Gardd Eifion/Marwnad Angau, neu Fuddugoliaeth Crist
| ← Gweddi Agur | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Yr Eglwys, mewn amseroedd terfysglyd → |
MARWNAD ANGAU,
NEU FUDDYGOLIAETH CRIST.
Yn adgyfodiad Iesu,
Eglurwyd dwyfol allu,
Malurio pyrth y bedd a wnaeth
A'r angau caeth yn trengu
Yr Hwn fu gynt yn gwaedu,
Dros byth sydd yn teyrnasu,
Ar holl alluoedd, nef a llawr,
A'r angau mawr yn trengu.
Er iddo gael ei gladdu,
A'r gwylwyr i'w amgylchu,
Yn rhydd y trydydd dydd y daeth,
A'r angau caeth yn trengu.
Boed ini orfoleddu,
Gan iddo ef orchfygu;
Mae'r fuddugoliaeth ini'n awr,
A'r angau mawr yn trengu.
Na fid i'r saint annghredu
Ei nerthol hollol allu;
Fe gwyd eu llwch i gyd o'r llawr;
A'r angau mawr yn trengu.
Gan iddo ef eu prynu,
Fe fyn eu gogoneddu;
Mae porth y bedd yn rhydd yn awr,
A'r angau mawr raid drengu.
Mae'r amser yn dynesu,
Daw'r saint o'r bedd i fyny,
Cânt orphwys gyda Crist eu pen,
Amen, Amen am hyny.