Gardd Eifion/Englyn i ffon
Gwedd
| ← Pleidgarwch | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Englyn i Mr. J. M. Thomas, Golygydd y Greal → |
Dygwyddodd i Dewi Wyn wrth gydymdaith ag R ab Gwilym Ddu, ofyn iddo paham yr oedd yn cario y fath ffon geinciog ac anolygus rhag cywilydd ei gweled, yntau a'i hatebodd yn ddisyfyd mewn ffordd o wawd, fel hyn:
Nid arwain Ynn na Deri—Eifionydd,
A fynaf eleni;
Pren Celydd, prin y coeli,
A phen aur yw fy ffon i.