Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Cymdeithas gyda'r Tad

Oddi ar Wicidestun
← Nefoedd ar y Ddaear Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Dydd y Farn →

CYMDEITHAS GYDA'R TAD.

Cymdeithas hyfryd ydyw hon,
Sydd i'r duwiolion yma,
Ond myrdd helaethach fydd, heb len,
I'r saint ar ben eu gyrfa.

Am gael cymdeithas gyda'r Tad,
Hyn yw'n dymuniad yma,
Ond myrdd helaethach fydd, heb len,
I'r saint ar ben eu gyrfa.


Nodiadau

[golygu]