Gardd Eifion/Penillion i ofyn Siwmp
Gwedd
| ← Anerchiad y Dr E P Anwyl, Bryn Adda | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Am Jane Eliz Williams, unig ferch yr Awdwr → |
Y PENILLION ISOD
A wnaed a'r ddeisyfiad Owen, Llanddeiniolen, i ofyn Siwmp, (Coat,) gan Syr Edward Llwyd.
Syr Edward Llwyd ardderchog
Sydd gâr i'n marchog mwyn,
Hyd atoch chwi wr mwynaidd
Y dof a'm gwaeledd gwyn;
Chwychwi sy'n meddu digon,
A moddion fwy na mwy,
A minau'r gwan crwydredig,
Tylawd ac unig wy'.
Eich parch sydd yn gyhoeddol,
Ryglyddol drwy bob gwlad,
Am amlder rhwydd eich rhoddion
I weinion yn ddi wad.
A rowch chwin hygar Hugan,
I'r truar, oreu trefn,
Un fuddiol i'w lawn foddio
A dalo i guddio ei gefn?
Mae son am eich haeloni
Yn dwyn eich bri ger bron,
A'ch clod sydd yn gyhoeddol,
A siriol yr oes hon;
A hyn a fydd i'ch enw
Yn barch ac elw gwiw,
A phawb yn dweyd am danoch,
Poed hir y byddoch byw.