Gardd Eifion/Crist yn Iachawdwr Cyflawn
| ← Mawrhydi a darostyngiad Crist | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Dyoddefaint Crist → |
CRIST YN IACHAWDWR CYFLAWN.
Tragwyddol gariad Tri yn un,
I gadw dyn colledig,
A ogoneddwyd ar y pren,
Gan Iesu bendigedig.
Trugaredd rad o'i fynwes ef
Fel afon gref a lifodd;
Rhai o bob llwyth,-pob iaith ac oes,
Ar bren y groes a brynodd.
Ei einioes lân a roes i lawr,
Tan bwys ein dirfawr bechod;
Fe brynodd ini wir ryddhad,
Trwy waed y rhad gyfamod.
Halogrwydd du, euogrwydd dwys,
A dirfawr bwys ein beiau,
A'i gwasgodd Ef i'r bedd yn gaeth,
Tan gref lywodraeth angau.
Mewn daear wael, ei dyner wedd,
Er gorwedd yn gystuddiol,
Ar allu'r bedd, ar angau caeth,
Ca'dd fuddugoliaeth fythol.
Gorphenodd iachawdwriaeth gu,
I'r nefoedd fry esgynodd;
Holl allu uffern faith i gyd,
Fyth hefyd a gaethiwodd.
Trwy rinwedd pur ei aberth rhad,
Ger bron y Tad mae'n eiriol;
Yn haeddiant ei gyfryngdod ef,
Fe wrendy'n llef gystuddiol.
O talwn byth ein teilwng barch,
I'n ffyddlon arch-offeiriad;
O Sion nac annghofia nerth
Ei gywir werthfawr gariad.
Holl seintiau ac angylion nef,
I'w enw Ef y canant;
Ond ni all doniau sereiph dwys,
Fyth gynwys ei ogoniant.
Nes myn'd i blith y dorf sy bell,
Yn meddu gwell telynau;
Dyrchafwn ni sydd eto'n ôl,
Ei fawl â'n dynol dànau.
Anfarwol gôr y nef i gyd,
Yn hyfryd a'i molianant;
O, llanwn ninau, yn ddi drai,
Y ddaear â'i ogoniant.