Gardd Eifion/Ar ddydd Genedigaeth
| ← Ymddiried i Ragluniaeth | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Amgylchiadau marwolaeth → |
AR DDYDD GENEDIGAETH,
Wele eto un yn rhagor
O flynyddau f' einioes frau,
O, fy enaid, wedi darfod,
Mae'r ddiweddaf yn neshau:
Nid oes yma hir arosfa,
Rhed ty oriau yn ddi goll,
Ac fe all y flwyddyn yma,
Fod i mi'r ddiweddaf oll.
Wele treuliais lawer eisoes
O'm gwael einioes fer ei hyd;
Ac ni welaf un o'r oriau,
Dreuliais yma yn y byd:
A'r mynydau sydd i'w treulio,
Maent yn rhedeg heibio'n glau,
I'm dwyn tros derfynau amser,
Draw i'r bywyd sy'n parhau.
Deffro f' enaid yn ddifrifol,
Gyda gofal dwys yn awr;
Ystyr tra parhao'th amser,
Feithder tragwyddoldeb mawr;
Beth yw sylfaen dy grediniaeth,
Am fwynhau tragwyddol hedd?
Beth yw'th obaith am y gwynfyd,
Sy'n y byd tu draw i'r bedd?
Dal yn gadarn dy grediniaeth,
Dod dy obaith ar dy Dduw;
Ymddibyna hefyd, beunydd,
Ar ei ras tra byddych byw;
Gyda sel, anturia'n wrol,
Yn dy yrfa nefol, gu,
Nes cyrhaeddyd mewn sirioldeb,
Barthau anfarwoldeb fry.