Gardd Eifion/Dyfodol yr Eglwys
Gwedd
| ← Sicrwydd yr Addewid | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Annghrediniaeth → |
DYFODOL YR EGLWYS.
Henffych foreu hyfryd iawn,
Os rhaid wylo dros brydnawn,
Hi ddaw yn gyflawn ddydd;
Pan f'o gwybodaeth
O'r iachawdwriaeth
Uwch pob camsyniaeth yma sydd.
Pan fo moliant Iesu mawr,
Dros dalaethau daear lawr,
Mor werthfawr fydd y fraint,
Eu blaenor bywiol,
Mewn natur ddynol,
Fydd yn bersonol gyda'r saint.
Bwrir pob traddodiad cas,
Sy'n gorchuddio Crist a'i ras,
O'i sanctaidd deyrnas Ef;
Daw'r byd presenol,
Yn lle trigianol,
I'w foli'n unol fel y nef.