeddir yn Saesneg. Ni chlywyd hi'n siarad Saesneg erioed hyd yn oed pan ei cyferchir yn Saesneg gan un o blant Salem ar ymweliad o Lundain; ond defnyddia eiriau Saesneg yn fynych wrth siarad Cymraeg. Nid yw yn gwneud hynny yn anghelfydd; nid yw yn llusgo gair Saesneg i'r ymadrodd megis gerfydd ei glustiau; ond dywed ef yn naturiol a di- gyffro, gan gymryd yn ganiataol fod pawb yn ei ddeall, fel y gwna ambell ysgrifennydd Saesneg fenthycia gair o'r Ffrangeg neu frawddeg o'r Lladin. Mewn gair, menyw genteel yw Mrs. Morris, neu, fel y dywed Leisa'r forwyn, "meniw steilus ambeidus yw mystres."

Edrych holl blant y plwyf arni gyda pharchedig ofn. Nid am ei bod yn gas nac yn sarrug wrth neb. Ni welodd un o aelodau Salem gwmwl ar ei hwyneb, ac ni chlywodd hyd yn oed gwasanaethddynion y Gelli hi'n gwneud dim mwy na cheintach mewn llais cwynfanus. Ond y mae rhyw urddasolrwydd disglair yn ei hymddangosiad na ellir ei ddisgrifio. Y mae yn sicr fod y pattens a wisga ar ddydd Sul gwlyb, yn ychwanegu at y parch a deimlir tuag ati. Nid oes pattens gan neb arall yn Salem. Y mae Mrs. Morris yn dal wrth natur, ond pan fydd y pattens ar ei thraed, y mae o'i hysgwyddau yn uwch na'i chymdeithion. Tyn y pattens ymaith yn y lobi; a cherdd hithau i mewn yn araf i'w sedd ym mhen pella'r capel mor dawel fel na chlywir ond trwst ei gŵn sidan du yn clecian i fyny'r ale. Ar ôl cyrraedd ei sêt, nid eistedd Mrs. Morris i lawr yn union. Ei harfer yw cymhwyso'r cwshin coch yn y sêt yn gyntaf—yr unig un yn Salem, oblegid y mae'r setau eraill i gyd mor noeth â chreigiau Tŷ Ddewi. Bu Tomos Lewis yn teimlo'n anfodlon i'r cwshin am flynyddoedd. Ar un adeg cafodd Mr. Thomas waith mawr i atal yr hen frawd rhag siarad ynghylch y peth yn y seiet; ond, erbyn hyn mae hyd yn oed Tomos Lewis wedi cynefino â'r cwshin. Ar ôl eistedd i lawr, plyga Mrs. Morris ei phen am funud neu ddwy cyn tynnu'r allwedd fach o'i llogell i ddatgloi y bocs lle y ceidw ei llyfrau hymnau a'i Beibl. Yna gesyd ei thraed ar droedfainc fechan sydd ar lawr y sêt, egyr ei Beibl, neu ei llyfr hymnau, a disgwylia yn dawel am ddyfodiad y pregethwr.

Ni chlywodd neb mo Mrs. Morris yn canu yn y cwrdd erioed, er ei bod yn hoff o glywed canu. Hi yw'r gyntaf bob amser ar ei thraed ar ôl i'r pregethwr roddi'r gair maes i ganu. Cwyd cyn i'r pregethwr orffen darllen; tra na fyddai'r lleill yn codi cyn i'r blaenor canu ddechrau'r don. Edrychai'r hen bobl ar hyn fel peth gweddaidd yn Mrs. Morris, ond ni wnânt geisio ei hefelychu. Mae rhai o'r merched ieuanc yn y blynyddoedd diwethaf wedi dechrau dilyn ei hesiampl, oherwydd, meddir, eu bod o'r farn ei fod yn fwy steilus na chodi pan fo'r llinell gyntaf wedi ei hanner canu. Ond er bod Mrs. Morris yn gynnar ar ei thraed, nid yw byth yn ymuno yn y gân. Mae pawb yn cymryd hyn fel peth eithaf naturiol, ac, yn wir, y mae'n dra thebyg nad oes neb ond Mr. Thomas wedi sylwi ar hynny. Beth ydyw'r rheswm am ei hymddygiad ni wn, oblegid, ar adegau, gall Mrs. Morris ganu yn gerddgar a soniarus. Yr esboniad a rydd Gwladus yw i Mrs. Morris gael ei dysgu yn yr ysgol yn Abertawe, na ddylai pobl barchus ganu yn y cysegr,—ac, wrth gwrs, nid yw'r bobl barchus yn canu yn y capelau a'r eglwysi Saesneg. Mae'n well ganddynt dalu côr i ganu yn eu lle!

Ni fydd Mrs. Morris byth yn brysio allan o'r capel yn union ar derfyn y gwasanaeth. Eistedd yn ei sedd hyd nes y daw Mr. Thomas ac eraill ati i siglo llaw â hi. Hi yw'r ddiwethaf, bron, i ymadael o'r capel. Pan gyrhaedda'r lobi, caiff y pattens yn union yn y man y gadawodd hwynt ar ddechrau'r oedfa, oblegid y mae pawb ar eu heithaf yn cilio draw oddi wrth y pattens, fel pe byddent yn rhywbeth gwaharddedig.

Ond er cymaint oedd y parch a enillodd Mrs. Morris, ac er esmwythed ei byd, ni ellid ei galw yn hapus. Bywyd unig iawn oedd ei bywyd; nid oedd ganddi gyfeillion mynwesol; ac nid oedd ganddi berthynas yn y plwyf. Bob a Gwladus oedd ei pherthynasau agosaf, ac nid oeddynt hwy yn ymweled â hi yn fynych. Er mor dawel oedd Mrs. Morris, yn eigion ei chalon yr oedd yn dyheu am rywun i'w charu a chydymdeimlo â hi, rhywun y gallai ymddiried ei chyfrinach iddo. Yr oedd Mrs. Morris, drwy ei hoes, wedi amcanu cael ei pharchu gan y gymdogaeth; yr oedd wedi cadw gormod iddi ei hun i ennill serch a hoffter ei chyd-blwyfolion. Ac fel yr heneiddiai teimlai yn fwyfwy y gwacter yn ei chalon, a hiraethai am ddyfodiad Gwladus i'r Gelli gyda dwyster ac angerddoldeb na fyddai neb yn disgwyl ynddi hi.

Mor helbulus a thrafferthus yw bywyd dyn! Mor siomedig, yn fynych, y teimla'r mwyaf llwyddiannus ar ei ddiwedd! Pan fo cysgodion yr hwyr wedi disgyn, ac y cymer gŵr hamdden i fyfyrio ar ystyr bywyd, a'i gymharu â'r gau-amcanion a fu efe yn ymestyn ar eu hôl yn nyddiau ei nerth a'i gryfder, mor aml yr esgyn gwaedd y Pregethwr i'r nefoedd fry, "Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl!" Wele un wedi ennill cyfoeth, arall wedi ennill anrhydedd, arall eto wedi ennill dysg,—ond O! mor siomedig y maent pan welant, yn rhy ddiweddar, iddynt ddibrisio yr hyn sydd werthfawrocach na golud, na chlod, na diwylliant—sef y Cariad ni ddyffydd yn angau, ond a erys yn ieuanc yn oes oesoedd.

PENNOD VI.
DISGWYL GWLADUS.

ŷ ffarm hen-ffasiwn, a "chartref" wedi ei gerfio ar bob carreg ynddo, oedd y Gelli. Yr oedd yn ddiarhebol drwy'r ardal am ei lendid. Yr oedd fflagiau gleision y gegin, a llawr morter y neuadd, bob amser mor lân "fel y gallech i llïo nhw," meddai Sali Nat. Ond yr oedd yn amlwg ddigon nos Sadwrn cyn Nadolig fod Mrs. Morris yn disgwyl rhywun dieithr. Yr oedd llinellau gwynion cywrain wedi eu torri â sialc ar garreg lwyd yr aelwyd a'r cerrig gleision gerllaw'r drws. Yr oedd y celfi, y cwpwrdd cornel, a'r seld, a'r wedder-glas, a'r warming-pan bres yn disgleirio. Yr oedd y crân mawr uwchben y tân wedi ei flac-ledo fel y gallech weld eich llun ynddo. Yr oedd y canwyllarnau melynion ar y fantell fawr yn edrych fel pe baent wedi cael eu gwneud o aur. Yr oedd Leisa wedi gwyngalchu dan y grat, a dodi cot newydd o gôl-tar ar y ffwrn. Yr oedd tân mawr yn y grat, a'i ben yn wyn fel yr eira gan belau wedi eu gwyngalchu, a gwasgai fflam las allan, 'nawr ac yn y man, rhwng rhyw gilfach yn y pelau, ac ar ôl dawnsio am eiliad ar ben y copa gwyn neidiai o'r golwg i dywyllwch y simnai! Ar un pentan haearn gloyw chwyrnai tegil yn ei gwsg, ac ar y llall yr oedd y tebot yn twymo ei ochr wrth y tân.

Yn y pen uchaf o'r neuadd yr oedd drws yn agored i'r parlwr gorau. Yno yr oedd tân siriol wedi ei gynnau, a dwy gadair freichiau esmwyth wedi eu tynnu un bob ochr iddo. Nid oedd dim hen na chyffredin yn cael lle yn yr ystafell hon—prif addurn a gogoniant y Gelli. Yr oedd grat bach isel wedi cymryd lle yr hen rat mawr, lle gellid cynnau tân coed pe bai galw am hynny. Yr oedd y pocer, a'r tongs, a'r shofel o waith cywrain tad Nat y gof wedi eu halltudio i'r neuadd, a'u lle wedi eu cymryd gan haearn mwy rhodresgar a brynwyd gan Mrs. Morris ryw ddydd marchnad yn Abertawe. Yr oedd carped trwchus ar y llawr, ac yn lle yr hen ford dderi gwelid bord gron fahogani yng nghanol yr ystafell. Ar hon yr oedd lliain gwyrdd, ac ar hwnnw yr oedd mydylau bach o lyfrau Saesneg a Chymraeg, wedi eu trefnu wrth rif a mesur, fel na fyddai un mwdwl yn uwch na'r llall, na mwy na llai na throedfedd yn gwahanu un oddi wrth y llall. Ymhlith y llyfrau yr oedd Llyfr yr Hen Ficer, Taith y Pererin, Watts On the Mind, Baxter's Saints' Rest, a gweithiau defosiynol eraill. Ar ganol y ford gorweddai mat blewog, ac ar hwnnw album a llyfr hymnau. Yn erbyn y mur gogyfer â'r ffenestr yr oedd soffa fawr wedi ei gosod; ac wrth ei thraed sheffinier, hanner o wydr a hanner o fahogani. Ond yr oedd un hen ddodrefnyn heb ei symud. Mewn cornel tywyll, wedi hanner ei guddio, safai'r cwpwrdd tridarn, a fu gynt yn destun ymffrost a llawenydd i genedlaethau o hynafiaid Mrs. Morris. Ni ellid meddwl am ddim mwy anghydweddol â'r gwychder a ffynnai ymhob rhan arall o'r ystafell—fel pe bai un o'r hen Ddiwygwyr yn ei got lwyd, yn dyfod yn ôl i dreio codi hwyl ymysg crefyddwyr parchus yr oes hon!

Crogai darluniau ar y mur—darlun o'r Mab Afradlon yn cael ei roesawu adref, o'r Swper Diwethaf, o Rowlands Llangeitho, a Dr. Rees Abertawe,—y ddau gyntaf mewn lliwiau coch a glas a gwyrdd, a'r ddau olaf a fframiau euraid yn eu cylch. Yr oedd pob stôl wedi ei gwneud o fahogani, ac yr oedd antimacasar ar gefn bob stôl, a dau, un ar bob pen, ar y soffa. Ni ddylid anghofio, chwaith, y gwydrau amryliw ar y sheffinier, ac yn ddiwethaf oll, rhaid cofnodi fod papur euraid yn gorchuddio'r mur, y cyntaf a welwyd erioed yn Llanelwid.

Anfynych iawn y caffai neb weled gogoniant y parlwr. Ni wneid defnydd o'r ystafell ond ar achlysur ymweliad pregethwr mawr, neu Bob a Gwladus. Nid âi'r morynion iddo heb dynnu eu hesgidiau oddi am eu traed, a phan ddeuai câr neu gyfaill i ymweled â hwy, ystyrid ef yn fraint arbennig gael cipolwg ar y parlwr. Caffai gwychder yr ystafell effaith hynod ar Leisa'r llaethwraig,—ni allai hi ond sisial yn isel pan fyddai yno, ac yr oedd ei hymarweddiad yn y parlwr yn llawer mwy defosiynol nag oedd yn y capel. Credai Mrs. Morris fod y chwaeth mwyaf dichlyn wedi ei arfer wrth osod y celfi a'r pethau yn eu lle; ac nid oedd dim a'i synnai yn fwy na gweled fod Gwladus yn fwy hoff o'r neuadd—lle'r arhosai hen gelfi deri y Gelli—nac o'r parlwr gorwych yr oedd Mrs. Morris wedi gwario gymaint o arian a thrafferth arno.

Ond er bod tân yn y parlwr, eisteddai Mrs. Morris y nos Sadwrn hon wrth dân y neuadd, yn tosto bara.

"Nawr, Leisa, gwnewch haste," meddai mewn llais cwynfanus (oblegid mae'n rhaid cyfaddef fod Mrs. Morris yn hoff o geintach). "Beth ych chi'n 'neyd yr holl amser? 'Dwn i beth sy ar y merched 'nawr! Pwy cyd fyddwch chi cyn dwad?"

"Rwy'n dwad yn y fyned, mystres fach," atebai llais cryg Leisa oddi ar y llofft. "Rwy' jist bod yn barod. Fe ddwa i lawr man ceia i'n ffroc."

"Wel, gwnewch haste i ddwad," dywedai Mrs. Morris, "neu mae Gwladus yn siwr o ddwad a'n ca'l ni yn sang-di-fang i gyd."

Cyn pen ychydig gellid clywed Leisa yn dod lawr dros y grisiau, ac yr oedd sŵn ei thraed fel taranau yn cyrraedd Mrs. Morris yn y gegin orau.

"Da chi, Leisa fach," ceintachai Mrs. Morris, "peidwch â chadw cymaint o sŵn! 'Rych chi'n ddigon i fyddaru dyn, a 'dyw 'mhen i ddim yn agos da."

"Dewch chi, mystres fach," meddai Leisa, fel pe yn siarad â phlentyn, "fe wna i ddisgled o de i chi cyn daw Miss Bowen, ac mi wellith eich pen chi wedyn."

Nid oedd yn anhawdd canfod fod Mrs. Morris yn tyneru dan y driniaeth.

"O na," meddai, "fydd hi ddim yn hir 'nawr, a fydde fe ddim yn dryched yn daliedd tawn i'n dechre hebddi hi."

Erbyn hyn yr oedd Leisa yn brysur wrthi yn hala menyn ar y tost yr oedd Mrs. Morris wedi baratoi.

Ar ôl gwylio Leisa am rai munudau yn gorffen ei gwaith, a chuddio'r mwdwl tost dan fasn a'i ddodi i dwymo ar stand fach gopor o flaen y tân, meddai Mrs. Morris—

"Mae'n well i chi gynnau canhwylle heno, Leisa. Ma'r lamp a rhywbeth ma's o le arni."

"O'r gore," ebe Leisa, "ble ca i ganhwylle? 'Dwy' ddim yn meddwl eich bod chi wedi gadael rhai ma's."

"Beth yn enw dyn ych chi'n neyd â'r holl ganhwylle?" gofynnai Mrs. Morris. "Weles i ario'd neb fel y chi am ddifa canhwylle! Dim ond dydd Mercher dwetha y rhois i dair cannwyll i chi! 'Rych chi'n ddigon i ddistrywa dyn fel hyn, ag odych!"

"Wel, mystres," atebai Leisa, "dwy ddim yn credu y gallwch chi weyd y mod i'n wasto canhwylle. Mi gas Tom y waginer un o'r canhwylle nos Fercher, a John y cowman un arall neithiwr i'r lantarn, ag 'rych chi'n gwbod am y llall i fi i hiwso hi jist i gyd nos Iau i gwyro'r sane.

Gwyddai Mrs. Morris y ffordd i gilio ar ôl ei gorchfygu. Estynnodd gwlwm o allweddau i Leisa, gan ddweud:

"Yn y cupboard isha ma' nhw. Mae'r un peth i chi dynnu whech cannwyll ma's 'nawr tra bo chi yn y man, ond cofiwch nag ych chi ddim i ga'l rhagor hyd genol yr wthnos! A mae dwy o'r moulds yna hefyd rhwng y candle-box a'r wal. Dodwch rheiny yn y canwyllerni pres. Mi gynta y bydd rhaid dodi tipyn o bapur yn rownd iddi nhw,—fe gewch bapur yn nrâr bach y seld."

Ar ôl cryn drafferth-oblegid yr oedd Leisa yn well yn y llaethdy a'r beudy nag yn y neuadd a'r parlwr—cafwyd pethau at eu gilydd, a dyma Leisa yn ceisio cynnau'r gannwyll drwy wthio ei phen i'r tân.

"Leisa! los,' ebe Mrs. Morris yn gyffrous, "beth ych chi'n neyd? Dyna fel mae'n nghanhwylle i'n cael eu difa drwy ga'l eu saco i'r tân fel yna! Cymrwch dipyn o bapur, ferch, a chynnwch hi â hwnnw."

Ar ôl cynnau y ddwy gannwyll a'u gosod nhw ar y ford, gofynnai Leisa:

"Pwy lestri fynnwch chi, mystres?"

Yr oedd gan Mrs. Morris ddau set o "lestri gorau," heblaw ei "llestri at iws." Y llestri gorau i gyd oedd y rhai a gafodd fel rhan o'i "stafell" pan briododd, a'r llestri ail-orau oedd y rhai a gafodd ar ôl ei mam-gu.

"O, mae'n well i chi ddwad â'r llestri ail-orau," meddai, ar ôl ychydig o betruster.

Dim ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn y bodlonai Mrs. Morris i wneud defnydd o'r llestri gorau, rhag ofn iddynt gael eu torri wrth eu golchi neu eu dodi i gadw. Buasai yn ddigon hawdd cael llestri o'r un batrwn, pe bai anffawd yn digwydd; ond ni wnâi hyn i Mrs. Morris feddwl yn llai amdanynt. Ond am y llestri "ail-orau," ni ellid cael eu bath yn awr am arian yn y byd. Mae pob dysgl a saser a chwpan wedi eu marcio â stamp a delw hen waith llestri Abertawe, y forget-me-not. Ond ni welai Mrs. Morris ddim prydferthwch na gwerth yn y llestri dain, a chredai eu bod yn llai eu gwerth oherwydd eu bod yn henach na llestri ei stafell ei hun.

Erbyn bod y te yn barod, fe glywid sŵn cerbyd ar y buarth, a llais Twm yn galw ar y poni.

"Wo na ti, 'r gaseg fach! Pam na elli di aros yn esmwyth?" "Dyna Miss Bowen wedi dwad, mystres," ebe Leisa a'i gwedd yn llonni wrth redeg allan i'r gegin.

Cyn pen ychydig eiliadau rhedodd Gwladus i'r neuadd, a thaflodd ei breichiau am wddf Mrs. Morris, a derbyniodd groeso cynnes gan yr hen wraig. Arhosai Leisa wrth y ford rhwng chwerthin a llefain, yn disgwyl yr amser i arwain Gwladus i'w hystafell ei hun ar y llofft.

"Cerwch i dynnu'ch pethe bant, Gwladus," meddai Mrs. Morris, ym mhen tipyn, "mae'ch rhwm chi'n barod yn y lofft. Ond peidiwch bod yn hir cyn dwad i lawr, wa'th 'rwy'n siwr eich bod bron llwgu ishe cwpaned o de, ac y mae'r te ar y ford."

"O'r gore, nanti fach," ebe Gwladus. "Fydda i ddim myned cyn dwad lawr."

A chyn pen hanner awr chwi allech feddwl, gan mor gartrefol yr edrychai Gwladus yn rhedeg oddeutu'r tŷ—i'r llaethdy a'r gegin maes, a'r rhwm caws, a phob man—a'r telerau da a ffynnai rhyngddi a Leisa a'r gwasanaethddynion i gyd, mai yn y Gelli yr oedd wedi byw drwy gydol ei hoes!

PENNOD VII.
GWLADUS YN Y GELLI.

WYTHNOS felys iawn fu wythnos gyntaf Gwladus yn y Gelli, a chymaint oedd ei mwynhad fel na allai aros yn llonydd am awr gyfan. Yr oedd y ferch ieuanc hon yn hoff o bopeth byw a mynych y byddai yn canu wrthi ei hunan eiriau swynol "Serch Hudol":—

"Hardd yw llun a lliw
Pob peth a ddaeth o ddwylo Duw;
I b'le â llygad dyn nad yw
Yng ngŵydd y tlws a'r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw'r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O'r eryr ar ei aden gref
I'r dryw sydd yn y drain."

Ymysg y gieir a'r colomennod a'r adar bach y mynnai fod, fath ac ni chafodd y creaduriaid asgellog yn y Gelli erioed y fyd o'r blaen. Pe gwelsai bardd neu arlunydd hi ben bore yn rhedeg allan i'r clos a phadellaid o geirch yn ei llaw—a'r gwynt nwyfus yn chwarae â'i gwallt ac yn codi gwrid i'w hwyneb—a'r ednod gwancus yn tyrru o bob cyfeiriad ar ei hôl, wrth sŵn ei "shw, shw" soniarus, a'i gweld yn bwyda â llaw dirion y fronrhuddyn a'r aderyn to, ac yn ysgwyd ei ffedog yn wyneb rhyw hwyad daeog neu iâr reibus a'u gyrru ar ffo i'w lle eu hun,—pe gwelsai bardd neu arlunydd hyn, meddaf, coronai hi ar unwaith yn Frenhines yr Adar. Ond nid oedd bardd nac arlunydd yn y Gelli, ac ni thynnodd sylw neb ond Leisa wrth fwyda'r gieir a'r adar. Ac ni ddywedodd Leisa ond hyn:

"Dir safio ni! garw mor ffond o ffowls mae Miss Bowen."

Un diwrnod daeth Twm y Waginer ag oen bach i'r tŷ, yr hwn oedd wedi rhynnu yn un o'r caeau, a chafodd Gwladus ganiatâd gan ei modryb i fagu'r oen bach yn swci. Nid hir y bu'r oen bach cyn adnabod llais ei feistres, a rhedai ar ei hôl i bob twll a chornel o'r tŷ. Am oriau bob dydd byddai Gwladus yn chwarae gyda'r oen yn y gegin o flaen y tân, neu yn ei fwyda a'i fagu. Nid oedd ei modryb mor fodlon i Gwladus ei alw yn "Top Morris." Dysgodd Gwladus bob math o ystranciau iddo, a byddai'r holl deulu yn torri allan i chwerthin wrth weled ei ystumiau yn neidio yn yr awyr pan alwai Gwladus "Top Morris" arno!

Prynhawn dydd Nadolig ehedodd Robin Goch i'r gegin drwy'r drws agored, wedi ei ddenu o'r oerfel gan sirioldeb y tân. Wedi i Gwladus ei ddal, ei gusanu, a'i anwylo, a'i fwyda, a'i gynhesu, a siarad ag ef fel pe bai yn deall pob gair a ddywedai, gollyngodd ef yn rhydd. Ehedodd Robin bach ymaith, ond daeth yn ôl drannoeth, a bu yn ymwelydd cyson â hi ar ôl hyn hyd nes i'r hin gynhesu. Yna, er dirfawr hiraeth i Gwladus, ehedodd ymaith ac ni ddaeth drachefn yn ei ôl. Ond am fisoedd ar ôl hynny, credai Gwladus mai ei Robin bach hi oedd pob bronrhuddyn a welai yn agos i'r Gelli. Y mae o'm blaen wrth ysgrifennu gopi o benillion yn llawysgrifen Gwladus, ac y mae yn dra thebyg mai yn wythnos y Nadolig y cyfansoddwyd hwy:

Fronrhuddyn bach gwladgarol!
Can croeso gei gen i,
Waeth pwy fo heb ei damaid,
Bydd tamaid fyth i ti!
I geisio gwlad hawddgarach,
Ni hedaist dros y lli—
Ar Gymru fach ni chefnaist
Pan ddaeth y gaeaf du!

Dywedir i ti ruddo
Dy dirion fron dy hun,
Wrth gario dŵr i'r fflamau
At ryw golledig ddyn.

Ti roddet, gwn, dy einioes
Dros gâr, neu gyfaill cu,—
Ar Gymru fach ni chefnaist
Pan ddaeth y gaeaf du!

Ni feddi geinder gwylan,
Na chwimder gwennol dlos,
Na llais yr eos seinber
A lonna ddyfnder nos.
Anwylach wyt, Fronrhuddyn,
Er llwyted yw dy blu,—
Ar Gymru fach-ni chefnaist
Pan ddaeth y gaeaf du!


Ond nid gan greaduriaid mud yn unig yr anwylid Gwladus! Yr oedd pawb drwy'r tŷ wedi llonni ac ysgafnhau pan ddaeth Gwladus yno, a dywedai Leisa na fu erioed mor rhwydd i fyw gyda Mrs. Morris. Ar ddydd Sul, bid siwr, aeth Gwladus gyda'i modryb i Salem, er mawr syndod a llawenydd i ferched yr ardal. Am wythnos a rhagor ar ôl hynny, prif destun siarad y merched oedd y ffordd newydd y gwisgai Gwladus ei gwallt, a steil ei hat a'i gŵn. Yr oedd Mari'r Pandy o'r farn mai imitation fur oedd ar ei siaced, a mentrai Mari'r wniyddes i'w hat "gosto dros sofren os costodd hi geiniog."

Ond yr oedd un gŵr yn Salem wedi cael mwy o fwynhad na'r merched. Ni chafodd Theophilus y Cantwr ddydd Sul mor ddedwydd erioed. Er bod Theophilus erbyn hyn yn hen ŵr, nid oedd wedi colli ei gariad at gerdd a chân. Un o wroniaid y Tonic Sol-ffa yn Ystrad Tywi oedd Theophilus, a llawer stori ddoniol yr arferai adrodd am y gwrthwynebiad a deimlid gan yr hen bobl, hanner can mlynedd yn ôl, yn erbyn canu mawl wrth reol. "Pa fodd y gallwn ganu mawl i'r Arglwydd," meddai un hen ddiacon ffyddlon, "gyda so fa mi?" Ond yr oedd Theophilus ar y pryd yn ddyn ieuanc, ac yn llawn sêl ac ynni. Ymresymai â'r hen bobl; dadleuai yn gadarn dros ganu "â'r ysbryd ac â'r deall;" ac o'r diwedd llwyddodd i gael ysgol ganu ynghyd.

Er cymaint ei frwdfrydedd, nid oedd Theophilus yn llawer o gantwr. Nid agorai ei enau wrth ganu, a byddai'r sŵn, gan hynny, yn cael ei wasgu allan drwy'r ffroenau, "fel ta fe'n dwad ma's drwy wagar cro'n," meddai Nat unwaith. Nid oedd chwaith wedi clywed llawer o gantorion da erioed. Clywodd Eos Morlais yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd. Cofiai glywed Llew Llwyfo unwaith neu ddwy pan ar grwydr drwy'r Deheubarth. Ond y diwrnod dedwyddaf yn hanes Theophilus oedd hwnnw pan glywodd Edith Wynne! Ni flinai byth siarad am y diwrnod euraid.

Eisteddai Gwladus dydd Sul yn set Mrs. Morris—nid nepell o'r set fawr, a phan glywodd Theophilus lais Gwladus yn ymuno i ganu "Crug-y-bar" o'r braidd na neidiodd allan o'i sedd gan gymaint ei syndod. Ar y cyntaf credodd mai Edith Wynne oedd yno. Yna canfu mai Gwladus oedd y gantores. Nid oedd gan Theophilus, druan, glustiau i ddim ond i ganu Gwladus. Nid oedd y wasanaeth ond megis breuddwyd iddo—ond y canu! A mynych ar ôl hyn, yn ystod ei harhosiad yn y Gelli, y daeth yr hen ŵr yno i ofyn i Gwladus ganu iddo rai o'r hen alawon a thonau Cymru.

Yn ystod yr wythnos cafodd Gwladus lawer o ymwelwyr heblaw Theophilus a Robin Goch. Daeth Mr. Rowlands y ciwrat yno, am ei fod, meddai ef, wedi clywed fod Mrs. Morris ddim yn iach; daeth Benni Bach yno i ddweud fod ei fam am i Gwladus fynd i de i Blas Newydd; daeth Arthur Jones yno y prynhawn ar ôl y Nadolig i ffarwelio cyn cychwyn yn ôl i Lundain. Felly dedwydd iawn fu wythnos gyntaf Gwladus yn y Gelli, ond eto, edrychai yn brudd ar ôl rhoddi ffarwel i Arthur Jones!

PENNOD VIII.
CYNGOR NAT AR DDEWIS GWRAIG.

Ni fu Nat yn hir ar ei gefn yn y gwely. Mewn tridiau ar ôl ymweliad "yr Hen Binacl" eisteddai wrth y ford i fwynhau ei ginio Nadolig, a'r noswaith ar ôl hynny galwodd Arthur Jones i'w weled, ar y ffordd yn ôl o'r Gelli.

"Helo, doctor," meddai Nat o'r gadair freichiau wrth ochr y tân, "dewch ymla'n. 'Rwy'n gwella fel y g'irchen!"

"Mae'n dda gen i wel'd hynny," atebai Arthur, "wa'th. . . "Ie, mae'n syndod gen i, Doctor Jones," torrai Sali i mewn, "i wel'd e wedi gwella fel hyn heb gael llwyed o foddion! 'Ro'dd 'nhad yn arfer gweyd, 'slawer dydd, nag o'dd dim dishgwl gwella heb ellwng gwa'd neu lyncu moddion."

"Wel," atebai Arthur, "mae gwaith doctor yn newid, fel gwaith ffarmwr, neu of, fel y mae'r byd yn mynd yn i fla'n." "Falle hynny'n wir!" ebe Sali, "er nag w i ddim yn credu y gwelir byth eto shwd ddoctor â'r hen Ddoctor Prydderch! Dir gaton pawb, 'rwy'n cofio am y 'nhad, fod gyda fe yn wastod botel o foddion gas e gan Ddoctor Prydderch, a ta pwy glefyd fyse arno fe, 'do'dd e byth yn newid y moddion. 'Ro'dd sôn, chi wyddoch, am yr hen Ddoctor Prydderch drwy Gymru a Lloegr i gyd, wa'th 'ro'dd e'n disgyn o ach hen Feddygon Myddfai, medde nhw, a—mi gynta 'ch bod chi'n gwbod yr hanes yn well na fi—fe fuodd e unwaith yn tendo'r Brenin pan o'dd e yn Llynden."

"Na, chlywes i ddim am hynny," atebai Arthur yn wylaidd. "O, mae e'n eitha gwir!" meddai Sali, "wa'th mi glywodd 'y 'nhad yr hen ddoctor i hunan yn gweyd yr hanes. Wel, chi'n gweld, pan o'dd 'y nhad yn ddyn ifanc, cyn iddo fe briodi, 'ro'dd e'n waginer gyda'ch tad-cu yn y Dole—yno cas e afel ar mam, wyddoch. Fe dda'th hi yno o Lancrwys fel lleithreg, yr ail flwyddyn oedd 'y nhad yn gwasaneithu yno—ac yn y flwyddyn hynny fe ddaeth rhyw dwymyn drwy'r wlad, ro'en nhw'n galw'r ddyrton arni."

"Y ddyrton?" gofynnai Arthur. "Rwy'n cofio clywed sôn am yr enw."

"A dyna pryd," aeth Sali ymlaen i ddweud, "y cas mam-gu y twtsh cynta o'r gwinegon. 'Roen nhw'n gweyd i bod hi cyn hynny mor shonc na fyse'r gwlithyn ddim yn dyferu dan i thro'd hi, ag 'ro'dd shwd liw ar i boche hi fel taw "cochen fach Llanelwid" 'roen nhw'n i galw hi pan o'dd hi'n ferch ifanc. Ond fuodd hi byth yr un peth, druan, ar ôl y ddyrton!"

"Arhosodd Sali am foment i gael ei hanadl. Ni feiddiai Arthur edrych ar Nat, yr hwn oedd yn plygu ei ben i gael tanio ei bib.

"Wel, chi'n gweld Doctor Jones," meddai Sali ar ôl cael ei gwynt ati, "y nhad gas i gymryd gynta gyda'r dwymyn. 'Ro'dd e a'r gwas mwya' ym mhoilid yn un o'r ceie dan y tŷ, ac yn ddisymwth dyna 'nhad yn dechre crynu nes o'dd e'n ffeilu cydio yng nghorn yr arad! A mi gas shwt ofan nes y gweiddodd e, "Wb, wb!" ar y gwas mwya. "Be' sy arnat ti'r ffŵl "" mynte hwnnw. A chyda bod y gair ma's o'i ben e dyma ynte yn dechre crynu fel y ddeilen; a dyna lle buon nhw ill dau yn shiglo gyda'i gilydd man hynny am hanner awr neu ragor, nes i'ch tad-cu ga'l gafel arni nhw amser gellwng.

"Sali fach," torrai Nat i mewn, ""dyw doctoried 'nawr ddim yn stydio hanes y ddyrton."

"Falle nag ŷn nhw," atebai Sali yn swrth, "wa'th mae e'n syndod na fu hi byth yn y wlad wedyn! Ond fydde nhw ddim gwa'th o gael gwbod rhywbeth am y dwymyn, wa'th wyddon ni ddim pwy flwyddyn bydd i thro hi yma yto! A fel o'wn i'n gweyd wrthoch chi, fe gariwyd 'y nhad a'r gwas mwya' gatre i'r Dole. Fe gas y gwas mwya fynd i'r tŷ i orwedd, ond 'do'dd dim lle i 'nhad yn y tŷ, ac fel'ny gorffod iddo fe orwedd yn y bedrwm uwchben y boudy. Ag 'rodd e'n arfer gweyd y byse hi wedi mynd i'r pen arno fe man 'ny on 'se i mam i dendo fel y gnath hi."

"Mae ca'l nyrs dda yn hanner y fatl," meddai Arthur, "fel y gŵyr Nat yma erbyn hyn."

"O, na!" brathai Sali, "dyw Nat ddim wedi dysgu hynny eto, a'i dyngu, neu mi fyse gydag e lawer mwy o olwg arna i nag sy'! Ond dyna beth own i'n mynd i weyd wrthoch chi, mi gas 'y nhad yr amser hynny boteled fowr o foddion gyda Dr. Prydderch. Mae'r botel gyda fi yma byth—mae gyment â mhen i—a mae Nat yn arfer gweud y byse fe'n fo'lon ar lond honno o gwrw fel lwans ar ddydd cylcho whils! Mae Nat, chi'n gweld, wedi mynd rhagddo—dim ond meddwl am saco yn i fola mae e byth a hefyd! A chas 'y nhad byth boteled arall o foddion tra buodd e byw! Os byse rhywbeth y mater arno fe—ta'i ben yn dost ar ôl acshwn neu'r ddannodd arno fe, neu dwtsh o'r gwinegon—'ro'dd e'n wastod yn cymeryd llond llwy bowtir o'r hen botel, ag 'ro'dd e'n gwella fel y cyw!"

"Wel, wel," meddai Arthur, "dalle fe byth bod yn dost yn fynych, neu mi fyse wedi dybennu'r botel flynydde cyn iddo farw."

