Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Mawrhydi a darostyngiad Crist

Oddi ar Wicidestun
← Iachawdwriaeth trwy Grist Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Crist yn Iachawdwr Cyflawn →

MAWRHYDI A DAROSTYNGIAD CRIST

Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw!
Ai 'r unig ddyrchafedig Dduw,
Gwir wrthrych mawl seraphiaid gwych,
A welaf draw yn waelaf drych?

Rhyfeddol iawn i'r nefol lu,
Oedd gweled eu Creawdwr cu,
Yn gwisgo natur wan ei rhyw,
Yn waelaf ddyn,-anwylaf Dduw.

Os rhyfedd gan angylion nef,
Oedd gwel'd ei bur ddynoldeb f;
Mae myrdd o ryfeddodau mwy,
Yn rhinwedd glân ei farwol glwy'!

Ni all angylion nefoedd lon,
Cerubiaid a seraphiaid hon,
Ac epil Adda oll yn un,
Fynegi doniau Mab y dyn.

Uwchlaw gofidiau byd o boen,
Fe ddwg y bendigedig Oen
Ei brynedigion oll ryw ddydd,
O bob rhyw loes i'r einioes rydd.

O, am y ddedwydd, ddedwydd awr,
Pan ddyddio tragwyddoldeb mawr,
Cawn wledda fyth ar rin ei glwy',
A ddechreu mawl heb ddiwedd mwy.


Nodiadau

[golygu]