Ga i Fenthyg Ci? (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Si Bei
Nesaf – Chwalu

Mae Ga i Fenthyg Ci? yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Welwch chwi fi, a welwch chwi fi?
Welwch chwi'n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i'r Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi mynd i'r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn methu a gweled;
Mae ci tad–cu, a chi mam–gu,
Wedi mynd allan hefo'n ci ni;
A chi modryb Ann Ty'n y Coed
Wedi llosgi 'i droed
Mewn padell fawr o bwdin.