Gardd Eifion/Cyflafan y Gwir
Gwedd
| ← Coffadwriaeth am Ferch Mr Evans, Barcer, Pwllheli | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I ofyn Bibl → |
CYFLAFAN Y GWIR.
Tynu mae'r byd at anwir,
Enllibio a gwawdio y Gwir;
Troi wyneb at yr anwir—
Bradychu a gwerthu Gwir;
Enynu mae gwên anwir;
Ond prudd, gan gystudd yw Gwir;
Sidan glân yw gwisg anwir,
Bratiau yw gwregysau Gwir;
Yr enaid ni choronir—
Er mor wael heb gael y Gwir;
Anwiredd aeth yn eirwir,
Traws a gau y troes y Gwir;
Mawr enw y mae'r anwir,
Yn ei gael, yn lle enw Gwir;
Er enwog fawrhau anwir,
Cryfach, rhagorach y Gwir;
'R enyd b'o cwymp yr anwir,
Dyna bryd gwynfyd y Gwir;
I ddinystr ydd & anwir,—
Rhag purdeb gwyneb y Gwir;
Y Duw uniawn di anwir,
Rhoe'd i'm bron galon y Gwir;
Ac yna bid gwae anwir
A gwarth am gyfarth y Gwir.