Gardd Eifion/Bywgraffiad
| ← Gardd Eifion | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Rhagdraith i'r argraffiad 1af → |
BYWGRAFFIAD.
GANWYD y bardd coeth a llednais hwn yn y Bettws Fawr, plwyf Llanystumdwy, yn nghwmwd. Eifionydd, sir Gaernarfon, yn 1767. Brodor o sir Feirionydd ydoedd William Williams, ei dad; ac efe oedd perchenog y Bettws Fawr, yr hwn le yn nghwrs amser a ddaeth i feddiant y Bardd Du. Yn yr amaethdy gwledig hwnw, heb ddim yn tori ar dawelwch unffurfiol y lle ond sibrwd didaw yr afon Ddwyfach gerllaw, y treuliodd yn ddedwydd rychwant einioes hyd o fewn ychydig flynyddau i'w therfyn, pan y symudodd i'r Monachdy, yn yr un gymydogaeth. Trwyddo ef, daeth y Bettws Fawr yn adnabyddus i feirdd a llenorion, ac yn gyrchle gwyr o nod; ac i'r ffaith fod Robert ab Gwilym wedi bod yn cyfaneddu yn y lle y rhaid cyfrif am enwogrwydd y Bettws Fawr rhagor ffermdai dinod eraill Eifionydd. Palph o ddyn cadarn gwladaidd ydoedd Robert Williams, ac ni buasai dyeithr ddyn byth yn meddwl oddiwrth ei olwg allanol fod yr awen yn gwneud ei nhyth mewn adeilad mor annhebyg. Ond dadblygai cydnabyddiaeth âg ef, yn y llanerch fynyddig hono, a than y cnwd annhrefnus hwnw o wallt, athrylith o radd uchel iawn. Yr oedd y Bardd Du yn hynafiaethydd medrus, ac wedi efrydu llawer ar y pwnc hwnw, yn arbenig yn ei ystyr leol; ac yr oedd ar ei fferm yn yr amser hwnw gryn lawer o adfeilion yr hen Gymry fu. Yr oedd hefyd yn gerddor deallgar, a'i athraw yn y gelfyddyd hono ydoedd Mr J. R. Jones, o Ramoth, fel y dywed y bardd yn ei farwnad i'r gwr hwnw. Darllenasai lawer ar ganghenau buddiol eraill o wybodaeth; ac nid oedd odid i bwnc nad oedd efe i rhyw raddau yn gydnabyddus âg ef, ac yn alluog i syniaw yn gywir am dano. Bedyddiwr ydoedd ar y pwnc o fedydd, ac yr oedd yn bleidiol iawn i'r Bedyddwyr Neillduol, prif ddyn yr hon blaid y pryd hwnw yn Nghymru ydoedd Jones o Ramoth; ond nid oedd efe yn aelod gydag unrhyw blaid grefyddol. Dywed Caledfryn yn y traithawd ar ei Athrylith a'i Weithiau yn y Traethodydd am 1852, t.d. 326, wrth son am rai o annghysonderau y bardd fel crefyddwr:—"Byddai pregethwyr o bob enwadau yn galw heibio iddo, a chaent groesaw mawr ganddo; ond anfynych yr elai i wrandaw ei gyfeillion penaf, os na fyddent yn Fedyddwyr; a phan elai i wrandaw, byddai yn gwneud hyny yn fwy o gymwynas i'r llefarwr, ac yn fwy fel beirniad, nag fel pechadur ag arno eisiau y pethau a gynygid iddo ei hunan. Helpu y pregethwr i drwsio y bregeth ar ol darfod oedd oreu ganddo, na derbyn ac ymborthi ar y pethau a glywai ei hunan. Goludog oedd, ac nid oedd arno eisiau dim, yn yr ystyr yma. Efe oedd cynathraw Dewi Wyn, a thrwy fod y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd, yr oedd cryn undeb yn eu golygiadau a'u gweithrediadau. Digiodd y ddau tua'r un amser wrth yr eisteddfodau; ac ni chafwyd ohyny allan na'u gwaith na'u presenoldeb na'u geirda i'r un o'r cyfryw gyfarfodydd. Taflwyd y Bardd Du oddiar ei echel oherwydd rhoddi y wobr am englyn y "Delyn" i Walter Mechain yn Nghaerfyrddin, yn 1819; a chanodd y Bardd Gwyn yn iach iddynt am byth ar ol i'r Dryw gael y wobr yn Eisteddfod Dinbych oddeutu yr un amser am ei awdl ar "Elusengarwch." Yr oedd y ddau yn Fedyddwyr, a'r ddau onid gwrandawyr yn unig am yspaid hirfaith, a bu ganddynt ran flaenllaw eu dau yn nghodiad addoldy yn yr ardal, a adwaenid wrth yr enw, "Capel y Beirdd." Hyd y gwyddom, dyna yr unig dro yr ymwregysodd y y Bardd Du i faes yr ymrysonfa farddonol; a bu farw heb yr un ariandlws ar ei elw. Ni flaenddodir un dernyn o'i waith â'r geiriau, "Buddugol" mewn unrhyw Eisteddfod; ond er hyny, y mae llysiau Gardd Eifion mor beraidd eu blas, a'i blodeu mor swynol eu harogl, ac mor brydferth eu gwisg, ag odid i ddim a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg. Un o'r pethau hynotaf yn yr amaeth-fardd diniwaid hwn ydoedd y syniadau uchel oedd ganddo am ei waith ei hun. Byddai yn ymylu ar wynfydedd wrth ei adrodd a'i ganmol ei hunan; ac ychydig groesaw gai dyeithr-ddyn yn y Bettws Fawr os nad allai fawrygu barddoniaeth gwr y ty. Yn y Brython iv. 112, adrodda Talhaiarn am wr o'r enw Roberts, Dolymelynllyn, yn myned i edrych am y Bardd, ac ar ol cyfarch gwell, gwelai yn union mai rhyw groesaw lled sychlyd oedd yno iddo. Cofiodd, pa fodd bynag, fod ei westteiwr yn hoff o ganmoliaeth, a dechreuodd chwareu ar y nwyd hono, ac ebe fe wrtho, "Wyddoch chwi beth, Rhobert Williams, englyn rhagorol ydyw hwnw o'ch gwaith chwi." "P'run ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai y Bardd. "Hwn," meddai Roberts,
"Paham y gwneir cam a'r cymod—neu'r Iawn
A'i rinwedd tros bechod?