"O, chi'n gweld," ebe Sali, "ro'dd 'y nhad yn credu fod yr hen Ddoctor Prydderch wedi dyall i gyfansoddiad e drwyddo draw. Ag 'ro'dd e wedyn, pan fyse'r moddion wedi mynd yn isel yn y botel, yn ei llanw hi â dŵr, lan i'r top; ag 'ro'dd e'n gweyd fod dim ond blas moddion Doctor Prydderch yn hala ofan ar bob clefyd."

"Pryd byddwch chi'n mynd 'nôl i Lynden, Doctor Jones?" gofynnai Nat ar ôl i Sali orffen.

"O, mae'n rhaid i fi fynd 'nôl y peth cynta' fory," atebai Arthur.

"Yn mynd 'nôl i Lynden fory?" ebe Sali, a'i dwylo i'r lan. "Dych chi ddim yn ceisio gweyd hynny! Yn 'y ngwir i, 'rych chi'n gweithio lawer rhy galed. Dim ond whech dwarnod o wyle amser Nadolig, a hanner yr amser yn slafo gyda Nat!"

"Dwyt ti ddim yn dyall, Sali fach," meddai Nat, cyn i Arthur gael amser i ateb, "fod y doctoried ifenc yn leico ca'l dyn fel fi dan eu dwylo! 'Ti'n gwel'd, mae Doctor Jones wedi gorffod talu canno'dd o bunne er mwyn ca'l trafod pob math o gleifion, a mi gynta na chas e'r cyfle i dynnu shots ma's o lawer ohony' nhw!"

"Talu am drafod cleif'on, wir!" ebe Sali yn syn. "Y cleif'on, gwlei, ddyle dalu, a thalu'n dda, am ga'l eu trafod. Ond dyna, pobol od yw'r Saeson a'r Padis 'na. 'D ŷn nhw ddim fel y Cymry; ac os gwnewch chi gymwynas â nhw, o'r braidd y rhodda nhw thenciw' i chi am eich trwbwl. Ond, 'dyw e ddim yn wir, ody e, Arthur Jones, eich bod chi'n gorffod talu am roddi moddion i'r bobl dlodion yn Llynden?" "Wel, odi, mae e'n eitha gwir," atebai Arthur, gan wenu. "Chlywes i 'rio'd shwd beth!" meddai Sali. Garw'r fath fyd sydd ar gleif'on Llynden, 'weda i! A dyne finne yma, llawer gwaith 'rwy'n teimlo eishe doctor, ond ni feiddia i ddim i hala i moyn Doctor Davies, wa'th mae'n nhw'n gweyd i fod e'n shwd ddoctor prid,—yn codi wheigen ar Benni'r Llety, druan, am bob siwrne y da'th e yno i weld e, er i fod e'n mynd drws nesa' i weld Mr. Morgans,—a dou swllt am bob poteled o foddion! A mi fyse'n well gan Nat 'y ngweld yn marw ar 'y nhra'd na thalu pum punt i ddoctor am 'y ngwella!"

Yr oedd llais Sali wedi lleddfu llawer wrth siarad, ac yr oedd ei thosturi oherwydd ei chyflwr truenus ei hun yn cynyddu gyda phob brawddeg. Erbyn iddi ddirwyn y frawddeg olaf i'r pen, yr oedd y dagrau ar ei grudd, ac aeth ymlaen i ddweyd:

"Ac 'rwy'n credu, Arthur Jones bach, na fyse fe'n hido fowr tawn i'n myn'd i ffordd yr holl ddeiar fory nesa'. A dwy i ddim yn credu y bydda' i ar ffordd neb yn hir. 'Rwy'n diodde mwy nag yw neb yn feddwl o wrth ddolur y galon er na cha i ddim cydymdeimlad—a mae'r gloch farw'n 'y nghlust i'r fyned yma! A phan af fi, falle gwelith Nat golled ar 'nôl i, er nad w i ddim yn meddwl y claddith e fi fel y dylse fe!"

Ac allan â Sali i'r pen uchaf, tra edrychai Nat ar ei hôl gyda gwên ar ei wyneb.

"Arthur," meddai, ym mhen ychydig amser, gan siarad yn bwyllog a thynnu mwgyn rhwng pob brawddeg, "rwy' wedi bod yn meddwl mai peth ymbed yw dewis gwraig; ac wn i ddim pam mae pobol mor ddwl â gneyd peth mor bwysig pan mae nhw yn rhy ifanc i wybod dim yn i gylch e—(Pwff, Pwff, Pwff). 'Rych chi wedi bod yn garedig iawn yn 'y nhendo i fel hyn, a mi gynta na alla i byth eich talu chi 'nôl, fel y dylwn i (Pwff). Ond mi alla i roi cyngor i chi'n gystled â rhyw un arall—(Pwff, Pwff,)—wa'th 'dyw cyngor ddim yn costi dim i neb, ta faint mae'r profiad wedi gosti cyn gellir ei roi e—(Pwff). Fe fyddwch chi'n dryched ma's am wraig un o'r dwarnode nesa' 'ma-mae doctor yn ots i bregethwr. Mae mwy o ddylanwad gan bregethwyr cyn priodi—(Pwff)—ond 'do's gyda pobol ddim ffydd mewn doctor dibriod—(Pwff, Pwff). 'Wn i ddim pam, os nad ŷn nhw'n meddwl na all e ddim cydymdeimlo â phobol sy'n diodde—(Pwff, Pwff). 'Do's dim iws i chi ga'l gwraig salw, neu mi fydd yn gas gyda chi i gwel'd hi amboitu'r tŷ—(Pwff); ond peidwch mynnid un rhy lân, neu fydd hi'n meddwl am ddim ond gwisgo a thaclu a mynd ar ger'ed, er mwyn dangos i hunan—(Pwff, Pwff). Mae'n dda ca'l meniw a thipyn o waddol gyda hi, neu falle 'dyfarwch chi pan fydd y teulu'n pryfo a helbulon yn dwad ar eich traws chi—(Pwff); ond peidwch mynnid gwraig rhy abal, neu falle y bydd hi'n dannod i harian o hyd—(Pwff, Pwff, puff). Ac er mwyn pob peth, mynnwch feniw syber, wa'th 'do's dim mor gas ag aelwyd frwnt a thŷ pendramwnwg—(Pwff); ond 'do's dim iws i cha'l hi yn rhy lanweth, neu mi fydd yn meddwl mwy am gadw'r tŷ yn lân na gneyd y gŵr yn gysurus—(Pwff, Pwff). 'Neiff e ddim drwg iddi fod yn feniw grefyddol, wa'th mae tipyn o elfen crefydda yn taro gwraig, ac yn help i chadw hi'n bles—(Pwff); ond gochelwch beidio ca'l un dduwiolfrydig, os gwedodd yr Hen Binacl, neu fe fydd am hadel i chi ga'l un pleser yn y byd hyn er mwyn i chi fod yn hapus yn y byd arall—(Pwff, Pwff, Pwff). Mynnwch wraig a thipyn o stamp ynddi, wa'th 'do's dim yn wa'th i ddyn na chael i ffordd ym mhob peth—(Pwff); ond ymswynwch rhag ca'l gwraig fydd yn moyn ca'l popeth fel y myn hi, ag yn ceintach yn erbyn pawb

"Beth wyt ti, Nat, yn falban 'nawr wrth Doctor Jones?" gofynnai Sali, wrth ddyfod i fewn dros drothwy'r drws. "Rhyw lol, yto, mi wn!"

"Rhoi cyngor iddo shwd i ddewis gwraig rown i, Sali fach," meddai Nat.

"Llawer wyt ti'n wbod nag yn hido am rinwedde gwraig," atebai Sali, "a bachgen pert wyt ti i roi cyngor i neb.

"Wel, 'y nghalon i," meddai Nat yn ddifrifol, gan sugno mwg yn araf o'i bib, "wedes i ddim llawer wrth Doctor Jones, ac falle na chofith e ddim o'r tipyn glywodd e gen i. Ond fe gofith y cyfan os cofith e fynnid gwraig yn gwmws fel ti!"

"Cer o 'na ti'r creadur!" ebe Sali, gan wenu'n foddhaus, "glywsoch chi ario'd y fath lol â'ch clyste, Doctor Jones? Ag ynte'n hen ddyn, wedi gadael i hanner cant, ag wedi bod yn briod os saith mlynedd ar hugain i G'langaea' nesa'—ond 'dych chi ddim yn mynd yto, os bosib, Doctor bach?"

"Odw'n wir," atebai Arthur yn frysiog, oblegid yr oedd wedi clywed eithaf digon o hanes teuluol Sali, "mae yn rhaid i fi fynd. Fe fydda'n 'madael yn fore bach fory, a mae gen i grugyn o waith i 'neyd cyn bydda' i'n barod."

"Wel, os o's yn rhaid i chi fynd," ebe Nat, "do's gen i ond diolch yn fawr am eich caredigrwydd.'

"Ie'n wir, Doctor Jones," meddai Sali, "wn i beth ar wyneb daear las nesen ni . . ."

"Peidiwch siarad," meddai Arthur, "'rown i'n falch i ga'l y cyfle i dalu pwyth i Nat yma. A gwd-bei i chi'ch dou, a halwch i weyd shwd mae Nat yn dwad yn mlân."

"Gnewn yn siwr!" ebe Sali. "Gwd-bei Doctor Jones, a lwc dda i chi yn Llynden."

"Dyna fachgen neis yw Arthur," meddai Sali wrth Nat ar ôl i'r drws gaead arno. "Mae e mor garedig â'i dad, ag mor stydi â'i fam."

PENNOD IX.
MR. ROWLANDS Y CIWRAT.

UN o'r rhai cyntaf i alw yn y Gelli wedi dyfodiad Gwladus oedd Mr. Rowlands y ciwrat. Ni fu ciwrat yn Llanelwid o'r blaen. Hyd yn hyn yr oedd Mr. Gwyn yr offeiriad wedi bodloni gwneud y gwaith i gyd ei hunan, a chan nad oedd dwsin o bobl yn yr eglwys "hirddydd haf, pan fyddai sychaf y ffyrdd a chlaearaf yr hin," ni ellid cyhuddo Mr. Gwyn o weithio yn rhy galed. Ni chynhelid un math o gyfarfod eglwysig ar noswaith waith, ac ar y Sul awyddfryd mawr Mr. Gwyn oedd myned trwy'r gwasanaeth mewn tri chwarter awr. O'r "annwyl gariadus frodyr" hyd yr "Amen" ddiwethaf, carlamai drwy'r gweddïau a'r Salmau, ac yn fynych byddai hanner y ffordd drwy'r weddi nesaf cyn y clywid "amen" gysglyd Harri'r crydd ar ddiwedd y weddi flaenorol. Ni chyfrifid Mr. Gwyn yn rhyw lawer o bregethwr, a honnai Nat mai'r un pregethau oedd ganddo oddi ar pan ddaeth gyntaf i Lanelwid, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ar y Suliau darllenai bregeth bymtheg munud; ond ar adegau neilltuol, megis ffest clwb neu gwrdd diolchgarwch, pregethai am bum munud yn hwy. Er hyn i gyd, yr oedd gan y plwyfolion barch mawr i Mr. Gwyn. Hanai o deulu da—yr oedd ei fam yn perthyn i Mrs. Bassett y Plas. Derbyniodd ei addysg yn Rhydychen. Ar ôl ei briodas yr oedd yn ddyn cyfoethog, ac yr oedd ei haelioni wedi llonni bywyd llawer hen ŵr tlawd a llawer hen wraig fethiannus. Eisteddai yn fynych ar fainc yr ynadon yn Llangoediog, a chodai ei lais i fyny bob amser o blaid lleddfu llymder y gyfraith â thrugaredd. Dan yr hen oruchwyliaeth, efe oedd Cadeirydd Festri'r plwyf, ac yn y swydd honno enillodd edmygedd pawb. Ei air oedd ei ddeddf; ni wnaeth ddrwg i neb, ac ni chreodd chwerwder ysbryd a digofaint yn ei blwyf. O lwyrfryd calon gweddïai bob bore Sul, "Oddi wrth genfigen, digasedd, bwriad drwg, a phob anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus." Mewn gair, yr hyn a ddywedai Macaulay y dylai pob offeiriad fod, hynny oedd Mr. Gwyn yn Llanelwid—yr oedd yn fonheddwr yn y plwyf.

Ond erbyn hyn yr oedd Mr. Gwyn wedi heneiddio, a chan na ddeallai ei wraig a'i ferch ond ychydig o Gymraeg, aeth gwaith yr eglwys yn fwy o faich iddo o hyd, ac o'r diwedd penderfynodd gyflogi ciwrat i'w gynorthwyo. Cafodd fwy o anhawster i gael ciwrat, nag a feddyliodd. Plwyf mawr gwledig yw Llanelwid, ymhell o gyrraedd tref a rheilffordd, heb ond dwsin o Eglwyswyr yn trigo o'i fewn. Da fuasai gan Oronwy neu'r Prydydd Hir gael y fath giwradiaeth, lle cawsent hamdden i farddoni a llenydda heb eu blino gan waith plwyfol na dyletswyddau eglwysig. Ond pobl o dymer wahanol yw'r ciwradiaid ieuainc yng Nghymru heddiw. Nid hamdden ond gwaith a geisiant, a chan fod llawer ohonynt wedi eu codi yn Anghydffurfwyr neu dan ddylanwad Anghydffurfiaeth, gosodant safon uchel o'u blaen o weithgarwch yn y weinidogaeth. Ar ôl cryn drafferth, llwyddodd Mr. Gwyn i gael gŵr ieuanc wyth ar hugain oed, yr hwn oedd newydd orffen ei yrfa fel "myfyriwr dwy-flynedd" (biennial student) yn Llanbedr i gymryd y giwradiaeth. Enw'r bachgen ieuanc oedd William Rowlands.

Brodor o Sir Aberteifi (nid oes eisiau dweud) oedd Mr. Rowlands. Ffarmwr oedd ei dad, ac yr oedd ef a'i deulu yn aelodau ffyddlon gyda'r Methodistiaid, mewn plwyf nid nepell o Lanbedr Pont Steffan. William oedd yr ieuengaf o dri o feibion. Bu yn gweithio ar y ffarm gartref hyd nes iddo gyrraedd oedran gŵr; ond daeth y tad i weled yn raddol na allesid cadw'r tri mab gartref. Gan nad oedd argoel i'r ddau hynaf briodi, penderfynwyd fod yn rhaid i William hedfan allan o'r nyth. Ar ôl llawer o ystyriaeth, cytunodd William i fyned yn offeiriad. Nid oedd ei dad yn ei dwyllo ei hun fod yn ei fab ieuengaf gymwysterau arbennig at yr offeiriadaeth. Ond beth arall ellid wneud o'r bachgen? Yr oedd eisiau gormod o arian a dysg i wneud meddyg neu gyfreithiwr ohono; nid oedd ganddo ddawn pregethwr; ac yr oedd yn rhy hen i'w ddanfon fel prentis i siop. Nid oedd dim yn aros gan hynny, ond gwneud offeiriad o'r bachgen.

Danfonwyd ef am dymor i ysgol ramadegol, ac oddi yno pasiodd ym mhen blwyddyn i Goleg Llanbedr. Ond bu'n anos i William, druan, ddyfod allan o'r Coleg na myned yno. Ar ôl cryn drafferth, a siomedigaethau lawer, o'r diwedd coronwyd ei ymdrechion â llwyddiant mewn pryd i dderbyn cynnig Mr. Gwyn i weinidogaethu fel ciwrad yn Llanelwid. Achosodd ei ddyfodiad lawer iawn o siarad a holi yn ei gylch ymysg pobl y plwyf. At Nat y rhedai pawb dan y fath amgylchiad, oblegid yr oedd Nat yn berchen ar allu hynod i chwilio allan hanes pobl.

"Faint o amser fuodd y ciwrat newydd yn y Colej, wedsoch chi?" meddai un diwrnod yn yr efail. "O, 'do's dim gwybodeth faint! 'Ro'dd y bobol o'dd yn 'i gofio fe'n myn'd yno i gyd wedi marw cyn iddo fe ddwad ma's—ond dou. Un o'dd ei ei dad, a wede fe ddim wrth gwrs, a'r llall yw'r cymydog drws nesa', a hwnnw wedws wrtha i amdano fe. Pan basodd e miwn i'r Colej, 'ro'dd 'i dad mor falch a phe byse fe wedi ca'l i neyd yn ganon neu'n esgob! A dyma fe'n gweyd wrth 'i fab:

'William,' mynte fe, rwy'n dodi wye dan yr ŵydd heddi, ac erbyn dy fod di'n barod i fynd yn 'ffeirad, mi fyddan wedi tyfu'n wydde braf. Mi gadwa i un ohonyn nhw, i ni cha'l hi i gino pan fyddi di wedi dybennu paso trwy'r colej.'

'O'r gore,' mynte ynte, 'fe gawn i bwyta hi cyn pen tair blynedd.'

"Fel o'dd y lwc yn bod, dim ond un o'r wye dda'th lawr, a chlacwydd o'dd hwnnw! Wel, fe dda'th y tair blynedd i ben—a dim sôn am William yn paso. A'r bedwaredd, a'r bumed, a'r wheched, nes i'r hen ŵr i dad i golli cownt, a'r hen glacwydd i fynd mor denau â sgadenyn, a 'stim dowt, medde'r cymydog, na fyse William wedi sgriwo gwddwg yr hen glacwydd ta fe wedi ca'l hanner siawns, gan gyment ma's natur o'dd e'n myn'd bob tro gwele fe'r hen griadur amboitu'r clos. O, deico di!' mynte'i dad wrtho fe o'r diwedd, ' os na basi di'n glou, fe fydd yr hen glacwydd yna wedi troi'n wythi i gyd.' Ond 'ta beth, yng nghyflawnder yr amser, mi basiodd William. Ac yna fe laddwyd y clacwydd, fe'i rhostwyd e',—ond 'do'dd dim posib saco fforc drwy i gro'n e! Wedyn fe'i berwyd ef yn y cawl am orie ar y tro, ond erbyn ei ddodi e ar y ford, 'ro'dd i gig e wedi troi yn garre sgidie! A chesbwd fowr o flas wrth dreio pilo esgyrn yr hen glacwydd." "Ie, lycoch chi!" meddai Dafi Jones, yr hwn oedd, fel arfer, yn un o'r gwrandawyr, "rwyt ti, Nat, yn gallu golchi erni pan ei di'n nghyd â hi!"

"Na chyffra i, mae'n wir bob gair," ebe Nat, gan chwerthin. Ond gwir neu gelwydd, aeth y stori am y clacwydd ledled y plwyf yn llawer cynt nag y gallai Mr. Rowlands ei dilyn.

Yn fuan ar ôl dyfodiad Mr. Rowlands cymerodd cyfnewidiadau dirfawr le yn ffurf y wasanaeth eglwysig. Dywedai'r clochydd, sef Harri'r Crydd, fod y ciwrat newydd yn hanner Pabydd, oblegid yr oedd yn troi i'r Dwyrain wrth adrodd y Gredo, moesymgrymai'n isel bob tro y dywedai enw'r Gwaredwr, rhoddai'r fendith o'r allor, a chanai'r "Amen" ar ddiwedd pob emyn. Ar ôl clywed cwynion Harri yn y Red Lion, penderfynodd Nat fynd i'r eglwys i gael gweld y defodau newydd drosto ei hun.

"Un rhyfedd yw'r ffeirad newydd 'na," meddai yn yr efail bore drannoeth, yn ei ddull mwyaf gwawdlyd. "Dall e ddim bod fyned yn llonydd yn yr eglwys, ond dyna lle mae e, chi'n gweld, yn symud yn ôl ac yn mla'n ac yn codi ac yn ishte, ac yn penlinio ac yn bowo fel meilart ar domen! Mae'n bownd fod sbrings go dda yn ei wddwg e, neu, na chyffra i, mi dorre gan mor fain a hir yw e! Jaist, mae'n werth ca'l gwddwg fel 'na! Un ymbeidus o dda yw ei lyncu pwdin!"

"Lycoch di, Nat," meddai Dafi Jones oddi ar stôl y gwrando, "rwyt ti gystal â chrwth a thelyn mewn tŷ, ag wyt," gan dorri allan i chwerthin drachefn.

Profedigaeth fwyaf Mr. Rowlands oedd darllen y llithiau fore Sul yn Saesneg. Pan fyddai Mr. Gwyn yn bresennol, cymerai efe arno ei hun y gwaith o wneud hyn, ond ni fyddai Mr. Gwyn yn croesi dros drothwy'r drws ar ddiwrnod gwlyb neu oer. Nid oedd Mr. Rowlands, chware teg iddo, wedi cael fawr o gyfle i ddysgu'r iaith fain yn ddilediaith. Er iddo fod am saith mlynedd yn paratoi ar gyfer yr offeiriadaeth, yr oedd wedi gwario hanner yr amser neu ragor gartref. Buasai yn dda ganddo pe gallai osgoi'r ddyletswydd; ond nid oedd Mrs. a Miss Gwyn yn deall y wasanaeth Gymraeg, ac anghenraid a osodwyd arno i gyfrannu moddion gras iddynt hwythau. Bu Mr. Gwyn, hefyd, yn garedig iawn wrtho pan welodd ei gyfyngder. Gwnaeth iddo ddyfod i'r Persondy, ac yno y bu yn ei gyfarwyddo pa fodd i ddarllen y llithiau yn Saesneg. Ond er holl ofal Mr. Gwyn, ni ellid trwsio ar unwaith acen Gymraeg y ciwrat, ac adroddai Miss Gwyn (mae'n rhaid ychwanegu, gyda gwên faleisus) wrth ei thad, fel y darllenodd y ciwrat un bore adnod fel hyn:—

"And Pilate asked, What is truth? And when he had said this, he went out again unto the juice."

Ychydig cyn i Gwladus ddod i'r Gelli, adroddid stori arall ynghylch Mr. Rowlands yn y plwyf.

Galwodd yn yr efail un tro i weld Nat.

"Shwd ych chi heddi, Nathaniel Williams?" meddai yn foesgar wrth Nat.

"Weithe fel hyn, weithe fel arall," atebai Nat. "A ffordd i chi'n lico Llanelwid?"

"Lle ardderchog yw e," meddai Mr. Rowlands.

"Wel," ebe Nat, "'rych chi'n gwbod yn well na fi, wa'th weles i 'run lle arall ario'd."

"Naddo fe?" gofynnai'r ciwrat.

"Naddo," meddai Nat, gan edrych yn ddiniwed. "Mi fues yn Sir Aberteifi, wrth gwrs, ond 'dwy i ddim yn cownto hynny'n ddim. Fuoch chi'n gweld Harri'r Crydd yn ddiweddar?"

"Dyw Henri ddim yn dost, 'rwy'n gobeithio?" gofynnai Mr. Rowlands, wedi ei frawychu gan wyneb difrifol Nat.

"Nag yw, am wn i," atebai Nat. "Ond mi glywes bore heddi fod e wedi ishte lawr ddo' i ginio yn eitha iach am hanner awr wedi deuddeg, ond cyn un ar gloch yr oedd e' wedi darfod!"

"Dir gaton ni," meddai'r ciwrat yn gyffrous, "ni chlywes i 'run gair am hynny."

Ac ymaith ag ef, heb ragor o siarad, i dŷ'r clochydd. Pan gyrhaeddwyd y lle, mawr oedd ei syndod pan welodd Harri yn eistedd ar ei fainc yn tapo pâr o esgidiau i'r offeiriad.

"Yn enw dyn," meddai'r ciwrat, "beth ŷch chi'n 'neyd man hyn?"

Drwgdybiodd y clochydd fod Mr. Rowlands yn cyfeirio at ei absenoldeb mynych yn y Red Lion.

"Ond ble dylswn i fod," torrodd Harri i mewn, "ond ar y ffwrwm yn y siop waith?"

"Ond 'rown i wedi clywed," ebe'r ciwrat, "eich bod chi wedi marw ar gino ddo'!"

"Y fi wedi marw?" meddai Harri, fel pe bai hynny'n amhosibl. "Dyma'r tro cynta' i fi glywed y fath beth!"

"Wel, Nat wedodd wrtha i yn yr efel 'nawr," atebai'r ciwrat.

"O!" meddai'r clochydd, "Nat wedws wrtho chi, ie fe? Fe ddewch i nabod Nat yn well cyn bo hir!"

Ffromodd Mr. Rowlands yn aruthr pan ddeallodd fod Nat wedi ei dwyllo, ac aeth i'r efail ar ei ffordd adref, yn llawn natur ddrwg.

"Beth oech chi'n feddwl, y dyn," gofynnai yn awdurdodol, "wrth 'y nhwyllo i gynne fach?"

"Eich twyllo chi?" gofynnai Nat yn ddryslyd.

"Ie; wrth ddweyd fod Henri'r Crydd wedi marw?" ebe Mr. Rowlands.

"Ond wedes i ddim wrtho chi ario'd fod Henri wedi marw!" meddai Nat.

"Allwch chi wadu wrtha i," gofynnai'r ciwrat yn syn, "i chi weyd wrtha i fod Henri wedi marw ar gino ddoe?"

"Galla'," atebai Nat.

"Rwy'n rhyfeddu eich bod chi o'r wyneb i ddweyd y fath beth," meddai Mr. Rowlands. "Do's dim dwy awr oddi ar hynny."

"Whare teg i bawb. Fe ofynsoch chi i fi os o'dd Harri'n dost, ond do fe?"

"Do," meddai'r ciwrat.

"Howld on, syr," ebe Nat. "A mi wedes inne nag o'dd e, am a wyddwn i, ond 'y mod i wedi clywed 'i fod e wedi ishte wrth y ford ddo' yn holliach am hanner awr wedi douddeg i fyta'i gino, a'i fod e wedi darfod cyn un ar gloch. Gwir neu gelwydd, dyna glywes i," ychwanegai Nat, "ag os ych chi'n dewis 'y nghamddeall i, nid arna' i mae'r bai."

Boddwyd atebiad sarrug Mr. Rowlands yn y llifeiriant o chwerthin a ddilynodd, a throdd y ciwrat ymaith yn ddicllon.

PENNOD X.
ROBIN O'R LLWYN.

BU'R ciwrat yn ymwelydd cyson yn y Gelli ar ôl y Nadolig, ac nid oedd gan Mrs. Morris na Gwladus unrhyw wrthwynebiad iddo. Edrychai Mrs. Morris arno fel rhyw "hanner gŵr bonheddig," ac ni allai Gwladus lai na hoffi cwmni dyn ieuanc mor syml a diddichell, yn enwedig pan wyddai, heblaw, holl hanes y plwyfolion i gyd. Ond po fwyaf a welai Mr. Rowlands o Gwladus, mwyaf i gyd oedd ei hiraeth wrth ymadael â hi. O'r negesau a luniai fel esgus i alw yn y Gelli, a'r ystrywiau a ddefnyddiai i gael gweled Gwladus ar ei ffordd adref o'r seiet neu gwrdd gweddi, a'i hebrwng yn ôl ar noson olau leuad! Yr oedd amcan y ciwrat yn amlwg i bawb—i Mrs. Morris a Leisa, ac i'r gwasanaeth-ddynion, a chyn bo hir aeth y si drwy'r plwyf fod Mr. Rowlands a Gwladus yn caru! Ond edrychai Gwladus mor ddiniwed drwy'r cyfan fel yr oedd yn anhawdd gan y ciwrat gredu ei bod yn deall ei neges i'r Gelli. Ambell waith gwnâi ymdrech i wneud ei feddwl yn hysbys iddi. Ond nid cynt y dechreuai ei gân nag y byddai Gwladus yn troi'r ymadrodd at rywbeth arall, a'r cyfan mor naturiol ag anadlu? O'r diwedd daeth dydd pan na allai'r ciwrat ymatal yn hwy. Tua chanol Mis Bach penderfynodd wneud ffrind o Leisa'r llaethwraig. Un noswaith yr oedd Leisa yn gwanu drwy'r llwydnos tua'r pentref i brynu nwyddau i'r tŷ, pan gyfarfu Mr. Rowlands â hi.

"Nosweth dda i chi, Elizabeth," meddai'r ciwrat, yn foesgar —ni chymerai'r byd am ei galw yn Leisa. "Shwd mae nhw gyda chi yn y Gelli?"

"Gweddol iawn, syr," atebai Leisa, "ond fod mystres dipyn yn wanllyd, fel mae hi'n arfer bod yr amser hyn. Ond mae Miss Bowen gyda ni 'leni i thendo hi."

"A-a-a mae Miss Bowen yn iach?" gofynnai'r ciwrat. "O, ody, thenciw," atebai Leisa. "Mae hi mor iached â'r gog amboitu'r tŷ yco. Ta pwy ceiff hi'n wraig, me fydd yn lwcus iawn."

"Elizabeth," meddai Mr. Rowlands, gyda difrifoldeb mawr, "ddyfarwch chi ddim os arhoswch chi'n ffrind i fi, a gweyd gair drosta i gyda Miss Bowen. Ody chi'n meddwl fod siawns gen i amdani hi?"

"Wir, 'dwn i ddim," atebai Leisa. "Mae'n dipendo shwd garwr ych chi, wa'th mi ellwch fentro'ch pen fod ces mowr ar Miss Bowen. Hi geiff y ben-siâr ar ôl ei nhanti yn y Gelli; ac am lân—wel, 'do's dim ei phertach hi yn yr holl gwmpas'odd 'ma! Mae pawb yn gweyd mai hi yw topins Dyffryn Tywi.'

Suddai calon y ciwrat wrth glywed rhagorolion Gwladus yn cael eu chwythu yn utgorn Leisa, er ei fod wedi dweud yr un peth ganwaith wrth ei galon ei hun.

"Ody chi'n meddwl nad o's gen i ddim siawns, 'te?" gofynnai yn ofnus.

Tynerodd hyn deimladau Leisa ar unwaith, oblegid nid oes menyw ar y ddaear na theimla ei chalon yn cynhesu at un wedi ei glwyfo ym mrwydr serch.

"Cystal siawns i chi ag i neb arall," meddai yn galonnog. "Tawn i'n fachgen ifanc, fyse dim byd yn fwy wrth 'y modd i na phowlo mewn ffair am ferch ifanc. 'Rown i ddim diolch am ga'l merch heb fod neb arall yn ei mofyn i o gwbwl."

"Falle gallech chi roi cyngor i fi," gofynnai'r ciwrat, "beth i 'neyd er mwyn pleso Miss Bowen?"

"Mae'n ddigon hawdd gweld," ebe Leisa, gan chwerthin, "nag ych chi ddim yn gyfarwydd â merched ifenc. 'Do's dim ond un peth allwch chi 'neyd i pleso nhw ym Mis Bach."

"A beth yw hwnnw?" meddai'r ciwrat.

"Ha, ha, ha!" meddai'r llaethwraig, "ddim yn gwbod beth i 'neyd ym mis Bach! Mi golchsoch chi'r tro yma, ta beth! O, 'rych chi'n gwbod yn well na hynna, 'rwy'n siwr, ond eich bod chi'n lico'n rigan i!"

"Nag wn wir, Elizabeth," ebe'r ciwrat, "dwy ddim yn gwbod dim am arferion Llanelwid."

"Arferion Llanelwid, wir," meddai Leisa. "Run arferion sy yma ag sy ym mhob man arall, gwlei! Beth feddylech chi mae merch ifanc yn ddishgwl ym Mis Bach ond ffolant?"

"Ffolant?" gofynnai'r ciwrat yn syn. "Ody chi'n meddwl y byse fe ryw les tawn i'n hala ffolant i Miss Bowen?"

"Wel," meddai Leisa, "dwn i am un ferch ifanc fyse'n torri ei chalon ta hi'n derbyn ffolant."

"Ond ble galla i ga'l ffolant?" holai Mr. Rowlands. "O, mae digon i ga'l yn siop Morgans," oedd yr ateb parod. "Mi cewch nhw yno am bob pris o ddime lan i hanner coron. Ond, wrth gwrs, mi ddylech chi hala un neis, a sent yndi hi, a chordynne gwynnon, a phethach, at Miss Bowen."

"Wel, a brynwch chi un i fi?" meddai Mr. Rowlands. "Mae arna i gwilydd mynd miawn i brynu un 'yn hunan."

"O, gna i yn y fyned," meddai Leisa yn rhwydd.

"Pwy bris ddylai hi fod?" gofynnai'r ciwrat,—oblegid yr oedd y gŵr wedi ei ddysgu er yn ieuanc i gadw ei lygaid ar y geiniog.

"Pwy bris?" brathai Leisa. "Y dyn! odych chi'n mynd i gownto tocyns wrth hala ffolant at eich cariad? 'Dallech chi ddim meddwl, os bosib, hala un dan hanner coron at Miss Bowen! Chymerwn i ddim ffolant 'yn hunan fyse'n costi dan swllt, a na 'neswn."

"O'r gore, 'te," meddai Mr. Rowlands, gan estyn hanner coron iddi—gyda'r ochenaid fach leiaf yn y byd. "A fydd dim eisiau i fi 'neyd dim ond i hala hi drwy'r post?"

"Bydd, wrth gwrs," atebai Leisa. "Odych chi'n meddwl y gallwch chi ennill Miss Bowen mor rhwydded â hynna? 'Dyw pobol erill, ta beth, ddim yn meddwl hynny, wa'th dyna Arthur Jones, Dolau Gwynion—wi'n gwbod iddo fe hala barddoniaeth ati pwy ddwarnod."

"Do fe?" gofynnai'r ciwrat yn sarrug. "Pwy fysnes sy gydag e i neyd y fath beth?"

"O, dim ond yr un fysnes â sy gyda chithe," ebe Leisa yn esmwyth.

"Wel sgrifennes i ddim lein o farddoniaeth ario'd," meddai'r ciwrat yn fwy sarrug byth.

"O, 'dyw ffolant ddim yn werth taten bwdwr," ebe Leisa, "heb farddoniaeth arni. A hefyd, 'dall neb hala'r ffolant yr ail waith os bydd gwaith llaw arni."

"Beth 'na i 'nte?" gofynnai Mr. Rowlands, yn helbulus. "Pam na ewch chi at Robin y teiliwr?" meddai Leisa. "Fe sy'n gneyd y farddoniaeth i fi yn wastod, ac 'rwy'n gwbod y byse fe'n ddigon bolon i neyd e i chithe hefyd. 'Rwy'n cofio iddo roi'r penillion gas y preis yn Steddfod y Cwrt i William Tan-lan am ddou swllt."

"Wel, a ewch chi i ofyn iddo drosta i?" gofynnai'r ciwrat. "Yr arswyd annwyl, nag af fi!" atebai Leisa, "mi fues i ddwywa'th gydag e'r wythnos ddywetha, a mi ddylech chi weyd wrtho fe shwd ych chi am iddo neyd y farddoniaeth, a beth yw enw'r ferch ifanc."

"Wel mi af fi â hi ato fe 'te," ebe'r ciwrat, gydag ochenaid ysgafn arall.

Nid yw yn werth aros i adrodd y modd y prynodd Leisa'r ffolant, ar ôl cael y te a'r siwgr, a ffraethebion y bechgynnos oedd yn y siop pan oedd yn ei phrynu. Cyn pen hir amser, yr oedd Leisa wedi dianc o'r siop, a'r ffolant gyda hi, a chyda balchder nid bychan trosglwyddwyd hi i Mr. Rowlands.

"Diolch yn fowr i chi, Elizabeth," meddai'r ciwrat, gan wasgu rhywbeth i'w childwrn.

"O, 'do's raid i chi, syr," atebai Leisa. "Mynnwch chi farddoniaeth bert gyda Robin, a mi dynga i na chesech chi ddim gwell swyn serch gyda'r hen Harris Cwrt-y-cadno."

Cyfeiriodd y ciwrat ei gamre yn nesaf tua phen y pentref, lle yr oedd Robert Williams y teilwr yn byw.

