Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Ar Fedd Catherine Hughes

Oddi ar Wicidestun
← Ar Fedd Geneth Ieuanc i John Jones, Abercain Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Eraill →

AR FEDD CATHERINE HUGHES,
MERCH CADBEN HUGHES, PWLL Y GATE, NEFYN.

Cynar i'r ddaear oer, ddu,—ei dodwyd,
Er didwyll broffesu;
Daw'r pryd y cyfyd Ior cu
Hon i'w lys, anwyl Iesu.


Nodiadau

[golygu]