Gardd Eifion/Iachawdwriaeth trwy Grist
| ← Cwymp Dyn | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Mawrhydi a darostyngiad Crist → |
IACHAWDWRIAETH TRWY GRIST.
Rho'wn hyder ein gobaith yn lanwaith i lawr,
Ar gariad y Drindod mewn undod yn awr;
Ni chollir un enaid o'i ddeiliaid, medd Ef,
Cânt orphwys mewn urddas yn ninas y nef.
Crist ydyw blaguryn a gwreiddyn pob gras,
Fe lwyddodd yn erbyn y gelyn a'i gas;
Un aberth anfeidrol, ddigonol a gaed,
I enaid gresynus, on'd gweddus yw'r gwaed?
Rhyfeddwn ei boenau, a'i loesau, hael Ior!
Creawdwr y dyfnder a meithder y môr;
Y ddaear a'r nefoedd, a'u lluoedd yn llon,
Ei ben a goronwyd pan friwiwyd ei fron.
Yr Iesu grasusol yn farwol a fu,
Fe dalodd yn ffyddlon ddyledion ei lu;
Fe ddyg ein camweddau a'n beiau drwy boen,
Fe gafwyd tangnefedd trwy rinwedd yr Oen.
Fe yfodd o'r afon, Oen tirion y Tad,
A'i ben a ddyrchafodd pan brofodd ein brad;
Fe ddygodd in' fywyd tra hyfryd trwy hedd,
Gorchfygodd nerth angau un boreu a'r bedd.
Y cadarn Gyfryngwr, eiriolwr hael yw,
Sy'n sefyll yn ffyddlon rhwng dynion a Duw,
Trwy rinwedd ei aberth, yn brydferth eu braint,
Daeth heddwch tragwyddol, cysurol i'r saint.
Trwy'i allu tragwyddol anfeidrol Efe,
Daw'r saint i gyrhaeddyd newyddfyd y ne';
O'r dyrys anialwch i heddwch cyn hir,
Fe ddwg yr Oen tirion ei weision yn wir.