Gardd Eifion/Cywydd dyhuddiant i Dafydd Ddu o Eryri
| ← Diolchgarwch i'r Parch. E. Evans, o Lundain | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Anerchiad i J. W. Richards, Plas-y-brain, Mon → |
DAFYDD THOMAS (Dafydd Ddu Eryri),
Pan ydoedd yn cadw Ysgol yn Llandwrog, a manau ereill, a fyddai arferol o ddyfod i rodiaw yn y Gwyliau, pan dorid yr Ysgol, i Eifionydd, er mwyn ymweled a i hen gyfeillion, yn enwedig Dewi Wyn, Sion Wyn, a R. ab Gwilym Ddu, &c. Un tro, ar ei ddychweliad adref, digwyddodd i'r tywydd droi yn ddrycinog a thymestlog anarferol, o ba herwydd cafodd yr anwyd yn drwm iawn; a bu yn glaf dros dalm o amser; a phan ydoedd yn ei glefyd, anfonodd lythyr caredig at ei hen gyfaill R ab Gwilym Ddu, i ddeisyf arno wneyd Cywydd dyhuddiant iddo, i'w gysuro a 'i ddyddanu yn ei. glefyd. Yntau yn gydsyniol a'i gais a anfonodd ato fel y canlyn—1817
Pa ryw swn yn peri sydd
Braw o fewn bro Eifionydd?
I raddau mawr oerodd Mon,
A dewrfeirdd gwaelod Arfon;
Pa achreth gydbleth sy'n gwau
Lle bu'r gân, a'i llwybr gynau?
Och! sôn, band, afiachus wr,
Profedig yw'n prif awdwr;
Gwasgfa o besychfa sydd
Ar anadl yr awenydd;
Dan ei llwyth mae pob gwythen,
Yn llusgaw'r poer llesg o'r pen,
Y peswch, gwelwch golion,
A dery frath, drwy ei fron;
Yn llon fyw ni all un fod,
A'i weli yn ei waelod;
Doe, gwelais y digalon,
Oedd a'i friw yn ngwraidd ei fron;
lâs geufwrn, drwy'r ysgyfaint,
Yw archoll hwn—erchyll haint;
Crasineb croes i anian,
A chwerw ei guwch ni châr gân.
Anhyblyg wan gwyneblwyd,
Cysur bach, yn casau'r bwyd;
Diswydder—madws iddo,
Ysgar fyth, o'i asgre fo,
Hoen a seibiant, hen swbach,
O'i ddu boen i Ddewi bach;
Drwy nawdd Naf, deled Dafydd,
Hen frawd, o'i rhyndawd yn rhydd.
Ar gyfer y toster tyn,
Yf o ddiglwyf feddyglyn;
Hybu gei heb y gauaf,
Coeliwn hyn, cyn Calan haf;
Daw'r gôg i'th galonogi,
Yn hawdd it' gytgan â hi;
Odid na chawn diriawn des,
Drwy undeb, wedi'r andes,
Etwa'n Eifion, Dduon ddau,
O gyd galon, gadw Gwyliau.
Arfer beirddion gwychion gynt,
Hen dadau, rhai nad ydynt,
Fu urddo ddeddf i feirdd da,
At gael ariant o glera;
Ninau'n gerth mewn anian gu,
Bywiogwn i'w tebygu.
Da yw ar wr dori iau
Ysgolan, fis y Gwylia,
Er mwyn rhoi llaw i'r awen,
A ffordd at godi ei phen.
Er frawd bach, mai afiach wyd,
A thân Ion i'th eneiniwyd;
Di gudd, a da egwyddawr,
Dull mwyn, ag a deall mawr;
Da, gwyddost, ydyw goddef,
A gwir ddwyn, ei gerydd Ef;
Ete roes einioes ini,
Fe'n ei hol a'i gofyn hi:
Ow! Dewi, o thau d'awen,
Mae'r iaith, a'i barddwaith, ar ben,
Gwan yw y beirdd, egni bach—
Heb dy lân gân amgenach,
Mwynwr wyd yn minio'r iaith—
A morio'r hen Omeriaith;
Ni thal son am Arfon mwy,
A'th wiwdeb yn fethadwy;
Da gwyddost ddifost Ddafydd,
Reolau pob seiniau sydd,
Mawr air sydd am Eryri,
A braidd neb uwch ein beirdd ni;
Syniwyd gwaith—seiniau dy gerdd,
Eryrgainc yn arwrgerdd;
Meini cedyrn, mewn cydwaith,
Cryfder ynt, cerfiadau'r iaith.
