Gardd Eifion/Emyn
Gwedd
| ← Y Gwaed | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Adgyfodiad Crist → |
EMYN.
Dacw un mewn natur ddynol,
Heb un math o bechod gwreiddiol,
Eto'n farwol ar y pren;
Deddf y nef a anrhydeddodd,
A'i gofynion a gyflawnodd,
Pan ogwyddodd Ef ei ben;
Dewch, Iuddewon a Chenhedloedd,
Er pob gofid a therfysgoedd,
Dacw'r llwybr o'r dyfnderoedd,
A bwrcaswyd cyn yr oesoedd,
Yn ei waed i'r nefoedd wen.
Cyfod enaid, a dihuna,
Gwel y gwaith wnaed ar Golgotha,
Yn ei laddfa dan y loes;
Ni, dylodion, oeddym gaethion,
Dan ddigofaint y ddeddf gyfion,
Yno'n rhyddion hwn a'n rhoes;
Deuwch deuwch gaethion Eden
At ein llywydd, eto'n llawen,
Draw i'r ddinas, drwy'r Iorddonen,
Ni gawn ddiengyd yn ddiangen,
I'r ddi-len dragwyddol oes.