Robin y Teilwr—neu Robin y Llwyn fel y'i gelwid yn yr Eisteddfodau—oedd prydydd y plwyf, ac yr oedd ei ofn ar bawb bron ond Nat. Y gosb drymaf a allai drwgweithredwyr dderbyn oedd cael rhigwm oddi wrth Robin. Dywedid fod ofn Robin yn dylanwadu mwy ar Gruffudd y Coed—y cybydd mwyaf yn y plwyf—i gyfrannu fel y dylai at yr achos yn Salem na phregethau llymaf y gweinidog; a gallai gwraig Dai'r Gelynnen fygwth y polîs ar y gŵr heb gael yr un effaith, ond yr oedd hyd yn oed Dai yn ofni awen y teiliwr! Ar ôl pob cwrdd politicaidd, a phreimin, ac Eisteddfod, a chyfreithia, yr oedd y plwyfolion yn disgwyl cân gan Robin, a byddai sôn amdani am wythnosau ar ôl hynny. Ymddangosodd rhai o'r caneuon yn y Golofn Gymreig yn un o'r papurau lleol, er mawr falchder a rhyfeddod i'r plwyfolion, a byth oddi ar hynny teimlai Robin ei fod yn Rhywun. Yn y siop waith—neu "Weithdy Ceridwen," fel y galwai Robin hi—hongiai rhyw ddeugain o godau Eisteddfodol fel sgalps yr Indiaid Cochion mewn wig-wam, yn arwyddion gweledig o wrhydri awenyddol y prydydd. Nid oedd nemor Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Sir lle yr oedd Robin yn anhysbys. Nid oedd, mae'n wir, wedi ennill Cadair, na Choron, na Thlws; ond yr oedd wedi ennill y gwobrau canlynol, ymysg eraill:— Gwobr o dri gini am Farwnad i Frederick Basset, Ysw., Y.H., o'r Plas Mawr, yn Eisteddfod Llanelwid (rhoddedig gan y weddw).

Gwobr o ddau gini yn Eisteddfod y Cwrt am Bryddest (heb fod dan 400 na thros 600 o linellau o hyd) ar "Caleb."

Gwobr o gini yn Eisteddfod Llangoediog am y chwech pennill gorau i'r Garreg Fawr, gerllaw'r pentref hwnnw.

Gwobr o goron yn Eisteddfod Llanelwid am englyn i'r Dderwen Gam, ynghanol y pentref; ynghyd ag eraill, "too numerous to mention," ys dywed papurau acshwn. Er cymaint o wobrau a gipiwyd gan Robin, y mae eto heb gyrraedd ei hanner cant, ac felly nid yw ond megis ar drothwy ei yrfa farddonol. Yn wir, tybia llawer y bydd Robin wedi ennill Can Punt drwy farddoni cyn diwedd ei ddydd. Mor falch fyddai llawer i fardd Saesneg, sydd a mwy o sôn amdano, pe gallai wneud yr un peth!

Pan yw Robin yn paratoi ar gyfer rhyw gystadleuaeth, daw'r holl blwyf i wybod am hynny, oblegid, ar achlysur o'r fath, dengys y prydydd yn ei ymarweddiad ei fod mewn dwfn gyngor â'r Awen. Cerdd ar yr heol a'i lygaid tua'r llawr; nid edwyn ei gymydog agosaf ar y ffordd; clywir ef yn mwmian rhywbeth wrtho ei hunan, a gwelir ef 'nawr ac eilwaith yn rhifo'r sillau ar ben ei fysedd. A phan ganfyddir ei ystumiau dywed un o'r cymydogion wrth y llall:

"Mae Robin bach wrthi eto! Gewch chi weld y daw'r gadair i Lanelwid cyn y dybennith y teiliwr â barddoni!"

Un arall o hynodion Robin yw ei ysfa i adrodd ei bennill neu ei englyn diwethaf wrth y cyntaf a ddaw ar ei draws, a gofyn ei farn amdano. Nid yw Robin yn malio pwy fydd "oen y poethoffrwm." Jên ei wraig—dynes dawel, amyneddgar—sydd fynychaf yn cael ei haberthu. Erbyn hyn y mae hi wedi cynefino ag ef, ac y mae Robin yn dweud ei bod wedi yfed digon o gawl o bair Ceridwen i nofio llong. Un amser yr oedd tuedd yn Jên i wrthryfela yn erbyn Robin a'i farddoniaeth. Ychydig ar ôl iddi briodi, deuai Robin a'i rigwm newyddaf,—weithiau pan fyddai hi ar ganol ffwrno bara neu grasu teisen,—a byddai hithau yn gwrthod gwrando ac yn gofyn iddo gadw ffrwyth ei awen hyd oni ddelai amser cyfaddas. Yna âi Robin i'r Red Lion, lle caffai yn wastad dderbyniad croesawus.

"Mae'n well gen i losgi ffwrned o fara," medd Jên, yr hon sydd yn fenyw ymarferol a llygadgraff, "na hala Robin i'r Red Lion; wa'th mi wn beth fydd y golled gyda'r bara, ond dyn a ŵyr faint gostith dwarnod yn y tafarn!"

Y mae Robin bob amser yn gofyn, ar ôl darllen ei bennill neu ei englyn:

"Nawr, 'y merch i, beth wyt ti'n feddwl am y pennill hyn 'nawr? Wyt ti'n meddwl ei fod e'n ddigon da?"

Un tro cyn iddi ddyfod i adnabod ei gŵr yn well, penderfynodd Jên ddangos ei bod yn ddynes o farn addfed ar bethau llenyddol, ac atebodd:

"Wel, Robin bach, 'rwyt ti'n gwbod yn well na fi, ond fe allwn i feddwl y byse'n llawer rhwyddach i ddweyd hynna heb iwso'r farddoniaeth."

Bu Robin bron llewygu wrth ei chlywed, ac ni cheisiodd Jên byth mwyach feirniadu barddoniaeth ei gŵr, ac y mae gan Robin feddwl uchel iawn am ei chwaeth a'i barn mewn llenyddiaeth.

Ond os na fydd y wraig wrth law, dyn helpo'r cymdogion! Mae Robin, ar ôl gwneud pennill, fel iâr wedi dodwy—mae'n rhaid iddo glochdar nes y daw'r holl ardal i wybod am yr wy! Yr unig un sydd yn cael llonydd ganddo yw Nat. Mae blynyddoedd oddi ar pan fu Robin yn yr efail, ac nid yw yn ymddiddan byth â'r gof, hyd yn oed yn y Red Lion, os na fydd rhaid. Flynyddoedd yn ôl yr oedd Robin yn galed wrthi yn gorffen ei Bryddest—ei Bryddest fuddugol, fel y digwyddodd,—ar "Caleb." Mae'n debyg na cheir llawer o hanes y gŵr da hwnnw mewn Beibl nac esboniad, ac yr oedd y teiliwr mewn cryn drafferth ynghylch cyfansoddi Pryddest ar y testun heb fod dan 400 o linellau. Ar y ffordd adref o Ffair Fedi, gerllaw'r efail, cafodd Robin weledigaeth newydd, yr hon a'i galluogodd i ddwyn y Bryddest "i fwtwn," ys dywedodd yntau. Eisteddodd ar ochr y clawdd, ac ysgrifennodd y llinellau ar gefn envelope, rhag iddo eu hanghofio. Yna rhedodd, yn ôl ei arfer, i'r tŷ nesaf i'w darllen—a'r efail, fel y digwyddodd, oedd hwnnw. Cyn cyfarch Nat, dyma'r teiliwr yn dechrau adrodd y llinellau—"yn bwrlwmu," meddai Nat wrth adrodd yr hanes, "fel potel o ddŵr wyneb wared heb gorc yn ei gwddwg. Pwysodd Nat ar ei forthwyl yn erbyn yr eingion, a gwrandawodd yn ddistaw ac yn ddifrifol hyd nes i Robin orffen.

"Wyt ti'n well 'nawr, Robin bach?" meddai o'r diwedd yn dyner, fel pe yn annerch dyn claf.

"Beth wyt ti'n feddwl?" gofynnai Robin yn syn.

"Wyt ti ddim wedi cael dy gymeryd yn waeth, 'te?" ebe Nat.

"Cal 'y nghymeryd yn waeth?" meddai Robin. "Dwy'i ddim yn dy ddeall di!"

"O," ebe Nat yn araf, "meddwl own i fod dy synwyr di wedi drysu ar ôl cwrw Llangoediog."

"Nag ydyw'n synwyr i wedi drysu!" llefai Robin. Ond adrodd yr own ddiwedd y Bryddest ar Galep."

"O, dyna beth oedd gen ti," atebai Nat. "Fe glywes i well Pryddest na honna ar Galep pwy ddwarnod 'na gyda Gwilym Coediog."

"Odi e ddim yn hala mewn, os bosib?" gofynnai Robin. "Wel, mi fuodd yn adrodd peth ohoni i fi pwy nosweth 'na, yn y Black Ox yn Llangoediog," ebe Nat.

"Wyt ti'n cofio peth ohoni?" gofynnai'r teiliwr yn eiddigeddus

"Nag w i, na chyffra'i," meddai Nat. "Ond arhosa fyned, 'rwy'n meddwl 'y mod i'n cofio'r ddwy lein dwetha yndi hi!"

"Ffordd mae'n nhw'n mynd?" gofynnai Robin.

"Cofia di na ddwedi di 'te, i ti ga'l gwbod gen i, neu cha i byth faddeuant gan Gwilym!" dywedai Nat.

"Na ddweda'n wir i ti, tawn i'n ateb barn," ebe'r teiliwr. "Wel, fel hyn oe'n nhw'n mynd, os wy'n cofio'n iawn," ebe Nat:—

"Mae Galep ar galap yn malio dim grot
Am 'rhen deiliwr llibin sy'n ffeilu gneyd cot."

Arhosodd Robin am funud yn edrych ar Nat, heb allu credu yn iawn ar unwaith fod y gof yn meiddio taflu'r fath sarhad arno—canys yr oedd gwell gair i Robin fel prydydd nag fel teiliwr. Yna trodd yn sarrug at y drws, ac aeth allan gan adael Nat yn pwyso ar ei forthwyl, a gwên ddireidus ar ei wyneb du!

PENNOD XI.
FFOLANT I GWLADUS.

SHWD ych chi heno, Robert Williams?" meddai'r ciwrat, ar ôl cyrraedd tŷ'r teiliwr.

"Sut yr ydach chi, syr," ebe'r teiliwr, yr hwn a ddefnyddiai bob amser ddullwedd y Wyndodeg wrth siarad, gan gredu fod hynny yn gweddu prydydd a llenor yn well. "Sut yr ydach chi, syr, ystalwm?"

"Eisie'ch gweld chi sy arna i ar fater preifet," meddai'r ciwrat.

"Mater cyfrinachol?" ebe'r teiliwr. "Deuwch gyda mi i'r ystafell nesaf i mewn. Waeth i mi heb geisio cael ymgom hefo neb yn y gegin yma. Deuwch i mewn i Weithdy Ceridwen'." "Beth allaf wneud eroch chwi?" gofynnai Robin, pan gyrhaeddwyd diogelwch y siop waith. "Eisteddwch i lawr ger y tân yn y gadair freichiau, tra eisteddaf finnau yn hon. Dwy gadair fendigedig,—go dda, ynte, Mr. Rowlands?"

"Wel, Robert Williams," ebe'r ciwrat yn swil, "'rwy'n clywed eich bod chi'n gneyd barddoniaeth i rai sydd a'i eisiau fe."

"Ydwyf," atebai'r teiliwr, "mae rhai hogiau a genethod weithiau yn dyfod ataf i ofyn am gyfarwyddyd pa fodd i ymddwyn ym mhalas Tydain Tad Awen."

"Wel," meddai'r ciwrat, "eisiau cwpwl o benillion sy arna'i i ddodi ar ffolant."

"Felly," atebai'r teiliwr yn foddhaus. "Rhieingerdd fechan, aie? Pa sawl llinell ddymunwch iddi fod? Mae gennyf gerdd fechan dlos ar ei chetyn . . .

"O, dou neu dri phennill fydde'n ddigon i fi, gwlei," ebe'r ciwrat.

"A, ie!" dywedai Robin, "a fuasai'n well gennych benillion na chywydd, dywedwch? Mae'r mesur cywydd yn dygymod yn ofnatsan â Chŵyn Serch, fel y gwyddai'r hen Feirddion yn dda, er bod drychfeddyliau swynol wedi eu rhoddi cyn hyn ar ffurf Penillion Telyn."

"Stim ots p'un, lawer," meddai'r ciwrat, "yr un fydd yn rhoi lleia' o drwbwl i chi."

"Trwbwl i fi!" ebe'r teiliwr yn fawreddog. "Do's dim yn rhoddi trwbwl i fi—ond rhyddiaith. Gallaf farddoni mor naturiol ag aderyn yn pyncio:

'A'm cân yn rhedeg i'm cof
Yn winaidd awen ynof,'

fel y deudodd yr hen Ddafydd."

"Falle taw penillion fyddai orau," meddai'r ciwrat, er na wyddai, druan, beth oedd y gwahaniaeth rhwng mesur cywydd a mesur salm.

"A beth yw enw y rhiain?" gofynnai Robin.

"Do's dim rhaid i fi ddweud hynny?" gofynnai'r ciwrat, gan wrido.

"Oes, yn siŵr," atebai'r teiliwr. "Wrth gwrs, mae gennym enghreifftiau lle mae beirddion wedi ymfodloni ar roddi ffug-enw i wrthrych eu serch. Geilw Dafydd ei Forfudd yn Wen, fel y gwna yn y llinellau:

Un wyf, pan bwyf heb Wen,
Afrywiog heb fawr awen.'

A chân Mynyddog am ei Wenno. Ac os dymunech mi a'i galwaf yn Wen neu yn Forfudd, neu yr un enw a fynnoch, ond yr enwau bastardaidd Saesneg sydd erbyn heddiw wedi ymgripian i gydarfer y werinos."

"Wel, galwch hi'n Gwladus," sisialai'r ciwrat, fel pe bai ofn arno ddweud ei henw, a chan wrido hyd at ei ddeuclust.

"O'r gore," ebe'r teiliwr. "Gwladus! Enw reit glên i chi:

Mae dweud ei henw ar hin oer
Yn gwneud i'm corff gynhesu.

Gwladus! Enw gwir Gymreig-mae'n odli â'melys,' 'Lewys'—nid Lewys' yw'ch enw chwi, ie fe?"

"Nage," meddai Rowlands, "William yw'n enw i." "Gresyn, gresyn!" ebe'r prydydd, "piti garw am hynny, oblegid basai'r odl yn naturiol a chymwys; ond ni wiw i ni feddwl am hynny 'rwan. Beth ydyw lliw gwallt y feinwen?"

"Dŵn i ddim beth yw'r enw yn Gwmra'g," meddai'r ciwrat. "Auburn yw'r enw gyda'r Saeson."

"Pa fath liw yw'r oborn?" gofynnai Robin. "Mae gennym yn Gymraeg gyflawnder dihysbydd o enwau rhagorol ac ysblennydd ar liwiau. Chwi glywsoch yr hen rigwm, mae'n dra thebyg gennyf:

Giâr fach bert yw'n ngiâr fach i,
Coch a gwyn a melyn a du?

'Rwan deudwch i mi, coch neu wyn neu felyn neu ddu yw pluf eich giâr fach chwi?"

"Dyw e ddim yn goch nag yn felyn," ebe'r ciwrat yn ddryslyd. "Rhywbeth rhwng y ddou.'

"Aie? Gwawrgoch neu ruddaur, ynte? Arhoswch am eiliad," meddai Robin, gan ysgrifennu'n frysiog ar ddarn o bapur, "i mi gael gosod y ffeithiau hyn ar gof a chadw. Enw—Gwladus; gwallt—gwawrgoch? Ie, ewch ymlaen hefo'ch disgrifiad. Pa liw yw ei llygaid?"

"O dyna lawn digon, Robert Williams," dywedai Mr. Rowlands, "tynnwch ar eich dychymyg am y rhest."

"O'r gore ynte," ebe'r prydydd. "Pa bryd y byddwch yn ymofyn y penillion, oblegid credwyf mai Penillion Telyn a ddymunech gael?"

"A allwn eu cael erbyn fory?" gofynnai'r ciwrat.

"Cewch yn reit siŵr," ebe'r teiliwr. "Heno os hoffech alw ym mhen awr neu ddwy."

"Wel, heno fydde'n ore," ebe'r ciwrat. "Mi alwa' ar ôl y wasanaeth hwyrol yn yr eglwys."

"Bydd y penillion yn eich disgwyl," dywedai'r teiliwr yn bendant, gan godi ar ei draed a gosod ei bensil yn ei logell. Cododd Mr. Rowlands hefyd yn araf, gan fwmian rhyw—beth am bris y penillion.

"Ynghrog y bo'r pris!" llefai Robin. "Nid peth i'w brynu a'i werthu fel llwdn mewn marchnad neu frethyn mewn maelfa ydyw ffrwyth yr awen wir! Ond ar ôl i chwi glywed y penillion, gallwch roddi i'r bardd unrhyw gydnabyddiaeth a dybiech yn deilwng, fel y gwnâi Tywysogion Cymru yn yr hen oesoedd.

Ai er gwobr neu er ryw ged
Yr wylodd Tudur Aled?

Na, syr; pan fyddaf fi yn cystadlu, am y clod ac nid am y god yr ymdrechaf. A hyn sydd wir am holl Feib yr Awen. "Am y dorch yr ymdrechant." Nos dawch, syr—Jên, tyrd â channwyll yma i oleuo'r gŵr parchedig dros y trothwy."

"Ie, Mr. Rowlands," meddai Jên; "meindwch na chwmpwch chi yn erbyn y bwced a'r golchon 'na ar bwys y drws."

"Good night, Jên Williams," ebe'r ciwrat, "mi alwa eto cyn pen dwy awr."

Nid cynt y cafodd Robin lonydd nag yr ymaflodd yn ei waith. Ysgrifennai air neu ddau, yna cerddai oddi amgylch yr ystafell fel llew mewn cell, yna ychwanegai air neu ddau, yna croesai linell allan a roddai un arall yn ei lle. Ar ôl awr o ymdrech galed, rhedodd at Jên i'r gegin.

"Jên, Jên," llefai'n gynhyrfus, gan anghofio yn ei wylltineb ei Gymraeg clasurol, "mae genni gwpwl o benillion yma, a fe licwn gael dy farn onest di amdeny nhw, pan gei di amser." "O, mae gen i amser 'nawr, Robin bach," atebai Jên gan eistedd i lawr.

"A wyt yn siŵr, 'rwan?" meddai, gan wisgo ei urddas barddonol fel mantell amdano, "oblegid gwnaiff y tro rywbryd eto."

"O na," ebe Jên, "rwy bron marw eisiau clywed nhw." "O'r gore," meddai'r prydydd, "cofia mai dy farn onest a geisiaf, neu ni wnaf ddarllen y penillion i ti."

"O, mi ddweda i beth w i yn feddwl amdeny' nhw," atebai Jên, "yn go glou."

"Penillion ydan nhw," meddai Robin, "i'w rhoddi ar ffolant at ferch ieuanc o'r enw Gwladus."

"Neis iawn," ebe Jên.

"Ar y dôn Nos Galan' yr ysgrifennwyd nhw, yn ôl dull yr hen Benillion Telyn," ychwanegai Robin.

"Fel y rhai yn y llyfr coch swllt 'na," ebe Jên, yn awyddus i brofi ei bod yn feirniad deallgar.

"Ie'n siŵr," atebai'r teiliwr, "fel y rhai glywest ti fi'n darllen o lyfr y Proffeswr Siencyn Tomos o Fangor. Dyma fel y rhedant:—

I.


Nid oes imi ond dau elyn—
B'le bynnag af gwna'r rhain fy nilyn;
Nid ŷnt ond dy lygaid tirion
A'm trywanant trwy fy nghalon.

II.


Clywais unwaith enwi rhywun
Oedd a blodau yn ei dilyn;
Hawdd yw credu hynny'n ddilys
Gan bob un a welodd Gwladus.

III.



Melys ydyw addfed 'falau
Pan yn byngad mewn perllannau;
Ond i'm meddwl mil mwy melys
Ydyw cusan pur fy Ngwladus,

IV.


Pleth o fellt yw gwallt fy meinwen,
Eira purwyn yw ei thalcen;
Ceiros cochion ei dwy wefus,—
Dyna lun fy nghariad Gwladus.


"Beth wyt ti'n feddwl amdanynt," gofynnai Robin ar ôl gorffen eu darllen.

"Mae'n nhw'n ardderchog, Robin," atebai Jên. "Dyna'r rhai gore 'nest ti ario'd, yn ôl 'y meddwl i. Mae'n nhw'n llawer pertach na rheiny yn y llyfr coch."

"O, na, na!" tystiai Robin, a gwên foddhaus ar ei wyneb tenau. "Mae hynyna yn ormod i ddweyd."

"Nag yw'n wir," ebe Jên yn benderfynol, "mae nhw'n biwtiffwl."

"Rwy'n credu fy hun," awgrymai Robin, "fod naws yr hen Feirddion arnynt. Ond os ydynt cystal â'r hen Benillion, ni allaf grefu am ragorach canmoliaeth."

"Wel, yn ôl 'y marn i," meddai Jên, gan godi ar ei thraed, "'do's dim siâr rhynt caneuon y llyfr a nhw!"

"Wyt ti'n meddwl hynny, 'rwan?" gofynnai Robin, gan estyn ei bum troedfedd a phedair modfedd i'w hyd mwyaf. "Wel, a dweyd y gwir i ti, 'rwyf bron credu hynny fy hun weithiau yn enwedig y ddau bennill blaenaf. Ac yn wir mae'r ddau olaf mor syml, mor naturiol, mor llawn o asbri a nwyfiant a thynerwch serch . . .

Ond cyn iddo ddibennu ei frawddeg curodd Mr. Rowlands wrth y drws. Darllenwyd y penillion drachefn yng 'Ngweith-dy Ceridwen.' Bodlonwyd y ciwrat ynddynt, ac, wrth ymadael, gwasgodd hanner coron ar gledr llaw y prydydd.

"Hanner coron?" ebe Robin yn syn, wrtho ei hun. "Hwn yw un hael, hyn yw 'nhyb.' Ond cafodd werth ei arian yn llawn."

PENNOD XII.
GWLADUS YN ATEB.

CAFODD Leisa waith caled i beidio dweud wrth Gwladus am ei helynt gyda Mr. Rowlands; ond chwarae teg iddi, cadwodd y gyfrinach yn anrhydeddus. Eto, hawdd oedd gwybod oddi wrth ei hymddygiad fod rhywbeth neu gilydd "yn y gwynt." Ni allai edrych ar Gwladus heb dorri allan i chwerthin, nes o'r diwedd i Mrs. Morris ddweud wrthi yn ei ffordd hanner ceintachlyd:

"Yn enw dyn, Leisa fach, beth sy'n bod arnoch chi?"

"Stim byd yn bod arna i, mystres fach," ebe Leisa gan chwerthin yn uchel, "ond 'y mod i wedi ca'l ffolant."

"Ca'l ffolant, wir!" meddai Mrs. Morris. "Mae'n hen bryd i ryw hen lol fel 'na fynd ma's o'r wlad. 'Rwy'n synnu at Mr. Morgans ei fod e'n cadw shwd ffwlbri yn y siop."

Bore dradwy, er syndod i Gwladus, daeth Leisa ati yn gynnar ar ôl brecwast a pharsel bach yn ei llaw.

"Dyma rwbeth dda'th i chi gyda'r post, Miss Bowen," meddai gyda gwên.

"Beth yn enw'r annwyl all hwn fod?" ebe Gwladus gan ryfeddu. "Ffolant," meddai wedi agor y parsel.

"A phenillion!" ychwanegai ym mhen ychydig, a'r wên fach harddaf yn y byd yn chwarae ar ei gwefusau.

"Odych chi'n ei lico hi?" gofynnai Leisa gyda balchder. Yr oedd Gwladus wedi anghofio Leisa.

"Lico peth?" meddai.

"Lico'r ffolant!" atebai Leisa.

"Shwd gwyddoch chi taw ffolant o'dd hi?" gofynnai Gwladus.

"Hi! hi!" ebe Leisa, ""rown i'n gwbod."

"Ond shwd gwyddech chi?" gofynnai Gwladus.

"O, fi prynodd hi iddo fe, hi! hi! hi!" atebai Leisa.

"Wel, pwy ga' i ddweyd yw'r fe?" ebe Gwladus.

"Wyddoch chi ddim?" gofynnai Leisa.

"Na wn i," atebai Gwladus. "Shwd galla i wbod?"

"Allwch chi ddim sbecto?" meddai Leisa.

"Na alla i," atebai Gwladus, "a 'stim ots pwy halodd hi."

"O's ots wrth gwrs," meddai Leisa, "wa'th mae'n rhaid i chi hala barddoniaeth 'nôl ato fe."

"Nonsens, Leisa," atebai Gwladus, "odych chi'n meddwl 'y mod i'n mynd i ateb rhyw ddwli fel hyn?"

"Nid dwli yw e," meddai Leisa, "a chofiwch chi ei fod e'n beth anlwcus iawn i beidio ateb ffolant."

"Anlwcus?"

"Ie," meddai Leisa. "Rwy'n cofio pan own i'n ail forwyn yn y Fron i fi ga'l ffolant, ac i fi beidio hala ateb iddi; a chyn pen dou fis yr own wedi torri ar 'y nghyflog, a'r C'langaea ar ôl hyn, mi gytunes i fynd i dri lle, a gorffid i fi hala'r ern yn ôl i'r tri!"

"Ond shwd galla i ateb ffolant pan nag o's enw neb wrthi?" gofynnai Gwladus.

"O, 'ro'dd e'n gwbod y byswn i'n gweyd wrthoch chi pwy oedd e," atebai'r llaethwraig.

"Wel, 'dych chi ddim wedi gweyd eto," meddai Gwladus. "Ody chi'n addo hala ateb 'te?" atebai Leisa.

"Wel," meddai Gwladus gyda gwên, "falle gna i 'te, gan eich bod chi mor daer."

"Mr. Rowlands y ciwrat, hi! hi! hi!" dywedai Leisa.

Syrthiodd wynepryd Gwladus. Nid oedd wedi meddwl am y ciwrat. Yr oedd yn amlwg ei bod wedi disgwyl clywed rhyw enw arall—Benni Bach, feallai, neu Arthur Jones.

"Mr. Rowlands!" ebe Gwladus.

"Hi! hi!" medde Leisa, "doech chi ddim yn meddwl am-dano fe?"

"Wel, nag own," atebai Gwladus, dipyn allan o'i chof. "Rown i'n meddwl fod gydag e fwy o synwyr nag i hala'r fath ddwli."

"Dwli?" gofynnai Leisa. "Mae pawb yn hala ffolant ffordd hyn a mae Morgans y Siop yn eu gwerthu nhw, a mae e'n ddiacon!"

"O, wel," meddai Gwladus, gan chwerthin, "mae'n rhaid fod y peth yn iawn gan fod diacon yn gwerthu ffolante."

"At Robin ewch chi i ga'l y farddoniaeth?" gofynnai Leisa.

"At Robin?" meddai Gwladus yn syn. "Ody merched ifenc yn mynd at Robin i ga'l barddoniaeth?"

Yr oedd llawer o wawd a dirmyg yn y gofyniad. Ac yr oedd hyn yn fwy rhyfedd am fod Gwladus yn hoff iawn o Rieingerdd Ceiriog, lle'r â Myfanwy i ofyn peithynen at Hywel y Bardd. Ond y mae pethau yn edrych yn wahanol iawn mewn bywyd i'r hyn ydynt mewn Rhieingerdd.

"Odyn, wrth gwrs," atebai Leisa, "do's neb arall yn werth dim baw am farddoniaeth.

"Wel, 'daf fi ddim ato fe, 'ta beth," ebe Gwladus. "Fe wnaf i'n marddoniaeth iddo 'yn hunan, ne hala i ddim o gwbwl!"

"Allwch chi sgrifennu penillion?" gofynnai Leisa, a'i llygaid fel afalau yn ei phen.

"Galla',—rhyw fath o benillion," atebai Gwladus yn ysgafn.

"Peth mowr yw ca'l eich codi yn y colej!" ebe Leisa. "Chlywes i ddim sôn am un feniw arall ond Cyrnogwen o'dd yn gallu gwneyd hynny. Shwd oech chi'n lico barddoniaeth Robin?"

"Weles i ddim o'i waith e eto," meddai Gwladus.

"Do, wrth gwrs!" ebe Leisa, "wa'th fe sgrifennodd y farddoniaeth ar eich ffolant chi i Mr. Rowlands."

"Shwd gwyddoch chi hynny?" gofynnai Gwladus.

"O, wi'n gwbod yn sblended," atebai Leisa, "wa'th fe wedws Mr. Rowlands wrtha i!"

"Rych chi ac ynte dipyn o bartners, mi wela'," ebe Gwladus.

"Fe allech chi ga'l gwa'th gŵr nag e, Miss Bowen," meddai Leisa yn gyfrinachol, "er bod ei wddwg e mor fain.

"O mi lycech 'y ngweld i'n ei briodi e?" gofynnai Gwladus yn wawdlyd.

"Wel, mae'n ddyn neis caredig," ebe Leisa yn benderfynol, "er nad w i ddim yn lico'r ffeiradon 'ma fel arfer, ond mae Mr. Rowlands shwd ddyn bach isel, ac yn siarad â phawb yn Gwmra'g jist fel pregethwr Disenters."

"Leisa," llefai Mrs. Morris yn ei llais cwynfanus o'r neuadd, "beth ych chi'n neyd yn balban man yna o hyd, a'r holl waith yn eich disgwyl chi? O's gyda chi ddim rhytach gwaith na chlebran a chwerthin ar genol glanhau'r gegin? 'Rych chi'n gallu sefyllan drwy'r bore, pan ddylech chi fod yn torri pen y gwaith, a dyna lle y byddwch chi heno yn llawn ffair a ffwdan i gyd yn treio dibennu'r gwaith mewn pryd i fynd i'r pentre ac yn wasto canhwylle. Gwnewch hast yn y fyned, wa'th 'dych ddim wedi golchi'r llestri brecwast yto.'

"O'r gore, mystres fach," ebe Leisa'n ddigyffro ei gwala, "me fydda i'n barod miwn wincad.—-Miss Bowen, gan ostwng ei llais, "ga' i weld y farddoniaeth cyn i chi hala fe bant?"

"Cewch, os licwch chi," meddai Gwladus.

"O, licwn, wrth gwrs!" ebe Leisa, "Ga' i fynd i brynu'r ffolant i chi hala hi'n ôl?"

"Dir gaton ni, na chewch!" atebai Gwladus yn gyflym. "Mi sgrifenna i'r farddoniaeth ar y ffolant hyn, a mi hala hi iddo fe'n ôl."

"Dych chi ddim yn mynd i hala honna'n ôl, os bosib!" ebe Leisa. "Mi roeodd hanner coron amdeni!"

"Odw, wrth gwrs," meddai Gwladus. "Doech chi ddim yn meddwl y byswn i'n ei chadw hi?"

"Wel, own i," dywedai Leisa. "Ond dyna—'do's dim dal beth 'neiff merch ifanc sy wedi ca'l ysgol!"

Ar ôl te, darllenodd Gwladus y "farddoniaeth" i Leisa, a chyda'r nos aeth Leisa â'r ffolant i'r post, a'r penillion hyn wedi eu hysgrifennu arni:—

I.


Os fy llygaid yw'r gelynion
A'th drywanant drwy dy galon,
Gochel rhagddynt, enaid gwirion—
Gwell yw cadw rhag gelynion.


II.


Blodau gwynion oedd yn dilyn
Olion camre ysgafn Rhywun;
Ni ches i'r fath dynged felys—
'Deryn du sy'n canlyn Gwladus.

III.


Os fy ngwefus sy fel ceiros
Yn dy ddenu ati'n agos,
Cofia, 'r 'deryn du, mor galed
Yw calonnau ceiros addfed!

IV.


Gwyn yw'r eira ar Eryri—
Gwynder sydd yn cuddio oerni
Oerach nag oer eira'r mynydd
Calon Gwladus at y prydydd.

V.


Gwir fod 'falau pêr Glan Tywi
Dan y dant fel mêl yn toddi;
Her it ddweud ai sur ai melys
Ydyw'r cusan sydd gan Gwladus!


"Wir, Miss Bowen," meddai Leisa, ar ôl clywed y penillion, "rych wedi ffysto'r hen Robin yn lân! A chi na'th rheina'ch hunan fach?""

"Ie, wrth gwrs," atebai Gwladus, "pam 'rych chi'n gofyn?"

"Wel, na chyffra i, 'daf fi ddim yto at Robin, wa'th 'rych chi'n gallu prydyddu'n well na Watcyn Wyn."

PENNOD XIII.
LLYTHYRAU GWLADUS AT BOB.

NI cheisiaf roddi hanes manwl o'r plwyf a'r plwyfolion yn ystod arhosiad Gwladus yn y Gelli, canys oni cheir y cyfan yn ysgrifenedig yn Nyddiadur Dafi Jones, os teimla neb yn gywrain yn ei gylch? Yno gwelir, mewn du a gwyn, pwy bryd y cynhaliwyd y preimin yng Nghoed Weddus, a phwy oedd yr aradwyr gwobrwyedig; beth oedd testun Mr. Thomas yn Salem Sul ar ôl Sul, a phwy bryd y cyhoeddwyd cyfres o'i bregethau ar y Thesaloniaid, ar gais yr eglwys, yn llyfr hanner coron; pwy adeg y dechreuwyd plannu'r ardd, a phwy ddydd o'r flwyddyn yr heuwyd y gwenith gwanwyn, a'r ceirch, a'r haidd; pwy bryd y clywyd y gwcw gyntaf, a phwy noswaith y bu farw gŵr Gwern-y-Gaseg.

Yn agor o'm blaen wrth ysgrifennu gorwedd rhai o lythyrau Gwladus at Bob ei brawd yn Neheudir Affrica; ac ni wn am well ffordd i adrodd hanes ac esbonio cymeriad Gwladus—oblegid amdani hi yn bennaf yr wyf am sôn—na rhoddi dyfyniadau ohonynt yma. Dyfyniadau ydynt, cofier; oblegid yr oedd y llythyrau yn llawer meithach nag yr ymddangosant yma. Mae rhannau ohonynt yn rhy gyfrinachol i'w gwneud yn gyhoeddus; mae rhannau eraill yn cyffwrdd â phersonau a phethau na ŵyr y darllenydd ddim yn eu cylch; cyfeiria rhannau eraill, drachefn, at ddigwyddiadau a helyntion yr ydys wedi adrodd eisoes. Gwn fy mod, wrth eu talfyrru, yn amddifadu y llythyrau o lawer o'u swyn a'u naturioldeb, ond rhaid i mi ymfodloni ar wneud y gorau o bethau fel y maent.

Ar yr eilfed dydd o bob mis yr ysgrifennai Gwladus at Bob. Byddai Bob yn ateb gyda throad y post, a chyrhaeddai'r atebiad ben ei daith cyn diwedd y mis. Gwariai Gwladus ddiwrnod neu ddau i gyfansoddi llythyr hir yn ôl i Bob gan nad oedd ganddi lawer i wneud, a chan y gwyddai na flinai Bob ar feithder un llythyr o Lanelwid. Gyda hyn o ragymadrodd, gwell gollwng y llythyrau i siarad drostynt eu hunain:—

IONAWR 2, 1896.—. . . 'Rwy'n teimlo'n gartrefol iawn yn y Gelli, Bob. Mae nanti yn garedig dros ben i fi—"Dyw hi ddim yn folon i'r gwynt whythu arna'i," tystia Leisa wrth Tom y Waginer. Ac am Leisa, 'dyw hi ddim yn hapus os na wnaf "forwyn fach" ohoni byth a hefyd. Yn wir mae pawb fel pe ar eu heithaf yn fy ngwneud yn gysurus . . .

