Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Eraill

Oddi ar Wicidestun
← Ar Fedd Catherine Hughes Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Y Cynwysiad →

ERAILL,

Ol ar y ddaear, yn ddiau,—ni gawn
Eginyn a blodau;
Er hyn, ein hedyn, i'w hau,
Ollyngir yn llaw angau.

Yr Ion pan ddelo'r enyd, ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd;
Bydd dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.

Oer len ei farwol anedd,—o'i ogylch,
A egyr ar ddiwedd;
Daw'r afrifawl dorf ryfedd,
Feirwon byd i farn o'r bedd.

Pob hedyn a fyn Efe—o'r dulawr,
A'r dylif, i'r frawdle;
Cywir gesglir, o'r gysgle,
Lychyn at lychyn i'w le.




DIWEDD.

Nodiadau

[golygu]