Gardd Eifion/Myfyrdod ar ddydd Nadolig
Gwedd
| ← Swydd y Lefiaid | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Carol Plygain,—Mesur, "Eluseni Meistress" → |
MYFYRDOD AR DDYDD NADOLIG.
Gwelaf wr, ar Galfaria,—poenedig,
Penodwyd i'r lladdfa;
Ai rhyw Ior yw? rhy wir,—ah!
Duw Naf yw,—dyn o Efa!
Dan addewid, yn ddiwyl,—er Addaf,
Yr oeddym yn disgwyl,
Ymwared i'n,—mawr yw d'wyl;
Ceraist weiniaid, Crist anwyl.
Anelwig ddofn unoliaeth—y Duwdod,
Awdwr pob gwybodaeth,
Dan waelod briw dynoliaeth,
Yn wan ddyn, i'w eni ddaeth!
Ein Ior glân a ragluniodd,—niferi
Yn forau etholodd;
A diau Fab Duw, o'i fodd,
Oll ar bren, a'u llwyr brynodd.
Nid hoelion ddydd y talu—a'i daliodd,
Na dwylaw Rhufeinlu,
Ei dda fodd, nid Iuddew fu
Yn dwyn oes ein dyn Iesu.