Neidio i'r cynnwys

Gardd Eifion/Nefoedd ar y Ddaear

Oddi ar Wicidestun
Y Gogoniant Nefol Gardd Eifion

gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)


golygwyd gan William Williams (Caledfryn)
Cymdeithas gyda'r Tad

NEFOEDD AR Y DDAEAR.

Nef yw i'm henaid, yn mhob man,
Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan,
A'i weled ef â golwg ffydd,
Dry'r dywyll nos yn oleu ddydd.

Mwynhad o'i ras maddeuol, mawr,
Blaen-brawf o'r nef yw yma'n awr;
A darllen f' enw ar ei fron,
Sy nefoedd ar y ddaear hon.

Ac er na welaf ond o ran,
Ac nad yw profiad ffydd ond gwan;
Y defnyn bach yn fôr a fydd,
A'r wawr a ddaw yn berffaith ddydd.


Nodiadau

[golygu]