Gardd Eifion/Enaid a chorff y duwiol yn cyfarch eu gilydd
| ← Emyn Claddedigaeth | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Y Mil Blynyddau → |
ENAID A CHORFF Y DUWIOL YN
CYFARCH EU GILYDD YN YR ADGYFODIAD
Enaid—O! henffych gorff anfarwol glân,
Bydd im' yn drigfan hyfryd;
Un sylwedd oeddym, gynt, ein dau,
Cyn tori edau'r bywyd.
Corff—O! enaid bach, b'le diengaist di,
Pan hunais i'r pryd hwnw,
A'm cloi yn llwch y beddrod trist,
Nes dyfod Crist i'm galw?
Enaid—Fy anwyl gorff, pan drengaist draw,
A'th doi islaw mewn daear,
I'm nefol dŷ cymhwyswyd fi,
I'th aros imi'n gymhar.
Corff—Ow! myned hebot ti fu raid,
I'r bedd, fy enaid anwyl;
A gorwedd yn y ddaear laith,
Dros oesoedd maith i'th ddisgwyl,
Enaid—Fy anwyl gorff, mae'n ddigon gwir,
Ond er dy hir gaethiwed,
Nid oes dim brychau yn dy wedd,
Nac ôl y bedd i'w gweled.
Corff—I anfarwoldeb galwyd fi,
Dros byth i ti'n breswylfod,—
Cawn foli Ner yn gyflawn iach,
Fy enaid bach—heb bechod.
Enaid—Gadawsom draw o'n hol i gyd,
Hen sorod byd amserol,
Mor wag oedd llesg deganau'r llawr,
Wrth bethau mawr tragwyddol.
Corff—Ein hundeb, gynt, oedd fyr a brau,
Daeth angau i'n gwahanu;
Ond ni raid gwylio min ei gledd.
Nac ofni'r bedd ond hyny.
Enaid—Yn gorff ac enaid damniol yw
Pob dyn fu'n byw'n annuwiol,
Ond ni gawn ddechreu'r newydd gân,
A hwythau'r tân tragwyddol.
Fy newydd gorff, aneddu gawn,
Yn mysg y cyfiawn perffaith,
Yn gyfranogion o'r lleshad,
Heb fyth ddidoliad eilwaith.
Er crwydro gynt mewn anial maith,
Heb fedru'r iaith ysbrydol;
Yn fyrdd cywirach yma cawn,
Arferu'r ddawn anfarwol.