Mae'r wlad yn hyfryd! 'Rwy'n synnu weithiau ffordd y gallwn ni, a ninnau yn wladwyr, fyw mewn tref fel Llundain. Rhyfedd mor ffond yw'r Cymry o'u cartrefi! 'Roedd nanti yn dweud wrthyf ddoe nad oedd wedi cysgu o'r Gelli ers pymtheg mlynedd ar hugain! Pwy ryfedd ei bod yn caru'r fan lle mae wedi gwreiddio mor ddwfn? Ac y mae rhai yn Llanelwid na fuont yn cysgu erioed tu faes i gyffiniau'r plwy. Dyna pam, gallwn feddwl, y mae'r Cymro yn teimlo fod tir Cymru yn gysegredig. Am bobl Llanelwid, 'rwy'n credu y byddai'n well ganddynt farw na cholli golwg ar yr hen fynydd tu ôl i'r pentref. Yr oedd Islwyn yn 'nabod ei genedl pan ganodd:

"Tlodi a phrinder sydd well gyda Chymru
Na gogoniant y byd a'i lawnder oll hebddi."

. . .Neithiwr bu Theophilus yma yn gofyn i fi helpu rhai o'r bobl ifenc i gael Eisteddfod a Chyngerdd ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant. Nid ydynt wedi penderfynu eto ar beth y gwariant yr elw. Addewais helpu os defnyddient yr "arian dros ben" tuag at gychwyn Darllenfa Rydd yn y pentref, ac addawodd Theophilus y byddent yn gwneud. Beth bynnag, 'rwyf wedi addo beirniadu'r canu (dyna i ti Ddynes Newydd, with a vengeance), ac yr wyf yn cynnig gwobr o goron (rhodded-ig gan Mr. Robert Bowen, o Ddeheudir Affrica), am benillion ar "Fedd Llewelyn ein Llyw Ola"."

CHWEFROR 2.—. . . Wedi ysgrifennu atat o'r blaen yr wyf wedi newid llawer yn fy meddwl ynghylch swyn a phrydferthwch bywyd Llanelwid. Gwelaf dy lygaid yn agor mewn syndod a siomiant; ond y mae yn rhaid i fi ddweud fy meddwl wrthyt fel pe buasem wyneb yn wyneb. O, Bob! y mae hiraeth arnaf ar dy ôl, ac er bod nanti'n garedig iawn, 'rwy'n teimlo fod gwacter mawr yn fy nghalon

. . . Ond 'rwyf wedi fy siomi yn Llanelwid. Mae cymaint o gyfnewidiadau yn cymryd lle yn arferion y bobl, hyd yn oed yn fy nghof i. Ac am yr hen ddefion diniwed oedd mewn grym yn amser tad-cu, 'does braidd sôn amdanynt erbyn heddiw. . . . Dim ond Mali'r Graig sy'n gwisgo het uchel yn Salem; mae hyd yn oed Sali Nat wedi ei rhoi heibio oddi ar pan gafodd fonet un o'r plant. Brethyn o waith gwlad oedd gwisg y bechgyn yn amser tad-cu-nid rhyw ddynwarediad o ffasiynau Lloegr. Gwisgai'r gwragedd yn syml ac yn dlws; nid mewn imitation ffurs, na hetiau salw, na dillad yn ôl ffasiwn Whitechapel. Hawdd oedd adnabod Cymro wrth ei got, a Chymraes wrth ei het a'i phais fach. Ond heddiw edrycha'r gwragedd fel Harriets Bethnal Green, a'r gwŷr fel crugyn o mutes mewn angladd yn eu cotau duon! . . .

. . .Ac am y bwyd, mae yn waeth fyth! Nid bwydydd cryf, iach, blasus, o laeth a cheirch a haidd a geir, ond te wedi ei stiwio, a bara menyn byth a hefyd. Dywed Theophilus y Cantwr ei fod e'n cofio tair cenhedlaeth o Gymry. Y gyntaf, meddai, oedd "cenhedlaeth Bili a Beto a chawl; yr ail oedd cenhedlaeth meistr a meistres a broth; a'r drydedd yw cenhedlaeth syr a madam a the!"

. . . A beth ddaeth o'r hen arferion cartrefol a champau yr aelwyd oedd gynt yn crynhoi pob aelod o'r teulu o gylch y tân ar hwyrnos gaeaf? Clywaf sôn am amser pan oedd y gweision yn eistedd ar yr aelwyd yn gwneud basgedi a chintelli a llwyau pren a rhacanau gwair, a'r morynion yn gweu sanau neu gweirio dillad. Adroddid storháys am y Tylwyth Teg a chanhwyllau cyrff, neu ddarnau o bregethau, a hanesion am bregethwyr; neu cenid hymn neu garol neu alaw Gymraeg. Ond b'le erbyn heddiw y maent oll? Nid oes gan Tom y Waginer amser i aros eiliad yn y gegin ar ôl swper. "Rho gannwyll i fi," medd wrth Leisa, "mae eisiau mynd i'r stabal arna i." Y cowman a'r crwt-allan ânt hwythau ar ei ôl, ac y mae nanti yn falch eu gweled yn mynd maes o'r tŷ! Pwy obaith sydd am fywyd gwledig os pery pethau fel hyn? Codir ysgolion ym mhob cwr o'r wlad, ond yr ydym yn esgeuluso'r gwasanaeth-ddynion. Pe bai chwant darllen arnynt, ni chânt gyfle i wneud hynny, oblegid nid oes ganddynt le i eistedd na channwyll i ddarllen wrth ei golau.—Mae'n dda gennyf fod argoel y ceir Eisteddfod dda ar ddydd Gŵyl Dewi. Carwn erbyn y gaeaf nesaf gael digon o arian i agor ystafell gyfleus, siriol, hawddgar yn y pentref lle gall y gweision a'r morynion a phobl ifainc y plwydd gyfarfod â'i gilydd. Ond cymaint gwell fuasai cael yr hen drefn yn ôl.

Ac, O, Bob, yr hyn sydd yn fy synnu fwyaf yw'r gwahaniaeth sydd yn syniad pobl at grefydd, rhagor yr hyn a fu. Gynt yr oedd crefydd yn rhan o fywyd Cymro; nid âi maes i'r cae, ni werthai mewn ffair na marchnad, heb gofio bob awr o'r dydd fod llygad Duw arno. Nid oedd yn oleuedig ei ddeall, ond yr oedd ei agosrwydd at Dduw wedi rhoddi safon uwch o'i flaen mewn bywyd na'n holl addysg a'n diwylliant ni. Nid ffasiwn oedd ei grefydd, nid dilledyn i'w wisgo a'i ddadwisgo yn ôl yr herwydd, ond prif amcan ac anghenraid ei fywyd.

Mor wahanol yw pethau erbyn hyn! Ffasiwn yw crefydd gan lawer, ac o'r braidd y gellir cael digon o wrywod ynghyd ar noswaith waith i gynnal seiet. Nos Sul diwethaf bu'n ddadl yn Salem p'un a ddylid rhoddi heibio'r cyrddau gweddi teithiol neu beidio. Er na lwyddwyd i'w difetha y tro hwn, ofnaf fod eu dyddiau wedi eu rhifo.

. . . Clywaf lawer o hanes tad-cu a mam-gu gan Theophilus ac eraill. Mae'n dda gennyf ddychmygu gweled corun moel yr hen ŵr yn plygu fel corsen o flaen gwynt nerthol pan yn gwrando rhyw bregethwr seraffaidd yn pregethu yn Salem: neu ei weled ef yn brochgáu, a mam-gu wrth ei sgil, yr holl ffordd i Grug-y-bar neu Gapel Isaac, i gwrdd cwarter neu gymanfa; neu yn gadael pob peth, gan nad pwy mor stresol y byddai hi, er mynd mewn pryd drwy'r cwm i'r cwrdd gweddi. Ond yr hyn a'm llonnodd fwyaf oedd clywed Theophilus yn adrodd fel y dysgodd tad-cu ef i ddarllen ac ysgrifennu yn yr Ysgol Sul. Dywed nanti nad oedd tad-cu wedi cael ond cwarter o ysgol erioed, ac nad oedd yn fawr o sgoler; ond mae'n dda gennyf feddwl amdano a'i fysedd celyd ar astell yr A B C yn dysgu'r wyddoreg i Theo. bach pan nad oedd na Senedd na ffeirad yn hidio dim amdano. Siarada Theophilus lawer am mam-gu—menyw drafferthus a helbulus am bob peth, meddai. Ond 'nawr ac yn y man, anghofiai'r cyfan dan ddylanwad pregeth rymus, a mynych y gwelid hi a Sara Daniel yn neidio o'u setau yn Salem, ac yn dawnsio ar yr ale, gan foliannu a chanu a gweddïo. Bûm yn sefyll uwchben ei bedd yn y fynwent dydd Sul, ac er nas gwelais hi erioed ni allwn beidio tywallt deigryn wrth feddwl amdani. . . .

. . .Yr ydym yn darllen dy erthyglau gyda blas yn Llanelwid. Mae nanti yn derbyn dau gopi o'r papur bob dydd, ac y mae tri arall yn dwad i'r plwydd. Ni chafodd un papur Llundain gymaint o gylchrediad erioed yn Llanelwid, ac 'rwy'n credu fod nanti'n barnu y codir dy gyflog pan ddaw'r golygydd i wybod am hyn! Mae Nat yn galw'n fynych i ofyn dy helynt, ac y mae yn ddoniol iawn yn disgrifio dy fywyd wrth Leisa..

. . . Ond eto 'rwy'n teimlo'n "unig ac yn goddef gorthrymder." Nid wyf byth yn derbyn llythyr ond oddi wrthyt ti. 'Rown wedi meddwl y cawswn glywed ambell waith oddi wrth rai o'n ffrindiau yn Llundain; ond nid yw Benni Bach nac Arthur Jones wedi anfon gair ataf wedi iddynt ymadael.

(Mae Bob wedi gosod marc glas mawr dan y frawddeg ddiwethaf. Fe allai ei fod yn credu fod hon yn esbonio prudd-der ac anobaith y rhan arall o'r llythyr).

PENNOD XIV.
EISTEDDFOD LLANELWID.

MAWRTH 2.—. . . O, Bob! ti fuaset wedi lico'r Eisteddfod ddoe! Daeth Arthur Jones lawr yn unig swydd o Lundain i gymryd y gadair, ac fe wnaeth shwd araith dda. 'Roedd pawb yn ei chanmol drwy'r holl le. 'Down i ddim yn meddwl y gallai Arthur siarad cystal, ac y mae gydag e'r fath lais clir a thyner! 'Rwy'n ffaelu deall paham nag yw e'n well cantwr. 'Roedd ei dad a'i fam yno, ac yr oeddynt yn edrych mor bles a hapus a balch. 'Roedd yn gwneud lles i enaid dyn weld yr hen bobl!

Cafwyd llawer cystadleuaeth ardderchog. Tom y Waginer—"Eos y Gelli" yw ei ffugenw—a gafodd y wobr am yr Unawd Tenor, ac, yn wir, nid oes ganddo lais gwael o gwbl. Bu'n dynnu tyn rhwng côr Undebol Llanelwid a chôr Llangoediog ar y brif dôn, "Mor weddaidd ar y Mynyddoedd." Ond dyfernais y wobr, ar air a chydwybod, i Langoediog,—er mawr siomiant i wŷr Llanelwid ac i mi fy hun. "Robin o'r Llwyn" a gipiodd dy wobr di am y penillion ar "Fedd Llewelyn." Cyn addurno'r Bardd, adroddodd Arthur pa fodd yr oeddit yn gobeithio dathlu Gŵyl Dewi gyda Chymry Johannesburg, ac ymysg "cymeradwyaeth fyddarol," dywedodd dy fod yn meddwl dod yn ôl cyn diwedd yr haf i ymweled â'th hen gartref. Pasiwyd penderfyniad brwdfrydig o ddiolch-garwch i ti am y wobr, a'th rodd o £5 at y Ddarllenfa.—Hen greadur rhyfedd yw Robin hefyd! Pan esgynnodd i'r llwyfan sicrhaodd fi na chyfansoddodd erioed y fath linellau o'r blaen. Credai nad oedd bai na choll ynddynt o'r dechrau i'r diwedd, a dywedai ei fod yn hollol fodlon i'r oesau a ddêl farnu ei awen wrth y penillion hyn. Siarsiodd fi i ddanfon copi atat ar fyrder, "oblegid," meddai, "er nad yw eich brawd yn fardd yn ôl braint a defod, ni fedd Cymru benbaladr feirniad craffach nag ef."

Mae Robin yn awyddus iawn i gael dy "farn onest" di am y penillion. Ti wyddost beth yw ystyr hynny, oblegid "bardd a llenor" y'i geilw Robin ei hun. Ond dyma'r penillion i ti:—

BEDD LLEWELYN EIN LLYW OLA'.

I.


Bu farw ein Llewelyn
Drwy rym estronol gledd!
Bu farw yn esgymun,
Heb weddi dros ei fedd!
Dirmygwyd ef gan fonedd
Ac eglwys gaeth ei wlad;
Ond gan y werin ffyddlon, fud,
Drwy lawer canrif ar eu hyd,
Fe gadwyd ei goffâd.

II.


Pa le mae bedd y gwron?
Nis gŵyr ond engyl nef!
Nid oes na chroes na cholofn
Yn atgof arno ef.
Fel Moesen hen, yn ddirgel,
O halog olwg dyn,
Mewn llannerch lonydd, dawel,
Fe'i claddwyd wrtho'i hun.

III.


Cymylau'r nef yn unig
A wylent uwch ei fedd,
A'r gwyntoedd trist gwynfanent
Eu mwyn alawon hedd:
A blodau gwyllt y mynydd
Mewn galar blygent ben
Ar ôl y gŵr fu farw
Dros ryddid Cymru Wen!


Mi ddylet fod wedi clywed Arthur Jones yn rigan yr hen Robin ar ôl yr Eisteddfod.

"Ydach chi'n meddwl, 'rwan, Doctor Jones," ebe Robin, "y buasai gwerthiant ar lyfr bychan o Delynegion dan yr enw Robin yn Pyncio'?"

"Gallwn feddwl y byse fe," meddai Arthur. "Oes arnoch chi whant eu cyhoeddi?"

"Y mae amryfal lenorion yn fy annog i wneud hynny," atebai Robin yn ei ddull mawreddog. "Ond y mae peth ofn arnaf gan na wybûm ddim am y fath anturiaeth. Y dychryn yw y dechrau' fel y gŵyr pob Eisteddfodwr yn dda. Beth yw eich barn onest chwi, 'rwan, Doctor, am y penillion ar Fedd Llewelyn?"

Canfûm wrth lygad Arthur ei fod yn meddwl poeni tipyn ar y prydydd.

"Wel, mae'n well gen i beidio â dweyd wrthoch chi, Robin," meddai, "wa'th 'dwyf fi ddim yn ddigon o lenor."

"Na, na, Doctor," atebai Robin, "deudwch, deudwch i mi." "Rwy'n credu," meddai Arthur yn bwyllog, "er na wn i ond ychydig am farddoniaeth, y gellid cymhwyso llawer arny' nhw."

"Ym mha fodd?" gofynnai Robin yn chwyddedig.

"Yn gyntaf," atebai Arthur, "y mae yn anghywir dweyd i Llewelyn gael ei ladd gan rym estronol gledd.' Nid â chleddyf, ond â gwaywffon, y lladdwyd Llewelyn.'

"Nid yw hynyna," meddai Robin, "ond megis hollti asgell gwybedyn. Defnyddir y gair cledd yn fynych gan feirddion i arwyddocáu marwolaeth waedlyd ddisyfyd. Neu fel y dywed y Beibl,' pawb ar a gymerant gleddyf a ddifethir â chleddyf"."

"Heblaw hynny," ychwanegai Arthur, "yr ych yn dweyd yn yr ail bennill nad oes neb ond engyl nef' yn gwybod ym mha le mae'r bedd. Eto, yn y trydydd pennill yr ych yn rhoi disgrifiad o'r angladd, gan ddweyd ei fod yn rhywle ymysg y mynyddoedd."

"Ai nid oes i fardd ei ddychymyg?" gofynnai Robin, yn gyffrous. "Ai ni ddywedir am Foesen iddo gael bedd yn rhosydd Moab, er na welodd dyn ei gynhebrwng? Pob parch i chi Doctor Jones, ond nid ydych eto ond megis plentyn sugno, heb wybod dim am reolau barddoniaeth. Ac am eich beirniadaeth, syr, nid yw ond 'cerydd o enau corrach'."

"Ond y mae'r beirniad wedi dwyn gwaeth cyhuddiad yn eich erbyn," aeth Arthur ymlaen i ddweud.

"A pha beth yw hwnnw?" gofynnai Robin,—oblegid, oherwydd prinder amser, ni ddarllenwyd y feirniadaeth ar goedd.

"Dywed fod gennych fwy o gof nag o wreiddiolder, Robin," meddai Arthur, "ac mai adlais o gân Ceiriog yw'r pennill diwethaf. Gyda chi mae'r cymylau'n wylo a'r gwynt yn cwynfan, a'r blodau yn plygu eu pen. Ond mae Ceiriog, o'ch blaen, wedi dweyd fod:

'Dagrau y cwmwl yn gwybod amdano,
A deryn y mynydd yn 'nabod y bedd;

Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed
Fod calon hen Walia yn curo'n lled wan".

"Doctor Jones!" ebe Robin, wedi ffromi yn aruthr, "yr ydach chi, neu y beirniad, wedi dwyn i'm herbyn gyhuddiad cywilyddus. Ni cheir, syr, llên-ladrad yn Llanelwid.' Fe allai i'r un drychfeddwl wibio drwy fy meddwl i a meddwl Geiriog—digwydd hynny yn fynych gyda llenorion a beirddion uchelryw. Oni chyhuddwyd Elis Wyn o lên-ladrad? Ac oni chollodd Cymru weledigaeth arall gan y Bardd Cwsg yn herwydd y cyhuddiad creulon hwnnw? Na nid lleidr yw gŵr y llodrau. Mae gennyf fi, fel pob bardd arall, hawl i alw ar natur i wylo ar ôl gwrthrych fy molawd. Oni ddywedodd hen Iolo mai ofer fuasai hau ym Môn ar ôl marw Tudur Fychan:—

'Na sonier am a dderyw
Na lafurier,—ofer yw;
Na chwardder, yn iach heirddion,
Na hauer mwy yn nhir Môn!'

Ac os galwaf ar alluoedd natur i alaru, beth a all y cymyl wneud ond wylo, neu'r gwynt ond cwynfan. Na, Doctor Jones, nid gofyn a ddylech p'un a wnaeth Ceiriog ddefnydd o ffigwr neilltuol o'm blaen i, ond pa un ai Ceiriog ai myfi a wnaeth y defnydd gorau ohono?

A haeraf, mentraf i mi
Ar Geiriog dra ragori."

A chan chwythu bygythion a chynghanedd, ymaith â Robin a'i hwyliau'n llawn o wynt, a'n gadael ninnau yn chwerthin ar ein gwaethaf. Ond, chwarae teg iddo, ni fachludodd yr haul ar ei ddigofaint. Cyn y cyngerdd daeth at Arthur, a dywedodd, gan estyn ei law:

"Doctor Jones, y mae yn wir ddrwg gennyf i mi golli fy nhymer. Hen Robin drodd yn rebel.' Dylwn fod yn eich adnabod yn well. Maddeuwch i hen fardd. 'Anghofier fy nhymer hy.' Eich llaw, Doctor Jones. 'Does neb yn teimlo'n anwylach ohonoch na fi. 'I Lanelwid eilun ych;' ac i minnau bydd hyn yn wers i roddi ffrwyn ar fy nwyd.

I'r bardd gwyllt try hyn er budd,—
Robin a gymer rybudd!"

Ac ymadawodd y ddau yn ffrindiau mawr!

Ar ôl gwneud y cownt i fyny, cafwyd fod gennym dros £20 0 elw, a chyda'th bum punt di, mae gennym £25 at gychwyn y Ddarllenfa y gaeaf nesa'. 'Chredi di ddim mor falch 'rwy'n teimlo . . .

Ar ôl y Consert, daeth Arthur Jones i'm hebrwng adref i'r Gelli, wa'th 'ro'dd nanti wedi mynd 'nôl yn gynnar. Garw fel mae e'n datblygu! Mae'n gwneud lles i fi siarad ag un mor dawel, mor synhwyrol, mor ddeallgar, ac yr oedd yn siarad mor garedig am ei rieni, ac yn dweud ei fod yn gobeithio y buaswn yn eu lico. . .

PENNOD XV.
YR EOS YN LLANELWID.

NI roddaf ragor o ddyfyniadau o lythyrau Gwladus at Bob, er y gwnaf ddefnydd ohonynt o hyn hyd y diwedd. Ceir ynddynt gyfeiriadau mynych at y digwyddiadau a adroddaf yn fy ffordd fy hun; ond ni welir ynddynt ond cipdrem unochrog ar yr helyntion a fwriadaf ddisgrifio, a bu raid i mi chwilio dyddiadur Dafi Jones, a chasglu rhai pethau oddi ar dafod-leferydd y plwyf cyn dyfod o hyd i'r holl fanylion.

Ni cheir ond y peth lleiaf o sôn am Arthur Jones yn llythyrau Gwladus o hyn allan. O'r braidd y gellir dyfod ar draws ei enw; ymgripia unwaith neu ddwy i lythyr fel pe o'i hanfodd, a llecha mewn cornel fel un a chywilydd arno ddangos ei wyneb. Ond am Rowlands y ciwrat—nid oes diwedd ar y sôn amdano! Yn awr y mae Mr. Rowlands yn gwneud hyn, bryd arall y mae Mr. Rowlands yn dweud y peth arall. Ceir llawer mwy o hanes Mr. Rowlands na hanes Gwladus, dyweder, neu Mrs. Morris. Diau fod Bob yn meddwl fod gormod o sôn am y ciwrat newydd—oblegid nid yw Bob yn or-hoff o offeiriaid—ond, er hynny, ni fynegwyd iddo mo'r hanner. Cefais lawer o drafferth yn ôl llaw cyn gwybod y cyfan, ac yr wyf yn benderfynol o ddweud yr hanes yn union fel y bu, heb ofni gwg na chrefu ffafr neb. Mae yn llawn bryd, erbyn hyn, i bobl Llanelwid gael gwybod pa sail y sydd i'r gwahanol ystorïau am Gwladus a'r ciwrat.

Cyn belled ag y gallaf fi ddeall, ar nos Sul, y diwrnod diwethaf ym mis Mawrth, y dechreuodd y cyfan. Digwyddai Mr. Rowlands a Nat fod yn cydgerdded â'i gilydd o'r pentref ar ôl cwrdd y bore.

"Mae'n dywydd hyfryd, Nathaniel Williams," ebe'r ciwrat—oblegid, er nad oedd y ddau yn ddim gwell na "ffrins gwŷr bon'ddigion," ni chymerai Mr. Rowlands y byd am beidio cyfarch pob un o'r plwyfolion ar y ffordd.

"Ody mae hi, syr," atebai Nat. "Dwy' i ddim yn cofio shwd dywydd hindda yr amser hyn o'r flwyddyn o'r blaen. Mae'n syndod pwy mor gynnar mae popeth leni! Mi glywodd Dafi Jones y gwcw wthnos yn ôl ar gaeau Coed Weddus, a mae'n nhw'n gweyd wrtho i fod yr eos yn canu yng ngho'd y Parc!"

"Do's dim shwd beth," dywedai Mr. Rowlands. "Dyw'r eos byth yn dwad ffordd hyn, ody hi?"

"Nag yw fel arfer," meddai Nat, "ond 'do's dim mwy o ddal arni hi nag sy ar y rhest o'r canwyr 'ma! Rhai rhyfedd o whit-what ydyn nhw i gyd-weithe man hyn a weithe man draw! Mi glywes gen 'y nhad iddi fod yn canu yn y Parc dair blynedd o'r bron, er nad mor gynnar â hyn, ond 'ro'dd hynny'n mhell cyn cof gen i."

"Dier mi!" ebe Mr. Rowlands, "pwy fyse'n meddwl clywed eos yn Llanelwid!"

Ni wnaeth Nat un ateb, ond trodd yr ymadrodd at ryw bwnc arall. P'un a oedd y gof yn credu'r stori sydd fwy na all neb yn awr benderfynu. 'Rwy'n lled-dybied ei fod. Beth bynnag, cyn y nos yr oedd Mr. Rowlands wedi gwneud y newydd yn esgus dros alw yn y Gelli, ac yr oedd wedi llwyddo gan Gwladus addo myned gydag ef nos drannoeth i goed y Parc i glywed yr eos.

Nos Lun a ddaeth—noson olau leuad braf, pan yw natur fel pe wedi ei gwisgo ag arian, pan nad oes chwant mynd i'r gwely ar neb, a phan hoffa plant yr ardal rodio'r caeau, dan ganu:

"Golau leuad fel y dydd,
Siencyn Dafydd ar ei hyd,
Rhifo'i blant wrth y nant,
Saith ugain ac wyth cant."

Yr oedd Mr. Rowlands dipyn yn hwyr yn cyrraedd y Gelli, gan ei fod wedi ei gadw mewn "cwrdd nos Lun cynta'r mis," yn ysgoldy'r Eglwys. Ond er hwyred ydoedd arno, yr oedd yn ddigon cynnar, oblegid dywedai nad oedd yr eos yn dechrau canu tan ganol nos. Nid yw gallt y Parc nemor o ffordd o'r Gelli. Gellir gweld y coed duon mawrion yn eglur o'r clos, fel y maent yn taflu eu cysgodion tywyll ar y cwm distaw wrth eu traed. Tuag un ar ddeg o'r gloch cychwynnodd Gwladus, a Leisa, a Mr. Rowlands ar eu siwrne. Nid oedd un o'r tri yn awyddus iawn i gychwyn, mae'n rhaid cyfaddef, a phe cawsent esgus dros beidio mynd, buasent yn falch i aros gartref. Ond cychwyn a wnaethant o'r diwedd, yn anniddig eu gwala. O'r braidd y dywedodd un air wrth y llall hyd nes y gofynnodd Leisa yn ddisymwth:

"Miss Bowen," meddai hi, "beth yw'r eos?"

"O," brysiodd Mr. Rowlands i ateb, "deryn bach sy'n canu yw e."

"Ie fe?" meddai Leisa, "ro'dd mam yn arfer gweyd 'y mod i yn gallu canu fel 'deryn."

"O'dd hi'n wir?" gofynnai Mr. Rowlands yn foesgar.

"O'dd'n wir," ebe Leisa; "a wyddoch chi pwy dderyn yw hwnnw?"

"Na wn i," meddai Mr. Rowlands yn ddiniwed.. "Brân!" meddai Leisa, gan chwerthin.

"Rhag cywilydd, Leisa!" ebe Gwladus yn sarrug, "os...

"O, gadewch iddi hi, Miss Bowen," meddai Mr. Rowlands yn llariaidd. "Mae Elizabeth a fi yn deall ein gilydd cyn heno!"

"Odyn, gwlei!" atebai Leisa, gan chwerthin drachefn. Erbyn hyn yr oeddynt wedi cyrraedd y cwm wrth odre'r Parc, ac yng ngolau'r lleuad gwelent fintai fechan o fforddolion yn aros wrth wal y Coed. Wedi cyrraedd hyd atynt, pwy a gawsant yno, er eu syndod, ond Robin o'r Llwyn a dau neu dri o'r pentrefwyr.

"Nosweth dda i chi, Robin," meddai Gwladus. "Beth sy wedi'ch tynnu chi ma's mor hwyr?"

"Nos dawch, Miss Bowen," meddai Robin, "a nos dawch i chwithau, gymrodyr. Tybed ein bod i gyd yn cyrchu at yr eos?"

"Odyn, 'roen ni'n meddwl cael ei chlywed hi," atebai Mr. Rowlands. "Wyddoch chi ble mae hi'n canu?"

"Yn ddilys," ebe'r teiliwr, "ni cheir eos—os credwn feirddion—ond mewn llwyn, ac ni cheir llwyn yn y coedydd hyn ond o gylch y llannerch werdd lle gorwedd yr hen Gromlech. Awn felly i'r fan honno, a chawn wybod wrth ei thelori mwyn ym mha lwyn yr erys Pencerddes yr Adar.

Cerdd eos a ddangosai
I mi'n bert y man y bai.

"Ie, gnewn hast," meddai Leisa, "neu falle y bydd hi wedi dibennu canu cyn yr ewn ni yno."

"Nid yw'ch llawforwyn, Miss Bowen," ebe'r teiliwr, gan droi at Gwladus, wrth ddringo i fyny ar hyd y llwybr cul drwy'r allt, "erioed wedi darllen yr hyn a ddywed y beirddion am yr eos:

Yn nyfnder nos o boen a thrais,
Y dyry lais felysaf.'

Gwyddai'r hen feirddion am bob ysgogiad o eiddo pob ysgrubliad ac edn—yn y wig ac ar y buarth. Ond ni cheir neb 'rwan yn canu i'r eos; ac nid wyf fi, brydydd trwstan, erioed wedi clywed ei chainc. Ond heno caf ei chlywed, fel y clywodd Dafydd hi, yn y coed. Er nad yw hi eto yn Fai,

Af i'r coed fel hen Ddafydd '

"A. . .a. . .a!" gwaeddai Leisa o'r tu ôl.

"Beth sy'n bod, ferch?" gofynnai Robin yn grynedig, ac iasau dychryn yn rhedeg drwyddo. Arhosai'r lleill hefyd yn ofni tynnu eu hanadl yn y cysgodion tywyll.

"A—a—a!" gwaeddai Leisa drachefn.

"Leisa! gwedwch beth sy'n bod ?" meddai Gwladus, gan gydio yn ei braich, "neu dyma finnau'n gweiddi !" "O dier! O dier!" ebe Leisa, gan dynnu ei hanadl ati, "dyna ofan ges i!"

"Do's dim eisiau i chwi weyd hynny!" atebai Gwladus dipyn yn fyr. "Ag 'rych chi wedi hala ofan arnom ninne hefyd. Beth o'dd yn bod?"

"Demshgyn ar froga nes i!" dywedai Leisa; "Ac yn 'y ngwir i, 'dallwn i byth peidio 'sgrechen wrth i glywed e dan 'y nhraed i!"

"Dowch chi, 'ngeneth i!" ebe Robin yn dadol. "Broga oedd yna, aie? Rhyfedd mor rhwydd y dychrynir y genethod! ac, ond eu dychrynu, gwaeddant, ysgrechant yn groch!" O'm rhan i fy hun, nid yn fynych y teimlaf arswyd ond pan welaf alluoedd anian yn terfysgu ! Ond rhaid i mi gyfaddef nad da gennyf weled llyffant na broga,—yn wir, temtir fii regu pan welaf eu cyrff gwenwynllyd! Ie, broga a bair regu. Nid yw'r gynghanedd yn hollawl uniawn, ond mae'r meddylrych yn gywir.—Ond atolwg, hogen, nac ysgrecha mwyach, neu fe derfi'r eos â'th dyrfau.' Ymlaen, felly, gymdeithion, i Le'r Gromlech, mor fuan ag y mae modd.

'Awn yn ffyddlawn ein ffydd
I lannerch hyfryd, lonydd.'

Cyn pen hir amser cyrhaeddwyd y man lle gorweddai hen Gromlech lwyd, fwsoglyd, a phenderfynwyd aros yno hyd ganol nos.

"Faint o amser sy cyn iddi hi ddechrau ?" gofynnai Leisa yn isel, fel pe bai yn disgwyl cantores mewn cyngerdd.

"Mae hi obeutu dechre, gwlei !" ebe'r ciwrat, gan dynnu ei oriawr allan," "mae hi 'nawr yn ugen myned rhynti a douddeg." "Wel, 'rwy i wedi blino, ta beth!" meddai Leisa, gan eistedd ar garreg uchaf y Gromlech.

"Ferch y fall!" gwaeddai Robin, a'i lygaid yn melltenu yn y goleu-leuad. "Ymswyna beth a wnelych! Na haloga'r maen cysegredig!"

Yr oedd golwg mor wyllt a dieithr ar Robin, a'r fath gyffro yn ei lais, fel y neidiodd Leisa ar unwaith i ochr Gwladus, ac ebe hi yn frawychus:

"Down i ddim yn meddwl dim drwg, Robin, yn wir, yn wir!"

"Na, na, feinir!" meddai Robin, "ni wyddost beth yr oeddit yn wneuthur, a'th anwybod yn unig a'th geidw! Ac yr wyt ti, meddant, wedi derbyn addysg! Ti,-am dy fod wedi dysgu am flynyddoedd yn yr ysgol "sothach gwannach uchelder gwynt!" Dywedwyd wrthyt, druan, am mynyddoedd y byd; ond ni wyddost ddim am hanes dy wlad dy hun! Ni chlywaist sôn am Gyfrinach y Maen Llog, na mawrion bethau barddas. Nid ynganwyd gair wrthyt am 'gyfrinion beirddion y byd,' nac am grefydd dy gyndeidiau!

'Does llef yn dweud am grefydd
Cymru Fu wrth Gymru Fydd.'

Wyddost ti fod y maen hwn, ar yr hwn y mynnet bentyrru amarch, wedi goroesi'r Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid a'r Normaniaid? Ei fod yn golofn dyst i fyrder hoedl gelynion y Brythoniaid? Ar bob gelyn trechodd yr hen Gromlechau . . .

"Hisht!" ebe Mr. Rowlands yn ddisymwth, "mae rhywbeth yn y llwyn yco."

"P'un, p'un?" gofynnai Gwladus a Leisa ar un anadl. "Hwn'co," meddai'r ciwrat, gan estyn ei fys at lwyn o gyll, ryw ugain llath oddi wrthynt.

Edrychodd pawb yn astud ar y llwyn. Clywid trwst ym mhen ychydig yn torri ar y distawrwydd poenus.

"Tw-hw, tw-hw!" meddai rhywbeth mewn llais aflafar yn y llwyn, ac ehedodd aderyn gwyn ohono yn groes i'r llannerch agored.

"Eos yw hwnna?" ebe Leisa yn llawn syndod, wrth Robin. "Ynghrog y bot, ti a'th eos!" llefai'r teiliwr yn ddigofus. "Nid yw hi ond dylluan."

"Dylluan?" meddai Leisa, "beth yw hynny?"

"Go deico di, gwdi-hw!" gwaeddai Robin.

"Ond—ond—ody'r eos ddim yma.!" gofynnai Mr. Rowlands, yn ddryslyd.

"Yma?" ebe Robin yn llidiog. "Nag yw, a' chredai neb ond ffŵl Ebrill' y clywid hi'n pyncio cyn Mai. Awn yn ôl, cyn i neb ein gweled.

"Pwy ddywedodd wrthoch chi, Mr. Rowlands?" meddai Gwladus, "fod eos yma?"

"Nathaniel y gof," ebe Mr. Rowlands, gan blygu ei ben. "A phwy ddywedodd wrthoch chi, Robin?"

"Hwn," meddai Robin, gan osod ei law ar ysgwydd un o'r pentrefwyr,

Hwn yw ef, gwn yn gynnil,
Awn ato'n syth ymhlith mil."

"A phwy ddywedodd wrthoch chi?" gofynnai Gwladus i gyfaill Robin.

"Nat," meddai hwnnw yn swil.

