Gardd Eifion/Ateb i gyfarchiad D. Sanders, Bardd, Merthyr
Gwedd
| ← I'r Melinydd | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I Dafydd Saunders yn ei henaint, 1839 → |
ATEB I GYFARCHIAD D. SAUNDERS, BARDD,
Merthyr Tydfil, Swydd Forgannwg.
Cu wr ffel, craff ei olwg,—yw Dewi,
A diwael iaith amlwg;
Cei air da, cywir, di wg,
Mawr genym Fardd Morganwg.
Am awenydd, wr manol,—Eifionwys
Ni fynant eu canmol;
Dyroddwn, Fardd Derwyddol,
Wynion a Duon[1] yn d'ol.
Yn Eifion nid annifyr—yw genym
A gynal iaith bybyr;
Ac ni chaiff clod fod yn fyr
Am wyrthiau prifon Merthyr.
Gwron ein hen gywiriaith—yw Dafydd,
A dyfal orchestwaith;
Er dim, cais ddyfod ar daith
Drwy Wynedd am dro unwaith.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dau Fardd Eifionydd