Er cael arfod i rodio
Drwy'r siriol, fawreddol fro,
Gweled beirddion Eifionydd,
A blodau doniau ei dydd,—
Trwy fyd gwych, trafod y gân,
Am ddyddiau, cydymddiddan,
Drwy'r hirnos, aros i son,
Mwyn gyfarch, am hen gofion,
Cael wrth law, ar bob t'rawiad,
Wirodau, a gwleddau'n gwlad;
Aml rodio ar dro i'r drws,
Bu iti yn y Betws;
A threiglaw gyda'r awen
Drwy barthau'n gwlad wastad, wen;
Darsyllu'r lle bu yn bod
Hen Gantre' gwiwle'r Gwaelod;
A Sarn Badrig a'i thrigias
O dan lif y ferwdon las;
Y' nghesail hon dangoswch,
O'n seirian barth, Sarn y Bwch;
Tref Madog aml boblogaeth,
A'r clawdd lle trechawdd y traeth;
Mur eres, mawr ei wryd,
Yn filldir honir o hyd;
Gwel'd nenawr yr Wyddfawr ris,
Cip edrych copa Idris;
Ar gyrion ein môr gorwych,
Ceir ambell hen gastell gwych,
Aem lle gwelem rhyw drem draw,
Meirion, a'r llongau'n moriaw—
Carn Fadryn a'r Moelwyn mawr,
Yn ymyl hwn mae Nanmawr.
Cael o ben Ynys Enlli,
Erin yn Ngorllewin lli;
Diflino rhodio'r ydoedd,
Blys rhyw hynt ei bleser oedd;
Aethom a daethom bob dydd,
O'n Gwyliau gyda'n gilydd,
Hyd aml rodfa, deithfa deg,
O'n rhandir yn orhoendeg;
Cyfeiriem, rhag fai aros
O draw, er neb, adre'r nos.
Gohiriaw, dan geudawd gwydd,
Hyd ddirwest fel dau dderwydd;
Cydfyddem, pan welem wall,
A thaerem y waith arall;
Wrth son am rywion yr iaith,
Rhagor unrhyw gywreinwaith;
Er hyny, dyma'r hanes
O'i fyr lwydd heb fawr o les;
Ow! mor dost anmharwyd ef,
Ar ei ddudrist ffordd adref!
Oeri'r gwaed ar eira gwyn,
Hyd aeliau Cwm y Dulyn;
Ein bardd glwys aeth yn brudd glaf,
Tan rewynt hin oer auaf;
Enynu'n wan o anwyd,
Gwaraidd ei lais a grudd lwyd;
Methu'n llwyr rhy hwyr oedd hi,
Ddull ofnus gyrhaedd Llyfni.
I'r bardd truan ei waneg,
Hir fu ei daith—araf deg;
A rhaid mai anhawdd rhodio,
Drwy'r lluchwynt a'r trymwynt tro;
Ffodd awen o'r pen—a'r pwyll
Ar osteg cyn yr Ystwyll;
Fel hyn aeth oerfel Ionawr
In grygni a mygni mawr.
Dewi bach, Duw a biau,
Weini lles i'th iawn wellhau,
Ei air ef a wna'r afiach,
O'i flin oes yn gyflawn iach;
Ei wen arnom ni weiniaid,
Hyd yma o'n gyrfa gaid;
Amgylched a nodded ni,
Hyd fedd, ein deuwedd, Dewi.
Gwelwn hyn mai gwael yw'n hoes,
Frawd anwyl—fyred einioes;
I'r âr yn garcharoriawn,
O ris i ris yno'r awn;
Pob rhyw loes drwy'r fer oes frau,
Arddengys awr ddu angau;
Rhaid rhoi cyfrif ddifrif ddau,
Manol, tydi a minau;
Bwriwn bob traul yn barod,
Hwyr yw'n dydd, mae'n hawr yn dod.
Ein Ior ini a ranodd
Yr awen fad, o'i rad rodd;
Gwell awen a'i dywenydd,
Yma is haul na dim sydd.
Eiddo'r Ion, rhoddwr einioes,
Hefyd yw'r iechyd a'r oes;
Rhoed i'n hawl i fythawl fyd,
Dda fuchedd, ddiafiechyd;
Gwyl lân yn ngwlad goleuni,
Hir oes nef i'n haros ni.