Gardd Eifion/Amgylchiadau marwolaeth
Gwedd
| ← Ar ddydd Genedigaeth | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Y Groes → |
AMGYLCHIADAU MARWOLAETH.
Pan fyddo'r corff yn dyoddef cur,
A gloewon saethau'r gelyn sur,
O loes i loes rhaid myn'd i lawr,
Dan arfau miniog angau mawr.
Pan fyddo'r anadl yn byrhau,
A'r poenau mawrion yn trymhau,
A'r enaid dros y genau mud
Yn dianc i'r tragwyddol fyd.
Gad imi syllu ar dy wedd,
Nes byddwyf yn annghofio'r bedd;
A phrawf o'th gariad dyro im',
Nes byddo marw'n myn'd yn ddim,