Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Coffadwriaeth am Sion Lleyn

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth am Dewi Wyn o Eifionn Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Coffadwriaeth am y Parch J Jones, Nefyn

COFFADWRIAETH
Am SION ROBERTS Y BARDD (Sion Lleyn),

Yr hwn a drengodd Mai 7, 1817, yn 68 oed.

Gwae L'yn, nid gwiw eleni,
Eithr du oll yw'th awyr di;
Pa dymhestl ddiddestl a ddaeth
Ar dir dy briodoriaeth?
Dilewyd anadl awen,
Ys yw'r bardd a'i oes ar ben;
Mae'r iaith wedi marw weithion,
Er y sydd, o bu farw Sion;
Wylais swrn, pan glywais o
Ddwyn awen i Ddeneio.[1]

Mae'n alar am anwylyd,
I'w hoff ddyweddi o hyd;
Och! wael fun, uwchlaw ei fedd,
Wylo dw'r wel'd ei orwedd;
Hunaw o Sion, hyny sydd
Wae o fewn i Eifionydd:
Ei fywyd, o'r byd i ben,
Ddifodwyd gan Ddafaden;[2]
Gwae fi aros gyferyd,
A'r bedd i gyniwair byd.
Dyn oedd am adnewyddu
Y gerdd fwyn i'r graddau fu;
Ymroadur mawr ydoedd,
A dwfn ei fyfyrdod oedd.

Ni ddeil awen o ddwylaw
Angau trwm i ddiengyd draw;
Fe t'ai urddawl, pa farddas
A dry fin ei gleddyf glas?
Hen addysg awenyddol
A saif i rai fo ar ol;
Emynau teg awdlau gynt,
Cofnodau cyfain ydynt:
Ardderchog oediog awdwr,
O'r hen feirdd yr hynaf wr;
Ond bid un yr oed y bo,
Duw a fyn wneud a fyno.
Na ymyrwn â'n marwol
Ddyn hwn—na wylwn o'i ol:
Ffyddlawn a boddlawn y bu
Yn ei oes dan iau Iesu:
Marw! mawr elw yr alwad
I'w ddwyn fry i dŷ ei Dad,
I wau cu odlau cydlef
A llon awenyddion nef:
Cai'r Ion yn foddlon i fawl,
Llais brawd y llu ysbrydawl.


Iddo Ef, cyd addefant
Y mawl ar bob dwyfawl dant;
Prydant am y priodwaed,
Yr un gerdd am rin y gwaed:
Yno Sion, fu was anwyl,
Gwedi ei gur caiff gadw gwyl


Nodiadau

[golygu]
  1. Enw yr Eglwys lle claddwyd ef.
  2. Dafad Wyllt.