"Dylaswn fod yn gwybod hynny!" ebe Robin yn bruddaidd. "Pwy erioed glywodd sôn am yr eos yn canu cyn Ebrill? Ow, ow, i mi, a minnau'n fardd, gael fy nhwyllo fel hyn!"

"Peidiwch â becso, Robin bach," meddai Gwladus, oblegid canfyddai fod y teiliwr wedi teimlo i'r byw, "do's neb yn gwbod ond y ni!"

Adfywiodd hyn dipyn ar ysbryd y bardd.

"Eithaf gwir," meddai, "ac ond i ni beidio ynganu gair wrth neb am hyn, ni fydd sôn am ein pererindod ffôl. Cofiwn, ynte, gadw'n ddistaw!—

Na foed, fy ngwiw gyfoedion,
Un sôn am y noson hon!

"O'r gore!" llefai pawb gan droi i ddychwelyd adref. Mintai ddistaw oedd y "pererinion" siomedig wrth gyfeirio eu camre yn ôl. Ni ddywedodd un air o'r braidd wrth y llall, a balch oedd gan bawb gyrraedd pen eu taith.

Ond os oeddynt yn meddwl cadw'r hanes yn gêl, druain ohonynt! Cyn nos drannoeth yr oedd pawb drwy'r plwyf yn gwybod am y cyrchu i Le'r Gromlech, am ddisgwyliadau'r teiliwr, ac am ymddangosiad y gwdi-hw; ac, wrth gwrs, yr oedd Nat yn dodi ei liw ei hun ar bopeth.

"Rown i yco!" meddai Nat yn yr efail ddydd Mawrth wrth Dafi Jones, "gyda Twm, waginer y Gelli, yn gellwng yr hen gwdi-hw yn rhydd. 'Ro'dd Twm wedi'i dala hi, chi wyddoch, 'rwthnos ddwetha yn y Dderwen Gou sy ym Mharc Sgawen-Tw-hw, tw-hw,' mynte hi. Feirddion,' mynte Robin, clywch delori mwyn yr eos.' 'Tw-hw, tw-hw,' mynte'r hen gwdi-hw. 'Ond ydi hi'n llesmeiriol o brydferth? mynte Robin. Nid eos yw honna!' mynte Leisa'r Gelli. 'Beth wyddost ti am farddas?' mynte'r teiliwr bach. Ie, cantores Ceridwen yw honna.' 'Wel, mae'n canu fel gwdi-hw ta beth!' mynte Leisa, a gyda'r gair dyma Twm yn gellwng yr hen haleliwia'n rhydd. 'Ie'n wir,' meddai'r ciwrat, gwdi-hw yw hi, sownd!' 'Gwdi-hw?' mynte'r teiliwr, gwdi-hw?' a 'nôl â fe fel ci a phadell wrth i gwt. 'Dyw e ddim wedi dangos ei big tu fa's i'r tŷ heddi.

Mae Jên yn gweyd taw gwneud pryddest y mae e, ond 'rwy'n gwbod gwell am hynny, a me fyddwn ni dro cyn ca'l pip ar y gwalch yto.'

"Ie, lycoch di, Nat," ebe Dafi Jones oddi ar ben "stôl y gwrando" ar y pentan, "'do's dim o dy fath di am rigs i ga'l yn y byd!"

Ond er gwaethed tafod Nat, yr oedd profedigaeth lemach yn eu haros. Yr oedd hen, hen gweryl rhwng Robin o'r Llwyn a Gwilym Coediog, bardd y plwyf cyfagos. Cyfaddefid gan bawb yn ddiwahaniaeth mai Robin oedd wedi cael y gorau yn y "cerddi dychan" a hyrddiwyd o Langoediog i Lanelwid, ac o Lanelwid yn ôl i Langoediog. Ond clywodd Coediog y stori am y gwdi-hw, a phenderfynodd ddal ar y cyfle. Ysgrifennodd gyfres o dribannau, a bu llawer o ganu arnynt gan grytsach y wlad am wythnosau a misoedd. Nid oedd-ynddynt o unrhyw werth llenyddol, a dywedai Robin yn wawdlyd amdanynt nad oeddynt ond "penwendid rhyw dalcen slip." Ond er gwaeled eu llun, derbyniwyd hwy gyda brwdfrydedd yn Llanelwid, ac y mae rhai ohonynt ar gof a chadw yn yr ardal hyd heddiw. A phe ond er dangos rhagoriaeth Robin fel bardd ar Gwilym Coediog, rhoddaf yma rai o'r penillion y medrais eu hachub o ebargofiant. Teg, serch hynny, yw dweud mai oddi wrth Nat y cefais hwynt, ac felly y mae yn dra thebyg nad ydynt mor goeth a dichlynaidd â phan adawsant eu hawdur:

Dewch ataf, fy nghyd-Gymry,
Cewch glywed stori ddigri',
Am ffyliaid Ebrill dwyllwyd gan
Ddylluan ger y Gelli.

Un noswaith fe aeth teiliwr
A chwmni mawr eu mwstwr
I glywed eos yn y co'd
Yn canu clod ei Chrëwr.

Ac yn eu mysg yn eger
'Roedd ciwrat Eglwys Loeger
Yn falch i ddangos ei fod ef
Yn ffond o lef mor dyner.

Ni chlywsant eos fwynlon
Yn chwarae tannau'r galon,
Ond clywsant leisiau, medde nhw,
Y gwdi-hw wen, dirion.

Hwy gofiant o hyn allan—
Y bardd a'i gwmni penwan—
Na cheir yn Ebrill yn y nos
Un eos ond dylluan.

Mae pawb, o'r bron, yn chwerthin
Ar ben y teilwr Robin,
A'r ciwrat bach mewn dillad du,
A'i deulu oedd yn dilyn.

Rhof gyngor i'r lodesi,—
O, peidiwch, ar ôl hynny,
Byth gredu bardd na 'ffeirad ffôl
Sy'n dilyn 'r ôl pob dwli.


Nid oes eisiau dweud fod Mr. Rowlands mor ddigofus pan glywodd y penillion â Robin o'r Llwyn; ond am Gwladus—ni fentraf ddisgrifio ei theimladau hi!

PENNOD XVI.
"AR HYD Y NOS."

MIL a mwy o obeithion oedd y ciwrat, druan, wedi'u sylfaenu ar y "bererindod" gyda Gwladus i goed y Parc. Breuddwydiodd y buasai wedi cael cyfleustra i siarad â hi'n gyfrinachol, ac i ddweud wrthi am y teimladau nerthol oedd bron â'i lethu i'r llawr. Ond yn groes i'w ddisgwyliadau y digwyddodd pob peth. Yn lle noson felys swynol, yn gwrando ar lais eos ac yn adrodd cŵyn serch, cyfarfu ag un siomedigaeth ar ôl y llall, a gwaeth na'r cyfan, gwelodd fod Gwladus, yn ôl arfer merched, yn tueddu i'w feio ef am yr anlwc i gyd. Aeth i'r Gelli yn gynnar bore drannoeth, ond dywedwyd wrtho fod Gwladus yn dioddef oddi wrth gur yn ei phen, ac na allai ei weled. Ym mhen diwrnod neu ddau daeth i wybod am gân watwarus Gwilym Coediog, ac ni ryfeddai, ar ôl hynny, i Gwladus ei basio ar yr heol ddydd Sul heb roddi ond yr arwydd leiaf o'i hadnabyddiaeth ohono. Gyrrodd hyn Mr. Rowlands bron yn wallgof. Ni wyddai yn iawn beth i wneud. Pendrymodd lawer drwy'r nos honno uwchben y mater, gydag ocheneidiau fyrdd, ond cododd bore dydd Llun yn is ei obaith ac yn fwy llwfr ei ysbryd na chynt. Ond nos Lun, pwy gyfarfyddai gerllaw'r pentref ond Leisa'r llaethwraig. Ysgafnhaodd calon y ciwrat pan welodd ei hwyneb llydan. Aeth ymlaen ati a'i law yn estynedig, a gobaith newydd yn ei lygaid.

"Mae'n dda gen i'ch gweld chi, Lisabeth," ebe ef. "Shwd mae Miss Bowen yco?"

"Miss Bowen?" meddai Leisa. "Mi allwch ofyn hynny'n wir! Llawer 'rych chi'n hido, mi gynta, a chithe heb fod yn agos os wthnos! 'Ro'dd hi'n ddigon ma's natur o achos yr hen eos 'na wthnos i heno, ond wedi gweld y gân mae hi'n benwan holics!"

"O'dd hi ddim ma's natur wrthw i?" gofynnai'r ciwrat, yn ofnus. "Wa'th yn 'y ngwir i, nid arna i o'dd y bai!"

"Wel, alla i ddim â gweyd ar bwy o'dd y bai," atebai Leisa, "mi wn i pwy sy'n ca'l y bai gyda Miss Bowen. Fyse hi ddim wedi mynd yno o gwbwl on se i chi ofyn iddi. A mae arni ofan o hyd y daw i brawd ne' Arthur Jones ne' rai o fechgyn Llynden i w'bod am y ffordd y twylloch chi hi."

"I thwyllo hi?" llefai'r ciwrat. "Y fi yn twyllo Miss Bowen? 'Chymrwn i ddim o'r byd am neyd y fath beth."

"Wel, chi sy'n ca'l y bai ta beth," ebe Leisa yn bwyllog, "a chi geiff y bai os na ddewch chi i siarad â hi."

"Ond shwd galla i?" meddai'r ciwrat, a'i lais yn llawn anobaith. "Mae arna i ofan dwad yn agos i'r Gelli, rhag y gneith rhywun gân arall amboitu ni. A phan es i yno pwy ddwarnod 'na, ches i ddim gweld neb ond Mrs. Morris."

"O fe ddylech chi fod wedi dwad wedyn," ebe Leisa. "Do's dim siawns esbonio pethe wrthi, tawn i'n dwad," ebe'r ciwrat, "wa'th ddaw hi ddim ma's o'r tŷ, ac yn y tŷ mae Mrs. Morris gyda hi'n wastod."

"Pam na ddewch chi i gweld hi wedi nos?" awgrymai Leisa, gan ostwng ei llais yn gyfrinachol. "Mae mystres ym mynd i'r gwely'n wastod 'boitu naw o'r gloch."

"Odych chi'n meddwl," ebe Mr. Rowlands yn syn, "y byse Miss Bowen yn folon i fi ddwad yco wedi nos?"

"Wel," atebai Leisa, "nid y fi all ateb y cwestiwn, ond tawn i fel y chi, mi dreiwn i ta beth."

"Lisabeth," meddai'r ciwrat, yn daer, "tawn i'n dwad, a 'nelech chi weyd wrth Miss Bowen 'y mod i tu fa's yn dishgwl i gweld hi?"

"Gna, fi 'na i hynny yn rhwydd," ebe Leisa.

"Pwy amser ddylwn i fod yno?" gofynnai'r ciwrat drachefn. "O," atebai Leisa, ""boitu'r deg 'na, wa'th fydd mystres ddim wedi mynd i gysgu cyn hynny."

"A ble ca i wel'd Miss Bowen?" gofynnai Mr. Rowlands.

"Cnocwch chi wrth ffenest y gegin fach pan fyddwch chi'n barod," meddai Leisa, "a fe weda i wrth Miss Bowen pwy fydd 'no."

"Anghofia i ddim mohonoch chi ar ôl hyn, Lisabeth," ebe'r ciwrat yn wresog, "fe ellwch chi fentro hynny."

"O, twt," meddai Leisa yn ysgafn, "fe gewch chi 'mhriodi i am ddim am hyn!"

"Gna'n wir!" atebai Mr. Rowlands yn ddifrifol. "Pwy nosweth fydd yn well i fi ddod i'r Gelli?"

"Gore i gyd po gynta", ebe Leisa. "Pam na ddelech chi yco heno?"

"O'r gore!" meddai Mr. Rowlands. "Am ddeg o'r gloch heno, 'nte!"

"Wrth ffenest y gegin fach!" ebe Leisa.

Pan ddychwelodd Leisa i'r Gelli, rhyfedd y cyfnewidiad oedd wedi dyfod drosti. Ni wyddai Mrs. Morris beth i wneud ohoni. Yr oedd yn wên o glust i glust wrth gerdded o gylch y tŷ, a chlywai Mrs. Morris hi'n crechwen wrthi ei hunan yn y pantri bach pan yn clirio swper.

"Beth sy wedi dwad dros Leisa, hawyr bach?" meddai Mrs. Morris o'r diwedd wrth Gwladus.

Nid oedd Gwladus yn edrych mor llon ag arfer. Yr oedd cwmwl ar ei hwyneb siriol, ac nid oedd ei llygaid glasddu yn disgleirio fel cynt.

"Rwy'n ffeilu dyall," meddai, oblegid nid oedd Leisa wedi dweyd dim o'i chyfrinach wrthi hyd yn hyn.

"Beth sy arnat ti, lodes?" gofynnai Mrs. Morris, pan ddaeth Leisa yn ôl o'r pantri. "Wyt ti'n mynd i briodi, ne beth?"

"Ho! ho! ho!" chwarddai Leisa—ac yr oedd sŵn ei chwerthin fel rhuad taran o bell—"nag w i, na chyffra'i, mystres fach, ond fyse 'nghalon i ddim mwy ar y jigs tawn i'n mynd i briodi C'langeua nesa.' Ho! ho! ho!"

"Wel, yn enw'r annwl, Leisa fach," ceintachai Mrs. Morris yn ei llais mwyaf dolurus, "peidiwch â'n syfrdanu â'ch sŵn, ta beth!"

Cyn pen hir aeth Mrs. Morris i'r gwely, gan adael Gwladus yn y neuadd yn darllen erthygl ddiwethaf Bob yn ei newyddiadur. Ond cyn iddi orffen ei hanner, torrodd Leisa ar draws ei hamdden. Yr oedd yn amlwg oddi wrth holl osgo Leisa fod ganddi ryw newydd pwysig i'w gyhoeddi. Daeth ymlaen at Gwladus ar flaenau ei thraed, rhag ofn i Mrs. Morris ei chlywed yn y neuadd pan ddylai fod yn dawel yn ei gwely. Daeth yn glos at Gwladus, a sisialodd yn ei chlust:

"Mae rhywun bach yn dwad yma, heno, Miss Bowen, i'ch gweld chi!"

"Yn dwad i 'ngweld i?" ebe Gwladus yn syn.

"Hi! hi!" meddai Leisa. "Ie, i'ch gweld chi."

"Wel, 'cheiff neb 'y ngweld i!" ebe Gwladus, "wa'th 'rwy'n mynd i'r gwely 'nawr."

"Ond ewch chi ddim os gweda i wrthoch chi pwy sy'n dwad!" dywedai Leisa.

"Ody Doctor Jones ga'tre yn y Dole?" gofynnai Gwladus yn ddiniwed.

"Doctor Jones?" ebe Leisa. "Na, 'dwy i ddim yn gwbod dim amdano fe. Mr. Rowlands sy'n dwad yma!"

"Mr. Rowlands, y ciwrat?" gofynnai Gwladus.

"Hi! hi!" chwarddai Leisa. "Doech chi ddim yn meddwl amdano fe? Fe fydd yma am ddeg o'r gloch, ar bwys ffenest y gegin fach."

"A beth mae Mr. Rowlands yn moyn yma?" gofynnai Gwladys yn fawreddog.

"Nawr, whare teg iddo fe hefyd!" meddai Leisa. "Peidwch â bod yn gas wrtho fe, wa'th mae e bron torri i galon amdanoch chi!"

"Peidiwch siarad nonsens, Leisa," ebe Gwladus yn fyr. "Do's gydach chi ddim bysnes i 'neyd i Mr. Rowlands gredu'ch dwli chi, ac am ddwad ag e amboitu'r tŷ yr adeg hyn o'r nos—"

A chyda'r gair dyna'r cloc yn taro deg.

"Mae e'n siwr o fod ar bwys ffenest y gegin fach," ebe Leisa. "Dewch i ga'l gweld, Miss Bowen."

Blin gennyf gyfaddef, ond ni allaf wadu'r ffaith, i gywreinrwydd Gwladus gael y trechaf ar ei natur ddrwg, ac iddi, yn lle myned i'w gwely, redeg fel ewig ar ôl Leisa at ffenestr y gegin fach!

Tra oedd hyn yn digwydd tu fewn i'r Gelli, yr oedd wedi bod yn amser pryderus ar y ciwrat oddi allan. Cyn deg o'r gloch yr oedd wedi cyrraedd y buarth, ac wedi cael y glwyd ynghau.

Ni fu lleidr erioed yn ymdrechu cymaint i agosáu at dŷ yn llechwraidd. Treiai agor y llidiart heb gadw sŵn, ond ar ganol codi'r glicied arhosai'n ddisymwth, gan ysbio a chlustfeinio rhag ofn fod ci neu un o'r gweision gerllaw. Pe bai'r ciwrat erioed wedi clywed am Oronwy, buasai'n ddiau yn cofio am hwnnw yn:

Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig,

ar gyfryw amgylchiad. Ond nid oedd gan Mr. Rowlands un atgof melys am "Galendr y Carwr" i sirioli ei ysbryd ofnus. O'r diwedd penderfynodd fyned dros ben y glwyd yn lle ei hagor, ac yna daeth yn ddistaw i'r cwrt bach ac i bwys ffenestr y gegin fach.

Druan o'r ciwrat! Credai ei fod wedi gwneud ei ffordd yn ardderchog, ac na wyddai neb am ei ddyfodiad i'r Gelli, ond Leisa a Gwladus. Ond yr oedd hyd yn oed Leisa wedi anghofio un peth—sef fod Twm y Waginer yn cysgu uwchben y gegin fach! Yr oedd clustiau Twm mor denau â chlustiau ysgyfarnog, a phan glywodd sŵn rhywun yn ceisio agor llidiart y clos yn llechwraidd, neidiodd ar unwaith i'r ffenestr. Yr oedd mewn pryd, er ei fawr syndod, i weled y ciwrat yn dringo dros y glwyd.

"Jaist i fach i!" meddai yn ddistaw ym mhen ychydig, "pwy feddylse am y cadno hyn, 'te?"

Ar ôl cyrraedd ffenestr y gegin fach, arhosodd Mr. Rowlands am eiliad, yn petruso beth i wneud ymhellach. Yr oedd hyd yn hyn wedi dilyn gorchymynion Leisa, ond nid oedd y llaethwraig wedi rhoddi un awgrym iddo beth i wneud ar ôl cyrraedd y ffenestr. Eto cryfach greddf nag amhrofiad! Os gosodir Cymro dan ffenestr ar olau leuad ganol haf, ni fydd yn hir heb wybod beth i wneud.

Cnithio'n gras ar y glaswydr
Â'm bys, gyd ag ystlys wydr,

a wnaeth Goronwy, a dyna hefyd a wnaeth ciwrat Llanelwid. Yr ochr arall i'r ffenestr, yn y tywyllwch, arhosai Leisa, a safai Gwladus ryw lathen neu ddwy o'r tu ôl iddi. Yr oedd y ddwy erbyn hyn yn cael gwaith i beidio torri allan i chwerthin yn uchel; ond safai Twm y Waginer yn fud gan faint ei syndod yn yr oruwch-ystafell.

Ar ôl methu cael atebiad y tro cyntaf, "cnithiodd" Mr. Rowlands ar y gwydr yr ail waith. Y pryd hwn cafodd Leisa nerth i ateb yn isel:

"Hish-sh-sh. Pwy sy 'na?"

"Pwy ych chi'n dishgwl ond y fi?" oedd yr ateb parod. "Hi! hi! hi!" yn ddistaw oddi wrth Leisa. "Ond pwy ych chi?"

Dywed y profiadol na chawd erioed ond un atebiad i'r gofyniad hwn a dyna hefyd oedd atebiad Mr. Rowlands—

"Ond y fi sy yma!" ebe'r ciwrat.

"Hi! hi! hi!" chwarddai Leisa. "A beth ych chi'n moyn yma?"

Ni wn beth fuasai atebiad Mr. Rowlands, oblegid ni chafodd amser i'w lunio. Ni wn, chwaith, p'un a fuasai Gwladus wedi rhoddi pen ar yr ymddiddan drwy ddatguddio'r cyfan i Mr. Rowlands. Dywed Gwladus yn awr ei bod wedi gwneud ei meddwl i fyny i wneud hynny; ond, os do, cyn iddi gael amser i wneud dim o'r fath beth disgynnodd llais cras Twm y Waginer arnynt fel taranfollt oddi ar y llofft.

"Nawr, 'nawr! beth sy'n bod 'na?" ebe Twm yn ei ddull mwyaf sarrug. "Pwy sy na'r amser hyn o'r nos yn distyrbo pawb? Howyr bach, fe ddysga i'r ffordd i chi, syr, i gadw reiets amboitu tai dynion ar ôl i bawb fynd i'w gwelâu!"

Cyn bod Twm wedi hanner gorffen ei araith, a chyn i Leisa a Gwladus gael amser i amgyffred beth oedd yn digwydd, cymerodd y ciwrat at ei draed fel y wiwer.

Llamodd, â mawr ffull, ymaith,
Yn brudd, wedi difudd daith.

Yr oedd y llidiart gerllaw; ni fu drawiad amrant yn ei chyrraedd ac yn dringo dros ei phen. Ond fel yr oedd gwaetha'r anlwc, yr oedd hoelen ar y top, a gafaelodd yn dynn yn llodrau'r ciwrat. Arhosodd yntau am eiliad gan geisio cael ymwared oddi wrthi drwy deg, ond nid oedd amser i ymresymu. Yr oedd Twm yn chwythu celanedd ar y llofft gan fygwth saethu y "lleidr." Yng nghanol y ffwdan i gyd, aeth yr ergyd allan o'r dryll a ddaliai Twm yn ei law, a'r eiliad nesaf rhoddodd y ciwrat ysgrech annaearol. Nid oedodd yn hwy i ymresymu â'r hoelen, ond ymaith ag ef gan rwygo ei ddillad, ac ni pheidiodd â rhedeg nerth traed nes iddo gyrraedd y ffordd fawr, pryd y syrthiodd ar y clawdd mewn hanner llewyg gan gymaint ei ddychryn a'i ddiffyg gwynt, gan addunedu na wnai byth ond hynny fynd i garu yn y nos.

Ac am Leisa a Gwladus,—pan ddaethant i ddeall sut oedd pethau wedi troi allan, mae yn ddrwg gennyf gofnodi'r ffaith iddynt chwerthin cymaint fel y bu bron iddynt ddihuno Mrs. Morris o'i hesmwyth gwsg.

PENNOD XVII.
YSTRYW TWM Y WAGINER.

YR oedd si ar led fod Twm y Waginer a Leisa'r llaethwraig yn caru, a'u bod ar fedr priodi amser Galan Gaeaf. Nid carwriaeth gyffredin oedd carwriaeth y ddau hyn, ac oni bai fod hen ddihareb yn dysgu mai y "rhai sy'n curo sy'n caru," buasai yn anhawdd credu fod unrhyw wirionedd yn y stori. Ni chlywodd neb erioed mo Leisa yn dweud gair caredig am Twm, ac nid oedd taw ar achwynion Twm yn erbyn Leisa. Ni allai'r ddau byth gyfarfod o gylch y bwrdd cinio, neu ar y cae gwair, heb ymosod ar ei gilydd, a phan fyddai un yn gofyn cymwynas ar law'r llall—fel y digwyddai'n fynych—mawr y ffwdan a'r helbul! Ambell waith byddai eisiau cannwyll ar Twm i'r stabal, ac ar amgylchiad o'r fath ni chymerai Twm y byd i gyd yn glwt am ofyn i Mrs. Morris, oblegid yr oedd ar Twm fwy o ofn ei feistres na neb arall yn y plwyf. Ymdrechai felly, bob amser, i hudo Leisa i wneud y cais yn ei le, a byddai hynny yn sicr o ennyn huawdledd y "forwyn fawr" yn fflam losgedig.

"Pam na ei di at mystres dy hunan i ofyn am ganwylle?" arferai Leisa ddweud. "Dyma'r ail waith yr wythnos hyn 'rwyt ti wedi gneyd i fi fynd at mystres. A beth yw 'niolch i wedi'r cwbwl? Neithwr ddwetha fe ballest fynd i moyn siwrne o ddŵr i fi o'r ffynnon pan ofynnes i ti, ond 'rwy'n ddigon da i ofyn i mystres am ganwylle drosto ti! Cymer di bwyll, 'y ngwas i. 'Rwy'n mynd i dalu'r hen whech yn ôl i ti! Ac os na elli di 'neyd dim ar 'y nghais i, cer at mystres dy hunan."

Dioddefai Twm y gawod eiriau yn dawel, mewn llwyr ddiogel obaith y caffai'r gannwyll cyn nos.

Bryd arall byddai gan Leisa yn ei thro gais i wneud—i dorri coed ffwrn, neu i wneud rhyw orchwyl o'r fath a fyddai'n rhy drwm iddi hi. Ymaith yr âi Leisa i'r stabal fel bollt o fwa.

"Holo!" llefai Twm, "be' sy arnat ti 'nawr, yn eno dyn? Garw mor wyllt yr wyt ti'n dryched! Welsot ti rywun salwach na ti dy hunan, ne beth?"

"Nawr, paid â sbengan, Twm bach," atebai Leisa. "Eishe i ti dorri co'd ffwrn sy arna i."

"O, ie fe'n wir?" dywedai Twm yn wawdlyd. "O's rhwbeth arall y licet ti i fi 'neyd? 'Do's gen i, ti'n gweld, ddim byd arall i 'neyd ond weitan arnat ti! Wedi ca'l 'y nghyflogi w i i fod yn was bach i'r morwnon!"

"Dere 'nawr, Twm bach," atebai Leisa, "rwy'n wastod yn gweyd mai hen fachgen piwr wyt ti. Fyddi di ddim wincad yn torri coeled o go'd! Ac 'ofyna i ddim i ti yto am amser!" A nemor byth y terfynai'r ymddiddan heb i Twm fyned i'r gludwair i wneud arch y llaethwraig.

Wedi'r "bererindod" i goed y Parc, ni chafodd Leisa fywyd rhy esmwyth yng nghegin y Gelli. Cyfeiriai Twm yn ei siarad at eosiaid a phersoniaid a phrydyddion, ond ni chymerai Leisa arni ei bod yn deall un o'r awgrymiadau. Twm oedd y cyntaf i ddwyn copi o gân Gwilym Coediog i'r Gelli; ac, ar adegau, ymhyfrydai i adrodd rhai o'r penillion mwyaf gwatwarus ohoni ar goedd y gegin. Yr oedd Twm wedi cael defnyddiau newydd eraill i wneud sbri am ben Leisa wedi dyfodiad Gwladus i'r Gelli. Cyn hynny nid oedd Leisa, mae'n debyg, yn meddwl llawer mwy nag adar y nefoedd â pha beth yr ymddilladai; ond wedi adnabod Gwladus, ei huchelgais mawr oedd ei hefelychu ym mhob dim. Un dydd Sul ymddangosodd yn y gegin ar amser cinio mewn blows a sgyrt newydd, er mawr ddifyrrwch i Twm a'r gweision eraill.

"Helo," ebe Twm wrth y cowman, pan oeddynt o gylch y ford ginio, a chan esgus fod heb adnabod Leisa, "pwy yw'r ledi ddierth yma?"

"O," atebai hwnnw, "ledi o Lynden dda'th lawr gyda Miss Bowen yw hi."

"Dier mi!" meddai Twm. "Mae hi'n dryched yn stansh anghyffredin. Stopwch chi, serch hynny, 'rwy'n credu'n mod i'n 'nabod i gwyneb hi!"

"Rwy'n meddwl i bod hi'n arfer gwerthu loshyn du yn ffair foch Llangoediog, 'slawer dydd," meddai'r cowman.

Yr oedd yn amlwg fod Leisa yn dechrau anesmwytho dan y driniaeth, ond ni ddywedodd air o'i genau, ac ymdrechodd ymddwyn fel pe heb glywed dim o'r ymddiddan.

"A welwch chi fel mae hi wedi gwisgo?" ebe Twm. "Un gostus yw hi i chadw, fe wna'n llw. Mae'r rhawn 'na sy ar i phen hi wedi costi hanner coron neu ragor."

Ni allai Leisa aros yn llonydd yn hwy.

"Rhawn yn wir!" meddai. "Llawer wyt ti'n wybod . "Pwy fyse'n meddwl," torrai Twm i mewn i ddweud, "fod y ledi yn gallu siarad Cwmbrag? Falle taw cadw wâc llaeth mae hi yn Llynden—ond tawn i fel y hi, 'chymrwn i ddim llawer am wisgo gwallt rhyw un arall ar 'y mhen."

"Wel," brathai Leisa, "fe fyse arna i fwy o g'wilydd, tawn i fel ti, i wisgo croen bystach arall ar y nhra'd."

Nid oedd braidd ddiwrnod yn pasio heb fod ysgarmes boeth yn cael ei hymladd rhwng y ddau; ond eto i gyd gwyddai'r gwasanaethddynion yn dda mai peth peryglus fyddai i un ohonynt hwy ymyrryd rhyngddynt.

Drannoeth i'r helynt a adroddwyd yn y bennod ddiwethaf yr oedd Gwladus ychydig yn hwyrach nag arferol yn codi, ac erbyn ei bod yn barod i ddisgyn i lawr y grisiau, yr oedd wedi saith o'r gloch. Yr oedd Leisa, bid siwr, wedi hen godi. Y sŵn cyntaf a glywai Gwladus yn y bore, fel rheol, oedd sŵn y llestri godro, a llais Leisa'n gweiddi, "tro fuwch," neu "wo na ti," nes oedd yr holl glos yn diasbedain. Gyda whip y dydd, arferai Leisa a'r merched ddechrau ar eu gwaith, a chyn brecwast yr oeddynt wedi gorffen godro a thrin y blith, ac ynghanol yr haf byddai'r menyn hefyd wedi ei gweirio a'r caws wedi ei wneud. Leisa oedd y gyntaf o'r merched i'r tŷ, oblegid disgwylid iddi hi helpu Gwladus i gael brecwast yn barod erbyn hanner awr wedi saith. Ond y bore wedi'r helynt er ei bod yn ddiweddarach nag arfer yn codi, ni chafodd Gwladus olwg ar Leisa yng nghegin y Gelli. Synnai a rhyfeddai Gwladus, ac ym mhen ysbaid aeth i weled beth oedd yn bod. Nid oedd sôn am y llaethwraig yn y llaethdy, na'r briwdy, na'r gegin maes, na'r gludwair. Wrth ddychwelyd o'r gludwair, trwy fwlch y clos, cofiodd Gwladus gyda gwên o ddifyrrwch am ddigwyddiadau y noson gynt, a thaflodd gipolwg ar y llidiart yr eisteddai'r ciwrat, druan, arni pan saethodd Twm ei ergyd allan o'r dryll. Oerodd ei gwaed yn ei gwythiennau pan ganfu gochni ar y glwyd. Rhedodd ias o ddychryn ac arswyd drwyddi pan ganfu mai gwaed oedd wedi ei rhuddo. Rhedodd yn ei gwylltineb i'r beudy, ac yno cafodd Leisa ar ganol godro un o'r gwartheg, ac yn wylo'r dŵr yn hidl, tra safai Twm y Waginer gerllaw.

"Beth sy'n bod, Leisa?" meddai Gwladus, gan obeithio nad oedd dim gwaeth na'r anghydweld arferol rhyngddynt.

Tasgodd Twm naill ochr ychydig pan glywodd lais Gwladus mor ddisymwth, ond llefodd Leisa allan:

"O, Miss Bowen fach! beth 'newn ni? O, na fyswn i wedi marw cyn gweld y fath beth?"

"Beth'n enw'r annwl sy'n bod 'nawr?" gofynnai Gwladus. "O! Miss Bowen fach!" meddai Leisa yn gyffrous, "mae Rowlands y ciwrat wedi ca'l i ladd!"

"Wedi ca'l i ladd!" ebe Gwladus. "Do's dim posib—beth ych chi'n geisio weyd, lodes ddwl?"

"Mae e'n eitha gwir, Miss fach!" gwaeddai Leisa. "Wb, wb, murder, fe ga's i saethu gan Twm 'ma neithiwr."

"Tom! ody hyn ddim yn wir?" gofynnai Gwladus, gan droi at Twm, a'i hwyneb mor welw ag angau a'i llais yn dechrau crynu.

Petrusodd Twm am foment cyn ateb.

"Alla' i ddim gweyd," meddai yn bwyllog, "p'un a yw e wedi marw yto ai peidio, ond mae gwa'd ar hyd yr holl le 'ma. Mae'n un plastar ar y gat, ac mi ellwch ddilyn i ôl e bob cam 'ro'dd e'n gymeryd ar yr hewl."

"O, Tom, Tom!" llefai Gwladus, "cerwch yn y fyned i weld os gwelwch chi e ar ochor yr hewl yn rhywle. Falle mai dim ond niwed ga's e."

"Na," ebe Twm yn benderfynol, "wy'n credu mod i wedi rhoi dead ho iddo fe'r tro hyn."

"O, peidiwch â gweyd hynna, Tom!" meddai Gwladus. "Cerwch yn glou, da machgen i. "'Rwy'n ca'l 'y nhalu am fod mor ddwl . . ."

"O, Miss Bowen!" llefai Leisa, "a fe fyddan' yn siwr o grogi Twm!"

"O, na! cha' i ddim 'y nghrogi, gwlei," ebe Twm yn ddi-daro. "Fe weda i taw dwad yma i moyn degwm o'dd e."

"Tom, Tom!" meddai Gwladus yn wyllt, "peidiwch â sefyllan rhagor, ond cerwch, da machgen i, mor gynted ag y gallwch, a dewch 'nôl a gw'bod i ni shwd mae e.'

"A chofia di, Twm," meddai Leisa, gan wylo ei chalon hi, "nag ei di ddim yn agos at y polîs, ne' maen' nhw'n siwr o gydio yndo ti."

"O'r gore," ebe Twm. "Os ca'i afel yn i gorff e, fe towla fe i Dowi, ag 'all neb weyd wedyn ffordd cwrddws e â'i ange.

"Ymswynwch na 'newch chi'r fath beth, Tom," meddai Gwladus yn frawychus. "Os . . . os. . . cewch chi afel yn i g...g... gorff e, rhaid i chi fynd yn streit at y polîs i weyd yr hanes i gyd fel y digwyddodd hi.—O dier! dier! i fi ariôd fod mor ffôl â chellwer â phethe fel hyn!"

"A falle daw'r polîs i'n moyn ninne, a mynd â ni i'r jail," llefai Leisa, "bw-hw-hw!"

"O na, chei di ddim mynd, dere di," dywedai Twm, "achos fe gymera i'n llw taw fi gnath e, a cheith neb arall ddiodde yn 'yn lle i."

"Ond arna i 'ro'dd y bai i fod e yma o gwbwl," ebe Leisa. "Wydde Miss Bowen ddim amdano fe-bw-hw-hw! Ag 'ro'dd dim bysnes gyda tithe gwrdd 'r hen ddryll,-bw-hw!" "Paid di â becso!" meddai Twm, "dim ond ciwrat o'dd e, a maen 'nhw mor amal â hadau graban, a neith neb lawer o ffŷs ar ei ôl e."

"Peidiwch â rofun rhagor, Tom," ebe Gwladus, "falle tra'n bod ni'n siarad fel hyn i fod e'n gwaedu i farwolaeth! Cerwch, Tom, ar unwaith."

