Gardd Eifion/Emyn Claddedigaeth
| ← Myfyrdodau wrth orwedd i gysgu | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Enaid a chorff y duwiol yn cyfarch eu gilydd → |
EMYN CLADDEDIGAETH.
Pa beth yw dyn na neb o'i ryw,
Ond megys gwan lysieuyn gwyw?
Y borau'n tyfu'n wych ei wawr.
Prydnawn y torir ef i lawr.
Pa beth yw uchder gradd na grym,
Dan ddyrnod llaw yr angau llym?
Dwg wych a gwael a'r iacha' eu gwedd,
Yn glau o'r byd dan gloiau'r bedd.
Pa beth yw golud byd a'r barch,
Pan elo dyn ar waelod arch?
Nid oes dim hofsder ganddo'n awr,
Mewn dim a fedd y ddaear fawr.
Pan byddo dyn ar ddiwedd oes,
Yn dyodde'r flin, ddiweddaf loes,
Diflanu wna, pan ballo'r chwyth,
Gan ddarfod; ac heb ddarfod byth.
Yn noeth y daethom bawb i'r byd,
Ac felly gwn awn oll i gyd
Yn fud, ac oer, yn dlawd, ein gwedd,
I aros barn i lys y bedd.
Y cnawd a roddir yn y man
Mewn gro a llwch wrth gor y Llan,
Y pridd i'r pridd a syrth yn awr,
A'r llwch i lwch y ddaear lawr.
Er hyny'r enaid bach fydd byw,
Nid marwol, ond anfarwol yw;
O wydd y farn rhaid iddo fe,
Ymddidol i'w dragwyddol le.
Ystyriwn, profwn hyn mewn pryd,
Yn mha ryw fan; yn mha ryw fyd
Y bydd ein lle, 'nol gado'r llawr,
Yn y tragwyddol fyd sy fawr.