Gardd Eifion/I Ddewi Wyn yn ei glefyd, 1838
Gwedd
| ← I Bont Conwy a Phont Menai | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
I'r Pruddglwyf → |
I DDEWI WYN YN EI GLEFYD, 1838,
I Ddewi cyn ei ddiwedd,—y dichon
Daw iechyd cyfanedd;
Cei di fwy, cyn cau dy fedd,
Na'r cnwd aur cyn dy orwedd,
Ond gwylia yn dy galon—draws wyro,
Wrth drysori Mamon,
Golli meddu gwell moddion,
O ddir hawl na'r ddaear hon.