Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Cân fuddugol y Saint

Oddi ar Wicidestun
Adgyfodiad y Saint Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Y Credadyn Cystuddiol

CAN FUDDDUGOL Y SAINT.

Gogoniant byth i'r anwyl Un
A dynodd golyn angau;
Ysbeiliodd uffern fawr ei grym,
A rhyddion ydym ninau.


Gorchfygodd Iesu ar brydnawn
Y ddraig a'i llawn gynllwynion;
A'i waed a roddodd i'n glanhau,
A'n cànu ninau'n wynion.

Chwi sereiph a cherubiaid glân,
Eich dawn rho'wch allan iddo,
Y ddwyfol law a'n cododd ni,
A'ch cadwodd chwi rhag syrthio.

O dewch, angylion, pa'm na ddewch,
A chyd chwarewch eich tanau,
A boed i sain Calfaria fryn,
Ail enyn eich telynau.

Os chwi a genwch am eich dal,
A'ch cynal trwy ei allu,
Ein dyled ni'n fyrdd mwy a gaed,
Am roi ei waed i'n prynu.

Ni ydym hil y codwm mawr,
Aeth gynt i lawr yn Adda;
Caed modd i'n gwneud yn gwbl iach,
Ar fynydd bach Calfaria.

Hosanna, cawsom feddu'r wlad,
Yr hon a rad addawyd,
Lle gwelir mawredd gwir Fab Mair,
A gwerth y gair "Gorphenwyd."

Chwi batrieirch, deuwch, t'rewch y dôn,
Ac apostolion hefyd;
A'r hen ferthyron yn mhob oes,
Dros Grist a roes eu bywyd,

Dadseinied grymus anthem gref,
Organau'r nef ogoned,
I enw'r Duwdod yn y dyn,
Pob dawn yn un enyned.

Ag aur delynau'n gor di lyth,
Heb orfod byth ymado,

Cawn gyd-fwynhau tragwyddol hedd,
A'n gwedd yn debyg iddo.

O ffrwyth ei loes ar Galfari,
Cawn fedi'r hir orfodaeth;
Hen glwyfau Eden—tynwyd hwy,
Ni welwn mwy farwolaeth.

Myrdd mwy dyogel yw'r wlad lwys
Na hen baradwys Adda;
Ni ddaw dim pechod, braw na chur,
Na gelyn a'mur yma.

O angau taeog! dywed hyn,
P'le mae dy golyn bellach?
A pha le mae, O uffern gaeth!
Dy fuddugoliaeth mwyach?

O teilwng! teilwng! ydyw'r Oen,
A ddygodd boen ein beiau,
Nid hwy fydd tragwyddoldeb chwaith
Na hyd ein maith ganiadau.

Am gyflawn dâl y prynwyd ni
O'n holl drueni marwol,
A'r pridwerth ar Galfaria fryn
Yw'n testyn yn dragwyddol.

I Dduw bo'r diolch, rhoddi wnaeth
In' fuddugoliaeth hylwydd,
Gorfodaeth ar bob gelyn trist,
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.


Nodiadau

[golygu]