Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Gweddi Agur

Oddi ar Wicidestun
← Amser Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Marwnad Angau, neu Fuddugoliaeth Crist →

GWEDDI AGUR.

I Ti bo'r mawl, y dwyfawl Dad,
Mor lawn yw'r ddaear oll o'th rad!
'R Hwn sy'n rho'i ymborth i bob rhi',
O ddydd i ddydd diwalla fi.

Fy mywyd hwn, dy eiddo yw,
A'm holl gysuron, o bob rhyw;
Pob bendith hyfryd imi ddaw,
Raid ddyfod o'th oludog law!

Nid wyf yn chwenych mawredd byd,
Danteithiol fwyd, neu drwsiad drud;
Boddhau ar 'chydig byddwyf fi;—
'R ychydig imi roddech di.

Tra byddo annuwiolion byd,
A'u hymgais ar ol hwn o hyd;
Fel Agur, boddlawn yma bwy';
Ac eled daear rhyngynt hwy.


Nodiadau

[golygu]