Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/I anerch Dafydd Ionawr

Oddi ar Wicidestun
← I'r Ehedydd ar ddechreu ei dymor Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
I'w argraffu ar lech uwch ben drws Capel →

I ANERCH DAFYDD IONAWR.

Beunydd a'i gynydd i ogoniant—Naf,
A'i nefol urdduniant:
Fal pren pêr, mewn irder nant,
Bo Dafydd, a byw dyfiant.

Daioni gwreiddied ynoch,—llyw addas,
Llwyddiant hir a gaffoch;
At ryddid nef y treiddioch,
A than wlith bendith y b'och.


Nodiadau

[golygu]