Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Dyledswydd Dyn

Oddi ar Wicidestun
Doethineb Duw Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Cwymp Dyn

DYLEDSWYDD DYN.

O! cydnabydded dynol-ryw
Fod arnom ddyled fawr i Dduw;
Mae pob rhyw ddoniau îs y nef
Yn deilliaw o'i drugaredd ef.

Er bod ei rad haelioni'n fawr,
I holl gre'duriaid daear lawr,
Fe roes i ddyn fyrdd myrddiwn mwy
O roddion teg na'r eiddynt hwy.


Ni ffurfiodd Ef greadur byw,
Yn ol ei ddelw, anwyl Dduw,
Ond dyn yn unig, tan y nef,
I debygoli iddo Ef.

Ar ol diweddu dirfawr waith,
Ar dir, a llu y dyfnder llaith;
Gosododd ddyn fel unig ben,
Ar bob rhyw nifer is y nen.

Addurnodd y Creawdwr ef,
O'i dyner nawdd â doniau'r nef,
I draethu glân fynegawl glod
I'w nefol annherfynol fod.

Am hyny dylai dyn o hyd,
Fod megys genau tros y mud;
Cre'duriaid gwael iselaidd ryw,
A'u nefol dôn i foli Duw.

Os ydyw dyled dyn bob awr
Roi moliant i'r Jehofa mawr,
Am greadigol ddoniau rhad,
A roes y doeth haelionus Dad.

Pa faint yn fwy o ddyled sydd,
Ar ddyn i ganmol Duw bob dydd,
Am drefnu ffordd, o'i gariad hael,
I gadw'r gwan greadur gwael?

Rhyfeddod pa rhyfeddod fwy,
Na gweled Iesu tan ei glwy'?
Yn dyodde'n brudd ar ddirfawr bren,
A'r goron bigog ar ei ben!

Ac wedi dyoddef angau du,
Dros waelaf, annheilyngaf lu,
Agorodd ffordd i'r nefol wledd,
Fe dorodd byrth a dôrau'r bedd.

Pob poen a gofid maith a ga'dd,
A phob rhyw groesau o bob gradd,
Sydd yn diweddu yn gytun,
Er helaeth iachawdwriaeth dyn.


Nodiadau

[golygu]