Gardd Eifion/Coffadwriaeth am Dewi Wyn o Eifion
| ← Dafydd Ionawr a G Owen | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Coffadwriaeth am Sion Lleyn → |
COFFADWRIAETH
AM Y DIWEDDAR FARDD GODIDOG, DEWI WYN O EIFION,
Yr hwn a ymadawodd o'r fuchedd drancedig hon, Ionawr 17, 1841, yn 56 mlwydd oed. Rhoddwyd ei ran farwol i orwedd yn Mynwent Llangybi.
Gwae oror wag Eryri,—gwae ganoedd,
Gwg Ionawr ddaeth ini:
Och! Wynedd, yn iach enwi
Iaith na dawn i'th enaid di.
Gyrwyd i ni flaguryn—o ardd Duw,
Iraidd deg blanigyn,
A'r nodd a rodd o'i wreiddyn
Yw da waith ein Dewi Wyn.
Tyr Eifion ei bron am ein brawd,—a'i gwaedd
Mal gweddw am briawd;
Gwae randir hon gan gryndawd,
Mawr dy loes, hen Gymru dlawd.
Mae'r enaid yn merwino—am Ddafydd,
Ymddifad wyf hebddo;
A'r galon bur yn curo,
A hir ddeil o'i herwydd o.
Gwae fi, rhaid boddi dan bwys—poen gyfyng,
Pan gofiwyf ei orphwys;
A deoliad y wiwlwys
Awen o'r Gaerwen i'r gwys.
Gwyddom am ei gywyddau,—a gwiwdeb
Ei gedyrn linellau;
Pob cydsain gywrain yn gwau
Anadlant yn eu awdlau.
Dawn Eden a'i dynododd uwch eraill,
A chywrain ymadrodd:
Dilafur y dylifodd
Yr iaith o'i ben wrth ei bodd.
Hwn fydd mawr bob awr tra bo—urdduniant
I farddoniaeth Cymro:
Er bedd erchyll, dywyll do,
Ei enw ni chuddir yno.
Ar fyd beirdd anorfod ben,—mawr ydoedd
Ymherawdwr Awen:
I'w ddyddiau, ofydd addien,
Gymhar hardd i Gomer hen.
Mewn gorhoen o'i boen dybenawl,—o'r ing,
Drwy angau'n fuddugawl:
Unodd ei gerdd awenawl
A beirddion gwynion y gwawl.