Ac allan o'r beudy yr aeth Twm. Cyn pen hanner munud ar ôl iddo gychwyn, cofiodd Gwladus nad oedd wedi dweud wrtho am fynd i ymofyn meddyg, os byddai eisiau, a rhedodd allan o'r beudy ar ei ôl. Er ei syndod gwelodd Twm yn dal ei ochrau rhag torri allan i chwerthin yn uchel. Canfu hefyd gwt ceiliog yn gwasgu allan o boced ei got. Drwgdybiodd yn y fan fod Twm wedi bod yn eu camarwain. Cofiodd fod Mrs. Morris wedi gofyn i Twm y noswaith o'r blaen ladd ffowlyn y peth cyntaf yn y bore, a fflachiodd yr argyhoeddiad yn union i'w meddwl mai wedi lladd y ceiliog yr oedd Twm, ac mai gwaed y ceiliog a welsai hithau ar glwyd y clos. Ni wyddai Gwladus p'un ai chwerthin ai colli ei thymer a wnai; ond cyn y gallai benderfynu p'un, dyma hi'n torri allan i wylo'n chwerwdost. Pan glywodd Twm sŵn wylofain, trodd, oblegid yr oedd ei gefn at Gwladus hyd yn hyn. Wrth weled Gwladus—oedd bob amser mor llon a siriol— â'r dagrau mawrion yn llifo dros ei gruddiau, dwysbigwyd calon Twm, a llefodd mewn llais cyffrous:

"Yn 'y ngwir i, Miss Bowen fach, 'down i ddim yn meddwl hala ofan arnoch chi, ta chi ddim wedi dwad miwn i'r boudy, chi'n gweld. Mae'r ciwrat yn saff i wala—gwa'd 'r hen geiliog sy ar y gat—peidiwch â llefen—a fe fyswn i ddim wedi gweyd y jôc wrth Leisa, na chyffra'i, ond nag own i ddim wedi meddwl y delech chi i'r boudy."

"Jôc yn wir!" meddai Leisa—yr oedd hithau wedi dod allan erbyn hyn ac wedi clywed esboniad Twm—"nid jôc yw lladd dyn, ac os wyt ti'n gallu cellwer wrth siarad amdano fe heddi, fe fyddi di'n gallu cellwer wrth i 'neyd e fory—mae hyn yn mynd tu hwnt i jôc, ag ody—yn hala Miss Bowen i leisio fel hyn.—Cer o'na ti'r filen cas, a cher yn go handi hefyd!"

Erbyn hyn yr oedd difrifoldeb wedi cymryd lle digrifwch ar wyneb Tom. Trodd ymaith yn araf a phendrwm, gan gyfeirio ei gamre at y stabal,-ei ddinas noddfa ym mhob storm. Yr oedd golwg dyn yn mynd i gael ei grogi arno, a theimlai mai efe oedd y dyn dwla' yn y plwyf. Ac, yn wir, feallai nad oedd ymhell o'i le.

"Leisa!" clywid llais Mrs. Morris yn galw o'r tŷ, "ble 'rych chi cyd yna? Dyma hi'n ugen myned rhynti ac wyth, a dim llestr ar y ford!"

Sychodd Gwladus a Leisa eu dagrau, a brysiasant i'r tŷ. Ac yn sŵn y llestri brecwast anghofiodd y ddwy yr helbul a'r dychryn a fu yn eu blino yn y beudy hanner awr ynghynt.

PENNOD XVIII.
FFAIR CALAN MAI.

ANAML y byddai Dafi a Mari Jones, Dolau Gwynion, yn myned gyda'i gilydd i ffair neu farchnad. Âi Mari Jones i farchnad Llangoediog i werthu'r ieir a'r wyau, y caws a'r menyn, bob dydd Sadwrn, ond ambell waith yr â'i Dafydd gyda hi. Gartref oedd lle Dafydd ar ddydd Sadwrn, a busnes y wraig oedd gwerthu'r wyau a'r menyn. Ni fyddai Mari Jones, chwaith, byth yn rhoddi cyfrif i'r gŵr am yr arian a dderbyniai yn y farchnad. Byddai Dafi yn gofyn ar de, ar ôl i'r wraig ddod adref,—

"Shwd brisie o'dd yn y farchnad heddi?"

"Mae'r prisie wedi mynd rhogddynt," dywedai Mari, "dim ond deg a dime ges i am y menyn, ond fe glywes fod gwraig Brynwgan wedi ca'l un geiniog ar ddeg,—ac am y wye, 'd ŷn' nhw ddim yn werth y drafferth o'u cario nhw! 'Roen nhw'n mynd heddi am un ar ddeg am whech."

Ni fyddai Dafi byth yn gofyn sawl pwys o fenyn na sawl wy oedd Mari wedi werthu; ac ni wyddai, chwaith, faint o arian oedd ganddi ynghadw yn y ddesg fach. Ychydig ddiwrnodau cyn dydd y rhent byddai Dafi yn cyfrif faint o arian oedd ganddo i gyfarfod â'r gofynion. Bob amser yr oedd yn brin; bob amser yr oedd ganddo lai nag a ddisgwyliai. Yna âi at Mari â'i gŵyn, ac ni fu hi erioed heb ddigon wrth law i helpu Dafi i wneud y rhent i fyny.

Ni chedwid llyfr cownt yn y Dolau. Gosodai Dafi lawr ar y dyddiadur enwadol bob casgen a thwba o fenyn oedd heb dalu amdano yn ei ben, ac mewn llyfr arall cedwid cyfrif am yr arian a ragdelid i'r gwasanaethddynion o'u cyflogau. Ond fel rheol, cai Dafi arian pen am bob peth a werthent, ac felly ni thybiai fod eisiau cadw cownt.

Yn wir, ffynnai cryn ragfarn yn Llanelwid yn erbyn cadw cownt. Cydnabyddid fod eisiau i of, neu deiliwr, neu saer gadw cownt, gan na thelid ond unwaith yn y flwyddyn—yn amser Calan Gaeaf. Ond am ffarmwr—pwy eisiau iddo ef gadw cownt oedd?

"Cadw cownt, yn wir!" meddai Nat wrth Dafi unwaith yn yr efail. "Mae'r ysgolion 'ma wedi rhibo'r wlad! Mae pobol wedi mynd i gredu nag o's eisie iddi 'nhw 'neyd dim ond cadw cownt. Mae pob prentis plwydd a phob croten fagu yn cadw cownt 'nawr! A ta'r gŵr b'neddig hynny yn dwad 'nôl a gofyn, 'Beth a wnaf fel y byddaf cadwedig,' fe fyse Morgans y Siop yn siwr o weyd wrtho fe am ddechre cadw cownt! Cadw cownt!—pwy eisiau cadw cownt sy? Cadw arian yw'r gamp! 'Rwy'n cofio i'r hen Lwyd, tad Mrs. Bassett y Plas, dreio ca'l cownt oddi wrth yr hen Dwmi Dew-'rych chi'n cofio Twmi yn arddwr yn y Plas?"

"Odw, odw," ebe Dafi, "rwy i'n ei gofio fe'n byw yn y Lodge."

"Dyna fe!" meddai Nat. "Ro'dd 'rhen Dwmi, chi'n gweld, yn ardderchog yn yr ardd, ag 'ro'dd e'n gneyd arian fel y gro o'r fale a grapes a phethe erill o'r ardd. Ond, 'do'dd e ddim sgoler; ac am gadw cownt—fe fyse yr un peth i chi ofyn iddo hedfan ag i neyd fath beth. 'Ro'dd e'n talu ugeine os nad cano'dd o bunne o gyfloge bob blwyddyn, wa'th yn amser yr hen Lwyd yr oedd digon o waith i ga'l yn y Plas, nid fel sy 'nawr gyda'r porcyn o Sais 'na. 'Do'dd 'rhen Dwmi byth yn gofyn i Llwyd am arian i dalu'r dynon o'dd yn helpu yn yr ardd. 'Ro'dd gydag e hen hosan yn y Lodge, ac yn honno 'ro'dd e'n dodi pob ceiniog gese fe drwy werthu'r ffrwythe. Ac ar ddiwedd y mis, pan fydde eisiau talu'r gweithwyr, 'ro'dd e'n arfer mynd i moyn yr hen hosan, a thalu pawb ohoni hi. Ac amser C'langeua, ar ôl talu'r cwbwl, fe fydde'n mynd a'r hen hosan gydag e i'r Plas ac yn i harllwys hi ar y ford o fla'n yr hen sgweier."

"Ie'n wir," meddai Dafi, "ro'dd 'r hen bobol yn i deall hi yn well na ni."

"Wel, fe larodd 'r hen Lwyd ar hyn," ebe Nat; "ro'dd eisie cownt arno fe am bob peth. 'Fi dim dowto bod ti'n gonest,' mynte fe wrth Twmi, 'ond fi bownd ca'l cownt.' 'Wel, syr, mynte Twmi'n ôl, 'os ych chi'n bownd rhaid i chi fynnid rhywun arall, wa'th 'do's gen i ddim crap ar y seiffro 'na.' A fel'ny bu. Fe ga's Twmi goron yr wythnos i fyw arno, heb 'neyd dim ond agor gât y Lodge: a fe fynnodd 'r hen Lwyd ryw Sais o shir Bemfro i ddryched ar ôl yr ardd. 'Ro'dd e wedi ca'l ysgol a phopeth, ac yn deall i fysnes i'r blewyn, a dyma fe'n rhoddi'r cownt i'r hen Lwyd ar ddiwedd y flwyddyn. 'Ro'dd y debits a'r credits yno'n blaen 'u gwala, ond miwn tipyn o amser dyma'r hen ŵr b'neddig yn gofyn, 'And what is for Morgan Llwyd?' 'O,' mynte'r sgoler mowr, 'nothing for Morgan Llwyd.' 'Go drabitsi!' mynte'r hen Lwyd gyda'r llw mowr, "cer i ddiawl â dy gredits and debits!—fi mynnid hen hoson Twmi'n ôl yto.' A'nôl da'th 'r hen Dwmi, ac yn yr ardd yr halodd ei getyn."

Diau fod cynllun Twmi yn taro pobl fel Mari Jones yn burion, oherwydd nid oedd hi byth yn gwario chwech yn ofer. Ond fel arall yr oedd hi gyda Dafi. Os cai bris gweddol am y bustechi yn Ffair Awst, neu os gwerthai'r ebolion am bris lled dda yn Ffair John Brown, byddai yn ffri iawn â'i arian am wythnosau ar ôl hynny. Ni fyddai Mari yn ymyrryd â busnes Dafi yn y ffeiriau, ac anfynych iawn yr âi gydag ef i un ffair ond ffair gyflogi. Aml i dro y bu Mari Jones yn gofidio ac yn ofni wrth ddisgwyl Dafi yn ôl yn y prynhawn, ond eto yr oedd yr hen arferiad o aros gartref ar ddydd ffair yn drech na'i phryder ynghylch y gŵr, ac aeth Dafi i Ffair Calan-Mai Llangoediog, 1895, wrtho ei hun fel cynt.

"Cofiwch ddwad 'nôl yn gynnar, Dafi," oedd siars olaf Mari wrth ei gŵr pan yn cychwyn tua'r ffair yn y bore; "a pheidiwch anghofio taw dy' Sul cymundeb yw hi fory."

"O'r gore, Mari fach," meddai Dafi yn serchus, "fe fydda i'n ôl erbyn te.'

"Wel, fe fydda i'n eich disgwyl chi 'nôl i de erbyn pedwar 'nte," meddai Mari.

"Ie, lycoch chi, Mari fach," atebai Dafi wrth fyned ar ei geffyl, "fe fydda 'nôl i de mor wired â bod dŵr yn Nhowi!" Saif y Dolau gerllaw'r ffordd fawr, ac yn y prynhawn gwelai Mari bobl y plwyf yn dychwelyd adref o'r ffair. Y cyntaf, fel arfer, oedd Tomos Lewis, Coed Weddus, tua thri o'r gloch; yna Henri Morgan, Plas Newydd, ychydig cyn pedwar, pan oedd y llestri te yn barod ar y bwrdd i ddisgwyl Dafi adref; yna Gruffudd y Coed; ac yna Twm, gwas y Gelli. A dyma'r cloc yn taro pump, a chwech, a saith—a dim sôn am Dafi. Tua hanner awr wedi saith clywodd Mari sŵn troed y gaseg ar y clos, a danfonodd un o'r gweision allan i gyfarfod â'i feistr, ac i ddal pen y gaseg. Ofnai weled Dafi, oblegid ni wyddai ym mha gyflwr yr oedd, er na chymerai y byd yn grwn am ddangos ei phryder i'r gwasanaethddynion.

Ym mhen tipyn daeth Dafydd ei hunan i mewn, a gwrid coch ar ei ruddiau, a disgleirdeb annaturiol yn ei lygaid.

"Wel, Mari fach," meddai mewn tôn lawer uwch nag arferol, "dyma fi wedi dwad o'r diwedd. Fe gredes na ddeswn i byth. Mae'r hen gaseg mor gloff â Jacob."

Edrychodd Mari yn ddifrifol ar ei gŵr, a dywedodd—"Wel, mi fues i jist rhoi heibio'ch disgwl chi. Odych chi wedi ca'l te?"

"Te? te?" ebe Dafi—'ro'dd e'n gallu siarad hyd yn oed â Mari ar ôl iddo gael llymaid,—"nagw i, a wa'th 'da fi tawn i heb weld eich hen lwtsh chi byth yto! Te, te yw hi yma byth a hefyd, ac felly y bydd hi'n wastadol, o'r pryd hwn hyd yn oes oesoedd. Amen."

'Nawr, os oedd dim yn gas gan Mari Jones, clywed rhywun yn trin pethau crefyddol yn rhyfygus oedd hwnnw. Yr oedd y gair "amen" yn air sanctaidd iddi hi. Ni wyddai yn iawn beth oedd ei ystyr, ond yr oedd wedi arfer ei gysylltu â'r cwrdd gweddi, a'r gyfeillach a'r cwrdd pregethu, ac felly yr oedd wedi dyfod yn air cysegredig yn ei meddwl.

"Dafi, Dafi, peidiwch â rhyfygu fel 'na," meddai. "Dewch lawr i'r nouadd 'nawr, ag fe 'na i gwpaned o de neis i chi. Mi 'neiff les i chi ar ôl bod heb fwyd drwy'r dydd."

Ac i lawr i'r neuadd yr aeth Mari, a Dafi yn ei chanlyn hi. Gyda ei bod wedi cau'r drws, dyma Mari yn eistedd lawr ar un o'r cadeiriau, ac yn torri allan i wylo fel plentyn, a'i ffedog yn gwlwm yn ei llaw yn sychu ei llygaid.

"Beth sy'n bod, Mari fach?" gofynnai Dafi gan esgus bod yn ddigyffro.

"Yn bod?" ebe Mari, "shwd gallwch chi ofyn i fi? 'Do's dim yn bod arna' i; arnoch chi mae rhywbeth yn bod!"

"Arna' i?" meddai Dafi yn uchel. "Beth sy'n bod arna' i?" "O, Dafi, Dafi," wylai Mari, "o's dim c'wilydd arnoch chi'n dwad gatre yn y drych hyn?"


"Yn y drych hyn?" llefai Dafi. "Rwy' i yn ôl-reit. 'Dall neb weyd fod dim maes o le arna' i."

"Beth ta Arthur gatre," aeth Mari ymlaen, "a gweld ei dad yn y ffordd ych chi heno? Mi fyse c'wilydd arno fe'ch arddel chi."

"C'wilydd arno fe?" ebe Dafi. "Mi roeswn i g'wilydd iddo fe! C'wilydd arno fe i arddel ei dad, ie fe? Rwy' i wedi gweithio'n galed i ennill bwyd a dillad ac ysgol iddo fe, a fe sy'n mynd, os gwelwch chi'n dda, i'n niarddel i 'nawr!"

"O Dafi," meddai Mari, "peidiwch â siarad yn wyllt fel 'na. Shwd galle Arthur eich arddel chi pan mae e'n gwbod y dylsech chi gymuno yn Salem bore fory, ac i chi fod ar eich glinie yn y cwrdd paratoad neithwr—a'ch gweld chi fel yr ych chi heno."

"Do's arna i ddim cwilydd i neb 'y ngweld i 'nawr," llefai Dafi. "Ches i ddim ond cwpwl o laseide o ddiod gyda Nat yn y Red Lion wrth ddwad gatre, ac 'all neb weyd nag w i mor sobor â'r judge."

"O!'r annw'l fach!" a thorrodd Mari allan i wylo drachefn "a dyna chi wedi bod yn y pentre, ac wedi paso heibo tŷ Mr. Thomas y gweinidog, ag os gwelodd e chi, mae e'n siwr och torri chi ma’s."

"Y nhorri i ma's?" gofynnai Dafi. "Mi gewn weld pwy geiff y gweitha', 'te, os taw fel 'na mae hi i fod. Mi gollith e lawer i whech a llawer i swllt os torrith e fi ma's, a gneiff."

"Odych chi'n meddwl, Dafi bach," atebai Mari, yn dawelach dipyn, "mai meddwl am eich cwpwl tocyns chi mae Mr. Thomas? Na, na, os ody e wedi'ch gweld 'dall e ddim â help. Mi fydd yn rhaid iddo fe ddwad â'ch achos chi o fla'n yr eglwys yto, a fe wyddoch shwd y bydd hi'r tro hyn."

"O! torred nhw fi ma's," dywedai Dafi, "os lican' nhw. Ofyna i byth am 'yn lle ar ôl 'ny. Mi af fi at y Baptis neu'r Methodis cyn af fi i fegian pardwn Dai'r Sâr a Shoni Corn-yr-hwrdd."

"Nid gofyn eu pardwn nhw ddylech chi Dafi," meddai Mari yn ddifrifol, "ond pardwn Iesu Grist. Ac os cewch chi'ch torri ma's o Salem, 'chymerith dim o'r enwadau erill chi."

"Os na 'na nhw," atebai Dafi, "mi af fi i'r Eglwys, a mi fydda' nhw'n falch 'y ngweld i yno, a fe neiff y ffeirad fi'n churchwarden ac 'wn i beth i gyd."

"Peidiwch â chellwer â phethe fel 'na," meddai Mari. "Nid p'un a gewch chi fynd i'r Eglwys yw'r peth, ond p'un a gewch chi faddeuant gan Iesu Grist. O, Dafi bach, peidwch â chaledu'ch calon fel 'na."

"Wel, pwy eishe sy arnyn' nhw fyn'd i nhorri i ma's, 'te" ebe Dafi, "mae llawer o ngwa'th i yn Salem; a dyna'r hen Gruffudd y Coed a Morgans y Siop—ble ceir gwa'th cybyddion na nhw yn y byd, mi licwn w'bod? A mae'r Beibl yn siarad mor gryf yn erbyn cybyddion ag yw e yn erbyn meddwon. A 'dwy i ddim yn feddwyn, ta beth."

"Gwella'n hunen, Dafi bach, ddylen ni 'neyd," dywedai Mari yn bwyllog, "ac nid pigo beie yn erill. A mae Mr. Thomas wedi ca'l gofal yr eglwys, a mae'n rhaid iddo fe dynnu ma's bob whyn sy yco.

"Whyn, ie fe?" meddai Dafi, yn fawreddog iawn. "Lycoch chi, Mari, os torran' nhw fi ma's, mi dorran' ben y blodeuyn perta sy'n tyfu yng ngardd yr Arglwydd!"

"Dafi bach, peidiwch â chellwer fel 'na," dywedai Mari. Ond yr oedd cysgod gwên ar ei gwefus hi hefyd, wrth arllwys y dŵr o'r tegil i'r tebot.

Dyna fel yr oedd hi'n wastad yn terfynu. Os byddai Dafi wedi cael diferyn i yfed, yr oedd ei dafod mor rhugl fel na allai Mari byth beidio maddau iddo, ie, cyn iddo ofyn am bardwn. Bore drannoeth yr oedd Dafi bob amser yn ceisio maddeuant; ond cyn bod teulu Dolau Gwynion wedi mynd i'r gwely y nos Sadwrn hon, yr oedd Mari wedi maddau i Dafi yn ei chalon, ac yn gofyn yn daer ar ei deulin wrth erchwyn y gwely cyn mynd i gysgu am i Dduw hefyd faddau iddo.

A phwy a ŵyr na faddeuwyd iddo, feallai hyd yn oed y nos honno? Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.

PENNOD XIX.
CWRDD GWEDDI COED WEDDUS.

NI welwyd Dafi Jones yn Salem y Sul canlynol. Bu llawer yn gofyn i Mari ble'r oedd y gŵr, ac atebai hithau bawb yn yr un llais undonog, "O, 'dyw Dafi ddim agos da heddi." Er llymed ei cherydd, ac er cymaint ei hatgasrwydd at bechod parod Dafi, druan, ni chlywodd neb erioed Mari Jones yn dweud gair yn erbyn ei phriod. Ni all gŵr amherffaith gael rhagorach eiriolwr ar ei ran na chariad gwraig rinweddol. Ffieiddiai Mari y trosedd, ond yr oedd yn dyner iawn, ar ei gwaethaf, wrth y troseddwr. Lluniai esgusodion drosto yn ei chalon. Nid ar Dafi yr oedd y bai, meddai, ond ar y cymdeithion a'i harweiniai i brofedigaeth. Sibrydai wrth ei chydwybod mai ei natur dda, ei dymer rwydd, oedd ei fagl; nid oedd Dafydd yn hoffi pallu dim i neb. Beth os mai segura a wnai ar hyd y dydd yn lle gweithio? Ie, ond nid oedd neb ond hi yn gwybod ei fod yn dioddef oddi wrth ddolur y galon, ac na allai weithio ond ar berygl o golli ei fywyd. Beth os oedd yn yfed gormod ambell i ffair neu farchnad? Ie, ond ni allai Dafi, druan, ddal cymaint â dynion yn gyffredin, ac yr oedd y diferyn lleiaf yn effeithio arno. Fel yna y byddai Mari yn gwneud esgusodion iddi ei hun dros Dafi, ac yr oedd yn eiddigeddus iawn o'i gymeriad yn y capel. Os mai celu'r gwir yw ystyr celwydd, bu Mari yn euog o'r pechod hwn lawer gwaith. Gwyddai pawb o bobl Salem, serch hynny, am ffaeleddau Dafi, ond tosturient wrth gyflwr Mari Jones, ac ni allodd hyd yn oed Tomos Lewis, Coed Weddus, ei cheryddu am geisio cuddio beiau'r gŵr rhag y werin.

Nos Fawrth wedi Ffair Galan-mai yr oedd cwrdd gweddi teithiol i gael ei gynnal yn nhŷ Tomos a Phegi Lewis. Dywedir fod y cyrddau gweddi teithiol yn darfod o'r tir, ac na welir mohonynt, erbyn hyn, ond mewn ychydig ardaloedd yng Nghymru. Nid yw Cymru'n gwybod beth y mae yn golli. Mae rhywbeth swyddogol mewn cwrdd gweddi mewn capel neu festri, ond y mae cwrdd gweddi mewn tyddyn neu ffermdy fel crefydd Cymru ei hun—yn syml, yn ddiaddurn, yn brydferth, yn bersonol. Gwn am lawer Cymro sydd erbyn heddiw ymhell o'i wlad, a heb gyfle i fwynhau'r rhagorfreintiau a gaffai yng Nghymru. Pan ehed ei feddwl at sefydliadau ac arferion yr hen wlad, nid am y cyfarfod pregethu na'r ysgol gân, nid am yr eisteddfod na'r Ysgol Sul yr ymdorcha ei hiraeth, ond am y cwrdd gweddi a gynhelid nos waith dan gronglwyd ei dad. A mynych, pan eistedda wrth y tân ar noson dawel yn y gaeaf, wedi i ofalon byd ddistewi am y dydd, a phan na fydd neb gerllaw i dorri ar draws ei gymundeb â'i gydwybod, ei lygaid a welant olygfa brydferth a gogoneddus-dwsin neu ddau o wladwyr mewn tyddyn gwael ei lun yn darllen Gair Duw wrth oleuni cannwyll wêr, ac yn canu hen emynau Pant-y-celyn-a'u llygaid wedi eu cau ar y byd hwn er mwyn canfod yn eglurach bethau ysbrydol-gyda'r fath hwyl fel y mae'n rhaid dyblu a threblu'r gân.

Am ddiwrnodau cyn y cwrdd gweddi bu Pegi a Thomos yn ddiwyd yn dodi'r tŷ a'r clos a'r ardd yn gryno. Anfynych y galwai neb yng Nghoed Weddus ar neges, ond âi'r cymdogion i gyd yno ddwywaith bob blwyddyn—pan gynhelid cwrdd gweddi yno.

"Mae'r cwrdd gweddi heno yng Nghoed Weddus," byddai'r gŵr yn dweyd wrth y wraig, "a mae'n rhaid i ni fynd yno. Mae Tomos Lewis yn ffyddlon iawn pan fydd y cwrdd yma." Ac nid oes dim a gyfrifir yn fwy o warth yn Llanelwid na chael cwrdd gweddi gwan—oblegid amlyga hynny yn eglur fod gŵr a gwraig y tŷ wedi esgeuluso eu cyd-gynulliad yn yr hanner blwyddyn cynt.

Yr oedd cegin Coed Weddus wedi ei threfnu yn daclus nos Fawrth oriau cyn amser y cwrdd. Yr oedd tân pelau mawr yn goleuo'r ystafell, er mai mis Mai oedd hi. Ar y bwrdd pinwydd, rhwng dau ganhwyllarn pres gorffwysai Beibl Peter Williams, â chlaspau pres mawr, ac arno gorweddai y llyfr hymnau. Nid oedd y ddwy gannwyll wêr wedi eu goleuo, ac yr oedd canhwyllarn a channwyll yn barod i'w chynnau ar y dreser, ac un arall ar y ford fach tu ôl i'r drws. Eisteddai Tomos Lewis ar stôl deirtroed ar yr aelwyd, yn darllen y llyfr hymnau wrth olau'r tân, tra cerddai Pegi yma a thraw gan edrych yn bryderus 'nawr ac eilwaith ar y cloc wyth-niwrnod a safai wrth y cornel gerllaw'r seld.

Am saith o'r gloch y cyhoeddwyd y cwrdd i ddechrau, ond tua chwarter i saith clywai Pegi rywun wrth y drws. Brysiodd i'r penllawr gan ddweud:

"Dyma Mrs. Morris y Gelli, mi wn. Hi sy'n wastod yn gynta.

"Mi ddeson dipyn yn gynnar, Pegi Lewis," meddai Mrs. Morris, "mae'r nosweithe mor dywyll a'r ceie mor 'lyb, a fe benderfynodd Gwladus a finne starto dipyn yn gynt, a dwad rownd i'r hewl. Ond mae arna i ofan ein bod ni ar eich ffordd chi."

"Nag ych, nag ych, dir safio ni," atebai Pegi, "dewch ymla'n at y tân. Mae dipyn yn oflyd er i bod hi'n Gla'me, a ma'r glaw mân yma'n glychu dyn i'r cro'n."

"Ie, dewch ymla'n man hyn," anogai Tomos Lewis, gan ddodi'r gadair freichiau yn gyfleus i Mrs. Morris, tra cynnai Pegi'r canhwyllau. "Rwy'n falch i weld Miss Bowen wedi dwad gyda chi. Falle y dechreuith hi'r canu i ni heno."

"Na 'neiff, wir, Tomos Lewis," ebe Mrs. Morris, cyn i Gwladus gael amser i gydsynio, "rhaid i chi neyd e fel arfer." "'Dwy i ddim yn lico," atebai Tomos, "yn 'y nhŷ'n hunan."

"Chi sy i neyd heno, ta beth," meddai Mrs. Morris yn benderfynol.

"Wel, os ych chi'n gweyd hynny," atebai Tomos, "do's dim rhagor o siarad i fod."

"'Ddaw dim llawer yma heno, gewch weld," meddai Pegi yn bryderus.

"O, mae'n gynnar iawn eto," dywedai Mrs. Morris. "Rown i'n clywed Mr. Morgans y Siop yn gweyd ddo' i fod e'n dwad, ac 'ro'dd Sali yn gweyd yn y prynhawn y bydde hi a Nat yma."

Gyda'r gair, clywsent lais Sali yn y cwrt bach wrth y drws maes.

"Yr hen fochyn fel ag wyt ti!" ebe'r llais. "Dyna ti wedi dwyno trowsus gesot ti'n lân heno ddwetha! Pam na elli di ddryched ble'r wyt ti'n mynd, yn lle mynd yn dy gyfer i bob yn bwdlacs fel yna!"

"Sali fach," ebe llais digyffro Nat, "do's gyda fi ddim llygad cath i weld yn y twllwch, a shwt gwyddwn i fod Tomos wedi crafu'r bwdel i gornel y clos?"

Erbyn hyn yr oedd y ddau wedi cyrraedd hyd at drothwy'r tŷ.

"Holo," ebe Nat, "o's rhywun miwn yma?"

"Dewch ymla'n, Nathaniel," meddai Tomos, "mae'n dda gen i'ch gwel'd chi yn dwad mor gynnar."

"O, Tomos Lewis," atebai Sali, "do's dim eisiau i chi roi'r clod, naws, iddo fe. Mi ges i ddigon o waith i symud e o'r tŷ, a'i' stopa i fi ga'l un mwgyn bach,' a'i siafo, a newid i ddillad—a dyma fe wedi trochi i drowsus yn union ar ôl hynny-ddese fe byth o'r man 'ny on'se mod i wedi penderfynu na fyse ni ddim yn ddiweddar heno yto ta beth. 'Ro'dd yn gwilydd arna'i feddwl pwy mor dd'weddar o'en ni'r tro dwetha o'dd y cwrdd yma."

"Ro'dd Sali'n penderfynu y byse'r olaf yn fleinaf heno," dywedai Nat, gan droi cilolwg at Gwladus, "a cheswn i ddim galw yn y Dolau ar y ffordd i moyn Dafi Jones."

"I mofyn Dafi Jones, yn wir!" chwythai Sali. "Mi wn i ble y byset ti a Dafi Jones yn mynd yn go dda, a me ddyle fod cwilydd arnat ti siarad am fynd i moyn Dafi Jones byth a hefyd."

"Ody Dafi Jones yn dwad heno?" gofynnai Mrs. Morris. "Fe o'dd yn dechrau'r cwrdd yma y tro dwetha, 'rwy'n cofio." "Dafi Jones, wir!" ebe Sali yn watwarus. "Mi fydd hi dipyn cyn clywch chi Dafi Jones ar i linie yto."

Ni ddywedodd neb air am eiliad neu ddwy, a rhedodd ias oer drwy galon Gwladus.

"Ody Dafi Jones ddim yn dost, gobeithio?" gofynnai Gwladus yn ofnus.

"Yn dost!" atebai Sali, gan chwerthin yn wawdlyd. "Ody, mi gynta, hyd nes y ceiff e flewyn o'r ci brathodd e?"

Eisteddai Tomos Lewis a'i ben yn isel heb ddweud gair. Edrychai Mrs. Morris a Phegi yn brudd, oblegid drwg-dybient erbyn hyn beth oedd yn bod. Ond trawyd Gwladus yn fud am ennyd gan syndod.

"Y ci brathodd e?" gofynnai o'r diwedd. "Nid ci cyndeirog?"

"Ha, ha!" crechwenai Sali, "Ci eitha' cyndeirog brathodd e a Nat nos Sadwrn dwetha; ond—."

"Dyna ddigon o siarad, feniw!" meddai Nat mewn tôn gyffrous. "Mae Dafi Jones gystal siort ag sydd i ga'l yn y plwydd, ond mae i fai gydag e fel sy gyda ni i gyd."

Curai calon Gwladus yn gyflym, gyflym. Ni allodd ymatal heb ofyn:

"Beth sy'n bod ar Dafydd Jones 'nte?"

"Tomos Lewis," meddai Nat, gan annerch yr Hen Binacl yn bryderus, ond heb ateb Gwladus yn uniongyrchol, "rwy'n clywed eich bod chi yn mynd i dorri Dafi Jones ma's yn Salem nos yfory am i fod e wedi meddwi nos Sadwrn dwetha. 'Rown i gydag e'r holl amser,—dim ond hanner awr bu e yn y Red Lion; ac ar 'n llw 'yfodd e ddim ond tri neu bedwar glased o gwrw. Ac mi gerddes i gydag e drw'r pentre wrth ochor y gaseg, ag 'ro'dd dim byd ma's o le arno fe'r pryd hynny. Ag os cododd y peth yfed i ben e wedyn, nid o achos i fod e wedi yfed gormod y gnath e, ond o achos i fod e wedi bod trw'r dydd heb damed o fwyd wedi brecwast."

Nid atebodd Tomos Lewis am beth amser, a phan wnaeth yr oedd yn amlwg ei fod yn orchwyl caled, a rhoddodd ochenaid ddwfn wrth ateb:

"Nid arna' i mae e'n dibynnu, Nathaniel, beth 'neir nos yfory, ond ar yr eglwys."

"Rych chi ddim yn ceisio gweyd," meddai Mrs. Morris yn wyllt, "fod Dafi Jones yn mynd i ga'l i dorri ma's nos yfory?" "Mi fydd yn rhaid i'r eglwys," atebai Tomos yn araf, "benderfynu'r achos. Mae Mr. Morgans y Siop yn mynd i ddwyn y peth gerbron, a mae tri o'r aelode yn gweyd iddyn' nhw gwrdd â Dafi Jones nos Sadwrn yn feddw ar y gaseg."

"Druan â Mari Jones!" ochneidiai Mrs. Morris. "Mi fydd yn ergyd trwm iddi hi."

"Druan ag Arthur!" sisialai Gwladus wrth ei chalon. "Mae e mor falch o'i dad."

"Wi'n gobeitho, Tomos Lewis," ebe Nat, "na fyddwch chi ddim yn galed wrtho fe, wa'th nid cyment yfodd e 'nath i frad Mi weles i lawer crefyddwr yn yfed mwy ar fore pen ffair heb neb yn sbecto dim na neb yn gweld ôl peth yfed arno fe. Eisie bwyd o'dd ar y dyn! Ac os na 'newch chi er i fwyn e, cofiwch fel y bydd Mari Jones ac Arthur yn gorffod diodde."

"Yr eglwys sy i benderfynu, nid y fi," atebai Tomos; "ac y mae'r Beibl yn ein dysgu os bwyteith rhieni fale surion ar ddannedd y plant y bydd dincod."

Gyda hyn daeth eraill o'r ardalwyr i'r cwrdd, ond nid oedd fawr hwyl ar ddim. Ni allai Gwladus uno yn y gân na gwrando ar y gweddïau, ond o eigion ei chalon esgynnai llef ddistaw gan sibrwd:

"Druan o Arthur! Druan o Arthur! 'Ro'dd e mor falch o'i dad!"

Nid oedd Tomos Lewis, chwaith, yn ei hwyliau arferol. Nid oedd 'mynd' ar y canu, a digwyddodd un anffawd a fuasai'n destun chwerthin i Gwladus ar adeg arall. Rhoddodd Morgans y Siop y pennill adnabyddus allan,—Anweledig 'rwy'n dy garu. Tomos Lewis oedd yn arfer codi'r canu yn y cyrddau gweddi yn y cylch isaf o'r plwyf, a dywedid ei fod yn siwr iawn o daro'r dôn. Mesur wyth-saith-dwbl, fel y gwyddys, yw mesur yr emyn; ond yn ei ddiofalwch, cychwynnodd Tomos Lewis ef ar y mesur wyth-saith-a-phedwar, a'r canlyniad fu iddynt fethu canu'r ddwy linell olaf o'r pennill.

Yr oedd Nat mewn hwyliau gwyllt iawn y noswaith honno ar ôl ymadael o'r cwrdd ac er gwaethaf Sali, yn syth i'r Red Lion yr aeth.

"Hen gadno yw'r Hen Binacl," meddai, ymysg nad ynfyd yr yfwyr yno. "Mi ballodd yn deg ganu'r anweledig' heno. 'Chese'r Gŵr Drwg i hunan ddim gyda fe i ganu'r ddwy lein ddwetha:

'Ennill it eisteddfa dawel
Yn y galon garreg hon.'

