Gardd Eifion/Eiriolaeth Crist
Gwedd
| ← Y Cymod | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Crist a phlant bychain → |
EIRIOLAETH CRIST
Ein hyder rho'wn yn Had y Wraig,
Anwylaf Grist ein nefol graig,
Yr hwn dros weinion Sion sy
Dynerol frawd, yn eiriol fry,
Hoff red yr hedd yn ffrydiau rhad,
I ni o'i loes mewn anial wlad.
Hwn sydd yn awr ar orsedd nef,
O draw a glyw ein dirgel lef;
Mae'n dadleu gwerth ei aberth rhad
Gwir Brynwr dyn gerbron ei Dad,
Pob cysur pur i laesu'r poen
A gaed o rinwedd gwaed yr Oen.
Cyfrana'n hael, cu Frenin hedd,
I afradloniaid, hyfryd wledd,
A'n eiddil gwyn a ddelo'n gu
Gerbron yr orsedd ryfedd fry;
A deled gwlith y fendith fawr,
Ein Naf, o lys y nef i lawr.