Gardd Eifion/Emyn (2)
| ← Annghrediniaeth | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Emyn (3) → |
EMYN.
Mae annghrediniaeth beunydd yn dangos ger fy mron,
Y gorfydd imi sefyll yn ngwyneb llawer tòn,
A'r gelyn yn cyhuddo, gan ddweyd mai namnio a gaf;
'Rwy'n dyfod atat, Iesu, dan waeddi, Beth a wnaf?
Atolwg, Arglwydd, gwrando, 'rwy'n curo wrth dy ddôr,
Gan deimlo 'maich yn drymach na thywod mân y môr;
Er cymaint yw fy llygredd, mwy yw'th drugaredd Di,
O! crea anian dduwiol, anfarwol ynof fi.
'Rwy'n gwel'd yn ddigon eglur nad allaf byth, fy Nuw,
Roi iawn am unrhyw drosedd, na'r camwedd lleia' ei ryw;
Nid oes ond haeddiant dwyfol, effeithiau marwol loes,
A rhinwedd gwaed ei glwyfau ddilea feiau f'oes.
Cyfiawnder oedd yn wastad yn gwaeddi am daliad llawn,
A Sina'n peri dychryn, a'r ddeddf yn gofyn Iawn,
Ar waedlyd fryn Calfaria mi welaf yr un dydd,
Y Meichiau'n llaw'r gofynwr, dyledwr yntau'n rhydd.