Gardd Eifion/Gweddi
Gwedd
| ← Yn y dydd y bwytai o hono | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Crist a'i waradwyddiadau → |
GWEDDI.
Gwir wylaf ddagrau heli,—o lwyr och,
I lawr af dan waeddi,
At ei orsedd, mewn gweddi,
A gwaed y Mab gyda mi.
Drwy'r hoelion, a'r coroni,—draw, a'i gur,
Drwy y gwawd a'r poeri,
Drwy y gwinegr, dir gyni,
Drwy ei boen fawr, derbyn fi.