Gardd Eifion/I'r Ehedydd ar ddechreu ei dymor
Gwedd
| ← I'r Cardotyn crwydraidd | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I anerch Dafydd Ionawr → |
I'R EHEDYDD AR DDECHREU EI DYMOR.
Dyrcha, anadla i'r nen,— Uchedydd,
A chwyd hyd yr wybren;
Traidd iach bwnc, trwodd uwch ben,
I lys Duw, lais dy awen.
Ac anfon gu lon galenig,—hydraidd
Adref gerdd blethedig;
Drwy fyd, o'r wybr dyrfedig,
Seinied o bell swn dy big.