Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Coffadwriaeth am Mr John Williams, Peroriaethydd

Oddi ar Wicidestun
← Coffadwriaeth am Mr J R Jones, Ramoth Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Coffadwriaeth am Mrs Anne Evans, Abererch →

COFFADW RIAETH
Am MR. JOHN WILLIAMS, PERORIAETHYDD,
O Ddolgellau, yr hwn a fu farW Mawrth 11, 1821.

Per fiwsig uwch prif oesoedd,—adwaenir,
A'i donau'n mhob lleoedd;
Hoff rediadau'n ffrwd ydoedd,
Hynod o lawn, Handel oedd.

Fe roddes gedyrn fawr addysgiadau
I luoedd daear, Ogledd a Deau;
Henwn iaith Omer hi yn anthemau,
I dduwioledig waith addoliadau;
Dywenydd yw ei donau,—a rhyfedd
Wyrth hir ogonedd ar nerth organau.

Diboen o hyd y bu'n hau
Rif y ser o fesurau;
Adwaenai a phrofai'n ffraeth,
Rinweddau'r awenyddiaeth;
Ein hyder gwiwber a'i gwel
Yn diengyd, ein da angel,
I fan ei chynefinoedd,
Aeth y gân—can's benthyg oedd.

Fel mae clod yn bod, y bydd—ogyfuwch
I gofio'n hathrawydd;
Bri'r ethol beroriaethydd
Trwy gred oll, tra gwawrio dydd.


Nodiadau

[golygu]