Dyweder maint y Duwdod—
Yr un faint yw'r Iawn i fod."
Ac ebai y Bardd, "Wel, yn wir, y mae o'n dlws! —dywelwch o eto, da chwi" a'r dyn yn cydsynio, nes oedd yr awdwr wedi ei lyncu i fynu gan ei swynion a'i brydferthwch, ac yn galw ar y wraig, "Gwnewch gwpanaid o dê o thipyn o doast i'r gwr dierth, yn union deg—dywedwch yr englyn unwaith eto, da chwi." Roberts yn ei ddweyd drosodd a throsodd drachefn. A fu erioed well engraifft o ddiniweidrwydd. Byddai ambell un yn gwneud camgymeriad mawr gyda golwg ar y ddor i serch y bardd. "Mae genym ninau yn sir Ddinbych acw fardd da iawn," ebai porthmon wrtho rhyw dro. "Pwy ydyw hwnw, y gwr dierth?" ebai yntau. "Robert Dafis o Nantglyn," ebai'r. porthmon. Ond atehodd y Bardd gyda dau ansoddair cryf, na waeth heb eu hail grybwyll, ond dangosent pa mor ddwfn ydoedd ei ddigofaint am y camwri a oddefodd ei gyfaill Dewi Wyn yn Eisteddfod Dinbych mewn rhan oddiar law Bardd Nantglyn. Torwyd cryn lawer ar ei yspryd at farddoni pan fu farw ei anwyl ac unig eneth, Jane Elizabeth, yr hon oedd yn ferch ieuanc 17 oed, brydferth, synwyrol, a dysgedig. Plentyn ei henaint ydoedd, canys bu efe yn hir iawn yn dwyn y teitl o "Hen Lanc y Bettws Farw," a pharodd y son am ei briodas gryn syndod yn yr ardaloedd. Yr oedd ei marwolaeth yn ergyd trwm iddo—nis gallai byth ddal clywed ei henw heb i'w lygaid lenwi o ddagrau, ac y mae ei farwnad iddi yn un o'i awdlau mwyaf teimladol yn yr iaith. Y mae coethder a dillynder anarferol yn nodweddu ei holl gyfansoddiadau, ac ystyrid ef yn bencampwr am englyn: ac nid heb achos, fel y prawf ei englynion i "Grist gerbron Pilat," "Pilat gerbron Crist," yr "Iawn," a'i feddargraffiadau tarawgar a a dysgrifiadol. Yn ei awdl farwnad i Jones o Ramoth, ceir meddyliau hynod o dlysion, ac arddengys lewder y llew pan yn canmol dyn oedd mor anmhoblogaidd gyda'r lluaws. Nodweddir ei ganiadau digynghanedd gan yr un dillynder, a destlusrwydd iaith a syniadau. Ysgrifenodd un neu ddwy o garolau da, a cherdd neu ddwy o gryn deilyngdod, ond fel emynwr yr adwaenir ef oreu gan y werin. Cenir rhai o'i emynau hyd ganiad yr udgorn, megis "Mae'r gwaed a redodd ar y groes," &c.; "Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw," &c.; "Gogoniant byth i'r Anwyl Un," &c,; ac amryw eraill ellid grybwyll. Yn wir, y mae y flaenaf a nodasom fel pe wedi ei chyfansoddi o bwrpas ar gyfer y nefoedd, i'w chanu ar "uwchaf lef seraphiaid," ond ddarfod ei dodi ar wefus y bardd fel y gallai "torf y cystudd mawr" ymgydnabyddu â hi ar eu taith tua gwynfyd. Cyhoeddwyd gwaith Robert ab Gwilym yn gyfrol fechan yn 1841, tan yr enw Gardd Eifion, gyda rhagymadrodd gan Caledfryn. Bu farw yn y Monachdy, Mehefin 11, 1850, yn 83 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Abererch, ger Pwllheli. Yr oedd cywydd marwnad iddo yn un o destunau Eisteddfod Porthmadog yn 1851, a chywydd campus o waith Ioan Madog a enillodd y wobr.—Enwogion Cymru.