Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Gwaith gorphenol Crist

Oddi ar Wicidestun
Dyoddefaint Crist (2) Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Y Gwaed

GWAITH GORPHENOL CRIST.

Tan boenau trymion angau trist,
Ar bren y groes bu'r anwyl Grist,
Gorphenodd ei ryfeddol waith:
Pan y gogwyddodd ef ei ben,
Fe dduodd gwawr y nefoedd wen,
Cydgrynodd seiliau'r ddaear faith.

Gorphenodd dalu perffaith lawn,
Enillodd fuddugoliaeth lawn;
Ac nid oes angenrheidrwydd mwy
Am waed nac aberth o un rhyw,
Dros fyth i'n dwyn i heddwch Duw,
Ond rhinwedd glân ei farwol glwy'.


Gorphenodd ein iachawdwr cu,
Orchfygu nerthoedd uffern ddu;
Ei waed a roddodd Had y Wraig;
'Rhyn a 'sgrifenwyd ddaeth i ben,
Pan y dolefodd ar y pren,
Pan ddrylliodd Iesu ben y ddraig.

Pan gilio goleuadau'r nen,
Pan dreulio oesau'r byd i ben,
Bydd melys glod i'r Iesu glân;
Ei waith gorphenol yn ein lle,
A haeddiant ei gyfryngdod E',
Fydd testyn ein tragwyddol gân.


Nodiadau

[golygu]