Gardd Eifion/Dau Englyn oddiwrth ddyall fod y clyw yn trymhau
Gwedd
| ← Englynion moesol a diniwaid | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I'r Cardotyn crwydraidd → |
DAU ENGLYN
A wnaed pan ydoedd yr awdwr yn dysgu y Cantorion ganu Salm, yn y cyfamser y clyw oedd ddrwg, yr hyn oedd yn llwyr anfanteisol iddo. Yntau a ddywedodd fel y canlyn.—1817.
Y ddiell babell, heb wybod—imi,
Ow! dyma hi'n darfod;
Twn yw'r clyw—llwybr tanau'r clod—
A bylawdd, a phob aelod.
Ar redeg i'r bedd yr ydwyf,—myned
Yn mhob man y byddwyf;
Trwy 'mywyd, lle tramwywyf,
Ni bydd ond y fan na b'wyf.