'Do's gydag e help clywed siw na miw am 'galon garreg' byth oddi ar pan mae e wedi cael gafel yn y cwar cerrig. 'Do's dim lle, medden nhw, i Thomas y gweinidog weyd fod calon gig yn well na chalon garreg, wa'th mae'r Hen Binacl yn jelws o'r bwtsiwr bach!"

Ond os mai sbri ryfygus oedd gan Nat, noson bruddaidd oedd hi yn y Dolau, ac nid esgynnodd erioed hyd yn oed o Gymru weddi daerach a dwysach ei theimlad nag a offrymwyd ar ran ei gŵr gan Mari Jones. Ond Dafi ei hun oedd gyndyn, ac ni phlygodd lin wrth fynd i'w wely anesmwyth.

PENNOD XX.
DAFI JONES O FLAEN Y SEIET.

DIWRNOD mwyaf trist yn hanes Dafi a Mari Jones oedd Dydd Mercher y seiet. Yr oedd rhyw hurtrwydd ac ystyfnigrwydd rhyfedd wedi disgyn ar Dafi wedi'r dydd Llun pan ddaeth Morgans y Siop a Mr. Thomas y gweinidog i siarad ag ef. Bwytâi fwyd os dodid ef o'i flaen, ond nid oedd ganddo flas nac archwaeth at fwyd fel arfer. Cerddai oddi amgylch y ffarm, drwy'r ardd a'r caeau, yn bendrwm a dywedwst; ond yr oedd yn hynod nad aeth yn agos i Nat a'r Efail. O'r braidd y gallai Mari gael gair o'i ben, a thramwyai o'r gegin i'r neuadd heb daflu golwg ar y gwasanaethddynion na siarad gair â neb. Edrychai'r gwasanaethddynion arno gyda thrueni a thosturi; a chydsyniai pawb â Sara'r forwyn fwyaf pan ddywedodd ar frecwast bore dydd Mercher:

"Druan â mishtir!" meddai, "mae'n rhy ddrwg i fod e'n ca'l syffro fel hyn. Mi fyse'r hen fyd yma lawer yn well ta pawb cystel ag e.

Ond er cymaint oedd dioddefaint Dafi, nid oedd ing a thrallod Mari yn llai. Ni chlywodd neb hi'n dweud gair ynghylch yr helynt. Ni ddangosai ei bod yn gwybod fod dim allan o le, ond gwyddai'r morynion fod ei chalon ar dorri, a llawer gwaith y clywsant hi'n griddfan ac yn ochneidio yn ei hystafell wely, lle yr ymneilltuai sawl gwaith yn y dydd. Ond ni feiddiai neb ei chysuro. Yr oedd rhyw oleuni yn ei llygad, a'r fath olwg benderfynol yn ei hwyneb, fel na allai un o'r morynion fod o'r galon i gyfeirio mewn un modd at ei thrallod. Yr unig ffordd y dangosodd Mari i'r gwasanaeth-ddynion ei bod yn gwybod am y seiet oedd pan ddywedodd na allent gael myned fel arfer i'r cwrdd nos Fercher.

Tua hanner awr wedi chwech daeth yr amser i Dafi a Mari Jones gychwyn tua'r seiet, Dafi a'i lygad yn bŵl, yn edrych o'i flaen heb weled dim, Mari a'i phen yn uchel, ond ei chalon—pwy a ŵyr pa mor isel? Ni ddywedodd un ohonynt air wrth y llall wrth gychwyn, ond fel trwy reddf cyfeiriodd y ddau eu camre ar yr un eiliad tua'r llwybr oedd yn rhedeg drwy gaeau Coed Weddus i'r pentref, yn lle dilyn heol y plwyf. Cerddasant gyda'i gilydd drwy'r gludwair a'r ydlan, a thrwy'r allt fach goed tu ôl i'r ydlan, heb ddweud gair wrth ei gilydd, er bod eu calonnau yn curo yn boenus o gyflym. Ym mhen tipyn daethant at y bontbren dros y nant, a daeth i'w cof fel y cwympodd Mari yno pan yn eneth fechan ddeng mlwydd oed i bwll yr hwyaid, ac fel y neidiodd Dafi hyd ei ganol i'r dŵr i'w thynnu hi allan. Nid oedd eisiau i Dafi fod wedi neidio ar ei hôl, ac nid oedd Mari mewn dim perygl am ei bywyd. Gallai Dafi fod wedi ei thynnu allan heb wlychu esgid na dilledyn. Ond dyna gymeriad Dafi, druan, drwy ei oes! Gwnai bopeth yn ei gyfer, heb fwrw'r draul, ac wrth dalu cymwynas nid oedd byth yn gofyn p'un oedd y ffordd rwyddaf a rhataf iddo wneud hynny. A'r nos Fercher hon ni allai'r ddau byth beidio cofio am hen helynt eu hieuenctid wrth groesi'r bontbren fach, a synnai Mari mor fychan oedd y pwll y tebygai unwaith ei fod mor beryglus ei ddyfnder. Ac wrth ddilyn y llwybr yn nes ymlaen drwy'r Cae Hir, cofiai'r ddau am yr amser pan oedd Dafi yn fachgen ieuanc gwisgi, dwy ar hugain oed, yn hebrwng Mari adref o gwrdd a thaith ac ysgol gân. Yn y man daethant i heol fach Coed Weddus, lle cafodd Dafi afael unwaith yn nyth dryw bach, a'r lle dyorodd Mari ef i ddwyn yr wyau, ac y gwnaeth iddo addo na fuasai byth drachefn yn ysbeilio nythod adar bach. Yna daethant i Gae Tringol, lle'r oedd y syfi pêr yn tyfu ar y clawdd. Cofient am yr oriau hyfryd a dreuliasant yno yn pigo'r syfi ac yn siarad fel y gwna mab a merch â'i gilydd pan yn caru. Daeth atgof atynt hefyd am y diwrnod dedwydd hwnnw pan gynhaliwyd y cwrdd cwarter yn Salem, a phan aethant hwy ill dau i rodio'r caeau yn lle aros hyd ddiwedd y cyfarfod dau o'r gloch. Bu Mari yn gofidio llawer am hynny, yn enwedig am nad oedd ganddi fam i gyfaddef wrthi paham y bu cyhyd cyn godro y prynhawn hwnnw, a phaham yr oedd mor ddiweddar yn dod i'r cwrdd chwech. Wedi hynny daethant at y gamfa lle gofynnodd Dafi i Mari a gymerai hi ef yn ŵr priod, a'r lle cyfaddefodd Mari gyfrinach fwyaf sanctaidd merch, a'r lle y derbyniodd ef gusan cyntaf Mari. Ie, a chofient hefyd fel yr oedd Dafi wedi addo nad âi byth ond hynny i'r Red Lion, ac fel y cadwodd ei addewid am flynyddoedd. Ac wrth fod yr hen atgofion yn rhuthro i'w feddwl yn y llwydnos dawel, a chanfod wyneb prudd Mari yn y fan y gwelodd ef unwaith yn disgleirio gan gariad a balchder a hoywder ieuengrwydd a gobaith a dedwyddwch, ac wrth feddwl fel yr oedd yr wyneb a fu gynt mor hawddgar wedi ei rychio gan ffaeleddau gŵr, dyma linynnau teimladau Dafi, druan, yn rhoddi ffordd, a thorrodd allan i wylo fel plentyn.

"O, Mari annwyl," meddai, "mae'n ddrwg gen i mod i wedi dwad â chwilydd ar dy ben di fel hyn, y merch annw'l i." "Ti" a "thithau" oedd hi bob amser gyda'r ddau pan fyddai eu teimladau wedi eu cyffroi.

"Paid di becso, Dafi bach," atebai Mari, a'i llaw yn dyner am ei wddf a'i phen yn pwyso ar ei ysgwydd, "paid di becso, 'y machgen i, os wyt ti'n dyfaru am dy bechod."

"Ond feddyles i ario'd," aeth Dafi ymlaen i ddweud, "y byswn i byw i weld y dydd pan fyse cwilydd arna' i fynd gyda ti i'r capel gododd dy dad."

"Dere di, Dafi bach," atebai Mari, "mae'r Arglwydd yn trugarhau wrth yr ysbryd cystuddiedig, ac os wyt ti'n penderfynu peido gneyd y fath beth yto, mi gei di faddeuant. A mi fyse arna' i fwy o gwilydd ta ti ddim yn cwympo dan dy fai na sy arna' i am dy fod wedi pechu."

"Nid am hynny 'rwy'n becso," dywedai Dafi yn llai cyffrous, "ond meddwl fod yn rhaid i fi ga'l 'y ngheryddu a'n niarddel gan y dynion 'na, a thithe a phawb yn gweld."

"Paid di meddwl am hynny, Dafi bach," meddai Mari, "a phaid di â chaledu dy galon. Os byddi di'n ufudd, bydd pawb drwy'r holl le yn teimlo drosto ti, a thi wyddost y bydda' i'n meddwl mwy amdanat ti nag ario'd."

"O, Mari, Mari!" torrai Dafi allan drachefn, "shwd gelli di, a thithe'n gwbod nag w i ddim yn ffit i fod yn ŵr i ti? "Ro'dd dy dad yn gweyd yn reit y dylet ti ga'l rhyw un fyse'n gredit i ti, yn lle rhywun fel y fi!"

"Mae'n well gen i ti, 'y machgen i," meddai Mari, "na neb ar y ddaear a ta 'nhad yn dy nabod di'n well, mi wede ynte'r un peth. A ta beth weda' nhw amdanat ti, 'na nhw ddim o fi i feddwl llai ohonot ti, wa'th 'rwy'n dy 'nabod di'n well na neb." Bu distawrwydd am foment neu ddwy. Yna meddai Dafi, mewn llais isel:

"Mari, mae'n siwr fod deng mlynedd ar hugen o ar pan ofynnes i ti fod yn wraig i fi man hyn."

"Deng mlynedd ar hugen i'r wythfed o Awst nesa'," atebai Mari, "rwy'n cofio fel ddo' am y nosweth."

"Mi nes i lw prytynny, Mari," ychwanegai Dafi, "nad elwn i byth wedyn i'r Red Lion; ond mi dorres 'n llw, ac 'rwy' wedi bod yn ŵr gwael i ti."

"Nag wyt, nag wyt," meddai Mari, "do's dim gwell gŵr yn y byd.

"Rwy'n gwbod gwell, Mari fach," dywedai Dafi, "ond 'rwy'n mynd i dreio, gyda help Duw, i fyw'n well, ag i 'neyd fyny i ti."

Ac yna, gerllaw'r gamfa lle rhoddodd Mari y cusan cyntaf i Dafi pan oeddynt eto yn ieuanc ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, y rhoddodd Mari y nos Fercher hon y cusan puraf a allasai gwraig ei roddi i'w gŵr.

O fawredd dylanwad gwraig rinweddol!

Er i Dafi a Mari Jones gychwyn o'r Dolau yn ofnus ac isel eu hysbryd, ar ôl croesi'r gamfa siaradai'r ddau yn dawel a di-gyffro â'i gilydd. Nid oedd poen na balchder i'w weled ar wyneb Mari, nac ystyfnigrwydd na natur ddrwg ar wyneb Dafi. Synnai a rhyfeddai pawb pan ddaeth y ddau i'r seiet, i ganfod mor ddedwydd yr edrychent—rhyw ryfeddod, gallaf dybio, tebyg i'r hyn a deimlid gan y genedl yn yr anialwch pan welsant wyneb Moses yn disgleirio wrth ddisgyn oddi ar ben y mynydd. A chredaf i Dafi a Mari Jones, wrth gamfa arw Cae Tringol, fod yng ngwyddfod Duw ei hun!

Nid yw o lawer o bwys ym mha fodd y diarddelwyd Dafi Jones gan yr eglwys. Ni cheisiaf adrodd yr hanes yn fanwl,—fel yr oedd yr ysgoldy yn llawn cyn i Dafi gyrraedd y lle, fel y dywedodd Morgans y Siop ychydig o eiriau miniog, fel y gwnaeth Gruffudd y Coed ei gyfeiriad cas at acsiwn Pen-y-bont ac y datganodd ei syndod nad oedd Mr. Thomas y gweinidog wedi gweled Dafi nos Sadwrn ac yntau wedi pasio heibio i'r tŷ; fel y gwadodd Mr. Thomas iddo weled Dafi Jones (er i'r forwyn ddweud ar ôl hynny iddo droi ei gefn pan glywodd lais Dafi yn siarad yn floesg â Nat); ac fel y dywedodd Tomos Lewis ychydig o eiriau pwyllog, caruaidd, yn llawn cyd-ymdeimlad a thosturi, ond yn hynod o glir a phenderfynol. Ni wnaf adrodd, 'chwaith, fel y cyfaddefodd Dafi ei drosedd, heb geisio ei ragesgusodi, ac yr addunedodd na wnelai byth syrthio drachefn, os cawsai gymorth Duw a gweddïau ei bobl. Dywedir na chafodd Mr. Thomas y fath orchwyl caled erioed â thorri Dafi allan. Yr oedd dagrau gloywon yn ei lygaid, ac o'r braidd y gallodd lunio brawddeg yn eglur; ond, ar ôl ei ddiarddel, ychwanegodd ei fod yn gobeithio na fuasai yn sefyll allan yn hir, ac y byddai y brodyr oll yn cydlawenhau pan ofynnai am ei le drachefn. Dywed pobl Salem na chlywsant erioed y fath weddi ddwys ac effeithiol â'r un a offrymwyd gan y gweinidog ar ddiwedd yr oedfa. Yr oedd hyd yn oed Gruffudd y Coed yn rhoddi ambell i "Amen" wylofus, a bu agos i rai o'r hen bobl dorri allan i foliannu fel y gwnaent genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Ar ddiwedd y cyfarfod aeth Dafi a Mari Jones allan gyda'i gilydd. Rhoddai pawb ffordd iddynt heb ddweud gair ond "noswaith dda chi" garedig, gan ddangos eu parch a'u cydymdeimlad yn ddistaw.

A'r noson honno teyrnasai heddwch a thangnefedd yn y Dolau Gwynion.

PENNOD XXI.
DIWEDD DAFI JONES.

DRUAN o Nat! "O Nat?" medd y darllenydd. "Pwy eisiau tosturio wrth Nat sydd? Efe fu wrth wraidd y drwg i gyd. Efe fu'n tynnu Dafi Jones ar gyfeiliorn drwy ei oes. Efe a achosodd iddo feddwi y nos Sadwrn honno yn y Red Lion, ac a ddygodd yr holl amarch a'r anfri ar ei ben."

Gan bwyll, ddarllenydd hynaws! Gwn fod pobl yn barod i rannu dynolryw yn ddwy gorlan fawr—y da a'r drwg, y defaid a'r geifr. Ond pwy sydd i wahaniaethu rhyngddynt? Paid â chondemnio Nat yn rhy frysiog, er ei holl ffaeleddau. Nid wyf wedi cuddio un ohonynt o'th olwg: yr oedd yn rhyfygus, yn wamal, weithiau yn feddw, aml waith yn rhegi ac yn cablu. Yr oedd ei ddylanwad ar Dafi ac eraill yn y plwyf yn ddrwg. Eithaf gwir; ond erfyniaf arnat i dosturio hyd yn oed wrth gyflwr Nat.

Yr oedd Nat, hefyd, wedi newid llawer wedi'r nos Sadwrn y bu yn yfed gyda Dafi Jones yn y Red Lion. Byth ar ôl hynny ni ddaeth Dafi yn agos i'r efail, ac nid oedd yr efail yr un hebddo. Gofynnai Nat i bawb a wyddent am hanes neu symudiadau Dafi. Yr un ateb a dderbyniai oddi wrth bawb; nid oedd neb wedi gweled gŵr y Dolau yn unlle o fyd wedi nos Fercher y seiet. Ym mhen ychydig o ddiwrnodau wedi'r diarddeliad, clywodd Nat nad oedd Dafi Jones byth yn croesi trothwy'r Dolau, ond ei fod yn pendrymu uwchben y tân, heb ddweud gair wrth neb ond wrth Mari ei wraig yn unig.

Yr oedd ofn ar Nat fyned i'r Dolau i weled Dafi. Nid ofn Dafi, druan, ond ofn Mari oedd arno. Yr oedd y ddau wedi eu cydfagu. Nid oedd "Tŷ Nat" ond rhyw ganllath o'r Dolau, ac yr oedd y ddau, pan yn blant, yn arfer chwarae gyda'i gilydd. Pan oeddent yn fychain iawn, buont yn gariadon. Pan ofyn-nid i Mari Jones pwy oedd ei chariad, ei hateb oedd "Nat," phan ofynnid yr un peth i Nat, "Mari fach" oedd ei ateb yntau. Un dydd Calan rhedodd Mari ymaith heb yn wybod i'w thad a'i mam i gasglu calennig gyda Nat, a siaradai'r ddau am briodi pan ddelent yn "ddynon mowr." Ond fel y tyfent i fyny, daethant i ddeall, heb neb i'w cyfarwyddo, fod gwahan-iaeth rhwng sefyllfa merch y ffarm fwyaf yn y plwyf a mab y gof. Ac felly darfu eu caru babanaidd yn gynnar iawn.

Ond yr oedd gan Nat olwg fawr ar Mari Jones drwy ei oes. Nid oedd neb a allai wneud iddo roddi ffrwyn ar ei dafod fel hi, ac ni allai pendefig dalu mwy o wir barch i'r Frenhines nag a dalai Nat i Mari Jones. Ambell i un yn y plwyf, yn nhyb Nat, a deilyngai gael ei alw yn dduwiol; ond cyfaddefai bob amser am Mari fod "gwreiddyn y mater" ganddi hi. Nid oedd Mari heb wybod fod ganddi ddylanwad ar Nat, a gwyddai hefyd mai Nat oedd yn tynnu ei gŵr ar gyfeiliorn. Paham na fuasai yn dweud rhywbeth wrth Nat? Paham na fuasai yn gofyn iddo beidio temtio'i gŵr? Mae'r ateb wedi ei guddio yn nirgelion y galon ddynol. Feallai fod Mari Jones yn rhy falch i ymostwng i eiriol ar ran ei gŵr. Feallai y credai y gallai hi ddenu Dafi o'i ffyrdd drygionus heb erfyn am ganiatâd a chynhorthwy ofer-ddyn fel Nat. Feallai na wyddai faint ei dylanwad.

Beth bynnag am y rheswm, y mae'r ffaith yn aros na ddywedodd Mari Jones air erioed wrth Nat am ei gysylltiad â Dafi. Ac eto yr oedd Nat ofn ei dau lygad glas, gonest, difrifol! Bu am ddiwrnodau yn ceisio ymwroli i fyned i'r Dolau, ond ni allai. Un prynhawn—i fod yn berffaith gywir, y dydd Mawrth ar ôl y seiet—canfu y meddyg ar y ffordd tua'r Dolau, a gofynnodd iddo ym mha gyflwr yr oedd Dafi Jones. "Dyw e ddim yn dda," meddai'r meddyg; "mae arna i ofan na pharith e ddim yn hir."

Dychrynodd Nat, a heb oedi rhagor aeth ar ei union i'r Dolau. Yn ôl ei arfer, cerddodd i'r gegin heb aros i guro wrth y drws maes. Yn y gegin cafodd Mari Jones yn paratoi bwdran i'r claf. Edrychai Mari yn fwy tenau a llwydaidd nag y gwelodd Nat hi erioed o'r blaen, ac yr oedd golwg gofidus ar ei hwyneb. Rhuthrodd i gof Nat fel y gwelodd yr un olwg arni unwaith o'r blaen, flynyddoedd maith yn ôl, pan oeddynt ill dau yn blant bach—ar adeg marwolaeth ei mam. Crynai llais Nat wrth ofyn:

"B'le mae Dafi Jones yn cadw 'ma, os llawer dydd?"

"'Dyw Dafi ddim hanner da os dwarnode," ebe Mari mewn llais undonog. "Dywi galon e ddim agos reit os blynydde, ac mae'r doctor wedi bod yn tendo arno fe oddi ar pry'nawn ddo'."

"Mae'n ddrwg iawn gen i glywed," meddai Nat. "Rwy'n gobeitho nag o's dim byd seriws yn bod."

"Wel, 'dalla' i ddim â gweud," dywedai Mari, "ond mi wedodd y doctor wrtha i ddo' am hala i moyn Arthur, a mi hales deligram ato fe rhag ofan, a 'rwy'n dishgwl y daw e cyn nos, er 'y mod i'n treio gobeitho'r gore o hyd."

"Rych chi'n gneyd yn reit, Mrs. Jones fach," meddai Nat, a'i galon yn ei wddf. "Allwn i ga'l gwel'd Dafi Jones am fyned? Falle gnethwn i dipyn o les iddo fe. 'Ro'dd e'n arfer gweyd 'y mod i'n gallu codi i ysbryd e pan o'dd pawb arall yn ffeilu."

"Wel, mae digon o eisie arno fe 'nawr, druan bach," dywedai Mari, "mae e'n hynod o ishel heddi, ac y mae e wedi hala'i hunan yn wa'th drwy ddishgwl Arthur bob myned."

"Ody e ddim yn cadw'r gwely," gofynnai Nat.

"Na, fuodd e ddim yn cadw gwely hyd heddi," atebai Mari, "ond mi wedws y doctor y byse'n well iddo fe beidio codi heddi os galle fe. A fel'ny mae e wedi bod drwy'r dydd yn y gwely. Mi af fi â chi miwn i wel'd e, ond i chi gofio bod yn ddistaw." "Gna, gna, Mrs. Jones fach," meddai Nat yn dawel ac yn dyner.

Dilynodd Nat Mari Jones o'r gegin i'r neuadd. Yn un pen i'r neuadd yr oedd drws yn agor i'r parlwr bach, ac i'r ystafell hon yr arweiniodd Mari y gof. Mewn gwely cwpwrdd yn y parlwr bach gorweddai Dafi Jones, a gwrid afiach ar ei wyneb, a golwg wasgedig yn ei lygaid.

"Rwy' wedi galw i ofyn shwd ych chi, Dafi Jones," meddai Nat. "Mi glywes eich bod yn ca'l hen bwl bach cas."

"Mae ar ben arna' i, Nat bach," atebai Dafi. "Rwy' wedi cyrraedd pen draw'r grwn, 'rwy'n credu."

"Peidiwch rhoi ffordd i ishelder, Dafi Jones bach," ebe Nat, gan wneud ei orau i ymddangos yn ysgafn ei ysbryd. "Nid yw'r clefyd hwn i farwolaeth, os gwedodd y Beibl."

"Na, na, Nat," oedd yr atebiad. "Rwy'n gw'bod yn well na ti. Alla' i ddim para'n hir, ond fe licwn ga'l byw i weld Arthur unwaith yto."

"Dafi bach," meddai Mari, "peidiwch chi â siarad fel 'na. Mi ddaw Arthur yma yn union, ac 'rych chithe ddim mor ddrwg â hynna."

"Na," dywedai Dafi, "'rwy'n nabod wrth y doctor na fyddai i ddim yn hir ar y ffordd."

A chyn i Mari gael amser i ateb, clywyd sŵn cerbyd ar y clos, a hanner-cododd Dafi yn y gwely, a dywedodd yn gynhyrfus:

"Dyma Arthur wedi dwad o'r diwedd."

Ac Arthur oedd yno, ac ym mhen ennyd yr oedd yn y parlwr bach, yn sefyll wrth erchwyn y gwely.

"O, 'machgen annw'l i," meddai Dafi, a'r dŵr yn dihidlo dros ei ruddiau, "rwyt ti wedi dwad. 'Ro'dd arna' i ofan na welswn i byth ohonot ti wedyn."

"Nhad bach, 'dych chi ddim mor ddrwg â hynna hefyd, peidiwch chi â meddwl," ebe Arthur mewn llais calonnog,—ond safai deigryn gloyw yn ei lygad wrth roddi cusan i'w fam.

"Na, na, 'machgen i," meddai Dafi, "rwyt ti'n gwbod yn well na hynna. Mae'n ôl-yp arna' i'r tro hyn, 'rwy'n gwbod. Wyt ti'n meddwl y ca' i fynd i'r nefo'dd?"

"Nhad annwyl, peidiwch siarad fel 'na," atebai Arthur, "wrth gwrs fe gewch fynd i'r nefo'dd."

"Ond 'rwyt ti ddim yn gwbod y cwbwl, Arthur bach," meddai Dafi. "Wedodd dy fam ddim wrthot ti 'mod i wedi ca'l 'y nhorri ma's."

"Peidiwch chi siarad gormod, Dafi bach," torrai Mari i mewn, "rych chi'n rhy wan yto."

"A mi ges 'y nhorri ma's am feddwi, Arthur," ychwanegai Dafi.

"Ond 'do'dd e ddim ar bŵs, mi 'na'n llw," meddai Nat, "wa'th 'rown i gydag e ar y pryd."

"Paid â gwadu, Nat bach," ebe Dafi, "mae'n well cyfadde'r gwir wedi'r cwbwl. 'Rwy'n gobeithio, Arthur, na fyddi di ddim yn dryched lawr ar dy dad achos i fod e wedi ca'l i dorri ma's. 'Rwy' i wedi gneyd 'y ngore i fod yn dad da i ti."

"Nhad, 'nhad!" llefai Arthur, "peidwch, peidwch. 'Alla i ddim eich godde chi i fyn'd ymla'n fel yna. Shwd galla i ddryched lawr arnoch chi? Chi yw'r gore weles i ario'd, a ta chi wedi ca'l eich torri ma's ganwaith, 'neiff e ddim gwahan-ieth i fi."

"Ond, Arthur bach," aeth Dafi ymlaen i ddweud, "mi wedson wrtha i mod i wedi meddwi yn acsiwn Pen-bont, a wedes i ddim wrthyn' nhw 'y mod i wedi yfed gormod yn Ffair Fedi a Ffair Gw'l Barna, ond na welson' nhw ddim ohona i. Wyt ti'n meddwl y ca' i fynd i'r nefo'dd, Arthur?" "Cewch, cewch, 'y nhad bach," meddai Arthur, heb wybod yn iawn beth i ateb, "peidwch chi a distyrbo'ch hunan 'nawr, ond gnewch eich gore i wella."

"Pam na ddaw Mr. Thomas yma?" gofynnai Dafi yn ddisymwth gan droi at Mari.

"Mae e ar ger'ed," atebai Mari, "ond mae Mrs. Thomas wedi hala i weyd y bydd e yma 'fory."

"Fory, 'fory," meddai Dafi, gan bwyso yn ôl ar y goben-nydd, a rhyw olwg ddieithr yn ei lygaid.

"Mari, dere yma," meddai wedyn.

Aeth Mari ymlaen yn dawel at yr erchwyn, ac esmwythâodd y cwrlid â'i llaw, fel y gwna gwragedd tirion yn ystafell y claf.

"Rho dy law i fi, 'merch i," ebe Dafi.

Yn llaw ei gŵr gosododd ei llaw galed ei hun.

"Rho dy law i fi, machgen i," ebe Dafi drachefn wrth Arthur, ac ar yr un llaw dododd Arthur ei law yntau.

"Rwy' wedi bod yn ŵr gwael i ti, Mari annw'l," meddai Dafi ym mhen tipyn.

"Nag wyt, Dafi bach!" dywedai Mari, gan wylo'n ddistaw. "Rwy'n gallu i gweld hi'n awr," ychwanegai Dafi. "Down i ddim yn ffit i dy ga'l di oddi ar y cynta, a cha i ddim byw 'nawr i dreio 'neyd i fyny i ti. Ond cofia, Arthur, ddryched ar ôl dy fam, ar ôl i fi fynd."

"Gna, gna, 'nhad bach," ebe Arthur.

"Mae hi wedi aberthu pwer er dy fwyn di," aeth Dafi ymlaen. "Cofia di dalu yn ôl iddi, wa'th chei di byth neb i hido amdanat fel hyhi."

"Rwy'n gw'bod hynny, 'nhad bach," meddai Arthur.

"A Nat, "dywedai Dafi—yr oedd Nat yn eistedd ar y stôl yn y cornel a'i hat ar ei arffed, yn methu syflyd o'r fan—"rwy' wedi bod yn ffrind drwg i ti, ac wedi gneyd i ti adel yr efel ganwaith yn gynt nag oet ti'n moyn, er mwyn mynd i'r pentre."

"O, Dafi Jones!"—a thorrodd Nat allan i wylo am y tro cyntaf ers deugain mlynedd—"y fi sy â'r bai i gyd! On'se i fi ofyn i chi, fyse chi ario'd wedi dishgyn o ar gefen y gaseg a dwad i'r Red Lion pwy nosweth 'na. A fyse dim o'r trwbwl hyn wedi dwad arnoch chi."

"Nat, Nat," dywedai Dafi, "'rown i'n wa'th na ti, wa'th 'rown i ar enw crefydd, a mi ddylwn i fod wedi rhoi gwell siampl na hynny i ti. Arthur, wyt ti'n meddwl y ca'i fynd i'r nefo'dd ar ôl 'y nhorri ma's?"

"Cewch, 'nhad bach," atebai Arthur yn dd'ryslyd. "Rych chi'n gwbod beth mae'r Beibl yn weyd."

"Ie, ie, ond mae'r gair yn gweyd," meddai Dafi yn ei lais gwan oedd yn crygu erbyn hyn, "fod pob un sy'n cymeryd cymundeb yn annheilwng wedi ei ddamnio eisoes, a mi dderbynnes i fara a gwin dy' Sul ar ôl Ffair Fedi."

"Peidwch chi â rhoi'ch meddwl ar bethe fel 'na," ebe Arthur. "Mae'r Beibl yn gweyd fod Duw yn trugarhau wrth y galon ddrylliog."

"Y galon ddrylliog!" dywedai Dafi fel pe mewn breuddwyd "Y galon ddrylliog! Ody, mae'n nghalon i'n ddrylliog, medde'r doctor."

Gyda hyn yr oedd ei anadl wedi byrhau a'i lygaid yn cau, fel pe byddai yn ymollwng i gysgu. Edrychai'r tri oedd yn yr ystafell yn frawychus ar ei gilydd.

"Ody'n well i mi redeg i 'moyn y doctor?" gofynnai Nat yn isel.

Clywodd Dafi ef, ac atebodd yn dawel, heb agor ei lygaid: "Mae wedi whech, Nat bach. Ac o's dim eisie. 'Rwy'n gweld Meddyg y gwywedig rai."

Dim ond sŵn anadliad poenus Dafi oedd yn torri ar y distawrwydd. Ni feiddiai'r lleill ddweyd gair, ond safent yn fud wrth erchwyn y gwely. Yna, meddai Dafi, gan geisio agor ei lygaid trymion:

"Gwd-bei, Mari, 'y merch i. Gwd-bei, Arthur bach. Treia droi ma's yn well na gna'th dy dad."

Erbyn hyn yr oedd rhoch angau ym mhob anadliad. Edrychai'r tri heb ddweud gair, ar ymdrech yr enaid i ddychwel at Dduw, yr Hwn a'i rhoes ef. Ym mhen ychydig torrodd Dafi drachefn ar y distawrwydd drwy sibrwd yn isel:

Mi glywes gynt fod Iesu,
A'i fod e felly 'nawr,
Yn gyfaill publicanod
A phechaduriaid mawr;
O, derbyn, Arglwydd, derbyn
Fi hefyd gyda hwy.

Yr oedd ei gof fel pe yn dechrau pallu erbyn hyn. Ar ôl ennyd o ddistawrwydd sibrydodd y geiriau olaf drachefn:

O, derbyn, Arglwydd, derbyn
Fi hefyd gyda hwy.

Yr oedd dagrau mawrion yn bwrlymu o lygaid Nat, ond yr oedd grudd Mari yn sych a'i llygaid yn gochion, fel lleoedd anial heb ddyfroedd ynddynt. Yr oedd ei llaw hi a llaw Arthur o hyd yng ngafael Dafi, ac yna, fel cannwyll yn diffodd, darfu Dafi Jones ag anadlu.

Ac yr oedd Dafi Jones yn gwybod mwy nag oedd Arthur erioed wedi ddysgu.

PENNOD XXII.
HIRAETH NAT.

PYTHEFNOS i'r diwrnod wedi Ffair Calan-Mai gosodwyd Dafi Jones yn ei fedd ym mynwent Llanelwid. Dim ond dwy wythnos! ond, Ow'r fath gyfnewidiadau, y fath alar a gofid, a gymerodd le ynddynt! Daeth yr holl blwyf ynghyd i dalu'r deyrnged olaf i Dafi, druan. Ni weddai i mi geisio darlunio'r angladd yn fanwl—nid oedd dim yn ei hynodi oddi wrth angladdau cyffelyb. Bu Mr. Thomas yn darllen a gweddïo cyn codi yn y Dolau, ac ar ôl canu hen emyn Cymraeg—mor lleddf a chwynfanus â'r gwynt ar y morfa, er nad heb wir ddiogel obaith y ceir "esgyn o'r dyrys anialwch" ryw ddydd—cychwynnodd yr orymdaith allan o'r tŷ yn sŵn wylo distaw y gwragedd. Ond safai Mari Jones wrth ochr Arthur, heb ddeigryn yn ei llygad. Yr unig arwydd a roddodd, drwy gydol y dydd, o ddwyster ei theimladau blin, oedd pan aeth Gwladus ymlaen ati ar ddiwedd y gwasanaeth yn y tŷ. Gafaelodd yr hen wraig yn dyn yn llaw dyner yr eneth, ac nis gollyngodd hi yn rhydd hyd nes y gosodwyd corff ei gŵr i orwedd dan yr ywen ddu mewn cwr llonydd ym mynwent y Llan, i aros utgorn yr atgyfodiad.

Y galarwr mwyaf athrist yn yr angladd oedd Nat. Edrychai ar y cyfan fel rhyw freuddwyd cas, a lled-ddisgwyliai y byddai yn dihuno yn y man a chael ei fod wedi dychmygu'r cwbwl. Cerddai yn yr orymdaith, gosodai ei ysgwydd dan yr elor yn ei dro, heb allu sylweddoli mai Dafi Jones oedd yn cael ei hebrwng i dir ei hir gartref.

"Pythewnos i heddi," meddai wrtho ei hun, "yr oedd yn fyw ac yn iach,—yn wherthin gyda fi yn y Red Lion, ac yn brochgáu'r gaseg fach wrth 'yn ochor mor jocôs ag ario'd!"

Ni allai ddweud gair wrth neb, oblegid yr oedd yn caru Dafi â chariad cryfach nag a feddyliodd o'r blaen, ac yna fe'i beiai ei hunan am y filfed waith fel achos marwolaeth ei hen ffrind.

"Tawn i ddim wedi gofyn iddo fe ddishgyn yn y Red Lion,' dywedai wrth ei gydwybod, "mi fyse wedi mynd gartre'n streit y nosweth hynny, a ni fyse dim bodder wedi bod. ddim wedi ca'l i dorri ma's, mi fyse'n fyw heddi."

Synnai wrth ganfod mor ddidaro oedd llawer o'r bobl yn yr angladd. Clywai rywun tu ôl iddo yn dweud fod ei ail forwyn wedi torri ar ei chyflog. Trodd i wynebu'r dyn, a dywedodd yn sarrug:

"Rhag eich cwilydd chi'r dyn! Odych chi'n meddwl nag o's gyda ni ddim rhytach gwaith mewn angladd na siarad am forw'non yn torri?"

Edrychodd y gŵr yn syn am funud, yna atebodd yn chwim: "Satan yn ceryddu pechod! 'Roe't ti, Nat, yn siarad digon yn angladd 'rhen Beto Pen-bont, ag yn gneyd i Dafi Jones, druan ag e, wherthin yn uchel yn y fynwent."

