Gardd Eifion/Doethineb Duw
| ← Amgylchiadau marwolaeth Crist | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Dyledswydd Dyn → |
DOETHINEB DUW.
MAWR yw doethineb brenin nef,
A'i wyrthiau Ef sydd werthfawr:
Ni thraethir byth eu maint, ar g'oedd,
Hyd derfyn oesoedd dirfawr.
Gwynfyd y lluoedd dysglaer, llon,
Sy fry ger bron ei wyneb,
Yn gweled rhyfeddodau clir,
Gwaith hynod gwir ddoethineb.
Yr haul, a'r lloer, a'r ser uwch ben,
Sy'n harddu'r wybren siriol,
Gan ddangos ei ddoethineb maith,
A'i gywrain waith rhagorol.
Y ddaear lawn, a'i dirfawr lu,
Sy'n traethu am ei fawredd;
A'r eigion dwfn, a'r pysg sy'n gwau,
Dan dònau'r ddyfrllyd anedd.
Ond wele fwy rhyfeddol waith,
Doethineb maith sydd eglur,
Yn trefnu iachawdwriaeth rad,
A Cheidwad i bechadur.
Drwy ddirgel drefn doethineb gu,
Dwy natur fu elynol,
Yn mherson Crist, mewn undeb sydd,
Hyn fu, hyn fydd, ryfeddol.
O pa mor anchwiliadwy yw
Doethineb y Duw perffaith,
Ei wyrthiau'n llawn, ni ddeall neb,
I dragwyddoldeb hirfaith.