Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/I'r Pruddglwyf

Oddi ar Wicidestun
← I Ddewi Wyn yn ei glefyd, 1838 Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Englyn a wnaeth Dewi Wyn yn ei glefyd →

I'R PRUDDGLWYF.

Anhydyn yw dyn a dwl,—mewn t'wyllwch,
Mantellir â chwmwl;
Gan y pruddglwyf, penglwyf pŵl,
Sal fydd ac isel feddwl.

Llwyr wywodd llaw yr awen,—diamau,
Mae'r dymher o'i helfen;
Dan alaeth mewn du niwlen,
Marw yw'r pwyll rhwng muriau'r pen.


Puraf brawd, a'n prif brydydd,—a gem aur
O gwmwd Eifionydd;
Dewi bach, yn enw Duw bydd,
Galonog o lawenydd.


Nodiadau

[golygu]