Trywanwyd calon Nat; aeth yr ateb fel saeth adref. Cofiodd mor ddibris ac ysgafn yr oedd Dafi ac yntau yn yr angladd, ac fel y gwnaethant, yn ôl hen arfer baganaidd y A rhyfeddai wlad, ar ôl "claddu y marw fynd at y cwrw." Nat wrth feddwl, y buasai rhywrai, feallai, yn gwneud yr un peth y diwrnod hwnnw, ar ôl angladd Dafi—ie, rhai cyn bod y pridd wedi gorchuddio wyneb yr arch!

Wedi'r angladd aeth Nat adref heb alw yn un man na siarad ond ychydig eiriau â'i gymdeithion. Cyn pen ychydig ddyddiau aeth y si ar led fod marwolaeth Dafi Jones wedi difrifoli llawer ar Nat, nad oedd i'w weled hyd nos yn y dafarn, ac nad oedd yn cellwair yn rhyfygus yn yr efail fel cynt.

Nid oes eisiau dweud fod pawb yn synnu, a rhai yn ddrwg ganddynt oherwydd hyn. Bu crytsach yr ardal yn ymgynghori pa fodd y gallent gywilyddio Nat, a gwawdio ei ddifrifoldeb newydd ond gan gymaint yr arswyd a deimlid rhag cyffroi tafod ffraethlym yr hen of, nid ymgymerodd neb â'r gorchwyl. Felly cafodd Nat hamdden i ymladd ei frwydr yn ddistaw, heb neb ond Sali i aflonyddu dim arno.

Am y tro cyntaf yn ei fywyd daeth arno ofn tafod Sali. Dychrynai rhag iddo ofyn iddi beth oedd yn bod, a gwnaeth ei feddwl i fyny, os gofynnai iddo, y dywedai y cyfan wrthi.

Un bore, ar ôl iddo fethu yn lân â gwneud cyfiawnder â'i forefwyd, ni allodd Sali ymatal yn hwy.

"Beth sy arnat ti, Nat?" gofynnai. "Mi alle dyn dyngu dy fod di wedi gweld bwci! Pwy eishe i ti bendrwmu sy'? 'Dwyt ti ddim wedi gneyd dwarnod cyfan o waith os w'thnos, a dyma fi wrthi o fore 'soi nos, a 'dwy i ddim yn ceintach ac yn ochneido. Beth ta ti wedi gorffod golchi i dri gwas y Dole, heblaw ffwrno i ni'n hunen, fel y gorffid i fi ddo'? Mi licwn weld dy ddrych di wedyn!"

Afrwydd iawn gan Nat oedd ateb.

"Rwy'n gw'bod," meddai, "nag w i ddim wedi bod yn reit o' ar pan halws Dafi Jones i getyn, druan."

"Ie, 'rown i'n gweud wrthot ti y ceset ti annwyd, nosweth yr angladd, yn mynd ma's fel 'ny yng nghenol y glaw ar ôl dwad 'nôl," ebe Sali. "Mi af fi at Morgans y Siop i moyn y moddion crwc 'na. Mae e'n dda iawn at annwyd."

"Na, 'do's dim byd ma's o le arna' i, Sali," atebai Nat. Ond 'rwy' wedi bod yn meddwl y dylwn i roi heibo mynd i'r tafarne 'ma gyment.

Ai Nat oedd yn siarad mor wylaidd? O'r braidd y gallai Sali gredu ei chlustiau. Edrychodd mewn syndod arno am beth amser, ac yna llefodd:

"Ie, ie, 'ngwas i, 'rwyt ti wedi dwad i weld hynny o'r diwedd, wyt ti! 'Rwy' i wedi bod yn gweud digon wrthot ti am hynny os ugen mlynedd a rhagor. Ond na! 'roet ti'n ormod o ddyn i 'neyd dim sylw o'r peth o'wn i'n weyd. Mi fyse llawer gwell golwg arnat ti heddi ta ti wedi grondo arna' i'n gynt."

Yr oedd hyn fel tân ar groen Nat.

"Y feniw!" meddai yn wyllt, "'rwyt ti'n ddigon i hala dyn i beido trio bod yn well."

"O, ie, ie," llefai Sali mewn tôn ddolefus, "dyna fel w i'n i cha'l hi'n wastod. Os gweda i air, 'dyw e byth yn reit, hyd yn oed pan nag w i'n gweyd gair ond ar dy ôl di. A dyna ti dy hunan yn gweud na ddylet ti ddim hala'r holl amser 'na tua'r Red Lion, a 'nes i ddim ond gweyd 'y mod i wedi gweud yr un peth os ugen mlynedd, a 'do's dim byd yn rhy ddrwg i weud amdana i!"

Erbyn hynny yr oedd Sali wedi casglu nerth, ac yr oedd ei huawdledd wedi cronni nes dod yn llifeiriant ysgubol.

"Y fi'n dy hadel di i fod yn well?" gofynnai'n groch. "Y fi? Pwy sy wedi godde' cyment â fi achos dy yfed di? A phwy sy wedi cadw to uwch dy ben di, a chrwstyn yn y cwpwrt, ac yn slafo ddydd a nos i fagu dy blant di? Y fi'n dy hadel di i fyw'n well? Dyna i gyd yw'r diolch

Syrthiodd Sali ar fainc wrth ochr y bwrdd, cododd gornel ei ffedog at ei llygaid a thorrodd allan i wylo'n chwerw. Pan ddaeth ati ei hun, yr oedd Nat wedi diflannu o'i gŵydd.

Am ddiwrnodau ar ôl hyn bu Nat yn gweithio o fore bach hyd fachlud haul yn yr efail, ond ni ddywedodd air yn rhagor wrth Sali. Un prynhawn tua dechrau Gorffennaf daeth i'r tŷ gan edrych yn hynod swil, a dywedodd yn ddisymwth:

"Sali, 'rwy' wedi seino dirwest!""

"Wedi seino dirwest!" llefai Sali. "Beth wyt ti'n feddwl, y dyn?"

"Rwy' wedi joino'r Rechabied 'na," ebe Nat, gan osgoi llygad Sali.

"Yr hen glwb bach 'na?" gofynnai Sali. "A phwy ddwarnod 'roet ti'n gneyd sbri am 'u pene nhw, ac yn gofyn pwy fusnes o'dd gyda nhw i alw'u hunen yn Rechabied os na fyse nhw'n troi yn Jips! Wel, mi fydd gyda dy hen gwmpni sbri man clywan' nhw, a mi neiff Robin y teilwr gân i ti! Ha, ha! Nat yn ditotal! Nit mod i'n anfolon, cofia di. Mi halest fwy o arian ar gwrw nag ennilli di byth yto! Ond pam na fyset ti wedi towlu heb seino dros y ddou gynhaea' a'r acsiwne? Wa'th mae digon o gwrw i ga'l pryd hynny am ddim."

Mewn un peth daeth y broffwydoliaeth i ben. Cyfansoddodd Robin gân o wawd i Nat; ond gan mai ar fesur cywydd oedd, ni chafodd lawer o boblogrwydd yn Llanelwid. Ni chlywais i ond dwy linell yn unig o'r cywydd, ac y mae yn dra thebyg na chefais hwynt yn gywir. Gwatwarai Robin:

Yr angel wrth yr eingion
Y gof du yn dyblu'r dôn.

Ond er mor galed oedd gwingo yn erbyn symbylau Robin a Sali, glynu a wnaeth Nat wrth ei glwb, ac y mae yn un o'r aelodau ffyddlonaf yn y cyfarfod wythnosol yn y Ddarllenfa, ac y mae ei ffraethineb a'i ddireidi—oblegid y mae wedi dysgu'r ffordd i chwerthin eto erbyn hyn, er bod ei hen ryfyg a'i anystyriaeth wedi cilio—yn ei wneud yn gymaint ffafr-ddyn yno ag y bu gynt yng nghegin y Red Lion. Nid yw wedi ymaelodi yn Salem, ond y mae yn wrandawr cyson, ac nid yw'r gweinidog a Mari Jones heb obaith y gwelir ef yn aros ar ôl un o'r dyddiau nesaf. Erys Sali yr un o hyd. Ni all amgyffred y cyfnewidiad sydd wedi cymryd lle yn ei gŵr, ac, a dweud y gwir, nid yw yn holl-fodlon.

"Rown i'n arfer ca'l gwared ar Nat," meddai, "dair nos-weth ne beder yn yr wythnos; ond cha'i byth i wared e 'nawr ond pan fydd cwrdd gweddi neu gwrdd y clwb bach 'na. Ta fe'n bod yn llonydd yn y tŷ, fyswn i ddim yn hido rhw lawer. Ond dyna lle mae e'n mynd yn ôl ag ymlâ'n yn i sgidie brwnt, ac o's dim posib cadw un cornel yn lân ar i ôl e?"

Ond mae Sali'n dechrau bodloni, hefyd, erbyn hyn, ar ôl i Nat ddodi arian yn y Post Office Savings Bank gyda Morgans y Siop.

Mae Mari Jones wedi ymadael o'r Dolau. Ni chaiff gwraig weddw aros mewn ffarm ar stât y Plas, a chan y byddai gofal mawr arni yn y Dolau, penderfynodd Mari Jones, ar gyngor Arthur, ymadael o'r ffarm yr Wyl Fihangel gyntaf wedi marwolaeth ei gŵr, a chymerodd Henri Morgan, Plas Newydd, y ffarm oddi ar ei llaw. Aeth hi i fyw i dŷ bach tlws yn y pentref, lle gall gadw dwy fuwch, ac nid yw Arthur yn gadael un cyfle i ddianc heb ddyfod i lawr o Lundain i'w gweled.

Ond, ai i weled ei fam yn unig y daw Arthur mor fynych i Lanelwid? Nid wyf yn torri ar un gyfrinach wrth ddweud fod un arall yn y plwyf sydd yn anwylach ganddo hyd yn oed na'i fam. Ni ddaw byth i Lanelwid heb alw yn y Gelli. Yno yr erys Gwladus o hyd gyda Mrs. Morris, ac y mae'r hen wraig wedi dysgu ei hanwylo a'i charu yn fwyfwy bob mis. Nid yw, rywfodd, mor hoff o Arthur Jones ag y gellid disgwyl, er bod Arthur-y gwalch-yn cymryd llawer o drafferth i "gadw ei chap yn gwmws." Nid yw byth yn talu ymweliad â'r Gelli heb adael ar ei ôl ryw bresant bach i "Nanti Jên." Y mae'n dra thebyg ei fod yn dod a rhywbeth gydag ef i Gwladys hefyd. Beth bynnag, mae ei holl agwedd hithau yn newid pan glyw sŵn troed y doctor ar raean yr ale fach tu allan i ddrws y tŷ!

PENNOD XXIII.
BOB YN DYCHWELYD ADREF.

BU Bob 'y mrawd dros flwyddyn cyn dychwelyd i Brydain. Pan dorrodd Dr. Jameson dros gyffiniau'r Transvaal, yr oedd Bob bron â glanio yn Cape Town. Gorfu iddo aros yn Neheubarth Affrica am fisoedd lawer i wylio symudiadau gwladweinwyr, ac i ysgrifennu erthyglau i'w bapur newydd. Enillodd glod mawr iddo ei hun, ac edrychid ar ei ohebiaeth fel cynnyrch llafur ac athrylith gŵr gonest, synhwyrol, a chraffus. Dyma'r llythyr diwethaf a dderbyniodd Gwladus oddi wrtho:—

Cape Town, Dydd Nadolig, 1896.

F'annwyl Gwladus,—Nadolig arall yn eithafoedd y byd, heb olwg ar dy wyneb siriol! Ond yr wythnos nesaf, hai lwc! byddaf yn cychwyn adref o'r diwedd. Diolch am dy lythyr doniol diwethaf; ni allaf ddweud wrthyt gymaint o gysur a diddanwch a sugnais ohono. Ac y mae Rowlands y ciwrat wedi cael bywioliaeth ym mhen isa'r sir! Lwc dda iddo ar ei hynt! Mae'n anhawdd gennyf gredu nad yw ef a finnau yn hen gyfeillion, er nas gwelais ef erioed. 'Rwy'n teimlo yn gynnes iawn tuag ato, ac yr wyf yn gobeithio y caf gyfle, cyn yr aiff o Lanelwid, i siglo llaw yn galonnog ag ef, ac i weld y "gwddwg hir" yn gwneud difrod â'r pwdin yn y Gelli. Os bydd wedi ymadael cyn y cyrhaeddaf gartref, af bob cam i odre'r sir i'w weld ac i ddiolch iddo am ei nodded a'i amddiffyn i'm chwaer fach yn Llanelwid.

Mae 'Rwyt wedi fy synnu ynghylch Nat! Wyddost di? arnaf ofn ei gwrdd, rhag cael fy siomi ynddo. Nat ddifrifol. Nat yn ditotal! Nat heb ei gellwair a'i rigs! Na, na, 'chreda i ddim o'r fath beth! Mi fydd arna i ofn tynnu mwgyn yn yr un rhwm ag e.

Ond pwy feddyliai y byddai yr Hen Binacl, ys dywedodd Nat, a Morgans, a Gruffudd y Coed, a Nanti Jên yn rhoi can punt yr un at glirio'r ddyled yn Salem? 'D yw oes y gwyrthiau ddim wedi darfod yn Llanelwid! 'R wy'n credu taw ti, 'r witch fach, sydd wrth wraidd y cwbl! Hawdd y gallaf gredu fod Mari Jones yn teimlo'n falch fod y capel yn rhydd o'r diwedd. Druan â hi! Mae hi'n siwr o fod yn unig iawn—dim ond hi a'r forwyn ym Mryn Hyfryd, ac ni fydd Llanelwid yr un i finnau hefyd heb Dafi Jones, poor fellow!

A beth yw'r secret rhyfedd yr wyt yn gadw hyd nes y cei siarad â mi "wyneb yn wyneb"? Rhywbeth a fyddai wedi dy "wneud yn berffaith ddedwydd oni bai fod Bob 'y mrawd ymhell o gartref"? Aie, wir? O, Sapphira, gochel rhag dy dynged! Faint wyt ti'n feddwl am Bob pan fydd rhywun bach yn galw yn y Gelli? Oni'th welais di'n chwerthin yn llygad Rhywun y nos cyn i mi gychwyn i'r wlad hon?

Fy chwaer, mi fynegaf i ti weledigaeth. Fel yr oeddwn yn myfyrio ar nen y tŷ yn Pretoria, syrthio a wneuthum i drym-gwsg, ac yn fy nghwsg mi a welais weledigaeth. A'r haf ydoedd hi. Ac yn fy mreuddwyd canfyddwn enethig (ei hwyneb oedd mor hawddgar â bore gwanwyn, a'i llais oedd cyn fwyned â llais mwyalchen), yn rhodio hyd ddolydd meillionog Ystrad Tywi. Ac fel yr oedd yn tramwy hyd y meysydd, canfyddwn laslanc penfelyn yn dynesu ati, ac yn sibrwd geiriau cariadus yn ei chlust. A phan edrychodd yr enethig i fyny, canys geiriau'r gŵr ieuanc a wnaethai iddi am ysbaid blygu ei phen, wele! canfu fod yr awyr, oedd gynt yn wag, yn llawn o angylion yn canu, a'r coedydd, oedd gynt wedi eu dilladu â dail, wedi eu britho ag eosiaid a phob rhyw gorau asgellog yn pyncio, nes llanw'r byd â'u hyfrydlais. A phan edrychodd dan ei thraed, wele, blodau'r ddaear a ddisgleiriai gan lawenydd, a phob glaswelltyn a ddawnsiai mewn gorfoledd! Ac i ba le bynnag y taflai ei golwg, ni welai ond angylion ac adar a blodau a gwyrddlesni yn canu ac yn dawnsio. Ac ar y gorwel pell tua'r Deau hi a welai ŵr yn canu cerdd priodas, ac yn bendithio'r llanc a'i ddyweddi. A'r enethig a lawenychodd yn ddirfawr, canys ei brawd oedd efe. Ac enw'r enethig oedd Gwladus, ac enw y llanc oedd Arthur.

Ond, mewn difrif, Gwladus fach, 'rwy'n falch o'm calon dy fod di ac Arthur wedi deall eich gilydd. Pe chwilid y byd, ni allwn gael neb y cyflwynwn fy chwaer fach i'w ofal gyda llwyrach ymddiriedaeth. Bydd yn dda gennyf wybod, 'ta beth a ddigwydd i mi, fod gennyt ddyn glew a gonest i'th ymgeleddu. Amdanaf fi, wrth bob argoel, bydd raid i mi fyw am dymor hir yn grwydryn ar wyneb y ddaear, ac ni chaf fawr o amser o hyn allan i fyw yn Cambridge Mansions. Ni fydd i mi arhosfa barhaus yn un lle am flynyddoedd. Ces lythyr yr wythnos ddiwethaf o'r Swyddfa i'm rhybuddio y bydd yn rhaid i mi fyned allan i'r Dwyrain yn gynnar yn y gwanwyn. Lle bynnag y bydd cythrwfl ac anhrefn ac ymladd, yno y danfonir fi.

Ni allaf ddweud nad wyf yn hoffi'r drychfeddwl o deithio gwledydd y ddaear, ac i weled rhyfeddodau'r byd. Eto ni theimlaf fod gennyf gartref ond yng Nghymru, ac yn Llanelwid y gobeithiaf orffen fy nyddiau. Nid wyf yn meddwl aros yn alltud hyd nes y gwna henaint a methiant fy ngorddiwes, pryd na allaf ond cyflwyno fy nghorff i'm gwlad. Na: 'rwy'n gobeithio y gallaf neilltuo i Lanelwid yng nghryfder fy nerth, nid i ddiogi ac i hepian, ond i wneud rhywbeth dros yr hen wlad.

A gaf fi ddweud wrthyt beth a ddymunwn wneud? Nid oes gennyf neb yma i "ddal pen rheswm" ag ef; ac y mae cystal i fi wario fy Nadolig yn ysgrifennu fy nghyfrinach atat ti ag yn siarad ffolineb yn y clwb. Ac y mae i ti berffaith ryddid i chwerthin am fy mhen fel y gwnest ganwaith o'r blaen yn yr hen amser yn Cambridge Mansions. Wel, nid oes ynof uchel-gais am fyned i'r Senedd. Gwn yn rhy dda gyda pha faint o ymdrech y gwneir y peth bach distatlaf yn Neuadd Steffan Sant. Credaf hefyd mai nid eisiau cyfreithiau newyddion y sydd ar Gymru yn gymaint â gweinyddiad deallus a manwl o'r cyfreithiau sydd ganddi. Ac os caf fyw i fynd i dreulio rhan o'm dyddiau gweithiol yn Llanelwid hoffwn fod ar y Cyngor Plwyf, yn dadlau dros gael dŵr croyw, a digon o oleuni ar hirnos gaeaf i'r pentrefwyr, dros gael llyfrgell dda ynglŷn â'r Ddarllenfa, yn llawn o lyfrau Cymraeg a Saesneg; dros gael neuadd sirol yn agor bob nos yn y pentref, lle gallai'r bobl ieuanc gwrdd â'i gilydd, yn lle yn y Red Lion; dros gadw yn agored ac yn ddiogel bob hen lwybr a chomin yn y plwyf. Hoffwn hefyd gael cyfle i ddadlau hawliau'r Gymraeg ar y Bwrdd Ysgol ac i wneud rhywbeth i atal y llifeiriant Seisnig sydd yn torri dros ben bob gwrthglawdd ac yn ysgubo popeth o'i flaen, gan adel yn fynych ddim ond llaid ar ei ôl! A phwy ŵyr na allwn, feallai, rywbryd, gael fy nanfon i Fwrdd y Gwarcheidwaid a'r Cyngor Dosbarthol, lle gallwn godi fy llef dros ffermwyr a thyddynwyr sydd wedi cael eu gorlwytho'n rhy hir â threthi trymion er mwyn ysgafnhau iau y bonedd? Ac yna, pan fyddo penwynni wedi syrthio arnaf, heb yn wybod i mi, ac os bydd gennyf amser i wneud y gwaith, feallai y cyrhaeddaf gopa uchaf fy ngobeithion—sef eistedd yng Nghyngor y Sir, a helpu i gadw'r heddgeidwaid yn eu lle, ac i godi'n uwch yr Ysgolion Canolraddol, lle'r addysgir arweinwyr Cymru Fydd.

Pan fydd diwrnod segur gennyf—fel y digwydd yn awr ac yn y man—af ar bererindod i weled Cymru—nid mewn trên carlamus, nac ar gefn cel-haearn buan, ond ar fy nhraed, fel y gallwyf sylwi ar bob blodyn a deilen a dyf ar ochr clawdd, ac y caf hamdden i wrando ar lais pob aderyn yn y coed. Af i weled lleoedd enwog a chartrefi a beddau gwroniaid Cymru Fu. Yma caf weled cartrefle tawel emynydd; acw feddrod bardd awenfawr; ac nid anghofiaf yr ogofau a'r llanerchau cudd lle bu'n cyndeidiau yn addoli Duw ynghanol stormydd blin a pheryglon lawer. Gwelais eisoes lawer gwlad dramor; gwelaf eto ragor yn y dyfodol. Beth ydynt i mi? Mae un ardal yn brydferthach nag ardal arall, mae mwy yn un i ddenu'r llygad, mwy yn y llall i hudo'r glust, ond nid yw f'enaid yn ymglymu amdanynt fel yr ymglyma am aml i lecyn yng Nghymru a gysegrwyd yn oes oesoedd i drigolion y wlad gan draed y rhai a fu yn efengylu! Ac ni fydd bywyd ar ei hyd yn ddigon i ddi-hysbyddu diddordeb Cymro yn y wlad fechan lle y tynnodd ei anadl gyntaf ac y derbyniodd y cyfan o'i athrylith a'i anianawd.

Wel, wel mi'th welaf yn chwerthin ers meitin, wrth ddarllen fy nychmygion a'm ffolinebau. Yr wyt ti, bid siwr, yn edrych ymlaen at fyw yn Llundain,—ond cofia na fydd Cymru'r un i mi os na ddeui di ac Arthur i aros gyda mi bob haf yn Llanelwid. A phwy a ŵyr na fydd Arthur hefyd ryw ddydd yn taflu golwg hiraethlawn ar yr hen ardal, ac yr ymneilltua yntau yn llawn o ddyddiau ac anrhydedd i dreulio hwyrddydd ei fywyd yng ngolwg Tywi?

. . . Ond dyma fi, heb fod yn ddeg ar hugain oed, yn siarad am Arthur, sydd ieuengach na mi, yn ei hen ddyddiau! 'Rwyf wedi gadael i'm dychymyg redeg bant â fi, a gwell, gan hynny, dynnu fy ysgrif i ben.

Cofia fi'n gynnes, gynnes, at Nanti Jên, a dywed wrthi 'mod i'n dychwelyd yn llwythog o wisgoedd symudliw, na welodd mam Sisera ddim o'u bath, yn bresentau iddi hi a'i ffrindiau. Cofia fi hefyd at Mari Jones ac Arthur, Nat a Sali, a Theophilus a Robin, a Mr. Thomas a'r Hen Binacl, a'r ci a'r gath, a'r ednod a'r ysgrubliaid, a phob creadur sy'n anadlu awyr Llanelwid; a golyga fi byth yn gymeradwy,

BOB DY FRAWD.

GEIRFA.

(<=yn tarddu o; >= yn troi yn; ll.=lluosog; S.= Saesneg).

abal: abl, cefnog, cyfoethog, ariannog
acshwner: arwerthwr;<S. auctioneer
acsiwn, acshwn: arwerthiant; <S. auction
addo: wy addo: <wy addod; wy (tsheina, fel rheol) a adewir yn nyth yr ieir; yn ffigurol: arian wrth gefn
ale: llwybr (1) rhwng seddau mewn capel neu eglwys, (2) yn yr ardd
allt llethr goediog
amboitu oddeutu, o amgylch

balban: clebran, baldorddi
blith: llaeth, llefrith
briwdy bragdy (yn wreiddiol), cegin gefn; S. scullery; <S. brew+tŷ; cf. briws (yn y Gogledd) S. brew + hus (=house)
brochgáu: marchogaeth; <mroch—gáu < marchocáu < march—og + hau.
bwci: bwgan, drychiolaeth, ysbryd
bwdlacs: llaid, llaca, mwd, bryntni
bwdran llymru (tenau), brwchan, sucan gwyn; S. fine flummery
bwtwn: dwyn i fwtwn: gorffen

cas <ca'as < cafas (3ydd pers. unig. gorff, myneg. cael); cafodd
ceintach: grwgnach, cwyno, achwyn
cer'ed: cerdded, teithio; ar g.: ar daith, i ffwrdd, oddi cartref
ces cais, canlyn
cesbwd: cafwyd
cetyn: space, while. Am hala ei getyn gw. d.g. 'hala'
cinio rhent: cinio a roddid gan y meistr tir i'w ddeiliaid ar ddydd talu'r rhent
cintell, ll. cintelli: whintell, lip; basged wiail a ddefnyddir i ddal tatws, dillad heb eu smwddio a phethau eraill; cawell
clacs clecs, cleber, mân siarad, claps
cloch farw: cloch yn y glust—fel rhagargoel o farwolaeth
clos: iard o flaen tŷ, ysgol neu gapel; buarth fferm
clou: clau, cyflym, buan cludwair: pentwr coed (yn agos i'r ydlan fel rheol)
clwt: yn glwt: yn gyfan, yn ei grynswth, i gyd
cramboithe <cramoethau, ffurf gyfochrog ar cramwythau: crempogau, ffroes, ffreisod, poncags, pancos
crugyn: pentwr, llawer
crwc: llwnc tost, crygwst, gwddf tost
crwca cam, yn gwyro, gwargrwm
crwt, ll. crytiau: bachgen, hogyn, gwas; ll. dwbl crytsach: bechgynnos, mân weision
cwar: chwarel
cwarter: tymor
cwca: cwcan, coginio
cweirio (dillad): cyweirio, trwsio; c. (menyn): gwahanu'r ymenyn. oddi wrth y llaeth enwyn, ychwanegu halen, a'i glapo, etc.,
gwneud ymenyn, cf. cwyro
cwmws: cymwys, union, diwyro; yn g. yn gywir, yn union, yn llwyr, yn hollol
cwpwl: nifer, ychydig
cwrcwt: cwrewd, crwmach; yn i ch. yn ei phlyg
cwrt bach: beili neu firynt tŷ ffarm
cwt: cynffon
cwyro: cyweirio, trwsio, cf. cweirio
cyfer erw, acer
cymhwyso: twtian, cywiro, gwella, unioni
 
dansherus: peryglus
deir araf, hwyrfrydig, amharod, digyffro

demshgyn: damsang, troedio ar, sathru dymsyng >dymsgyn trwy fath o "drawsosod"
didoraeth: diddarbod, difedr, di-glem, di-drefn, di-weld
dir gaton ni: <? Duw gadwo ni. cf. dir safio ni; <? Duw ry safio ni
Dir gaton pawb: < Duw ry gatwo ni bawb: Duw a'n cadwo ni oll
disgled: dysglaid, cwpanaid
doben: y dwymyn doben: clwy'r pennau: S. mumps.
drych: golwg
dryched: <edrychaid (cf. erbyniaid, tybI) edrych, craffu, sylwi
dwlu: dylu, dotio, gwirioni, ffoli
dyfaru: edifaru, edifarhau
dyor, deor: atal, rhwystro, cadw rhag, gwahardd
dyrton: twymyn; S. tertian ague; cf. teirthon < Llad. tertianus
dysgl: (1) powlen (2) cwpan. cf disgled
dywedwst: tawel, mud, di-ddweud, ansiaradus, tawedog

ego: eco, diasbedain
eno: enw
ern: ernes, gwystl; tâl ymlaen-llaw fel arwydd o gytundeb rhwng meistr a gwas neu feistres a morwyn
esbwd: aethpwyd

ffest clwb: cinio clwb
ffolant: cerdyn a neges serch arno a anfonir ar Chwefror 14; < S. Valentine
ffwrwm: mainc; < S. form
ffyrlling: ffyrling, ffrylling: S farthing
ffysto: ffusto, maeddu, curo, gorchfygu, trechu, cael y gorau ar

gellwng: gollwng, dadwisgo ceffylau, gorffen gwaith am y dydd
gellwn:<gellwng: gadael, caniatáu
glei: < gwlei < (mi) goeliat i 'debygaf i, mae'n debyg gennyf
gnesbwd: gwnaethpwyd
golchi rhoi'r sglein olaf, perffeithio; rhoi'r cap arni; mi golchsoch chi'r tro yma: fe'i gwnaethoch y tro yma;
S. you have capped the climax this time, g. erni: ymroi iddi, ymorchestu
graban: aur-yr-ŷd, melyn-yr-ŷd; S. corn marigold
gwagar: gogr, hidl; rhidyll
gwaith llaw: ysgrifen
gwastod: yn wastod: yn wastad, o hyd, bob amser
gwep: trem neu olwg hyll
gweyd: dweud
gwinegon: gw. gwynegon
gwisgi: ysgafn, sionc, hoenus
gwynegon: crydeymalau
gwynegu: gwynio, poeni, dolurio

hadel (hadu): atal, rhwystro, cadw rhag, gwahardd
hala: gyrru, danfon; treulio, gwario (e.e., amser, arian); taenu (e.e., ymenyn);
hala ei getyn: treulio hen ddyddiau, marw
helyg: bachan helyg: bachan budr, bachgen drygionus, ofnadwy
hidans: sylw
hwper: cylchwr

isel: (1) gostyngedig, gwylaidd, diymffrost, (2) pruddaidd, di-hwyl, digalon
iselder: iselder ysbryd, digalondid, anobaith
ishws: eisoes, eisys; < eiswys, ffurf gyfochrog ar eisoes
iws: llog ar arian

Jips: pobl yr Aifft, weithiau sipsiwn
jystys: ustus, ll. jystysed

lico: hoffi
lodes: < herlodes: merch, geneth, croten, hogen
los: lodes, merch, hogen; < S. lass
lwtsh: hen lwtsh, am de
lycoch: gwelwch, edrychwch
llio: llyfu
llipa: gwan, di-hwyl
llwgu: llewygu

mantell: y fantell fawr: y silff uwchben y tân

meilart: barlat, marlat
meiswn: masiwn, saer maen
mhoilid: < ymhoelyd: troi, aredig
mi gynta: mae'n siŵr gennyf, mae'n debyg gennyf
moddion: (1) ffisig; (2) gwasanaeth crefyddol
moin: gw. moyn
moyn: < mo'yn mofyn < ymofyn dymuno, cyrchu, nôl, mynd i gyrchu
mwd: llaid, llaca
myned: munud
mynnid: (1) mynnu, dewis; (2) cael, sicrhau
mynte: ebe, meddai

neuadd yr ystafell fyw, y gegin fawr

obeutu oddeutu, ar fedr, ar fin
oflyd: oerllyd, rhynllyd; < of 'amrwd',
S. raw. (Yn Sir Aberteifi ystyr y gair yw 'gwrthwyneblyd', S. nauseating.)

pallu: (1) gwrthod, anufuddhau, anfodloni, (2) darfod, methu, ffaelu (e.e. anadl yn pallu)
patrwn: patrwm, cynllun, math
pelau: cymysgedd o lo mân a chlai a wneir yn belau' ac a losgir ar y tân
pendramwnwg: h.y. pen dros fynwgl': tin dros ben
pen isha: (yn wreiddiol) tŷ'r anifeiliaid, y beudy;
(yn ddi-weddarach) y gegin a'r gegin fach.
Am ystyr wreiddiol pen isaf, pen uchaf a penllawr
gw. Iorwerth C. Peate, The Welsh House, t. 56 ymlaen
penllawr, y: (yn wreiddiol) y rhaniad rhwng y tŷ byw a'r beudy; y bing. Gw. d.g. ' pen isha'
pen ucha': (yn wreiddiol) y tŷ byw o'i gyferbynnu â'r beudy, a'r cyfan yn yr hen dŷ hir Cymreig o dan yr un to;
(yn ddiweddarach) rhan orau'r tŷ byw, y parlwr a'r parlwr bach. Gw. d.g. ' pen isha.'
penwan holics: yn llwyr maes o natur; wedi colli tymer yn lân
pert: prydferth, hardd
'piwr: caredig, cymwynasgar
plwydd: plwyf (Am f > dd cf. rhoddiau, ll. rhaw(f), <rhofiau)
powlo: ymgiprys
preimin: cystadleuaeth aredig
prid: drud, costus
pryfo: prifio, tyfu; ffynnu
pwdel: llaid, llaca, mwd
pwer: llawer
pwl: salwch, tostrwydd, afiechyd
pwys ar bwys: gerllaw, yn agos i

rigan: tynnu coes, pryfocio
rigs: cellwair, triciau
rofun: < arofun (cf. d'rofun < darofun): bwriadu, oedi
rhan: tynged
rhacanau: ll. rhaca: cribyn gwair
rheng: yn farw reng: yn farw gelain
rhychio: rhychu, crychu
rhytach: rheitiach (< rhaid): mwy pwrpasol, y mae mwy o eisiau ei wneud, pwysicach

saco: gwthio, hwpo
sang-di-fang: anhrefnus, di-drefn, annhaclus
sbecto: drwgdybied; <S. s(us)pect+o
sbonco: ysboncio, neidio, llamu
sbengan: siarad yn goeglyd, yn frathog, yn wawdlyd, yn edliwgar
sgadenyn: pennog; ll. sgadan
sgil: wrth ei sgil: y tu cefn iddo;
sgilis<is gil (y tu ôl, y tu cefn)
sgiw: mainc freichiau â chefn uchel iddi, setl
siarsio: annog, rhybuddio, cymell
sownd: yn siwr, yn sicr
stafell: pethau wedi'u paratoi gan ferch ar gyfer priodi; bottom drawer
stansh: balch, crand, ffroenuchel, crandwych
steilus: crand, gwych, ffasiynol

storháys: ystorïau, straeon, chwedlau, hanesion; ystor(i)au + ys (ffurf luos. dwbl)
stresol: prysur, diwyd, llawn ffwdan, <S. stress + ol
stydi: dibynadwy; S. steady
swrth: swta, chwyrn, llym
syber: glanwaith

taclu: gwisgo
taliedd: taliaidd, trefnus, dosbarthus, cwrtais, caredig
talu: (1) talu yn ei ben (am ryw-beth): talu i lawr, talu wrth gael;
(2) talu'r hen whech yn ôl: talu'r pwyth, talu'n ôl anghymwynas
tasgu: neidio, llamu, crychneidio
taw: mai (cysylltair)
teisen: cacen
tocyns: darnau arian, ceiniogau; <? S. tokens
topins: gogoniant, balchder, penprydferthwch; < S. toppings
torri ma's: torri allan, diarddel (o'r seiet)
tost: claf, sâl, afiach
trochi: dwyno, baeddu, gwneud yn fudr, aflan
tshep: rhad
twba: twb, twbyn
twmplen: tymplen; S. dumpling
twt (ans.): cryno, taclus, del; mân orchwyl,
gwaith t.: gwaith tacluso. cf. gwas twt
twtsh: cyffyrddiad

wa'th: < (o) waith; o achos, canys, oherwydd
whech: mae wedi whech: mae'n rhy hwyr, mae'n rhy ddiweddar, mae ar ben
wheigen: < chweuguin (ceiniog): deg swllt
whip y dydd: toriad cyntaf y wawr
whit-what: di-ddal, cyfnewidiol, ansefydlog, annibynadwy
whyn: chwyn

ymbed < embyd < enbyd: ofnadwy; taer iawn
ymbeidus: ofnadwy, garw
ymbrela: ymbarel
ymswyno: ymgroesi, gofalu


Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.