Gardd Eifion/Emyn (3)
Gwedd
| ← Emyn (2) | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Emyn o flaen pregeth → |
EMYN.
O Iesu! gwel bechadur gwan,
Sy'n fynych dan ei ofnau;
Cyflwyno wnaf yn awr i ti,
Fy ngweddi a'm gruddfanau.
Er cael mwynhau dy ddoniau rhad,
A phrofiad o'th ddaioni,
Mi gamddefnyddiais, anwyl Ion,
Dy aml roddion imi.
Pan deimlwyf hyn, yn ddwys, fe ddaw,
I'm calon fraw a syndod;
'Rwy'n gwel'd mai cyfiawn yw, bob cam,
Im' ochain am fy mhechod.
Mi addunedais, lawer pryd,
Am barchu'th hyfryd ddeddfau,
Ond, wedi hyny, myn'd ar wall,
A throi o'th ddiball lwybrau.