Gardd Eifion/Profiad dan wendid iechyd
Gwedd
| ← Ar ymadawiad Mr. J. M. Thomas o Nefyn | Gardd Eifion gan Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) golygwyd gan William Williams (Caledfryn) |
Y cadarn a symudir heb waith llaw → |
PROFIAD DAN WENDID IECHYD.
Iechyd o'i rym yn och a droes;—hynod,
Ddihoeni mae'r feroes;
Poeni'r wyf min pen awr oes;
Blino ar helbul einioes:
Mal blodeuyn gwyn teg wawr, yn gwywo,
Dan y gawod bwysfawr;
Nid yw einioes ond unawr,
Na dyn i barhau ond awr.
Gwyfyn i'w ebargofi, ydyw dyn,
Hyd ei daith ond gwegi:
Nid oes braidd einioes ini,
Awr yw ein hoes—na wariwn hi!