Gardd Eifion/Cyfodi y Groes
| ← Yr Eglwys, mewn amseroedd terfysglyd | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Twyll annghrists → |
CYFODI Y GROES.
Na chywilyddia f' enaid,
I arddel Crist yn Dduw;
Na ddiystyra gariad
Y fath Iachawdwr gwiw;
Wrthodi di'r fath gyfaill,
Yr Hwn â'i waed ei hun,
Orphenodd waredigaeth,
Ac iachawdwriaeth dyn?
Crist i gyhoeddi heddwch,
A ddaeth o'r nef i lawr,
Gan ddangos rhyfedd gariad,
Ac ymostyngiad mawr;
Gostyngodd ef, hyd angau,
Tan chwerwaf, lymaf loes,
Gan ddiystyru gw'radwydd,
A phoenau blin y groes.
Rhaid ini godi, beunydd,
Wrth ei orchymyn Ef,
Y groes, a'i gywir ddilyn,
Wrth deithio ffordd y nef;
Ni ddichon ein bywydau,
Na myrdd o oesau chwaith,
Ad—dalu'r cariad dwyfol,
Hwn sy ryfeddol faith.
Ar bawb sy'n dyodde'n ffyddlon,
Dros enw'r Iesu cu,
Yr edrych gyda hoftder,
O'r maith uchelder fry,
Eu bywyd sydd yn anwyl,
Tra byddont îs y nef,
A gwerthfawr yw, yn ddiau,
Eu hangau ganddo Ef.
Cyfodi'r groes yn ffyddlon,
A rhoi i'w enw fri,
Hyn yw'r anrhydedd pena',
A'r fraint anwyla' i ni;
Y rhai sy'n awr yn dyoddef
Er mwyn ei enw Ef,
Cânt gyd—deyrnasu'n hyfryd,
Mewn gwynfyd yn y nef.
Os yn y dydd peryglus,
Trallodus ar y llawr,
Y gwadwn ni ein proffes,
A'i santaidd enw mawr;
Ar ddydd y farn gyhoeddus,
Drallodus sy gerllaw,
Fe dry y cyfiawn farnwr,
Bob drwg weithredwr draw.