Gardd Eifion/Amser
Gwedd
| ← Galwad ar Bechadur | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Gweddi Agur → |
AMSER.
Dynion i farw ŷm i gyd,
Pan dreulio hyd ein blwyddau;
Try'n dyddiau a'n hwythnosau glân,
A'n horiau'n fân fynydau.
Mae haf a gauaf, yn eu pryd,
Mewn trefn, a hyd cymesur,
A phob anadliad dan eu rhi',
A'n misoedd wedi 'mesur.
Pob tip o'r einioes, dan y rhod,
Ar ben ei arfod hirfaith,
A ymgudd dan dragwyddol glo
Na welir mono eilwaith.
Amser a gyrch yn mlaen, er neb,
I ddifodoldeb hollol, -
Ac felly myn'd o bryd i bryd
Mae dull y byd presenol.
O! am gael gorphwys yn ein rhan,
Pan êl y cyfan heibio;
A thragwyddoldeb lyncu'n ol
Bob peth amserol iddo.