Gardd Eifion/Emyn o flaen pregeth
Gwedd
| ← Emyn (3) | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Y Gogoniant Nefol → |
EMYN O FLAEN PREGETH.
O Frenin nef a daear lawr!
Mor werthfawr yw dy wedd,
Rho i ni brawf, ar hyn o bryd,
O'th nefol, hyfryd hedd.
Goleua Di ein deall gwan,
Yn mhob rhyw ran o'th waith;
Amlyga, 'nawr, i'th anwyl blant,
Dy fawr ogoniant maith.
O cryned, Arglwydd, ger dy fron,
Dy holl elynion cas;
A llwydda hefyd yma, 'nawr,
Wirionedd mawr dy ras.
Anwylaf Dad, O, arddel Di,
Y genadwri hon,
Nes llanwo gwir wybodaeth glau,
Holl gyrau'r ddaear gron.