Gardd Eifion/Adgyfodiad y Saint
| ← Rhad ras Duw | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Cân fuddugol y Saint → |
ADGYFODIAD Y SAINT.
Cysegra ni i'th Yspryd Glân,
Dod dduwiol anian ynom;
Ac yn dy wyddfod, ar dy wedd,
Tu draw i'r bedd y byddom.
Pan bydro'r corff yn lludw mân,
Dan oerllyd geulan angau,
Ei ranau oll—yr Ion a wyl,
Yn anwyl ei ronynau.
Un llwchyn bach yn ol ni bydd,
Ar foreu ddydd y cyfri';
Pan fyddo holl dylwythau'r byd
O'r bedd yn cyd gyfodi.
O! pa mor wynfydedig fydd,
Y rhai mewn ffydd a hunant,
Mewn nerth, addurnir hwynt yn ddwys,
I gynal pwys gogoniant.
Er myn'd i lawr yn wael eu gwedd,
I gryd y bedd llygredig,
Mewn undeb pur â Christ, eu pen,
Cânt godi'n fendigedig.
Y corff a'r enaid—un a fydd,
Y ddau dragywydd gymhar,
Mewn undeb tawel byddant hwy,
Nid angau mwy a'u hysgar.
Mor ogoneddus fydd y saint
Yn meddu'r fraint o newydd,
A gollwyd gynt yn Eden ardd,
Sef delw hardd eu Harglwydd.